Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Trwyddedu a Rheoli Tai Amlfeddiannaeth a Thai Eraill (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2006

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Rheoliad 6(1)

ATODLEN 1ADEILADAU NAD YDYNT YN HMOS AT UNRHYW DDIBEN YN Y DDEDDF (AC EITHRIO RHAN 1)

Y deddfiadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 6(1) yw—

(a)adrannau 87, 87A, 87B, 87C ac 87D o Ddeddf Plant 1989(1);

(b)adran 43(4) o Ddeddf Carcharau 1952(2);

(c)Adran 34 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002(3);

(ch)Rheolau Canolfannau Hyfforddi Diogel 1998(4);

(d)Rheolau Carcharau 1999(5);

(dd)Rheolau Sefydliad Troseddwyr Ifanc 2000(6);

(e)Rheolau Canolfan Gadw 2001(7);

(f)Rheoliadau Deddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llys (Mangreoedd a Gymeradwyir) 2001 (8);

(ff)Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002(9);

(g)Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002(10)); ac

(ng)Rheoliadau Canolfannau Preswyl i Deuluoedd (Cymru) 2003(11)).

Rheoliad 7(1), (2) a (3)

ATODLEN 2CYNNWYS CEISIADAU O DAN ADRANNAU 63 AC 87 O'R DDEDDF

1.  Ffurf y datganiad a grybwyllir yn rheoliad 7(1) yw:

  • Rhaid i chi roi gwybod yn ysgrifenedig i bersonau penodol eich bod wedi gwneud y cais hwn neu roi copi ohono iddynt. Y personau y mae'n angenrheidiol iddynt wybod amdano yw—

    • Unrhyw forgeisai ar yr eiddo sydd i'w drwyddedu

    • Unrhyw berchennog ar y tir y mae'r cais yn ymwneud ag ef (os nad chi yw hwnnw) h.y. y rhydd-ddeiliad ac unrhyw brif brydleswyr y gwyddoch amdanynt

    • Unrhyw berson arall sy'n denant neu'n ddeiliad prydles hir ar yr eiddo neu ar unrhyw ran ohono (gan gynnwys unrhyw fflat) y gwyddoch amdano ag eithrio tenant statudol neu denant arall sydd â'i brydles neu ei denantiaeth am lai na thair blynedd (gan gynnwys tenantiaeth cyfnod)

    • Deiliad arfaethedig y drwydded (os nad chi yw hwnnw)

    • Yr asiant rheoli arfaethedig (os oes un) (os nad chi yw hwnnw)

    • Unrhyw berson sydd wedi cytuno i ymrwymo i unrhyw amodau mewn trwydded os rhoddir un.

  • Rhaid i chi ddweud wrth bob un o'r personau hyn—

    • Eich enw, eich cyfeiriad, eich Rhif ffôn a'ch cyfeiriad e-bost neu'ch Rhif ffacs (os oes gennych un)

    • Enw, cyfeiriad, Rhif ffôn a chyfeiriad e-bost neu rif ffacs (os oes un) deiliad arfaethedig y drwydded (os nad chi fydd hwnnw)

    • P'un ai cais am drwydded HMO o dan Ran 2 yntau cais am drwydded tŷ o dan Ran 3 o Ddeddf Tai 2004 yw hwn

    • Cyfeiriad yr eiddo y mae'r cais yn ymwneud ag ef

    • Enw a chyfeiriad yr awdurdod tai lleol y bydd y cais yn cael ei wneud iddo

    • Y dyddiad y cyflwynir y cais arno..

2.—(1Yr wybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 7(2)(a) yw—

(a)enw, cyfeiriad, Rhif ffôn a chyfeiriad e-bost—

(i)y ceisydd;

(ii)deiliad arfaethedig y drwydded;

(iii)y person sy'n rheoli'r HMO neu'r tŷ;

(iv)y person sydd â rheolaeth o'r HMO neu'r tŷ; a

(v)unrhyw berson sydd wedi cytuno i ymrwymo i amod a geir yn y drwydded;

(b)cyfeiriad yr HMO neu'r tŷ y gwneir y cais amdano;

(c)brasamcan o gyfnod gwreiddiol adeiladu'r HMO neu'r tŷ (gan ddefnyddio'r categorïau cyn 1919, 1919-45, 1945-64, 1965-80 ac ar ôl 1980);

(ch)math yr HMO neu'r tŷ y gwneir y cais amdano, gan gyfeirio at un o'r categorïau a ganlyn—

(i)tŷ mewn meddiannaeth unigol;

(ii)tŷ mewn amlfeddiannaeth;

(iii)fflat mewn meddiannaeth unigol;

(iv)fflat mewn amlfeddiannaeth;

(v)tŷ a droswyd yn fflatiau hunangynhaliol ac nad yw'n cynnwys dim ond fflatiau o'r fath;

(vi)bloc o fflatiau a adeiladwyd yn bwrpasol; neu

(vii)arall;

(d)manylion HMOs eraill neu dai eraill sydd wedi eu trwyddedu o dan Ran 2 neu 3 o'r Ddeddf y mae deiliad arfaethedig y drwydded yn dal trwydded iddynt p'un ai a ydynt yn ardal yr awdurdod tai lleol y gwneir y cais iddo neu yn ardal unrhyw awdurdod tai lleol arall;

(dd)yr wybodaeth a ganlyn ynglŷn â'r HMO neu'r tŷ y gwneir y cais amdano—

(i)nifer y lloriau sy'n ffurfio'r HMO neu'r tŷ ac ar ba lefelau y mae'r lloriau hynny;

(ii)nifer yr unedau gosod ar wahân;

(iii)nifer yr ystafelloedd preswyliadwy (ac eithrio ceginau);

(iv)nifer yr ystafelloedd ymolchi a'r ystafelloedd cawod;

(v)nifer y toiledau a'r basynau ymolchi;

(vi)nifer y ceginau;

(vii)nifer y sinciau;

(viii)nifer yr aelwydydd sy'n meddiannu'r HMO neu'r tŷ;

(ix)nifer y bobl sy'n meddiannu'r HMO neu'r tŷ;

(x)manylion ynglŷn â'r offer diogelu rhag tân, gan gynnwys nifer a lleoliadau larymau tân;

(xi)manylion ynglŷn â llwybrau dianc rhag tân a hyfforddiant arall diogelu rhag tân a roddir i feddiannwyr;

(xii)datganiad bod y dodrefn a ddarperir o dan delerau unrhyw denantiaeth neu drwydded yn yr HMO neu'r tŷ yn cydymffurfio ag unrhyw ofynion diogelwch a geir mewn unrhyw ddeddfiad; ac

(xiii)datganiad bod unrhyw offer nwy yn yr HMO neu'r tŷ yn cydymffurfio ag unrhyw ofynion diogelwch a geir mewn unrhyw ddeddfiad.

3.—(1Yr wybodaeth a grybwyllir yn rheoliad 7(2)(b) yw—

(a)manylion o unrhyw droseddau heb eu disbyddu a all fod yn berthnasol i ffitrwydd deiliad arfaethedig y drwydded i ddal trwydded, neu i ffitrwydd y rheolwr arfaethedig i reoli'r HMO neu'r tŷ, ac, yn benodol, unrhyw gollfarn o'r fath am unrhyw drosedd yn ymwneud â thwyll neu anonestrwydd o fath arall neu drais neu gyffuriau neu unrhyw drosedd a restrir yn Atodlen 3 i Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003(12);

(b)manylion o unrhyw ddyfarniad gan lys neu dribiwnlys o gamwahaniaethu anghyfreithlon gan ddeiliad arfaethedig y drwydded neu gan y rheolwr arfaethedig ar sail rhyw, lliw, hil, tras ethnig neu genedligol neu anabledd wrth redeg unrhyw fusnes neu mewn cysylltiad ag ef;

(c)manylion o unrhyw doriad gan ddeiliad arfaethedig y drwydded neu'r rheolwr arfaethedig o unrhyw ddarpariaeth mewn unrhyw ddeddfiad sy'n ymwneud â thai, iechyd y cyhoedd, iechyd yr amgylchedd neu gyfraith landlord a thenant sydd wedi arwain at achos sifil neu achos troseddol sydd wedi arwain at wneud dyfarniad yn erbyn deiliad arfaethedig y drwydded neu'r rheolwr arfaethedig;

(ch)gwybodaeth am unrhyw HMO neu dŷ y mae deiliad arfaethedig y drwydded neu'r rheolwr arfaethedig yn berchen arno neu wedi bod yn berchen arno neu'n ei reoli neu wedi bod yn ei reoli ac sydd wedi bod yn ddarostyngedig i—

(i)gorchymyn rheolaeth dan adran 379 o Ddeddf Tai 1985(13) yn y pum mlynedd yn union cyn dyddiad y cais; neu

(ii)unrhyw weithredu gorfodaeth priodol a ddisgrifir yn adran 5(2) o'r Ddeddf;

(d)gwybodaeth am unrhyw HMO neu dŷ y mae deiliad arfaethedig y drwydded neu'r rheolwr arfaethedig yn berchen arno neu wedi bod yn berchen arno neu'n ei reoli neu wedi bod yn ei reoli y gwrthododd awdurdod tai lleol roi trwydded iddo o dan adran 2 neu 3 o'r Ddeddf, neu y dirymodd awdurdod tai lleol drwydded arno o ganlyniad i dorri amodau'r drwydded gan ddeiliad y drwydded; ac

(dd)gwybodaeth am unrhyw HMO neu dŷ y mae deiliad arfaethedig y drwydded neu'r rheolwr arfaethedig yn berchen arno neu wedi bod yn berchen arno neu'n ei reoli neu wedi bod yn ei reoli a fu'n ddarostyngedig i orchymyn rheoli interim neu derfynol o dan y Ddeddf.

4.  Ffurf y datganiad a grybwyllir yn rheoliad 7(3)(a) yw—

  • Yr wyf/yr ydym yn datgan bod yr wybodaeth a gynhwysir yn y cais hwn yn gywir hyd eithaf fy ngwybodaeth/ein gwybodaeth. Yr wyf/yr ydym yn deall fy mod/ein bod yn cyflawni trosedd os rhoddaf/os rhoddwn unrhyw wybodaeth i awdurdod tai lleol mewn cysylltiad ag unrhyw un o'i swyddogaethau o dan unrhyw un o Rannau 1 i 4 o Ddeddf Tai 2004 sydd yn anwir neu'n gamarweiniol ac y gwn/y gwyddom ei fod yn anwir neu'n gamarweiniol neu fy mod/ein bod yn ddi-hid p'un ai a yw'n anwir neu'n gamarweiniol ai peidio.

  • Llofnodwyd (pob ceisydd)

  • Dyddiedig

  • Yr wyf/yr ydym yn datgan fy mod/ein bod wedi cyflwyno hysbysiad o'r cais hwn i'r personau a ganlyn, sef yr unig bersonau y gwn/y gwyddom amdanynt ei bod yn ofynnol eu hysbysu fy mod/ein bod wedi gwneud y cais hwn:

    EnwCyfeiriadDisgrifiad o ddiddordeb y person yn yr eiddo neu yn y caisDyddiad cyflwyno

Rheoliad 8

ATODLEN 3SAFONAU RHAGNODEDIG AR GYFER PENDERFYNU AR ADDASRWYDD HMO I'W FEDDIANNU GAN UCHAFSWM NIFER PENODOL O AELWYDYDD NEU O BERSONAU

Gwresogi

1.  Rhaid i bob uned o lety byw mewn HMO gynnwys cyfarpar sy'n gallu cynhesu'r fan yn ddigonol.

Cyfleusterau ymolchi

2.—(1Os nad yw'r cyfan neu rai o'r unedau yn y llety i fyw mewn HMO yn cynnwys cyfleusterau bathio a thoiled at ddefnydd unigol pob aelwyd unigol—

(a)os oes pedwar neu lai o feddiannwyr yn rhannu'r cyfleusterau hynny mae'n rhaid bod yno o leiaf un ystafell ymolchi gyda bath sefydlog neu gawod a thoiled (a all fod wedi ei leoli yn yr ystafell ymolchi);

(b)os oes pump neu fwy o feddiannwyr yn rhannu'r cyfleusterau hynny mae'n rhaid bod yno—

(i)un toiled ar wahân gyda basyn golchi dwylo gyda chefnfwrdd priodol ar gyfer pob pum meddiannydd sy'n rhannu; a

(ii)o leiaf un ystafell ymolchi (a gaiff gynnwys toiled) sydd â bath sefydlog neu gawod ar gyfer pob pum meddiannydd sy'n rhannu.

(2Rhaid i bob bath, cawod a basynau golchi dwylo mewn HMO fod wedi ei gyfarparu â thapiau sy'n darparu cyflenwad digonol o ddŵr oer a dŵr poeth yn barhaus.

(3Rhaid i bob ystafell ymolchi mewn HMO fod wedi ei chynhesu a'i hawyru yn ddigonol.

(4Rhaid i bob ystafell ymolchi a thoiled mewn HMO fod o faint a dyluniad addas.

(5Rhaid i bob bath, toiled a basyn golchi dwylo mewn HMO fod yn addas at y diben.

(6Rhaid i bob ystafell ymolchi a thoiled mewn HMO fod wedi ei leoli'n addas yn y llety i fyw yn yr HMO neu mewn perthynas ag ef.

Ceginau

3.  Pan fo'r cyfan neu rai o'r unedau byw o fewn yr HMO heb fod yn cynnwys unrhyw gyfleusterau ar gyfer coginio bwyd—

(a)mae'n rhaid bod yna gegin, mewn lleoliad addas mewn perthynas â'r llety i fyw, a bod ei dyluniad, ei maint a'r offer sydd ynddi yn gyfryw â'u bod yn ddigonol i alluogi'r rheini sy'n rhannu'r cyfleusterau i storio, i baratoi ac i goginio bwyd;

(b)mae'n rhaid i'r offer a ganlyn fod yn y gegin, a rhaid iddo fod yn addas at y diben a rhaid bod digon ohono ar gyfer nifer y rhai sy'n rhannu'r cyfleusterau—

(i)sinciau â byrddau traenio;

(ii)cyflenwad digonol o ddŵr oer a dŵr poeth parhaus i bob sinc a gyflenwir;

(iii)gosodiadau neu offer ar gyfer coginio bwyd;

(iv)socedi trydan;

(v)arwynebeddau gwaith ar gyfer paratoi bwyd;

(vi)cypyrddau ar gyfer storio bwyd neu daclau cegin neu daclau coginio;

(vii)oergelloedd gydag adran rewi ddigonol (neu, os nad yw'r adran rewi yn ddigonol, digon o rewgelloedd ar wahân);

(viii)cyfleusterau priodol i gael gwared â gwastraff; a

(ix)ffaniau echdynnu priodol, blancedi diffodd tân a drysau rhag tân.

Unedau o lefydd i fyw lle nad yw'r amwynderau sylfaenol yn cael eu rhannu

4.—(1Pan fo uned o le i fyw yn cynnwys cyfleusterau cegin at ddefnydd aelwyd unigol yn unig, ac nad oes unrhyw gyfleusterau cegin eraill ar gael i'r aelwyd honno, mae'n rhaid darparu yn yr uned honno—

(a)teclynnau ac offer digonol ar gyfer coginio bwyd;

(b)sinc ag iddi gyflenwad digonol o ddŵr oer a dŵr poeth parhaus;

(c)arwynebeddau gwaith ar gyfer paratoi bwyd;

(ch)digon o socedi trydan;

(d)cwpwrdd i storio taclau cegin a llestri; ac

(dd)oergell.

(2Os nad oes yna gyfleusterau ymolchi digonol sy'n cael eu rhannu yn cael eu darparu mewn uned o lety i fyw fel a ddisgrifir ym mharagraff 2, rhaid darparu ystafell wedi'i dylunio a'i hawyru'n ddigonol gyda thoiled a bath neu gawod sefydlog sy'n cyflenwi digon o ddŵr oer a dŵr poeth parhaus at ddefnydd meddiannwyr yr uned honno'n unig naill ai—

(a)o fewn y llety i fyw; neu

(b)yn rhesymol o agos i'r llety i fyw.

Cyfleusterau rhagofalon tân

5.  Rhaid darparu cyfleusterau ac offer rhagofalon tân priodol o'r math, o'r nifer ac yn y lleoliadau lle'r ystyrir bod eu hangen.

(4)

O.S. 1998/472, a ddiwygiwyd gan O.S. 2003/3005.

(7)

O.S. 2001/238. Mae adran 66(4) o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002 yn darparu bod y cyfeiriad at ganolfan gadw i'w ddarllen fel cyfeiriad at ganolfan symud ymaith fel y'i diffinir yn Rhan VIII o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999.

(12)

2003 p.42.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill