Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Asesu'r Effeithiau Amgylcheddol (Amaethyddiaeth) (Cymru) 2007

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

rheoliad 5

ATODLEN 1Trothwyon

Colofn 1Colofn 2Colofn 3

Dehongli'r Atodlen hon

Yn yr Atodlen hon—

ystyr “prosiect ailstrwythuro arwynebedd” (“area restructuring project”) yw prosiect ailstrwythuro sy'n ymwneud ag arwynebedd tir;

ystyr “prosiect ailstrwythuro cyfaint” (“volume restructuring project”) yw prosiect ailstrwythuro sy'n ymwneud ag ychwanegu, gwaredu neu ailddosbarthu maint o bridd neu ddeunydd arall mewn perthynas â thir;

ystyr “prosiect ailstrwythuro terfyn” (“boundary restructuring project”) yw prosiect ailstrwythuro sy'n ymwneud ag ychwanegu neu waredu unrhyw derfyn cae (gan gynnwys unrhyw wal, ffens, clawdd, ffos neu gwrs dwr).

Prosiect ailstrwythuro terfyn4 cilometr2 gilometr
Prosiect ailstrwythuro arwynebedd100 o hectarau50 o hectarau
Prosiect ailstrwythuro cyfaint10,000 o fetrau ciwbig5,000 o fetrau ciwbig

rheoliad 7

ATODLEN 2Y meini prawf dethol ar gyfer penderfyniad sgrinio

Nodweddion prosiectau

1.  Nodweddion prosiectau, o ystyried yn benodol—

(a)maint y prosiect;

(b)sut mae'n cyfuno â phrosiectau eraill;

(c)y defnydd ar adnoddau naturiol;

(ch)y gwastraff a gaiff ei gynhyrchu;

(d)llygredd a niwsans; ac

(dd)y perygl o ddamweiniau, gan roi sylw penodol i'r sylweddau neu'r technolegau a ddefnyddir.

Lleoliad y prosiect

2.  Sensitifrwydd amgylcheddol ardaloedd daearyddol y mae prosiectau yn debygol o effeithio arnynt, gan roi sylw penodol i'r canlynol—

(a)y defnydd presennol o'r tir;

(b)digonedd, ansawdd a gallu atgynhyrchiol cymharol yr adnoddau naturiol yn yr ardal; ac

(c)gallu'r amgylchedd naturiol i amsugno, gan roi sylw penodol i'r ardaloedd canlynol—

(i)gwlyptiroedd;

(ii)parthau arfordirol;

(iii)ardaloedd mynyddig a fforestydd;

(iv)gwarchodfeydd natur a pharciau;

(v)ardaloedd sydd wedi'u dosbarthu neu wedi'u gwarchod o dan ddeddfwriaeth (gan gynnwys safleoedd Ewropeaidd);

(vi)ardaloedd lle rhagorwyd eisoes ar y safonau ansawdd amgylcheddol sydd wedi'u pennu mewn unrhyw ddeddfwriaeth gan y Cymunedau;

(vii)ardaloedd dwys eu poblogaeth; ac

(viii)tirluniau sydd o bwys hanesyddol, diwylliannol neu archeolegol.

Yr effaith bosibl

3.  Effeithiau sylweddol posibl prosiectau, mewn perthynas â'r meini prawf a nodwyd o dan baragraffau 1 a 2, gan roi sylw penodol i'r materion canlynol—

(a)hyd a lled yr effaith (ardal ddaearyddol a maint y boblogaeth yr effeithir arni);

(b)yr effaith ar Wladwriaethau AEE eraill;

(c)graddfa a chymhlethdod yr effaith;

(ch)tebygolrwydd yr effaith; a

(d)hyd, amlder a gwrthdroadwyedd yr effaith.

rheoliad 2(1)

ATODLEN 3Gwybodaeth i'w chynnwys yn y datganiadau amgylcheddol

RHAN 1

1.  Disgrifiad o'r prosiect, gan gynnwys yn benodol—

(a)disgrifiad o nodweddion ffisegol y prosiect cyfan a'r anghenion defnydd tir yn ystod y cyfnod adeiladu, neu gyfnod arall o roi ar waith, a'r cyfnod gweithredol;

(b)disgrifiad o brif nodweddion y prosesau cynhyrchu, er enghraifft, natur a nifer y deunyddiau a ddefnyddir;

(c)amcangyfrif, yn ôl math a maint, o'r gwaddodion a'r allyriadau disgwyliedig (gan gynnwys llygredd dwr, aer a phridd, swn, dirgryniad, golau, gwres, ymbelydredd) sy'n deillio o weithrediad y prosiect arfaethedig.

2.  Amlinelliad o'r prif ddewisiadau eraill a astudiwyd gan y ceisydd am gydsyniad ac awgrym o'r prif resymau dros ei ddewis, gan gymryd i ystyriaeth yr effeithiau amgylcheddol.

3.  Disgrifiad o'r agweddau ar yr amgylchedd y mae'r prosiect arfaethedig yn debyg o effeithio'n sylweddol arnynt, gan gynnwys, yn benodol, poblogaeth, ffawna, fflora, pridd, dwr, aer, ffactorau hinsoddol, asedau materol, gan gynnwys y dreftadaeth bensaernïol ac archeolegol, y tirlun a'r rhyngberthynas rhwng y ffactorau uchod.

4.  Disgrifiad o effeithiau sylweddol tebygol y prosiect ar yr amgylchedd, a ddylai ymdrin ag effeithiau uniongyrchol ac unrhyw effeithiau anuniongyrchol, eilaidd, cronnol, byrdymor, tymor-canolig a hirdymor, parhaol a thros dro, cadarnhaol a negyddol y prosiect, a fydd yn deillio o—

(a)bodolaeth y prosiect;

(b)y defnydd o adnoddau naturiol; ac

(c)allyriant llygrwyr, creu niwsans a dileu gwastraff,

a disgrifiad gan y ceisydd am gydsyniad o'r dulliau darogan a ddefnyddir i asesu'r effeithiau ar yr amgylchedd.

5.  Disgrifiad o'r mesurau a ragwelir i atal, lleihau ac, os yw'n bosibl, i wrthbwyso unrhyw effeithiau andwyol sylweddol ar yr amgylchedd.

6.  Crynodeb annhechnegol o'r wybodaeth a ddarparwyd o dan baragraffau 1 i 5 o'r Rhan hon.

7.  Awgrym ynglyn ag unrhyw anawsterau (gan gynnwys diffygion technegol neu ddiffyg arbenigedd) a wynebodd y ceisydd am gydsyniad wrth grynhoi'r wybodaeth angenrheidiol.

RHAN 2

1.  Disgrifiad o'r prosiect, sydd wedi'i ffurfio o wybodaeth am safle, dyluniad a maint y prosiect.

2.  Disgrifiad o'r mesurau y rhagwelir y bydd eu hangen er mwyn osgoi, lleihau ac, o bosibl, unioni effeithiau andwyol sylweddol.

3.  Y data y mae eu hangen i nodi ac asesu'r prif effeithiau y mae'r prosiect yn debygol o'u cael ar yr amgylchedd.

4.  Amlinelliad o'r prif ddewisiadau eraill a astudiwyd gan y ceisydd am gydsyniad ac awgrym o'r prif resymau dros ei ddewis, gan gymryd i ystyriaeth yr effeithiau amgylcheddol.

5.  Crynodeb annhechnegol o'r wybodaeth a ddarparwyd o dan baragraffau 1 i 4 o'r Rhan hon.

rheoliad 20

ATODLEN 4Adolygiad o benderfyniadau a chydsyniadau

1.  Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, rhaid i Weinidogion Cymru, at ddibenion dyfarnu a fydd y prosiect a ganiateir gan y penderfyniad neu'r cydsyniad yn effeithio'n andwyol ar gyfanrwydd y safle, wneud asesiad o oblygiadau'r prosiect i'r safle Ewropeaidd gyda golwg ar amcanion cadwraeth y safle.

2.  At ddibenion yr asesiad, caiff Gweinidogion Cymru —

(a)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sydd â buddiant yn y tir perthnasol i roi iddynt unrhyw wybodaeth y maent yn credu bod angen rhesymol amdani; a

(b)os ydynt yn credu ei bod yn angenrheidiol, ymgynghori ag aelodau o'r cyhoedd.

3.  Oni fydd Gweinidogion Cymru, yn dilyn yr asesiad, wedi'u bodloni na fydd y prosiect a ganiatawyd drwy'r penderfyniad neu'r cydsyniad yn effeithio'n andwyol ar gyfanrwydd y safle Ewropeaidd, ac nad yw rheoliad 16(4) yn gymwys, rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)yn achos penderfyniad, dirymu'r penderfyniad; a

(b)yn achos cydsyniad, naill ai—

(i)dirymu'r cydsyniad; neu

(ii)gwneud unrhyw addasiadau i'r cydsyniad sy'n ymddangos yn angenrheidiol iddynt er mwyn sicrhau na fydd y prosiect yn effeithio'n andwyol ar gyfanrwydd y safle Ewropeaidd,

a rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu pawb y mae'n ymddangos iddynt fod ganddynt fuddiant yn y tir perthnasol o'u penderfyniad (eu “penderfyniad pellach”).

4.  Yn ddarostyngedig i baragraff 5, nid yw penderfyniad pellach yn effeithio ar unrhyw waith sydd eisoes wedi'i wneud mewn perthynas â phenderfyniad neu gydsyniad.

5.—(1Os yw—

(a)prosiect sy'n ddarostyngedig i benderfyniad pellach wedi dechrau; a

(b)yn ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn angenrheidiol diogelu cyfanrwydd safle Ewropeaidd,

caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol drwy hysbysiad i'r person sy'n gyfrifol am gyflawni'r gwaith hwnnw, neu unrhyw berson sydd â buddiant yn y tir perthnasol, gyflawni unrhyw waith adfer sy'n rhesymol yn yr amgylchiadau.

(2Rhaid i hysbysiad o dan baragraff (1) nodi'r cyfnod y mae'n rhaid i'r gwaith gael ei gyflawni ynddo

(3Mae hawlogaeth gan unrhyw berson sy'n gwneud y gwaith adfer hwnnw, wedi iddo gyflwyno hawliad yn unol â pharagraff 8, adennill oddi wrth Weinidogion Cymru iawndal mewn cysylltiad ag unrhyw dreuliau a dynnwyd yn rhesymol ganddo wrth gyflawni'r gwaith hwnnw.

6.—(1Mae rheoliad 31 yn gymwys i benderfyniad a wnaed o dan baragraff 3.

(2Mae rheoliad 30 yn gymwys i hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff 5.

7.  Os yw person, yn dilyn penderfyniad pellach o dan baragraff 3, wedi tynnu gwariant wrth gyflawni gwaith a wnaed yn ddi-fudd gan y penderfyniad pellach, neu os yw wedi dioddef fel arall golled neu ddifrod y gellir ei phriodoli neu ei briodoli'n uniongyrchol i'r penderfyniad pellach, bydd hawlogaeth ganddo i gael iawndal ar ôl cyflwyno hawliad yn unol â pharagraff 8.

8.  Rhaid i hawliad am iawndal sy'n daladwy o dan baragraff 5(3) neu 7 gael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru o fewn 6 wythnos i ddyddiad yr hysbysiad o'r penderfyniad lle dywedir bod iawndal yn daladwy a rhaid i unrhyw dystiolaeth y mae ar Weinidogion Cymru angen rhesymol amdani ddod gyda'r hawliad hwnnw.

9.  Caniateir i unrhyw anghydfod ynghylch swm yr iawndal sy'n daladwy o dan baragraffau 5(3) a 7 gael ei gyfeirio i'r Tribiwnlys Tiroedd o fewn 6 mlynedd i ddyddiad yr hysbysiad o'r penderfyniad pellach y mae iawndal yn daladwy mewn perthynas ag ef.

10.  Ni fydd dim byd yn yr Atodlen hon yn effeithio ar unrhyw beth a wnaed yn unol â phenderfyniad neu gydsyniad cyn y dyddiad y daeth y safle yn safle Ewropeaidd.

Rheoliadau 30(10) a 31(9)

ATODLEN 5Dirprwyo swyddogaethau apeliadol

1.  Yn yr Atodlen hon ystyr “person penodedig” (“appointed person”) yw person a benodwyd o dan reoliad 30(10) neu 31(9) ac ystyr “penodiad” (“appointment”) yw penodiad o dan y naill neu'r llall o'r rheoliadau hynny.

2.  Rhaid i benodiad gael ei wneud yn ysgrifenedig ac—

(a)caiff ymwneud ag unrhyw apêl benodol neu fater penodol a bennir yn y penodiad neu ag apelau neu faterion o ddisgrifiad penodedig;

(b)caiff ddarparu bod unrhyw swyddogaeth y mae'n ymwneud â hi yn arferadwy gan y person penodedig naill ai'n ddiamod neu'n ddarostyngedig i gyflawni unrhyw amodau a bennir yn y penodiad; ac

(c)caniateir, drwy hysbysiad a roddir i'r person penodedig, i'r penodiad gael ei ddirymu ar unrhyw adeg gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad ag unrhyw apêl neu fater nas dyfarnwyd gan y person penodedig cyn yr amser hwnnw.

3.  Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Atodlen hon, mae gan berson penodedig, mewn perthynas ag unrhyw apêl y mae ei benodiad yn ymwneud â hi neu unrhyw fater y mae'n ymwneud ag ef, yr un pwerau a dyletswyddau â'r rhai sydd gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 30(6), neu reoliad 31(8), (10), (12) a (13) yn ôl y digwydd.

4.—(1Mae darpariaethau'r paragraff hwn yn gymwys i apêl o dan reoliad 30 neu 31 sydd i'w dyfarnu gan berson penodedig ac, yn achos apêl o dan reoliad 31, maent yn gymwys yn lle rheoliad 31(7).

(2Os yw'r apelydd neu Weinidogion Cymru yn hysbysu'r person penodedig eu bod yn dymuno ymddangos gerbron y person penodedig a chael eu clywed ganddo, rhaid i'r person penodedig roi cyfle iddynt wneud hynny.

(3Hyd yn oed os nad yw'r apelydd na Gweinidogion Cymru wedi gofyn am gael ymddangos gerbron a chael eu clywed—

(a)caiff y person penodedig—

(i)yn achos apêl o dan reoliad 30, gynnal gwrandawiad yn gysylltiedig â'r apêl neu'r mater, a

(ii)yn achos apêl o dan reoliad 31, gynnal ymchwiliad lleol neu wrandawiad arall yn gysylltiedig â'r apêl neu'r mater; a

(b)rhaid i'r person penodedig, yn achos apêl o dan reoliad 31, gynnal ymchwiliad lleol mewn cysylltiad â'r apêl neu'r mater, os bydd Gweinidogion Cymru yn ei gyfarwyddo i wneud hynny.

(4Rhaid i'r person penodedig hysbysu'r apelydd, Gweinidogion Cymru, ac unrhyw bersonau a hysbysodd Weinidogion Cymru eu bod yn dymuno cyflwyno sylwadau o dan reoliad 31(6), o benderfyniad y person penodedig i gynnal gwrandawiad neu ymchwiliad lleol (yn ôl y digwydd).

(5Os bydd person penodedig yn cynnal ymchwiliad lleol neu wrandawiad arall o dan yr Atodlen hon, caiff Gweinidogion Cymru benodi asesydd i eistedd gyda'r person penodedig i'w gynghori ar unrhyw faterion sy'n codi, er gwaethaf y ffaith mai'r person penodedig sydd i ddyfarnu ar y mater neu'r apêl.

(6Yn ddarostyngedig i reoliad 31(10), rhaid i gostau'r gwrandawiad neu'r ymchwiliad lleol a gynhelir o dan yr Atodlen hon gael eu talu gan Weinidogion Cymru.

5.—(1Os caiff penodiad y person penodedig ei ddirymu o dan baragraff 2(c) mewn cysylltiad ag unrhyw apêl neu fater, rhaid i Weinidogion Cymru, onid ydynt yn bwriadu dyfarnu ar yr apêl neu'r mater eu hunain, benodi person arall o dan reoliad 30(10) neu 31(9) i ddyfarnu ar yr apêl neu'r mater yn eu lle.

(2Os caiff penodiad newydd ei wneud, rhaid i'r broses o ystyried yr apêl neu'r mater, neu unrhyw ymchwiliad lleol neu wrandawiad arall mewn cysylltiad ag ef, ddechrau o'r newydd.

(3Nid oes dim yn is-baragraff (2) sy'n ei gwneud hi'n ofynnol i unrhyw berson gael cyfle i gyflwyno sylwadau newydd neu i addasu unrhyw sylwadau a gyflwynwyd eisoes neu eu tynnu yn eu hôl.

6.—(1Mae unrhyw beth sydd wedi'i wneud neu sydd heb ei wneud gan berson penodedig wrth iddo arfer, neu honni arfer, unrhyw swyddogaeth y mae'r penodiad yn ymwneud â hi, neu'n gysylltiedig ag arfer neu honni arfer y swyddogaeth honno, i'w drin i bob pwrpas fel rhywbeth sydd wedi'i wneud neu heb ei wneud gan Weinidogion Cymru.

(2Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys—

(a)at ddibenion cymaint o unrhyw gontract a wnaed rhwng Gweinidogion Cymru a'r person penodedig ag sy'n ymwneud ag arfer y swyddogaeth; neu

(b)at ddibenion unrhyw achos troseddol a ddygir mewn cysylltiad ag unrhyw beth sydd wedi'i wneud neu sydd heb ei wneud fel y crybwyllwyd yn yr is-baragraff hwnnw.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill