- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1. Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn rhoi ar waith Erthyglau 9 ac 11 o Gyfarwyddeb y Cyngor 89/398/EEC ar gyd-ddynesiad cyfreithiau'r Aelod-wladwriaethau sy'n ymwneud â deunyddiau bwyd a fwriedir ar gyfer ddefnydd maethol neilltuol, (OJ Rhif L186, 30.6.1989, t.27), fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1882/2003 (OJ Rhif L284, 31.10.2003, t.1).
2. Mae'r Rheoliadau yn ymwneud â bwydydd y mae modd, oherwydd eu cyfansoddiad arbennig neu oherwydd y broses o'u cynhyrchu, gwahaniaethu'n glir rhyngddynt â bwydydd i'w bwyta'n arferol, ac sy'n cael eu marchnata fel rhai addas ar gyfer categorïau o ddefnyddwyr y mae eu prosesau treulio neu eu metaboledd yn afreolus, neu sydd mewn cyflwr ffisiolegol arbennig, neu ar gyfer babanod neu blant ifanc sy'n cael iechyd da, ond nad ydynt yn cael ac na fyddant yn cael eu cwmpasu gan Gyfarwyddebau eraill ar fathau penodol o ddeunyddiau bwyd at ddefnydd maethol neilltuol (cyfeirier at y diffiniad o “fwyd DMN” yn rheoliad 2(1)).
3. Mae'r Rheoliadau hyn—
(a)yn gwahardd gwerthu cynhyrchion o'r fath onid oes cydymffurfiad â gofynion Erthygl 9 o'r Gyfarwyddeb (hysbysiadau i awdurdodau cymwys o gynhyrchion o'r fath) (rheoliad 3); a
(b)yn galluogi'r Asiantaeth i atal dros dro neu i gyfyngu ar fasnachu mewn cynhyrchion o'r fath drwy ddatganiad ysgrifenedig os oes ganddo seiliau manwl dros sefydlu nad yw'r cynnyrch yn cydymffurfio ag Erthygl 1(2) o'r Gyfarwyddeb (gofynion ar gyfer deunyddiau bwyd at ddibenion maethol neilltuol) neu os yw'n peryglu iechyd pobl (rheoliad 4).
4. Mae cyfrifoldebau gorfodi, tramgwyddau a chosbau a chymhwyso darpariaethau Deddf Diogelwch Bwyd 1990 yn cael eu gosod yn rheoliadau 5, 6 a 7 o'r Rheoliadau hyn.
5. Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn dirymu Rheoliadau Hysbysiadau o Farchnata Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Cymru a Lloegr) 2002 (O.S. 2002/333) i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru (rheoliad 8).
6. Mae'r darpariaethau parthed labelu a geir yn y Gyfarwyddeb yn cael eu rhoi ar waith gan y Rheoliadau Labelu Bwyd 1996 (O.S. 1996/1499).
7. Mae arfarniad rheoliadol llawn wedi'i baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn a'i roi yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru ynghyd â chopi o'r nodyn trosi sy'n nodi sut y mae prif elfennau Erthyglau 9 ac 11 o'r Gyfarwyddeb yn cael eu trosi. Gellir hefyd gael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House Caerdydd CF10 1EW.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys