Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) 2006

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Offerynnau Statudol Cymru

2006 Rhif 2629 (Cy.225)

DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU

Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) 2006

Wedi'u gwneud

3 Hydref 2006

Yn dod i rym

4 Hydref 2006

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau wedi'i ddynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2), mewn perthynas â mesurau sy'n ymwneud ag asesu, trafod a rheoli sŵn amgylcheddol, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

RHAN 1CYFFREDINOL

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 4 Hydref 2006.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Nid oes dim ym mharagraff (2) yn golygu y dylai mapiau sŵn strategol a wneir neu a ddiwygir o dan y Rheoliadau hyn fod yn gyfyngedig i Gymru.

(4Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i sŵn amgylcheddol sydd o fewn clyw pobl, a hynny'n benodol mewn ardaloedd adeiledig, mewn parciau cyhoeddus neu mewn ardaloedd tawel eraill mewn crynodref, yn agos i ysgolion, ysbytai ac adeiladau ac ardaloedd eraill sy'n sensitif o ran sŵn.

(5Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i sŵn a achosir gan y person ei hun sydd o fewn clyw i'r sŵn, sŵn sy'n deillio o weithgareddau domestig, sŵn a gaiff ei greu gan gymdogion, sŵn mewn gweithleoedd, sŵn y tu mewn i gyfrwng cludo neu sŵn a achosir gan weithgareddau milwrol mewn ardaloedd milwrol.

Dehongli

2.—(1Oni bai eu bod yn cael eu diffinio fel arall yn y Rheoliadau hyn, mae i eiriau a thermau a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn y Gyfarwyddeb yr ystyr sydd iddynt yn y Gyfarwyddeb.

(2Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “ar ffurf rheoliadau” (“in the form of regulations”) yw ar ffurf rheoliadau a wnaed o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972;

ystyr “ardal dawel mewn crynodref” (“quiet area in an agglomeration”) yw ardal y nodir ei bod yn ardal dawel mewn crynodref yn unol â rheoliad 13;

ystyr “blwyddyn galendr” (“calendar year”) yw cyfnod o flwyddyn yn dechrau ar 1 Ionawr;

“cefnffordd” (“trunk road”) yw unrhyw briffordd os y Cynulliad yw'r awdurdod priffyrdd perthnasol drosti;

ystyr “crynodref” (“agglomeration”) yw ardal y nodir ei bod yn grynodref yn unol â rheoliad 3;

ystyr “crynodref cylch cyntaf” (“first round agglomeration”) yw ardal y nodir ei bod yn grynodref cylch cyntaf yn unol â rheoliad 3;

ystyr “Cyfarwyddeb” (“Directive”) yw Cyfarwyddeb 2002/49/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor dyddiedig 25 Mehefin 2002 sy'n ymwneud ag asesu a rheoli sŵn amgylcheddol(3);

ystyr “y Cynulliad” (“the Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

mae i “dangosydd sŵn atodol” (“supplementary noise indicator”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 4(6);

ystyr “dB(A)” (“dB(A)”) yw mesur o lefel pwysedd sŵn (a'r lefel wedi'i phwysoli yn unol ag “A”) mewn desibelau fel a bennir yn y Safon Brydeinig BS EN 61672-2: 2003(4);

ystyr “DEFRA” yw Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig;

mae i “ffordd arbennig” yr ystyr sydd i “special road” yn adran 329(1) o Ddeddf Priffyrdd 1980;

ystyr “gweithredydd maes awyr” (“airport operator”) yw'r person sydd, ar y pryd, mewn cysylltiad â maes awyr penodol, yn rheoli'r maes awyr hwnnw;

ystyr “heb ei ddynodi” (“non-designated”) pan y'i defnyddir mewn perthynas â maes awyr yw nad yw wedi'i ddynodi o dan adran 80 at ddibenion adran 78 o Ddeddf Hedfan Sifil 1982;

mae “Lday” yn cwmpasu'r cyfnod rhwng 07:00 a 19:00 o'r gloch mewn unrhyw gyfnod o 24 awr;

mae “Levening” yn cwmpasu'r cyfnod rhwng 19:00 a 23:00 o'r gloch mewn unrhyw gyfnod o 24 awr;

mae “Lnight” yn cwmpasu'r cyfnod rhwng 23:00 a 07:00 o'r gloch mewn unrhyw gyfnod o 24 awr;

ystyr “prif faes awyr” (“major airport”) yw maes awyr y nodir ei fod yn brif faes awyr yn unol â rheoliad 3;

ystyr “prif ffordd” (“major road”) yw ffordd y nodir ei bod yn brif ffordd yn unol â rheoliad 3;

ystyr “prif ffordd cylch cyntaf” (“first round major road”) yw ffordd y nodir ei bod yn brif ffordd cylch cyntaf yn unol â rheoliad 3;

ystyr “prif ffordd neu ffordd ddosbarth” (“principal or classified road”) yw ffordd a elwir—

(a)

priff ffordd;

(b)

ffordd ddosbarth; neu

(c)

prif ffordd yn ogystal â ffordd ddosbarth,

yn rhinwedd adran 12 o Ddeddf Priffyrdd 1980 (p'un ai oherwydd ei bod yn dod o fewn is-adran (1), neu oherwydd ei bod yn ffordd ddosbarth o dan is-adran (3));

ystyr “prif reilffordd” (“major railway”) yw rheilffordd y nodir ei bod yn brif reilffordd yn unol â rheoliad 3;

ystyr “prif reilffordd cylch cyntaf” (“first round major railway”) yw rheilffordd y nodir ei bod yn brif reilffordd cylch cyntaf yn unol â rheoliad 3;

ystyr “traffordd” (“motorway”) (ac eithrio fel a ddarperir fel arall gan neu o dan reoliadau a wnaed o dan adran 17 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984(5)) yw ffordd arbennig y gellir ei defnyddio'n unig gan draffig Dosbarth I neu II fel a bennir yn Atodlen 4 i Ddeddf Priffyrdd 1980(6); ac

ystyr “wedi'i ddynodi” (“designated”) pan y'i defnyddir mewn perthynas ag unrhyw faes awyr yw ei fod wedi'i ddynodi o dan adran 80 at ddibenion adran 78 o Ddeddf Hedfan Sifil 1982(7).

Nodi ffynonellau sŵn

3.—(1Rhaid i'r Cynulliad nodi, a hynny ar ffurf rheoliadau a heb fod yn hwyrach na 31 Rhagfyr 2006, yr holl—

(a)crynodrefi cylch cyntaf;

(b)prif ffyrdd cylch cyntaf;

(c)prif reilffyrdd cylch cyntaf; ac

(ch)prif feysydd awyr.

(2Rhaid i'r Cynulliad nodi, a hynny ar ffurf rheoliadau a heb fod yn hwyrach na 31 Rhagfyr 2011, yr holl—

(a)crynodrefi;

(b)prif ffyrdd;

(c)prif reilffyrdd; ac

(ch)prif feysydd awyr.

(3Mae paragraff (4) yn gymwys os yw'r Cynulliad o'r farn nad yw'r rheoliadau diweddaraf a gynhyrchir yn unol â'r rheoliad hwn yn briodol mwyach.

(4Mewn unrhyw flwyddyn berthnasol rhaid i'r Cynulliad nodi, a hynny ar ffurf rheoliadau—

(a)crynodrefi;

(b)prif ffyrdd;

(c)prif reilffyrdd; neu

(ch)prif feysydd awyr,

yn ôl yr angen.

(5Ym mharagraff (4) ystyr “blwyddyn berthnasol” (“relevant year”) yw 2016 a phob pumed flwyddyn ar ôl hynny.

(6Pan fydd yn cyflawni ei ddyletswydd o dan baragraff (1)(a) i nodi crynodrefi cylch cyntaf, rhaid i'r Cynulliad nodi ardaloedd—

(a)y mae eu poblogaeth yn fwy na 250,000 o bersonau ac y mae dwysedd eu poblogaeth yn hafal i 500 o bobl fesul km2 neu'n fwy na hynny; a

(b)y mae o'r farn eu bod yn drefoledig.

(7Pan fydd yn cyflawni ei ddyletswydd o dan baragraff (2)(a) neu (4)(a) i nodi crynodrefi, rhaid i'r Cynulliad nodi ardaloedd—

(a)y mae eu poblogaeth yn fwy na 100,000 o bersonau ac y mae dwysedd eu poblogaeth yn hafal i 500 o bobl fesul km2 neu'n fwy na hynny; a

(b)y mae o'r farn eu bod yn drefoledig.

(8Pan fydd yn cyflawni ei ddyletswydd o dan baragraff (1)(b) i nodi prif ffyrdd cylch cyntaf rhaid i'r Cynulliad nodi ffyrdd—

(a)sydd—

(i)yn gefnffyrdd,

(ii)yn draffyrdd nad ydynt yn gefnffyrdd, neu

(iii)yn brif ffyrdd neu'n ffyrdd dosbarth;

(b)y mae arnynt fwy na chwe miliwn o dramwyadau cerbyd y flwyddyn; ac

(c)y mae o'r farn eu bod yn ffyrdd rhanbarthol, cenedlaethol neu ryngwladol.

(9Pan fydd yn cyflawni ei ddyletswydd o dan baragraff (2)(b) neu (4)(b) i nodi prif ffyrdd rhaid i'r Cynulliad nodi ffyrdd—

(a)sydd—

(i)yn gefnffyrdd,

(ii)yn draffyrdd nad ydynt yn gefnffyrdd, neu

(iii)yn brif ffyrdd neu'n ffyrdd dosbarth;

(b)y mae arnynt fwy na thair miliwn o dramwyadau cerbyd y flwyddyn; ac

(c)y mae o'r farn eu bod yn ffyrdd rhanbarthol, cenedlaethol neu ryngwladol.

(10Pan fydd yn cyflawni ei ddyletswydd o dan baragraff (1)(c) i nodi prif reilffyrdd cylch cyntaf rhaid i'r Cynulliad nodi rheilffyrdd y mae arnynt fwy na 60,000 o dramwyadau trên y flwyddyn.

(11Pan fydd yn cyflawni ei ddyletswydd o dan baragraff (2)(c) neu (4)(c) i nodi prif reilffyrdd rhaid i'r Cynulliad nodi rheilffyrdd y mae arnynt fwy na 30,000 o dramwyadau trên y flwyddyn.

(12Pan fydd yn cyflawni ei ddyletswydd o dan baragraff (1)(ch), (2)(ch) neu (4)(ch) i nodi prif feysydd awyr rhaid i'r Cynulliad nodi meysydd awyr sifil lle y mae mwy na 50,000 o symudiadau y flwyddyn (ac mae symudiad yn golygu awyren yn codi neu'n glanio), heb gynnwys symudiadau at ddiben hyfforddiant yn unig ar awyrennau ysgafn.

RHAN 2MAPIAU Sŵn STRATEGOL

PENNOD 1GOFYNION CYFFREDINOL AR GYFER MAPIAU Sŵn STRATEGOL

Mapiau sŵn strategol: gofynion cyffredinol

4.—(1Rhaid i unrhyw fap sŵn strategol a wnaed neu a ddiwygiwyd o dan y Rhan hon fodloni'r gofynion cymwys yn Atodlen 1.

(2Rhaid i awdurdod cymwys o dan reoliad 6 neu 10 gymhwyso—

(a)y dangosyddion sŵn Lden ac Lnight yn unol ag Atodiad I i'r Gyfarwyddeb; a

(b)y dangosyddion sŵn atodol ym mhob achos a restrir fel enghreifftiau ym mharagraff 3 o Atodiad I i'r Gyfarwyddeb,

pan fydd yn gwneud neu'n diwygio mapiau sŵn strategol o dan y Rhan hon.

(3Rhaid canfod gwerthoedd Lden, Lnight a'r dangosyddion sŵn atodol drwy gyfrwng y dulliau asesu a geir yn Atodlen 2.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (5) caniateir trosi dangosyddion sŵn presennol a data perthynol yn Lden ac yn Lnight.

(5Rhaid i'r data y cyfeirir atynt ym mharagraff (4) beidio â bod yn fwy na thair blwydd oed.

(6ystyr “dangosydd sŵn atodol” (“supplementary noise indicator”) yw dangosydd sŵn fel a ddiffinnir yn Atodlen 3.

PENNOD 2MAPIAU Sŵn STRATEGOL –FFYNONELLAU Sŵn AC EITHRIO MEYSYDD AWYR HEB EU DYNODI

Cymhwyso

5.  Nid yw'r Bennod hon yn gymwys i sŵn o feysydd awyr heb eu dynodi.

Awdurdod Cymwys

6.  Yr awdurdod cymwys o ran y Bennod hon yw'r Cynulliad.

Dyletswydd i wneud, adolygu a diwygio mapiau sŵn strategol

7.—(1Rhaid i'r awdurdod cymwys, heb fod yn hwyrach na 30 Mehefin 2007, wneud ac, yn unol â rheoliad 23, fabwysiadu mapiau sŵn strategol yn dangos y sefyllfa yn y flwyddyn galendr flaenorol ar gyfer yr holl—

(a)crynodrefi cylch cyntaf;

(b)prif ffyrdd cylch cyntaf;

(c)prif reilffyrdd cylch cyntaf; ac

(ch)prif feysydd awyr.

(2Rhaid i'r awdurdod cymwys, heb fod yn hwyrach na 30 Mehefin 2012, a phob pum mlynedd ar ôl hynny, wneud ac, yn unol â rheoliad 23, fabwysiadu mapiau sŵn strategol yn dangos y sefyllfa yn y flwyddyn galendr flaenorol ar gyfer yr holl—

(a)crynodrefi;

(b)prif ffyrdd;

(c)prif reilffyrdd; ac

(ch)prif feysydd awyr.

(3O bryd i'w gilydd, a pha bryd bynnag y bydd prif ddatblygiad yn digwydd ac yn effeithio ar y sefyllfa bresennol o ran sŵn, rhaid i'r awdurdod cymwys—

(a)adolygu; a

(b)diwygio, os bydd angen,

unrhyw fapiau sŵn strategol a wnaed yn unol â pharagraffau (1) neu (2) ac a fabwysiadwyd yn unol â rheoliad 23.

PENNOD 3MAPIAU Sŵn STRATEGOL – MEYSYDD AWYR HEB EU DYNODI

Cymhwyso

8.  Mae'r Bennod hon yn gymwys i sŵn o feysydd awyr heb eu dynodi.

Dehongli

9.—(1Yn y Bennod hon—

ystyr “data mewnbwn” (“input data”) yw'r holl ddata a'r wybodaeth berthynol a ddefnyddir i gynhyrchu'r data Rhif iadol y mae paragraff 3(2)(b) neu 4(2)(b) (fel y bo'n briodol) yn Atodlen 1 yn eu gwneud yn ofynnol a hynny ar ffurf electronig;

ystyr “metadata” (“metadata”) yw'r cyfryw elfennau yn Adran 2 y “SPIRE Data Standard, Version 1.0” (DEFRA, 25 Tachwedd 2004)(8) ag y mae eu hangen i ddisgrifio—

(a)

y data mewnbwn; a

(b)

yr wybodaeth a'r data y mae paragraff 3(2) neu 4(2) (fel y bo'n briodol) yn Atodlen 1 yn eu gwneud yn ofynnol.

(2Mae unrhyw ofyniad yn y Bennod hon am gyflwyno data mewnbwn i awdurdod cymwys yn ofyniad am gyflwyno'r data mewnbwn hynny ar fformat—

(a)sy'n electronig;

(b)sy'n caniatáu ei drin yn electronig; ac

(c)nad yw'n ofynnol ei drin er mwyn atgynhyrchu'r data Rhif iadol ar ffurf electronig y mae paragraff 3(2)(b) neu 4(2)(b) (fel y bo'n briodol) yn Atodlen 1 yn eu gwneud yn ofynnol.

Awdurdod Cymwys

10.  Yr awdurdod cymwys o ran y Bennod hon yw gweithredydd y maes awyr.

Dyletswydd i wneud, adolygu a diwygio mapiau sŵn strategol: prif feysydd awyr heb eu dynodi

11.—(1Dim ond i brif feysydd awyr heb eu dynodi y mae'r rheoliad hwn yn gymwys.

(2Rhaid i'r awdurdod cymwys, heb fod yn hwyrach na 31 Mawrth 2007, a phob pum mlynedd wedi hynny—

(a)gwneud map sŵn strategol yn dangos beth oedd y sefyllfa o ran y maes awyr yn y flwyddyn galendr flaenorol; a

(b)cyflwyno'r map hwnnw i'r Cynulliad ynghyd â data mewnbwn a metadata.

(3O bryd i'w gilydd, a pha bryd bynnag y bydd prif ddatblygiad yn digwydd ac yn effeithio ar y sefyllfa bresennol o ran sŵn, rhaid i'r awdurdod cymwys—

(a)adolygu; a

(b)diwygio, os bydd angen,

unrhyw fap sŵn strategol map a wnaed yn unol â pharagraff (2) ac a fabwysiadwyd yn unol â rheoliad 23.

(4Rhaid i'r awdurdod cymwys gyflwyno i'r Cynulliad unrhyw fap sŵn strategol a ddiwygiwyd yn unol â pharagraff (3)(b), ynghyd â data mewnbwn a metadata, a hynny o fewn tri diwrnod gwaith i'w ddiwygio.

Dyletswydd i wneud, adolygu a diwygio mapiau sŵn strategol: crynodrefi

12.—(1Rhaid i'r awdurdod cymwys heb fod yn hwyrach na 31 Mawrth 2007—

(a)gwneud map sŵn strategol yn dangos beth oedd y sefyllfa yn y flwyddyn galendr flaenorol o ran unrhyw grynodrefi cylch cyntaf perthnasol; a

(b)cyflwyno'r map hwnnw i'r Cynulliad ynghyd â data mewnbwn a metadata.

(2Rhaid i'r awdurdod cymwys, heb fod yn hwyrach na 31 Mawrth 2012, a phob pum mlynedd wedi hynny—

(a)gwneud map sŵn strategol yn dangos beth oedd y sefyllfa o ran unrhyw grynodref berthnasol yn y flwyddyn galendr flaenorol; a

(b)cyflwyno'r map hwnnw i'r Cynulliad ynghyd â data a metadata.

(3O bryd i'w gilydd, a pha bryd bynnag y bydd prif ddatblygiad yn digwydd ac yn effeithio ar y sefyllfa bresennol o ran sŵn, rhaid i'r awdurdod cymwys—

(a)adolygu; a

(b)diwygio, os bydd angen,

unrhyw fap sŵn strategol a wnaed yn unol â pharagraffau (1) neu (2) ac a fabwysiadwyd yn unol â rheoliad 23.

(4Rhaid i'r awdurdod cymwys gyflwyno i'r Cynulliad unrhyw fap sŵn strategol a ddiwygiwyd yn unol â pharagraff (3)(b), ynghyd â data mewnbwn a metadata, a hynny o fewn tri diwrnod gwaith i'w ddiwygio.

(5Yn y rheoliad hwn—

ystyr “crynodref berthnasol” (“relevant agglomeration”) yw crynodref lle y mae traffig awyr o'r maes awyr yn arwain at sŵn traffig awyr—

(a)

y mae ei werth Lden yn 55 dB(A) neu fwy; neu

(b)

y mae ei werth Lnight yn 50 dB(A) neu fwy,

yn unrhyw le o fewn y grynodref;

ystyr “crynodref cylch cyntaf perthnasol” (“relevant first round agglomeration”) yw crynodref cylch cyntaf lle y mae traffig awyr o'r maes awyr yn arwain at sŵn traffig awyr—

(a)

y mae ei werth Lden yn 55 dB(A) neu fwy; neu

(b)

y mae ei werth Lnight yn 50 dB(A) neu fwy,

yn unrhyw le o fewn y grynodref cylch cyntaf.

RHAN 3ARDALOEDD TAWEL

Nodi ardaloedd tawel

13.—(1Heb fod yn hwyrach na—

(a)30 Medi 2007; a

(b)30 Medi 2012,

rhaid i'r Cynulliad nodi, a hynny ar ffurf rheoliadau, ardaloedd tawel mewn crynodrefi.

(2Mae paragraff (3) yn gymwys os yw'r Cynulliad o'r farn nad yw'r rheoliadau diweddaraf a gynhyrchir yn unol â'r rheoliad hwn yn briodol mwyach.

(3Rhaid i'r Cynulliad, a hynny ar ffurf rheoliadau a heb fod yn hwyrach na 30 Medi mewn unrhyw flwyddyn berthnasol, ac os yw o'r farn bod angen hynny, nodi ardaloedd tawel mewn crynodrefi.

(4Ym mharagraff (3) ystyr “blwyddyn berthnasol” (“relevant year”) yw 2017 a phob pumed flwyddyn ar ôl hynny.

RHAN 4CYNLLUNIAU GWEITHREDU

PENNOD 1CYFFREDINOL

Dyletswydd i gyhoeddi meini prawf neu werthoedd terfyn

14.  Rhaid i'r Cynulliad, a hynny heb fod yn hwyrach nag 18 Gorffennaf 2007 gyhoeddi canllawiau sy'n gosod gwerthoedd terfyn neu feini prawf eraill ar gyfer nodi blaenoriaethau i gynlluniau gweithredu.

Cynlluniau gweithredu: gofynion cyffredinol

15.—(1Rhaid i unrhyw gynllun gweithredu a gaiff ei lunio neu ei ddiwygio o dan y Rhan hon—

(a)bodloni amcanion Erthygl 1(c) o'r Gyfarwyddeb;

(b)gael ei gynllunio i drafod materion ac effeithiau sŵn, gan gynnwys lleihau sŵn os bydd angen;

(c)amcanu i ddiogelu ardaloedd tawel mewn crynodrefi rhag cynnydd mewn sŵn;

(ch)ymdrin â blaenoriaethau y mae'n rhaid eu nodi drwy roi sylw i ganllawiau a gyhoeddir yn unol â rheoliad 14;

(d)bod yn gymwys yn benodol i'r ardaloedd mwyaf pwysig fel y'u cadarnhawyd gan fapiau sŵn strategol a fabwysiadwyd yn unol â rheoliad 23; ac

(dd)bodloni'r gofynion yn Atodlen 4.

(2Mae paragraff (3) yn gymwys i—

(a)unrhyw gynllun gweithredu; a

(b)unrhyw ddiwygiad o gynllun gweithredu,

a gaiff ei lunio o dan y Rhan hon ar gyfer crynodref.

(3Rhaid i gynllun gweithredu ac unrhyw ddiwygiad o gynllun gweithredu gael ei seilio ar yr ardaloedd mwyaf pwysig a sefydlwyd gan y canlynol a bod yn gymwys yn benodol i'r ardaloedd hynny—

(a)pob map sŵn strategol—

(i)a wneir neu a ddiwygir yn unol â rheoliad 7, 11 neu 12 ac a fabwysiedir yn unol â rheoliad 23, a

(ii)yn ymwneud ag unrhyw ran o'r ardal y mae'r cynllun gweithredu'n ymdrin â hi; a

(b)map sŵn cyfunol.

(4Yn y rheoliad hwn ystyr “map sŵn cyfunol” (“consolidated noise map”) yw un map sŵn strategol sy'n gyfuniad o bob map sŵn strategol—

(a)a wneir neu a ddiwygir yn unol â rheoliad 7, 11 neu 12 ac a fabwysiedir yn unol â rheoliad 23; a

(b)sy'n ymwneud ag unrhyw ran o'r ardal y mae'r cynllun gweithredu'n ymdrin â hi.

PENNOD 2CYNLLUNIAU GWEITHREDU – FFYNONELLAU Sŵn AC EITHRIO PRIF FEYSYDD AWYR

Awdurdod Cymwys

16.  Yr awdurdod cymwys o ran y Bennod hon yw'r Cynulliad.

Dyletswydd i lunio, adolygu a diwygio cynlluniau gweithredu

17.—(1Rhaid i'r awdurdod cymwys, heb fod yn hwyrach na 18 Gorffennaf 2008, lunio cynlluniau gweithredu ar gyfer—

(a)lleoedd yn agos i brif ffyrdd cylch cyntaf;

(b)lleoedd yn agos i brif reilffyrdd cylch cyntaf; ac

(c)crynodrefi cylch cyntaf.

(2Rhaid i'r awdurdod cymwys a hynny heb fod yn hwyrach nag 18 Gorffennaf 2013 lunio cynlluniau gweithredu ar gyfer—

(a)lleoedd yn agos i brif ffyrdd;

(b)lleoedd yn agos i brif reilffyrdd; ac

(c)crynodrefi.

(3Mae paragraff (4) yn gymwys—

(a)pa bryd bynnag y bydd prif ddatblygiad yn digwydd ac yn effeithio ar y sefyllfa bresennol o ran swn; a

(b)pob pum mlynedd o leiaf ar ôl y dyddiad y mabwysiedir cynllun gweithredu yn unol â rheoliad 24.

(4Rhaid i'r awdurdod cymwys—

(a)adolygu; a

(b)diwygio, os bydd angen,

y cynllun gweithredu.

PENNOD 3CYNLLUNIAU GWEITHREDU – PRIF FEYSYDD AWYR

Awdurdod Cymwys

18.  Yr awdurdod cymwys o ran y Bennod hon yw gweithredydd y maes awyr.

Dyletswydd i lunio, adolygu a diwygio cynlluniau gweithredu

19.—(1Rhaid i'r awdurdod cymwys heb fod yn hwyrach na 30 Ebrill 2008—

(a)llunio cynllun gweithredu ar gyfer lleoedd yn agos i'r brif faes awyr; a

(b)cyflwyno'r cynllun gweithredu hwnnw i'r Cynulliad.

(2Dim ond os nad oedd hi'n ofynnol i'r awdurdod cymwys lunio cynllun gweithredu ar gyfer y prif faes awyr yn unol â pharagraff (1) oherwydd nad ef oedd yr awdurdod cymwys ar 30 Ebrill 2008 neu cyn hynny y mae paragraff (3) yn gymwys.

(3Rhaid i'r awdurdod cymwys heb fod yn hwyrach na 30 Ebrill 2013—

(a)llunio cynllun gweithredu ar gyfer lleoedd yn agos i'r prif faes awyr; a

(b)cyflwyno'r cynllun gweithredu hwnnw i'r Cynulliad.

(4Mae paragraff (5) yn gymwys—

(a)pa bryd bynnag y bydd prif ddatblygiad yn digwydd ac yn effeithio ar y sefyllfa bresennol o ran sŵn; a

(b)o leiaf bob pum mlynedd ar ôl y dyddiad y mabwysiedir cynllun gweithredu yn unol â rheoliad 24.

(5Rhaid i'r awdurdod cymwys—

(a)adolygu; a

(b)diwygio, os bydd angen,

y cynllun gweithredu.

(6Rhaid cyflwyno i'r Cynulliad gynllun gweithredu wedi'i ddiwygio'n unol â pharagraff (5)(b) a hynny o fewn tri diwrnod gwaith i'w ddiwygio.

PENNOD 4CYNLLUNIAU GWEITHREDU – CYFRANOGIAD CYHOEDDUS

Cyfranogiad cyhoeddus

20.—(1Rhaid i awdurdodau cymwys, wrth baratoi a diwygio cynlluniau gweithredu o dan reoliadau 16 ac 18 sicrhau—

(a)yr ymgynghorir â'r cyhoedd ynghylch cynigion ar gyfer cynlluniau gweithredu;

(b)y rhoddir i'r cyhoedd gyfleoedd cynnar ac effeithiol i gymryd rhan yn y gwaith o baratoi ac adolygu'r cynlluniau gweithredu;

(c)y rhoddir sylw i ganlyniadau'r cyfranogiad cyhoeddus hwnnw;

(ch)y rhoddir gwybod i'r cyhoedd am y penderfyniadau a wneir; a

(d)y darperir amserlenni rhesymol yn caniatáu digon o amser ar gyfer pob cam o gyfranogiad y cyhoedd.

PENNOD 5RHOI CYNLLUNIAU GWEITHREDU AR WAITH

Rhoi cynlluniau gweithredu ar waith

21.—(1Os bydd cynllun gweithredu neu ddiwygiad o gynllun gweithredu—

(a)wedi'i fabwysiadu yn unol â rheoliad 24; a

(b)yn nodi bod awdurdod cyhoeddus yn gyfrifol am weithred benodol,

rhaid i'r awdurdod cyhoeddus hwnnw drin y cynllun gweithredu fel pe bai'n bolisi iddo i'r graddau y mae'n ymwneud â'r weithred honno.

(2Caiff awdurdod cyhoeddus wyro oddi wrth unrhyw bolisi a grybwyllir ym mharagraff (1)—

(a)os yw'n darparu ar gyfer—

(i)y Cynulliad, a

(ii)yr awdurdod cymwys sy'n gyfrifol am baratoi'r cynllun gweithredu neu'r diwygiad (os nad y Cynulliad sy'n gyfrifol am hynny),

o roi rhesymau ysgrifenedig am wyro oddi wrth y polisi hwnnw; a

(b)os yw'n cyhoeddi'r rhesymau hynny.

(3Yn y rheoliad hwn mae “awdurdod cyhoeddus” (“public authority”) yn cynnwys unrhyw berson sy'n arfer swyddogaethau o natur gyhoeddus, ond nid yw'n cynnwys—

(a)Tŷ'r Cyffredin na Thŷ'r Arglwyddi na pherson sy'n arfer swyddogaethau mewn cysylltiad â thrafodion yn y Senedd yn Llundain;

(b)llysoedd na thribiwnlysoedd; nac

(c)y Cynulliad.

RHAN 5CYDWEITHIO AG AWDURDODAU CYMWYS ALLANOL

Cydweithio ag awdurdodau cymwys allanol

22.—(1Pan fydd angen hynny er mwyn iddo fodloni ei rwymedigaethau o dan y Rheoliadau hyn, rhaid i awdurdod cymwys wneud pob ymdrech resymol i sicrhau cydweithrediad awdurdod cymwys allanol.

(2Rhaid i awdurdod cymwys—

(a)pan ofynnir iddo wneud hynny gan awdurdod cymwys allanol; a

(b)os oes angen hynny er mwyn iddo fodloni rhwymedigaethau'r awdurdod cymwys hwnnw sy'n deillio o dan y Gyfarwyddeb,

gydweithredu â'r awdurdod cymwys allanol hwnnw.

(3Yn y Rhan hon ystyr “awdurdod cymwys allanol” (“external competent authority”) yw awdurdod cymwys yng Ngogledd Iwerddon, yr Alban, neu yn Lloegr a ddynodwyd at ddibenion Erthygl 4 o'r Gyfarwyddeb.

RHAN 6MABWYSIADU MAPIAU Sŵn STRATEGOL A CHYNLLUNIAU GWEITHREDU

Mabwysiadu mapiau sŵn strategol

23.—(1Os yw'r Cynulliad o'r farn bod map sŵn strategol—

(a)a gyflwynwyd iddo yn unol â rheoliad 11 neu 12;

(b)a gyflwynwyd iddo yn unol â pharagraff (4); neu

(c)a wnaed neu a ddiwygiwyd ganddo,

yn bodloni gofynion rheoliad (4), rhaid iddo fabwysiadu'r map.

(2Os yw'r Cynulliad o'r farn nad yw map sŵn strategol a gyflwynir iddo yn unol â rheoliad 11 neu 12 neu baragraff (4) yn bodloni'r gofynion yn rheoliad 4 caiff—

(a)gwneud newidiadau i'r map a'i fabwysiadu; neu

(b)gwrthod y map.

(3Os gwrthodir map sŵn strategol yn unol â pharagraff (2)(b) rhaid i'r Cynulliad hysbysu'r awdurdod cymwys a'i cyflwynodd—

(a)o'r rheswm pam na fabwysiadwyd y map; a

(b)o'r dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid diwygio'r map a'i ailgyflwyno.

(4Rhaid i'r sawl sy'n derbyn hysbysiad o dan baragraff (3) gyflwyno'r map sŵn strategol sydd wedi'i ddiwygio i'r Cynulliad erbyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad.

(5Mae paragraffau (1) i (4) yn gymwys i fap sŵn strategol sydd wedi'i ddiwygio fel y maent yn gymwys i fap sŵn strategol a gyflwynir yn unol â rheoliad 11 neu 12.

(6Os yw'r Cynulliad yn gwneud newidiadau i—

(a)map sŵn strategol; neu

(b)map sŵn strategol sydd wedi'i ddiwygio,

rhaid iddo gymryd y cyfryw gamau y mae o'r farn eu bod yn briodol er mwyn sicrhau bod y map yn cydymffurfio â gofynion rheoliad 4.

Mabwysiadu cynlluniau gweithredu

24.—(1Os yw'r Cynulliad o'r farn bod cynllun gweithredu—

(a)a gyflwynir iddo yn unol â rheoliad 19(1)(b), 19(3)(b) neu 19(6);

(b)a gyflwynir iddo yn unol â pharagraff (5); neu

(c)a lunnir neu a ddiwygir ganddo,

yn bodloni gofynion rheoliad 15, caiff fabwysiadu'r cynllun gweithredu.

(2Mae paragraff (3) yn gymwys—

(a)os yw'r Cynulliad o'r farn nad yw cynllun gweithredu a gyflwynir iddo yn unol â rheoliad 19(1)(b), 19(3)(b) neu 19(6) yn bodloni gofynion rheoliad 15; neu

(b)os na fabwysiedir cynllun gweithredu yn unol â pharagraff (1).

(3Pan fydd y paragraff hwn yn gymwys rhaid i'r Cynulliad—

(a)wneud newidiadau i'r cynllun a'i fabwysiadu; neu

(b)gwrthod y cynllun.

(4Os gwrthodir cynllun gweithredu yn unol â pharagraff (3)(b) rhaid i'r Cynulliad hysbysu'r awdurdod cymwys a'i cyflwynodd—

(a)o'r rheswm pam na chafodd y cynllun ei fabwysiadu; a

(b)o'r dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid diwygio ac ailgyflwyno'r cynllun.

(5Rhaid i'r sawl sy'n derbyn hysbysiad o dan baragraff (4) gyflwyno'r cynllun gweithredu sydd wedi'i ddiwygio i'r Cynulliad erbyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad.

(6Mae paragraffau (1) i (5) yn gymwys i gynllun gweithredu sydd wedi'i ddiwygio fel y maent yn gymwys i gynllun gweithredu a gyflwynir yn unol â rheoliad 19(1)(b), 19(3)(b) neu 19(6).

(7Os yw'r Cynulliad yn gwneud newidiadau i—

(a)cynllun gweithredu; neu

(b)cynllun gweithredu sydd wedi'i ddiwygio,

rhaid iddo gymryd y cyfryw gamau y mae o'r farn eu bod yn briodol er mwyn sicrhau bod y cynllun gweithredu'n cydymffurfio â gofynion y Rheoliadau hyn.

RHAN 7PWERAU'R CYNULLIAD MEWN PERTHYNAS Å SWYDDOGAETHAU AWDURDODAU CYMWYS ERAILL

Cymhwyso

25.  Nid yw'r Rhan hon yn gymwys i unrhyw swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn os y Cynulliad yw'r awdurdod cymwys ar eu cyfer.

Pwerau

26.—(1Caiff y Cynulliad ar unrhyw adeg ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cymwys ddarparu gwybodaeth mewn perthynas â'i swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn.

(2O ran cais am wybodaeth yn unol â pharagraff (1)—

(a)rhaid iddo gael ei wneud yn ysgrifenedig;

(b)caiff bennu ar ba fformat y mae'n rhaid darparu gwybodaeth; ac

(c)caiff bennu o fewn pa gyfnod o amser y mae'n rhaid i ymateb ddod i law.

(3Os bydd cais yn dod i law awdurdod yn unol â pharagraff (1) rhaid iddo ymateb—

(a)o fewn y cyfnod o amser a bennir yn unol â pharagraff (2)(c); neu

(b)os na phennir y cyfryw gyfnod, o fewn pedwar diwrnod ar ddeg i dderbyn y cais.

(4Mae paragraff (5) yn gymwys—

(a)pan fydd y Cynulliad wedi ymgynghori â'r awdurdod cymwys; a

(b)pan fydd o'r farn oherwydd unrhyw weithred neu ddiffyg gweithredu, neu unrhyw weithred debygol neu ddiffyg gweithredu tebygol gan yr awdurdod cymwys fod—

(i)un o ofynion y Rheoliadau hyn; neu

(ii)gofyniad a osodwyd ar y Deyrnas Unedig gan y Gyfarwyddeb,

yn annhebygol o gael ei fodloni.

(5Caiff y Cynulliad arfer y cyfryw swyddogaethau hynny o blith swyddogaethau'r awdurdod cymwys ag y mae o'r farn eu bod yn briodol.

Adennill treuliau

27.—(1Os bydd y Cynulliad yn tynnu treuliau yn unol â—

(a)rheoliad 23(2);

(b)rheoliad 24(3); neu

(c)rheoliad 26(5),

caiff adennill y treuliau hynny oddi wrth yr awdurdod cymwys perthnasol ar ffurf dyled sifil.

(2Yn y rheoliad hwn ystyr “awdurdod cymwys perthnasol” (“relevant competent authority”)—

(a)mewn perthynas â rheoliad 23(2), yw'r awdurdod cymwys a gyflwynodd y map swn strategol yn unol â rheoliad 11 neu 12;

(b)mewn perthynas â rheoliad 24(3), yw'r awdurdod cymwys a gyflwynodd y cynllun gweithredu yn unol â rheoliad 19; ac

(c)mewn perthynas â rheoliad 26(5), yw'r awdurdod cymwys y mae'r Cynulliad yn arfer ei swyddogaethau yn unol â'r rheoliad hwnnw.

RHAN 8GWYBODAETH I'R CYHOEDD

Awdurdod Cymwys

28.  Yr awdurdod cymwys o ran y Rhan hon yw'r Cynulliad.

Argaeledd mapiau sŵn strategol a chynlluniau gweithredu

29.—(1Rhaid i unrhyw—

(a)map sŵn strategol y sicrheir ei fod ar gael i'r cyhoedd cyn iddo gael ei fabwysiadu'n unol â rheoliad 23; neu

(b)cynllun gweithredu y sicrheir ei fod ar gael i'r cyhoedd cyn iddo gael ei fabwysiadu'n unol â rheoliad 24,

gynnwys, a hynny mewn lle amlwg, eiriau yn nodi mai drafft ydyw hyd oni chaiff ei fabwysiadu gan y Cynulliad.

(2Rhaid i unrhyw—

(a)map sŵn strategol a gaiff ei fabwysiadu'n unol â rheoliad 23; neu

(b)cynllun gweithredu a gaiff ei fabwysiadu'n unol â rheoliad 24,

gael ei gyhoeddi gan yr awdurdod cymwys yn unol â gofynion paragraff (3).

(3O ran map sŵn strategol neu gynllun gweithredu a gyhoeddir yn unol â pharagraff (2)—

(a)rhaid bod crynodeb yn mynd gydag ef sy'n nodi'r pwyntiau pwysicaf;

(b)rhaid ei arddangos ar wefan y Cynulliad;

(c)rhaid iddo fod ar gael i'w archwilio yn ystod oriau swyddfa arferol ym mhrif swyddfa'r Cynulliad; ac

(ch)rhaid ei gyflenwi am ffi resymol pan ofynnir amdano.

RHAN 9CANLLAWIAU

30.  Rhaid i awdurdod cymwys, wrth arfer unrhyw un neu rai o'i swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn, roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan y Cynulliad o dan y rheoliad hwn.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(9).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

3 Hydref 2006

rheoliadau 4 a 9

ATODLEN 1Y LLEIAF O'R GOFYNION AR GYFER MAPIO Sŵn STRATEGOL

Dehongli

1.  Yn yr Atodlen hon—

ystyr “grid” (“grid”) yw grid o bwyntiau fector—

(a)

a chanddynt fylchau 10 metr wrth 10 metr rhyngddynt,

(b)

a chanddynt gyfeiriad gofodol i system gyfeirio'r Grid Cenedlaethol Prydeinig a ddefnyddir gan yr Arolwg Ordnans, a hynny fel pâr o gyfanrifau i ddangos mewn metrau Ddwyreiniau ac yna Ogleddiadau o'r tarddiad, ac

(c)

sydd wedi'u halinio â fertigau 10 metr system gyfeirio'r Grid Cenedlaethol Prydeinig a ddefnyddir gan yr Arolwg Ordnans a hynny fel bod y cyfeiriadau'n diweddu â'r Rhif sero;

ystyr “y gellir eu golygu” (“editable”) yw eu bod ar fformat sy'n caniatáu cynhyrchu'n electronig (heb fod angen trin y fformat)—

(a)

data Rhif iadol mewn tablau, a

(b)

plotiau graffigol,

er mwyn arddangos yr wybodaeth a ddisgrifir ym mharagraffau 1.5, 1.6, 1.7, 2.5, 2.6 a 2.7 o Atodiad VI i'r Gyfarwyddeb.

Gofynion cyffredinol ar gyfer mapiau sŵn strategol

2.—(1Rhaid i fapiau sŵn strategol a'u diwygiadau—

(a)bodloni'r lleiaf o'r gofynion a osodir yn Atodiad IV i'r Gyfarwyddeb; a

(b)bod yn glir ac yn ddealladwy.

(2Wrth gymhwyso paragraff 1(a) mae unrhyw gyfeiriad yn Atodiad IV i'r Gyfarwyddeb at—

(a)Erthygl 8 o'r Gyfarwyddeb i'w ystyried yn gyfeiriad at reoliadau 15, 17 ac 19 o'r Rheoliadau hyn;

(b)Erthygl 9 o'r Gyfarwyddeb i'w ystyried yn gyfeiriad at reoliad 29 o'r Rheoliadau hyn.

Gofynion ar gyfer mapiau sŵn strategol i grynodrefi

3.—(1Dim ond i'r canlynol y mae'r paragraff hwn yn gymwys—

(a)map sŵn strategol a wnaed o dan reoliad 7(1)(a), 7(2)(a), 12(1) neu 12(2); neu

(b)diwygiad o'r cyfryw fap sŵn strategol.

(2Rhaid i fapiau sŵn strategol—

(a)cynnwys (ar fformat electronig) yr wybodaeth a ddisgrifir ym mharagraffau 1.1 i 1.4 yn gynhwysol o Atodiad VI i'r Gyfarwyddeb; a

(b)cynnwys ar fformat electronig ddata Rhif iadol y gellir eu golygu sy'n cynnwys y gwerthoedd Lden, Lnight a'r dangosyddion sŵn atodol ar grid.

Gofynion ar gyfer mapiau sŵn strategol i brif ffyrdd, prif reilffyrdd a phrif feysydd awyr

4.—(1Dim ond i'r canlynol y mae'r paragraff hwn yn gymwys—

(a)unrhyw fap sŵn strategol a wnaed o dan—

(i)rheoliad 7(1)(b) i (ch),

(ii)rheoliad 7(2)(b) i (ch),

(iii)rheoliad 11(2); neu

(b)unrhyw ddiwygiad o'r cyfryw fap.

(2Rhaid i fapiau sŵn strategol—

(a)cynnwys yr wybodaeth (ar fformat electronig) a ddisgrifir ym mharagraffau 2.1 i 2.4 yn gynhwysol o Atodiad VI i'r Gyfarwyddeb; a

(b)cynnwys ar fformat electronig ddata Rhif iadol y gellir eu golygu sy'n cynnwys gwerthoedd Lden, Lnight a'r dangosyddion sŵn atodol ar grid.

rheoliad 4

ATODLEN 2DULLIAU ASESU AR GYFER DANGOSYDDION Sŵn

Rhagarweiniad

1.—(1Rhaid canfod gwerthoedd Lden, Lnight a'r dangosyddion sŵn atodol drwy gyfrifiannu (yn y safle asesu).

(2Yn yr Atodlen hon—

ystyr “Argymhelliad” (“Recommendation”) yw Argymhelliad y Comisiwn 2003/613/EC dyddiedig 6 Awst 2003 ynghylch y canllawiau ar ddulliau cyfrifiannu interim diwygiedig ar gyfer sŵn diwydiannol, sŵn awyrennau, sŵn traffig ffyrdd a sŵn rheilffyrdd, a data gollyngiadau perthynol(10);

ystyr “safle asesu” (“assessment position”) yw'r uchder asesu ym mharagraff 7 o Atodiad IV i'r Gyfarwyddeb.

Dull asesu ar gyfer dangosyddion sŵn traffig ffyrdd

2.  Ar gyfer dangosyddion traffig ffyrdd rhaid defnyddio'r dull asesu “Calculation of road traffic noise” (Yr Adran Drafnidiaeth, 7 Mehefin 1988, Y Llyfrfa)(11) wedi'i addasu gan ddefnyddio'r adroddiad “Method for converting the UK road traffic noise index LA10,18h to the EU noise indeces for road noise mapping” (DEFRA, 24 Ionawr 2006)(12).

Dull asesu ar gyfer dangosyddion swn rheilffyrdd

3.  Ar gyfer dangosyddion sŵn rheilffyrdd rhaid defnyddio'r dull asesu “Calculation of railway noise” (Yr Adran Drafnidiaeth, 13 Gorffennaf 1995, Y Llyfrfa)(13) wedi'i addasu fel a welir yn Ffigur 6.5 yn yr adroddiad “Rail and wheel roughness – implications for noise mapping based on the Calculation of Railway Noise procedure” (DEFRA, Mawrth 2004)(14).

Dulliau asesu ar gyfer dangosyddion sŵn awyrennau

4.  Ar gyfer sŵn awyrennau rhaid defnyddio'r dull asesu “Report on Standard Method of Computing Noise Contours around Civil Airports” (Ailargraffiad, Y Gynhadledd Ewropeaidd ar Hedfan Sifil, 2-3 Gorffennaf 1997)(15) a hynny'n unol â pharagraff 2.4 o'r Atodiad i'r Argymhelliad.

Dulliau asesu ar gyfer dangosyddion sŵn diwydiannol a dangosyddion sŵn porthladdoedd

5.—(1Ar gyfer dangosyddion sŵn diwydiannol a dangosyddion sŵn porthladdoedd rhaid defnyddio'r dull lledaenu o asesu a ddisgrifir yn “ISO 9613-2:1996 Acoustics – Attenuation of sound during propagation outdoors – Part 2: General method of calculation” (International Standards Organisation, 1996) a hynny'n unol â pharagraff 2.5 o'r Atodiad i'r Argymhelliad.

(2Gellir cael data gollyngiadau sŵn addas (data mewnbwn) ar gyfer “ISO 9613-2:1996 Acoustics – Attenuation of sound during propagation outdoors – Part 2: General method of calculation” naill ai o fesuriadau a wneir yn unol ag un o'r dulliau canlynol:

(a)“Acoustics. Determination of sound power levels of multisource industrial plants for evaluation of sound pressure levels in the environment. Engineering method” (BS ISO 8297:1994, Y Sefydliad Safonau Prydeinig);

(b)“Acoustics. Determination of sound power levels of noise sources using sound pressure. Engineering method in an essentially free field over a reflecting plane” (BS EN ISO 3744: 1995, Y Sefydliad Safonau Prydeinig);

(c)“Acoustics. Determination of sound power levels of noise sources using sound pressure. Survey method using an enveloping measurement surface over a reflecting plane” (BS EN ISO 3746:1996, Y Sefydliad Safonau Prydeinig),

neu drwy ddefnyddio Arweinlyfr 10 o “Good Practice Guide for Strategic Noise Mapping and the Production of Associated Data on Noise Exposure Version 2, Position Paper Final Draft” (Asesiad Gweithgor y Comisiwn Ewropeaidd o Fod o Fewn Clyw i Sŵn, 13 Ionawr 2006).

rheoliad 4

ATODLEN 3DANGOSYDDION Sŵn ATODOL

Dehongli

1.  Yn yr Atodlen hon—

  • “LA10, 18h” yw'r lefel sŵn cymedr Rhif yddol mewn dB(A) yr aed y tu hwnt iddi am 10% o bob awr dros y cyfnod 06:00 – 24:00 o'r gloch;

  • “LAeq, 16h” yw'r lefel sŵn parhaus cyfatebol mewn dB(A) sydd, dros y cyfnod 07:00 – 23:00 o'r gloch, yn cynnwys yr un ynni sŵn â'r gwir sŵn amrywiol a oedd i'w glywed yn y cyfnod hwnnw;

  • “LAeq, 18h” yw'r lefel sŵn parhaus cyfatebol mewn dB(A) sydd, dros y cyfnod 06:00 – 24:00 o'r gloch, yn cynnwys yr un egni sŵn â'r gwir sŵn amrywiol a oedd i'w glywed yn y cyfnod hwnnw;

  • “LAeq, 6h” yw'r lefel sŵn parhaus cyfatebol mewn dB(A) sydd, dros y cyfnod 24:00 – 06:00 o'r gloch, yn cynnwys yr un egni sŵn â'r gwir sŵn amrywiol a oedd i'w glywed yn y cyfnod hwnnw.

Swn Traffig Ffyrdd

2.  Y dangosyddion sŵn atodol mewn perthynas â sŵn traffig ffyrdd yw

(a)LA10,18h;

(b)LAeq, 16h;

(c)Lday; ac

(ch)Levening.

Sŵn Rheilffyrdd

3.  Y dangosyddion sŵn atodol mewn perthynas â sŵn rheilffyrdd yw—

(a)LAeq, 16h;

(b)LAeq, 18h;

(c)LAeq,6h;

(ch)Lday; a

(d)Levening.

Sŵn Awyrennau

4.  Y dangosyddion sŵn atodol mewn perthynas â sŵn awyrennau yw—

(a)LAeq, 16h;

(b)Lday; ac

(c)Levening.

Sŵn Diwydiannol a Sŵn Porthladdoedd

5.  Y dangosyddion sŵn atodol mewn perthynas â sŵn diwydiannol a sŵn porthladdoedd yw—

(a)LAeq, 16h;

(b)Lday; a

(c)Levening.

rheoliad 15

ATODLEN 4Y LLEIAF O OFYNION Y CYNLLUNIAU GWEITHREDU

Cyffredinol

1.—(1Rhaid i gynllun gweithredu—

(a)bodloni'r lleiaf o'r gofynion yn Atodiad V i'r Gyfarwyddeb; a

(b)cynnwys crynodeb, heb fod yn fwy nad deg tudalen o hyd, yn cwmpasu pob un o'r agweddau pwysig y cyfeirir atynt yn Atodiad V i'r Gyfarwyddeb.

(2Wrth gymhwyso paragraff (1) mae unrhyw gyfeiriad yn Atodiad V i'r Gyfarwyddeb at—

(a)Erthygl 5 o'r Gyfarwyddeb i'w ystyried yn gyfeiriad at reoliad 4 o'r Rheoliadau hyn;

(b)Erthygl 8(7) o'r Gyfarwyddeb i'w ystyried yn gyfeiriad at reoliad 20 o'r Rheoliadau hyn.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu Cyfarwyddeb 2002/49/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor dyddiedig 25 Mehefin 2002 sy'n ymwneud ag asesu a rheoli sŵn amgylcheddol (O.J. Rhif L189, 18.07.2002, t.12) (y 'Gyfarwyddeb').

Mae asesiad llawn o'r effaith a gaiff y Rheoliadau hyn ar gostau busnes ar gael (gweler y tabl isod).

Ac eithrio rheoliad 22(2), dim ond i ffynonellau sŵn yng Nghymru y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys.

Mapiau sŵn strategol

Gwneir y mapiau sŵn strategol mewn dau gylch, y cyntaf yn 2007 a'r ail yn 2012. Yn yr ail gylch, bydd yn rhaid mapio nifer fwy o'r un math o ffynonellau sŵn nag a wneir yn y cylch cyntaf. Ar ôl hynny, bydd yn rhaid gwneud mapiau sŵn strategol bob pum mlynedd.

Mae rheoliad 3 yn ei gwneud yn ofynnol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (y Cynulliad) nodi'r ffynonellau sŵn y mae'n rhaid gwneud mapiau sŵn strategol ar eu cyfer. Mae Rheoliad 7 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad wneud mapiau sŵn strategol ar gyfer crynodrefi, prif ffyrdd, prif reilffyrdd a phrif feysydd awyr a ddynodir o dan adran 80 at ddibenion adran 78 o Ddeddf Hedfan Sifil 1982 (1982 p.16). O bryd i'w gilydd, a pha bryd bynnag y bydd prif ddatblygiad yn digwydd, rhaid i'r Cynulliad adolygu mapiau sŵn strategol (a'u diwygio, os bydd angen).

Mae rheoliadau 11 a 12 yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr meysydd awyr wneud mapiau sŵn strategol ar gyfer meysydd awyr nad ydynt yn ddynodedig o dan Ddeddf Hedfan Sifil 1982. Bydd angen gwneud mapiau sŵn strategol ar gyfer: (i) pob prif faes awyr nad yw'n ddynodedig; a (ii) sŵn mewn crynodrefi sy'n deillio o unrhyw feysydd awyr nad ydynt yn brif feysydd awyr (os yw sŵn awyrennau yn arwain at werth 55 Lden neu 50 Lnight yn unrhyw le yn y crynodrefi hynny). Bydd angen adolygu mapiau sŵn strategol (a'u diwygio, os bydd angen) o bryd i'w gilydd, a pha bryd bynnag y bydd prif ddatblygiad yn digwydd. Ar ôl i fapiau sŵn strategol gael eu gwneud, rhaid i weithredwyr y maes awyr eu cyflwyno (neu gyflwyno diwygiadau ohonynt) i'r Cynulliad i'w mabwysiadu.

Rhaid i bob map sŵn strategol fodloni'r gofynion a osodir yn rheoliad 4.

Mae rheoliad 4 ac Atodlen 3 yn pennu pa ddangosyddion sŵn a pha ddangosyddion sŵn atodol y mae'n rhaid eu defnyddio wrth wneud mapiau sŵn strategol. Mae Atodlen 2 yn gosod y dulliau asesu sydd i'w defnyddio i gyfrifiannu gwerthoedd dangosyddion sŵn. Pennir dulliau gwahanol ar gyfer pob ffynhonnell sŵn.

Mae rheoliad 13 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad nodi mannau tawel mewn crynodrefi.

Cynlluniau gweithredu

Rhaid llunio cynlluniau gweithredu mewn dau gylch (y cyntaf yn 2008 a'r ail yn 2013) yn sgil y ddau gylch o fapiau sŵn strategol y seilir y cynlluniau gweithredu arnynt.

Mae rheoliad 14 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad gyhoeddi canllawiau ar sut y dylid nodi'r blaenoriaethau yn y cynlluniau gweithredu.

Mae rheoliad 15 yn gosod y gofynion ar gyfer cynlluniau gweithredu.

Mae rheoliad 17 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad lunio cynlluniau gweithredu ar gyfer lleoedd ger prif ffyrdd a phrif reilffyrdd, ac ar gyfer crynodrefi. Rhaid i'r Cynulliad adolygu (a diwygio, os oes angen) y cynlluniau gweithredu bob pum mlynedd neu'n gynharach os bydd prif ddatblygiad yn digwydd.

Mae rheoliad 19 yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr meysydd awyr lunio cynlluniau gweithredu mewn perthynas â phrif feysydd awyr. Rhaid i'r gweithredwr maes awyr adolygu'r cynlluniau gweithredu (a'u diwygio, os bydd angen) bob pum mlynedd neu'n gynharach os bydd prif ddatblygiad yn digwydd. Ar ôl i gynllun gweithredu gael ei lunio neu'i ddiwygio, rhaid i'r gweithredwyr meysydd awyr gyflwyno cynllun gweithredu i'r Cynulliad i'w fabwysiadu.

Mae rheoliad 20 yn pennu'r cyfranogiad cyhoeddus sy'n ofynnol yn ystod cyfnod llunio a diwygio'r cynlluniau gweithredu.

Mae rheoliad 21 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus drin cynlluniau gweithredu fel pe baent yn bolisi i'r graddau y mae'r cynllun gweithredu yn nodi mai hwy sy'n gyfrifol am weithred benodol. Caiff awdurdodau cyhoeddus wyro oddi wrth y polisïau hyn o dan amgylchiadau penodedig.

Darpariaethau eraill

Mae rheoliad 22 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cymwys yng Nghymru gydweithio â'u cymheiriaid yng Ngogledd Iwerddon, yn yr Alban ac yn Lloegr pan fydd angen gwneud hynny er mwyn bodloni rhwymedigaethau o dan y Rheoliadau hyn neu o dan y Gyfarwyddeb.

Mae rheoliadau 23 a 24 yn gosod y mecanwaith y mae'r Cynulliad yn ei ddefnyddio i fabwysiadu mapiau sŵn strategol a chynlluniau gweithredu yn y drefn honno.

Mae rheoliad 26 yn rhoi'r pŵer i'r Cynulliad i'w gwneud yn ofynnol i awdurdodau cymwys roi gwybodaeth mewn perthynas â'u rhwymedigaethau o dan y Rheoliadau neu i gamu i mewn a chyflawni swyddogaethau awdurdodau cymwys o dan amgylchiadau penodedig.

Mae Rheoliad 27 yn rhoi pŵer i'r Ysgrifennydd Gwladol i adennill treuliau penodol oddi wrth awdurdodau cymwys.

Mae Rheoliad 29 yn gosod gofynion ar gyfer cyhoeddi mapiau sŵn strategol a chynlluniau gweithredu.

Mae Rheoliad 30 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cymwys roi sylw i unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan y Cynulliad.

Tabl

Argaeledd dogfennau y cyfeirir atynt yn y Rheoliadau

DogfenLle y gellir cael y ddogfenLle y gellir edrych ar y ddogfen
Safon Brydeinig BS EN 61672-2: 2003, (ISBN 0- 580-42224-0)Y Sefydliad Safonau Prydeinig (www.standards direct.org/standards /standards2 /Standards Catalogue 24_view _17041.html)Prif swyddfa Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
Cyfarwyddeb 2002/49/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor 25 Mehefin 2002 sy'n ymwneud ag asesu a rheoli swn amgylcheddol (O.J. Rhif L 189, 18.07.2002, t. 12)http://europa.eu. int/eur-lex/ pri/en/oj/dat/2002/1 _189/1_189200207 18en00120025.pdfPrif swyddfa Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
“SPIRE Data Standard, Version 1.0” (DEFRA 25 Tachwedd 2004Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig [XXXX (http://www.defra. gov.uk/environment/ noise/ambient.htm)]Prif swyddfa Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
Argymhelliad y Comisiwn 2003/613/EC dyddiedig 6 Awst 2003 ynghylch y canllawiau ar y dulliau cyfrifiannu interim diwygiedig ar gyfer sŵn diwydiannol, sŵn awyrennau, sŵn traffig ffyrdd a sŵn rheilffyrdd, a data cysylltiedig ynghylch gollyngiadau (O.J. Rhif L212, 22.8.2003, t. 49.)http://europa.eu. int/eur-lex/pri/en/oj /dat/2003/l_212/l_ 21220030822en00 490064.pdfPrif swyddfa Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
“Calculation of road traffic noise” (Yr Adran Drafnidiaeth, 7 Mehefin 1988, HMSO) (ISBN 0115508473Y Llyfrfa (http://www. tsoshop.co.uk)Prif swyddfa Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
“Method for converting the UK road traffic noise index LA10,18h to the EU noise indicesfor road noise mapping” (DEFRA, 24 Ionawr 2006Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion GwledigPrif swyddfa Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
“Calculation of railway noise” (Yr Adran Drafnidiaeth 13 Gorffennaf 1995, HMSO) (ISBN 0115517545)Y Llyfrfa (http://www. tsoshop.co.uk)Prif swyddfa Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
“Calculation of railway noise 1995 Supplement No. 1 Procedure for the calculation of noise from Eurostar trains class 373” (Yr Adran Drafnidiaeth, 20 Hydref 1996, Y Llyfrfa) (ISBN 0115518738)Y Llyfrfa (http://www. tsoshop.co.ukPrif swyddfa Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
“Rail and wheel roughness – implications for noise mapping based on the Calculation of Railway Noise procedure” (DEFRA Mawrth 2004)Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (http://www.defra. gov.uk/environment /noise/mapping/rail /index.htm)Prif swyddfa Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
“Report on Standard Method of Computing Noise Contours around Civil Airports” (Ailargraffiad, Cynhadledd Hedfan Sifil Ewrop 2-3 Gorffennaf 1997)Cynhadledd Hedfan Sifil Ewrop (http://www.ecac- ceac.org/index.php ?content=docstype &idtype=38)Prif swyddfa Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
“ISO 9613-2:1996 Acoustics – Attenuation of sound during propagation outdoors – Part 2: General method of calculation” (Y Sefydliad Safonau Rhyngwladol, 1996)Y Sefydliad Rhyngwladol er Safoni (http://www.iso.ch)Prif swyddfa'r Adran dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
“Acoustics. Determination of sound power levels of multisource industrial plants for evaluation of sound pressure levels in the environment. Engineering method” (BS ISO 8297: 1994, Y Sefydliad Safonau Prydeinig)Y Sefydliad Safonau Prydeinig (http://www.standards direct.org/standards/ standards3/Standards Catalogue24_view_ 23347.html)Prif swyddfa Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
“Acoustics. Determination of sound power levels of noise sources using sound pressure. Engineering method in an essentially free field over a reflecting plane” (BS EN ISO 3744:1995, Y Sefydliad Safonau Prydeinig)Y Sefydliad Safonau Prydeinig (http://www.standards direct.org/standards/ standards2/Standards Catalogue24_view_ 19606.html)Prif swyddfa Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
“Acoustics. Determination of sound power levels of noise sources using sound pressure. Survey method using an enveloping measurement surface over a reflecting plane” (BS EN ISO 3746:1996, Y Sefydliad Safonau Prydeinig)Y Sefydliad Safonau Prydeinig (http://www.standar dsdirect.org/standards/ standards2/Standards Catalogue24_view_ 19608.html)Prif swyddfa Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
“Good Practice Guide for Strategic Noise Mapping and the Production of Associated Data on Noise Exposure Version 2, Position Paper Final Draft” (Asesiad Gweithgor y Comisiwn Ewropeaidd o Fod o Fewn Clyw Sŵn, 13 Ionawr 2006)Asesiad Gweithgor y Comisiwn Ewropeaidd o Fod o Fewn Clyw Sŵn (http://www.defra. gov.uk/environment/ noise/mapping /exposure/pdf/ exposuredata- guide.pdf)Prif swyddfa Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
(3)

O.J. Rhif L189, 18.07.2002, t. 12.

(4)

ISBN 0-580-42224-0.

(5)

1984 p.27; diwygiwyd adran 17 gan Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 (p.22), Atodlen 8, paragraff 28 ac Atodlen 9, a chan Ddeddf Traffig Ffyrdd 1991 (p.40), Atodlen 7, paragraff 3 ac Atodlen 8.

(6)

1980 p.66. Mae Atodlen 4 wedi'i diwygio gan Ddeddf Traffig Ffyrdd (Darpariaethau Canlyniadol) 1988 (p.54), Atodlen 3, paragraff 21(3).

(8)

Rhaglen SPIRE, Cyfeirnod y Cynnyrch: SIP – DP – 011.

(10)

O.J. Rhif L212, 22.8.2003, t. 49.

(11)

ISBN 0115508473.

(12)

Paratowyd gan TRL Limited a Casella Stanger, Cyfeirnod y Ddogfen st/05/91/AGG04442.

(13)

ISBN 0115517545.

(14)

Paratowyd gan AEA Technology plc, Cyfeirnod y Ddogfen: AEATR-PC&E-2003-002.

(15)

Mabwysiadwyd gan Unfed Cyfarfod Llawn ar Hugain ECAC, Cyfeirnod y Ddogfen: ECAC.CEAC Doc. 29.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill