- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
Rheoliad 16(1)
1.—(1) Yn ystod cyfnod 1 ni chaniateir unrhyw berson symud unrhyw anifail sy'n dueddol i gael y clwy oddi mewn i barth brechu neu allan ohono oni wneir hynny oddi mewn i fangre neu o dan awdurdod trwydded a roddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(2) Ni cheir rhoi unrhyw drwydded o dan is-baragraff (1) ac eithrio
(a)i gludo anifeiliaid yn uniongyrchol o fangre i ladd-dy i'w cigydda ar unwaith—
(i)yn yr un parth brechu, neu
(ii)os nad oes lladd-dy yn y parth brechu hwnnw, y tu allan i'r parth brechu; neu
(b)symud o un rhan o'r fangre i ran arall o'r un fangre gan ddefnyddio priffordd gyhoeddus rhyngddynt.
(3) Ni cheir rhoi trwydded ar gyfer cludo o dan is-baragraff (2)(a) oni bai bod y person sy'n ei rhoi wedi'i fodloni—
(a)bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi gwneud archwiliad clinigol o fewn y 24 awr flaenorol o bob anifail sy'n dueddol i gael y clwy yn y fangre, a
(b)nad oes unrhyw amheuaeth o heintiad neu halogiad yn y fangre.
2.—(1) Yn ystod cyfnod 2, ni chaniateir i unrhyw berson symud unrhyw anifail sy'n dueddol i gael y clwy o unrhyw fangre neu i unrhyw fangre mewn parth brechu ac eithrio o dan awdurdod trwydded a roddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(2) Ni cheir rhoi trwydded o dan is-baragraff (1) ar gyfer symud anifail o unrhyw fangre adweithydd onid yw—
(a)ar gyfer ei gludo'n uniongyrchol i ladd-dy, er mwyn ei gigydda ar unwaith, a
(b)bod pob anifail y gwnaed prawf diagnostig arno gan arolygydd milfeddygol naill ai i ganfod presenoldeb haint neu wrthgyrff yn erbyn proteinau anadeileddol firws y clwy heb gael adwaith cadarnhaol i unrhyw brawf o'r fath.
(3) Ni cheir rhoi trwydded o dan is-baragraff (1) ar gyfer unrhyw symud arall ac eithrio—
(a)i gludo anifeiliaid i ladd-dy er mwyn eu cigydda ar unwaith o fangre a ddosbarthwyd o dan reoliad 25(1)(b) yn un sy'n rhydd o'r clwy, neu
(b)symud o un rhan o'r fangre i ran arall o'r un fangre gan ddefnyddio priffordd gyhoeddus rhyngddynt.
(4) Rhaid i drwydded a roddir o dan y paragraff hwn heblaw am drwydded ar gyfer symud anifeiliaid o dan baragraff (3)(b) ei gwneud yn ofynnol—
(a)na fydd yr anifeiliaid yn dod i gyffyrddiad ag unrhyw anifeiliaid eraill sy'n dueddol i gael y clwy wrth eu cludo neu pan fyddant yn y lladd-dy; a
(b)y rhoddir copi o'r hysbysiad yn dynodi dosbarth daliad yr anifeiliaid o dan reoliad 25(1)(b), a hwnnw wedi'i ardystio'n gopi gwir gan y Cynulliad Cenedlaethol, gyda'r anifeiliaid wrth eu cludo.
3.—(1) Yn ystod cyfnod 3, ni chaniateir i unrhyw berson symud unrhyw anifail sy'n dueddol i gael y clwy oddi mewn i barth brechu neu allan ohono oni wneir hynny oddi mewn i fangre neu o dan awdurdod trwydded a roddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(2) Ni cheir rhoi trwydded ar gyfer symud anifeiliaid allan o'r parth brechu o dan is-baragraff (1) ac eithrio ei bod ar gyfer eu cludo'n uniongyrchol o fangre a ddosbarthwyd o dan reoliad 25(1)(b) yn un sy'n rhydd o'r clwy i ladd-dy er mwyn eu cigydda ar unwaith a'i bod yn cynnwys cydymffurfedd â'r amodau yn is-baragraff (3).
(3) Amodau'r is-baragraff hwn yw—
(a)na fydd yr anifeiliaid yn dod i gysylltiad ag unrhyw anifeiliaid eraill sy'n dueddol i gael y clwy wrth eu cludo; a
(b)y rhoddir copi o'r hysbysiad yn dosbarthu mangre darddu'r anifeiliaid o dan reoliad 25(1)(b), a hwnnw wedi'i ardystio'n gopi gwir gan arolygydd, gyda'r anifeiliaid wrth eu cludo.
(4) Ni cheir rhoi trwydded ar gyfer symud anifeiliaid oddi mewn i'r parth brechu o dan y paragraff hwn oni bai
(a)ei bod yn pennu llwybr y daith sydd i'w ddilyn, sydd ym marn y person sy'n rhoi'r drwydded, yn sicrhau na fydd yr anifeiliaid yn agored i haint yn ystod y daith, ac naill ai—
(i)bod yr anifeiliaid o dan sylw heb gael eu brechu, ac y cydymffurfiwyd â'r amodau yn is-baragraff (5), neu
(ii)bod y symud o un rhan o fangre i ran arall o'r un fangre drwy ddefnyddio priffordd gyhoeddus rhyngddynt.
(5) Amodau'r is-baragraff hwn yw—
(a)bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi gwneud archwiliad clinigol o fewn y 24 awr flaenorol o bob anifail sy'n dueddol i gael y clwy yn y fangre darddu a heb ganfod arwyddion o'r clwy;
(b)bod pob anifail sy'n dueddol i gael y clwy yn y fangre darddu wedi'i gadw yno am o leiaf 30 o ddiwrnodau;
(c)nad yw'r fangre darddu mewn parth gwarchod neu barth gwyliadwriaeth; a
(ch)naill ai—
(i)bod prawf wedi'i wneud ar bob anifail y bwriedir ei gludo gan arolygydd milfeddygol i ganfod a yw gwrthgyrff y clwy yn bresennol ar ôl iddo fod yn y fangre darddu am gyfnod sydd o leiaf cyhyd â chyfnod magu'r clwy a bod y canlyniadau'n negyddol, neu
(ii)bod arolwg serolegol yn unol â phrotocol samplu sy'n addas i ganfod 5% o fynychter gydag o leiaf 95% o lefel hyder wedi'i gwblhau ar y fangre darddu gyda chanlyniad negyddol gan arolygydd milfeddygol.
(6) Ni cheir rhoi trwydded o dan y paragraff hwn ar gyfer symud anifeiliaid sydd heb eu brechu sy'n epil i fam sydd wedi'i brechu oni bai—
(a)bod prawf serolegol wedi'i wneud gan arolygydd milfeddygol ar bob anifail i ganfod a yw gwrthgyrff y clwy yn bresennol a bod y canlyniadau'n negyddol; neu
(b)bod y drwydded yn un ar gyfer symud anifeiliaid—
(i)i fangre yn y parth brechu sydd â'r un dosbarthiad o dan reoliad 25(1)(b); neu
(ii)i ladd-dy er mwyn eu cigydda ar unwaith; neu
(iii)i fangre benodedig arall ac, os felly, bydd is-baragraff (7) yn gymwys; neu
(c)bod y drwydded ar gyfer symud o fewn is-baragraff (4)(a)(ii).
(7) Pan fydd yr is-baragraff hwn yn gymwys, yn ystod cyfnod 3 ni chaniateir i unrhyw berson wedyn symud unrhyw anifail a symudwyd o'r fangre benodedig honno ac eithrio—
(a)ei symud i ladd-dy i'w gigydda ar unwaith, neu
(b)ei symud o un rhan o'r fangre i ran arall o'r un fangre gan ddefnyddio priffordd gyhoeddus rhyngddynt.
(8) Rhaid i feddiannydd unrhyw ladd-dy y caiff anifeiliaid sy'n dueddol o gael y clwy eu cludo iddo o dan awdurdod twydded a roddir o dan y paragraff hwn o unrhyw fangre a ddosbarthwyd yn un sy'n rhydd o'r clwy o dan reoliad 25(1)(b) sicrhau—
(a)y gwneir archwiliad iechyd ante-mortem o bob anifail yn y lladd-dy cyn ei gigydda, a
(b)yn y lladd-dy, nad yw'r anifeiliaid a gludir yn dod i gyffyrddiad ag anifeiliaid eraill.
4.—(1) Rhaid i'r person sydd â gofal unrhyw gerbyd a ddefnyddir i symud anifeiliaid sy'n dueddol i gael y clwy o dan awdurdod trwydded a roddir o dan baragraff 1, 2 neu 3—
(a)sicrhau ei fod wedi'i lanhau a'i ddiheintio yn unol ag Atodlen 2 i Orchymyn Cludo Anifeiliaid (Glanhau a Diheintio) (Cymru) (Rhif 3) 2003(1) ac unrhyw ofynion ychwanegol y caiff arolygydd drwy gyfarwyddiadau ysgrifenedig eu gosod,
(b)cofnodi amser a dyddiad pob glanhau a diheintio yr ymgymerir ag ef yn ystod cyfnod 2 neu gyfnod 3,
(c)cadw'r cofnod gyda'r cerbyd bob amser;
(ch)cadw'r cofnod am chwe mis ar ôl y glanhau a'r diheintio diwethaf.
(2) Rhaid ymgymryd â'r glanhau a'r diheintio hwnnw—
(a)cyn llwytho;
(b)ar ôl llwytho a chyn ymadael â'r fangre darddu (olwynion a bwâu olwynion y cerbyd yn unig fel eu bod yn lân wrth adael y fangre), ac
(c)ar ôl dadlwytho a chyn ymadael â'r fangre gyrchu.
5.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan roddir unrhyw drwydded i symud anifeiliaid sy'n dueddol i gael y clwy rhwng mangreoedd o dan y Rhan hon, onid yw'r drwydded honno'n darparu fel arall.
(2) Pan fydd y paragraff hwn yn gymwys, ni chaniateir i unrhyw berson ddadlwytho anifeiliaid sy'n dueddol i gael y clwy mewn mangre y symudir hwy iddi onid yw'r person hwnnw yn gyntaf yn rhoi'r drwydded symud i feddiannydd y fangre honno.
(3) Pan fydd y paragraff hwn yn gymwys, rhaid i feddiannydd unrhyw fangre y symudir anifeiliaid sy'n dueddol i gael y clwy iddi—
(a)anfon y drwydded symud yn ddi-oed at yr awdurdod lleol ac, yn achos lladd-dy, rhoi copi i unrhyw lawfeddyg milfeddygol swyddogol a benodwyd ar gyfer y fangre honno;
(b)cadw copi o'r drwydded am gyfnod o 6 mis a'i dangos pan ofynnir am ei gweld gan arolygydd;
(c)yn achos canolfan gasglu, sicrhau bod defaid wedi'u marcio neu eu tagio yn unol â chyfarwyddiadau'r Cynulliad Cenedlaethol, fel y gellir gwybod lle mae'r ganolfan gasglu a'r fangre y symudwyd hwy ohoni, a phan symudir hwy wedyn i ladd-dy.
6.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gig ffres, briwgig a chig wedi'i wahanu'n fecanyddol sy'n dod o anifeiliaid wedi'u brechu a gigyddwyd yn ystod cyfnod 1.
(2) Ni chaniateir i unrhyw berson werthu na thraddodi ar gyfer gwerthu cig y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo onid yw'n bodloni'r gofynion canlynol—
(a)ei fod wedi'i farcio â marc iechyd neu farc dynodi a bod stamp wedi'i osod ar ben y marc hwnnw;
(b)ar ôl marcio, ei fod bob amser wedi'i storio a'i gludo ar wahân i gig nad oedd wedi'i farcio yn y modd hwnnw;
(c)ei fod wedi'i gludo mewn cynwysyddion a seliwyd ar gyfer ei drin mewn sefydliad a ddynodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol;
(ch)ei fod wedi cael ei drin yn y sefydliad hwnnw fel ei fod yn dod o fewn paragraff 1 o Atodlen 5 i'r Gorchymyn.
7.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gig ffres, briwgig a chig wedi'i wahanu'n fecanyddol sy'n dod o anifeiliaid wedi'u brechu sy'n cnoi cil a gigyddwyd yn ystod cyfnod 2.
(2) Ni chaniateir i unrhyw berson werthu na thraddodi ar gyfer gwerthu offal y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo.
(3) Ni chaniateir i unrhyw berson werthu na thraddodi ar gyfer gwerthu cig heblaw offal y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo oni chafodd ei gynhyrchu mewn sefydliad—
(a)a awdurdodwyd gan drwydded a roddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol sy'n gosod yr amodau hynny y mae o'r farn eu bod yn angenrheidiol i osod rheolaeth filfeddygol gaeth ar y sefydliad;
(b)sydd ond yn prosesu cig sy'n dod o fewn is-baragraff (4) yn unig; ac
(c)sydd bob amser yn ystod y broses gynhyrchu yn storio, dynodi a chludo cynhyrchion anifeiliaid sy'n gymwys i'w gwerthu ar wahân i'r rhai nad ydynt, yn unol â chyfarwyddiadau'r Cynulliad Cenedlaethol.
(4) Mae cig yn dod o fewn yr is-baragraff hwn—
(a)os—
(i)tynnwyd yr esgyrn ohono a'i adael i aeddfedu fel ei fod yn dod o fewn paragraffau 11 a 12 o Atodlen 5 i'r Gorchymyn, neu
(ii)cafwyd ef o anifeiliaid a fagwyd ac a gigyddwyd y tu allan i barth brechu; a
(b)os marciwyd ef â marc iechyd neu farc dynodi.
8.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gig ffres, briwgig a chig wedi'i wahanu'n fecanyddol sy'n dod o foch wedi'u brechu a gigyddwyd yn ystod cyfnod 2.
(2) Ni chaniateir i unrhyw berson werthu na thraddodi ar gyfer gwerthu cig y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo onid yw'n bodloni'r gofynion canlynol—
(a)ei fod wedi'i farcio â marc iechyd neu farc dynodi a bod stamp wedi'i osod ar ben y marc hwnnw;
(b)ar ôl marcio, ei fod bob amser wedi'i storio a'i gludo ar wahân i gig nad oedd wedi'i farcio yn y modd hwnnw;
(c)ei fod wedi'i gludo mewn cynwysyddion a seliwyd ar gyfer ei drin mewn sefydliad a ddynodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol;
(ch)ei fod wedi cael ei drin yn y sefydliad hwnnw fel ei fod yn dod o fewn paragraff 1 o Atodlen 5 i'r Gorchymyn.
9.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gig ffres, briwgig a chig wedi'i wahanu'n fecanyddol sy'n dod o anifeiliaid heb eu brechu sy'n dueddol i gael y clwy ac a gigyddwyd mewn parth brechu yn ystod cyfnod 3.
(2) Ni chaniateir i unrhyw berson werthu na thraddodi ar gyfer gwerthu cig y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo oni bai—
(a)naill ai—
(i)bod pob anifail sy'n dueddol i gael y clwy mewn mangre adweithydd yn y parth brechu wedi cael ei gigydda, neu
(ii)bod yr anifeiliaid y daeth y cig ohonynt wedi cael eu cludo i'r lladd-dy gan gydymffurfio ag is-baragraff (3) neu (4);
(b)ei fod wedi'i gynhyrchu mewn sefydliad sy'n cydymffurfio ag is-baragraff (5).
(3) Mae'r cludo'n cydymffurfio â'r is-baragraff hwn os yw'n bodloni'r gofynion canlynol—
(a)nad yw'r anifeiliaid yn dod i gyffyrddiad ag unrhyw anifeiliaid eraill sy'n dueddol i gael y clwy yn ystod y cludo neu yn y lladd-dy; a
(b)bod copi o hysbysiad sy'n dosbarthu eu mangre darddu o dan reoliad 25(1)(b) gyda'r anifeiliaid yn ystod y cludo, wedi'i ardystio'n gopi gwir gan arolygydd.
(4) Mae'r cludo'n cydymffurfio â'r is-baragraff hwn os yw'r anifeiliaid a gludir naill ai—
(a)i gyd wedi cael eu profi gan y Cynulliad Cenedlaethol am wrthgyrff yn erbyn y clwy ar ddiwedd cyfnod magu'r clwy gyda chanlyniadau negyddol, neu
(b)wedi bod yn destun arolwg serolegol gan y Cynulliad Cenedlaethol ar yr adeg honno gyda chanlyniadau negyddol.
(5) Mae sefydliad yn cydymffurfio â'r paragraff hwn—
(a)os awdurdodwyd ef gan drwydded a roddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol sy'n gosod yr amodau hynny y mae o'r farn eu bod yn angenrheidiol i osod rheolaeth filfeddygol gaeth ar y sefydliad;
(b)os yw'n prosesu cig sy'n dod o fewn is-baragraff (6) yn unig; ac
(c)os yw bob amser yn ystod y broses gynhyrchu yn storio, dynodi a chludo cynhyrchion anifeiliaid sy'n gymwys i'w gwerthu ar wahân i'r rhai nad ydynt, yn unol â chyfarwyddiadau'r Cynulliad Cenedlaethol.
(6) Mae cig yn dod o fewn yr is-baragraff hwn—
(a)os—
(i)tynnwyd yr esgyrn ohono a'i adael i aeddfedu fel ei fod yn dod o fewn paragraffau 11 a 12 o Atodlen 5 i'r Gorchymyn,
(ii)cafodd ei gludo i'r sefydliad o dan awdurdod trwydded a roddwyd o dan baragraff 3 , neu
(iii)cafwyd ef o anifeiliaid a fagwyd ac a gigyddwyd y tu allan i barth brechu; a
(b)os marciwyd ef â marc iechyd neu farc dynodi.
10.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gig ffres, briwgig a chig wedi'i wahanu'n fecanyddol sy'n dod o'r anifeiliaid canlynol a gigyddwyd yn ystod cyfnod 3—
(a)anifeiliaid wedi'u brechu sy'n cnoi cil; a
(b)epil seropositif heb ei frechu i famau wedi'u brechu sy'n cnoi cil.
(2) Ni chaniateir i unrhyw berson werthu na thraddodi ar gyfer gwerthu offal y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo.
(3) Ni chaniateir i unrhyw berson werthu na thraddodi ar gyfer gwerthu cig y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo onid yw'n cydymffurfio ag is-baragraff (4) neu gig a gynhyrchwyd mewn sefydliad sy'n cydymffurfio ag is-baragraff (5).
(4) Mae cig yn cydymffurfio â'r is-baragraff hwn os yw'n bodloni'r gofynion canlynol—
(a)ei fod wedi'i farcio â marc iechyd neu farc dynodi a bod stamp wedi'i osod ar ben y marc hwnnw;
(b)ar ôl marcio, ei fod bob amser wedi'i storio a'i gludo ar wahân i gig nad oedd wedi'i farcio yn y modd hwnnw;
(c)ei fod wedi'i gludo mewn cynwysyddion a seliwyd ar gyfer ei drin i sefydliad a ddynodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol;
(ch)ei fod wedi cael ei drin yn y sefydliad hwnnw fel ei fod yn dod o fewn paragraff 1 o Atodlen 5 i'r Gorchymyn.
(5) Mae sefydliad yn cydymffurfio â'r is-baragraff hwn—
(a)os awdurdodwyd ef gan drwydded a roddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol sy'n gosod yr amodau hynny y mae o'r farn eu bod yn angenrheidiol i osod rheolaeth filfeddygol gaeth ar y sefydliad;
(b)os yw'n prosesu cig sy'n dod o fewn is-baragraff (6) yn unig; ac
(c)os yw bob amser yn ystod y broses gynhyrchu yn storio, dynodi a chludo cynhyrchion anifeiliaid sy'n gymwys i'w werthu ar wahân i'r rhai nad ydynt, yn unol â chyfarwyddiadau'r Cynulliad Cenedlaethol.
(6) Mae cig yn dod o fewn yr is-baragraff hwn—
(a)os—
(i)tynnwyd yr esgyrn ohono a'i adael i aeddfedu fel ei fod yn dod o fewn paragraffau 11 a 12 o Atodlen 5 i'r Gorchymyn,
(ii)cafodd ei gludo i sefydliad o dan awdurdod trwydded a roddwyd o dan baragraff 3, neu
(iii)cafwyd ef o anifeiliaid a fagwyd ac a gigyddwyd y tu allan i barth brechu; a
(b)os marciwyd ef â marc iechyd neu farc dynodi.
11.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gig ffres, briwgig a chig wedi'i wahanu'n fecanyddol sy'n dod o'r anifeiliaid canlynol a gigyddwyd yn ystod cyfnod 3—
(a)moch wedi'u brechu; a
(b)epil seropositif heb ei frechu i foch wedi'u brechu.
(2) Ni chaniateir i unrhyw berson werthu na thraddodi ar gyfer gwerthu cig y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo onid yw'n cydymffurfio ag is-baragraff (3) neu gig a gynhyrchwyd mewn sefydliad sy'n cydymffurfio ag is-baragraff (4).
(3) Mae cig yn cydymffurfio â'r is-baragraff hwn os yw'n bodloni'r gofynion canlynol—
(a)ei fod wedi'i farcio â marc iechyd neu farc dynodi a bod stamp wedi'i osod ar ben y marc hwnnw;
(b)ar ôl marcio, ei fod bob amser wedi'i storio a'i gludo ar wahân i gig nad oedd wedi'i farcio yn y modd hwnnw;
(c)ei fod wedi'i gludo mewn cynwysyddion a seliwyd ar gyfer ei drin i sefydliad a ddynodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol;
(ch)ei fod wedi cael ei drin yn y sefydliad hwnnw fel ei fod yn dod o fewn paragraff 1 o Atodlen 5 i'r Gorchymyn.
(4) Mae sefydliad yn cydymffurfio â'r is-baragraff hwn—
(a)os awdurdodwyd ef gan drwydded a roddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol sy'n gosod yr amodau hynny y mae o'r farn eu bod yn angenrheidiol i osod rheolaeth filfeddygol gaeth ar y sefydliad;
(b)os yw'n prosesu cig sy'n dod o fewn is-baragraff (5) yn unig; ac
(c)os yw bob amser yn ystod y broses gynhyrchu yn storio, dynodi a chludo cynhyrchion anifeiliaid y bwriedir iddynt fod yn gymwys i'w marchnata ar wahân i'r rhai nas bwriedir yn y modd hwnnw, yn unol â chyfarwyddiadau'r Cynulliad Cenedlaethol.
(5) Mae cig yn dod o fewn yr is-baragraff hwn os yw'n dod o anifeiliaid—
(a)sy'n tarddu o fangre y datganwyd ei bod yn rhydd o'r clwy o dan reoliad 25(1)(b), neu
(b)a gafodd eu magu a'u cigydda y tu allan i barth brechu.
12.—(1) Ni chaniateir i unrhyw berson werthu neu draddodi ar gyfer gwerthu llaeth anifail wedi'i frechu neu unrhyw gynhyrchion llaeth a gynhyrchwyd o'r cyfryw laeth onid yw'n cydymffurfio ag is-baragraff (2).
(2) Mae llaeth a chynhyrchion llaeth yn cydymffurfio â'r is-baragraff hwn—
(a)os ydynt wedi cael eu trin fel eu bod yn dod o fewn paragraff 13 neu 14 o Atodlen 5 i'r Gorchymyn, a
(b)os cyflawnwyd y driniaeth honno naill ai—
(i)y tu mewn i'r parth brechu mewn mangre sy'n cydymffurfio ag is-baragraff (3), neu
(ii)y tu allan i'r parth brechu yn y cyfryw fangre fel ag y byddo'r Cynulliad Cenedlaethol yn cyfarwyddo.
(3) Mae mangre'n cydymffurfio â'r is-baragraff hwn os yw'n bodloni'r gofynion canlynol—
(a)os awdurdodwyd hi gan drwydded a roddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol sy'n gosod yr amodau hynny y mae o'r farn eu bod yn angenrheidiol i sicrhau rheolaeth filfeddygol gaeth;
(b)bod yr holl laeth sy'n dod i'r fangre—
(i)wedi'i drin fel ei fod yn dod o fewn paragraff 13 neu 14 o Atodlen 5 i'r Gorchymyn, neu
(ii)er mwyn cael y driniaeth honno, neu
(iii)yn llaeth amrwd a gafwyd y tu allan i barth brechu;
(c)bod llaeth sydd yn y fangre a'r llaeth sy'n gadael y fangre wedi'i ddynodi'n glir yn un sy'n gymwys i'w werthu y tu allan i'r parth brechu ac y mae bob amser yn cael ei storio a'i gludo ar wahân i laeth amrwd a chynhyrchion llaeth amrwd nad ydynt yn gymwys yn y modd hwnnw.
13.—(1) Ni chaniateir i unrhyw berson gasglu a chludo llaeth a gynhyrchwyd mewn parth brechu onid yw'r cludo hwnnw'n cydymffurfio ag is-baragraff (2) a bod y cludo'n digwydd mewn cerbyd sy'n cydymffurfio ag is-baragraff (3).
(2) Mae'r cludo'n cydymffurfio â'r is-baragraff hwn—
(a)os yw'n cludo samplau o laeth amrwd—
(i)i labordy awdurdodedig o ran y clwy o dan erthygl 4 o Orchymyn Pathogenau Anifieiliaid Penodedig 1998(2), neu
(ii)i labordy arall o dan awdurdod trwydded a roddwyd gan arolygydd; neu
(b)os yw'r cludo i fangre heblaw labordy o dan awdurdod trwydded a roddwyd gan arolygydd.
(3) Mae cerbyd yn cydymffurfio â'r is-baragraff hwn—
(a)os cafodd ei awdurdodi i weithredu yn y rhan o Gymru lle y mae'r daith i ddigwydd o dan drwydded a roddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol, a
(b)os cafodd ei farcio fel ei fod yn dynodi'r ardal ddaearyddol y cafodd ei awdurdodi i weithredu ynddi yn unol â chyfarwyddiadau'r Cynulliad Cenedlaethol.
(4) Rhaid i drwydded a roddir o dan is-baragraff (2)(b) bennu llwybr y daith sydd i'w gymryd a rhaid i'r drwydded gynnwys amod yn gwahardd y cerbyd a gaiff ei ddefnyddio rhag mynd i unrhyw fangre yn y parth sy'n cadw anifeiliaid sy'n dueddol i gael y clwy at ddibenion heblaw llwytho llaeth.
(5) Rhaid i unrhyw berson sy'n cludo llaeth o dan awdurdod trwydded a roddwyd o dan is-baragraff (2)(b) sicrhau—
(a)bod y cerbyd wedi'i adeiladu a'i gynnal fel nad oes llaeth yn gollwng yn ystod y cludo a bod ganddo'r adnoddau i osgoi gwasgaru aerosol wrth lwytho a dadlwytho,
(b)cyn pob llwytho, bod y cerbyd yn cael ei lanhau a'i ddiheintio yn unol â chyfarwyddiadau arolygydd, a
(c)ar ôl pob llwytho a chyn ymadael â'r fangre, bod y pibellau cysylltu, y teiars, o amgylch yr olwynion a rhannau isaf y cerbyd, ac unrhyw laeth a fu'n gollwng, yn cael eu glanhau a'u diheintio yn unol â chyfarwyddiadau arolygydd.
(6) Ni chaiff unrhyw berson brosesu llaeth a gludwyd o dan is-baragraff (2) ac eithrio o dan awdurdod trwydded a roddwyd gan arolygydd.
14.—(1) Ni chaniateir i unrhyw berson gasglu semen ar gyfer ffrwythloni artiffisial oddi wrth anifail sy'n dueddol i gael y clwy a gedwir mewn canolfan gasglu semen mewn parth brechu onid yw'r casglu hwnnw'n cydymffurfio ag is-baragraff (3).
(2) Ni chaniateir i unrhyw berson gasglu ofa neu embryonau oddi wrth anifeiliaid sy'n dueddol i gael y clwy a gedwir mewn parth brechu.
(3) Mae casglu semen ar gyfer ffrwythloni artiffisial yn cydymffurfio â'r is-baragraff hwn—
(a)os yw'n dod o dan awdurdod trwydded a roddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol;
(b)os yw'r semen a gesglir wedi'i farcio'n glir yn unol â chyfarwyddiadau'r Cynulliad Cenedlaethol;
(c)os yw'r anifail sy'n rhoi'r sampl heb ei frechu—
(i)bod yr holl anifeiliaid a gedwir yn y ganolfan gasglu semen wedi cael archwiliad clinigol a bod samplau wedi bod yn destun prawf serolegol sy'n cadarnhau absenoldeb haint yn y ganolfan honno er bodlonrwydd y Cynulliad Cenedlaethol, a
(ii)y bu'n destun prawf serolegol a wnaed gan y Cynulliad Cenedlaethol gyda chanlyniad negyddol ar gyfer canfod gwrthgyrff yn erbyn y clwy ar sampl a gymerwyd dim cynharach na 28 o ddiwrnodau ar ôl casglu'r semen.
(ch)os yw'r anifail sy'n rhoi'r sampl wedi'i frechu—
(i)bod y brechu wedi digwydd ar ôl prawf a wnaed gan y Cynulliad Cenedlaethol am wrthgyrff yn erbyn firws y clwy gyda chanlyniad negyddol,
(ii)y cafwyd canlyniad negyddol i brawf a wnaed gan y Cynulliad Cenedlaethol i ddarganfod un ai firws y clwy neu genom y firws neu i ddarganfod gwrthgyrff proteinau anadeileddol, a gyflawnwyd ar ddiwedd cyfnod cwarantin y semen ar samplau a gymerwyd o'r holl anifeiliaid sy'n dueddol i gael y clwy yn bresennol yn y ganolfan casglu semen ar yr adeg honno, a
(iii)bod prawf a wnaed gan y Cynulliad Cenedlaethol i ynysu firws y clwy wedi'i wneud ar 5% o'r semen o bob casgliad (ac ynddo bum gwelltyn o leiaf) a bod y canlyniadau'n negyddol.
(4) Ni chaniateir i unrhyw berson ddefnyddio semen a gasglwyd gan gydymffurfio ag is-baragraff (3) ar gyfer ffrwythloni artiffisial oni chafodd ei storio ar wahân i semen arall am o leiaf 30 o ddiwrnodau ar ôl ei gasglu.
15.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i grwyn anifeiliaid sy'n dueddol i gael y clwy sy'n tarddu o barth brechu.
(2) Ni chaniateir i unrhyw berson werthu neu draddodi ar gyfer gwerthu unrhyw gynnyrch anifeiliaid y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo onid yw—
(a)naill ai—
(i)wedi'i gynhyrchu cyn y dyddiad 21 o ddiwrnodau cyn i'r parth brechu gael ei ddatgan, a
(ii)ei fod bob amser wedi'i storio ar wahân i grwyn nad oedd wedi'u cynhyrchu yn y modd hwnnw; neu
(b)ei fod wedi cael ei drin fel ei fod yn dod o fewn paragraff 2 o Atodlen 5 i'r Gorchymyn.
16.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i wlân, blew anifeiliaid sy'n cnoi cil a gwrych moch o anifeiliaid sy'n tarddu o barth brechu.
(2) Ni chaniateir i unrhyw berson werthu neu draddodi ar gyfer gwerthu unrhyw gynnyrch anifeiliaid y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo onid yw—
(a)naill ai—
(i)wedi'i gynhyrchu cyn y dyddiad 21 o ddiwrnodau cyn i'r parth brechu gael ei ddatgan, a
(ii)ei fod bob amser wedi'i storio ar wahân i wlân, blew anifeiliaid sy'n cnoi cil a gwrych moch nad oedd wedi'u cynhyrchu yn y modd hwnnw; neu
(b)ei fod wedi cael ei drin fel ei fod yn dod o fewn paragraff 3 o Atodlen 5 i'r Gorchymyn.
17.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw gynhyrchion anifeiliaid nad yw paragraffau eraill yn yr Atodlen hon yn gymwys iddynt pan gynhyrchir hwy o anifeiliaid sy'n dueddol i gael y clwy sy'n tarddu o barth brechu.
(2) Ni chaniateir i unrhyw berson werthu neu draddodi ar gyfer gwerthu cynnyrch anifeiliaid y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo onid yw'n bodloni un o'r gofynion canlynol—
(a)ei fod—
(i)wedi'i gynhyrchu cyn y dyddiad 21 o ddiwrnodau cyn i'r parth brechu gael ei ddatgan, a
(ii)ei fod bob amser wedi'i storio a'i gludo ar wahân i gynhyrchion anifeiliaid nad oedd wedi'u cynhyrchu yn y modd hwnnw;
(b)ei fod wedi cael ei drin fel ei fod yn dod o fewn paragraff 4 o Atodlen 5 i'r Gorchymyn;
(c)os cyfeirir ato yn un o baragraff 5 i 9 o Atodlen 5 i'r Gorchymyn, ei fod wedi cael ei drin mewn modd y mae'n dod o fewn y paragraff hwnnw;
(ch)ei fod yn gynnyrch cyfansawdd (hynny yw, cynnyrch sydd wedi'i weithgynhyrchu neu ei brosesu ac ynddo fwy nag un cynhwysyn y mae o leiaf un ohonynt yn gynnyrch anifail) ac o ran pob cynhwysyn sydd yn gynnyrch anifail—
(i)bod cyfeiriad ato mewn paragraff o Atodlen 5 i'r Gorchymyn a'i fod wedi cael ei drin fel ei fod yn dod o fewn y paragraff hwnnw (naill ai cyn ei weithgynhyrchu neu ei brosesu, neu fel rhan o'r cynnyrch cyfansawdd), neu
(ii)ei fod wedi'i gynhyrchu o anifeiliaid sy'n dueddol i gael y clwy nad oeddent yn tarddu o fangre sydd wedi'i heintio, mangre a amheuir neu fangre a ddaeth i gyffyrddiad â'r clwy neu mewn parth rheolaeth dros dro, parth gwarchod, parth gwyliadwriaeth neu barth brechu;
(d)mae'n gynnyrch a becynwyd yn barod i'w ddefnyddio—
(i)fel adweithydd, cynnyrch adweithiant, calibradwr, cit neu unrhyw system arall, (p'un a ddefnyddir ef ar ei ben ei hun neu ar y cyd),
(ii)in vitro i archwilio samplau sy'n dod o bobl neu anifeiliaid, (ac eithrio organau neu waed a roddwyd), a
(iii)yn gyfan gwbl neu'n bennaf er mwyn canfod cyflwr ffisiolegol, cyflwr iechyd, clefyd neu annormaledd genetig neu er mwyn gwirio diogelwch a chydweddoldeb ag adweithyddion.
(3) Yn y paragraff hwn, mae i'r ymadroddion “anifeiliaid sy'n dueddol i gael y clwy sy'n tarddu o” (o ran mangre sydd wedi'i heintio, mangre a amheuir neu fangre a ddaeth i gyffyrddiad â'r clwy) ac “anifeiliaid sy'n dueddol i gael y clwy sy'n tarddu o” (o ran parth rheolaethau dros dro, parth gwarchod neu barth goruchwylio) yr ystyr a roddir iddynt yn erthygl 3 o'r Gorchymyn.
18.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i dail neu wrtaith sy'n dod o fangre mewn parth brechu lle cedwir anifeiliaid sy'n dueddol i gael y clwy.
(2) Ni chaniateir i unrhyw berson gludo tail neu wrtaith y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo onid yw'r cludo hwnnw'n cydymffurfio ag is-baragraff (3), (5) neu (7) a chydag is-baragraff (10).
(3) Mae cludo tail neu wrtaith yn cydymffurfio â'r is-baragraff hwn os cludir ef i sefydliad ar gyfer triniaeth i ddinistrio feirws y clwy o dan awdurdod trwydded a roddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(4) Rhaid i feddiannydd unrhyw fangre y cludir tail neu wrtaith iddi gan awdurdod trwydded a roddwyd o dan is-baragraff (3) sicrhau ei fod yn cael ei drin yn unol â phwynt 5 o Adran II yn Rhan A o Atodiad VIII i Reoliad (EC) Rhif 1774/2002(3).
(5) Mae cludo tail neu wrtaith yn cydymffurfio â'r is-baragraff hwn—
(a)os yw'r tail neu wrtaith ar gyfer ei wasgaru,
(b)os yw'r cludiant yn dod o dan awdurdod trwydded a roddwyd gan arolygydd, a
(c)cyn rhoi'r drwydded, os oes arolygydd milfeddygol wedi archwilio'r holl anifeiliaid sy'n dueddol i gael y clwy yn y fangre lle y cafodd ei gynhyrchu ac y mae wedi'i fodloni nad amheuir eu bod wedi'u heintio.
(6) Ni chaniateir i unrhyw berson wasgaru tail neu wrtaith a gludir drwy awdurdod trwydded a roddir o dan is-baragraff (5) onid yw'r gwasgaru hwnnw wedi'i awdurdodi gan arolygydd a bod y tail neu'r gwrtaith—
(a)yn cael ei wasgaru o uchder nad yw'n fwy nag 1 metr uwchben y ddaear,
(b)os yw'n hylif, na chaiff ei ollwng o gyfarpar sy'n creu chwistrelliad neu daenelliad oni bai fod y pwynt gollwng wedi'i gyfeirio tuag at i lawr ar ongl nad yw'n llai na 45° o'r llorwedd, ac
(c)ei fod yn cael ei sugno ar unwaith i'r ddaear.
(7) Mae cludo tail neu wrtaith yn cydymffurfio â'r is-baragraff hwn—
(a)os yw'r tail neu'r gwrtaith ar gyfer ei wasgaru,
(b)os yw'r cludiant yn dod o dan awdurdod trwydded a roddwyd gan arolygydd, a
(c)cyn rhoi'r drwydded, os oes arolygydd milfeddygol wedi archwilio'r holl anifeiliaid sy'n dueddol i gael y clwy yn y fangre lle y cafodd ei gynhyrchu ac y mae wedi'i fodloni nad amheuir eu bod wedi'u heintio.
(8) Ni chaniateir i unrhyw berson wasgaru tail neu wrtaith a gludir drwy awdurdod trwydded a roddir o dan is-baragraff (7) onid awdurdodir gwasgaru o'r fath gan drwydded a roddir gan arolygydd a bod y tail neu'r gwrtaith yn cael ei chwistrellu i mewn i'r ddaear.
(9) Rhaid i unrhyw drwydded a roddir o dan is-baragraff (5), (6) neu (8) gynnnwys o leiaf y telerau canlynol—
(a)dynodi'r mannau y mae'n rhaid gwasgaru'r tail a'r gwrtaith oddi mewn i'w ffiniau;
(b)dynodi'r pellter o fangreoedd eraill sy'n cadw anifeiliaid sy'n dueddol i gael y clwy y mae'n rhaid peidio â gwasgaru'r tail neu'r gwrtaith ynddo.
(10) Mae cludo tail neu wrtaith yn cydymffurfio â'r is-baragraff hwn os cludir ef mewn cerbyd—
(a)sydd wedi'i adeiladu a'i gynnal fel nad yw'r llwyth yn gollwng yn ystod y cludo, a
(b)sy'n cael ei lanhau a'i ddiheintio ar ôl llwytho a chyn ymadael â'r fangre darddu.
(11) Ar ôl cludo tail neu wrtaith o dan y paragraff hwn, rhaid i'r person sydd â gofal y cerbyd sicrhau ei fod yn cael ei lanhau a'i ddiheintio ar ôl dadlwytho neu wasgaru a chyn ymadael â'r fangre gyrchu.
(12) Rhaid i'r person sydd â gofal cerbyd sydd i'w lanhau a'i ddiheintio o dan is-baragraff (10) neu (11) sicrhau bod y glanhau a'r diheintio hwnnw'n cael ei wneud yn y fath fodd—
(a)nad yw'r tu allan (gan gynnwys yr olwynion a bwâu'r olwynion) wedi'i farcio â mwd, tail, gwrtaith neu fater tebyg wrth i'r cerbyd ymadael â'r naill fangre neu'r llall,
(b)nad yw'r tu mewn (ac eithrio unrhyw le ar gyfer y gyrrwr neu deithiwr) wedi'i farcio felly wrth i'r cerbyd ymadael â'r fangre gyrchu, ac
(c)y cydymffurfir ag unrhyw ofynion ychwanegol a gyfarwyddir gan arolygydd.
O.J. Rhif L273, 10.10.2002 t.1 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 416/2005 (O.J. Rhif 12.3.05 t.10)
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys