- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
Rheoliadau 30(10) a 31(9)
1. Yn yr Atodlen hon ystyr “person penodedig” (“appointed person”) yw person a benodwyd o dan reoliad 30(10) neu 31(9) ac ystyr “penodiad” (“appointment”) yw penodiad o dan y naill neu'r llall o'r rheoliadau hynny.
2. Rhaid i benodiad gael ei wneud yn ysgrifenedig ac—
(a)caiff ymwneud ag unrhyw apêl benodol neu fater penodol a bennir yn y penodiad neu ag apelau neu faterion o ddisgrifiad penodedig;
(b)caiff ddarparu bod unrhyw swyddogaeth y mae'n ymwneud â hi yn arferadwy gan y person penodedig naill ai'n ddiamod neu'n ddarostyngedig i gyflawni unrhyw amodau a bennir yn y penodiad; ac
(c)caniateir, drwy hysbysiad a roddir i'r person penodedig, i'r penodiad gael ei ddirymu ar unrhyw adeg gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad ag unrhyw apêl neu fater nas dyfarnwyd gan y person penodedig cyn yr amser hwnnw.
3. Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Atodlen hon, mae gan berson penodedig, mewn perthynas ag unrhyw apêl y mae ei benodiad yn ymwneud â hi neu unrhyw fater y mae'n ymwneud ag ef, yr un pwerau a dyletswyddau â'r rhai sydd gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 30(6), neu reoliad 31(8), (10), (12) a (13) yn ôl y digwydd.
4.—(1) Mae darpariaethau'r paragraff hwn yn gymwys i apêl o dan reoliad 30 neu 31 sydd i'w dyfarnu gan berson penodedig ac, yn achos apêl o dan reoliad 31, maent yn gymwys yn lle rheoliad 31(7).
(2) Os yw'r apelydd neu Weinidogion Cymru yn hysbysu'r person penodedig eu bod yn dymuno ymddangos gerbron y person penodedig a chael eu clywed ganddo, rhaid i'r person penodedig roi cyfle iddynt wneud hynny.
(3) Hyd yn oed os nad yw'r apelydd na Gweinidogion Cymru wedi gofyn am gael ymddangos gerbron a chael eu clywed—
(a)caiff y person penodedig—
(i)yn achos apêl o dan reoliad 30, gynnal gwrandawiad yn gysylltiedig â'r apêl neu'r mater, a
(ii)yn achos apêl o dan reoliad 31, gynnal ymchwiliad lleol neu wrandawiad arall yn gysylltiedig â'r apêl neu'r mater; a
(b)rhaid i'r person penodedig, yn achos apêl o dan reoliad 31, gynnal ymchwiliad lleol mewn cysylltiad â'r apêl neu'r mater, os bydd Gweinidogion Cymru yn ei gyfarwyddo i wneud hynny.
(4) Rhaid i'r person penodedig hysbysu'r apelydd, Gweinidogion Cymru, ac unrhyw bersonau a hysbysodd Weinidogion Cymru eu bod yn dymuno cyflwyno sylwadau o dan reoliad 31(6), o benderfyniad y person penodedig i gynnal gwrandawiad neu ymchwiliad lleol (yn ôl y digwydd).
(5) Os bydd person penodedig yn cynnal ymchwiliad lleol neu wrandawiad arall o dan yr Atodlen hon, caiff Gweinidogion Cymru benodi asesydd i eistedd gyda'r person penodedig i'w gynghori ar unrhyw faterion sy'n codi, er gwaethaf y ffaith mai'r person penodedig sydd i ddyfarnu ar y mater neu'r apêl.
(6) Yn ddarostyngedig i reoliad 31(10), rhaid i gostau'r gwrandawiad neu'r ymchwiliad lleol a gynhelir o dan yr Atodlen hon gael eu talu gan Weinidogion Cymru.
5.—(1) Os caiff penodiad y person penodedig ei ddirymu o dan baragraff 2(c) mewn cysylltiad ag unrhyw apêl neu fater, rhaid i Weinidogion Cymru, onid ydynt yn bwriadu dyfarnu ar yr apêl neu'r mater eu hunain, benodi person arall o dan reoliad 30(10) neu 31(9) i ddyfarnu ar yr apêl neu'r mater yn eu lle.
(2) Os caiff penodiad newydd ei wneud, rhaid i'r broses o ystyried yr apêl neu'r mater, neu unrhyw ymchwiliad lleol neu wrandawiad arall mewn cysylltiad ag ef, ddechrau o'r newydd.
(3) Nid oes dim yn is-baragraff (2) sy'n ei gwneud hi'n ofynnol i unrhyw berson gael cyfle i gyflwyno sylwadau newydd neu i addasu unrhyw sylwadau a gyflwynwyd eisoes neu eu tynnu yn eu hôl.
6.—(1) Mae unrhyw beth sydd wedi'i wneud neu sydd heb ei wneud gan berson penodedig wrth iddo arfer, neu honni arfer, unrhyw swyddogaeth y mae'r penodiad yn ymwneud â hi, neu'n gysylltiedig ag arfer neu honni arfer y swyddogaeth honno, i'w drin i bob pwrpas fel rhywbeth sydd wedi'i wneud neu heb ei wneud gan Weinidogion Cymru.
(2) Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys—
(a)at ddibenion cymaint o unrhyw gontract a wnaed rhwng Gweinidogion Cymru a'r person penodedig ag sy'n ymwneud ag arfer y swyddogaeth; neu
(b)at ddibenion unrhyw achos troseddol a ddygir mewn cysylltiad ag unrhyw beth sydd wedi'i wneud neu sydd heb ei wneud fel y crybwyllwyd yn yr is-baragraff hwnnw.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys