Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Trwyddedu a Rheoli Tai Amlfeddiannaeth a Thai Eraill (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2006

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaethau parthed nifer o faterion amrywiol sy'n ymwneud â darpariaethau'r Ddeddf Tai (“y Ddeddf”) sef: Rhan 2 (trwyddedu HMOs), Rhan 3 (trwyddedu dethol), Penodau 1 a 2 o Ran 4 (gorchmynion rheoli) ac adran 254 (ystyr HMO) o'r Ddeddf. Maent yn—

  • pennu'r amgylchiadau pan fo personau i gael eu hystyried yn ffurfio aelwyd unigol at ddibenion penderfynu a yw adeilad yn HMO o fewn unrhyw un o'r disgrifiadau yn adran 254 o'r Ddeddf (rheoliadau 3 a 4);

  • darparu bod gweithwyr mudol, gweithwyr tymhorol a cheiswyr lloches i gael eu trin fel petaent yn meddiannu mangre benodol fel eu hunig breswylfa neu eu prif breswylfa (rheoliad 5);

  • pennu disgrifiad o adeiladau nad ydynt yn HMOs at ddibenion y Ddeddf (ac eithrio Rhan 1) (rheoliad 6 ac Atodlen 1);

  • gwneud darpariaeth ynglŷn â cheisiadau am drwyddedau o dan Ran 2 neu 3 o'r Ddeddf, gan gynnwys yr wybodaeth y mae'n rhaid ei rhoi gyda chais (rheoliad 7 ac Atodlen 2);

  • pennu'r safonau sydd i'w cymhwyso wrth benderfynu ar addasrwydd tŷ ar gyfer amlfeddiannaeth i'w drwyddedu o dan Ran 2 o'r Ddeddf (rheoliad 8 ac Atodlen 3);

  • pennu'r dull y mae'n rhaid i ddynodiadau o ardaloedd o dan Ran 2 neu 3 o'r Ddeddf, a dirymiadau o ddynodiadau o'r fath, gael eu cyhoeddi (rheoliadau 9 a 10); ac yn

  • pennu'r wybodaeth y mae'n rhaid ei chynnwys yn y cofrestrau sy'n cael eu dal gan awdurdodau tai lleol o drwyddedau a roddir o dan Adran 2 neu 3, ac o hysbysiadau eithrio dros dro sy'n eithrio tŷ rhag drwyddedaeth, ac o orchmynion rheolaeth (rheoliadau 11, 12 a 13).

Mae arfarniad rheoliadol o'r effeithiau y bydd y Rheoliadau hyn yn eu cael ar gael oddi wrth Yr Uned Sector Preifat, Yr Adran Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ (ffôn: 02920825111; e-bost HousingIntranet@wales.gsi.gov.uk).

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill