Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Byrddau Lleol ar gyfer Diogelu Plant (Cymru) 2006

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2006 Rhif 1705 (Cy.167)

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Rheoliadau Byrddau Lleol ar gyfer Diogelu Plant (Cymru) 2006

Wedi'u gwneud

27 Mehefin 2006

Yn dod i rym

1 Hydref 2006

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 31(2), (4) a (5), 32(2) a (3), 34(1) a 66(1) o Ddeddf Plant 2004(1), a chyda chydsyniad yr Ysgrifennydd Gwladol o ran rheoliad 5(2)(a) i (c), (dd) ac (e)(2), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Byrddau Lleol ar gyfer Diogelu Plant (Cymru) 2006.

(2Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Hydref 2006.

(3Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

mae i “aelod” (“member”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 6(1);

mae i “adolygiad achos difrifol” (“serious case review”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 4;

mae i “adroddiad trosolwg” (“overview report”) yr ystyr a roddir iddo gan reoliad 4(4)(b);

ystyr “ardal” (“area”) yw'r ardal y sefydlwyd Bwrdd ar ei chyfer;

ystyr “awdurdod gwasanaethau plant” (“children’s services authority”), o ran Bwrdd, yw'r awdurdod neu'r awdurdodau a sefydlodd y Bwrdd;

ystyr “Bwrdd” (“Board”) yw naill ai Bwrdd Lleol ar gyfer Diogelu Plant a sefydlwyd ar gyfer ardal awdurdod gwasanaethau plant yng Nghymru neu Fwrdd Lleol ar gyfer Diogelu Plant a sefydlwyd ar gyfer ardaloedd dau neu fwy o awdurdodau gwasanaethau plant yng Nghymru(3)

ystyr “Cadeirydd” (“Chair”), o ran Bwrdd, yw person sy'n dal swydd gyfredol i weithredu felly o dan reoliad 6;

ystyr “corff cynrychioliadol” (“representative body”) yw corff sydd wedi penodi person i weithredu fel ei gynrychiolydd ar y Bwrdd;

mae i “cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol” yr ystyr a roddir i “director of social services” yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970(4);

ystyr “Deddf 2004” (“2004 Act”) yw Deddf Plant 2004;

mae i “niwed” yr ystyr a roddir i “harm” yn adran 31(9) o Ddeddf Plant 1989(5);

ystyr “nyrs gofrestredig” (“registered nurse”) yw nyrs neu fydwraig sydd wedi'i chofrestru gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth;

ystyr “prif swyddfa” (“principal office”), o ran Bwrdd, yw mangre a ddynodir felly gan y Bwrdd;

ystyr “prif swyddog addysg” (“chief education officer”) yw swyddog a benodir o dan adran 532 o Ddeddf Addysg 1996(6);

(2Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad—

(a)at reoliad â Rhif yn gyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn;

(b)mewn rheoliad at baragraff â Rhif yn gyfeiriad at y paragraff yn y rheoliad hwnnw sy'n dwyn y Rhif hwnnw;

(c)mewn paragraff at is-baragraff â Rhif yn gyfeiriad at yr is-baragraff sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y paragraff hwnnw.

Swyddogaethau Bwrdd o ran ei amcan

3.—(1Mae Bwrdd i gael y swyddogaethau canlynol o ran ei amcan o dan adran 32 o Ddeddf 2004(7)

(a)cymryd camau sydd â'r nod o feithrin perthynas o ymddiriedaeth a dealltwriaeth gilyddol ymhlith y personau neu'r cyrff a gynrychiolir ar y Bwrdd o ran diogelu a hybu lles plant o fewn ardal y Bwrdd;

(b)cymryd camau sydd â'r nod o godi ymwybyddiaeth ledled ardal y Bwrdd o'r angen i ddiogelu a hybu lles plant a darparu gwybodaeth am y modd y gellir cyflawni hyn;

(c)datblygu polisïau a gweithdrefnau sydd â'r diben o gydlynu yr hyn a wneir gan bob corff cynrychioliadol at ddibenion diogelu a hybu lles plant o fewn ardal y Bwrdd, gan gynnwys polisïau a gweithdrefnau o ran—

(i)rhannu gwybodaeth;

(ii)camau i'w cymryd pan fo pryderon am ddiogelwch neu les plentyn, gan gynnwys nodi terfynau i ymyriad;

(iii)recriwtio a goruchwylio personau sy'n gweithio gyda phlant neu sy'n cael ymwneud â phlant yn rheolaidd;

(iv)diogelwch a lles plant a faethir yn breifat.

(ch)adolygu effeithiolrwydd y mesurau a gymerwyd gan bob person neu gorff a gynrychiolir ar y Bwrdd i gydlynu yr hyn a wnânt at ddibenion diogelu a hybu lles plant o fewn ardal y Bwrdd a gwneud pa argymhellion bynnag y gwêl yn dda ar gyfer y personau neu'r cyrff hynny yng ngoleuni'r cyfryw adolygiad;

(d)gwneud “adolygiadau achos difrifol” yn unol â rheoliad 4;

(dd)monitro i ba raddau y mae unrhyw argymhellion a wnaed mewn adolygiad o dan baragraff (ch) neu mewn adolygiad achos difrifol yn cael eu bodloni neu wedi cael eu bodloni;

(e)datblygu meini prawf ar gyfer mesur perfformiad awdurdod gwasanaethau plant yn erbyn y cynllun a luniwyd o dan adran 26 o Ddeddf 2004 (cynlluniau plant a phobl ifanc)(8), i'r graddau y mae'r cynllun yn ymwneud â diogelu a hybu lles plant yn ardal un o'r awdurdodau;

(f)lledaenu gwybodaeth am yr arferion gorau wrth ddiogelu a hybu lles plant ymhlith y cyrff cynrychioliadol a'r personau eraill hynny y mae'r Bwrdd yn barnu eu bod yn briodol;

(ff)gwneud ymchwil i ddiogelu a hybu lles plant;

(g)adolygu anghenion hyfforddi'r sawl sy'n gweithio yn ardal y Bwrdd gyda'r bwriad o ganfod gweithgareddau hyfforddi a chynorthwyo i ddiogelu a hybu lles plant yn ardal y Bwrdd;

(ng)darparu hyfforddiant er mwyn cynorthwyo i ddiogelu a hybu lles plant yn ardal y Bwrdd;

(h)cydweithredu â Byrddau eraill (p'un ai yng Nghymru neu yn Lloegr) ac unrhyw gyrff tebyg o'r fath yn yr Alban a Gogledd Iwerddon os bydd y Bwrdd yn ystyried y byddai hynny o fudd cilyddol; ac

(i)ceisio cyngor neu wybodaeth os yw'r Bwrdd o'r farn bod hynny'n ddymunol at ddibenion unrhyw un o'r swyddogaethau uchod.

Adolygiadau achos difrifol

4.—(1Rhaid i Fwrdd gynnal adolygiad (“adolygiad achos difrifol”) yn unol â'r rheoliad hwn yn unrhyw un o'r achosion canlynol os bydd yn wybyddus bod plentyn, o fewn ardal y Bwrdd, yn cael ei gam-drin neu ei esgeuluso, neu os amheuir hynny, ac—

(a)bod plentyn wedi marw, neu

(b)bod plentyn wedi dioddef anaf a allai roi ei fywyd mewn perygl, neu

(c)bod plentyn wedi dioddef nam difrifol a pharhaol i'w iechyd neu i'w ddatblygiad.

(2Caiff Bwrdd gynnal adolygiad achos difrifol yn unol â'r rheoliad hwn os bydd plentyn o fewn ardal y Bwrdd yn dioddef niwed nad yw'n dod o fewn paragraffau 1(a)(b) neu (c).

(3Diben adolygiad achos difrifol yw canfod camau y gellir eu cymryd i rwystro marwolaeth neu niwed o'r tebyg rhag digwydd.

(4Wrth gynnal adolygiad achos difrifol, rhaid i Fwrdd—

(a)gofyn i bob corff cynrychioliadol roi i'r Bwrdd adroddiad ysgrifenedig o'i ymwneud â'r plentyn sy'n destun yr adolygiad, onid yw'r Bwrdd o'r farn bod adroddiad o'r fath yn ddiangen yn yr amgylchiadau;

(b)ar ôl cael yr adroddiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (a), llunio adroddiad ysgrifenedig (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “adroddiad trosolwg”)—

(i)sy'n canfod y camau sydd i'w cymryd i leihau'r risg o farwolaeth debyg neu niwed tebyg rhag digwydd; a

(ii)sy'n argymell erbyn pryd y dylid cyflawni'r camau hynny, ac yn enwi'r personau a ddylai eu cyflawni;

(c)llunio crynodeb heb gynnwys enw neb o bob adroddiad trosolwg a sicrhau ei fod ar gael i'w archwilio ym mhrif swyddfa'r Bwrdd.

(5Rhaid i'r Bwrdd roi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru—

(a)copi o bob adroddiad a ddarperir gan gorff cynrychioladol yn unol â pharagraff (4)(a) uchod;

(b)copi o bob crynodeb heb gynnwys enw neb; ac

(c)copi o bob adroddiad trosolwg.

(6Rhaid i'r Bwrdd roi i bob cynrychiolydd—

(a)copi o bob crynodeb heb gynnwys enw neb; a

(b)oni bai bod y Bwrdd yn ei hystyried yn amhriodol, pob adroddiad trosolwg.

Cynrychiolwyr

5.—(1Rhaid i Fwrdd gynnwys y canlynol yn gynrychiolwyr awdurdod gwasanaethau plant—

(a)cyfarwyddwr arweiniol yr awdurdod dros wasanaethau plant a phobl ifanc neu ryw swyddog arall sy'n uniongyrchol atebol i'r cyfarwyddwr ac sydd ar lefel ddigonol o gyfrifoldeb i gynrychioli'r awdurdod yn lle'r cyfarwyddwr;

(b)onid—

(i)cyfarwyddwr y gwasanaethau cymdeithasol, cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod neu ryw swyddog arall sy'n uniongyrchol atebol i'r cyfarwyddwr hwnnw ac sydd ar lefel ddigonol o gyfrifoldeb i gynrychioli'r awdurdod yn lle'r cyfarwyddwr hwnnw;

(ii)y prif swyddog addysg, prif swyddog addysg yr awdurdod neu ryw swyddog arall sy'n uniongyrchol atebol i'r prif swyddog addysg ac sydd ar lefel ddigonol o gyfrifoldeb i gynrychioli'r awdurdod yn lle'r prif gyfarwyddwr addysg;

(iii)y swyddog a benodwyd gan yr awdurdod yn swyddog â chyfrifoldeb dros gyflawni swyddogaethau'r awdurdod o dan Ran VI neu VII o Ddeddf Tai 1996(9) neu ryw swyddog arall sy'n uniongyrchol atebol i'r person hwnnw ac sydd ar lefel ddigonol o gyfrifoldeb i gynrychioli'r awdurdod yn ei le;

yw cyfarwyddwr arweiniol yr awdurdod dros wasanaethau plant a phobl ifanc.

(2Rhaid i Fwrdd gynnwys y canlynol fel cynrychiolwyr Partneriaid Bwrdd yr awdurdod gwasanaethau plant—

(a)o ran prif swyddog yr heddlu ar gyfer unrhyw ardal heddlu y mae unrhyw ran ohoni yn dod o fewn ardal y Bwrdd, swyddog—

(i)sydd o leiaf ar radd Arolygydd; a

(ii)y mae'r prif swyddog wedi gosod arno gyfrifoldeb dros ddiogelu a hybu lles plant;

(b)o ran bwrdd prawf lleol ar gyfer unrhyw ardal y mae unrhyw ran ohoni yn dod o fewn ardal y Bwrdd, y Prif Swyddog neu ryw swyddog arall sy'n uniongyrchol atebol i'r Prif Swyddog ac sydd ar lefel ddigonol o gyfrifoldeb i gynrychioli'r bwrdd prawf yn lle'r Prif Swyddog;

(c)o ran tîm troseddwyr ifanc ar gyfer ardal y mae unrhyw ran ohoni yn dod o fewn ardal y Bwrdd, rheolwr y tîm neu'r dirprwy reolwr;

(ch)o ran Bwrdd Iechyd Lleol (“BILl”) ar gyfer ardal y mae unrhyw rhan ohoni yn dod o fewn ardal y Bwrdd—

(i)swyddog arweiniol y BILl dros wasanaethau plant a phobl ifanc neu ryw swyddog arall sy'n uniongyrchol atebol i'r swyddog arweiniol ac sydd ar lefel ddigonol o gyfrifoldeb i gynrychioli'r BILl yn lle'r swyddog arweiniol;

(ii)ymarferydd meddygol cofrestredig y gosodwyd arno gyfrifoldebau penodedig o ran amddiffyn plant o fewn ardal y BILl; a

(iii)nyrs gofrestredig y gosodwyd arni gyfrifoldebau penodedig o ran amddiffyn plant o fewn ardal y BILl;

(d)o ran Ymddiriedolaeth GIG sy'n darparu gwasanaethau meddygol yn ardal yr awdurdod, heblaw Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, cyfarwyddwr gweithredol arweiniol yr Ymddiriedolaeth dros wasanaethau plant a phobl ifanc neu ryw swyddog arall sy'n uniongyrchol atebol iddo ac sydd ar lefel ddigonol o gyfrifoldeb i weithredu fel cynrychiolydd yr Ymddiriedolaeth yn lle'r cyfarwyddwr gweithredol arweiniol;

(dd)o ran llywodraethwr unrhyw ganolfan hyfforddi ddiogel o fewn ardal y Bwrdd (neu, yn achos canolfan hyfforddi ddiogel a gontractiwyd allan, ei chyfarwyddwr), dirprwy'r llywodraethwr (neu'r cyfarwyddwr) neu unigolyn o radd uwch; ac

(e)o ran llywodraethwr unrhyw garchar yn ardal y Bwrdd sydd fel arfer yn cadw plant yn gaeth (neu, yn achos carchar a gontractiwyd allan, ei gyfarwyddwr), dirprwy'r llywodraethwr (neu'r cyfarwyddwr) neu unigolyn o radd uwch.

(3Drwy hyn rhagnodir y cynrychiolwyr ym mharagraff (2) at ddibenion adran 31(2) o Ddeddf 2004.

Gweithdrefn etc. Bwrdd

6.—(1Rhaid i Fwrdd gynnal rhestr o'r personau hynny sy'n dal swydd gyfredol i gynrychioli person neu gorff ar y Bwrdd (y cyfeirir atynt yn y Rheoliadau hyn fel “aelodau'r” Bwrdd ).

(2Mae Bwrdd i wneud penderfyniadau drwy bleidlais mwyafrif ei aelodau onid yw'r penderfyniad yn un sydd i'w gymryd mewn cysylltiad â swyddogaeth y mae paragraff (4) yn gymwys iddi. Mae gan y Cadeirydd bleidlais fwrw.

(3Caiff Bwrdd benderfynu y gellir cyflawni swyddogaeth benodol i unrhyw raddau penodedig (gan gynnwys y swyddogaeth yn ei chyfanrwydd), ac yn ddarostyngedig i unrhyw amodau penodedig, ar ei ran gan unrhyw un neu fwy o'i aelodau, onid yw'r swyddogaeth yn un y mae paragraff (4) yn gymwys iddi.

(4Mae'r paragraff hwn yn gymwys i swyddogaethau'r Bwrdd o ran datblygu gweithdrefnau i gydlynu gweithgareddau cyrff cynrychioliadol o dan reoliad 3(1)(c).

(5Os bydd paragraff (4) yn gymwys, dim ond gyda phleidlais unfrydol yr aelodau y caniateir cymryd penderfyniad mewn cysylltiad â'r swyddogaeth.

(6Rhaid i Fwrdd drwy benderfyniad mwyafrif benodi un o'i aelodau yn Gadeirydd iddo. Wrth wneud y penderfyniad hwnnw rhaid i'r aelodau roi sylw i'r angen i benodi Cadeirydd sydd ag arbenigedd a safle digonol i hawlio parch y cyrff cynrychioliadol.

(7Daw penodiad y Cadeirydd i ben—

(a)os penodwyd ef am gyfnod penodol a bod y cyfnod yn dod i ben;

(b)os yw'n ymddiswyddo;

(c)os nad yw bellach yn aelod o'r Bwrdd;

(ch)os yw'r aelodau drwy benderfyniad y mwyafrif yn penderfynu hynny.

(8Yn ddarostyngedig i'r darpariaethau uchod, mae Bwrdd i benderfynu ei weithdrefnau ei hun.

Swyddogaethau Awdurdodau Gwasanaethau Plant o ran eu Bwrdd etc.

7.—(1Rhaid i awdurdod gwasanaethau plant ddarparu aelod o'i staff i ddarparu gwasanaethau gweinyddol i'r Bwrdd.

(2Mae cofnodion Bwrdd (ar ba ffurf bynnag y maent) i'w trin fel pe baent yn gofnodion yr awdurdod gwasanaethau plant.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(10)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

27 Mehefin 2006

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer swyddogaethau Byrddau Lleol Cymru ar gyfer Diogelu Plant o ran yr amcan a osodwyd ar eu cyfer gan adran 32 o Ddeddf Plant 2004, aelodaeth y Byrddau a'u gweithdrefnau.

Mae rheoliadau 3 a 4 yn ymdrin â swyddogaethau Byrddau. Mae rheoliad 3 yn rhagnodi swyddogaethau Bwrdd mewn cysylltiad â'i amcan. Mae rheoliad 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch cynnal adolygiadau achos difrifol.

Mae rheoliad 5 yn rhagnodi aelodaeth Bwrdd. Mae rheoliad 6 yn ymdrin â gweithdrefnau Bwrdd ac mae rheoliad 7 yn rhoi swyddogaethau i awdurdodau gwasanaethau plant mewn cysylltiad â'u Bwrdd.

Mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 1 Hydref 2006.

(2)

Gweler adran 31(4) o Ddeddf 2004 am y gofyniad i gael cydsyniad yr Ysgrifennydd Gwladol.

(3)

Mae adran 31(1) o Ddeddf 2004 yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod gwasanaethau plant yng Nghymru sefydlu Bwrdd Lleol ar gyfer Diogelu Plant ar gyfer eu hardal. Mae adran 31(9) yn caniatáu i ddau awdurdod neu fwy gyflawni eu dyletswyddau yn eu trefn o dan adran 31(1) drwy sefydlu Bwrdd ar gyfer eu hardal gyfun.

(7)

O dan adran 32(1) o Ddeddf 2004, amcan y Bwrdd yw (a) cydlynu yr hyn a wneir gan bob person neu gorff a gynrychiolir ar y Bwrdd at ddibenion diogelu a hybu lles plant yn ardal yr awdurdod a'i sefydlodd; a (b) sicrhau effeithiolrwydd yr hyn a wneir gan bob un o'r personau neu'r cyrff hynny at y dibenion hynny.

(8)

Bydd Rheoliadau a wneir o dan adran 26(2) o Ddeddf 2004 yn gwneud darpariaeth benodol o ran cynlluniau plant a phobl ifanc.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill