- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
11. Dileer paragraffau 2.39 a 2.40 ac yn eu lle rhodder —
“2.39 Mae Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Rhag Tân) 2005 (O.S. 2005/1541) ('GDT') yn ddiwygiad o bwys yng nghyfraith diogelwch rhag tân. Yr oedd y ddeddfwriaeth flaenorol o ran diogelwch rhag tân mewn dros gant o ddarnau o ddeddfwriaeth ar wahân. Daeth GDT i rym yng Nghymru a Lloegr ar 1 Hydref 2006. Trosglwyddwyd swyddogaethau a phwerau'r Ysgrifennydd Gwladol yn y GDT i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 8 Mehefin 2006 drwy Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2006 (O.S. 2006/1458).
2.40 Mae prif bwyslais y diwygio ar atal tanau mewn mangreoedd annomestig ac ar drefn o asesu risg rhag tân a fydd yn cael ei chyflawni gan y person cyfrifol er mwyn dynodi, lliniaru neu ddileu unrhyw risg rhag tân i bobl yn y mangreoedd neu o'u cwmpas. Diddymwyd tystysgrifau tân a bellach nid oes ganddynt unrhyw statws.
Mae cyngor ar gael i bobl sy'n gyfrifol am eu mangreoedd o ran asesu risg tân yng Nghanllawiau Asesu Risg Tanau Llywodraeth y Cynulliad.
Gorfodir y GDT yn bennaf gan yr Awdurdodau Tân ac Achub, er y gall awdurdodau eraill orfodi'r GDT mewn meysydd fel gofal iechyd neu fangreoedd niwclear.
Dylai polisi Awdurdod Tân ac Achub ar gyfer gorfodi'r GDT ffurfio rhan o'i strategaeth gyffredinol i ddiogelu ei gymuned, yn ôl y manylion yn ei CLlR.
Wrth iddo lunio ei bolisi gorfodi, dylai Awdurdod Tân ac Achub flaenoriaethu ei archwiliad o asesiadau risg tân ac arolygiadau o fangreoedd sy'n rhoi bywyd o dan risg arwyddocaol gan dân. Ceir canllawiau ar y mater hwn yng Nghylchlythyr Gwasanaeth Tân ac Achub Cymru (06) 06 — Gwybodaeth Atodol ar gyfer Awdurdodau Tân ac Achub ar ddatblygu eu Cynlluniau Lleihau Risg (CLlR). Dyroddwyd y canllawiau hyn o dan erthygl 26 o'r RRO ac o'r herwydd nid yw'n ffurfio rhan o'r Fframwaith hwn.”
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys