- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Rheoliad 12
1.—(1) Os oes ffi wedi'i thalu o dan Reoliadau Ffioedd 2001 gan neu ar ran person a oedd adeg y taliad yn esempt rhag y gofyniad i dalu'r ffi honno o dan reoliad 8 o'r Rheoliadau hynny, gall cais am ad-dalu'r ffi gael ei wneud yn unol â pharagraff (2) gan neu ar ran y person hwnnw.
(2) Rhaid i'r cais am ad-daliad —
(a)cael ei wneud i'r person neu'r corff a bennir yn y dderbynneb a roddir o dan reoliad 3(8), 4(6), 5(6), 6(5), neu 7(5) o Reoliadau Ffioedd 2001 fel y person neu'r corff y mae'n rhaid gwneud cais am ad-dalu ffioedd iddo;
(b)cael ei wneud mewn unrhyw ffurf a modd y gall y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu arnynt ar gyfer y ceisydd, unrhyw ddosbarth o geisydd neu geiswyr yn gyffredinol;
(c)cael ei wneud o fewn tri mis o'r dyddiad y cafodd y cyffur neu'r cyfarpar eu cyflenwi i'r ceisydd neu o fewn unrhyw gyfnod y gall y Cynulliad Cenedlaethol ei ganiatáu am reswm da;
(ch)cael ei gyflwyno ynghyd â'r dderbynneb am y ffi a dalwyd a datganiad o'r seiliau dros yr esemptiad.
(3) Yn achos ffi o dan reoliad 5 o ran cyfarpar a bennir yng ngholofn (1) o Atodlen 1 i Reoliadau Ffioedd 2001, mae rheoliad 11(3) o Reoliadau Ffioedd 2001 yn gymwys.
(4) Mae trefniadau a wnaed gan y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer ad-dalu unrhyw ffi a dalwyd o dan reoliad 11(4) o Reoliadau Ffioedd 2001 gan berson sydd â hawl i esemptiad yn parhau i fod yn effeithiol at ddibenion paragraff 1.
2.—(1) Os bydd person wedi cael tystysgrif ragdalu yn rhinwedd gwneud unrhyw daliad yn unol â rheoliad 10 o Reoliadau Ffioedd 2001, a bod y cyfnod perthnasol fel y'i diffinnir gan baragraff (3) heb ddirwyn i ben, gellir gwneud cais am ad-daliad, gan neu ar ran y person hwnnw neu ei ystâd, yn unol â pharagraff (4) o ran pob mis cyfan ar ôl 1 Ebrill 2007.
(2) Cyfrifir yr ad-daliad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) fel a ganlyn—
(a)yn achos tystysgrif ragdalu ddilys am 4 mis, un chwarter o'r swm rhagnodedig a dalwyd am bob mis cyfan pan yw neu pan oedd y dystysgrif ragdalu'n ddilys;
(b)yn achos tystysgrif ragdalu ddilys am 12 mis, un rhan o ddeuddeg o'r swm rhagnodedig a dalwyd am bob mis cyfan pan yw neu pan oedd y dystysgrif ragdalu'n ddilys;
ac at ddibenion y cyfrifo hwn, ystyr “mis cyfan” yw mis sy'n dechrau ar ddyddiad fis calendr union ar ôl y dyddiad pan ddaeth y dystysgrif ragdalu'n ddilys a chan ddiweddu ar y dyddiad sy'n union o flaen y dyddiad hwnnw yn y mis canlynol.
(3) Ym mharagraff (1) ystyr “y cyfnod perthnasol” yw cyfnod dilysrwydd y dystysgrif ragdalu heb gynnwys y mis y gwneir y cais am ad-daliad o dan baragraff (1) ar ei gyfer.
(4) Rhaid i geisiadau o dan y rheoliad hwn gael eu gwneud i'r Bwrdd Iechyd Lleol a gafodd y swm rhagnodedig o dan reoliad 10 o Reoliadau Ffioedd 2001 a rhaid bod tystysgrif gyda'r cais (os rhoddwyd un) a datganiad yn cefnogi'r cais, a rhaid i'r cais a'r ad-daliad gael eu gwneud yn y fath fodd ac yn ddarostyngedig i'r amodau hynny y gall y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu arnynt.
Rheoliad 13
1.—(1) Diwygir Rheoliadau Ymddiriedolaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) 1992 fel a ddarperir yn y paragraff hwn.
(2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli) yn lle'r diffiniad o “the Charges Regulations” rhodder y canlynol—
““the Charges Regulations” means the National Health Service (Free Prescriptions and Charges for Drugs and Appliances) (Wales) Regulations 2007”.
(3) Ym mharagraff (7) o Ran 2 (Gwasanaethau Hanfodol) o Atodlen 2 dileer y term “or (1A)”;
2.—(1) Diwygir Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) 1988 fel a ddarperir yn y paragraff hwn.
(2) Yn lle paragraff (1)(b) o reoliad 7 rhodder y paragraff canlynol—
“(1) (b) provide any declaration of entitlement required under regulation 3(8) or 4(3) of the National Health Service (Free Prescriptions and Chrages for Drugs and Appliances) (Wales) Regualtions 2007.”
3.—(1) Diwygir Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau'r Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2004 fel a ddarperir yn y paragraff hwn.
(2) Ym mharagraff 11A o Ran 1 o Atodlen 6 (Telerau Contractol Eraill)—
(a)yn is-baragraff (1) yn lle'r diffiniad o “the Charges Regulations” rhodder y canlynol—
““the Charges Regulations” means the National Health Service (Free Prescriptions and Charges for Drugs and Appliances) (Wales) Regulations 2007”.
(b)yn is-baragraff (5)(a) yn lle'r term “4(1)” rhodder y term “4(3)”.
Rheoliad 14
(1) | (2) | (3) |
---|---|---|
Rheoliadau a ddirymwyd | Cyfeirnod | Rhychwant y dirymiad |
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2001 | OS 2001/1358 (Cy.86) | Y Rheoliadau cyfan ac eithrio rheoliadau 11(3) a (4). Rheoliadau (3) a (4) gydag effaith o 1 Gorffennaf 2007. |
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Diwygio) (Cymru) 2001 | OS 2001/1359 (Cy.196) | Y Rheoliadau cyfan |
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diwygiadau ynghylch Rhagnodi gan Nyrsys Atodol ac Annibynnol) (Cymru) 2003 | OS 2003/2624 (Cy.252) | Rheoliad 4 |
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol etc) (Presgripsiynau Amlroddadwy) (Diwygio) (Cymru) 2004 | OS 2004/1018 (Cy.115) | Rheoliadau 1(4), 7 ac 8 |
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) (Diwygio) 2004 | OS 2004/1605 (Cy.164) | Y Rheoliadau cyfan |
Gorchymyn Deddf Iechyd 1999 (Diwygiadau Canlyniadol) (Nyrsio a Bydwreigiaeth) 2004 | OS 2004/1771 | Paragraff 29 o Ran 2 o Atodlen 2 |
Gorchymyn Darpariaethau Trosiannol a Chanlyniadol y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol (Cymru) (Rhif 2) 2004 | OS 2004/1016 (Cy.113) | Paragraff 24 o Atodlen 1 |
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) (Diwygio) 2005 | OS 2005/427 (Cy.44) | Y Rheoliadau cyfan |
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2005 | OS 2005/1915 (Cy.158) | Y Rheoliadau cyfan |
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) (Diwygio) 2006 | OS 2006/943 (Cy.92) | Y Rheoliadau cyfan |
Gorchymyn Darpariaethau Trosiannol a Chanlyniadol Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol a Gwasanaethau Deintyddol Personol (Cymru) 2006 | OS 2006/946 (Cy.95) | Paragraff 4 o Atodlen 1 |
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2006 | OS 2006/1792 (Cy.188) | Y Rheoliadau cyfan |
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys