Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 30/07/2012.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

YR ATODLENNI

Rheoliad 2(1)

[F1ATODLEN 1LL+CDIFFINIADAU O DDEDDFWRIAETH UE

Ystyr “Penderfyniad 2006/766” (“Decision 2006/766”) yw Penderfyniad y Comisiwn 2006/766/EC sy'n sefydlu rhestrau o drydydd gwledydd a thiriogaethau y caniateir mewnforio ohonynt folysgiaid deufalf, ecinodermiaid, tiwnigogion, gastropodau morol a chynhyrchion pysgodfeydd, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad 2011/131;

Ystyr “Penderfyniad 2011/131” (“Decision 2011/131”) yw Penderfyniad y Comisiwn 2011/131/EU sy'n diwygio Atodiad II i Benderfyniad 2006/766/EC sy'n ymwneud â chynnwys Fiji yn y rhestr o drydydd gwledydd a thiriogaethau y caniateir mewnforio cynhyrchion pysgodfeydd ohonynt ar gyfer eu bwyta gan bobl;

Ystyr “Cyfarwyddeb 2004/41” (“Directive 2004/41”) yw Cyfarwyddeb 2004/41/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n diddymu rhai cyfarwyddebau ynglŷn â hylendid bwyd ac amodau iechyd ar gyfer cynhyrchu, a rhoi ar y farchnad, rhai cynhyrchion sy'n tarddu o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl ac sy'n diwygio Cyfarwyddebau'r Cyngor 89/662/EEC a 92/118/EEC a Phenderfyniad y Cyngor 95/408/EC;

Ystyr “Rheoliad 178/2002” (“Regulation 178/2002”) yw Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad 596/2009;

Ystyr “Rheoliad 852/2004” (“Regulation 852/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar hylendid deunyddiau bwyd, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad 219/2009 ac fel y'i darllenir ynghyd â Rheoliad 2073/2005;

Ystyr “Rheoliad 853/2004” (“Regulation 853/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n tarddu o anifeiliaid, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad 16/2012 ac fel y'i darllenir ynghyd â Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad 1688/2005, Rheoliad 2074/2005, Rheoliad 2076/2005, Rheoliad 1020/2008 a Rheoliad 1162/2009;

Ystyr “Rheoliad 854/2004” (“Regulation 854/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau penodol ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy'n tarddu o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad 739/2011 ac fel y'i darllenir ynghyd â Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad 2074/2005, Rheoliad 2075/2005, Rheoliad 2076/2005, Penderfyniad 2006/766, Rheoliad 1021/2008 a Rheoliad 1162/2009;

Ystyr “Rheoliad 882/2004” (“Regulation 882/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reolaethau swyddogol a wneir i sicrhau y gwirir cydymffurfiaeth â chyfraith bwyd anifeiliaid a bwyd, rheolau iechyd anifeiliaid a lles anifeiliaid, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad 880/2011 ac fel y'i darllenir ynghyd â Rheoliad 2074/2005, Rheoliad 669/2009 a Rheoliad 1162/2009;

Ystyr “Rheoliad 1688/2005” (“Regulation 1688/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1688/2005 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n ymwneud â gwarantau arbennig ynghylch salmonela ar gyfer traddodi cig ac wyau penodol i'r Ffindir a Sweden, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad 1223/2011;

Ystyr “Rheoliad 2073/2005” (“Regulation 2073/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2073/2005 ar griteria microbiolegol ar gyfer deunyddiau bwyd, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad 1086/2011;

Ystyr “Rheoliad 2074/2005” (“Regulation 2074/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2074/2005 sy'n gosod mesurau gweithredu ar gyfer cynhyrchion penodol o dan Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol o dan Reoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor a Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n rhanddirymu Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad 809/2011;

Ystyr “Rheoliad 2075/2005” (“Regulation 2075/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2075/2005 sy'n gosod rheolau penodol ynghylch rheolaethau swyddogol ar gyfer Trichinella mewn cig, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad 1109/2011;

Ystyr “Rheoliad 1020/2008” (“Regulation 1020/2008”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1020/2008 sy'n diwygio Atodiadau II a III i Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n tarddu o anifeiliaid a Rheoliad (EC) Rhif 2076/2005 o ran marciau adnabod, llaeth crai a chynhyrchion llaeth, wyau a chynhyrchion wyau a chynhyrchion pysgodfeydd penodol;

Ystyr “Rheoliad 1021/2008” (“Regulation 1021/2008”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1021/2008 sy'n diwygio Atodiadau I, II a III i Reoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau penodol ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy'n tarddu o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl a Rheoliad (EC) Rhif 2076/2005 o ran molysgiaid deufalf byw, cynhyrchion pysgodfeydd penodol a staff sy'n cynorthwyo â'r rheolaethau swyddogol mewn lladd-dai;

Ystyr “Rheoliad 219/2009” (“Regulation 219/2009”) yw Rheoliad (EC) Rhif 219/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n addasu nifer o offerynnau sy'n ddarostyngedig i'r weithdrefn y cyfeirir ati yn Erthygl 251 o'r Cytuniad i Benderfyniad y Cyngor 1999/468/EC o ran y weithdrefn reoleiddiol gyda chraffu: Addasiad i'r weithdrefn reoleiddiol gyda chraffu — Rhan Dau(1);

Ystyr “Rheoliad 596/2009” (“Regulation 596/2009”) yw Rheoliad (EC) Rhif 596/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor yn addasu nifer o offerynnau sy'n ddarostyngedig i'r weithdrefn y cyfeirir ati yn Erthygl 251 o'r Cytuniad i Benderfyniad y Cyngor 1999/468/EC o ran y weithdrefn reoleiddiol gyda chraffu: Addasiad i'r weithdrefn reoleiddiol gyda chraffu — Rhan Pedwar(2), fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad 1169/2011;

Ystyr “Rheoliad 669/2009” (“Regulation 669/2009”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 669/2009 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ynghylch y cynnydd yn lefel y rheolaethau swyddogol ar fewnforio bwyd anifeiliaid penodol a bwyd penodol nad yw'n tarddu o anifeiliaid ac yn diwygio Penderfyniad 2006/504/EC(3), fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad 1277/2011;

Ystyr “Rheoliad 1162/2009” (“Regulation 1162/2009”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1162/2009 sy'n gosod mesurau trosiannol ar gyfer gweithredu Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004, (EC) Rhif 854/2004 ac (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor(4), fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad 28/2012 ac fel y'i darllenir ynghyd ag ail is-baragraff Erthygl 54(3) o Reoliad 1169/2011;

Ystyr “Rheoliad 739/2011” (“Regulation 739/2011”) yw Rheoliad Gweithredu'r Comisiwn (EU) Rhif 739/2011 sy'n diwygio Atodiad I i Reoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau penodol ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy'n tarddu o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl(5);

Ystyr “Rheoliad 809/2011 (“Regulation 809/2011”) yw Rheoliad Gweithredu'r Comisiwn (EU) Rhif 809/2011 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2074/2005 o ran dogfennau sy'n mynd gyda mewnforion o gynhyrchion pysgodfeydd sydd wedi eu rhewi ac sy'n dod yn uniongyrchol o lestr rhewi;

Ystyr “Rheoliad 880/2011” (“Regulation 880/2011”) yw Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 880/2011 sy'n cywiro Rheoliad (EU) Rhif 208/2011 sy'n diwygio Atodiad VII i Reoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor a Rheoliadau'r Comisiwn (EC) Rhif 180/2008 ac (EC) Rhif 737/2008 o ran rhestrau o labordai cyfeirio UE a'u henwau;

Ystyr “Rheoliad 1086/2011” (“Regulation 1086/2011”) yw Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 1086/2011 sy'n diwygio Atodiad II i Reoliad (EC) Rhif 2160/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac Atodiad I i Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2073/2005 o ran salmonella mewn cig dofednod ffres;

Ystyr “Rheoliad 1109/2011” (“Regulation 1109/2011”) yw Rheoliad Gweithredu'r Comisiwn (EU) Rhif 1109/2011 sy'n diwygio Atodiad I i Reoliad (EC) Rhif 2075/2005 o ran y dulliau cyfwerth o brofi am Trichinella;

Ystyr “Rheoliad 1169/2011” (“Regulation 1169/2011”) yw Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ddarparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr, sy'n diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 1924/2006 ac (EC) Rhif 1925/2006 Senedd Ewrop a'r Cyngor, ac yn diddymu Cyfarwyddeb y Comisiwn 87/250/EEC, Cyfarwyddeb y Cyngor 90/496/EEC, Cyfarwyddeb y Comisiwn 1999/10/EC, Cyfarwyddeb 2000/13/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor, Cyfarwyddebau'r Comisiwn 2002/67/EC a 2008/5/EC a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 608/2004;

Ystyr “Rheoliad 1223/2011” (“Regulation 1223/2011”) yw Rheoliad Gweithredu'r Comisiwn (EU) Rhif 1223/2011 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1688/2005 o ran samplu'r heidiau y mae wyau'n tarddu ohonynt ac archwiliadau microbiolegol o samplau o'r fath a samplau o gig penodol a fwriedir ar gyfer y Ffindir a Sweden;

Ystyr “Rheoliad 1277/2011” (“Regulation 1277/2011”) yw Rheoliad Gweithredu'r Comisiwn (EU) Rhif 1277/2011 sy'n diwygio Atodiad I i Reoliad (EC) Rhif 669/2009 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran y lefel uwch o reolaethau swyddogol ar fewnforio bwyd anifeiliaid penodol a bwyd penodol nad yw'n tarddu o anifeiliaid;

Ystyr “Rheoliad 16/2012” (“Regulation 16/2012”) yw Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 16/2012 sy'n diwygio Atodiad II i Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran y gofynion sy'n ymwneud â bwyd wedi ei rewi, sy'n tarddu o anifeiliaid ac a fwriedir ar ei fwyta gan bobl;

Ystyr “Rheoliad 28/2012” (“Regulation 28/2012”) yw Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 28/2012 sy'n gosod gofynion ardystio ar gyfer mewnforio cynhyrchion cyfansawdd penodol i'r Undeb, a chludo'r cynhyrchion hynny drwyddo, ac sy'n diwygio Penderfyniad 2007/275/EC a Rheoliad (EC) Rhif 1162/2009.]

Rheoliadau 2(1) a 17

ATODLEN 2LL+CDARPARIAETHAU CYMUNEDOL PENODEDIG

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

1. Y Ddarpariaeth yn Rheoliadau'r ymuned2. Y Pwnc
Erthygl 3 o Reoliad 852/2004Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd yn sicrhau bod pob cam yn y broses o gynhyrchu, prosesu a dosbarthu bwyd sydd o dan eu rheolaeth yn bodloni'r gofynion perthnasol o ran hylendid sydd wedi'u nodi yn Rheoliad 852/2004.
Erthygl 4(1) o Reoliad 852/2004Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd sy'n gwneud gwaith cynhyrchu sylfaenol a gweithrediadau cysylltiedig penodol yn cydymffurfio â'r darpariaethau hylendid cyffredinol a bennir yn Rhan A o Atodiad I i Reoliad 852/2004 ac unrhyw ofynion penodol y darperir ar eu cyfer yn Rheoliad 853/2004.
Erthygl 4(2) o Reoliad 852/2004Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd sy'n cyflawni unrhyw gam yn y broses o gynhyrchu, prosesu a dosbarthu bwyd ar ôl y camau hynny y mae Erthygl 4(1) yn gymwys iddynt yn cydymffurfio â'r gofynion cyffredinol o ran hylendid a nodir yn Atodiad II i Reoliad 852/2004 ac unrhyw ofynion penodol y darperir ar eu cyfer yn Rheoliad 853/2004.
Erthygl 4(3) o Reoliad 852/2004Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd, fel y bo'n briodol, yn mabwysiadu rhai mesurau hylendid penodol.
Erthygl 5(1) o Reoliad 852/2004Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd yn sefydlu, gweithredu a chynnal gweithdrefn neu weithdrefnau parhaol ar sail egwyddorion Dadansoddi Peryglon a Phwynt Rheoli Critigol (HACCP).
Erthygl 5(2) o Reoliad 852/2004Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd, pan fo unrhyw addasiad yn cael ei wneud i'r cynnyrch, y broses, neu i unrhyw gam yn y broses, yn adolygu'r weithdrefn y cyfeirir ati yn Erthygl 5(1) ac yn gwneud y newidiadau angenrheidiol iddi.
Erthygl 5(4)(a) o Reoliad 852/2004Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd yn darparu i'r awdurdod cymwys dystiolaeth eu bod yn cydymffurfio ag Erthygl 5(1).
Erthygl 5(4)(b) o Reoliad 852/2004Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd yn sicrhau bod unrhyw ddogfennau sy'n disgrifio'r gweithdrefnau a ddatblygwyd yn unol ag Erthygl 5 yn gyfoes.
Erthygl 5(4)(c) o Reoliad 852/2004Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd yn dal eu gafael ar ddogfennau a chofnodion am gyfnod priodol.
Erthygl 6(1) o Reoliad 852/2004Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd yn cydweithredu â'r awdurdodau cymwys yn unol ag unrhyw ddeddfwriaeth arall y Gymuned neu unrhyw gyfraith genedlaethol arall sy'n gymwys.
Erthygl 6(2), paragraff cyntaf RheoliadGofyniad bod gweithredydd busnes bwyd yn hysbysu'r 852/2004 awdurdod cymwys o bob sefydliad o dan ei reolaeth sy'n cyflawni unrhyw un o'r camau yn y broses o gynhyrchu, prosesu a dosbarthu bwyd.
Erthygl 6(2), ail baragraff RheoliadGofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd yn sicrhau 852/2004 bod gan yr awdurdod cymwys wybodaeth gyfoes am sefydliadau.
Erthygl 6(3) o Reoliad 852/2004Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd yn sicrhau bod sefydliadau yn cael eu cymeradwyo gan yr awdurdod cymwys pan fo angen cymeradwyaeth.
Erthygl 3(1) o Reoliad 853/2004Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd yn cydymffurfio â darpariaethau perthnasol Atodiadau II a III i Reoliad 853/2004.
Erthygl 3(2) o Reoliad 853/2004Gofyniad nad yw gweithredwyr busnes bwyd yn defnyddio unrhyw sylwedd heblaw dŵr yfadwy neu, pan fo Rheoliad 852/2004 neu Reoliad 853/2004 yn caniatáu ei ddefnyddio, dŵr glân i dynnu halogiad ar y wyneb oddi ar gynhyrchion sy'n tarddu o anifeiliaid, oni bai bod defnyddio'r sylwedd wedi'i gymeradwyo.
Erthygl 4(1) o Reoliad 853/2004

Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd ddim ond yn rhoi ar y farchnad gynhyrchion sy'n tarddu o anifeiliaid ac sydd wedi'u gweithgynhyrchu yn [F2Yr Undeb Ewropeaidd] os ydynt wedi'u paratoi a'u trafod yn y sefydliadau canlynol yn unig—

(a)

sefydliadau sy'n bodloni gofynion perthnasol Rheoliad 852/2004, rhai perthnasol Atodiadau II a III i Reoliad 853/2004 a gofynion perthnasol eraill cyfraith bwyd; a

(b)

y mae'r awdurdod cymwys wedi'u cofrestru neu, pan fo'n ofynnol yn unol ag Erthygl 4(2), wedi'u cymeradwyo.

Erthygl 4(2) o Reoliad 853/2004Gofyniad nad yw sefydliadau sy'n trafod y cynhyrchion hynny sy'n tarddu o anifeiliaid, ac y mae Atodiad III i Reoliad 853/2004 yn gosod gofynion ar eu cyfer, yn gweithredu onid yw'r awdurdod cymwys wedi'u cymeradwyo yn unol ag Erthygl 4(3).
Erthygl 4(3) o Reoliad 853/2004

Gofyniad na ddylai sefydliadau sy'n ddarostyngedig i gymeradwyaeth yn unol ag Erthygl 4(2) weithredu oni bai bod yr awdurdod cymwys, yn unol â Rheoliad 854/2004—

(a)

wedi rhoi cymeradwyaeth i'r sefydliad weithredu yn dilyn ymweliad ar y safle; neu

(b)

wedi rhoi cymeradwyaeth amodol i'r sefydliad.

Erthygl 4(4) o Reoliad 853/2004Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd yn cydweithredu â'r awdurdodau cymwys yn unol â Rheoliad 854/2004 gan gynnwys sicrhau bod sefydliad yn peidio â gweithredu os nad yw'n sefydliad cymeradwy mwyach.
Erthygl 5(1) o Reoliad 853/2004

Gofyniad nad yw gweithredwyr busnes bwyd yn rhoi ar y farchnad gynnyrch sy'n tarddu o anifeiliaid ac sydd wedi'i drafod mewn sefydliad sy'n ddarostyngedig i gymeradwyaeth yn unol ag Erthygl 4(2) oni bai—

(a)

bod marc iechyd wedi'i ddodi arno yn unol â Rheoliad 854/2004; neu

(b)

pan nad yw Rheoliad 854/2004 yn darparu ar gyfer dodi marc iechyd, bod marc adnabod yn cael ei ddodi yn unol ag Adran 1 o Atodiad II Reoliad 853/2004.

Erthygl 5(2) o Reoliad 853/2004Gofyniad mai dim ond os yw'r cynnyrch wedi'i weithgynhyrchu yn unol â Rheoliad 853/2004 mewn sefydliadau sy'n bodloni gofynion Erthygl 4 y dylai gweithredwyr busnes bwyd ddodi marc adnabod ar gynnyrch sy'n tarddu o anifeiliaid.
Erthygl 5(3) o Reoliad 853/2004Gofyniad nad yw gweithredwyr busnes bwyd yn dileu marc iechyd a ddodwyd yn unol â Rheoliad 854/2004 oddi ar gig oni bai eu bod yn ei dorri neu'n ei brosesu neu'n gweithio arno mewn modd arall.
Erthygl 6(1) a (2) o Reoliad 853/2004Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd yn sicrhau mai dim ond pan fydd amodau penodol wedi'u bodloni y dylai mewnforio cynhyrchion sy'n tarddu o anifeiliaid ddigwydd.
Erthygl 6(3) o Reoliad 853/2004

Gofyniad bod rhaid i weithredwyr busnes bwyd sy'n mewnforio cynhyrchion sy'n tarddu o anifeiliaid sicrhau—

(a)

bod cynhyrchion yn cael eu rhoi ar gael i'w rheoli wrth iddynt gael eu mewnforio yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 97/78/EC(6);

(b)

bod y mewnforio yn cydymffurfio â gofynion Cyfarwyddeb y Cyngor 2002/99/EC(7); ac

(c)

bod gweithrediadau o dan eu rheolaeth sy'n digwydd ar ôl y mewnforio yn cael eu cyflawni yn unol â gofynion Atodiad III i Reoliad 853/2004.

Erthygl 6(4) o Reoliad 853/2004Gofynion bod gweithredwyr busnes bwyd sy'n mewnforio bwyd sy'n cynnwys cynhyrchion sy'n tarddu o blanhigion a chynhyrchion proses sy'n tarddu o anifeiliaid yn sicrhau bod y cynhyrchion proses sy'n tarddu o anifeiliaid yn bodloni gofynion paragraffau (1) i (3) o Erthygl 6.
Erthygl 7 o Reoliad 853/2004Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd yn sicrhau bod tystysgrifau neu ddogfennau eraill yn mynd gyda llwythi cynhyrchion sy'n tarddu o anifeiliaid pan fo'n ofynnol yn unol ag Atodiad II neu III i Reoliad 853/2004.
Erthygl 8 o Reoliad 853/2004Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd sy'n bwriadu rhoi bwydydd penodedig sy'n tarddu o anifeiliaid ar y farchnad yn Sweden neu'r Ffindir yn cydymffurfio â'r rheolau a nodir yn Erthygl 8(2).
Erthygl 7(1) o Reoliad 2073/2005Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd yn cymryd y mesurau a bennir ym mharagraffau (2) i (4) o Erthygl 7 pan fydd y canlyniadau ar ôl profi yn erbyn y meni prawf a osodir yn Atodiad I i Reoliad 2073/2005 (meini prawf microbiolegol ar gyfer bwydydd) yn anfoddhaol
Erthygl 9 o Reoliad 2073/2005Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd daliadau y cydnabyddir eu bod yn rhydd o Trichinella yn hysbysu'r awdurdod cymwys o unrhyw ofyniad a bennir ym Mhennod I a II(B) o Atodiad IV i Reoliad 2075/2005 (amodau manwl ar gyfer daliadau sy'n rhydd o Trichinella ac ardaloedd lle mae'r risg o Trichinella yn eithriadol o fach) nad yw bellach yn cael ei gyflawni neu unrhyw newid arall a allai effeithio ar statws daliadau sy'n rhydd o Trichinella.

Diwygiadau Testunol

Rheoliad 29

ATODLEN 3LL+CSWMPGLUDO OLEWAU HYLIFOL NEU FRASTERAU HYLIFOL AR LONGAU MORDWYOL A SWMPGLUDO SIWGR CRAI DROS Y MôR

TramgwyddLL+C

1.  Bydd person sy'n mynd yn groes i unrhyw un o ofynion yr Atodlen hon neu'n methu â chydymffurfio ag unrhyw un ohonynt yn euog o dramgwydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 3 para. 1 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Olewau hylifol neu frasterau hylifolLL+C

2.—(1Caniateir i olewau hylifol neu frasterau hylifol sydd i'w prosesu, ac a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl neu sy'n debygol o gael eu defnyddio ar gyfer eu bwyta gan bobl, gael eu swmpgludo ar longau mordwyol mewn tanciau nas cedwir at gludo deunyddiau bwyd yn unig, a chaniateir hynny yn ddarostyngedig i'r amodau canlynol—

(a)pan fo'r olew neu'r braster yn cael ei gludo mewn tanc dur gwrthstaen, neu danc sydd wedi'i leinio â resin epocsi neu ddeunydd sy'n dechnegol gyfatebol iddo, rhaid i'r cargo uniongyrchol flaenorol a gludwyd yn y tanc fod wedi bod yn ddeunydd bwyd neu'n gargo o'r rhestr o gargoau blaenorol derbyniol ar gyfer olewau hylifol neu frasterau hylifol; a

(b)pan fo'r olew neu'r braster yn cael ei gludo mewn tanc o ddeunyddiau heblaw'r rhai a bennir yn is-baragraff (a), rhaid i'r tri chargo blaenorol a gludwyd yn y tanciau fod wedi bod yn ddeunyddiau bwyd neu'n gargoau o'r rhestr o gargoau blaenorol derbyniol ar gyfer olewau hylifol neu frasterau hylifol.

(2At ddibenion y paragraff hwn, ystyr “rhestr o gargoau blaenorol derbyniol ar gyfer olewau hylifol neu frasterau hylifol” yw'r rhestr a nodir yn yr Atodiad i Gyfarwyddeb y Comisiwn 96/3/EC.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

3.  Caniateir i olewau hylifol neu frasterau hylifol nad ydynt i'w prosesu ymhellach, ac a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl neu sy'n debygol o gael eu defnyddio ar gyfer eu bwyta gan bobl, gael eu swmpgludo mewn tanciau nas cedwir at gludo deunyddiau bwyd yn unig, a chaniateir hynny yn ddarostyngedig i'r amodau canlynol—

(a)rhaid i'r tanc fod yn danc dur gwrthstaen neu fod wedi'i leinio â resin epocsi neu ddeunydd sy'n dechnegol gyfatebol iddo; a

(b)rhaid i'r tri chargo blaenorol a gludwyd yn y tanc fod wedi bod yn ddeunyddiau bwyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

I4Atod. 3 para. 3 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

4.  Rhaid i gapten llong fordwyol sy'n cludo mewn tanciau swmp o olewau hylifol neu frasterau hylifol a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl neu sy'n debygol o gael eu defnyddio ar gyfer eu bwyta gan bobl, gadw tystiolaeth ddogfennol gywir yngl^yn â'r tri chargo blaenorol a gludwyd yn y tanciau o dan sylw, ac am effeithiolrwydd y broses lanhau a ddefnyddiwyd rhwng y cargoau hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

I5Atod. 3 para. 4 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

5.  Pan fo'r cargo wedi'u drawslwytho, yn ychwanegol at y dystiolaeth ddogfennol sy'n ofynnol yn rhinwedd paragraff 4, rhaid i gapten y llong sy'n ei dderbyn gadw tystiolaeth ddogfennol gywir bod cludo'r swmp o olew hylifol neu fraster hylifol wedi cydymffurfio â darpariaethau paragraff 2 neu 3 yn ystod y llwyth llong blaenorol ac am effeithiolrwydd y broses lanhau a ddefnyddiwyd rhwng y cargoau hynny ar y llong y cawsant eu trawslwytho ohoni.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

I6Atod. 3 para. 5 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

6.  Os gofynnir iddo wneud hynny, rhaid i gapten y llong roi i'r awdurdod gorfodi y dystiolaeth ddogfennol a ddisgrifiwyd ym mharagraffau 4 a 5.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

I7Atod. 3 para. 6 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Siwgr craiLL+C

7.  Caniateir i siwgr crai na fwriedir ei ddefnyddio fel bwyd neu gynhwysyn bwyd heb broses buro lawn ac effeithiol gael ei swmpgludo dros y môr mewn daliedyddion, cynwysyddion neu danceri nad ydynt yn cael eu defnyddio ar gyfer cludo deunyddiau bwyd yn unig.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 3 para. 7 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

8.  Bydd y daliedyddion, y cynwysyddion neu'r tanceri y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff 7 yn ddarostyngedig i'r amodau canlynol—

(a)cyn llwytho'r siwgr crai, rhaid i'r daliedydd, y cynhwysydd neu'r tancer gael ei lanhau'n effeithiol i waredu gweddillion y cargo blaenorol ac unrhyw faeddu arall a'i arolygu i gadarnhau bod y gweddillion hynny wedi'u gwaredu'n effeithiol; a

(b)rhaid i'r cargo uniongyrchol flaenorol a gludwyd cyn y siwgr crai beidio â bod wedi bod yn swmp-hylif.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 3 para. 7 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

I9Atod. 3 para. 8 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

9.  Rhaid i weithredydd busnes bwyd sy'n gyfrifol am gludo siwgr crai dros y môr o dan baragraff 7 gadw tystiolaeth ddogfennol, gan ddisgrifio'n gywir ac yn fanwl y cargo uniongyrchol flaenorol a gludwyd yn y daliedydd, y cynhwysydd neu'r tancer o dan sylw, a math ac effeithiolrwydd y broses lanhau a ddefnyddiwyd cyn cludo'r siwgr crai.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 3 para. 7 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

I10Atod. 3 para. 9 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

10.  Rhaid i'r dystiolaeth ddogfennol fynd gyda llwyth siwgr crai yn ystod pob cam yn y broses o'i gludo i'r burfa a rhaid i'r burfa gadw copi o'r dystiolaeth honno. Rhaid i'r dystiolaeth ddogfennol gael ei marcio fel a ganlyn mewn modd sy'n hollol weladwy ac annileadwy mewn un neu ragor o ieithoedd y Gymuned: “This product must be refined before being used for human consumption”.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 3 para. 7 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

I11Atod. 3 para. 10 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

11.  Os gofynnir iddo wneud hynny, rhaid i weithredydd busnes bwyd sy'n gyfrifol am gludo'r siwgr crai neu'r broses buro ddarparu i'r awdurdod gorfodi y dystiolaeth ddogfennol y cyfeiriwyd ati ym mharagraffau 9 a 10.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 3 para. 7 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

I12Atod. 3 para. 11 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

12.  Gwneir i siwgr crai sydd wedi'i gludo dros y môr mewn daliedyddion, cynwysyddion neu danceri nas cedwir at gludo deunyddiau bwyd yn unig, fynd drwy broses buro lawn ac effeithiol cyn iddo gael ei ystyried yn addas i'w ddefnyddio fel bwyd neu fel cynhwysyn bwyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 3 para. 7 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

I13Atod. 3 para. 12 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

13.  Wrth gyflawni'r rhwymedigaethau o dan Erthygl 5(1) o Reoliad 852/2004 (dadansoddi peryglon a phwynt rheoli critigol) o ran swmpgludo siwgr crai dros y môr o dan baragraff 7, rhaid i weithredydd busnes bwyd sy'n gyfrifol am gludo neu buro siwgr crai—

(a)ystyried y broses lanhau yr ymgymerwyd, hi cyn llwytho'r siwgr i'w gludo dros y môr yn bwynt rheoli critigol yn y modd y cyfeirir at “critical control point” yn Erthygl 5(2)(b) o Reoliad 852/2004; a

(b)cymryd i ystyriaeth natur y cargo blaenorol sydd wedi'i gludo mewn unrhyw ddaliedydd, cynhwysydd neu dancer sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer cludo'r siwgr.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 3 para. 7 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

I14Atod. 3 para. 13 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

DehongliLL+C

14.—(1At ddibenion yr Atodlen hon mae unrhyw eiriau neu ymadroddion a ddefnyddir yn yr Atodlen hon ac unrhyw eiriau neu ymadroddion Saesneg cyfatebol a ddefnyddir yng Nghyfarwyddeb y Comisiwn 96/3/EC neu Gyfarwyddeb y Comisiwn 98/28/EC yn caniatáu rhan-ddirymiad o ddarpariaethau penodol Cyfarwyddeb 93/43/EEC ar hylendid deunyddiau bwyd o ran cludo swmpiau o siwgr crai dros y môr(8) yn dwyn yr un ystyr ag ystyr y geiriau neu'r ymadroddion Saesneg cyfatebol hynny yn eu tro yn y Cyfarwyddebau hynny.

(2Yn yr Atodlen hon, ystyr “Cyfarwyddeb y Comisiwn 96/3/EC” yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 96/3/EC sy'n caniatáu rhan-ddirymiad o ddarpariaethau penodol Cyfarwyddeb y Cyngor 93/43/EEC ar hylendid deunyddiau bwyd o ran cludo swmpiau o olewau hylifol a brasterau hylifol dros y môr(9), fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2004/4/EC yn diwygio Cyfarwyddeb 96/3/EC yn caniatáu rhan-ddirymiad o ddarpariaethau Cyfarwyddeb y Cyngor 93/43/EEC ar hylendid deunyddiau bwyd o ran cludo swmpiau o olewau hylifol a brasterau hylifol dros y môr(10).

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 3 para. 14 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Rheoliad 17(5)

[F3ATODLEN 3ALL+CGOFYNION Y CYFEIRIR ATYNT YN RHEOLIAD 17(5)

Y gofynion yw—

(a)bod y lladd-dy ar 31 Rhagfyr 2005 yn un a drwyddedwyd yn lladd-dy trwybwn isel o dan Reoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Arolygu) 1995(8);

(b)mai dim ond yn anaml y bydd cyflwr cig sy'n tarddu o garnolion domestig a gigyddwyd yn y lladd-dy yn ei gwneud yn angenrheidiol dal gafael ar y cig hwnnw ar ôl arolygiad post-mortem er mwyn i'r milfeddyg swyddogol wneud arolygiad pellach ohono;

(c)pan fo arolygiad pellach o'r fath yn angenrheidiol ym marn y milfeddyg swyddogol, bod y cig o dan sylw yn cael ei ddifa neu fod gafael yn cael ei ddal arno mewn cyfleuster dal gafael amgen yng nghyffiniau'r lladd-dy;

(ch)pan fo cig yn cael ei gludo o'r lladd-dy i'r cyfleuster dal gafael amgen y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (c), rhaid ei farcio â'r geiriau 'detained meat' a rhaid bod gydag ef ddogfen sydd wedi ei llofnodi gan y milfeddyg swyddogol, sy'n datgan bod y cig yn gig y mae gafael yn cael ei ddal arno ac sy'n cynnwys yr wybodaeth a ganlyn—

(i)enw a chyfeiriad y lladd-dy gwreiddiol;

(ii)enw a chyfeiriad y cyfleuster dal gafael amgen;

(iii)nifer y carcasau neu'r darnau; a

(iv)rhywogaeth yr anifail; a

(d)nad oes unrhyw waith prosesu at ddibenion eu bwyta gan bobl yn cael ei wneud ar anifeiliaid buchol y mae'n ofynnol, yn unol â phwynt 2 Rhan I o Bennod A o Atodiad III i Reoliad TSE y Gymuned, eu profi i weld a oes BSE arnynt adeg eu cigydda neu anifeiliaid o deulu'r mochyn (anifeiliaid hela domestig a rhai a ffermir), uncarnolion a rhywogaethau eraill anifeiliaid a allai gael Trichinosis y mae'n ofynnol, o dan Erthygl 5 o Reoliad 854/2004 fel y'i darllenir gyda phwynt 1 Rhan C o Bennod IX Adran IV o Atodiad I i'r Rheoliad hwnnw, eu harchwilio i weld a oes Trichinosis arnynt, yn digwydd yn y lladd-dy.

  • At ddibenion yr Atodlen hon ystyr “Rheoliad TSE y Gymuned” (“Community TSE Regulation”) yw Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau ar gyfer atal, rheoli a chael gwared ar rai enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy(9) fel y diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 220/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 sy'n gosod rheolau ar gyfer atal, rheoli a chael gwared ar rai enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy, o ran y pwerau gweithredu a roddwyd i'r Comisiwn(10) ac fel y'i darllenir gyda'r canlynol—

    (i)

    Penderfyniad y Comisiwn 2007/411/EC sy'n gwahardd rhoi ar y farchnad gynhyrchion sy'n tarddu o anifeiliaid buchol a anwyd neu a fagwyd o fewn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996 at unrhyw ddiben ac sy'n esemptio'r anifeiliaid hynny rhag mesurau rheoli a difodi penodol a osodir yn Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 ac yn diddymu Penderfyniad 2005/598/EC(11),

    (ii)

    Penderfyniad y Comisiwn 2007/453/EC sy'n sefydlu statws BSE Aelod-wladwriaethau neu drydydd gwledydd neu ranbarthau ohonynt yn unol â'u risg BSE(12), a

    (iii)

    Penderfyniad y Comisiwn 2009/719/EC yn awdurdodi rhai Aelod-wladwriaethau i adolygu eu rhaglenni blynyddol ar gyfer monitro BSE(13) fel y diwygiwyd y Penderfyniad hwnnw gan Benderfyniad y Comisiwn 2010/66/EU sy'n diwygio Penderfyniad 2009/719/EC yn awdurdodi rhai Aelod-wladwriaethau i adolygu eu rhaglenni blynyddol ar gyfer monitro BSE(14).

Rheoliad 17(6)

ATODLEN 3BLL+CGOFYNION Y CYFEIRIR ATYNT YN RHEOLIAD 17(6)

Y gofynion yw—

(a)bod y lladd-dy ar 31 Rhagfyr 2005 yn un a drwyddedwyd yn lladd-dy trwybwn isel o dan Reoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela a Ffermir a Chig Cwningen (Hylendid ac Arolygu) 1995(15);

(b)mai dim ond yn anaml y bydd cyflwr cig sy'n tarddu o ddofednod neu lagomorffiaid a gigyddwyd yn y lladd-dy yn ei gwneud yn angenrheidiol dal gafael ar y cig hwnnw ar ôl arolygiad post-mortem er mwyn i'r milfeddyg swyddogol wneud arolygiad pellach ohono;

(c)pan fo arolygiad pellach o'r fath yn angenrheidiol ym marn y milfeddyg swyddogol, bod y cig o dan sylw yn cael ei ddifa neu fod gafael yn cael ei ddal arno mewn cyfleuster dal gafael amgen yng nghyffiniau'r lladd-dy; ac

(ch)pan fo cig yn cael ei gludo o'r lladd-dy i'r cyfleuster dal gafael amgen y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (c), rhaid ei farcio â'r geiriau 'detained meat' a rhaid bod gydag ef ddogfen sydd wedi ei llofnodi gan y milfeddyg swyddogol, sy'n datgan bod y cig yn gig y mae gafael yn cael ei ddal arno ac sy'n cynnwys yr wybodaeth a ganlyn—

(i)enw a chyfeiriad y lladd-dy gwreiddiol;

(ii)enw a chyfeiriad y cyfleuster dal gafael amgen;

(iii)nifer y carcasau neu'r darnau; a

(iv)rhywogaeth yr anifail.

Rheoliad 17(7)

ATODLEN 3CLL+CGOFYNION Y CYFEIRIR ATYNT YN RHEOLIAD 17(7)

Y gofynion yw—

(a)bod y lladd-dy ar 31 Rhagfyr 2005 yn un a drwyddedwyd yn lladd-dy trwybwn isel o dan Reoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Arolygu) 1995(16);

(b)mai dim ond carnolion domestig sydd wedi eu cludo'n uniongyrchol o'r daliad gwreiddiol neu o farchnad y mae'r gweithredwr busnes bwyd yn y lladd-dy yn eu derbyn;

(c)bod y gweithredwr busnes bwyd sy'n gyfrifol am gludo'r carnolion domestig yn rhoi ymgymeriad ysgrifenedig i'r gweithredwr busnes bwyd yn y lladd-dy mai ef sydd i sicrhau bod y cyfryngau cludo yn cael eu glanhau ac, os yw'n angenrheidiol, yn cael eu diheintio ar ôl eu gwagio;

(ch)bod y gweithredwr busnes bwyd yn y lladd-dy yn cadw'r ymgymeriad y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (c) am flwyddyn; a

(d)bod y gweithredwr busnes bwyd yn y lladd-dy yn cydnabod wrth y milfeddyg swyddogol y gallai fod yn ofynnol iddo o dan reolau iechyd anifeiliaid ymatal rhag gweithredu yn y lladd-dy os byddai clefyd anifeiliaid yn brigo.

Rheoliad 17(8)

ATODLEN 3ChLL+CGOFYNION Y CYFEIRIR ATYNT YN RHEOLIAD 17(8)

Y gofynion yw—

(a)bod y lladd-dy ar 31 Rhagfyr 2005 yn un a drwyddedwyd yn lladd-dy trwybwn isel o dan Reoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela a Ffermir a Chig Cwningen (Hylendid ac Arolygu) 1995(17);

(b)bod y gweithredwr busnes bwyd yn naliad gwreiddiol y dofednod neu'r lagomorffiaid yn eu cludo o'r daliad hwnnw yn uniongyrchol i'r lladd-dy ac yn rhoi ymgymeriad ysgrifenedig i'r gweithredwr busnes bwyd yn y lladd-dy mai ef sydd i sicrhau bod y cyfryngau cludo yn cael eu glanhau ac, os yw'n angenrheidiol, yn cael eu diheintio ar ôl eu gwagio;

(c)bod y gweithredwr busnes bwyd yn y lladd-dy yn cadw'r ymgymeriad y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (b) am flwyddyn; ac

(ch)bod y gweithredwr busnes bwyd yn y lladd-dy yn cydnabod wrth y milfeddyg swyddogol y gallai fod yn ofynnol iddo o dan reolau iechyd anifeiliaid ymatal rhag gweithredu yn y lladd-dy os byddai clefyd anifeiliaid yn brigo.]

Rheoliad 30

ATODLEN 4LL+CGOFYNION RHEOLI TYMHEREDD

CwmpasLL+C

1.  Nid yw'r Atodlen hon yn gymwys o ran—

(a)unrhyw weithrediad busnes bwyd y mae Rheoliad 853/2004 yn gymwys iddo; nac

(b)unrhyw weithrediad busnes bwyd sy'n cael ei gyflawni ar long neu awyren.

Gwybodaeth Cychwyn

I16Atod. 4 para. 1 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Gofynion cadw'n oerLL+C

2.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2) a pharagraff 3, bydd unrhyw berson sy'n cadw unrhyw fwyd—

(a)sy'n debygol o gynnal twf micro-organeddau pathogenig neu helpu tocsinau i ffurfio; a

(b)y mae unrhyw weithrediad masnachol yn cael ei gyflawni mewn perthynas ag ef,

ar neu mewn mangre bwyd ar dymheredd uwchlaw 8°C yn euog o dramgwydd.

(2Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw fwyd sy'n cael ei gludo, fel rhan o drafodiad archeb drwy'r post, i'r defnyddiwr olaf.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff 3, ni chaiff neb gyflenwi drwy archeb drwy'r post unrhyw fwyd sydd—

(a)yn debygol o gynnal twf micro-organeddau pathogenig neu helpu tocsinau i ffurfio; a

(b)wrthi'n cael ei gludo neu sydd wedi'i gludo drwy'r post neu drwy gyfrwng cludwr preifat neu gyffredin i'r defnyddiwr olaf,

ar dymheredd sydd wedi arwain neu sy'n debygol o arwain at risg i iechyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I17Atod. 4 para. 2 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Esemptiadau cyffredinol rhag y gofynion cadw'n oerLL+C

3.  Nid yw is-baragraffau (1) a (3) o baragraff 2 yn gymwys o ran—

(a)bwyd—

(i)sydd wedi'i goginio neu wedi'i aildwymo,

(ii)sydd i'w arlwyo neu sy'n cael ei arddangos i'w werthu, a

(iii)y mae angen ei gadw ar dymheredd o 63ºC neu uwchlaw hynny er mwyn rheoli twf micro-organeddau pathogenig neu atal tocsinau rhag ffurfio;

(b)bwyd y caniateir ei gadw, am weddill ei oes silff ar dymereddau amgylchynol heb unrhyw risg i iechyd;

(c)bwyd y gwneir neu y gwnaed iddo fynd drwy broses megis dadhydradu neu ganio a fwriedir i atal twf micro-organeddau pathogenig ar dymereddau amgylchynol, ond nid—

(i)pan fo'r bwyd, ar ôl neu yn rhinwedd y broses honno, wedi'i gynnwys mewn cynhwysydd aerglos, a

(ii)pan fo'r cynhwysydd hwnnw wedi'i agor;

(ch)bwyd y mae'n rhaid ei aeddfedu ar dymereddau amgylchynol, ond nid pan fo'r broses aeddfedu wedi'i chwblhau;

(d)bwyd crai a fwriedir ar gyfer prosesu pellach (gan gynnwys coginio) cyn i bobl ei fwyta, ond dim ond os bydd y prosesu hwnnw, os ymgymerir ag ef yn gywir, yn gwneud y bwyd hwnnw'n ffit ar gyfer ei fwyta gan bobl;

(dd)bwyd y mae Rheoliad y Cyngor 1906/90 yn gymwys iddo; ac

(e)bwyd y mae Rheoliad y Cyngor 1907/90 yn gymwys iddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I18Atod. 4 para. 3 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Amrywio'r tymheredd o 8ºC ar i fyny gan weithgynhyrchwyr etc.LL+C

4.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2) isod, mewn unrhyw achos cyfreithiol am dramgwydd sy'n cynnwys mynd yn groes i is-baragraff (1) o baragraff 2, bydd yn amddiffyniad i'r sawl a gyhuddir brofi—

(a)bod busnes bwyd sy'n gyfrifol am weithgynhyrchu, paratoi neu brosesu'r bwyd, gan gynnwys, pan fo'n berthnasol, y sawl a gyhuddir, wedi argymell y dylid cadw'r bwyd hwnnw—

(i)ar neu islaw tymheredd penodedig rhwng 8ºC a'r tymereddau amgylchynol, a

(ii)am gyfnod nad yw'n hwy nag oes silff benodedig;

(b)bod yr argymhelliad hwnnw, onid y sawl a gyhuddir yw'r busnes bwyd hwnnw, wedi'i fynegi i'r sawl a gyhuddir naill ai drwy gyfrwng label ar ddeunydd pecynnu'r bwyd neu drwy gyfrwng rhyw ffurf briodol arall ar gyfarwyddyd ysgrifenedig;

(c)nad oedd y bwyd wedi'i gadw gan y sawl a gyhuddir ar dymheredd uwchlaw'r tymheredd penodedig; ac

(ch)nad aethpwyd, adeg cyflawni'r tramgwydd honedig, y tu hwnt i'r oes silff benodedig.

(2Rhaid i fusnes bwyd sy'n gyfrifol am weithgynhyrchu, paratoi neu brosesu bwyd beidio ag argymell y dylid cadw unrhyw fwyd—

(a)ar neu islaw tymheredd penodedig rhwng 8°C a'r tymereddau amgylchynol; a

(b)am gyfnod nad yw'n hwy nag oes silff benodedig,

onid yw'r argymhelliad hwnnw wedi'i ategu gan asesiad gwyddonol a sail dda iddo o ddiogelwch y bwyd ar y tymheredd penodedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I19Atod. 4 para. 4 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Cyfnodau goddef ar gyfer cadw'n oerLL+C

5.—(1Mewn unrhyw achos cyfreithiol am dramgwydd sy'n cynnwys mynd yn groes i is-baragraff (1) o baragraff 2, bydd yn amddiffyniad i'r sawl a gyhuddir brofi—

(a)bod y bwyd ar gyfer ei arlwyo neu'n cael ei arddangos i'w werthu;

(b)nad oedd y bwyd wedi'i gadw o'r blaen ar gyfer ei arlwyo nac yn cael ei arddangos i'w werthu ar dymheredd uwchlaw 8ºC neu, pan fo argymhelliad wedi'i wneud yn unol ag is-baragraff (1) o baragraff 4, y tymheredd a argymhellwyd; ac

(c)wedi'i gadw ar gyfer ei arlwyo neu'n cael ei arddangos i'w werthu am gyfnod o lai na phedair awr.

(2Mewn unrhyw achos cyfreithiol am dramgwydd sy'n cynnwys mynd yn groes i is-baragraff (1) o baragraff 2, bydd yn amddiffyniad i'r sawl a gyhuddir brofi bod y bwyd—

(a)wrthi'n cael ei drosglwyddo—

(i)o fangre lle'r oedd y bwyd yn mynd i gael ei gadw ar dymheredd o 8ºC neu islaw hynny, neu o dan amgylchiadau priodol y tymheredd a argymhellir, i gerbyd a ddefnyddir at ddibenion busnes bwyd, neu

(ii)i'r fangre honno o'r cerbyd hwnnw; neu

(b)wedi'i gadw ar dymheredd uwchlaw 8ºC neu, o dan amgylchiadau priodol, y tymheredd a argymhellir ar gyfer rheswm anochel, megis—

(i)dygymod â materion ymarferol trafod y bwyd wrth ei brosesu neu ei baratoi ac ar ôl hynny,

(ii)dadrewi'r cyfarpar, neu

(iii)y cyfarpar yn torri i lawr dros dro,

a'i fod wedi'i gadw ar dymheredd uwchlaw 8ºC neu, o dan amgylchiadau arbennig, y tymheredd a argymhellwyd am gyfnod cyfyngedig yn unig a bod y cyfnod hwnnw'n cydweddu â diogelwch bwyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I20Atod. 4 para. 5 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Gofynion cadw'n dwymLL+C

6.  Bydd unrhyw berson sydd, wrth gynnal gweithgareddau busnes bwyd, yn cadw mewn mangre bwyd ar dymheredd islaw 63ºC unrhyw fwyd sydd—

(a)wedi'i goginio neu wedi'i aildwymo;

(b)sydd i'w arlwyo neu sy'n cael ei arddangos i'w werthu; ac

(c)y mae angen ei gadw ar dymheredd o 63ºC neu uwchlaw hynny er mwyn rheoli twf micro-organeddau pathogenig neu atal tocsinau rhag ffurfio,

yn euog o dramgwydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I21Atod. 4 para. 6 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Amddiffyniadau cadw'n dwymLL+C

7.—(1Mewn unrhyw achos cyfreithiol am dramgwydd sy'n cynnwys mynd yn groes i baragraff 6, bydd yn amddiffyniad i'r sawl a gyhuddir brofi—

(a)bod asesiad gwyddonol a sail dda iddo o ddiogelwch y bwyd ar dymereddau islaw 63ºC wedi dod i'r casgliad nad oes unrhyw risg i iechyd os, ar ôl ei goginio nei ei aildwymo, y mae'r bwyd yn cael ei gadw ar gyfer ei arlwyo neu'n cael ei arddangos i'w werthu—

(i)ar dymheredd cadw sydd islaw 63ºC, a

(ii)am gyfnod nad yw'n hwy nag unrhyw gyfnod amser a bennir yn yr asesiad gwyddonol hwnnw; a

(b)bod y bwyd, ar yr adeg y cyflawnwyd y tramgwydd honedig, wedi'i gadw mewn modd a oedd yn gyfiawn yng ngoleuni'r asesiad gwyddonol hwnnw.

(2Mewn unrhyw achos cyfreithiol am dramgwydd sy'n cynnwys mynd yn groes i baragraff 6, bydd yn amddiffyniad i'r sawl a gyhuddir brofi—

(a)bod y bwyd wedi'i gadw ar gyfer ei arlwyo neu'n cael ei arddangos i'w werthu am gyfnod o lai na dwy awr; a

(b)nad oedd y bwyd wedi'i gadw o'r blaen ar gyfer ei arlwyo nac wedi'i arddangos i'w werthu gan y person hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I22Atod. 4 para. 7 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

DehongliLL+C

8.  Yn yr Atodlen hon—

ystyr “oes silff” (“shelf life”)—

(a)

o ran bwyd y mae dangosiad parhauster lleiaf ar ei gyfer yn ofynnol yn unol â rheoliad 20 o Reoliadau Labelu Bwyd 1996(11) (ffurf ar ddangos parhauster lleiaf), yw'r cyfnod hyd at a chan gynnwys y dyddiad y mae'n ofynnol ei gynnwys yn y dangosiad hwnnw;

(b)

o ran bwyd y mae dyddiad “use by” wedi'i neilltuo ar ei gyfer ar y ffurf sy'n ofynnol yn unol â rheoliad 21 o Reoliadau Labelu Bwyd 1996 (ffurf ar ddangos dyddiad “use by”), yw'r cyfnod hyd at a chan gynnwys y dyddiad hwnnw; ac

(c)

o ran bwyd nad yw'n ofynnol iddo ddwyn dangosiad parhauster lleiaf na dyddiad “use by”, yw'r cyfnod y gellid disgwyl i'r bwyd aros yn ffit i'w werthu os yw'n cael ei gadw mewn modd sy'n cydweddu â diogelwch bwyd.

ystyr “Rheoliad y Cyngor 1906/90” (“Council Regulation 1906/90”) yw Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1906/90 ar safonau marchnata penodol ar gyfer dofednod(12) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1101/98 sy'n diwygio Rheoliad (EEC) Rhif 1906/90 ynghylch safonau marchnata penodol ar gyfer cig dofednod(13);

ystyr “Rheoliad y Cyngor 1907/90” (“Council Regulation 1907/90”) yw Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1907/90 ar safonau marchnata penodol ar gyfer wyau(14) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 2052/2003 yn diwygio Rheoliad (EEC) Rhif 1907/90 ar safonau marchnata penodol ar gyfer wyau(15);

ystyr “tymheredd a argymhellwyd (“recommended temperature”) yw tymheredd penodedig sydd wedi'i argymell yn unol â pharagraff 4(1)(a)(i);

Gwybodaeth Cychwyn

I23Atod. 4 para. 8 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Rheoliad 31

ATODLEN 5LL+CY MODD Y MAE'R CYNHYRCHYDD YN CYFLENWI'N UNIONGYRCHOL FEINTIAU BACH O GIG O DDOFEDNOD A LAGOMORFFIAID A GIGYDDWYD AR Y FFERM

CwmpasLL+C

1.  Mae gofynion yr Atodlen hon yn gymwys i'r modd y mae'r cynhyrchydd yn cyflenwi'n uniongyrchol feintiau bach o gig o ddofednod a lagomorffiaid a gigyddwyd ar y fferm i'r defnyddiwr olaf neu i sefydliadau manwerthu lleol sy'n cyflenwi cig o'r fath yn uniongyrchol i'r defnyddiwr olaf fel cig ffres.

Gwybodaeth Cychwyn

I24Atod. 5 para. 1 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

GofynionLL+C

2.—(1Pan fydd cynhyrchydd yn cyflenwi cig yn y modd a ddisgrifir ym mharagraff 1, rhaid iddo sicrhau ei fod yn dwyn label neu farc arall sy'n dangos yn glir enw a chyfeiriad y fferm lle cafodd yr anifail y mae'r cig yn tarddu ohono ei gigydda.

(2Rhaid i'r cynhyrchydd—

(a)cadw cofnod ar ffurf ddigonol i ddangos nifer yr adar a nifer y lagomorffiaid sy'n cael eu derbyn i'w fangre, a meintiau'r cig ffres sy'n cael eu hanfon ohoni, yn ystod pob wythnos;

(b)cadw'r cofnod am gyfnod o flwyddyn; ac

(c)trefnu bod y cofnod ar gael i swyddog awdurdodedig os bydd yn gofyn amdano.

Gwybodaeth Cychwyn

I25Atod. 5 para. 2 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

TramgwyddLL+C

3.  Bydd person sy'n mynd yn groes i unrhyw un o ofynion yr Atodlen hon neu'n methu â chydymffurfio ag unrhyw un ohonynt yn euog o dramgwydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I26Atod. 5 para. 3 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Rheoliad 32

ATODLEN 6LL+CCYFYNGIADAU AR WERTHU LLAETH CRAI A FWRIEDIR AR GYFER EI YFED YN UNIONGYRCHOL GAN BOBL

1.  Bydd unrhyw berson sydd, yn groes i baragraff 5, yn gwerthu llaeth crai a fwriedir ar gyfer ei yfed yn uniongyrchol gan bobl yn euog o dramgwydd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I27Atod. 6 para. 1 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

2.—(1Os bydd unrhyw berson heblaw meddiannydd daliad cynhyrchu neu ddosbarthwr yn gwerthu llaeth buchod crai a fwriedir ar gyfer ei yfed yn uniongyrchol gan bobl, bydd y person hwnnw yn euog o dramgwydd.LL+C

(2Os bydd meddiannydd daliad cynhyrchu yn gwerthu llaeth buchod crai a fwriedir ar gyfer ei yfed yn uniongyrchol gan bobl yn groes i baragraff 3, bydd yn euog o dramgwydd.

(3Os bydd dosbarthwr yn gwerthu llaeth buchod crai a fwriedir ar gyfer ei yfed yn uniongyrchol gan bobl yn groes i baragraff 4, bydd yn euog o dramgwydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I28Atod. 6 para. 2 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

3.  Caiff meddiannydd daliad cynhyrchu ddim ond gwerthu llaeth buchod crai a fwriedir ar gyfer ei yfed yn uniongyrchol gan bobl—LL+C

(a)ar neu o fangre'r fferm lle mae'r anifeiliaid y cafwyd y llaeth ohonynt yn cael eu cynnal; a

(b)i'r canlynol—

(i)y defnyddiwr olaf ar gyfer yfed y llaeth hwnnw heblaw ar fangre'r fferm honno,

(ii)gwestai dros dro ym mangre'r fferm honno neu ymwelydd dros dro â mangre'r fferm honno fel pryd bwyd neu luniaeth neu fel rhan o bryd bwyd neu luniaeth, neu

(iii)dosbarthwr.

Gwybodaeth Cychwyn

I29Atod. 6 para. 3 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

4.  Caiff dosbarthwr ddim ond gwerthu llaeth buchod crai a fwriedir ar gyfer ei yfed yn uniongyrchol gan bobl—LL+C

(a)y mae wedi'i brynu yn unol ag is-baragraff (b)(iii) o baragraff 3;

(b)yn y cynwysyddion y mae'n cael y llaeth ynddynt, a rhaid i ffasninau'r cynwysyddion fod heb eu torri;

(c)o gerbyd sy'n cael ei ddefnyddio'n gyfreithlon fel mangre siop; ac

(ch)yn uniongyrchol i'r defnyddiwr olaf.

Gwybodaeth Cychwyn

I30Atod. 6 para. 4 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

5.  Rhaid i'r llaeth crai fodloni'r safonau canlynol:LL+C

Cyfrifiad haenau ar 30ºC (cfu fesul ml)≤ 20,000
Colifformau (cfu fesul ml)< 100

Gwybodaeth Cychwyn

I31Atod. 6 para. 5 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

6.  Mewn achos lle mae mangre fferm yn cael ei defnyddio ar gyfer gwerthu llaeth buchod crai a fwriedir ar gyfer ei yfed yn uniongyrchol gan bobl yn unol ag is-baragraff (a) o baragraff 3, rhaid i'r Asiantaeth gyflawni'r gwaith samplu, dadansoddi ac archwilio'r llaeth, y mae'n barnu ei fod yn angenrheidiol i sicrhau ei bod yn bodloni'r safonau a bennir ym mharagraff 5.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I32Atod. 6 para. 6 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

7.  Mewn unrhyw achos lle mae'r Asiantaeth yn gwneud gwaith samplu, dadansoddi ac archwilio llaeth buchod crai yn unol â pharagraff 6, bydd ffi o £63 yn ddyledus i'r Asiantaeth gan feddiannydd y daliad cynhyrchu sy'n gwerthu'r llaeth, a honno'n ffi sy'n daladwy gan y meddiannydd i'r Asiantaeth pan fydd yr Asiantaeth yn gofyn amdani.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I33Atod. 6 para. 7 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

8.  Yn yr Atodlen hon—LL+C

ystyr “daliad cynhyrchu” (“production holding”) yw mangre lle mae buchod sy'n cynhyrchu llaeth yn cael eu cadw;

ystyr “dosbarthwr” (“distributor”) yw person sy'n gwerthu llaeth buchod crai sydd wedi'i gynhyrchu ar ddaliad cynhyrchu nad yw'n feddiannydd arno;

ystyr “mangre fferm” (“farm premises”) yw fferm a feddiennir gan feddiannydd daliad cynhyrchu fel fferm unigol ac mae'n cynnwys y daliad cynhyrchu ac unrhyw adeilad arall a leolir ar y fferm honno ac a feddiennir gan yr un meddiannydd;

ystyr “mangre siop” (“shop premises”) yw mangre y mae unrhyw fwyd yn cael ei werthu ohoni i'r defnyddiwr olaf;

ystyr “meddiannydd” (“occupier”) yw unrhyw berson sy'n cynnal busnes cynhyrchu neu drafod llaeth buchod crai neu berson a awdurdodwyd yn briodol i gynrychioli'r meddiannydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I34Atod. 6 para. 8 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Rheoliad 32A

[F4ATODLEN 6ALL+CY MARC IECHYD ARBENNIG

1.  Rhaid i farc iechyd arbennig fod yn farc sgwâr gyda'r nodau canlynol mewn ffurf ddarllenadwy arno:LL+C

  • ar y rhan uchaf, y llythrennau “UK”;

  • yn y canol, rhif cymeradwyo'r fangre; ac

  • ar y rhan isaf, y llythyren “N”.

2.  Pan osodir y marc iechyd arbennig ar garcasau, rhaid i'r marc fesur 5.5 cm wrth 5.5 cm a rhaid i uchder y llythrennau sydd arno fod yn 0.8 cm ac uchder y rhifau yn 1 cm. Caniateir i ddimensiynau a nodau'r marc fod yn llai pan osodir y marc iechyd ar ŵyn, mynnod gafr a pherchyll.]LL+C

Rheoliad 33

ATODLEN 7LL+CDIWYGIADAU CANLYNIADOL

Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd 1995LL+C

1.  Diwygir Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd 1995(16) yn unol â pharagraff 2.

Gwybodaeth Cychwyn

I35Atod. 7 para. 1 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

2.  Yn rheoliad 4 (marcio iechyd etc. cig a chynhyrchion cig penodol) yn lle'r geiriau “as provided for in the Fresh Meat (Hygiene and Inspection) Regulations 1995” rhoddir y geiriau “as required by the Food Hygiene (Wales) Regulations 2006”.

Gwybodaeth Cychwyn

I35Atod. 7 para. 1 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

I36Atod. 7 para. 2 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Adnabod) 1995LL+C

3.  Diwygir Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Adnabod) 1995(17) fel a ddarperir ym mharagraffau 4 i 11.

Gwybodaeth Cychwyn

I37Atod. 7 para. 3 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

4.  Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli)—

(a)yn lle'r diffiniad o “animal by-products premises” rhoddir y diffiniad canlynol—

“animal by-products premises” means premises, other than a cold store, cutting plant, game-handling establishment or slaughterhouse, from which animal by-products are despatched to other premises;”;

(b)

yn lle'r diffiniad o “cold store” rhoddir y diffiniad canlynol—

“cold store” means any premises, not forming part of a cutting plant, game-handling establishment or slaughterhouse, used for the storage, under temperature controlled conditions, of fresh meat intended for sale for human consumption;”;

(c)

yn lle'r diffiniad o “cutting premises” rhoddir y diffiniad canlynol—

“cutting plant” has the meaning that it bears in regulation 5(6) of the Hygiene Regulations;”;

(ch)

yn union ar ôl y diffiniad o “farmed game”, rhoddir y diffiniad canlynol—

“fresh meat” means meat that has not undergone any preserving process other than chilling, freezing or quick freezing, including meat that is vacuum-wrapped or wrapped in a controlled atmosphere;”;

(d)

yn lle'r diffiniad o “game processing facility” rhoddir y diffiniad canlynol—

“game-handling establishment” has the meaning that it bears in regulation 5(6) of the Hygiene Regulations;”;

(dd)

yn lle'r diffiniad “the Hygiene Regulations” rhoddir y diffiniad canlynol—

“the Hygiene Regulations” means the Food Hygiene (Wales) Regulations 2006;”;

(e)

yn lle'r diffiniad o “occupier” rhoddir y diffiniad canlynol—

“occupier” means a person carrying on the business of any cold store, cutting plant, game-handling establishment, slaughterhouse or animal by-products premises, or the duly authorised representative of such a person;”; ac

(f)

yn lle'r diffiniad o “slaughterhouse” rhoddir y diffiniad canlynol—

“slaughterhouse” has the meaning that it bears in regulation 5(6) of the Hygiene Regulations;”.

Gwybodaeth Cychwyn

I37Atod. 7 para. 3 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

I38Atod. 7 para. 4 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

5.  Ym mharagraff (a) o reoliad 4 (rhychwant) yn lle'r geiriau “in accordance with the Poultry Meat, Farmed Game Bird Meat and Rabbit Meat (Hygiene and Inspection) Regulations 1995” rhoddir y geiriau “in accordance with the Hygiene Regulations”.

Gwybodaeth Cychwyn

I37Atod. 7 para. 3 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

I39Atod. 7 para. 5 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

6.  Ym mharagraff (2)(c) o reoliad 5 (esemptiadau) yn lle'r geiriau “cutting premises, slaughterhouse, game processing facility” rhoddir y geiriau “cutting plant, game-handling establishment, slaughterhouse”.

Gwybodaeth Cychwyn

I37Atod. 7 para. 3 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

I40Atod. 7 para. 6 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

7.  Yn lle rheoliad 6 (staenio sgil-gynhyrchion anifeiliaid mewn stordai oer, mangreoedd torri, cyfleusterau prosesu helgig neu ladd-dai) rhoddir y rheoliad a ganlyn—

Staining of animal by-products in cold stores, cutting plants, game-handling establishments and slaughterhouses

6.(1) Subject to paragraph (2) below, it shall be the duty of the occupier of any cold store, cutting plant, game-handling establishment or slaughterhouse to ensure that any animal by-product is stained without undue delay.

(2) The duty imposed by paragraph (1) above shall not apply in relation to any animal by-product which—

(a)is—

(i)immediately moved to accommodation in the relevant cold store, cutting plant, game-handling establishment or slaughterhouse,

(ii)placed in a suitable, sufficient and lockable receptacle with closely fitting covers that is only used for holding meat rejected as unfit for human consumption and is clearly marked to that effect, and

(iii)stained by the operator concerned as soon as practicable after it has been placed in the receptacle; or

(b)is immediately moved, in the manner specified in paragraph (4), to an approved rendering plant for rendering there, or to an approved incineration plant which is adequately separated from the cold store, cutting plant, game-handling establishment or slaughterhouse concerned for incineration there.

(3) The occupier of any cold store, cutting plant, game-handling establishment or slaughterhouse shall ensure that any animal by-product which is placed in a receptacle in accordance with paragraph (2) above is stained and removed from the relevant cold store, cutting plant, game-handling establishment or slaughterhouse as soon as is reasonably practicable.

(4) The manner is that the animal by-product is moved through a sealed and leak-proof pipe which connects the cold store, cutting plant, game-handling establishment or slaughterhouse concerned directly with the relevant approved rendering plant or, as the case may be, approved incineration plant..

Gwybodaeth Cychwyn

I37Atod. 7 para. 3 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

I41Atod. 7 para. 7 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

8.  Yn lle rheoliad 8 (rhewi sgil-gynhyrchion anifeiliaid yn unrhyw fangre sgil-gynhyrchion anifeiliaid, stordy oer, mangre dorri, cyfleuster prosesu helgig neu ladd-dy) rhoddir y rheoliad a ganlyn—

Freezing of animal by-products in any animal by-products premises, cold store, cutting plant, game-handling establishment or slaughterhouse

8.(1) Subject to paragraph (2) below, no person shall freeze any animal by-product in any animal by-products premises, cold store, cutting plant, game-handling establishment or slaughterhouse unless it has been stained in accordance with these Regulations.

(2) Paragraph (1) above shall not apply in the case of any animal by-product which is intended to be removed from the relevant animal by-products premises, cold store, cutting plant, game-handling establishment or slaughterhouse in accordance with regulation 10(2).

Gwybodaeth Cychwyn

I37Atod. 7 para. 3 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

I42Atod. 7 para. 8 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

9.  Yn rheoliad 9 (storio a phacio sgil-gynhyrchion anifeiliaid)—

(a)yn lle paragraff (2) rhoddir y paragraff a ganlyn—

(2) The prohibition contained in paragraph (1) above shall not apply in relation to an animal by-product which is stored in a suitable, sufficient and lockable receptacle with closely fitting covers that is only used for holding meat rejected as unfit for human consumption and is clearly marked to that effect.; a

(b)ym mharagraff (3) yn lle'r geiriau “cutting premises, game processing facility” rhoddir y geiriau “cutting plant, game-handling establishment”.

Gwybodaeth Cychwyn

I37Atod. 7 para. 3 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

I43Atod. 7 para. 9 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

10.  Yn rheoliad 10 (cyfyngu ar symud sgil-gynhyrchion anifeiliaid)—

(a)ym mharagraff (1) yn lle'r geiriau “cutting premises, game processing facility” rhoddir y geiriau “cutting plant, game-handling establishment”; a

(b)ym mharagraff (2) yn lle'r geiriau “cutting premises, game processing facility” rhoddir y geiriau “cutting plant, game-handling establishment”.

Gwybodaeth Cychwyn

I37Atod. 7 para. 3 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

I44Atod. 7 para. 10 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

11.  Ym mharagraff (1) o reoliad 12 (gorfodi)—

(a)yn is-baragraff (a) yn lle'r geiriau “in relation to premises licensed under the Hygiene Regulations” rhoddir y geiriau “in relation to any cutting plant, game-handling establishment or slaughterhouse”; a

(b)yn lle is-baragraff (b) rhoddir yr is-baragraff a ganlyn—

(b)in relation to any other premises, by the Agency or the food authority within whose area the premises are situated..

Gwybodaeth Cychwyn

I37Atod. 7 para. 3 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

I45Atod. 7 para. 11 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Rheoliadau Labelu Bwyd 1996LL+C

12.  Diwygir Rheoliadau Labelu Bwyd 1996(18) yn unol â pharagraffau 13 a 14.

Gwybodaeth Cychwyn

I46Atod. 7 para. 12 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

13.  Yn Atodlen 3 (enwau generig mewn rhestri cynhwysion) yn y cofnod yng ngholofn 2 o Ran 1 (cyffredinol) gyferbyn â'r cofnod yng ngholofn 1 ar gyfer ““Meat” and the name of the animal species from which it comes, or a word which describes the meat by reference to the animal species from which it comes” yn lle'r geiriau “(g) any products covered by the definition of “mechanically recovered meat” in Article 2(c) of Council Directive 64/433/EEC on health conditions for the production and marketing of fresh meat, as last amended by Council Directive 95/23/EC.” rhoddir y geiriau a bennir ym mharagraff 13.

Gwybodaeth Cychwyn

I46Atod. 7 para. 12 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

I47Atod. 7 para. 13 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

14.  Dyma'r geiriau “(g) the product obtained by removing the meat from flesh-bearing bones after boning or from carcases of farmed birds (including birds that are not considered as domestic but which are farmed as domestic animals, but not including ratites) using mechanical means resulting in the loss or modification of the muscle fibre structure.”.

Gwybodaeth Cychwyn

I46Atod. 7 para. 12 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

I48Atod. 7 para. 14 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Rheoliadau Esgyrn Cig Eidion 1997LL+C

15.  Diwygir Rheoliadau Esgyrn Cig Eidion 1997(19) yn unol, â'r darpariaethau ym mharagraffau 16 a 17.

Gwybodaeth Cychwyn

I49Atod. 7 para. 15 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

16.  Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli)—

(a)yn union ar ôl y diffiniad o “carcase” rhoddir y diffiniad a ganlyn—

“cutting plant” has the meaning that it bears in regulation 5(6) of the Hygiene Regulations;”;

(b)

yn union ar ôl y diffiniad o “fresh meat” rhoddir y diffiniadau a ganlyn—

“game-handling establishment” has the meaning that it bears in regulation 5(6) of the Hygiene Regulations;

“the Hygiene Regulations” means the Food Hygiene (Wales) Regulations 2006;”; ac

(c)

yn union ar ôl y diffiniad o “occupier” rhoddir y diffiniadau canlynol—

“official veterinarian” means a veterinarian who is qualified in accordance with Regulation 854/2004 to act in such a capacity and is appointed by the Agency;

“Regulation 854/2004” has the meaning that it bears in Schedule 1 to the Hygiene Regulations; and

“slaughterhouse” has the meaning that it bears in regulation 5(6) of the Hygiene Regulations;”.

Gwybodaeth Cychwyn

I49Atod. 7 para. 15 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

I50Atod. 7 para. 16 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

17.  Yn rheoliad 12 (gorfodi)—

(a)yn lle paragraff (1) rhodder y paragraff a ganlyn—

(1) These Regulations shall be enforced—

(a)by the Agency in relation to any cutting-plant, game-handling establishment or slaughterhouse; a

(b)in relation to any other premises, by the Agency or the food authority within whose area the premises are situated.; and

  • ac ym mharagraff (2) yn lle'r geiriau “an official veterinary surgeon (designated as such under regulation 8(1) of the Fresh Meat (Hygiene and Inspection) Regulations 1995)” rhoddir y geiriau “an official veterinarian”.

Gwybodaeth Cychwyn

I49Atod. 7 para. 15 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

I51Atod. 7 para. 17 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

(1)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.

(2)

OJ Rhif L245, 29.9.2003, t.4.

(3)

OJ Rhif L245, 29.9.2003, t.4.

(4)

OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.1. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 wedi'i osod bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.3).

(5)

OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.55. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 wedi'i osod bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.22).

(6)

OJ Rhif L24, 30.1.1998, t.9.

(7)

OJ Rhif L18, 23.1.2003, t.11.

(8)

OJ Rhif L140, 12.5.98, t.10.

(9)

OJ Rhif L21, 27.1.96, t.42.

(10)

OJ Rhif L15, 22.1.2004, t.25.

(11)

O.S. 1996/1499, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(12)

OJ Rhif L173, 6.7.90, t.1.

(13)

OJ Rhif L157, 30.5.98, t.12.

(14)

OJ Rhif L173, 6.7.90, t.5.

(15)

OJ Rhif L305, 22.11.2003, t.1.

(16)

O.S. 1995/3124, y mae diwygiadau iddynt nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(19)

O.S. 1997/2959, a ddiwygiwyd gan O.S. 1999/3371 ac O.S. 2000/656.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Pwynt Penodol mewn Amser: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill