Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 01/01/2014.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

RHAN ILL+CMATERION RHAGARWEINIOL

Enwi, cychwyn a chymhwysoLL+C

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006, deuant i rym ar 11 Ionawr 2006 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

DehongliLL+C

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “yr Asiantaeth” (“the Agency”) yw'r Asiantaeth Safonau Bwyd;

mae i “awdurdod bwyd” yr ystyr y mae “food authority” yn ei ddwyn yn rhinwedd adran 5(1A) o'r Ddeddf;

ystyr “awdurdod gorfodi” (“enforcement authority”) yw'r awdurdod sy'n gyfrifol, yn rhinwedd rheoliad 5, dros orfodi a gweithredu'r Rheoliadau Hylendid;

ystyr “darpariaeth Gymunedol benodedig” (“specified Community provision”) yw unrhyw ddarpariaeth yn Rheoliadau'r Gymuned a bennir yng ngholofn 1 o Atodlen 2 ac y mae pwnc y ddarpariaeth honno wedi'i ddisgrifio yng ngholofn 2 o'r Atodlen honno;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990(1);

mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw sefydliad, unrhyw le, cerbyd, stondin neu adeiladwaith symudol ac unrhyw long neu awyren;

[F1mae i “Penderfyniad 2006/766” (“Decision 2006/766”), “Penderfyniad 2011/131” (“Decision 2011/131”), “Cyfarwyddeb 2004/41” (“Directive 2004/41”), “Rheoliad 178/2002” (“Regulation 178/2002”), “Rheoliad 852/2004” (“Regulation 852/2004”), “Rheoliad 853/2004” (“Regulation 853/2004”), “Rheoliad 854/2004” (“Regulation 854/2004”), “Rheoliad 882/2004” (“Regulation 882/2004”), “Rheoliad 1688/2005” (“Regulation 1688/2005”), “Rheoliad 2073/2005” (“Regulation 2073/2005”), “Rheoliad 2074/2005” (“Regulation 2074/2005”), “Rheoliad 2075/2005” (“Regulation 2075/2005”), “Rheoliad 1020/2008” (“Regulation 1020/2008”), “Rheoliad 1021/2008” (“Regulation 1021/2008”), “Rheoliad 219/2009” (“Regulation 219/2009”), “Rheoliad 596/2009” (“Regulation 596/2009”), “Rheoliad 669/2009” (“Regulation 669/2009”), F2..., “Rheoliad 739/2011” (“Regulation 739/2011”), “Rheoliad 809/2011” (“Regulation 809/2011”), “Rheoliad 880/2011” (“Regulation 880/2011”), “Rheoliad 1086/2011” (“Regulation 1086/2011”), “Rheoliad 1109/2011” (“Regulation 1109/2011”), “Rheoliad 1169/2011” (“Regulation 1169/2011”), “Rheoliad 1223/2011” (“Regulation 1223/2011”), “Rheoliad 1277/2011” (“Regulation 1277/2011”), “Rheoliad 16/2012” (“Regulation 16/2012”) [F3Rheoliad 28/2012” (“Regulation 28/2012”), “Rheoliad 702/2013” (“Regulation 702/2013”) a “Rheoliad 1079/2013” (“Regulation 1079/2013”)] yr ystyr a roddir iddynt, yn eu trefn, yn Atodlen 1;]

ystyr “y Rheoliadau Hylendid” (“the Hygiene Regulations”) yw'r Rheoliadau hyn a Rheoliadau'r Gymuned;

ystyr “Rheoliadau'r Gymuned” (“the Community Regulations”) yw Rheoliad 852/2004, Rheoliad 853/2004, Rheoliad 854/2004, Rheoliad 2073/2005 a Rheoliad 2075/2005; ac

ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”), o ran awdurdod gorfodi, yw unrhyw berson (boed yn swyddog i'r awdurdod neu beidio) sydd wedi'i awdurdodi'n ysgrifenedig gan yr awdurdod hwnnw, naill ai'n gyffredinol neu'n arbennig, i weithredu mewn materion sy'n codi o dan y Rheoliadau Hylendid.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae i unrhyw ymadrodd a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn, ac eithrio'r un a ddiffinnir ym mharagraff (1), ac y defnyddir yr ymadrodd Saesneg cyfatebol yn y Ddeddf, yr ystyr a roddir i'r ymadrodd Saesneg cyfatebol hwnnw yn y Ddeddf.

(3Onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall, mae i unrhyw ymadrodd a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac y defnyddir yr ymadrodd Saesneg cyfatebol yn Rheoliad 178/2002 neu Reoliadau'r Gymuned yr ystyr a roddir i'r ymadrodd Saesneg cyfatebol hwnnw yn Rheoliad 178/2002 neu Reoliadau'r Gymuned yn ôl y digwydd.

(4Pan gaiff unrhyw sywddogaethau o dan y Ddeddf eu haseinio—

(a)drwy orchymyn o dan adran 2 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Haint) 1984(2), i awdurdod iechyd porthladd neu

(b)drwy orchymyn o dan adran 6 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936(3), i gyd-bwyllgor dros ranbarth unedig;

dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at awdurdod bwyd, i'r graddau y mae'n ymwneud â'r swyddogaethau hynny, fel cyfeiriad at yr awdurdod yr aseiniwyd hwy iddo.

(5Pan fyddai unrhyw gyfnod o lai na saith niwrnod a bennir yn y Rheoliadau hyn, ar wahân i'r paragraff hwn, yn cynnwys unrhyw ddiwrnod sydd—

(a)yn ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn ddydd Nadolig neu'n ddydd Gwener y Groglith; neu

(b)yn ddiwrnod sy'n ŵyl y banc o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(4),

hepgorir y diwrnod hwnnw o'r cyfnod.

[F4(6) Yn y Rheoliadau hyn, mae unrhyw gyfeiriad at offeryn UE a ddiffinnir yn Atodlen 1 yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y diwygir unrhyw atodiad iddo o bryd i'w gilydd.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Rhagdybiaethau y bwriedir bwyd ar gyfer ei fwyta gan boblLL+C

3.—(1Mae'r paragraffau canlynol yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn.

(2Rhaid rhagdybio, hyd nes y profir y gwrthwyneb, fod unrhyw fwyd a ddefnyddir yn gyffredin ar gyfer ei fwyta gan bobl, os yw wedi'i roi ar y farchnad neu wedi'i gynnig, wedi'i arddangos neu wedi'i gadw i'w roi ar y farchnad, wedi cael ei roi ar y farchnad neu, yn ôl y digwydd, y bwriadwyd neu y bwriedir ei roi ar y farchnad ar gyfer ei fwyta gan bobl.

(3Rhagdybir, hyd nes y profir y gwrthwyneb, y bwriedir y canlynol, sef—

(a)unrhyw fwyd a ddefnyddir yn gyffredin ar gyfer ei fwyta gan bobl ac a geir ar fangre a ddefnyddir ar gyfer paratoi neu storio'r bwyd hwnnw neu ar gyfer ei roi ar y farchnad; a

(b)unrhyw eitem neu sylwedd a ddefnyddir yn gyffredin i weithgynhyrchu bwyd ar gyfer ei fwyta gan bobl ac a geir ar fangre a ddefnyddir ar gyfer paratoi neu storio'r bwyd hwnnw neu ar gyfer ei roi ar y farchnad

ar gyfer ei roi ar y farchnad, neu ar gyfer gweithgynhyrchu bwyd i'w roi ar y farchnad, ar gyfer ei fwyta gan bobl.

(4Rhagdybir, hyd nes y profir y gwrthwyneb, y bwriedir unrhyw eitem neu sylwedd y mae modd ei defnyddio neu ei ddefnyddio i fod yn gyfansoddyn unrhyw fwyd neu i baratoi unrhyw fwyd a ddefnyddir yn gyffredin ar gyfer ei fwyta gan bobl ac a geir ar fangre lle mae'r bwyd hwnnw'n cael ei baratoi, ar gyfer defnydd o'r fath.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 3 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Yr awdurdod cymwysLL+C

4.  Yr Asiantaeth yw'r awdurdod cymwys at ddibenion Rheoliadau'r Gymuned ac eithrio pan fo wedi dirprwyo cymwyseddau fel y darperir ar ei gyfer yn y Rheoliadau hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 4 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

GorfodiLL+C

5.—(1O ran unrhyw weithredydd busnes bwyd y mae Rheoliad 852/2004 yn gymwys i'w weithrediadau ond nad yw Rheoliad 853/2004 yn gymwys iddynt—

(a)rhaid i'r Asiantaeth neu'r awdurdod bwyd y mae'r gweithredydd busnes bwyd yn cyflawni ei weithrediadau yn ei ardal orfodi a gweithredu'r Rheoliadau Hylendid i'r graddau y mae'r gweithredydd o dan sylw yn cyflawni gwaith cynhyrchu sylfaenol a'r gweithrediadau cysylltiedig hynny a restrir ym mharagraff 1 o Ran AI o Atodiad I i Reoliad 852/2004 heblaw'r gweithrediadau cysylltiedig a ddisgrifir yn is-baragraffau (a) ac (c) o'r paragraff hwnnw i'r graddau y maent yn ymwneud ag anifeiliaid hela gwyllt; a

(b)rhaid i'r awdurdod bwyd y mae'r gweithredydd busnes bwyd yn cyflawni ei weithrediadau yn ardal yr awdurdod bwyd hwnnw orfodi a gweithredu'r Rheoliadau Hylendid i'r graddau y mae'r gweithredydd o dan sylw yn cyflawni gwaith cynhyrchu sylfaenol a'r gweithrediadau nad ydynt yn cael eu gorfodi a'u gweithredu gan yr Asiantaeth yn unol ag is-baragraff (a).

(2O ran unrhyw weithredydd busnes bwyd y mae Rheoliad 852/2004 a Rheoliad 853/2004 ill dau yn gymwys i'w weithrediadau—

(a)rhaid i'r Asiantaeth orfodi a gweithredu'r Rheoliadau Hylendid i'r graddau y mae'r gweithredydd o dan sylw yn cyflawni gweithrediadau mewn perthynas â'r sefydliadau a'r gweithgareddau canlynol—

(i)lladd-dai,

(ii)sefydliadau sy'n trin anifeiliaid hela, neu

(iii)safleoedd torri sy'n rhoi cig ffres ar y farchnad, a

(b)rhaid i'r Asiantaeth neu'r awdurdod bwyd y mae'r gweithredydd busnes bwyd yn cyflawni ei weithrediadau yn ardal yr awdurdod bwyd hwnnw orfodi a gweithredu'r Rheoliadau Hylendid i'r graddau y mae'r gweithredydd o dan sylw yn cyflawni gwaith cynhyrchu sylfaenol a'r gweithrediadau nad ydynt yn cael eu gorfod a'u gweithredu gan yr Asiantaeth yn unol ag is-baragraff (a).

(3O ran—

(a)canolfannau casglu a thanerdai sy'n cyflenwi deunyddiau crai ar gyfer cynhyrchu gelatin a fwriedir ar gyfer ei fwyta gan bobl yn unol â, pharagraff 5 o Bennod I Adran XIV o Atodiad III i Reoliad 853/2004; a

(b)canolfannau casglu a thanerdai sy'n cyflenwi deunyddiau crai ar gyfer cynhyrchu colagen a fwriedir ar gyfer ei fwyta gan bobl yn unol â, pharagraff 5 o Bennod I Adran XV o Atodiad III i Reoliad 853/2004,

rhaid i'r awdurdod bwyd y lleolir y ganolfan gasglu neu'r tanerdy o dan sylw yn ei ardal orfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn.

(4Rhaid i bob awdurdod bwyd orfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn yn ei ardal mewn perthynas â'r materion a reoleiddir gan—

(a)Atodlenni 3 i 5; a

(b)Atodlen 6 i'r graddau y mae'n gymwys mewn perthynas â llaeth crai a fwriedir ar gyfer ei yfed yn uniongyrchol gan bobl ac eithrio llaeth buchod crai.

(5Rhaid i'r Asiantaeth orfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn mewn perthynas â'r materion a reoleiddir gan Atodlen 6 i'r graddau y mae'n gymwys mewn perthynas â llaeth buchod crai a fwriedir ar gyfer ei yfed yn uniongyrchol gan bobl.

(6Yn y rheoliad hwn—

ystyr “safle torri” (“cutting plant”) yw sefydliad a ddefnyddir ar gyfer tynnu esgyrn a/neu dorri cig ffres er mwyn ei roi ar y farchnad ac—

(a)

sydd wedi'i gymeradwyo neu wedi'i gymeradwyo'n amodol o dan Erthygl 31(2) o Reoliad 882/2004; neu

(b)

a oedd (er ei fod heb y gymeradwyaeth neu'r gymeradwyaeth amodol y mae ei hangen arno o dan erthygl 4(3) o Reoliad 853/2004) yn gweithredu ar 31 Rhagfyr 2005 fel mangre dorri drwyddedig o dan Reoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Arolygu) 1995(5) neu Reoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela a Ffermir a Chig Cwningod (Hylendid ac Arolygu) 1995(6);

ystyr “sefydliad trin anifeiliaid hela” (“game-handling establishment”) yw unrhyw sefydliad lle caiff anifeiliaid hela a chig anifeiliaid hela a geir ar ôl hela eu paratoi i'w rhoi ar y farchnad ac—

(a)

sydd wedi'i gymeradwyo neu wedi'i gymeradwyo'n amodol o dan Erthygl 31(2) o Reoliad 882/2004; neu

(b)

(er nad oes ganddo'r gymeradwyaeth neu'r gymeradwyaeth amodol sy'n ofynnol o dan Erthygl 4(3) o Reoliad 853/2004) a oedd, ar 31 Rhagfyr 2005, yn gweithredu fel cyfleuster prosesu anifeiliaid hela gwyllt trwyddedig o dan Reoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Arolygu 1995(7); ac

ystyr “lladd-dy” (“slaughterhouse”) yw sefydliad a ddefnyddir i gigydda a thrin anifeiliaid, y mae eu cig wedi'i fwriadu i'w fwyta gan bobl ac—

(a)

sydd wedi'i gymeradwyo neu wedi'i gymeradwyo'n amodol o dan Erthygl 31(2) o Reoliad 882/2004; neu

(b)

(er nad oes ganddo'r gymeradwyaeth neu'r gymeradwyaeth amodol sy'n ofynnol o dan Erthygl 4(3) o Reoliad 853/2004) a oedd, ar 31 Rhagfyr 2005, yn gweithredu fel lladd-dy trwyddedig o dan Reoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Arolygu) 1995 neu Reoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela a Ffermir a Chig Cwningod (Hylendid ac Arolygu) 1995.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 5 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

RHAN IILL+CY PRIF DDARPARIAETHAU

Hysbysiadau gwella hylendidLL+C

6.—(1Os bydd gan swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi seiliau rhesymol dros gredu bod gweithredydd busnes bwyd yn methu â chydymffurfio â'r Rheoliadau Hylendid, caiff y swyddog drwy hysbysiad a gyflwynir i'r person hwnnw (hysbysiad y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “hysbysiad gwella hylendid”)—

(a)datgan seiliau'r swyddog dros gredu bod y gweithredydd busnes bwyd yn methu, chydymffurfio â'r Rheoliadau Hylendid;

(b)pennu'r materion sy'n golygu bod y gweithredydd busnes bwyd wedi methu, chydymffurfio â'r Rheoliadau Hylendid;

(c)pennu'r mesurau y mae'n rhaid i'r gweithredydd busnes bwyd eu cymryd, ym marn y swyddog, i sicrhau ei fod yn cydymffurfio; ac

(ch)ei gwneud yn ofynnol i'r gweithredydd busnes bwyd gymryd y mesurau hynny, neu'r mesurau sydd o leiaf yn gyfwerth â hwy, o fewn unrhyw gyfnod (heb fod yn llai na 14 diwrnod) a bennir yn yr hysbysiad.

(2Bydd unrhyw berson sy'n methu, chydymffurfio â hysbysiad gwella hylendid yn euog o dramgwydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 6 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Gorchmynion gwahardd at ddibenion hylendidLL+C

7.—(1Os—

(a)y caiff gweithredydd busnes bwyd ei gollfarnu o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn; a

(b)y caiff y llys y collfarnwyd y gweithredydd felly ganddo neu ger ei fron ei fodloni bod yr amod ynglŷn â risg iechyd wedi'i fodloni o ran y busnes bwyd o dan sylw,

bydd y llys yn gosod y gwaharddiad priodol drwy orchymyn.

(2Bodlonir yr amod ynglŷn â risg iechyd mewn perthynas ag unrhyw fusnes bwyd os yw unrhyw un o'r canlynol yn cynnwys risg o niwed i iechyd (gan gynnwys unrhyw nam, boed hwnnw'n barhaol neu dros dro), sef—

(a)defnyddio at ddibenion y busnes unrhyw broses neu driniaeth;

(b)adeiladu unrhyw fangre a ddefnyddir at ddibenion y busnes, neu ddefnyddio at y dibenion hynny unrhyw gyfarpar; ac

(c)sefyllfa neu gyflwr unrhyw fangre neu gyfarpar a ddefnyddir at ddibenion y busnes.

(3Y gwaharddiad priodol yw—

(a)mewn achos sy'n dod o dan is-baragraff (a) o baragraff (2), gwaharddiad ar ddefnyddio proses neu driniaeth at ddibenion y busnes;

(b)mewn achos sy'n dod o dan is-baragraff (b) o'r paragraff hwnnw, gwaharddiad ar ddefnyddio'r fangre neu'r cyfarpar at ddibenion y busnes neu unrhyw fusnes bwyd arall o'r un dosbarth neu ddisgrifiad; ac

(c)mewn achos sy'n dod o dan is-baragraff (c) o'r paragraff hwnnw, gwaharddiad ar ddefnyddio'r fangre neu'r cyfarpar at ddibenion unrhyw fusnes bwyd.

(4Os—

(a)y bydd gweithredydd busnes bwyd yn cael ei gollfarnu o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn; a

(b)y bydd y llys y cafodd y gweithredydd ei gollfarnu felly ganddo neu ger ei fron yn credu ei bod yn briodol gwneud hynny o dan holl amgylchiadau'r achos,

caiff y llys, drwy orchymyn, osod gwaharddiad a fyddai'n atal y gweithredydd busnes bwyd rhag cymryd rhan yng ngwaith rheoli unrhyw fusnes bwyd, neu unrhyw fusnes bwyd o ddosbarth neu ddisgrifiad a bennir yn y gorchymyn.

(5Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl gwneud gorchymyn o dan baragraff (1) neu (4) (gorchymyn y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “gorchymyn gwahardd at ddibenion hylendid”), rhaid i'r awdurdod gorfodi—

(a)cyflwyno copi o'r gorchymyn i'r gweithredydd busnes bwyd perthnasol; a

(b)yn achos gorchymyn a wnaed o dan baragraff (1), gosod copi o'r gorchymyn mewn lle amlwg ar unrhyw fangre a ddefnyddir at ddibenion y busnes bwyd ac y mae'n barnu ei bod yn briodol,

a bydd unrhyw berson sy'n mynd yn groes, gan wybod hynny, i orchymyn o'r fath yn euog o dramgwydd.

(6Bydd gorchymyn gwahardd at ddibenion hylendid yn peidio â bod yn effeithiol—

(a)yn achos gorchymyn a wnaed o dan baragraff (1), pan fydd yr awdurdod gorfodi wedi dyroddi tystysgrif i'r perwyl ei fod wedi'i fodloni bod y gweithredydd busnes bwyd wedi cymryd mesurau digonol i sicrhau nad yw'r amod ynglŷn â risg iechyd yn cael ei fodloni mwyach mewn perthynas â'r busnes bwyd; a

(b)yn achos gorchymyn a wnaed o dan baragraff (4), pan fydd y llys yn rhoi cyfarwyddyd i'r perwyl hwnnw.

(7Rhaid i'r awdurdod gorfodi ddyroddi tystysgrif o dan is-baragraff (a) o baragraff (6) cyn pen tri diwrnod ar ôl iddo gael ei fodloni yn y modd a grybwyllwyd yn yr is-baragraff hwnnw; ac ar gais gan y gweithredydd busnes bwyd am dystysgrif o'r fath, rhaid i'r awdurdod —

(a)penderfynu, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a sut bynnag o fewn 14 diwrnod, a yw wedi'i fodloni felly neu beidio; a

(b)os bydd yn penderfynu nad yw wedi'i fodloni felly, rhoi hysbysiad i'r gweithredydd busnes bwyd o'r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw.

(8Rhaid i'r llys roi cyfarwyddyd o dan is-baragraff (b) o baragraff (6) os yw'r llys, ar ôl cael cais gan y gweithredydd busnes bwyd, yn credu ei bod yn briodol gwneud hynny gan roi sylw i holl amgylchiadau'r achos, gan gynnwys yn benodol ymddygiad y gweithredydd busnes bwyd ers gwneud y gorchymyn; ond ni fydd unrhyw gais o'r fath yn cael ei ystyried os yw'n cael ei wneud—

(a)cyn pen chwe mis ar ôl gwneud y gorchymyn gwahardd at ddibenion hylendid; neu

(b)cyn pen tri mis ar ôl i'r gweithredydd busnes bwyd wneud cais blaenorol am gyfarwyddyd o'r fath.

(9Pan fo llys ynadon yn gwneud gorchymyn o dan baragraff (2) o reoliad 8 mewn perthynas ag unrhyw fusnes bwyd, bydd paragraff (1) yn gymwys fel petai'r gweithredydd busnes bwyd wedi'i gollfarnu gan y llys o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn.

(10Pan fo'r ffaith bod tramgwydd wedi'i gyflawni gan weithredydd busnes bwyd yn arwain at gollfarnu person arall yn unol â rheoliad 10, bydd paragraff (4) yn gymwys o ran y person arall hwnnw yn yr un modd ag y mae'n gymwys o ran y gweithredydd busnes bwyd a dehonglir unrhyw gyfeiriad ym mharagraff (5) neu (8) at y gweithredydd busnes bwyd yn unol â hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 7 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Hysbysiadau a gorchmynion gwahardd brys at ddibenion hylendidLL+C

8.—(1Os yw swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi wedi'i fodloni bod yr amod ynglŷn â risg iechyd wedi'i fodloni o ran unrhyw fusnes bwyd, caiff y swyddog osod y gwaharddiad priodol drwy hysbysiad a gyflwynir i'r gweithredydd busnes bwyd perthnasol (hysbysiad y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “hysbysiad gwahardd brys at ddibenion hylendid”).

(2Os yw llys ynadon wedi'i fodloni, ar gais swyddog o'r fath, fod yr amod ynglŷn â risg iechyd wedi'i fodloni o ran unrhyw fusnes bwyd, rhaid i'r llys, drwy orchymyn (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “gorchymyn gwahardd brys at ddibenion hylendid”), osod y gwaharddiad priodol.

(3Ni chaiff swyddog o'r fath wneud cais am orchymyn gwahardd brys at ddibenion hylendid oni bai bod y swyddog, o leiaf un diwrnod cyn dyddiad y cais, wedi cyflwyno hysbysiad i'r gweithredydd busnes bwyd perthnasol o'i fwriad i wneud cais am y gorchymyn.

(4Bydd paragraffau (2) a (3) o reoliad 7 yn gymwys at ddibenion y rheoliad hwn yn yr un modd ag y maent yn gymwys at ddibenion y rheoliad hwnnw, ond fel petai'r cyfeiriad ym mharagraff (2) at risg o niwed i iechyd yn gyfeiriad at risg agos o niwed.

(5Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl cyflwyno hysbysiad gwahardd brys at ddibenion hylendid, rhaid i swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi osod copi o'r hysbysiad mewn lle amlwg ar unrhyw fangre a ddefnyddir at ddibenion y busnes bwyd ag y mae'n barnu ei bod yn briodol; a bydd unrhyw berson sy'n mynd yn groes, gan wybod hynny, i'r hysbysiad hwnnw yn euog o dramgwydd.

(6Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl gwneud gorchymyn gwahardd brys at ddibenion hylendid, rhaid i swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi—

(a)cyflwyno copi o'r gorchymyn i'r gweithredydd busnes bwyd perthnasol; a

(b)gosod copi o'r gorchymyn mewn lle amlwg ar unrhyw fangre a ddefnyddir at ddibenion y busnes bwyd y mae'r swyddog yn barnu ei bod yn briodol,

a bydd unrhyw berson sy'n mynd yn groes, gan wybod hynny, i'r gorchymyn hwnnw yn euog o dramgwydd.

(7Bydd hysbysiad gwahardd brys at ddibenion hylendid yn peidio â bod yn effeithiol—

(a)os na wneir unrhyw gais am orchymyn gwahardd brys at ddibenion hylendid o fewn y cyfnod o dri diwrnod gan ddechrau o ddyddiad cyflwyno'r hysbysiad, ar ddiwedd y cyfnod hwnnw; neu

(b)os gwneir cais o'r fath felly, adeg penderfynu neu ollwng y cais.

(8Bydd hysbysiad gwahardd brys at ddibenion hylendid neu orchymyn gwahardd brys at ddibenion hylendid yn peidio â bod yn effeithiol pan fydd yr awdurdod gorfodi yn dyroddi tystysgrif i'r perwyl ei fod wedi'i fodloni bod y gweithredydd busnes bwyd wedi cymryd mesurau digonol i sicrhau nad yw'r amod ynglŷn â risg iechyd yn cael ei fodloni mwyach o ran y busnes bwyd.

(9Rhaid i'r awdurdod gorfodi ddyroddi tystysgrif o dan baragraff (8) cyn pen tri diwrnod ar ôl iddo gael ei fodloni yn y modd a grybwyllwyd yn y paragraff hwnnw; a phan fydd y gweithredydd busnes bwyd yn cyflwyno cais am dystysgrif o'r fath, rhaid i'r awdurdod—

(a)penderfynu cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a sut bynnag o fewn 14 diwrnod a yw wedi'i fodloni felly neu beidio; a

(b)os yw'n penderfynu nad yw wedi'i fodloni felly, rhoi hysbysiad i'r gweithredydd busnes bwyd o'r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw.

(10Pan fo hysbysiad gwahardd brys at ddibenion hylendid yn cael ei gyflwyno i weithredydd busnes bwyd, rhaid i'r awdurdod gorfodi ddigolledu'r gweithredydd am unrhyw golled a gafwyd oherwydd y ffaith bod y gweithredydd wedi cydymffurfio â'r hysbysiad—

(a)oni chaiff cais am orchymyn gwahardd brys at ddibenion hylendid ei wneud o fewn y cyfnod o dri diwrnod gan ddechrau ar ddyddiad cyflwyno'r hysbysiad; a

(b)oni fydd y llys yn datgan ei fod wedi'i fodloni, ar ôl gwrando'r cais, fod yr amod ynglŷn â risg iechyd wedi'i fodloni mewn perthynas â'r busnes bwyd adeg cyflwyno'r hysbysiad,

a gellir penderfynu drwy gymrodeddu unrhyw gwestiwn dadleuol ynglŷn â'r hawl i gael unrhyw iawndal sy'n daladwy o dan y paragraff hwn neu swm yr iawndal hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Rhl. 8 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Hysbysiadau camau cywiro a hysbysiadau cadwLL+C

9.—(1Pan fo'n ymddangos i swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi mewn perthynas â sefydliad F5...—

(a)bod unrhyw un o ofynion y Rheoliadau Hylendid yn cael ei dorri; neu

(b)bod arolygiad o dan y Rheoliadau Hylendid yn cael ei lesteirio,

caiff y swyddog, drwy hysbysiad ysgrifenedig a gyflwynir i'r gweithredydd busnes bwyd perthnasol neu'r person a awdurdodwyd yn briodol i gynrychioli'r gweithredydd (hysbysiad y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “hysbysiad camau cywiro”)—

(c)gwahardd defnyddio unrhyw gyfarpar neu unrhyw ran o'r sefydliad a bennir yn yr hysbysiad;

(ch)gosod amodau ar gyflawni unrhyw broses neu wahardd cyflawni unrhyw broses;

(d)ei gwneud yn ofynnol i'r gyfradd weithredu gael ei lleihau i'r graddau a bennir yn yr hysbysiad, neu i gael ei stopio'n gyfan gwbl.

(2Rhaid cyflwyno hysbysiad camau cywiro cyn gynted ag y bo'n ymarferol gan nodi'r rheswm pam y mae'n cael ei gyflwyno.

(3Os yw'n cael ei gyflwyno o dan baragraff (1)(a), rhaid iddo enwi'r toriad a'r camau y mae eu hangen i'w gywiro.

(4Rhaid i swyddog awdurdodedig i'r awdurdod gorfodi y cyflwynodd ei swyddog awdurdodedig yr hysbysiad camau cywiro gwreiddiol, cyn gynted ag y caiff ei fodloni bod y camau hynny wedi'u cymryd, dynnu'r hysbysiad yn ôl drwy hysbysiad ysgrifenedig pellach a gyflwynir i'r gweithredydd busnes bwyd neu'r person a awdurdodwyd yn briodol i gynrychioli'r gweithredydd.

(5Caiff swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi, mewn sefydliad sy'n ddarostyngedig i gymeradwyaeth o dan Erthygl 4(2) o Reoliad 853/2004, drwy hysbysiad ysgrifenedig a gyflwynir i'r gweithredydd busnes bwyd perthnasol neu'r person a awdurdodwyd yn briodol i gynrychioli'r gweithredydd hwnnw (hysbysiad y cyfeirir ato yn y rheoliad hyn fel “hysbysiad cadw”) ei gwneud yn ofynnol i unrhyw anifail neu fwyd gael ei gadw at ddibenion archwilio (gan gynnwys cymryd samplau).

(6Rhaid i swyddog awdurdodedig i'r awdurdod gorfodi y cyflwynodd ei swyddog yr hysbysiad cadw gwreiddiol, cyn gynted ag y caiff ei fodloni nad oes angen cadw'r anifail neu'r bwyd mwyach, dynnu'r hysbysiad yn ôl drwy hysbysiad ysgrifenedig pellach a gyflwynir i'r gweithredydd busnes bwyd neu'r person a awdurdodwyd yn briodol i gynrychioli'r gweithredydd hwnnw.

(7Bydd unrhyw berson sy'n methu cydymffurfio, hysbysiad camau cywiro neu hysbysiad cadw yn euog o dramgwydd.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I9Rhl. 9 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Tramgwyddau oherwydd bai person arallLL+C

10.  Pan fo tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn yn cael ei gyflawni gan unrhyw berson oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithred rhyw berson arall, bydd y person arall hwnnw yn euog o'r tramgwydd; a chaniateir i berson gael ei gollfarnu o'r tramgwydd yn rhinwedd y rheoliad hwn p'un a ddygir achos cyfreithiol yn erbyn y person a grybwyllwyd yn gyntaf neu beidio.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Rhl. 10 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Amddiffyniad o ddiwydrwydd dyladwyLL+C

11.—(1Mewn unrhyw achos cyfreithiol am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, mae'n amddiffyniad, yn ddarostyngedig i baragraff (2), i'r sawl a gyhuddir brofi ei fod wedi cymryd pob rhagofal rhesymol ac wedi arfer pob diwydrwydd dyladwy i osgoi cyflawni'r tramgwydd ei hun neu osgoi iddo gael ei gyflawni gan berson sydd o dan ei reolaeth.

(2Os yw'r amddiffyniad sy'n cael ei ddarparu gan baragraff (1) mewn unrhyw achos yn cynnwys honni bod y tramgwydd wedi'i gyflawni oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithred person arall, neu ddibyniad ar wybodaeth a ddarparwyd gan berson arall, ni fydd gan y sawl a gyhuddir, heb ganiatâd y llys, hawl i ddibynnu ar yr amddiffyniad hwnnw, oni bai bod y sawl a gyhuddir—

(a)o leiaf saith niwrnod clir cyn y gwrandawiad; a

(b)pan fo'r sawl a gyhuddir wedi ymddangos o'r blaen gerbron llys mewn cysylltiad â'r tramgwydd honedig, o fewn un mis i'r ymddangosiad cyntaf hwnnw gan y sawl a gyhuddir,

wedi cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r erlynydd yn rhoi unrhyw wybodaeth a fyddai'n fodd i adnabod neu i helpu i adnabod y person arall hwnnw ag a oedd yn ei feddiant bryd hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Rhl. 11 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

RHAN IIILL+CGWEINYDDU A GORFODI

Caffael samplauLL+C

12.  Caiff swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi—

(a)prynu sampl o unrhyw fwyd, neu unrhyw sylwedd y gellir ei ddefnyddio i baratoi bwyd;

(b)cymryd sampl o unrhyw fwyd, neu unrhyw sylwedd—

(i)sy'n ymddangos i'r swyddog ei fod yn fwyd neu'n sylwedd y bwriedir ei roi ar y farchnad neu y bwriadwyd ei roi ar y farchnad, ar gyfer ei fwyta gan bobl, neu

(ii)a geir gan swyddog ar neu mewn unrhyw fangre y mae'r swyddog wedi'i awdurdodi i fynd i mewn iddi gan neu o dan reoliad 14;

(c)cymryd sampl o unrhyw ffynhonnell fwyd, neu sampl o unrhyw ddeunydd sydd mewn cysylltiad â'r ffynhonnell fwyd, a geir gan y swyddog ar neu mewn unrhyw fangre o'r fath; ac

(ch)cymryd sampl o unrhyw eitem neu sylwedd a geir gan swyddog ar neu mewn unrhyw fangre o'r fath ac y mae gan y swyddog le i gredu y gallai fod angen amdani neu amdano fel tystiolaeth mewn achos cyfreithiol o dan unrhyw un o ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I12Rhl. 12 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Dadansoddi etc samplauLL+C

13.—(1Rhaid i swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi sydd wedi caffael sampl o dan reoliad 12—

(a)os yw o'r farn y dylai'r sampl gael ei dadansoddi, ei chyflwyno i gael ei dadansoddi—

(i)gan y dadansoddydd cyhoeddus ar gyfer yr ardal y cafodd y sampl ei chaffael ynddi, neu

(ii)gan y dadansoddydd cyhoeddus ar gyfer yr ardal sydd wedi'i ffurfio o ardal yr awdurdod neu sy'n ei chynnwys;

(b)os yw o'r farn y dylai'r sampl gael ei harchwilio, ei chyflwyno i gael ei harchwilio gan archwilydd bwyd.

(2Caiff person, nad yw'n swyddog o'r fath, ac sydd wedi prynu unrhyw fwyd neu unrhyw sylwedd y gellir ei ddefnyddio i baratoi bwyd, gyflwyno sampl ohono—

(a)i gael ei dadansoddi gan y dadansoddydd cyhoeddus ar gyfer yr ardal y prynwyd y bwyd neu'r sylwedd ynddi; neu

(b)i gael ei harchwilio gan archwilydd bwyd.

(3Mewn unrhyw achos lle bwriedir cyflwyno sampl i'w dadansoddi o dan y rheoliad hwn, os yw swydd y dadansoddydd cyhoeddus ar gyfer yr ardal o dan sylw yn wag, rhaid i'r sampl gael ei chyflwyno i'r dadansoddydd cyhoeddus ar gyfer rhyw ardal arall.

(4Mewn unrhyw achos lle bwriedir cyflwyno neu lle cyflwynir sampl i'w dadansoddi neu i'w harchwilio o dan y rheoliad hwn, os yw'r dadansoddydd bwyd neu'r archwilydd bwyd yn penderfynu nad yw'n gallu cyflawni'r dadansoddiad neu'r archwiliad am unrhyw reswm, rhaid iddo gyflwyno neu, yn ôl y digwydd, anfon y sampl i unrhyw ddadansoddydd bwyd arall neu archwilydd bwyd arall y bydd yn penderfynu arno.

(5Rhaid i ddadansoddydd bwyd neu archwilydd bwyd ddadansoddi neu archwilio cyn gynted ag y bo'n ymarferol unrhyw sampl a gyflwynwyd iddo neu a anfonwyd ato o dan y rheoliad hwn, ond ac eithrio—

(a)os ef yw'r dadansoddydd cyhoeddus ar gyfer yr ardal o dan sylw; a

(b)os yw'r sampl wedi'i chyflwyno iddo ar gyfer dadansoddiad gan swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi,

caiff fynnu ymlaen llaw fod unrhyw ffi resymol y bydd yn gofyn amdani yn cael ei thalu.

(6Rhaid i unrhyw ddadansoddydd bwyd neu archwilydd bwyd sydd wedi dadansoddi neu wedi archwilio sampl roi i'r person y cafodd ei chyflwyno drwyddo dystysgrif sy'n nodi canlyniad y dadansoddiad neu'r archwiliad.

(7Rhaid i unrhyw dystysgrif a roddir gan ddadansoddydd bwyd neu archwilydd bwyd o dan baragraff (6) gael ei llofnodi ganddo, ond caniateir i'r dadansoddiad neu'r archwiliad gael ei wneud gan unrhyw berson sy'n gweithredu o dan ei gyfarwyddyd.

(8Mewn unrhyw achos cyfreithiol o dan y Rheoliadau hyn, bydd y ffaith bod un o'r partïon yn dangos—

(a)dogfen sy'n honni ei bod yn dystysgrif a roddwyd gan ddadansoddydd bwyd neu archwilydd bwyd o dan baragraff (6); neu

(b)dogfen a ddarparwyd iddo gan y parti arall fel un a oedd yn gopi o'r dystysgrif honno,

yn dystiolaeth ddigonol i'r ffeithiau a nodir ynddi oni bai, mewn achos sy'n dod o dan is-baragraff (a), bod y parti arall yn ei gwneud yn ofynnol i'r dadansoddydd bwyd neu'r archwilydd bwyd gael ei alw fel tyst.

(9Yn y rheoliad hwn, pan fo dau neu ragor o ddadansoddwyr cyhoeddus yn cael eu penodi ar gyfer unrhyw ardal, dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at y dadansoddydd cyhoeddus ar gyfer yr ardal honno fel cyfeiriad at y naill neu'r llall ohonynt neu at unrhyw un ohonynt.

(10Mae Rheoliadau [F6Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 2013] yn gymwys o ran sampl a gaffaelir gan swyddog awdurdodedig i awdurdod bwyd o dan reoliad 12 fel pe bai'n sampl a gaffaelwyd gan swyddog awdurdodedig o dan adran 29 o'r Ddeddf.

(11Rhaid i dystysgrif a roddir gan ddadansoddydd bwyd neu archwilydd bwyd o dan baragraff 6 fod yn y ffurf a bennir yn Atodlen 3 i Reoliadau [F6Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 2013] .

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I13Rhl. 13 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Pwerau mynediadLL+C

14.—(1Mae gan swyddog awdurdodedig i awdurdod bwyd, wedi iddo ddangos, os gofynnir iddo wneud hynny, ryw ddogfen a ddilyswyd yn briodol ac sy'n dangos ei awdurdod, hawl ar bob adeg resymol—

(a)i fynd i mewn i unrhyw fangre o fewn ardal, neu, yn ôl y digwydd, dosbarth yr awdurdod er mwyn darganfod a oes unrhyw un o ddarpariaethau'r Rheoliadau Hylendid yn cael neu wedi cael ei thorri;

(b)i fynd i mewn i unrhyw fangre, boed honno o fewn neu'r tu allan i ardal neu, yn ôl y digwydd, dosbarth yr awdurdod, er mwyn darganfod a oes ar y fangre unrhyw dystiolaeth am unrhyw doriad o'r fath yn yr ardal honno neu'r dosbarth hwnnw; ac

(c)i fynd i mewn i unrhyw fangre er mwyn i'r awdurdod gyflawni ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau Hylendid,

ond ni chaniateir i'r swyddog fynnu cael mynediad fel mater o hawl i unrhyw fangre sy'n cael ei defnyddio fel tŷ annedd preifat yn unig oni bai bod 24 awr o rybudd am y bwriad i ddod i mewn i'r fangre wedi'u rhoi i'r meddiannydd.

(2Mae gan swyddog awdurdodedig i'r Asiantaeth, wedi iddo ddangos, os gofynnir iddo wneud hynny, ryw ddogfen a ddilyswyd yn briodol ac sy'n dangos ei awdurdod, hawl ar bob adeg resymol i fynd i mewn i unrhyw fangre er mwyn—

(a)darganfod a oes unrhyw un o ddarpariaethau'r Rheoliadau Hylendid yn cael neu wedi cael ei thorri;

(b)darganfod a oes ar y fangre unrhyw dystiolaeth am unrhyw doriad o'r fath; ac

(c)i'r Asiantaeth gyflawni ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau Hylendid,

ond ni chaniateir i'r swyddog fynnu cael mynediad fel mater o hawl i unrhyw fangre sy'n cael ei defnyddio fel tŷ annedd preifat yn unig oni bai bod 24 awr o rybudd am y bwriad i ddod i mewn i'r fangre wedi'u rhoi i'r meddiannydd.

(3Os yw ynad heddwch, ar ôl cael gwybodaeth ysgrifenedig ar lw, wedi'i fodloni bod sail resymol dros fynd ar unrhyw fangre at unrhyw ddiben a grybwyllwyd ym mharagraff (1) neu (2) a naill ai—

(a)bod mynediad i'r fangre wedi'i wrthod, neu y synhwyrir y caiff ei wrthod, a bod hysbysiad o'r bwriad i wneud cais am warant wedi'i roi i'r meddiannydd; neu

(b)y byddai cais am fynediad, neu roi hysbysiad o'r fath, yn mynd yn groes i'r amcan o fynd i mewn, neu fod yr achos yn achos brys, neu fod y fangre heb ei meddiannu neu fod y meddiannydd yn absennol dros dro,

caiff yr ynad drwy warant a lofnodir ganddo awdurdodi'r swyddog awdurdodedig i fynd i mewn i'r fangre, gan ddefnyddio grym rhesymol os bydd angen.

(4Bydd pob gwarant a roddir o dan y rheoliad hwn yn parhau mewn grym am gyfnod o un mis.

(5Caiff swyddog awdurdodedig sy'n mynd i mewn i unrhyw fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu warant a ddyroddwyd odano, fynd â'r personau eraill y mae'n barnu eu bod yn angenrheidiol gydag ef, ac wrth ymadael ag unrhyw fangre sydd heb ei meddiannu ac y mae'r swyddog wedi mynd i mewn iddi yn rhinwedd gwarant o'r fath, rhaid iddo ei gadael yn fangre sydd wedi'i diogelu yr un mor effeithiol rhag mynediad diawdurdod ag yr oedd pan aeth yno yn gyntaf.

(6Caiff swyddog awdurdodedig sy'n mynd i mewn i fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu warant a ddyroddwyd odano, arolygu unrhyw gofnodion (ar ba ffurf bynnag y maent yn cael eu cadw) sy'n ymwneud â busnes bwyd, a phan fo'r cofnodion hynny yn cael eu storio ar unrhyw ffurf electronig—

(a)caiff fynd at unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw aparatws neu ddeunydd cysylltiedig a ddefnyddir neu a ddefnyddiwyd mewn cysylltiad â'r cofnodion, a'u harolygu a gwirio eu gweithrediad; a

(b)caiff ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sydd â gofal dros y cyfrifiadur, yr aparatws neu'r deunydd, neu sydd fel arall yn ymwneud â'u gweithredu, roi i'r swyddog unrhyw gymorth y mae arno angen rhesymol amdano.

(7Caiff unrhyw swyddog sy'n arfer unrhyw bŵer a roddwyd gan baragraff (6)—

(a)cymryd i'w feddiant a chadw unrhyw gofnodion y mae gan y swyddog le i gredu y gallai fod angen amdanynt fel tystiolaeth mewn unrhyw achos cyfreithiol o dan y Rheoliadau hyn; a

(b)pan fo'r cofnodion wedi'u storio ar unrhyw ffurf electronig, ei gwneud yn ofynnol i'r cofnodion gael eu darparu ar ffurf a fyddai'n caniatâu mynd â hwy oddi yno.

(8Os bydd unrhyw berson sy'n mynd i unrhyw fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu yn rhinwedd gwarant a roddwyd odano, yn datgelu i unrhyw berson unrhyw wybodaeth y mae wedi'i chael ar y fangre o ran unrhyw gyfrinach fasnachol, bydd yn euog o dramgwydd, oni bai ei fod wedi'i datgelu wrth gyflawni ei ddyletswydd.

(9Ni fydd dim yn y rheoliad hwn yn awdurdodi unrhyw berson, ac eithrio gyda chaniatâd yr awdurdod lleol o dan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981(8), i fynd i mewn i unrhyw fangre—

(a)lle cedwir anifail neu aderyn, y mae unrhyw glefyd y mae'r Ddeddf honno yn gymwys iddo, wedi effeithio ar yr anifail neu'r aderyn hwnnw; a

(b)sydd wedi'i leoli mewn man y datganwyd o dan y Ddeddf honno ei fod wedi'i heintio â chlefyd o'r fath.

Gwybodaeth Cychwyn

I14Rhl. 14 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Rhwystro, etc. swyddogionLL+C

15.—(1Bydd unrhyw berson sydd—

(a)yn fwriadol yn rhwystro unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau Hylendid ar waith; neu

(b)yn methu, heb achos rhesymol, â rhoi i unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau Hylendid ar waith unrhyw gymorth neu wybodaeth y gall y person hwnnw ofyn yn rhesymol amdano neu amdani er mwyn cyflawni ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau Hylendid,

yn euog o dramgwydd.

(2Bydd unrhyw berson sydd, gan honni ei fod yn cydymffurfio ag unrhyw ofyniad a grybwyllwyd yn is-baragraff (b) o baragraff (1)—

(a)yn darparu gwybodaeth y mae'n gwybod ei bod yn anwir neu'n gamarweiniol mewn manylyn o bwys; neu

(b)yn ddi-hid yn darparu gwybodaeth sy'n anwir neu'n gamarweiniol mewn manylyn o bwys,

yn euog o dramgwydd.

(3Nid oes dim ym mharagraff (1)(b) i'w ddehongli fel gofyniad i unrhyw berson ateb unrhyw gwestiwn na rhoi unrhyw wybodaeth os byddai gwneud hynny yn gallu argyhuddo'r person hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I15Rhl. 15 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Y terfyn amser ar gyfer erlyniadauLL+C

16.  Ni chaniateir cychwyn unrhyw erlyniad o dan y Rheoliadau hyn am dramgwydd y gellir ei gosbi o dan is-baragraff (2) o reoliad 17 ar ôl i'r naill neu'r llall o'r cyfnodau canlynol ddod i ben—

(a)tair blynedd o ddyddiad cyflawni'r tramgwydd; neu

(b)blwyddyn o ddyddiad ei ddarganfod gan yr erlynydd,

p'un bynnag yw'r cynharaf.

Gwybodaeth Cychwyn

I16Rhl. 16 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Tramgwyddau a chosbauLL+C

[F717.(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) i (8), bydd unrhyw berson sy'n mynd yn groes i unrhyw un o'r darpariaethau Cymunedol penodedig neu sy'n methu cydymffurfio ag unrhyw un neu rai ohonynt yn euog o dramgwydd.

(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn yn agored—

(a)o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na'r uchafswm statudol; neu

(b)o'i gollfarnu ar dditiad, i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na dwy flynedd, i ddirwy neu i'r ddau.

(3) Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan reoliad 15 yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol neu i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na thri mis, neu i'r ddau.

(4) Ar yr amod yr ydys wedi cydymffurfio â gofynion Atodlen 3, ni fernir bod person wedi mynd yn groes i Erthygl 4(2) o Reoliad 852/2004 neu wedi methu â chydymffurfio â hi, o'i darllen gyda pharagraff 4 o Bennod IV o Atodiad II i'r Rheoliad hwnnw (swmp-ddeunyddiau bwyd ar ffurf hylif, gronynnau neu bowdr i'w cludo mewn daliedyddion a/neu gynwysyddion/tanceri sydd wedi eu neilltuo ar gyfer cludo deunyddiau bwyd).

(5) Ar yr amod yr ydys wedi cydymffurfio â gofynion Atodlen 3A, ni fernir bod person wedi mynd yn groes i Erthygl 3(1) neu 4(1)(a) o Reoliad 853/2004 neu wedi methu â chydymffurfio ag un o'r Erthyglau hynny, o'i darllen yn y naill achos neu'r llall gyda pharagraff 5 o Bennod II o Adran I o Atodiad III i'r Rheoliad hwnnw (gweithredwyr busnes bwyd i sicrhau bod gan ladd-dai lle y mae carnolion domestig yn cael eu cigydda gyfleusterau cloadwy i storio cig y daliwyd gafael arno mewn oergell a chyfleusterau cloadwy ar wahân i storio cig y datganwyd ei fod yn anffit i'w fwyta gan bobl).

(6) Ar yr amod yr ydys wedi cydymffurfio â gofynion Atodlen 3B, ni fernir bod person wedi mynd yn groes i Erthygl 3(1) neu 4(1)(a) o Reoliad 853/2004 neu wedi methu â chydymffurfio ag un o'r Erthyglau hynny, o'i darllen yn y naill achos neu'r llall gyda pharagraff 5 o Bennod II o Adran II o Atodiad III i'r Rheoliad hwnnw (gweithredwyr busnes bwyd i sicrhau bod gan ladd-dai lle y mae dofednod neu lagomorffiaid yn cael eu cigydda gyfleusterau cloadwy i storio cig y daliwyd gafael arno mewn oergell a chyfleusterau cloadwy ar wahân i storio cig y datganwyd ei fod yn anffit i'w fwyta gan bobl).

(7) Ar yr amod yr ydys wedi cydymffurfio â gofynion Atodlen 3C, ni fernir bod person wedi mynd yn groes i Erthygl 3(1) neu 4(1)(a) o Reoliad 853/2004 neu wedi methu â chydymffurfio ag un o'r Erthyglau hynny, o'i darllen yn y naill achos neu'r llall gyda pharagraff 6 o Bennod II o Adran I o Atodiad III i'r Rheoliad hwnnw (gweithredwyr busnes bwyd i sicrhau bod gan ladd-dai lle y mae carnolion domestig yn cael eu cigydda le ar wahân gyda chyfleusterau priodol i olchi, glanhau a diheintio cyfryngau cludo da byw onid yw'r awdurdod cymwys yn caniatáu iddynt beidio â chael lleoedd o'r fath a bod lleoedd a chyfleusterau sydd wedi eu hawdurdodi'n swyddogol i'w cael wrth law).

(8) Ar yr amod yr ydys wedi cydymffurfio â gofynion Atodlen 3Ch, ni fernir bod person wedi mynd yn groes i Erthygl 3(1) neu 4(1)(a) o Reoliad 853/2004 neu wedi methu â chydymffurfio ag un o'r Erthyglau hynny, o'i darllen yn y naill achos neu'r llall gyda pharagraff 6(b) o Bennod II o Adran II o Atodiad III i'r Rheoliad hwnnw (gweithredwyr busnes bwyd i sicrhau bod gan ladd-dai lle y mae dofednod neu lagomorffiaid yn cael eu cigydda le ar wahân gyda chyfleusterau priodol i olchi, glanhau a diheintio cyfryngau cludo onid oes lleoedd a chyfleusterau sydd wedi eu hawdurdodi'n swyddogol i'w cael wrth law).]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I17Rhl. 17 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Tramgwyddau gan gyrff corfforaetholLL+C

18.—(1Os profir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad unrhyw un o'r canlynol, neu os gellir priodoli'r tramgwydd hwnnw i unrhyw esgeulustod ar ran unrhyw un o'r canlynol, sef—

(a)unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i'r corff corfforaethol; neu

(b)unrhyw berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swyddogaeth o'r fath,

bernir bod y person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o'r tramgwydd hwnnw a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â, hynny.

(2Yn is-baragraff (a) o baragraff (1) ystyr “cyfarwyddwr”, mewn perthynas ag unrhyw gorff corfforaethol a sefydlwyd gan neu o dan unrhyw ddeddfiad er mwyn rhedeg o dan berchenogaeth genedlaethol unrhyw ddiwydiant neu ran o ddiwydiant neu ymgymeriad, a hwnnw'n gorff corfforaethol y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I18Rhl. 18 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Tramgwyddau gan bartneriaethau AlbanaiddLL+C

19.  Os profir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan bartneriaeth Albanaidd wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad partner, neu os gellir priodoli'r tramgwydd hwnnw i unrhyw esgeulustod ar ran partner, bernir bod y partner hwnnw, yn ogystal â'r bartneriaeth, yn euog o'r tramgwydd hwnnw a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I19Rhl. 19 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Yr hawl i apelioLL+C

20.—(1Caiff unrhyw berson a dramgwyddir gan—

(a)penderfyniad swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi i gyflwyno hysbysiad gwella hylendid; neu

(b)penderfyniad awdurdod gorfodi i wrthod dyroddi tystysgrif o dan baragraff (6) o reoliad 7 neu baragraff (8) o Reoliad 8; neu

(c)penderfyniad swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi i gyflwyno hysbysiad camau cywiro,

apelio i lys ynadon.

(2Pan wneir apêl i lys ynadon o dan baragraff (1) y weithdrefn fydd ei gwneud ar ffurf achwyniad i gael gorchymyn, a Deddf Llysoedd Ynadon 1980(9) fydd yn gymwys i'r achos cyfreithiol.

(3Y cyfnod y caniateir dwyn apêl ynddo o dan baragraff (1) yw—

(a)un mis o'r dyddiad y cyflwynwyd hysbysiad o'r penderfyniad i'r person a oedd yn dymuno apelio; neu

(b)yn achos apêl yn erbyn penderfyniad i ddyroddi hysbysiad gwella hylendid, y cyfnod a bennir yn is-baragraff (a) neu, os yw'n fyrrach, y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad yn unol ag is-baragraff (ch) o baragraff (1) o reoliad 6,

a bernir bod gwneud achwyniad i gael gorchymyn yn gyfystyr â dwyn yr apêl at ddibenion y paragraff hwn.

Gwybodaeth Cychwyn

I20Rhl. 20 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Apelau i Lys y GoronLL+C

21.  Caiff berson a dramgwyddir gan—

(a)y ffaith bod llys ynadon wedi gwrthod apêl iddo o dan baragraff (1) o reoliad 20; neu

(b)unrhyw benderfyniad gan y llys hwnnw i wneud gorchymyn gwahardd at ddibenion hylendid neu orchymyn gwahardd brys at ddibenion hylendid,

apelio i Lys y Goron.

Gwybodaeth Cychwyn

I21Rhl. 21 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Apelau yn erbyn hysbysiadau gwella hylendid a hysbysiadau camau cywiroLL+C

22.—(1Pan apelir yn erbyn hysbysiad gwella hylendid neu hysbysiad camau cywiro, caiff y llys ganslo neu gadarnhau'r hysbysiad, ac os yw'n ei gadarnhau, caiff wneud hynny naill ai ar ei ffurf wreiddiol neu gyda'r addasiadau y mae'r llys yn credu eu bod yn briodol o dan yr amgylchiadau.

(2Pan fyddai unrhyw gyfnod a bennir mewn hysbysiad gwella hylendid yn unol ag is-baragraff (ch) o baragraff (1) o reoliad 6 yn cynnwys fel arall unrhyw ddiwrnod y mae apêl yn erbyn yr hysbysiad hwnnw yn yr arfaeth, ni fydd y diwrnod hwnnw yn cael ei gynnwys yn y cyfnod hwnnw.

(3Ystyrir bod unrhyw apêl yn yr arfaeth at ddibenion paragraff (2) hyd nes y penderfynir arni yn derfynol, y tynnir hi'n ôl, neu hyd nes y caiff ei dileu oherwydd diffyg erlyniad.

[F8(4) Pan fo llys, ar apêl yn erbyn hysbysiad camau cywiro o dan baragraff (1), yn canslo'r hysbysiad, rhaid i'r awdurdod gorfodi ddigolledu'r gweithredydd busnes bwyd a ddygodd yr apêl mewn cysylltiad ag unrhyw golled a gafwyd oherwydd bod y gweithredydd busnes bwyd wedi cydymffurfio â'r hysbysiad, a bydd unrhyw gwestiwn dadleuol ynglŷn â'r hawl i gael unrhyw iawndal sy'n daladwy o dan y paragraff hwn neu swm yr iawndal hwnnw yn cael ei benderfynu drwy gymrodeddu.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I22Rhl. 22 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Cymhwyso adran 9 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990LL+C

23.  Mae adran 9 o'r Ddeddf (arolygu bwyd amheus a chymryd meddiant ohono)(10) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad ei bod yn gymwys o ran swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi yn yr un modd ag y mae'n gymwys o ran swyddog awdurdodedig i awdurdod bwyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I23Rhl. 23 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

RHAN IVLL+CDARPARIAETHAU AMRYWIOL AC ATODOL

Pŵer i ddyroddi codau arferion a argymhellirLL+C

24.—(1Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru ddyroddi codau arferion a argymhellir o ran gweithredu a gorfodi'r Rheoliadau Hylendid i fod yn ganllawiau i awdurdodau bwyd.

(2Caiff yr Asiantaeth, ar ôl ymgynghori â Chynulliad Cenedlaethol Cymru, roi cyfarwyddyd i awdurdod bwyd yn ei gwneud yn ofynnol iddo gymryd unrhyw gamau penodedig er mwyn cydymffurfio â chod a ddyroddir o dan y rheoliad hwn.

(3Drwy arfer y swyddogaethau a roddwyd iddynt gan neu o dan y Rheoliadau Hylendid, rhaid i bob awdurdod bwyd—

(a)rhoi sylw i unrhyw ddarpariaeth berthnasol mewn unrhyw god o'r fath; a

(b)cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir o dan y rheoliad hwn ac sy'n ei gwneud yn ofynnol iddynt gymryd unrhyw gamau penodedig er mwyn cydymffurfio â'r cod hwnnw.

(4Bydd unrhyw gyfarwyddyd o dan baragraff (2), ar gais yr Asiantaeth, yn gyfarwyddyd y gellir ei orfodi drwy orchymyn mandadol.

(5Rhaid i'r Asiantaeth ymgynghori â Chynulliad Cenedlaethol Cymru cyn gwneud cais o dan baragraff (4).

(6Cyn dyroddi unrhyw god o dan y rheoliad hwn, bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhoi sylw i unrhyw gyngor perthnasol a roddir gan yr Asiantaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I24Rhl. 24 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyllLL+C

25.—(1Ni fydd swyddog i awdurdod gorfodi yn atebol yn bersonol am unrhyw weithred a gyflawnir ganddo—

(a)wrth weithredu neu honni ei fod yn gweithredu'r Rheoliadau Hylendid; a

(b)o fewn cwmpas ei gyflogaeth,

os gwnaeth y swyddog y weithred honno gan gredu'n onest fod ei ddyletswydd o dan y Rheoliadau Hylendid yn ei gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny neu'n rhoi hawl iddo wneud hynny.

(2Nid oes dim ym mharagraff (1) i'w ddehongli fel pe bai'n rhyddhau unrhyw awdurdod gorfodi rhag unrhyw rwymedigaeth mewn perthynas â gweithredoedd ei swyddogion awdurdodedig.

(3Pan fo achos cyfreithiol wedi'i ddwyn yn erbyn swyddog i awdurdod gorfodi mewn perthynas â gweithred a wnaed gan y swyddog hwnnw—

(a)wrth iddo weithredu neu honni ei fod yn gweithredu'r Rheoliadau Hylendid; ond

(b)y tu allan i gwmpas ei gyflogaeth,

caiff yr awdurdod indemnio'r swyddog yn erbyn y cyfan neu ran o unrhyw iawndal y gorchmynnwyd i'r swyddog ei dalu neu unrhyw gostau y gall y swyddog fod wedi'u tynnu, os yw'r awdurdod hwnnw wedi'i fodloni y credodd y swyddog yn onest fod y weithred y cwynir amdani o fewn cwmpas ei gyflogaeth.

(4Ymdrinnir â dadansoddydd cyhoeddus a benodwyd gan awdurdod bwyd at ddibenion y rheoliad hwn fel swyddog i'r awdurdod, p'un a yw penodiad y swyddog yn benodiad amser-cyfan neu beidio.

Gwybodaeth Cychwyn

I25Rhl. 25 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Dirymu dynodiadau a phenodiadau a'u hatal dros droLL+C

26.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), caiff yr Asiantaeth ar unrhyw bryd ddirymu neu atal dros dro—

(a)penodi milfeddyg swyddogol;

(b)dynodi milfeddyg cymeradwy; neu

(c)penodi cynorthwy-ydd swyddogol,

os yw'n ymddangos i'r Asiantaeth fod y person o dan sylw yn anffit i gyflawni unrhyw un o swyddogaethau'r swydd honno o dan y Rheoliadau Hylendid.

(2Pan fo'r Asiantaeth yn dirymu neu'n atal dros dro ddynodiad neu benodiad o dan baragraff (1), rhaid i'r Asiantaeth, cyn gynted ag y bo'n ymarferol, roi i'r person y mae ei ddynodiad neu ei benodiad wedi'i ddirymu neu wedi'i atal dros dro hysbysiad ysgrifenedig o'r rhesymau dros y dirymiad neu'r ataliad dros dro a rhoi i'r person hwnnw gyfle—

(a)i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i'r Asiantaeth yngl^yn â'r dirymiad neu'r ataliad dros dro; neu

(b)i gael gwrandawiad gan berson a enwir gan yr Asiantaeth at y diben yn unol ag is-baragraff (a) o baragraff (5).

(3Rhaid i hysbysiad a roddir o dan baragraff (2) roi gwybod i'r person y caiff ei roi iddo—

(a)am ei hawl i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig;

(b)ym mha ddull ac o fewn pa amser (heb fod yn llai nag 21 niwrnod o ddyddiad rhoi'r hysbysiad) y caniateir i'r sylwadau hynny gael eu cyflwyno;

(c)am ei hawl i gael gwrandawiad; ac

(ch)ym mha ddull ac o fewn pa amser (heb fod yn llai nag 21 niwrnod o ddyddiad rhoi'r hysbysiad) y caniateir iddo wneud cais am gyfle i gael gwrandawiad.

(4Os bydd y person y mae ei ddynodiad neu ei benodiad wedi'i ddirymu neu wedi'i atal dros dro yn cyflwyno unrhyw sylwadau (boed ar lafar neu mewn ysgrifen) o dan baragraff (3), rhaid i'r Asiantaeth ailystyried a yw'r person hwnnw'n anffit i gyflawni unrhyw un o swyddogaethau'r swydd y mae'n ei dal o dan y Rheoliadau Hylendid a rhaid iddi ailystyried cyn gynted ag y bo'n ymarferol ei phenderfyniad i ddirymu neu atal dros dro'r dynodiad neu'r penodiad o dan baragraff (1) yng ngoleuni'r sylwadau hynny.

(5Pan fo person yn gofyn am gyfle i gael gwrandawiad yn unol ag is-baragraff (6) o baragraff (2)—

(a)rhaid i'r Asiantaeth enwi person i benderfynu'r mater o'r rhestr a sefydlwyd o dan baragraff (6);

(b)rhaid i'r person a enwir felly gyflwyno hysbysiad i'r person sy'n gofyn am gyfle i gael gwrandawiad ac i'r Asiantaeth, yn rhoi gwybod iddynt am amser y gwrandawiad (a'r amser hwnnw heb fod yn llai nag 21 niwrnod o ddyddiad rhoi'r hysbysiad); ac

(c)rhaid i'r person a enwir felly hysbysu o fewn 21 niwrnod i'r gwrandawiad y person sy'n gofyn am gyfle i gael gwrandawiad a'r Asiantaeth o'i benderfyniad.

(6Rhaid i'r Asiantaeth sefydlu a chadw rhestr o bobl y caniateir eu henwi at ddibenion y rheoliad hwn a rhaid iddi ymgynghori â'r cyrff hynny y mae'n ymddangos iddi eu bod yn cynrychioli milfeddygon swyddogol, milfeddygon cymeradwy a chynorthwywyr swyddogol gan gynnwys unrhyw berson ar y rhestr.

Gwybodaeth Cychwyn

I26Rhl. 26 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Bwyd nad yw wedi'i gynhyrchu, wedi'i brosesu nac wedi'i ddosbarthu yn unol â'r Rheoliadau HylendidLL+C

27.—(1Wrth arolygu unrhyw fwyd, caiff swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi ardystio nad yw wedi'i gynhyrchu, wedi'i brosesu nac wedi'i ddosbarthu yn unol â'r Rheoliadau Hylendid.

(2Pan fo unrhyw fwyd yn cael ei ardystio fel a grybwyllwyd ym mharagraff (1), ymdrinnir ag ef at ddibenion adran 9 o'r Ddeddf fel bwyd sy'n methu â chydymffurfio â gofynion diogelwch bwyd.

(3Pan fo unrhyw fwyd a ardystiwyd fel a grybwyllwyd ym mharagraff (1) yn rhan o swp, lot neu lwyth o fwyd o'r un dosbarth neu ddisgrifiad, rhaid i'r holl fwyd yn y swp, y lot neu'r llwyth, hyd nes y profir ei fod wedi'i gynhyrchu, wedi'i brosesu neu wedi'i ddosbarthu yn unol â'r Rheoliadau Hylendid, gael ei drin at ddibenion paragraff (2) fel bwyd sydd wedi'i ardystio felly.

Gwybodaeth Cychwyn

I27Rhl. 27 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Cyflwyno dogfennauLL+C

28.—(1Caniateir i unrhyw ddogfen y mae'n ofynnol neu yr awdurdodir ei chyflwyno o dan y Rheoliadau hyn i weithredydd busnes bwyd gael ei chyflwyno—

(a)drwy ei thraddodi i'r person hwnnw;

(b)yn achos cwmni corfforaethol neu gorff corfforaethol, drwy ei thraddodi i'w ysgrifennydd yn swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa y cwmni neu'r corff hwnnw, neu drwy ei hanfon mewn llythyr rhagdaledig a gyfeirir at yr ysgrifennydd yn y swyddfa honno; neu

(c)yn achos unrhyw weithredydd busnes bwyd arall, drwy ei gadael neu ei hanfon mewn llythyr rhagdaledig a gyfeirir at y gweithredydd yn ei breswylfan arferol neu ei breswylfan hysbys ddiwethaf.

(2Pan fo dogfen i'w chyflwyno i weithredydd busnes bwyd o dan y Rheoliadau hyn ac nad yw'n rhesymol ymarferol darganfod enw a chyfeiriad y person y dylid ei chyflwyno iddo, neu pan fo mangre'r gweithredydd busnes bwyd heb ei meddiannu, caniateir i'r ddogfen gael ei chyflwyno drwy ei chyfeirio at y gweithredydd busnes bwyd o dan sylw yn ei swyddogaeth fel meddiannydd y fangre honno (gan ei henwi), ac

(a)drwy ei thraddodi i ryw berson arall yn y fangre; a

(b)os nad oes unrhyw berson arall yn y fangre y gellir ei thraddodi iddo, drwy osod y ddogfen, neu gopi ohoni, ar ryw ran amlwg o'r fangre.

Gwybodaeth Cychwyn

I28Rhl. 28 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Swmpgludo olewau hylifol neu frasterau hylifol ar longau mordwyol a swmpgludo siwgr crai dros y môrLL+C

29.  Mae Atodlen 3 (swmpgludo olewau hylifol neu frasterau hylifol ar longau mordwyol a swmpgludo siwgr crai dros y môr) yn effeithiol.

Gwybodaeth Cychwyn

I29Rhl. 29 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Gofynion rheoli tymhereddLL+C

30.  Mae Atodlen 4 (gofynion rheoli tymheredd) yn effeithiol.

Gwybodaeth Cychwyn

I30Rhl. 30 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Y modd y mae'r cynhyrchydd yn cyflenwi'n uniongyrchol feintiau bach o gig o ddofednod a lagomorffiaid a gigyddwyd ar y ffermLL+C

31.  Mae Atodlen 5 (y modd y mae'r cynhyrchydd yn cyflenwi'n uniongyrchol feintiau bach o gig o ddofednod a lagomorffiaid a gigyddwyd ar y fferm) yn effeithiol.

Gwybodaeth Cychwyn

I31Rhl. 31 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Cyfyngiadau ar werthu llaeth crai a fwriedir ar gyfer ei yfed yn uniongyrchol gan bobl a diwygiadau i Reoliadau Labelu Bwyd 1996LL+C

32.—(1Mae Atodlen 6 (cyfyngiadau ar werthu llaeth crai a fwriedir ar gyfer ei yfed yn uniongyrchol gan bobl) yn effeithiol.

(2Ym mharagraff (1) o reoliad 31 o Reoliadau Labelu Bwyd 1996(11) dileer y geiriau “Subject to paragraph (3) of this regulation, and except” a rhoi'r gair “Except” yn eu lle.

(3Ym mharagraff (2) o reoliad 31 o Reoliadau Labelu Bwyd 1996 dileer y geiriau “Subject to paragraph (3) of this regulation, in” a rhoi'r gair “In” yn eu lle.

(4Ym mharagraffau (1) a (2) o reoliad 31 o Reoliadau Labelu Bwyd 1996, yn union ar ôl y geiriau “harmful to health.” rhodder y geiriau “The Food Standards Agency strongly advises that it should not be consumed by children, pregnant women, older people or those who are unwell or have chronic illness.”.

(5Dileer paragraff (3) o reoliad 31 o Reoliadau Labelu Bwyd 1996.

Gwybodaeth Cychwyn

I32Rhl. 32 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

[F9Marc iechyd arbennigLL+C

32A.  Rhaid i'r marc iechyd arbennig y cyfeirir ato ym mharagraff 9 o Bennod VI o Adran I o Atodiad III i Reoliad 853/2004 a pharagraff 7 o Bennod III o Adran I o Atodiad I i Reoliad 854/2004 gydymffurfio ag Atodlen 6A.]

Diwygiadau canlyniadolLL+C

33.—(1I'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru, diwygir yr offerynnau a bennir yn Atodlen 7 i'r graddau a bennir yno.

(2Yn lle Nodyn 3 yn Atodlen 1 i Reoliadau Llaeth Cyddwys a Llaeth Sych (Cymru) 2003(12) (cynhyrchion llaeth sydd wedi'u dadhydradu a'u preserfio yn rhannol neu'n llwyr a'u disgrifiadau neilltuedig) rhodder y Nodyn canlynol—

3.  Llwyddir i breserfio'n cynhyrchion dynodedig—

(a)drwy drin â gwres ar gyfer y cynhyrchion y cyfeirir atynt ym mharagraff 1(a) i (ch) o golofn 1 yn yr Atodlen hon;

(b)drwy ychwanegu swcros ar gyfer y cynhyrchion y cyfeirir atynt ym mharagraff 1(d) i (e) o golofn 1 yn yr Atodlen hon; a

(c)drwy ddadhydradu ar gyfer y cynhyrchion y cyfeirir atynt ym mharagraff 2 o'r Atodlen hon..

Gwybodaeth Cychwyn

I33Rhl. 33 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

DirymiadauLL+C

34.—(1Dirymir Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2005.

Gwybodaeth Cychwyn

I34Rhl. 34 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(13)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

10 Ionawr 2006

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Pwynt Penodol mewn Amser: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill