Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Dyrannu Tai (Cymru) (Diwygio) 2006

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2006 Rhif 2645 (Cy.226)

TAI, CYMRU

Rheoliadau Dyrannu Tai (Cymru) (Diwygio) 2006

Wedi'u gwneud

3 Hydref 2006

Yn dod i rym

9 Hydref 2006

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 160A(3) a 172(4) o Ddeddf Tai 1996(1) ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2) yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dyrannu Tai (Cymru) (Diwygio) 2006 a deuant i rym ar 9 Hydref 2006.

(2Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Tai 1996; ac

ystyr “y Rheolau Mewnfudo” (“the Immigration Rules”) yw'r rheolau a osodwyd fel a grybwyllir yn adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 1971(3) (Darpariaethau cyffredinol ar gyfer rheoleiddio a rheoli).

(3Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio'r dosbarthau o berson a ragnodir o dan adran 160A(3) ac sy'n bersonau cymwys

2.—(1Diwygir Rheoliadau Dyrannu Tai (Cymru) 2003(4) fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 4 (Dosbarthiadau a ragnodwyd o dan adran 160A(3) ac sy'n bersonau cymwys)—

(a)ar ddiwedd paragraff (d)(ii), ar ôl “1961”, hepgorer “.” a rhodder yn ei le “;”; a

(b)ar ôl paragraff (d), mewnosoder—

(e)Dosbarth D1 —“person sydd o dan ofal dyngarol a roddwyd o dan y Rheolau Mewnfudo.

Darpariaethau trosiannol

3.  Nid oes gan y diwygiad a wneir gan y Rheoliadau hyn effaith mewn perthynas â cheisydd a wnaeth gais cyn 9 Hydref 2006 am ddyraniad o lety tai o dan Ran 6 o Ddeddf 1996.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5)

D.Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

3 Hydref 2006

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â dyrannu llety tai o dan Ran 6 o Ddeddf Tai 1996 (“Deddf 1996”).

Mae rheoliad 2 yn diwygio darpariaethau Rheoliadau Dyrannu Tai (Cymru) 2003 sy'n rhagnodi'r dosbarthau o bersonau sy'n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo ac sy'n gymwys i ddyraniad o lety tai. Mae'r Rheoliadau hyn yn mewnosod dosbarth newydd o bersonau sy'n gymwys i ddyraniad o lety tai ac sy'n bersonau o dan ofal dyngarol. Math ar ganiatâd a roddir i bersonau nad ydynt yn gymwys i fod â statws ffoadur ond a fyddai'n wynebu gwir risg o ddioddef niwed difrifol pe baent yn cael eu dychwelyd i'r wladwriaeth y maent yn hanu ohoni (gweler paragraffau 339C-344C o'r Rheolau Mewnfudo (HC 395)) yw gofal dyngarol.

Nid yw'r diwygiadau a wnaed gan y Rheoliadau hyn yn effeithio ar geisiadau am ddyraniad o lety tai a wnaed cyn 9 Hydref 2006.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adrannau hyn, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672, ac Atodlen 1 iddo.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill