Search Legislation

Diwygio'r Rheoliadau Hysbysiadau o Farchnata Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Cymru) 2007

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn rhoi ar waith Erthyglau 9 ac 11 o Gyfarwyddeb y Cyngor 89/398/EEC ar gyd-ddynesiad cyfreithiau'r Aelod-wladwriaethau sy'n ymwneud â deunyddiau bwyd a fwriedir ar gyfer ddefnydd maethol neilltuol, (OJ Rhif L186, 30.6.1989, t.27), fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1882/2003 (OJ Rhif L284, 31.10.2003, t.1).

2.  Mae'r Rheoliadau yn ymwneud â bwydydd y mae modd, oherwydd eu cyfansoddiad arbennig neu oherwydd y broses o'u cynhyrchu, gwahaniaethu'n glir rhyngddynt â bwydydd i'w bwyta'n arferol, ac sy'n cael eu marchnata fel rhai addas ar gyfer categorïau o ddefnyddwyr y mae eu prosesau treulio neu eu metaboledd yn afreolus, neu sydd mewn cyflwr ffisiolegol arbennig, neu ar gyfer babanod neu blant ifanc sy'n cael iechyd da, ond nad ydynt yn cael ac na fyddant yn cael eu cwmpasu gan Gyfarwyddebau eraill ar fathau penodol o ddeunyddiau bwyd at ddefnydd maethol neilltuol (cyfeirier at y diffiniad o “fwyd DMN” yn rheoliad 2(1)).

3.  Mae'r Rheoliadau hyn—

(a)yn gwahardd gwerthu cynhyrchion o'r fath onid oes cydymffurfiad â gofynion Erthygl 9 o'r Gyfarwyddeb (hysbysiadau i awdurdodau cymwys o gynhyrchion o'r fath) (rheoliad 3); a

(b)yn galluogi'r Asiantaeth i atal dros dro neu i gyfyngu ar fasnachu mewn cynhyrchion o'r fath drwy ddatganiad ysgrifenedig os oes ganddo seiliau manwl dros sefydlu nad yw'r cynnyrch yn cydymffurfio ag Erthygl 1(2) o'r Gyfarwyddeb (gofynion ar gyfer deunyddiau bwyd at ddibenion maethol neilltuol) neu os yw'n peryglu iechyd pobl (rheoliad 4).

4.  Mae cyfrifoldebau gorfodi, tramgwyddau a chosbau a chymhwyso darpariaethau Deddf Diogelwch Bwyd 1990 yn cael eu gosod yn rheoliadau 5, 6 a 7 o'r Rheoliadau hyn.

5.  Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn dirymu Rheoliadau Hysbysiadau o Farchnata Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Cymru a Lloegr) 2002 (O.S. 2002/333) i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru (rheoliad 8).

6.  Mae'r darpariaethau parthed labelu a geir yn y Gyfarwyddeb yn cael eu rhoi ar waith gan y Rheoliadau Labelu Bwyd 1996 (O.S. 1996/1499).

7.  Mae arfarniad rheoliadol llawn wedi'i baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn a'i roi yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru ynghyd â chopi o'r nodyn trosi sy'n nodi sut y mae prif elfennau Erthyglau 9 ac 11 o'r Gyfarwyddeb yn cael eu trosi. Gellir hefyd gael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House Caerdydd CF10 1EW.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources