- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
CYRFF CYHOEDDUS, CYMRU
Wedi'i wneud
18 Ionawr 2006
Yn dod i rym
1 Ebrill 2006
GAN FOD adran 28(1)(d) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (“Deddf 1998”)(1), a Rhan I o Atodlen 4 iddi, yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”) i drosglwyddo iddo'i hun swyddogaethau statudol Bwrdd Henebion Cymru (“y Bwrdd”) sydd wedi'i gyfansoddi ar hyn o bryd o dan adran 22 o Ddeddf Henebion ac Ardaloedd Archeolegol 1979 (“Deddf 1979”)(2)
A CHAN FOD y Cynulliad Cenedlaethol o'r farn fod swyddogaethau statudol y Bwrdd, sef yn bennaf cynghori'r Cynulliad Cenedlaethol ar arfer ei swyddogaethau o dan Ddeddf 1979, yn bennaf yn swyddogaethau sy'n ei gwneud yn ofynnol rhoi cyngor i'r Cynulliad Cenedlaethol ei hun ac felly'n dod o fewn adran 28(2)(a) o Ddeddf 1998
YN AWR FELLY mae'r Cynulliad Cenedlaethol, drwy arfer ei bwerau o dan adran 28 o Ddeddf 1998, a Rhan I o Atodlen 4 yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn (Diddymu) Bwrdd Henebion Cymru 2006.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2006.
(3) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Bwrdd” (“the Board” ) yw Bwrdd Henebion Cymru.
2.—(1) Diddymir y Bwrdd.
(2) Trosglwyddir pob eiddo a phob hawl y mae gan y Bwrdd hawl iddynt, ac unrhyw rwymedigaethau y mae'r Bwrdd yn ddarostyngedig iddynt, i'r Cynulliad Cenedlaethol.
3.—(1) Diddymir y darpariaethau a ganlyn—
(a)adrannau 22 a 23 o Ddeddf Henebion ac Ardaloedd Archeolegol 1979(3); a
(b)y cofnod sy'n ymwneud â'r Bwrdd yn—
(i)Rhan II o Atodlen 1A i Ddeddf Cysylltiadau Hiliol 1976(4);
(ii)Rhan I o Atodlen 4 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998; a
(iii)Rhan VI o Atodlen 1 i Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000(5).
(2) Dirymir y cofnod sy'n ymwneud â'r Bwrdd yn—
(a)Atodlen 3 i Orchymyn Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976 (Dyletswyddau Statudol) 2001(6); a
(b)Rhan I o Atodlen 1 i Orchymyn Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (Cychwyn Rhif 2) 2002(7),
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
18 Ionawr 2006
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae Bwrdd Henebion Cymru (“y Bwrdd”) ar hyn o bryd wedi'i gyfansoddi o dan adran 22 o Ddeddf Henebion ac Ardaloedd Archeolegol 1979 (“Deddf 1979”). Prif Swyddogaeth y Bwrdd yw cynghori'r Ysgrifennydd Gwladol ar arfer pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf 1979.
Effaith erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), ac Atodlen 1 iddo, yw mai prif swyddogaeth y Bwrdd bellach yw cynghori Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”).
Mae'r Bwrdd wedi'i bennu yn Rhan 1 o Atodlen 4 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (“Deddf 1998”) yn gorff y caiff y Cynulliad Cenedlaethol, drwy Orchymyn wedi'i wneud o dan adran 28(1) o Ddeddf 1998, drosglwyddo ei swyddogaethau statudol i gorff arall, gan gynnwys eu trosglwyddo iddo'i hun.
Mae adran 28(2) o Ddeddf 1998 yn darparu y caiff y Cynulliad Cenedlaethol, drwy Orchymyn, ddiddymu unrhyw swyddogaeth sydd gan gorff o'r fath yn hytrach na'i throsglwyddo i gorff arall os yw'r swyddogaeth fel y mae yn ei gwneud yn ofynnol gwneud rhywbeth mewn cysylltiad â'r corff arall hwnnw (enghraifft o hyn yw'r swyddogaeth sydd gan y Bwrdd o gynghori'r Cynulliad Cenedlaethol: byddai trosglwyddo'r swyddogaeth honno i'r Cynulliad Cenedlaethol yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol ei gynghori ei hun).
Mae adran 28(3) o Ddeddf 1998 yn darparu y caiff y Cynulliad Cenedlaethol, drwy Orchymyn, ddiddymu corff a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 4 i Ddeddf 1998 os yw pob un o swyddogaethau statudol y corff yn cael eu trosglwyddo neu eu diddymu.
Mae adran 28(4) o Ddeddf 1998 yn darparu y caiff Gorchymyn sy'n cynnwys darpariaeth a ganiateir gan adran 28(3) drosglwyddo unrhyw eiddo, unrhyw hawliau ac unrhyw rwymedigaethau sydd gan y corff hwnnw.
Mae adran 28(7) o Ddeddf 1998 yn darparu y caiff Gorchymyn o dan adran 28 gynnwys darpariaethau canlyniadol priodol, gan gynnwys diddymu deddfiadau.
Yn unol â hynny—
(a)mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn diddymu'r Bwrdd a'i swyddogaethau ac yn trosglwyddo unrhyw eiddo, unrhyw hawliau ac unrhyw rwymedigaethau sydd gan y Bwrdd i'r Cynulliad Cenedlaethol; a
(b)mae erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn gwneud y diddymiadau a'r diwygiadau canlyniadol angenrheidiol i ddeddfiadau.
1979 p.46; cafodd y Bwrdd ei ffurfio a'i gyfansoddi'n wreiddiol o dan adran 15 o Ddeddf Cydgrynhoi a Diwygio Henebion 1913 (p.32).
1976 p.74. Mewnosodwyd Atodlen 1A gan Ddeddf (Diwygio) Cysylltiadau Hiliol 2000 (p.34), adran 2(2) ac Atodlen 1, ac fe'i diwygiwyd gan Orchymyn Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976 (Dyletswydd Statudol Cyffredinol) 2001 (O.S. 2001/3457), erthygl 2(d) a'r Atodlen iddo.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys