- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
GWASANAETHAU TâN AC ACHUB, CYMRU
PENSIYNAU, CYMRU
Wedi'i wneud
21 Mehefin 2006
Yn dod i rym
23 Mehefin 2006
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a gynhwysir yn adran 26 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân 1947(1), adran 12 o Ddeddf Blwydd-dal 1972(2) fel y mae wedi'i chymhwyso gan adran 16(3) o'r Ddeddf honno (3), adrannau 36, 53, 60 a 62 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (4), ac adran 259(1), (2)(c) a (4)(b) o Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004(5):
1947 p.41, a ddiddymwyd gan adran 52 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p.21) ac Atodlen 2 iddi. Parhawyd i gadw isadrannau (1) i (5) o adran 26 mewn grym, at ddibenion y cynllun a sefydlwyd o dan yr adran honno fel Cynllun Pensiwn y Dynion Tân ac a nodwyd yng Ngorchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992 (O.S. 1992/129), gan Orchymyn Deddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (Cynllun Pensiwn y Dynion Tân) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/2918 (Cy.257)). Newidiwyd enw'r cynllun i Gynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) gan erthygl 4(1) o'r Gorchymyn hwnnw. Diwygiwyd adran 26 o Ddeddf 1947 gan adran 1 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân 1951 (p.27), adran 42 o Ddeddf y Lluoedd Wrth Gefn a'r Lluoedd Cynorthwyol (Amddiffyn Buddiannau Sifil) 1951 (p.65), adran 33 o Ddeddf Lladrata 1968 (p.60) ac Atodlen 3 iddi, adrannau 16 a 29 o Ddeddf Blwydd-dal 1972 (p.11) ac Atodlen 8 iddi, adran 100 o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1973 (p.38) ac Atodlen 27 iddi, adran 1 o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol (Darpariaethau Canlyniadol) 1975 (p.18) ac Atodlen 1 iddi, adran 32 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (p.43), adran 1 o Ddeddf Pensiynau'r Heddlu a'r Dynion Tân 1997 (p.52) ac erthygl 2 i Orchymyn Nawdd Cymdeithasol (Diwygio Deddf y Gwasanaethau Tân 1947) 1976 (O.S. 1976/551).
1972 p.11; diwygiwyd adran 12 gan Ddeddf Pensiynau (Darpariaethau Amrywiol) 1990 (p.7).
Parhawyd i gadw adran 16 mewn grym, at ddibenion Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (a ailenwyd yn Gynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru)) gan Orchymyn Deddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (Cynllun Pensiwn y Dynion Tân) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/2918 (Cy.257)).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys