Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Ffliw Adar (Brechu) (Cymru) (Rhif 2) 2006

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ffliw Adar (Brechu) (Cymru) (Rhif 2) 2006.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 14 Tachwedd 2006.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “aderyn caeth arall” (“other captive bird”) yw unrhyw aderyn a gedwir yn gaeth ac nad yw'n ddofednyn, ac mae'n cynnwys aderyn anwes ac aderyn a gedwir ar gyfer sioeau, rasys, arddangosfeydd, cystadlaethau, ar gyfer bridio neu i'w werthu;

ystyr “arolygydd” (“inspector”) yw arolygydd a benodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol neu awdurdod lleol at ddibenion y Rheoliadau hyn neu o dan y Ddeddf, ac oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall, mae'n cynnwys arolygydd milfeddygol;

ystyr “arolygydd milfeddygol” (“veterinary inspector”) yw person a benodwyd felly gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion y Rheoliadau hyn neu o dan y Ddeddf;

ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) o ran ardal yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol ar gyfer yr ardal honno;

ystyr “cynllun brechu” (“vaccination plan”) yw naill ai cynllun brechu brys neu gynllun brechu ataliol;

mae i “cynllun brechu ataliol” yr un ystyr ag sydd i “preventative vaccination plan” yn Erthygl 56 o'r Gyfarwyddeb;

mae i “cynllun brechu brys” yr un ystyr ag sydd i “emergency vaccination plan” yn Erthygl 53 o'r Gyfarwyddeb;

ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ;

ystyr “dofednod” (“poultry”) yw'r holl adar sy'n cael eu magu neu'u cadw'n gaeth i gynhyrchu cig i'w fwyta neu wyau i'w bwyta, cynhyrchu cynhyrchion eraill, ailstocio cyflenwadau o adar hela neu at ddibenion unrhyw raglen fridio ar gyfer cynhyrchu'r categorïau hyn o adar;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981(1);

ystyr “ffliw adar” (“avian influenza”) yw haint mewn dofednod neu adar caeth eraill a achosir gan unrhyw firws ffliw A o'r is-deipiau H5 neu H7 neu firws sydd â mynegrif pathogenedd mewnwythiennol uwch nag 1.2 mewn cywion ieir chwe wythnos oed;

ystyr “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2005/94/EC ar fesurau Cymunedol i reoli ffliw adar a honno'n Gyfarwyddeb sy'n diddymu Cyfarwyddeb 92/40/EEC(2);

ystyr “hysbysiad brechu” (“vaccination notice”) yw naill ai hysbysiad brechu brys neu hysbysiad brechu ataliol;

mae i “hysbysiad brechu ataliol” (“preventive vaccination notice”) yr ystyr a roddir iddo gan reoliad 7(1)(b)(ii);

mae i “hysbysiad brechu brys” (“emergency vaccination notice”) yr ystyr a roddir iddo gan reoliad 6(1)(b);

ystyr “lladd-dy” (“slaughterhouse”) yw sefydliad a ddefnyddir i gigydda dofednod, y mae eu cig wedi'i fwriadu i'w fwyta gan bobl;

mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw dir, adeilad neu le;

ystyr “meddiannydd” (“occupier”) o ran unrhyw fangre yw'r person sydd â gofal y fangre honno;

ystyr “parth brechu” (“vaccination zone”) yw naill ai parth brechu brys neu barth brechu ataliol;

mae i “parth brechu ataliol” (“preventive vaccination zone”) yr ystyr a roddir iddo gan reoliad 7(1)(b)(i);

mae i “parth brechu brys” (“emergency vaccination zone”) yr ystyr a roddir iddo gan reoliad 6(1)(a); ac

mae i “trwydded brechu” (“vaccination licence”) yr ystyr a roddir iddo gan reoliad 7(1)(a).

(2Mae i ymadroddion Cymraeg a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn sy'n cyfateb i ymadroddion Saesneg a ddiffinnir yn y Gyfarwyddeb yr un ystyr ag sydd i'r ymadroddion Saesneg hynny yn y Gyfarwyddeb.

Cwmpas y Rheoliadau

3.  Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i adar a gedwir mewn sw yn ystyr Rheoliadau Ffliw Adar (Mesurau Ataliol) (Cymru) 2006(3).

Datganiadau, hysbysiadau a thrwyddedau

4.—(1O ran datganiadau parth brechu o dan y Rheoliadau hyn —

(a)rhaid iddynt fod yn ysgrifenedig;

(b)caniateir eu diwygio, neu'u dirymu, drwy ddatganiad pellach, ar unrhyw adeg;

(c)rhaid iddynt ddynodi hyd a lled y parth a ddatgenir;

(ch)rhaid iddynt restru neu gyfeirio at y mesurau sy'n gymwys yn y parth ac, os ydynt yn gymwys mewn rhan yn unig o'r parth, bennu ym mha ran y maent yn gymwys; a

(d)rhaid iddynt ddatgan pa gategorïau o adar y mae'r mesurau yn gymwys iddynt.

(2Rhaid i hysbysiadau a ddyroddir o dan y Rheoliadau hyn fod yn ysgrifenedig a chaniateir eu diwygio neu eu dirymu, drwy hysbysiad pellach, ar unrhyw adeg.

(3O ran hysbysiadau brechu a ddyroddir o dan y Rheoliadau hyn—

(a)rhaid iddynt restru neu gyfeirio at y mesurau sy'n gymwys yn y fangre ac, os ydynt yn gymwys i ran yn unig o'r fangre, rhaid iddynt bennu i ba ran y maent yn gymwys; a

(b)rhaid iddynt ddatgan pa gategorïau o adar y mae'r mesurau yn gymwys iddynt.

(4O ran trwyddedau a roddir o dan y Rheoliadau hyn—

(a)rhaid iddynt fod yn ysgrifenedig;

(b)caniateir iddynt fod yn gyffredinol neu'n benodol;

(c)caniateir iddynt fod yn ddarostyngedig i unrhyw amod y mae'r person sy'n rhoi'r drwydded yn barnu ei fod yn angenrheidiol er mwyn lleihau risg lledu ffliw adar; a

(ch)caniateir eu diwygio, eu hatal neu eu dirymu, yn ysgrifenedig, ar unrhyw adeg,

ac yn achos trwyddedau brechu, rhaid iddynt hefyd bennu'r materion a nodir ym mharagraff (3)(a) a (b).

(5Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod hyd a lled unrhyw barth brechu a ddatgenir o dan y Rheoliadau hyn, natur y cyfyngiadau a'r gofynion sy'n gymwys ynddo a dyddiadau ei ddatgan a'i dynnu yn ôl yn cael eu cyhoeddi.

(6Mae trwyddedau symud a roddir yn yr Alban neu'n Lloegr ar gyfer gweithgareddau y gellid eu trwyddedu yng Nghymru o dan y Rheoliadau hyn yn effeithiol yng Nghymru fel petaent yn drwyddedau symud a roddid o dan y Rheoliadau hyn, ond caiff arolygydd sy'n gweithredu o dan gyfarwyddyd y Cynulliad Cenedlaethol gyflwyno hysbysiad i unrhyw berson sy'n symud unrhyw beth o dan awdurdod y cyfryw drwydded, gan ei gyfarwyddo i'w symud i'r fangre a bennir yn yr hysbysiad a'i gadw yno neu ei symud y tu allan i Gymru.

(7Rhaid i berson sy'n symud unrhyw beth o dan awdurdod trwydded symud benodol a roddwyd o dan y Rheoliadau hyn—

(a)cadw'r drwydded, neu gopi ohoni, gydag ef bob amser yn ystod y symudiad trwyddedig;

(b)os gofynnir iddo wneud hynny gan arolygydd awdurdod lleol, arolygydd milfeddygol neu unrhyw un o swyddogion eraill y Cynulliad Cenedlaethol, ddangos y drwydded neu'r copi a chaniatáu i gopi neu ddyfyniad ohoni gael ei gymryd; ac

(c)os gofynnir iddo wneud hynny, roi ei enw a'i gyfeiriad.

(8Rhaid i berson sy'n symud unrhyw beth o dan awdurdod trwydded symud gyffredinol a roddwyd o dan y Rheoliadau hyn—

(a)cadw gydag ef bob amser yn ystod y symudiad trwyddedig nodyn traddodi sy'n cynnwys manylion—

(i)yr hyn sy'n cael ei symud (gan gynnwys faint ohono);

(ii)dyddiad y symudiad;

(iii)enw'r traddodwr;

(iv)cyfeiriad y fangre y dechreuwyd y symudiad ohoni;

(v)enw'r traddodai; a

(vi)cyfeiriad y gyrchfangre;

(b)dangos, os gofynnir iddo wneud hynny gan arolygydd awdurdod lleol, arolygydd milfeddygol neu unrhyw un o swyddogion eraill y Cynulliad Cenedlaethol, y nodyn traddodi a chaniatáu i gopi neu ddyfyniad ohono gael ei gymryd; ac

(c)os gofynnir iddo wneud hynny, rhoi ei enw a'i gyfeiriad.

Gwahardd brechu

5.—(1Ni chaiff neb frechu unrhyw aderyn yn erbyn ffliw adar ac eithrio pan fo'n ofynnol gan y Cynulliad Cenedlaethol neu wedi'i drwyddedu ganddo.

(2Nid yw'r gwaharddiad yn gymwys i'r canlynol—

(a)unrhyw beth a wneir o dan awdurdod trwydded a roddwyd o dan erthygl 4 o'r Gorchymyn Pathogenau Anifeiliaid Penodedig 1998(4); neu

(b)rhoi brechlyn at ddibenion ymchwil yn unol â thystysgrif prawf anifeiliaid a roddwyd o dan reoliad 8(3) o Reoliadau Meddyginiaethau Milfeddygol 2005(5).

Brechu brys

6.—(1Pan fodlonir yr amod ym mharagraff (2), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, os yw'n barnu ei bod yn angenrheidiol er mwyn lleihau'r risg o ledu ffliw adar—

(a)datgan parth yng Nghymru gyfan neu mewn rhan ohoni, pan fo'r ardaloedd hynny yn cynnwys dofednod neu adar caeth eraill y mae'n barnu y dylid eu brechu, lle y mae'n ofynnol brechu'r adar hynny ar frys yn erbyn ffliw adar (“parth brechu brys”); neu

(b)cyflwyno hysbysiad i feddiannydd unrhyw fangre lle y mae dofednod neu adar caeth eraill y mae'n barnu y dylid eu brechu, lle y mae'n ofynnol brechu'r adar hynny ar frys yn erbyn ffliw adar (“hysbysiad brechu brys”).

(2Yr amod yw bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi gwneud asesiad risg sy'n dangos bod bygythiad arwyddocaol ac uniongyrchol y byddai ffliw adar yn ymledu yng Nghymru neu i Gymru oherwydd—

(a)brigiad ffliw adar yn y Deyrnas Unedig;

(b)brigiad ffliw adar mewn Aelod-wladwriaeth gyfagos; neu

(c)bod presenoldeb ffliw adar mewn dofednod neu adar caeth eraill mewn trydedd wlad gyfagos wedi'i gadarnhau.

(3Pan fo parth brechu brys yn cael ei ddatgan, neu pan gyflwynir hysbysiad brechu brys ar ôl i gynllun brechu brys gael ei ddwyn gerbron y Comisiwn Ewropeaidd a'i gymeradwyo ganddo yn unol ag Erthyglau 53 a 54 o'r Gyfarwyddeb, rhaid datgan neu gyflwyno'r hysbysiad yn unol â darpariaethau'r cynllun hwnnw.

(4Bernir bod unrhyw fangre sy'n rhannol y tu mewn ac yn rhannol y tu allan i barth brechu brys yn gyfan gwbl y tu mewn i'r parth hwnnw.

Brechu ataliol

7.—(1Pan fodlonir yr amodau ym mharagraff (2) —

(a)caiff y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â'r cynllun brechu ataliol y cyfeirir ato ym mharagraff (2)(b), roi trwydded i feddiannydd unrhyw fangre i frechu dofednod, adar caeth eraill neu unrhyw gategori o ddofednod neu adar caeth eraill yn y fangre honno (“trwydded brechu”);

(b)rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â'r cynllun brechu ataliol y cyfeirir ato ym mharagraff (2)(b) ac os yw'n barnu ei bod yn angenrheidiol er mwyn lleihau'r risg o ledu ffliw adar—

(i)datgan parth yng Nghymru gyfan neu mewn rhan ohoni, pan fo'r ardaloedd hynny yn cynnwys dofednod neu adar caeth eraill y mae'n barnu y dylid eu brechu, lle y mae'n ofynnol brechu'r adar hynny yn ataliol yn erbyn ffliw adar (“parth brechu ataliol”); neu

(ii)cyflwyno hysbysiad i feddiannydd unrhyw fangre lle y mae dofednod neu adar caeth eraill y mae'n barnu y dylid eu brechu, lle y mae'n ofynnol brechu'r adar hynny yn ataliol yn erbyn ffliw adar (“hysbysiad brechu ataliol”).

(2Dyma'r amodau—

(a)bod asesiad risg wedi'i wneud gan y Cynulliad Cenedlaethol sy'n dangos bod unrhyw ddofednod neu adar caeth eraill mewn unrhyw ran o Gymru yn agored i risg ffliw adar;

(b)bod cynllun brechu ataliol wedi'i ddwyn gerbron y Comisiwn Ewropeaidd ac wedi'i gymeradwyo ganddo yn unol ag Erthyglau 56 a 57 o'r Gyfarwyddeb.

(3Bernir bod unrhyw fangre sy'n rhannol y tu mewn ac yn rhannol y tu allan i barth brechu ataliol yn gyfan gwbl y tu mewn i'r parth hwnnw.

Pwer i wneud brechu'n ofynnol

8.—(1Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, drwy ddatganiad parth brechu neu hysbysiad brechu, ei gwneud yn ofynnol bod dofednod neu adar caeth eraill yn y parth hwnnw neu yn y fangre honno sy'n destun yr hysbysiad hwnnw gael eu brechu.

(2Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys fel petai'r brechu yn cael ei wneud drwy arfer pwer yn adran 16(1) o'r Ddeddf—

(a)adran 16(2) i 16(17)(6)(triniaeth ar ôl bod yn agored i heintiad);

(b)adran 16A(7) (lladd anifeiliaid sydd wedi'u brechu); ac

(c)adran 62A(8) (lladd: pwer mynediad).

Mesurau sy'n gymwys mewn parth brechu neu i fangre sy'n destun hysbysiad brechu neu drwydded brechu

9.—(1Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, mewn datganiad parth brechu neu mewn hysbysiad brechu, neu drwydded brechu, bennu pwy sydd i wneud y gwaith brechu.

(2Mewn datganiad parth brechu, hysbysiad brechu neu drwydded brechu, caiff y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol ag unrhyw gynllun brechu a gymeradwywyd, osod unrhyw fesurau o fewn y parth brechu, neu'r fangre sy'n destun hysbysiad brechu neu drwydded brechu, sy'n angenrheidiol er mwyn —

(a)rheoli'r math a'r maint o frechlyn i'w ddefnyddio;

(b)rheoli dulliau cyflenwi a storio'r brechlyn a dulliau gwaredu unrhyw frechlyn nas defnyddiwyd;

(c)rheoli rhoi'r brechlyn i'r adar;

(ch)sicrhau bod cofnodion yn cael eu cadw;

(d)sicrhau bod y samplau angenrheidiol o adar yn cael eu cymryd;

(dd)sicrhau bod modd adnabod adar sydd wedi'u brechu;

(e)sicrhau bod y Cynulliad Cenedlaethol yn cael ei hysbysu pan fod y gwaith brechu wedi'i gwblhau;

(f)rheoli symudiad unrhyw ddofednod, adar caeth eraill neu'u cynnyrch o'r naill fangre mewn parth i'r llall mewn parth, i mewn i'r parth hwnnw neu allan ohono neu i mewn i'r fangre honno sy'n destun yr hysbysiad neu'r drwydded neu allan ohoni;

(ff)rheoli rhyddhau dofednod neu adar caeth eraill i'r gwyllt;

(g)sicrhau bioddiogelwch digonol pan fydd unrhyw ddofednod, unrhyw adar caeth eraill neu'u cynnyrch yn cael eu cludo;

(ng)sicrhau bod dofednod neu adar caeth eraill sydd yn y parth neu yn y fangre sy'n destun yr hysbysiad neu'r drwydded o dan wyliadwriaeth,

a chaiff osod unrhyw gyfyngiadau ac amodau eraill y mae'n barnu eu bod yn angenrheidiol er mwyn lleihau risg lledu ffliw adar.

(3Ym mharagraff (2), ystyr “cynnyrch” dofednod neu adar caeth eraill yw unrhyw garcas, ŵy neu unrhyw beth arall sy'n tarddu neu sydd wedi'i wneud (naill ai'n llwyr neu'n rhannol) o ddofednod neu adar caeth eraill neu o garcasau'r cyfryw adar.

(4Mae paragraffau (1) i (3) yn gymwys er gwaethaf unrhyw ofyniad neu gyfyngiad arall sy'n gymwys mewn unrhyw ran o barth neu fangre oherwydd bod rhan o'r parth neu'r fangre yn dod o fewn parth arall a ddatganwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol, neu sy'n destun hysbysiad arall a gyflwynwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol neu arolygydd, at ddibenion lleihau'r risg o ledu ffliw adar neu at unrhyw ddiben arall.

(5Rhaid i unrhyw berson sy'n symud dofednod neu adar caeth eraill o dan y rheoliad hwn neu o dan reoliad 10 gadw cofnod o ddyddiad y symudiad a Rhif cofrestru unrhyw gerbyd a ddefnyddir.

(6Bernir bod lladd-dai, canolfannau pacio a deorfeydd a ddynodwyd o dan y Gorchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy'n Dod o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) (Rhif 2) 2006(9) wedi'u dynodi at ddiben cael dofednod neu wyau (yn ôl y digwydd) a symudir o dan drwydded a roddir o dan y Rheoliadau hyn.

Brechu brys heb gynllun wedi'i gymeradwyo

10.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn datgan parth brechu brys neu'n cyflwyno hysbysiad brechu brys cyn i gynllun brechu brys gael ei gymeradwyo gan y Comisiwn Ewropeaidd yn unol ag Erthygl 54 o'r Gyfarwyddeb.

(2Ni chaiff neb symud unrhyw ddofednod, unrhyw adar caeth eraill, eu carcasau neu unrhyw wyau dofednod neu adar caeth eraill —

(a)o fangre mewn parth i fangre arall yn y parth;

(b)i mewn i'r parth neu allan ohono; neu

(c)i mewn i fangre sy'n destun hysbysiad neu allan ohoni.

(3Ni fydd paragraff (2) yn gymwys i'r canlynol —

(a)unrhyw un o'r symudiadau a ganiateir ac a restrir yn yr Atodlen os yw'r symudiad hwnnw wedi'i drwyddedu gan arolygydd milfeddygol neu arolygydd sy'n gweithredu o dan ei gyfarwyddyd;

(b)i ddosbarthiad manwerthol wyau dofednod ac wyau deor eraill a symudiadau sy'n dilyn y cyfryw ddosbarthiad; neu

(c)symudiad carcasau neu wyau i'w gwaredu.

(4Rhaid i feddiannydd mangre y mae cywion diwrnod oed, dofednod byw (ac eithrio'r rhai sy'n mynd i gael eu cigydda) neu unrhyw adar caeth eraill sy'n cael eu symud o dan unrhyw un o baragraffau 5 i 10 o'r Atodlen, sicrhau bod y cywion diwrnod oed, dofednod neu adar caeth eraill yn cael eu rhoi mewn rhan o'r fangre lle nad oes dofednod eraill.

(5Rhaid i feddiannydd y fangre y mae dofednod byw (ac eithrio'r rhai sy'n mynd i'w cigydda) neu adar caeth eraill yn cael eu symud iddi o dan baragraff 10 o'r Atodlen, sicrhau bod y dofednod hynny neu'r adar caeth hynny yn cael eu brechu yn ddi-oed os yw brechu'n ofynnol yn y fangre honno gan ddatganiad neu hysbysiad brechu brys o dan reoliad 6(1).

(6Rhaid i feddiannydd lladd-dy y mae dofednod i'w cigydda yn cael eu symud iddo o dan baragraff 11, 12 neu 13 o'r Atodlen, sicrhau bod y dofednod hynny yn cael eu cigydda'n ddi-oed.

(7Mae paragraffau (4), (5) a (6) yn gymwys o ran yr un symudiadau—

(a)o barth sy'n gyfystyr â pharth brechu brys a ddatgenir yn yr Alban, Lloegr neu Ogledd Iwerddon; neu

(b)o fangre sy'n destun hysbysiad sy'n gyfystyr â hysbysiad brechu yn yr Alban, Lloegr neu Ogledd Iwerddon,

pan fo'r parth hwnnw wedi'i ddatgan, neu pan fo'r hysbysiad hwnnw wedi'i gyflwyno, cyn i gynllun brechu brys gael ei gymeradwyo gan y Comisiwn Ewropeaidd yn unol ag Erthygl 54 o'r Gyfarwyddeb.

(8Nid yw paragraff (7) ond yn gymwys os yw meddiannydd y fangre y mae'r peth yn cael ei symud iddi yn ymwybodol, neu y mae'n rhesymol iddo fod yn ymwybodol, ei fod wedi cael ei symud o'r cyfryw barth neu o'r cyfryw fangre o dan y cyfryw hysbysiad.

Methu â brechu anifeiliaid a bennir i'w brechu

11.  Rhaid i unrhyw berson a ŵyr neu a dybia nad yw aderyn wedi'i frechu fel y mae'n ofynnol gan y Cynulliad Cenedlaethol hysbysu'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol a benodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer yr ardal lle y mae'r aderyn hwnnw ar unwaith.

Glanhau a diheintio cerbydau: darparu cyfleusterau, cyfarpar a deunyddiau

12.  Pan fo glanhau a diheintio cerbydau yn ofynnol mewn unrhyw fangre o dan y Rheoliadau hyn, rhaid i feddiannydd y fangre honno ddarparu cyfleusterau digonol a chyfarpar a deunyddiau priodol ar gyfer y gwaith glanhau a diheintio hwnnw.

Newid meddiannaeth mangreoedd o dan gyfyngiad

13.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys os nad yw ceidwad unrhyw ddofednod neu unrhyw adar caeth eraill yn gallu eu symud oddi ar y fangre pan ddaw ei hawl i feddiannu'r fangre neu odanynt i ben oherwydd cyfyngiad ar symud a osodwyd gan y Rheoliadau hyn ac mae'n parhau i fod yn gymwys am saith niwrnod ar ôl tynnu'r cyfryw gyfyngiad.

(2Rhaid i'r person sydd â hawl i feddiannu'r fangre pan ddaw hawl y ceidwad i'w meddiannu i ben —

(a)darparu unrhyw gyfleusterau, ar gyfer bwydo, tendio neu ddefnyddio'r dofednod neu'r adar caeth eraill mewn ffordd arall (gan gynnwys eu gwerthu), y bydd ar y ceidwad angen rhesymol amdanynt; a

(b)caniatáu i'r ceidwad hwnnw ac unrhyw berson a awdurdodir ganddo gael mynd i'r fangre ar adegau rhesymol i fwydo, tendio neu ddefnyddio'r dofednod neu'r adar caeth eraill mewn ffordd wahanol.

(3Os nad yw'r ceidwad yn gallu neu os nad yw'n fodlon bwydo neu dendio'r dofednod neu'r adar caeth eraill, rhaid i'r person sydd â hawl i feddiannu'r fangre gymryd y camau sy'n angenrheidiol i sicrhau bod y dofednod neu'r adar hynny yn cael eu bwydo a'u tendio'n iawn.

(4Mae ceidwad y dofednod neu adar caeth eraill yn atebol i dalu'r costau rhesymol yr eir iddynt o dan y rheoliad hwn gan unrhyw berson sy'n eu bwydo neu'n eu tendio, neu'n darparu cyfleusterau ar gyfer eu bwydo, eu tendio neu eu defnyddio fel arall.

Darparu cymorth neu wybodaeth a chydweithrediad rhesymol

14.—(1Rhaid i unrhyw berson y mae'n ofynnol iddo roi cymorth rhesymol neu wybodaeth resymol i berson sy'n cyflanwi swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn wneud hynny'n ddi-oed onid oes ganddo achos rhesymol dros beidio â gwneud hynny.

(2Ni chaiff neb ddifwyno, cuddio neu dynnu unrhyw farc a ddodwyd ar unrhyw aderyn neu beth gan unrhyw berson sy'n cyflawni swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn.

Gwybodaeth anwir

15.  Ni chaiff neb roi gwybodaeth y mae'n gwybod ei bod yn anwir neu'n gamarweiniol i berson sy'n cymryd camau wrth weithredu'r Rheoliadau hyn.

Cadw a dangos cofnodion

16.—(1Rhaid i unrhyw berson y mae'n ofynnol iddo gan y Rheoliadau hyn wneud neu gadw cofnod—

(a)ei gadw am o leiaf deuddeng mis ar ôl y dyddiad pan wnaed y cofnod (oni bai iddo gael ei gyfarwyddo fel arall o dan y Rheoliadau hyn);

(b)ei ddangos i arolygydd os bydd yn gofyn amdano a rhoi copïau ohono iddo os bydd yn gofyn amdanynt.

(2Caiff arolygydd fynd i mewn i unrhyw fangre at ddiben arolygu unrhyw gofnodion y mae'n ofynnol eu cadw o dan y Rheoliadau hyn a chaiff—

(a)copïo'r cofnodion hynny (ar ba ffurf bynnag y'u delir);

(b)ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw gofnodion cyfrifiadurol yn cael eu llunio ar ffurf y gellir mynd â hwy; ac

(c)mynd ag unrhyw gofnodion a'u dal dan gadwad.

(3Rhaid i arolygydd, os gofynnir iddo wneud hynny, ddychwelyd unrhyw gofnodion y mae wedi'u dal dan gadwad ar ôl iddo eu copïo neu ar ôl iddo orffen eu harolygu.

Costau cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn

17.  Rhaid i'r costau y mae unrhyw berson yn mynd iddynt wrth gymryd unrhyw gamau sy'n ofynnol, neu wrth ymatal rhag cymryd camau sy'n waharddedig gan y Rheoliadau hyn neu odanynt, gael eu talu gan y person hwnnw oni bai i'r Cynulliad Cenedlaethol gyfarwyddo fel arall yn ysgrifenedig.

Cydymffurfio â hysbysiadau, datganiadau neu drwyddedau

18.  Mae unrhyw drwyddedai, person y cyflwynir hysbysiad iddo, neu berson y mae datganiad yn gymwys iddo o dan y Rheoliadau hyn, ac sy'n mynd yn groes i'r gofynion neu'r cyfyngiadau yn y drwydded honno, yn yr hysbysiad hwnnw neu yn y datganiad hwnnw, neu sy'n methu â chydymffurfio â hwy, yn euog o dramgwydd.

Pwerau arolygwyr

19.—(1Caiff arolygydd, pan fydd yn cyflawni'i swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn, ei gwneud yn ofynnol, drwy hysbysiad, fod y person sydd â gofal unrhyw gerbyd neu gyfarpar yn ei lanhau a'i ddiheintio.

(2Caiff arolygydd milfeddygol neu arolygydd sy'n gweithredu o dan ei gyfarwyddyd, wrth gyflawni'i swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn—

(a)glanhau a diheintio unrhyw ran o'r fangre neu unrhyw beth ar y fangre honno;

(b)ei gwneud yn ofynnol, drwy hysbysiad, bod meddiannydd unrhyw fangre yn glanhau a diheintio unrhyw ran o'r fangre neu unrhyw beth yn y fangre;

(c)ei gwneud yn ofynnol, drwy hysbysiad, bod meddiannydd unrhyw fangre neu geidwad unrhyw ddofednod neu adar caeth eraill—

(i)yn cadw neu ynysu unrhyw ddofednod, neu unrhyw adar caeth neu anifeiliaid eraill mewn man penodedig;

(ii)gwahanu unrhyw ddofednod, adar caeth neu anifeiliaid oddi wrth unrhyw anifeiliaid neu adar eraill.

(3Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys fel petai'r Rheoliadau hyn yn Orchymyn a wnaed o dan y Ddeddf(10)

(a)adran 63 (pwerau cyffredinol arolygwyr);

(b)adran 64 (pwerau arolygwyr o ran dofednod);

(c)adran 64A(11) (pwerau arolygwyr o ran rhwymedigaethau Cymunedol);

(ch)adran 65(1) i (3) (pŵer i ddal llestri ac awyrennau dan gadwad).

(4Mae adran 65A o'r Ddeddf(12) (arolygu cerbydau) yn gymwys fel petai—

(a)y Rheoliadau hyn yn Orchymyn a wnaed o dan y Ddeddf;

(b)y diffiniad o ddofednod yn adran 87(4) o'r Ddeddf wedi'i estyn i gynnwys pob aderyn; a

(c)pob parth brechu neu fangre a bennir mewn hysbysiad brechu wedi'i ddynodi at ddibenion yr adran honno tra bo'r hysbysiad brechu.

(5Caiff arolygydd sy'n mynd i mewn i unrhyw fangre o dan reoliad 8 neu baragraff (3)—

(a)marcio unrhyw aderyn neu beth arall at ddibenion eu hadnabod;

(b)cymryd samplau o unrhyw aderyn;

(c)mynd â'r personau a'r pethau ag ef y mae'r arolygydd yn ystyried eu bod yn angenrheidiol.

(6Caiff unrhyw berson sy'n mynd i mewn i fangre o dan baragraff (5)(c) fynd yn ôl ati heb neb yn ei hebrwng i gymryd unrhyw gamau pellach sy'n angenrheidiol er mwyn gweithredu neu orfodi'r Rheoliadau hyn.

Pwerau arolygwyr os ceir diffyg

20.—(1Os bydd unrhyw berson yn methu â chydymffurfio â gofyniad yn y Rheoliadau hyn neu odanynt, caiff arolygydd gymryd y camau y mae'n barnu eu bod yn angenrheidiol i sicrhau bod y gofyniad yn cael ei fodloni ar gost y person hwnnw.

(2Mae pwerau arolygydd o dan baragraff (1) yn cynnwys pwerau—

(a)i'w gwneud yn ofynnol, drwy hysbysiad, i unrhyw berson gymryd neu beidio â chymryd camau penodedig mewn perthynas ag unrhyw le, anifail, aderyn, neu beth arall;

(b)i gymryd unrhyw beth i feddiant a'i ddal gan gadwad.

Tramgwyddau ac achosion

21.—(1Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys fel petai'r Rheoliadau hyn yn Orchymyn a wnaed o dan y Ddeddf—

(a)adrannau 66 a 66A(13) (gwrthod a rhwystro);

(b)adran 67 (dyroddi trwyddedau anwir etc.);

(c)adran 68 (dyroddi trwyddedau etc. sy'n wag);

(ch)adran 71 (tramgwyddau eraill o ran trwyddedau);

(d)adran 71A(14), (erlyniadau: terfyn amser);

(dd)adran 73 (tramgwyddau cyffredinol);

(e)adran 77 (arian sy'n adenilladwy yn ddiannod);

(f)adran 79(1) i (4) (tystiolaeth a gweithdrefn),

ac fel petai'r diffiniad o ddofednod yn adran 87(4) o'r Ddeddf wedi'i estyn i gynnwys pob aderyn.

(2Mae adran 69 o'r Ddeddf (cael trwyddedau etc. drwy dwyll) yn gymwys fel petai trwyddedau a roddir o dan y Rheoliadau hyn wedi'u rhoi o dan Orchymyn a wnaed o dan y Ddeddf.

(3Mae adran 75 o Ddeddf(15)(cosbau ar gyfer tramgwyddau diannod penodol) yn gymwys fel petai'r Rheoliadau hyn yn Orchymyn a wnaed o dan y Ddeddf ac eithrio na chaiff unrhyw gyfnod yn y carchar o ganlyniad i gollfarn ddiannod fod yn hwy na thri mis.

Tramgwyddau gan gyrff corfforaethol

22.—(1Os dangosir bod tramgwydd a wnaed gan gorff corfforaethol—

(a)wedi'i gyflawni drwy gydsyniad neu ymoddefiad swyddog; neu

(b)i'w briodoli i unrhyw esgeulustod ar ei ran,

bydd y swyddog hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o dramgwydd a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

(2Os bydd materion corff corfforaethol yn cael eu rheoli gan ei aelodau, mae paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â gweithredoedd a diffyg gweithredoedd aelod mewn cysylltiad â'i swyddogaethau rheoli fel pe bai'r aelod hwnnw yn un o gyfarwyddwyr y corff.

(3ystyr “swyddog”, mewn perthynas â chorff corfforaethol, yw cyfarwyddwr, aelod o'r pwyllgor rheoli, prif weithredwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i'r corff, neu berson sy'n honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd y cyfryw swydd.

Gorfodi

23.—(1Rhaid i'r awdurdod lleol orfodi'r Rheoliadau hyn.

(2Caiff y Cynulliad Cenedlaethol gyfarwyddo, mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol neu unrhyw achos penodol, y bydd yn gorfodi'r Rheoliadau hyn.

Datgymhwyso darpariaethau i unrhyw berson sy'n gweithredu neu'n gorfodi'r Rheoliadau hyn

24.  Nid yw darpariaethau yn y Rheoliadau hyn sy'n gwahardd neu'n cyfyngu ar symud neu ddefnyddio unrhyw beth yn gymwys i'r canlynol wrth iddynt weithredu neu orfodi'r Rheoliadau hyn—

(a)y Cynulliad Cenedlaethol;

(b)arolygydd awdurdod lleol;

(c)unrhyw berson arall a awdurdodir gan y Cynulliad Cenedlaethol neu gan yr awdurdod lleol i weithredu neu orfodi'r Rheoliadau hyn.

Dirymu Rheoliadau Ffliw Adar (Brechu) (Cymru) 2006

25.  Mae Rheoliadau Ffliw Adar (Brechu) (Cymru) 2006(16)drwy hyn wedi'u dirymu.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(17)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

7 Tachwedd 2006

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill