Statws
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 30/07/2012.
Newidiadau i ddeddfwriaeth:
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006, ATODLEN 6A.![Help about Changes to Legislation](/images/chrome/helpIcon.gif)
![Close](/images/chrome/closeIcon.gif)
Changes to Legislation
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
Rheoliad 32A
[ATODLEN 6ALL+CY MARC IECHYD ARBENNIG
1. Rhaid i farc iechyd arbennig fod yn farc sgwâr gyda'r nodau canlynol mewn ffurf ddarllenadwy arno:LL+C
ar y rhan uchaf, y llythrennau “UK”;
yn y canol, rhif cymeradwyo'r fangre; ac
ar y rhan isaf, y llythyren “N”.
2. Pan osodir y marc iechyd arbennig ar garcasau, rhaid i'r marc fesur 5.5 cm wrth 5.5 cm a rhaid i uchder y llythrennau sydd arno fod yn 0.8 cm ac uchder y rhifau yn 1 cm. Caniateir i ddimensiynau a nodau'r marc fod yn llai pan osodir y marc iechyd ar ŵyn, mynnod gafr a pherchyll.]LL+C
Yn ôl i’r brig