Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 (Darpariaethau Trosiannol a Diwygiadau Canlyniadol) 2006

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Erthygl 2

ATODLEN 1DIRYMU IS-DDEDDFWRIAETH

Mae'r is-ddeddfwriaeth ganlynol yn cael ei dirymu—

(a)Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru (Cwynion am Gamweinyddu) (Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 1999(1);

(b)Rheoliadau'r Comisiwn dros Weinyddu Lleol yng Nghymru a Chomisiynydd Lleol yng Nghymru (Swyddogaethau a Threuliau) 2001(2); ac

(c)Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Comisiynydd Lleol yng Nghymru) 2004(3).

Erthygl 3

ATODLEN 2DIWYGIO IS-DDEDDFWRIAETH

Gorchymyn Deddf Cyfrinachau Swyddogol 1989 (Rhagnodi) 1990

1.  Yn y Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol 1989 (Cyfarwyddyd) 1990(4), yn Atodlen 2 (Rhagnodi), yn y cofnod yn y golofn gyntaf ar gyfer “Officer of the Health Service Commissioner for England or Wales” hepgorer y geiriau “or Wales”.

Rheoliadau Cefnogi Plant (Gwybodaeth, Tystiolaeth a Datgeliad) 1992

2.  Yn Rheoliadau Cefnogi Plant (Gwybodaeth, Tystiolaeth a Datgeliad) 1992(5), yn Rheoliad 11 (Cyflogaeth y mae adran 50 o'r Ddeddf yn gymwys iddi)—

(a)hepgorer paragraff (d);

(b)hepgorer “and” ar ôl paragraff (h);

(c)ar ôl paragraff (i), mewnosoder—

  • ; and

    (j)

    the Public Services Ombudsman for Wales, a member of his staff, or another person acting on his behalf or assisting him in the discharge of any of his functions.

Rheoliadau Contractau Gwasanaethau Cyhoeddus 1993

3.  Yn Rheoliadau Contractau Gwasanaethau Cyhoeddus 1993(6), yn Atodlen 3 (GPA Atodiad I Awdurdodau Contractio)—

(a)yn lle “Office of the Parliamentary Commissioner for Administration and Health Service Commissioners”, rhodder “Office of the Parliamentary Commissioner for Administration”;

(b)ar ôl y cofnod y cyfeirir ato ym mharagraph (a) uchod mewnosoder, “Office of the Public Services Ombudsman for Wales”;

(c)ar ôl y cyfeiriad at “Office of Fair Trading” mewnosoder “Office of the Health Service Commissioner for England”.

Rheoliadau Contractau Cyflenwi Cyhoeddus 1995

4.  Yn Rheoliadau Contractau Cyflenwi Cyhoeddus 1995(7), yn Atodlen 1 (GPA Atodiad I Awdurdodau Contractio)—

(a)yn lle'r cofnod ar gyfer “Office of the Parliamentary Commissioner for Administration and Health Service Commissioners”, rhodder “Office of the Parliamentary Commissioner for Administration”;

(b)ar ôl y cofnod y cyfeirir ato ym mharagraph (a) uchod mewnosoder, “Office of the Public Services Ombudsman for Wales”;

(c)ar ôl y cofnod ar gyfer “Office of Fair Trading” mewnosoder “Office of the Health Service Commissioner for England”.

Gorchymyn Deddf Awdurdodau Iechyd 1995 (Darpariaethau Trosiannol) 1996

5.  Yng Ngorchymyn Deddf Awdurdodau Iechyd 1995 (Darpariaethau Trosiannol) 1996(8), yn Erthygl 9(1) hepgorer “or Wales”.

Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 2001

6.  Yn Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 2001(9)

(a)Yn Rheoliadau 3(2), 5(1)(b), 7 ac 8(3)(a) yn lle “Comisiynydd Lleol yng Nghymru” neu “Gomisiynydd Lleol yng Nghymru” yn ôl y digwydd, rhodder “Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru” fel bo'n briodol;

(b)Yn Rheoliadau 7(a), 9(3) ac 13(1) yn lle “Comisiynydd Lleol yng Nghymru” neu “Gomisiynydd Lleol yng Nghymru” rhodder “Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru” fel bo'n briodol; a

(c)Yn Rheoliad 12 yn lle “Comisiynydd Lleol i Gymru ” dylid rhoi “Public Services Ombudsman for Wales”.

Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001

7.  Yn Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001(10), yn Rheoliad 29(2) yn lle “Comisiwn dros Weinyddu Lleol yng Nghymru” rhodder “Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru”.

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2001

8.  Yn Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2001(11), yn Rhan I (Swyddogaethau amrywiol) o Atodlen 1, ym mharagraff 16, colofn 1, yn lle “y Comisiynydd Lleol” rhodder “Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru”.

Rheoliadau Dyfarniadau gan Dribiwnlysoedd Achos a Thribiwnlysoedd Achos Interim (Cymru) 2001

9.  Yn Rheoliadau Dyfarniadau gan Dribiwnlysoedd Achos a Thribiwnlysoedd Achos Interim (Cymru) 2001 (12), yn yr Atodlen—

(a)ym mharagraff 1, yn y diffiniad o “adroddiad” (“report”) , paragraff 2, paragraff 8 a pharagraff 16 (ym mhob lle y mae'n ymddangos) yn lle “Comisiynydd Lleol yng Nghymru” neu “Gomisiynydd Lleol yng Nghymru” rhodder “Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru” fel bo'n briodol;

(b)Ym mharagraff 2(a), yn lle “Comisiynydd Lleol” dylid rhoi “Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru”; ac

(c)Ym mharagraff 8, yn lle'r “Comisiwn dros Weinyddu Lleol yng Nghymru” rhodder “Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru”.

Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 2001

10.  Yn y Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 2001(13), yn Rhan II o'r Atodlen, ym mharagraff 6(1)(c), yn lle “Comisiynydd Lleol dros Weinyddu Lleol yng Nghymru” rhodder “Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru”.

Rheoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2001

11.  Yn Rheoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2001(14), yn Rhan I (Swyddogaethau amrywiol) o Atodlen 1, ym mharagraff 16, colofn 1, yn lle “y Comisiynydd Lleol” rhodder “Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru”.

Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Datgymhwyso) 2003

12.  Yng Ngorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Datgymhwyso) 2003(15)

(a)Yn Rhan 1 o'r Atodlen hepgorer y cyfeiriad at “The Commission for Local Administration in Wales”; ac

(b)Yn Rhan 2 o'r Atodlen hepgorer y cyfeiriad at “Health Service Commissioner for Wales” .

Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005

13.  Yn Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005(16), yn Rheoliad 43(1), yn is-baragraff (ch), dylid rhoi “Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru” yn lle “Gomisiynydd Gweinyddiaeth Leol yng Nghymru”.

(4)

O.S. 1990/200, diwygiwyd gan O.S. 1999/1042 ac O.S. 2004/1823; mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw'r un ohonynt yn berthnasol.

(5)

O.S.1992/1812, diwygiwyd gan O.S. 2004/1823; mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw'r un ohonynt yn berthnasol.

(6)

O.S. 1993/3228, diwygiwyd gan Ddeddf Heddlu (Gogledd Iwerddon) 2000 (p.32), a gan O.S. 2000/2009, O.S. 2001/1149, ac O.S.A. 2003/242, mae diwygiadau eraill ond nid yw'r un ohonynt yn berthnasol.

(7)

O.S. 1995/201, diwygiwyd gan Ddeddf Heddlu (Gogledd Iwerddon) 2000 (p.32), a gan O.S. 2000/209, 2002/881, ac O.S.A. 2003/242; mae diwygiadau eraill ond nid yw'r un ohonynt yn berthnasol.

(8)

O.S. 1996/709, y mae diwygiadau iddo sydd ddim yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn.

(11)

O.S. 2001/2284 (Cy.173), diwygiwyd gan O.S. 2002/810 (Cy.90), O.S. 2004/3092, O.S. 2005/368; mae diwygiadau eraill ond nid yw'r un ohonynt yn berthnasol.

(14)

O.S. 2001/2291 (Cy.179), diwygiwyd gan O.S. 2002/783 (Cy .84) ac O.S. 2004/3093; mae diwygiadau eraill ond nid yw'r un ohonynt yn berthnasol.

(15)

O.S. 2003/437, diwygiwyd gan O.S. 2004/664.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill