- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) (Diwygio) 2006.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 23 Mehefin 2006 ond—
(a)yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae'r diwygiadau a nodir yn Atodlen 1 yn effeithiol ers 11 Tachwedd 2004; a
(b)mae'r diwygiadau a nodir yn Atodlen 2 yn effeithiol ers 5 Rhagfyr 2005.
(3) Mae'r diwygiadau canlynol a nodir yn Atodlen 1 yn effeithiol fel a ganlyn—
(a)mae'r diwygiadau canlynol yn effeithiol o 23 Mehefin 2006 ymlaen—
(i)y diwygiadau a wneir gan baragraff 9, i'r graddau y mae'n ymwneud â rheol A13 (sy'n ymwnud ag oedran pensiwn arferol); a chan baragraff 15(a)(iii), (b)(ii), (c) ac (ch) (sy'n ymwneud â phensiynau gohiriedig); a
(ii)y diwygiadau a wneir gan baragraff 7(a) a (b)(i), paragraff 75(ch), i'r graddau y mae'n ymwneud â mewnosod paragraffau (5) a (6) rheol L1, a pharagraffau 78, 79 ac 82(b) (sy'n ymwneud ag atal dyblygu dyfarniadau penodol);
(b)mae'r diwygiadau canlynol yn effeithiol ers 13 Medi 2004—
(i)y diwygiad a wneir gan baragraff 81(b) (sy'n ymwneud â'r diffiniad o “independent qualified medical practitioner”); a
(ii)y diwygiad a wneir gan baragraff 86(b)(ii)(aa) (sy'n ymwneud â'r gwasanaeth sy'n gyfrifadwy pan dderbynnir gwerth trosglwyddo); ac
(c)mae'r diwygiadau a wneir gan baragraffau 24 (sy'n ymwneud â chyfyngu ar ddyfarniadau i weddwon) a 25 (sy'n ymwneud â budd-dal angenrheidiol a phensiwn dros dro gweddwon) yn effeithiol ers 1 Mawrth 1992.
2.—(1) Mae Cynllun Pensiwn y Dynion Tân sydd wedi'i nodi yn Atodlen 2 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992(1)(a ailenwyd mewn perthynas â Chymru yn Gynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru))(2) yn parhau mewn grym fel y'i diwygiwyd yn unol â'r Atodlenni i'r Gorchymyn hwn.
2.—(2) At ddibenion y Cynllun a gedwir gan baragraff (1), mae darpariaethau adran 26, is-adrannau (1) i (5) o Ddeddf y Gwasanaethau Ta 246 n 1947 yn effeithiol fel pe rhoddid cyfeiriad at Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn lle cyfeiriad at yr Ysgrifennydd Gwladol.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
21 Mehefin 2006
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys