Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 14/04/2021.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

YR ATODLENNI

Rheoliad 2(1)

[F1ATODLEN 1LL+CDIFFINIADAU O DDEDDFWRIAETH

ystyr “Cyfarwyddeb 2004/41” yw Cyfarwyddeb 2004/41/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n diddymu Cyfarwyddebau penodol ynglŷn â hylendid bwyd ac amodau iechyd ar gyfer cynhyrchu a rhoi ar y farchnad gynhyrchion penodol sy’n dod o anifeiliaid ac a fwriedir i’w bwyta gan bobl ac sy’n diwygio Cyfarwyddebau’r Cyngor 89/662/EEC a 92/118/EEC a Phenderfyniad y Cyngor 95/408/EC;

ystyr “Rheoliad 178/2002” yw Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, fel y’i darllenir gyda Rheoliad 931/2011 a Rheoliad 208/2013;

ystyr “Rheoliad 852/2004” yw Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar hylendid bwydydd fel y’i darllenir gyda Rheoliad 2073/2005 a Rheoliad 210/2013;

ystyr “Rheoliad 853/2004” yw Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy’n dod o anifeiliaid fel y’i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad 1688/2005, Rheoliad 2074/2005 a Rheoliad 2017/185;

ystyr “Rheoliad 1688/2005” yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1688/2005 sy’n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran gwarantau arbennig ynghylch salmonela ar gyfer llwythi o gig ac wyau penodol i’r Ffindir a Sweden;

ystyr “Rheoliad 2073/2005” yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2073/2005 ar feini prawf microbiolegol ar gyfer bwydydd;

ystyr “Rheoliad 2074/2005” yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2074/2005 sy’n gosod mesurau gweithredu ar gyfer cynhyrchion penodol o dan Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor ac ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol o dan Reoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor a Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor, sy’n rhanddirymu Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004;

ystyr “Rheoliad 931/2011” yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 931/2011 ar y gofynion olrheiniadwyedd a osodir gan Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar gyfer bwyd sy’n dod o anifeiliaid;

ystyr “Rheoliad 1169/2011” yw Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch darparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr, sy’n diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 1924/2006 ac (EC) Rhif 1925/2006 Senedd Ewrop a’r Cyngor, ac yn diddymu Cyfarwyddeb y Comisiwn 87/250/EEC, Cyfarwyddeb y Cyngor 90/496/EEC, Cyfarwyddeb y Comisiwn 1999/10/EC, Cyfarwyddeb 2000/13/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor, Cyfarwyddebau’r Comisiwn 2002/67/EC a 2008/5/EC a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 608/2004(1);

ystyr “Rheoliad 208/2013” yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 208/2013 ar ofynion olrheiniadwyedd ar gyfer egin a hadau a fwriedir ar gyfer cynhyrchu egin(2);

ystyr “Rheoliad 210/2013” yw Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 210/2013 ar gymeradwyo sefydliadau sy’n cynhyrchu egin yn unol â Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor(3);

ystyr “Rheoliad 579/2014” yw Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 579/2014 sy’n caniatáu rhanddirymu darpariaethau penodol yn Atodiad II i Reoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran cludo olewau hylifol a brasterau hylifol dros y môr;

ystyr “Rheoliad 2015/1375” yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2015/1375 sy’n gosod rheolau penodol ar reolaethau swyddogol ar gyfer Trichinella mewn cig(4);

ystyr “Rheoliad 2017/185” yw Rheoliad y Comisiwn (EU) 2017/185 sy’n gosod mesurau trosiannol ar gyfer cymhwyso darpariaethau penodol yn Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor;

Pecyn Rheoliad 2017/625

ystyr “Rheoliad 2017/625” yw Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion, sy’n diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 999/2001, (EC) Rhif 396/2005, (EC) Rhif 1069/2009, (EC) Rhif 1107/2009, (EU) Rhif 1151/2012, (EU) Rhif 652/2014, (EU) 2016/429 ac (EU) 2016/2031 Senedd Ewrop a’r Cyngor, Rheoliadau’r Cyngor (EC) Rhif 1/2005 ac (EC) Rhif 1099/2009 a Chyfarwyddebau’r Cyngor 98/58/EC, 1999/74/EC, 2007/43/EC, 2008/119/EC a 2008/120/EC, ac sy’n diddymu Rheoliadau (EC) Rhif 854/2004 ac (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor, Cyfarwyddebau’r Cyngor 89/608/EEC, 89/662/EEC, 90/425/EEC, 91/496/EEC, 96/23/EC, 96/93/EC a 97/78/EC a Phenderfyniad y Cyngor 92/438/EEC fel y’i darllenir gyda Rheoliad 2074/2005, Rheoliad 2017/185 a phecyn Rheoliad 2017/625;

ystyr “Rheoliad 2019/478” yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/478 sy’n diwygio Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran y categorïau o lwythi sydd i fod yn ddarostyngedig i reolaethau swyddogol mewn safleoedd rheoli ar y ffin;

ystyr “Rheoliad 2019/624” yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/624 ynghylch rheolau penodol ar gyfer cyflawni rheolaethau swyddogol ar gynhyrchu cig ac ar gyfer ardaloedd cynhyrchu ac ailddodi molysgiaid dwygragennog byw yn unol â Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor;

ystyr “Rheoliad 2019/625” yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/625 sy’n ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran gofynion ar gyfer mynediad i’r Undeb i lwythi o anifeiliaid a nwyddau penodol a fwriedir i’w bwyta gan bobl;

ystyr “Rheoliad 2019/626” yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/626 ynghylch rhestrau o drydydd gwledydd neu ranbarthau o’r trydydd gwledydd hynny sydd wedi eu hawdurdodi ar gyfer mynediad i anifeiliaid a nwyddau penodol a fwriedir i’w bwyta gan bobl i’r Undeb Ewropeaidd, sy’n diwygio Rheoliad Gweithredu (EU) 2016/759 o ran y rhestrau hyn;

ystyr “Rheoliad 2019/627” yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/627 sy’n gosod trefniadau ymarferol unffurf ar gyfer cyflawni rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid a fwriedir i’w bwyta gan bobl yn unol â Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ac sy’n diwygio Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2074/2005 o ran rheolaethau swyddogol;

ystyr “Rheoliad 2019/628” yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/628 ynghylch tystysgrifau swyddogol enghreifftiol ar gyfer anifeiliaid a nwyddau penodol ac sy’n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2074/2005 a Rheoliad Gweithredu (EU) 2016/759 o ran y tystysgrifau enghreifftiol hyn;

ystyr “Rheoliad 2019/1012” yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/1012 sy’n ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor drwy randdirymu’r rheolau ar gyfer dynodi pwyntiau rheoli a’r isafswm gofynion ar gyfer safleoedd rheoli ar y ffin;

ystyr “Rheoliad 2019/1013” yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1013 ar hysbysu ymlaen llaw am lwythi o gategorïau penodol o anifeiliaid a nwyddau sy’n dod i mewn i’r Undeb;

ystyr “Rheoliad 2019/1014” yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1014 i osod rheolau manwl ar gyfer yr isafswm gofynion ar gyfer safleoedd rheoli ar y ffin, gan gynnwys canolfannau arolygu, ac ar gyfer y fformat, y categorïau a’r byrfoddau i’w defnyddio wrth restru safleoedd rheoli ar y ffin a phwyntiau rheoli;

ystyr “Rheoliad 2019/1081” yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/1081 sy’n sefydlu rheolau ar ofynion hyfforddi penodol ar gyfer staff er mwyn cyflawni gwiriadau ffisegol penodol mewn safleoedd rheoli ar y ffin;

ystyr “Rheoliad 2019/1602” yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/1602 sy’n ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch y Ddogfen Fynediad Iechyd Gyffredin sy’n mynd gyda llwythi o anifeiliaid a nwyddau i’w cyrchfan;

ystyr “Rheoliad 2019/1666” yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/1666 sy’n ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran yr amodau ar gyfer monitro cludiant a chyrhaeddiad llwythi o nwyddau penodol o’r safle rheoli ar y ffin lle y cyraeddasant i’r sefydliad yn y gyrchfan yn yr Undeb;

ystyr “Rheoliad 2019/1715” yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1715 sy’n gosod rheolau ar gyfer gweithrediad y system rheoli gwybodaeth ar gyfer rheolaethau swyddogol a chydrannau ei system;

ystyr “Rheoliad 2019/1793” yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1793 ar gynyddu dros dro reolaethau swyddogol a mesurau brys sy’n rheoli mynediad i’r Undeb i nwyddau penodol o drydydd gwledydd penodol sy’n gweithredu Rheoliadau (EU) 2017/625 ac (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor ac yn diddymu Rheoliadau’r Comisiwn (EC) Rhif 669/2009, (EU) Rhif 884/2014, (EU) 2015/175, (EU) 2017/186 ac (EU) 2018/1660;

ystyr “Rheoliad 2019/1873” yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1873 ar y gweithdrefnau mewn safleoedd rheoli ar y ffin ar gyfer cyflawni gan awdurdodau cymwys mewn modd cydgysylltiedig reolaethau swyddogol dwysach ar gynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid, cynhyrchion eginol, sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion cyfansawdd.

ystyr “Rheoliad 2019/2007” yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/2007 sy’n gosod rheolau ar gyfer cymhwyso Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran y rhestrau o anifeiliaid, cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid, cynhyrchion eginol, sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion sy’n deillio o anifeiliaid a gwair a gwellt sy’n ddarostyngedig i reolaethau swyddogol mewn safleoedd rheoli ar y ffin ac yn diwygio Penderfyniad 2007/275/EC;

ystyr “Rheoliad 2019/2074” yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/2074 sy’n ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran rheolau ynghylch rheolaethau swyddogol penodol ar lwythi o anifeiliaid a nwyddau penodol sy’n tarddu o’r Undeb, ac yn dychwelyd i’r Undeb yn dilyn gwrthod mynediad gan drydedd wlad;

ystyr “Rheoliad 2019/2122” yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/2122 sy’n ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran categorïau penodol o anifeiliaid a nwyddau a esemptir o reolaethau swyddogol mewn safleoedd rheoli ar y ffin, rheolaethau penodol ar fagiau personol teithwyr ac ar lwythi bach o nwyddau anfonir at bobl naturiol na fwriedir eu rhoi ar y farchnad, ac yn diwygio Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 142/2011;

ystyr “Rheoliad 2019/2123” yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/2123 sy’n ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran rheolau ar gyfer yr achosion lle y caniateir cyflawni gwiriadau adnabod a gwiriadau ffisegol ar nwyddau penodol mewn pwyntiau rheoli ac y caniateir cynnal gwiriadau dogfennol o bell o safleoedd rheoli ar y ffin, a’r amodau y cynhelir y gwiriadau hynny oddi tanynt;

ystyr “Rheoliad 2019/2124” yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/2124 sy’n ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran rheolau ar gyfer rheolaethau swyddogol ar lwythi o anifeiliaid a nwyddau sy’n cael eu cludo, eu trawslwytho a’u cludo ymlaen drwy’r Undeb, ac yn diwygio Rheoliadau’r Comisiwn (EC) Rhif 798/2008, (EC) Rhif 1251/2008, (EC) Rhif 119/2009, (EU) Rhif 206/2010, (EU) Rhif 605/2010, (EU) Rhif 142/2011, (EU) Rhif 28/2012, Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2016/759 a Phenderfyniad y Comisiwn 2007/777/EC;

ystyr “Rheoliad 2019/2126” yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/2126 sy’n ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran rheolau ar gyfer rheolaethau swyddogol penodol ar gategorïau penodol o anifeiliaid a nwyddau, mesurau i’w cymryd yn dilyn cyflawni’r rheolaethau hynny a chategorïau penodol o anifeiliaid a nwyddau a esemptir o reolaethau swyddogol mewn safleoedd rheoli ar y ffin;

ystyr “Rheoliad 2019/2129” yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/2129 sy’n sefydlu rheolau ar gyfer cymhwyso cyfraddau amlder unffurf ar gyfer gwiriadau adnabod a gwiriadau ffisegol ar lwythi penodol o anifeiliaid a nwyddau sy’n dod i’r Undeb;

ystyr “Rheoliad 2019/2130” yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/2130 sy’n sefydlu rheolau manwl ar y gweithrediadau i’w cyflawni yn ystod, ac ar ôl, gwiriadau dogfennol, gwiriadau adnabod a gwiriadau ffisegol ar anifeiliaid a nwyddau sy’n ddarostyngedig i reolaethau swyddogol mewn safleoedd rheoli ar y ffin;

ystyr “Rheoliad 2020/466” yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2020/466 ar fesurau dros dro i atal risgiau i iechyd dynol, iechyd anifeiliaid ac iechyd planhigion a lles anifeiliaid yn ystod tarfu difrifol penodol ar systemau rheoli Aelod-wladwriaethau oherwydd clefyd y coronafeirws;

ystyr “Rheoliad 2020/1158” yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2020/1158 ar yr amodau sy’n llywodraethu mewnforion bwyd a bwyd anifeiliaid sy’n tarddu o drydedd wledydd yn dilyn y ddamwain yng ngorsaf bŵer niwclear Chernobyl.]

Rheoliadau 2(1) a 17

ATODLEN 2LL+CDARPARIAETHAU CYMUNEDOL PENODEDIG

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

1. Y Ddarpariaeth yn Rheoliadau'r ymuned2. Y Pwnc
Erthygl 3 o Reoliad 852/2004Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd yn sicrhau bod pob cam yn y broses o gynhyrchu, prosesu a dosbarthu bwyd sydd o dan eu rheolaeth yn bodloni'r gofynion perthnasol o ran hylendid sydd wedi'u nodi yn Rheoliad 852/2004.
Erthygl 4(1) o Reoliad 852/2004Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd sy'n gwneud gwaith cynhyrchu sylfaenol a gweithrediadau cysylltiedig penodol yn cydymffurfio â'r darpariaethau hylendid cyffredinol a bennir yn Rhan A o Atodiad I i Reoliad 852/2004 ac unrhyw ofynion penodol y darperir ar eu cyfer yn Rheoliad 853/2004.
Erthygl 4(2) o Reoliad 852/2004Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd sy'n cyflawni unrhyw gam yn y broses o gynhyrchu, prosesu a dosbarthu bwyd ar ôl y camau hynny y mae Erthygl 4(1) yn gymwys iddynt yn cydymffurfio â'r gofynion cyffredinol o ran hylendid a nodir yn Atodiad II i Reoliad 852/2004 ac unrhyw ofynion penodol y darperir ar eu cyfer yn Rheoliad 853/2004.
Erthygl 4(3) o Reoliad 852/2004Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd, fel y bo'n briodol, yn mabwysiadu rhai mesurau hylendid penodol.
Erthygl 5(1) o Reoliad 852/2004Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd yn sefydlu, gweithredu a chynnal gweithdrefn neu weithdrefnau parhaol ar sail egwyddorion Dadansoddi Peryglon a Phwynt Rheoli Critigol (HACCP).
Erthygl 5(2) o Reoliad 852/2004Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd, pan fo unrhyw addasiad yn cael ei wneud i'r cynnyrch, y broses, neu i unrhyw gam yn y broses, yn adolygu'r weithdrefn y cyfeirir ati yn Erthygl 5(1) ac yn gwneud y newidiadau angenrheidiol iddi.
Erthygl 5(4)(a) o Reoliad 852/2004Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd yn darparu i'r awdurdod cymwys dystiolaeth eu bod yn cydymffurfio ag Erthygl 5(1).
Erthygl 5(4)(b) o Reoliad 852/2004Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd yn sicrhau bod unrhyw ddogfennau sy'n disgrifio'r gweithdrefnau a ddatblygwyd yn unol ag Erthygl 5 yn gyfoes.
Erthygl 5(4)(c) o Reoliad 852/2004Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd yn dal eu gafael ar ddogfennau a chofnodion am gyfnod priodol.
Erthygl 6(1) o Reoliad 852/2004Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd yn cydweithredu â'r awdurdodau cymwys yn unol [F2â chyfraith y Deyrnas Unedig].
Erthygl 6(2), paragraff cyntaf RheoliadGofyniad bod gweithredydd busnes bwyd yn hysbysu'r 852/2004 awdurdod cymwys o bob sefydliad o dan ei reolaeth sy'n cyflawni unrhyw un o'r camau yn y broses o gynhyrchu, prosesu a dosbarthu bwyd.
Erthygl 6(2), ail baragraff RheoliadGofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd yn sicrhau 852/2004 bod gan yr awdurdod cymwys wybodaeth gyfoes am sefydliadau.
Erthygl 6(3) o Reoliad 852/2004Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd yn sicrhau bod sefydliadau yn cael eu cymeradwyo gan yr awdurdod cymwys pan fo angen cymeradwyaeth.
Erthygl 3(1) o Reoliad 853/2004Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd yn cydymffurfio â darpariaethau perthnasol Atodiadau II a III i Reoliad 853/2004.
Erthygl 3(2) o Reoliad 853/2004Gofyniad nad yw gweithredwyr busnes bwyd yn defnyddio unrhyw sylwedd heblaw dŵr yfadwy neu, pan fo Rheoliad 852/2004 neu Reoliad 853/2004 yn caniatáu ei ddefnyddio, dŵr glân i dynnu halogiad ar y wyneb oddi ar gynhyrchion sy'n tarddu o anifeiliaid, oni bai bod defnyddio'r sylwedd wedi'i gymeradwyo.
Erthygl 4(1) o Reoliad 853/2004

Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd ddim ond yn rhoi ar y farchnad gynhyrchion sy'n tarddu o anifeiliaid F3... os ydynt wedi'u paratoi a'u trafod yn y sefydliadau canlynol yn unig—

(a)

sefydliadau sy'n bodloni gofynion perthnasol Rheoliad 852/2004, rhai perthnasol Atodiadau II a III i Reoliad 853/2004 a gofynion perthnasol eraill cyfraith bwyd; a

(b)

y mae'r awdurdod cymwys wedi'u cofrestru neu, pan fo'n ofynnol yn unol ag Erthygl 4(2), wedi'u cymeradwyo.

Erthygl 4(2) o Reoliad 853/2004Gofyniad nad yw sefydliadau sy'n trafod y cynhyrchion hynny sy'n tarddu o anifeiliaid, ac y mae Atodiad III i Reoliad 853/2004 yn gosod gofynion ar eu cyfer, yn gweithredu onid yw'r awdurdod cymwys wedi'u cymeradwyo yn unol ag Erthygl 4(3).
Erthygl 4(3) o Reoliad 853/2004

Gofyniad na ddylai sefydliadau sy'n ddarostyngedig i gymeradwyaeth yn unol ag Erthygl 4(2) weithredu oni bai bod yr awdurdod cymwys, yn unol â Rheoliad 854/2004—

(a)

wedi rhoi cymeradwyaeth i'r sefydliad weithredu yn dilyn ymweliad ar y safle; neu

(b)

wedi rhoi cymeradwyaeth amodol i'r sefydliad.

Erthygl 4(4) o Reoliad 853/2004Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd yn cydweithredu â'r awdurdodau cymwys yn unol â Rheoliad 854/2004 gan gynnwys sicrhau bod sefydliad yn peidio â gweithredu os nad yw'n sefydliad cymeradwy mwyach.
Erthygl 5(1) o Reoliad 853/2004

Gofyniad nad yw gweithredwyr busnes bwyd yn rhoi ar y farchnad gynnyrch sy'n tarddu o anifeiliaid ac sydd wedi'i drafod mewn sefydliad sy'n ddarostyngedig i gymeradwyaeth yn unol ag Erthygl 4(2) oni bai—

(a)

bod marc iechyd wedi'i ddodi arno yn unol â Rheoliad 854/2004; neu

(b)

pan nad yw Rheoliad 854/2004 yn darparu ar gyfer dodi marc iechyd, bod marc adnabod yn cael ei ddodi yn unol ag Adran 1 o Atodiad II Reoliad 853/2004.

Erthygl 5(2) o Reoliad 853/2004Gofyniad mai dim ond os yw'r cynnyrch wedi'i weithgynhyrchu yn unol â Rheoliad 853/2004 mewn sefydliadau sy'n bodloni gofynion Erthygl 4 y dylai gweithredwyr busnes bwyd ddodi marc adnabod ar gynnyrch sy'n tarddu o anifeiliaid.
Erthygl 5(3) o Reoliad 853/2004Gofyniad nad yw gweithredwyr busnes bwyd yn dileu marc iechyd a ddodwyd yn unol â Rheoliad 854/2004 oddi ar gig oni bai eu bod yn ei dorri neu'n ei brosesu neu'n gweithio arno mewn modd arall.
Erthygl 6(1) a (2) o Reoliad 853/2004Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd yn sicrhau mai dim ond pan fydd amodau penodol wedi'u bodloni y dylai mewnforio cynhyrchion sy'n tarddu o anifeiliaid ddigwydd.
Erthygl 6(3) o Reoliad 853/2004

Gofyniad bod rhaid i weithredwyr busnes bwyd sy'n mewnforio cynhyrchion sy'n tarddu o anifeiliaid sicrhau—

(a)

bod cynhyrchion yn cael eu rhoi ar gael i'w rheoli wrth iddynt gael eu mewnforio yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 97/78/EC(5);

(b)

bod y mewnforio yn cydymffurfio â gofynion Cyfarwyddeb y Cyngor 2002/99/EC(6); ac

(c)

bod gweithrediadau o dan eu rheolaeth sy'n digwydd ar ôl y mewnforio yn cael eu cyflawni yn unol â gofynion Atodiad III i Reoliad 853/2004.

Erthygl 6(4) o Reoliad 853/2004Gofynion bod gweithredwyr busnes bwyd sy'n mewnforio bwyd sy'n cynnwys cynhyrchion sy'n tarddu o blanhigion a chynhyrchion proses sy'n tarddu o anifeiliaid yn sicrhau bod y cynhyrchion proses sy'n tarddu o anifeiliaid yn bodloni gofynion paragraffau (1) i (3) o Erthygl 6.
Erthygl 7 o Reoliad 853/2004Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd yn sicrhau bod tystysgrifau neu ddogfennau eraill yn mynd gyda llwythi cynhyrchion sy'n tarddu o anifeiliaid pan fo'n ofynnol yn unol ag Atodiad II neu III i Reoliad 853/2004.
F4. . .F4. . .
Erthygl 7(1) o Reoliad 2073/2005Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd yn cymryd y mesurau a bennir ym mharagraffau (2) i (4) o Erthygl 7 pan fydd y canlyniadau ar ôl profi yn erbyn y meni prawf a osodir yn Atodiad I i Reoliad 2073/2005 (meini prawf microbiolegol ar gyfer bwydydd) yn anfoddhaol
Erthygl 9 o [F5Reoliad 2015/1375] [F6Gofyniad bod rhaid i weithredwyr busnes bwyd daliadau y cydnabyddir yn swyddogol eu bod yn cymhwyso amodau tai a reolir roi gwybod i’r awdurdod cymwys am unrhyw ofyniad o Atodiad IV i Reoliad 2015/1375 nad yw bellach yn cael ei gyflawni neu unrhyw newid arall a allai effeithio ar statws Trichinella daliadau.] .

Rheoliad 29

ATODLEN 3LL+CSWMPGLUDO OLEWAU HYLIFOL NEU FRASTERAU HYLIFOL AR LONGAU MORDWYOL A SWMPGLUDO SIWGR CRAI DROS Y MôR

TramgwyddLL+C

1.  Bydd person sy'n mynd yn groes i unrhyw un o ofynion yr Atodlen hon neu'n methu â chydymffurfio ag unrhyw un ohonynt yn euog o dramgwydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 3 para. 1 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Olewau hylifol neu frasterau hylifolLL+C

2.—(1Caniateir i olewau hylifol neu frasterau hylifol sydd i'w prosesu, ac a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl neu sy'n debygol o gael eu defnyddio ar gyfer eu bwyta gan bobl, gael eu swmpgludo ar longau mordwyol mewn tanciau nas cedwir at gludo deunyddiau bwyd yn unig, a chaniateir hynny yn ddarostyngedig i'r amodau canlynol—

(a)pan fo'r olew neu'r braster yn cael ei gludo mewn tanc dur gwrthstaen, neu danc sydd wedi'i leinio â resin epocsi neu ddeunydd sy'n dechnegol gyfatebol iddo, rhaid i'r cargo uniongyrchol flaenorol a gludwyd yn y tanc fod wedi bod yn ddeunydd bwyd neu'n gargo o'r rhestr o gargoau blaenorol derbyniol ar gyfer olewau hylifol neu frasterau hylifol; a

(b)pan fo'r olew neu'r braster yn cael ei gludo mewn tanc o ddeunyddiau heblaw'r rhai a bennir yn is-baragraff (a), rhaid i'r tri chargo blaenorol a gludwyd yn y tanciau fod wedi bod yn ddeunyddiau bwyd neu'n gargoau o'r rhestr o gargoau blaenorol derbyniol ar gyfer olewau hylifol neu frasterau hylifol.

(2At ddibenion y paragraff hwn, ystyr “rhestr o gargoau blaenorol derbyniol ar gyfer olewau hylifol neu frasterau hylifol” yw'r rhestr a nodir yn yr [F7Atodiad i Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 579/2014 fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd].

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

3.  Caniateir i olewau hylifol neu frasterau hylifol nad ydynt i'w prosesu ymhellach, ac a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl neu sy'n debygol o gael eu defnyddio ar gyfer eu bwyta gan bobl, gael eu swmpgludo mewn tanciau nas cedwir at gludo deunyddiau bwyd yn unig, a chaniateir hynny yn ddarostyngedig i'r amodau canlynol—

(a)rhaid i'r tanc fod yn danc dur gwrthstaen neu fod wedi'i leinio â resin epocsi neu ddeunydd sy'n dechnegol gyfatebol iddo; a

(b)rhaid i'r tri chargo blaenorol a gludwyd yn y tanc fod wedi bod yn ddeunyddiau bwyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

I4Atod. 3 para. 3 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

4.  Rhaid i gapten llong fordwyol sy'n cludo mewn tanciau swmp o olewau hylifol neu frasterau hylifol a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl neu sy'n debygol o gael eu defnyddio ar gyfer eu bwyta gan bobl, gadw tystiolaeth ddogfennol gywir yngl^yn â'r tri chargo blaenorol a gludwyd yn y tanciau o dan sylw, ac am effeithiolrwydd y broses lanhau a ddefnyddiwyd rhwng y cargoau hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

I5Atod. 3 para. 4 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

5.  Pan fo'r cargo wedi'u drawslwytho, yn ychwanegol at y dystiolaeth ddogfennol sy'n ofynnol yn rhinwedd paragraff 4, rhaid i gapten y llong sy'n ei dderbyn gadw tystiolaeth ddogfennol gywir bod cludo'r swmp o olew hylifol neu fraster hylifol wedi cydymffurfio â darpariaethau paragraff 2 neu 3 yn ystod y llwyth llong blaenorol ac am effeithiolrwydd y broses lanhau a ddefnyddiwyd rhwng y cargoau hynny ar y llong y cawsant eu trawslwytho ohoni.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

I6Atod. 3 para. 5 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

6.  Os gofynnir iddo wneud hynny, rhaid i gapten y llong roi i'r awdurdod gorfodi y dystiolaeth ddogfennol a ddisgrifiwyd ym mharagraffau 4 a 5.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

I7Atod. 3 para. 6 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Siwgr craiLL+C

7.  Caniateir i siwgr crai na fwriedir ei ddefnyddio fel bwyd neu gynhwysyn bwyd heb broses buro lawn ac effeithiol gael ei swmpgludo dros y môr mewn daliedyddion, cynwysyddion neu danceri nad ydynt yn cael eu defnyddio ar gyfer cludo deunyddiau bwyd yn unig.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 3 para. 7 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

8.  Bydd y daliedyddion, y cynwysyddion neu'r tanceri y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff 7 yn ddarostyngedig i'r amodau canlynol—

(a)cyn llwytho'r siwgr crai, rhaid i'r daliedydd, y cynhwysydd neu'r tancer gael ei lanhau'n effeithiol i waredu gweddillion y cargo blaenorol ac unrhyw faeddu arall a'i arolygu i gadarnhau bod y gweddillion hynny wedi'u gwaredu'n effeithiol; a

(b)rhaid i'r cargo uniongyrchol flaenorol a gludwyd cyn y siwgr crai beidio â bod wedi bod yn swmp-hylif.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 3 para. 7 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

I9Atod. 3 para. 8 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

9.  Rhaid i weithredydd busnes bwyd sy'n gyfrifol am gludo siwgr crai dros y môr o dan baragraff 7 gadw tystiolaeth ddogfennol, gan ddisgrifio'n gywir ac yn fanwl y cargo uniongyrchol flaenorol a gludwyd yn y daliedydd, y cynhwysydd neu'r tancer o dan sylw, a math ac effeithiolrwydd y broses lanhau a ddefnyddiwyd cyn cludo'r siwgr crai.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 3 para. 7 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

I10Atod. 3 para. 9 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

10.  Rhaid i'r dystiolaeth ddogfennol fynd gyda llwyth siwgr crai yn ystod pob cam yn y broses o'i gludo i'r burfa a rhaid i'r burfa gadw copi o'r dystiolaeth honno. Rhaid i'r dystiolaeth ddogfennol gael ei marcio fel a ganlyn mewn modd sy'n hollol weladwy ac annileadwy [F8yn Saesneg, neu yn Gymraeg ac yn Saesneg]: “This product must be refined before being used for human consumption”.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 3 para. 7 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

I11Atod. 3 para. 10 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

11.  Os gofynnir iddo wneud hynny, rhaid i weithredydd busnes bwyd sy'n gyfrifol am gludo'r siwgr crai neu'r broses buro ddarparu i'r awdurdod gorfodi y dystiolaeth ddogfennol y cyfeiriwyd ati ym mharagraffau 9 a 10.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 3 para. 7 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

I12Atod. 3 para. 11 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

12.  Gwneir i siwgr crai sydd wedi'i gludo dros y môr mewn daliedyddion, cynwysyddion neu danceri nas cedwir at gludo deunyddiau bwyd yn unig, fynd drwy broses buro lawn ac effeithiol cyn iddo gael ei ystyried yn addas i'w ddefnyddio fel bwyd neu fel cynhwysyn bwyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 3 para. 7 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

I13Atod. 3 para. 12 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

13.  Wrth gyflawni'r rhwymedigaethau o dan Erthygl 5(1) o Reoliad 852/2004 (dadansoddi peryglon a phwynt rheoli critigol) o ran swmpgludo siwgr crai dros y môr o dan baragraff 7, rhaid i weithredydd busnes bwyd sy'n gyfrifol am gludo neu buro siwgr crai—

(a)ystyried y broses lanhau yr ymgymerwyd, hi cyn llwytho'r siwgr i'w gludo dros y môr yn bwynt rheoli critigol yn y modd y cyfeirir at “critical control point” yn Erthygl 5(2)(b) o Reoliad 852/2004; a

(b)cymryd i ystyriaeth natur y cargo blaenorol sydd wedi'i gludo mewn unrhyw ddaliedydd, cynhwysydd neu dancer sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer cludo'r siwgr.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 3 para. 7 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

I14Atod. 3 para. 13 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

DehongliLL+C

[F914.  At ddibenion yr Atodlen hon bydd unrhyw eiriau neu ymadroddion a ddefnyddir yn yr Atodlen hon ac unrhyw eiriau neu ymadroddion Saesneg cyfatebol a ddefnyddir yn Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 579/2014 sy’n caniatáu rhanddirymiad o ddarpariaethau penodol yn Atodiad II i Reoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran cludo olewau a brasterau hylifol dros y môr neu Gyfarwyddeb y Comisiwn 98/28/EC sy’n caniatáu rhanddirymiad o ddarpariaethau penodol yng Nghyfarwyddeb 93/43/EEC ar hylendid deunyddiau bwyd o ran swmpgludo siwgr crai dros y môr yn dwyn yr un ystyr ag ystyr y geiriau neu’r ymadroddion Saesneg cyfatebol hynny yn eu tro yn y Rheoliad hwnnw neu’r Gyfarwyddeb honno.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 3 para. 14 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Rheoliad 17(5)

[F10ATODLEN 3ALL+CGOFYNION Y CYFEIRIR ATYNT YN RHEOLIAD 17(5)

Y gofynion yw—

(a)bod y lladd-dy ar 31 Rhagfyr 2005 yn un a drwyddedwyd yn lladd-dy trwybwn isel o dan Reoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Arolygu) 1995(7);

(b)mai dim ond yn anaml y bydd cyflwr cig sy'n tarddu o garnolion domestig a gigyddwyd yn y lladd-dy yn ei gwneud yn angenrheidiol dal gafael ar y cig hwnnw ar ôl arolygiad post-mortem er mwyn i'r milfeddyg swyddogol wneud arolygiad pellach ohono;

(c)pan fo arolygiad pellach o'r fath yn angenrheidiol ym marn y milfeddyg swyddogol, bod y cig o dan sylw yn cael ei ddifa neu fod gafael yn cael ei ddal arno mewn cyfleuster dal gafael amgen yng nghyffiniau'r lladd-dy;

(ch)pan fo cig yn cael ei gludo o'r lladd-dy i'r cyfleuster dal gafael amgen y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (c), rhaid ei farcio â'r geiriau 'detained meat' a rhaid bod gydag ef ddogfen sydd wedi ei llofnodi gan y milfeddyg swyddogol, sy'n datgan bod y cig yn gig y mae gafael yn cael ei ddal arno ac sy'n cynnwys yr wybodaeth a ganlyn—

(i)enw a chyfeiriad y lladd-dy gwreiddiol;

(ii)enw a chyfeiriad y cyfleuster dal gafael amgen;

(iii)nifer y carcasau neu'r darnau; a

(iv)rhywogaeth yr anifail; a

(d)nad oes unrhyw waith prosesu at ddibenion eu bwyta gan bobl yn cael ei wneud ar anifeiliaid buchol y mae'n ofynnol, yn unol â phwynt 2 Rhan I o Bennod A o Atodiad III i Reoliad TSE y Gymuned, eu profi i weld a oes BSE arnynt adeg eu cigydda neu anifeiliaid o deulu'r mochyn (anifeiliaid hela domestig a rhai a ffermir), uncarnolion a rhywogaethau eraill anifeiliaid a allai gael Trichinosis y mae'n ofynnol, [F11o dan Erthygl 18(2) o Reoliad 2017/625 fel y’i darllenir gydag Erthygl 31 o Reoliad 2019/627, eu harchwilio i weld a oes Trichinella arnynt yn unol ag Erthygl 2 o Reoliad 2015/1375].

  • At ddibenion yr Atodlen hon ystyr “Rheoliad TSE y Gymuned” (“Community TSE Regulation”) yw [F12Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod rheolau ar gyfer atal, rheoli a dileu enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy penodol(11), fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) 2017/893] ac fel y'i darllenir gyda'r canlynol—

    (i)

    Penderfyniad y Comisiwn 2007/411/EC sy'n gwahardd rhoi ar y farchnad gynhyrchion sy'n tarddu o anifeiliaid buchol a anwyd neu a fagwyd o fewn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996 at unrhyw ddiben ac sy'n esemptio'r anifeiliaid hynny rhag mesurau rheoli a difodi penodol a osodir yn Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 ac yn diddymu Penderfyniad 2005/598/EC(8),

    (ii)

    Penderfyniad y Comisiwn 2007/453/EC sy'n sefydlu statws BSE Aelod-wladwriaethau neu drydydd gwledydd neu ranbarthau ohonynt yn unol â'u risg BSE(9), a

    (iii)

    Penderfyniad y Comisiwn 2009/719/EC yn awdurdodi rhai Aelod-wladwriaethau i adolygu eu rhaglenni blynyddol ar gyfer monitro BSE(10) fel y diwygiwyd y Penderfyniad hwnnw gan Benderfyniad y Comisiwn 2010/66/EU sy'n diwygio Penderfyniad 2009/719/EC yn awdurdodi rhai Aelod-wladwriaethau i adolygu eu rhaglenni blynyddol ar gyfer monitro BSE(11).

Rheoliad 17(6)

ATODLEN 3BLL+CGOFYNION Y CYFEIRIR ATYNT YN RHEOLIAD 17(6)

Y gofynion yw—

(a)bod y lladd-dy ar 31 Rhagfyr 2005 yn un a drwyddedwyd yn lladd-dy trwybwn isel o dan Reoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela a Ffermir a Chig Cwningen (Hylendid ac Arolygu) 1995(12);

(b)mai dim ond yn anaml y bydd cyflwr cig sy'n tarddu o ddofednod neu lagomorffiaid a gigyddwyd yn y lladd-dy yn ei gwneud yn angenrheidiol dal gafael ar y cig hwnnw ar ôl arolygiad post-mortem er mwyn i'r milfeddyg swyddogol wneud arolygiad pellach ohono;

(c)pan fo arolygiad pellach o'r fath yn angenrheidiol ym marn y milfeddyg swyddogol, bod y cig o dan sylw yn cael ei ddifa neu fod gafael yn cael ei ddal arno mewn cyfleuster dal gafael amgen yng nghyffiniau'r lladd-dy; ac

(ch)pan fo cig yn cael ei gludo o'r lladd-dy i'r cyfleuster dal gafael amgen y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (c), rhaid ei farcio â'r geiriau 'detained meat' a rhaid bod gydag ef ddogfen sydd wedi ei llofnodi gan y milfeddyg swyddogol, sy'n datgan bod y cig yn gig y mae gafael yn cael ei ddal arno ac sy'n cynnwys yr wybodaeth a ganlyn—

(i)enw a chyfeiriad y lladd-dy gwreiddiol;

(ii)enw a chyfeiriad y cyfleuster dal gafael amgen;

(iii)nifer y carcasau neu'r darnau; a

(iv)rhywogaeth yr anifail.

Rheoliad 17(7)

ATODLEN 3CLL+CGOFYNION Y CYFEIRIR ATYNT YN RHEOLIAD 17(7)

Y gofynion yw—

(a)bod y lladd-dy ar 31 Rhagfyr 2005 yn un a drwyddedwyd yn lladd-dy trwybwn isel o dan Reoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Arolygu) 1995(13);

(b)mai dim ond carnolion domestig sydd wedi eu cludo'n uniongyrchol o'r daliad gwreiddiol neu o farchnad y mae'r gweithredwr busnes bwyd yn y lladd-dy yn eu derbyn;

(c)bod y gweithredwr busnes bwyd sy'n gyfrifol am gludo'r carnolion domestig yn rhoi ymgymeriad ysgrifenedig i'r gweithredwr busnes bwyd yn y lladd-dy mai ef sydd i sicrhau bod y cyfryngau cludo yn cael eu glanhau ac, os yw'n angenrheidiol, yn cael eu diheintio ar ôl eu gwagio;

(ch)bod y gweithredwr busnes bwyd yn y lladd-dy yn cadw'r ymgymeriad y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (c) am flwyddyn; a

(d)bod y gweithredwr busnes bwyd yn y lladd-dy yn cydnabod wrth y milfeddyg swyddogol y gallai fod yn ofynnol iddo o dan reolau iechyd anifeiliaid ymatal rhag gweithredu yn y lladd-dy os byddai clefyd anifeiliaid yn brigo.

Rheoliad 17(8)

ATODLEN 3ChLL+CGOFYNION Y CYFEIRIR ATYNT YN RHEOLIAD 17(8)

Y gofynion yw—

(a)bod y lladd-dy ar 31 Rhagfyr 2005 yn un a drwyddedwyd yn lladd-dy trwybwn isel o dan Reoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela a Ffermir a Chig Cwningen (Hylendid ac Arolygu) 1995(14);

(b)bod y gweithredwr busnes bwyd yn naliad gwreiddiol y dofednod neu'r lagomorffiaid yn eu cludo o'r daliad hwnnw yn uniongyrchol i'r lladd-dy ac yn rhoi ymgymeriad ysgrifenedig i'r gweithredwr busnes bwyd yn y lladd-dy mai ef sydd i sicrhau bod y cyfryngau cludo yn cael eu glanhau ac, os yw'n angenrheidiol, yn cael eu diheintio ar ôl eu gwagio;

(c)bod y gweithredwr busnes bwyd yn y lladd-dy yn cadw'r ymgymeriad y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (b) am flwyddyn; ac

(ch)bod y gweithredwr busnes bwyd yn y lladd-dy yn cydnabod wrth y milfeddyg swyddogol y gallai fod yn ofynnol iddo o dan reolau iechyd anifeiliaid ymatal rhag gweithredu yn y lladd-dy os byddai clefyd anifeiliaid yn brigo.]

Rheoliad 30

ATODLEN 4LL+CGOFYNION RHEOLI TYMHEREDD

CwmpasLL+C

1.  Nid yw'r Atodlen hon yn gymwys o ran—

(a)unrhyw weithrediad busnes bwyd y mae Rheoliad 853/2004 yn gymwys iddo; nac

(b)unrhyw weithrediad busnes bwyd sy'n cael ei gyflawni ar long neu awyren.

Gwybodaeth Cychwyn

I16Atod. 4 para. 1 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Gofynion cadw'n oerLL+C

2.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2) a pharagraff 3, bydd unrhyw berson sy'n cadw unrhyw fwyd—

(a)sy'n debygol o gynnal twf micro-organeddau pathogenig neu helpu tocsinau i ffurfio; a

(b)y mae unrhyw weithrediad masnachol yn cael ei gyflawni mewn perthynas ag ef,

ar neu mewn mangre bwyd ar dymheredd uwchlaw 8°C yn euog o dramgwydd.

(2Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw fwyd sy'n cael ei gludo, fel rhan o drafodiad archeb drwy'r post, i'r defnyddiwr olaf.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff 3, ni chaiff neb gyflenwi drwy archeb drwy'r post unrhyw fwyd sydd—

(a)yn debygol o gynnal twf micro-organeddau pathogenig neu helpu tocsinau i ffurfio; a

(b)wrthi'n cael ei gludo neu sydd wedi'i gludo drwy'r post neu drwy gyfrwng cludwr preifat neu gyffredin i'r defnyddiwr olaf,

ar dymheredd sydd wedi arwain neu sy'n debygol o arwain at risg i iechyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I17Atod. 4 para. 2 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Esemptiadau cyffredinol rhag y gofynion cadw'n oerLL+C

3.  Nid yw is-baragraffau (1) a (3) o baragraff 2 yn gymwys o ran—

(a)bwyd—

(i)sydd wedi'i goginio neu wedi'i aildwymo,

(ii)sydd i'w arlwyo neu sy'n cael ei arddangos i'w werthu, a

(iii)y mae angen ei gadw ar dymheredd o 63ºC neu uwchlaw hynny er mwyn rheoli twf micro-organeddau pathogenig neu atal tocsinau rhag ffurfio;

(b)bwyd y caniateir ei gadw, am weddill ei oes silff ar dymereddau amgylchynol heb unrhyw risg i iechyd;

(c)bwyd y gwneir neu y gwnaed iddo fynd drwy broses megis dadhydradu neu ganio a fwriedir i atal twf micro-organeddau pathogenig ar dymereddau amgylchynol, ond nid—

(i)pan fo'r bwyd, ar ôl neu yn rhinwedd y broses honno, wedi'i gynnwys mewn cynhwysydd aerglos, a

(ii)pan fo'r cynhwysydd hwnnw wedi'i agor;

(ch)bwyd y mae'n rhaid ei aeddfedu ar dymereddau amgylchynol, ond nid pan fo'r broses aeddfedu wedi'i chwblhau;

(d)bwyd crai a fwriedir ar gyfer prosesu pellach (gan gynnwys coginio) cyn i bobl ei fwyta, ond dim ond os bydd y prosesu hwnnw, os ymgymerir ag ef yn gywir, yn gwneud y bwyd hwnnw'n ffit ar gyfer ei fwyta gan bobl;

(dd)bwyd y mae [F13Rheoliad y Comisiwn 543/2008 a Rheoliad 1308/2013] yn gymwys iddo; ac

(e)bwyd y mae [F14Rheoliad y Comisiwn 589/2008 a Rheoliad 1308/2013] yn gymwys iddo.

Amrywio'r tymheredd o 8ºC ar i fyny gan weithgynhyrchwyr etc.LL+C

4.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2) isod, mewn unrhyw achos cyfreithiol am dramgwydd sy'n cynnwys mynd yn groes i is-baragraff (1) o baragraff 2, bydd yn amddiffyniad i'r sawl a gyhuddir brofi—

(a)bod busnes bwyd sy'n gyfrifol am weithgynhyrchu, paratoi neu brosesu'r bwyd, gan gynnwys, pan fo'n berthnasol, y sawl a gyhuddir, wedi argymell y dylid cadw'r bwyd hwnnw—

(i)ar neu islaw tymheredd penodedig rhwng 8ºC a'r tymereddau amgylchynol, a

(ii)am gyfnod nad yw'n hwy nag oes silff benodedig;

(b)bod yr argymhelliad hwnnw, onid y sawl a gyhuddir yw'r busnes bwyd hwnnw, wedi'i fynegi i'r sawl a gyhuddir naill ai drwy gyfrwng label ar ddeunydd pecynnu'r bwyd neu drwy gyfrwng rhyw ffurf briodol arall ar gyfarwyddyd ysgrifenedig;

(c)nad oedd y bwyd wedi'i gadw gan y sawl a gyhuddir ar dymheredd uwchlaw'r tymheredd penodedig; ac

(ch)nad aethpwyd, adeg cyflawni'r tramgwydd honedig, y tu hwnt i'r oes silff benodedig.

(2Rhaid i fusnes bwyd sy'n gyfrifol am weithgynhyrchu, paratoi neu brosesu bwyd beidio ag argymell y dylid cadw unrhyw fwyd—

(a)ar neu islaw tymheredd penodedig rhwng 8°C a'r tymereddau amgylchynol; a

(b)am gyfnod nad yw'n hwy nag oes silff benodedig,

onid yw'r argymhelliad hwnnw wedi'i ategu gan asesiad gwyddonol a sail dda iddo o ddiogelwch y bwyd ar y tymheredd penodedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I19Atod. 4 para. 4 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Cyfnodau goddef ar gyfer cadw'n oerLL+C

5.—(1Mewn unrhyw achos cyfreithiol am dramgwydd sy'n cynnwys mynd yn groes i is-baragraff (1) o baragraff 2, bydd yn amddiffyniad i'r sawl a gyhuddir brofi—

(a)bod y bwyd ar gyfer ei arlwyo neu'n cael ei arddangos i'w werthu;

(b)nad oedd y bwyd wedi'i gadw o'r blaen ar gyfer ei arlwyo nac yn cael ei arddangos i'w werthu ar dymheredd uwchlaw 8ºC neu, pan fo argymhelliad wedi'i wneud yn unol ag is-baragraff (1) o baragraff 4, y tymheredd a argymhellwyd; ac

(c)wedi'i gadw ar gyfer ei arlwyo neu'n cael ei arddangos i'w werthu am gyfnod o lai na phedair awr.

(2Mewn unrhyw achos cyfreithiol am dramgwydd sy'n cynnwys mynd yn groes i is-baragraff (1) o baragraff 2, bydd yn amddiffyniad i'r sawl a gyhuddir brofi bod y bwyd—

(a)wrthi'n cael ei drosglwyddo—

(i)o fangre lle'r oedd y bwyd yn mynd i gael ei gadw ar dymheredd o 8ºC neu islaw hynny, neu o dan amgylchiadau priodol y tymheredd a argymhellir, i gerbyd a ddefnyddir at ddibenion busnes bwyd, neu

(ii)i'r fangre honno o'r cerbyd hwnnw; neu

(b)wedi'i gadw ar dymheredd uwchlaw 8ºC neu, o dan amgylchiadau priodol, y tymheredd a argymhellir ar gyfer rheswm anochel, megis—

(i)dygymod â materion ymarferol trafod y bwyd wrth ei brosesu neu ei baratoi ac ar ôl hynny,

(ii)dadrewi'r cyfarpar, neu

(iii)y cyfarpar yn torri i lawr dros dro,

a'i fod wedi'i gadw ar dymheredd uwchlaw 8ºC neu, o dan amgylchiadau arbennig, y tymheredd a argymhellwyd am gyfnod cyfyngedig yn unig a bod y cyfnod hwnnw'n cydweddu â diogelwch bwyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I20Atod. 4 para. 5 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Gofynion cadw'n dwymLL+C

6.  Bydd unrhyw berson sydd, wrth gynnal gweithgareddau busnes bwyd, yn cadw mewn mangre bwyd ar dymheredd islaw 63ºC unrhyw fwyd sydd—

(a)wedi'i goginio neu wedi'i aildwymo;

(b)sydd i'w arlwyo neu sy'n cael ei arddangos i'w werthu; ac

(c)y mae angen ei gadw ar dymheredd o 63ºC neu uwchlaw hynny er mwyn rheoli twf micro-organeddau pathogenig neu atal tocsinau rhag ffurfio,

yn euog o dramgwydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I21Atod. 4 para. 6 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Amddiffyniadau cadw'n dwymLL+C

7.—(1Mewn unrhyw achos cyfreithiol am dramgwydd sy'n cynnwys mynd yn groes i baragraff 6, bydd yn amddiffyniad i'r sawl a gyhuddir brofi—

(a)bod asesiad gwyddonol a sail dda iddo o ddiogelwch y bwyd ar dymereddau islaw 63ºC wedi dod i'r casgliad nad oes unrhyw risg i iechyd os, ar ôl ei goginio nei ei aildwymo, y mae'r bwyd yn cael ei gadw ar gyfer ei arlwyo neu'n cael ei arddangos i'w werthu—

(i)ar dymheredd cadw sydd islaw 63ºC, a

(ii)am gyfnod nad yw'n hwy nag unrhyw gyfnod amser a bennir yn yr asesiad gwyddonol hwnnw; a

(b)bod y bwyd, ar yr adeg y cyflawnwyd y tramgwydd honedig, wedi'i gadw mewn modd a oedd yn gyfiawn yng ngoleuni'r asesiad gwyddonol hwnnw.

(2Mewn unrhyw achos cyfreithiol am dramgwydd sy'n cynnwys mynd yn groes i baragraff 6, bydd yn amddiffyniad i'r sawl a gyhuddir brofi—

(a)bod y bwyd wedi'i gadw ar gyfer ei arlwyo neu'n cael ei arddangos i'w werthu am gyfnod o lai na dwy awr; a

(b)nad oedd y bwyd wedi'i gadw o'r blaen ar gyfer ei arlwyo nac wedi'i arddangos i'w werthu gan y person hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I22Atod. 4 para. 7 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

DehongliLL+C

8.  Yn yr Atodlen hon—

ystyr “oes silff” (“shelf life”)—

(a)

[F15o ran bwyd y mae dyddiad parhauster lleiaf yn ofynnol ar ei gyfer yn unol ag Erthygl 9(1)(f) o Reoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch darparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr, fel y’i darllenir gydag Erthygl 24(1) a (2) o’r Rheoliad hwnnw, yw’r cyfnod hyd at a chan gynnwys y dyddiad parhauster lleiaf gofynnol;

(b)

o ran bwyd y mae angen dyddiad “use by” arno yn unol ag Erthygl 9(1)(f) o Reoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor, fel y’i darllenir gydag Erthygl 24(1) a (2) o’r Rheoliad hwnnw, yw’r cyfnod hyd at a chan gynnwys y dyddiad “use by”gofynnol; ac]

(c)

o ran bwyd nad yw'n ofynnol iddo ddwyn dangosiad parhauster lleiaf na dyddiad “use by”, yw'r cyfnod y gellid disgwyl i'r bwyd aros yn ffit i'w werthu os yw'n cael ei gadw mewn modd sy'n cydweddu â diogelwch bwyd.

F16...

F16...

[F17“ystyr “Rheoliad y Comisiwn 543/2008” (“Commission Regulation 543/2008”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 543/2008 sy’n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 o ran y safonau marchnata ar gyfer cig dofednod;]

[F18“ystyr “Rheoliad y Comisiwn 589/2008” (“Commission Regulation 589/2008”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 sy’n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 o ran y safonau marchnata ar gyfer wyau;]

[F19“ystyr “Rheoliad 1308/2013” (“Regulation 1308/2013”) yw Rheoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n sefydlu cyd-drefniadaeth ar gyfer y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol ac sy’n diddymu Rheoliadau’r Cyngor (EEC) Rhif 922/72, (EEC) Rhif 234/79, (EC) Rhif 1037/2001 ac (EC) Rhif 1234/2007;]

ystyr “tymheredd a argymhellwyd (“recommended temperature”) yw tymheredd penodedig sydd wedi'i argymell yn unol â pharagraff 4(1)(a)(i);

Rheoliad 31

ATODLEN 5LL+CY MODD Y MAE'R CYNHYRCHYDD YN CYFLENWI'N UNIONGYRCHOL FEINTIAU BACH O GIG O DDOFEDNOD A LAGOMORFFIAID A GIGYDDWYD AR Y FFERM

CwmpasLL+C

1.  Mae gofynion yr Atodlen hon yn gymwys i'r modd y mae'r cynhyrchydd yn cyflenwi'n uniongyrchol feintiau bach o gig o ddofednod a lagomorffiaid a gigyddwyd ar y fferm i'r defnyddiwr olaf neu i sefydliadau manwerthu lleol sy'n cyflenwi cig o'r fath yn uniongyrchol i'r defnyddiwr olaf fel cig ffres.

Gwybodaeth Cychwyn

I24Atod. 5 para. 1 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

GofynionLL+C

2.—(1Pan fydd cynhyrchydd yn cyflenwi cig yn y modd a ddisgrifir ym mharagraff 1, rhaid iddo sicrhau ei fod yn dwyn label neu farc arall sy'n dangos yn glir enw a chyfeiriad y fferm lle cafodd yr anifail y mae'r cig yn tarddu ohono ei gigydda.

(2Rhaid i'r cynhyrchydd—

(a)cadw cofnod ar ffurf ddigonol i ddangos nifer yr adar a nifer y lagomorffiaid sy'n cael eu derbyn i'w fangre, a meintiau'r cig ffres sy'n cael eu hanfon ohoni, yn ystod pob wythnos;

(b)cadw'r cofnod am gyfnod o flwyddyn; ac

(c)trefnu bod y cofnod ar gael i swyddog awdurdodedig os bydd yn gofyn amdano.

Gwybodaeth Cychwyn

I25Atod. 5 para. 2 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

TramgwyddLL+C

3.  Bydd person sy'n mynd yn groes i unrhyw un o ofynion yr Atodlen hon neu'n methu â chydymffurfio ag unrhyw un ohonynt yn euog o dramgwydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I26Atod. 5 para. 3 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Rheoliad 32

ATODLEN 6LL+CCYFYNGIADAU AR WERTHU LLAETH CRAI A FWRIEDIR AR GYFER EI YFED YN UNIONGYRCHOL GAN BOBL

1.  Bydd unrhyw berson sydd, yn groes i baragraff 5, yn gwerthu llaeth crai a fwriedir ar gyfer ei yfed yn uniongyrchol gan bobl yn euog o dramgwydd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I27Atod. 6 para. 1 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

[F201A.  Bydd unrhyw berson sy’n gwerthu llaeth crai yn groes i baragraff 7A yn cyflawni tramgwydd.LL+C

1B.  Bydd unrhyw berson sy’n gwerthu llaeth crai yn groes i baragraff 7B yn cyflawni tramgwydd.]LL+C

2.—(1Os bydd unrhyw berson heblaw meddiannydd daliad cynhyrchu neu ddosbarthwr yn gwerthu llaeth buchod crai a fwriedir ar gyfer ei yfed yn uniongyrchol gan bobl, bydd y person hwnnw yn euog o dramgwydd.LL+C

(2Os bydd meddiannydd daliad cynhyrchu yn gwerthu llaeth buchod crai a fwriedir ar gyfer ei yfed yn uniongyrchol gan bobl yn groes i baragraff 3, bydd yn euog o dramgwydd.

(3Os bydd dosbarthwr yn gwerthu llaeth buchod crai a fwriedir ar gyfer ei yfed yn uniongyrchol gan bobl yn groes i baragraff 4, bydd yn euog o dramgwydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I28Atod. 6 para. 2 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

3.  Caiff meddiannydd daliad cynhyrchu ddim ond gwerthu llaeth buchod crai a fwriedir ar gyfer ei yfed yn uniongyrchol gan bobl—LL+C

(a)ar neu o fangre'r fferm lle mae'r anifeiliaid y cafwyd y llaeth ohonynt yn cael eu cynnal; a

(b)i'r canlynol—

(i)y defnyddiwr olaf ar gyfer yfed y llaeth hwnnw heblaw ar fangre'r fferm honno,

(ii)gwestai dros dro ym mangre'r fferm honno neu ymwelydd dros dro â mangre'r fferm honno fel pryd bwyd neu luniaeth neu fel rhan o bryd bwyd neu luniaeth, neu

(iii)dosbarthwr.

Gwybodaeth Cychwyn

I29Atod. 6 para. 3 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

4.  Caiff dosbarthwr ddim ond gwerthu llaeth buchod crai a fwriedir ar gyfer ei yfed yn uniongyrchol gan bobl—LL+C

(a)y mae wedi'i brynu yn unol ag is-baragraff (b)(iii) o baragraff 3;

(b)yn y cynwysyddion y mae'n cael y llaeth ynddynt, a rhaid i ffasninau'r cynwysyddion fod heb eu torri;

(c)o gerbyd sy'n cael ei ddefnyddio'n gyfreithlon fel mangre siop; ac

(ch)yn uniongyrchol i'r defnyddiwr olaf.

Gwybodaeth Cychwyn

I30Atod. 6 para. 4 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

5.  Rhaid i'r llaeth crai fodloni'r safonau canlynol:LL+C

Cyfrifiad haenau ar 30ºC (cfu fesul ml)≤ 20,000
Colifformau (cfu fesul ml)< 100

Gwybodaeth Cychwyn

I31Atod. 6 para. 5 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

6.  Mewn achos lle mae mangre fferm yn cael ei defnyddio ar gyfer gwerthu llaeth buchod crai a fwriedir ar gyfer ei yfed yn uniongyrchol gan bobl yn unol ag is-baragraff (a) o baragraff 3, rhaid i'r Asiantaeth gyflawni'r gwaith samplu, dadansoddi ac archwilio'r llaeth, y mae'n barnu ei fod yn angenrheidiol i sicrhau ei bod yn bodloni'r safonau a bennir ym mharagraff 5.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I32Atod. 6 para. 6 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

7.  Mewn unrhyw achos lle mae'r Asiantaeth yn gwneud gwaith samplu, dadansoddi ac archwilio llaeth buchod crai yn unol â pharagraff 6, bydd ffi o £63 yn ddyledus i'r Asiantaeth gan feddiannydd y daliad cynhyrchu sy'n gwerthu'r llaeth, a honno'n ffi sy'n daladwy gan y meddiannydd i'r Asiantaeth pan fydd yr Asiantaeth yn gofyn amdani.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I33Atod. 6 para. 7 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

[F217A.  Ac eithrio mewn achosion y mae paragraff 7B yn gymwys iddynt, rhaid i’r cynhwysydd y gwerthir unrhyw laeth crai ynddo fod wedi ei farcio neu ei labelu â’r geiriau “This milk has not been heat-treated and may therefore contain organisms harmful to health. The Food Standards Agency strongly advises that it should not be consumed by children, pregnant women, older people or those who are unwell or have chronic illness.”.LL+C

7B.  Yn achos unrhyw laeth crai nad yw wedi ei ragbecynnu ac a werthir mewn sefydliad arlwyo, rhaid i’r geiriau “Milk supplied in this establishment has not been heat-treated and may therefore contain organisms harmful to health. The Food Standards Agency strongly advises that it should not be consumed by children, pregnant women, older people or those who are unwell or have chronic illness.” ymddangos ar—LL+C

(a)label sydd ynghlwm wrth y cynhwysydd y gwerthir y llaeth hwnnw ynddo, neu

(b)ar docyn neu hysbysiad, y gall darpar brynwr ei weld yn rhwydd, yn y man lle mae’r prynwr yn dewis y llaeth hwnnw.

7C.  Yn ychwanegol at y testun Saesneg y mae’n rhaid ei gynnwys yn rhinwedd paragraff 7A, caiff y marc neu’r label gynnwys y testun Cymraeg “Nid yw’r llaeth hwn wedi ei drin â gwres a gall felly gynnwys organeddau sy’n niweidiol i iechyd. Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn cynghori’n gryf na ddylai gael ei yfed gan blant, merched beichiog, pobl hŷn neu’r rhai sy’n sâl neu â salwch cronig.”.LL+C

7D.  Yn ychwanegol at y testun Saesneg y mae’n rhaid ei gynnwys yn rhinwedd paragraff 7B, caiff y label, tocyn neu hysbysiad gynnwys y testun Cymraeg “Nid yw’r llaeth a ddarperir yn y sefydliad hwn wedi ei drin â gwres a gall felly gynnwys organeddau sy’n niweidiol i iechyd. Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn cynghori’n gryf na ddylai gael ei yfed gan blant, merched beichiog, pobl hŷn neu’r rhai sy’n sâl neu â salwch cronig.”.LL+C

7E.  Nid oes dim yn yr Atodlen hon yn atal y canlynol rhag cael eu marcio neu eu labelu, fel y bo’n briodol, â thestun sy’n cyfateb i’r hyn y mae’n rhaid ei gynnwys yn rhinwedd paragraffau 7A a 7B mewn unrhyw iaith ychwanegol at y Gymraeg a’r Saesneg—LL+C

(a)y cynhwysydd y gwerthir llaeth crai ynddo;

(b)yn achos llaeth crai nad yw wedi ei ragbecynnu ac a werthir mewn sefydliad arlwyo—

(i)label sydd ynghlwm wrth y cynhwysydd y gwerthir y llaeth hwnnw ynddo,

(ii)tocyn neu hysbysiad y gall darpar brynwr ei weld yn rhwydd yn y man lle mae’r prynwr yn dewis y llaeth hwnnw.]

8.  Yn yr Atodlen hon—LL+C

ystyr “daliad cynhyrchu” (“production holding”) yw mangre lle mae buchod sy'n cynhyrchu llaeth yn cael eu cadw;

ystyr “dosbarthwr” (“distributor”) yw person sy'n gwerthu llaeth buchod crai sydd wedi'i gynhyrchu ar ddaliad cynhyrchu nad yw'n feddiannydd arno;

[F22mae “labelu” (“labelling”), mewn perthynas â bwyd, yn cynnwys unrhyw eiriau, manylion, nod masnach, enw brand, deunydd darluniadol neu symbol sy’n ymwneud â’r bwyd ac yn ymddangos ar ddeunydd pacio’r bwyd neu ar unrhyw ddogfen, hysbysiad, label, cylch neu goler a gyflwynir gyda’r bwyd;]

ystyr “mangre fferm” (“farm premises”) yw fferm a feddiennir gan feddiannydd daliad cynhyrchu fel fferm unigol ac mae'n cynnwys y daliad cynhyrchu ac unrhyw adeilad arall a leolir ar y fferm honno ac a feddiennir gan yr un meddiannydd;

ystyr “mangre siop” (“shop premises”) yw mangre y mae unrhyw fwyd yn cael ei werthu ohoni i'r defnyddiwr olaf;

ystyr “meddiannydd” (“occupier”) yw unrhyw berson sy'n cynnal busnes cynhyrchu neu drafod llaeth buchod crai neu berson a awdurdodwyd yn briodol i gynrychioli'r meddiannydd.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I34Atod. 6 para. 8 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

F23...LL+C

F23  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .LL+C

F23  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .LL+C

F24ATODLEN 7LL+C...

F241.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F242.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F243.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F244.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F245.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F245.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F246.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F247.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F248.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F249.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F2410.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F2411.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F2512.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F2513.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F2514.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F2415.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F2416.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(1)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.

(2)

OJ Rhif L245, 29.9.2003, t.4.

(3)

OJ Rhif L245, 29.9.2003, t.4.

(4)

OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.55. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 wedi'i osod bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.22).

(5)

OJ Rhif L24, 30.1.1998, t.9.

(6)

OJ Rhif L18, 23.1.2003, t.11.

(7)

OJ Rhif L140, 12.5.98, t.10.

(8)

O.S. 1996/1499, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(9)

OJ Rhif L173, 6.7.90, t.1.

(10)

OJ Rhif L157, 30.5.98, t.12.

(11)

OJ Rhif L173, 6.7.90, t.5.

(12)

OJ Rhif L305, 22.11.2003, t.1.

(13)

O.S. 1995/3124, y mae diwygiadau iddynt nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Pwynt Penodol mewn Amser: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill