Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007, ATODLEN 1. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

Rheoliad 4

ATODLEN 1LL+CAmodau cyffredinol y mae'n rhaid cadw anifeiliaid a ffermir odanynt

StaffioLL+C

1.  Rhaid i anifeiliaid gael gofal gan nifer digonol o staff sy'n meddu ar y gallu, yr wybodaeth a'r hyfedredd proffesiynol priodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

ArolyguLL+C

2.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), rhaid i anifeiliaid a gedwir mewn systemau hwsmonaeth lle mae eu lles yn dibynnu ar sylw dynol mynych gael eu harchwilio unwaith y dydd o leiaf, i wirio eu bod mewn cyflwr o lesiant.

(2Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), rhaid i anifeiliaid a gedwir mewn systemau hwsmonaeth lle nad yw eu lles yn dibynnu ar sylw dynol mynych gael eu harchwilio ar ysbeidiau digonol i osgoi unrhyw ddioddefaint.

(3Yn yr achosion canlynol, at ddibenion y paragraff hwn bydd yn ddigonol cydymffurfio â'r darpariaethau a ganlyn—

(a)yn achos ieir dodwy, paragraff 1 o Atodlen 5;

[F1(aa)yn achos ieir bwyta a fegir yn gonfensiynol, paragraff 11(1) a (2) o Atodlen 5A;]

(b)yn achos lloi, paragraff 2 neu 3 o Atodlen 6; ac

(c)yn achos moch, paragraff 2 o Atodlen 8.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

3.  Pan gedwir anifeiliaid mewn adeilad rhaid bod digon o oleuadau (naill ai sefydlog neu symudol) i'w galluogi i gael eu harchwilio'n drwyadl ar unrhyw adeg.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

4.  Pan gedwir unrhyw anifeiliaid (heblaw dofednod) mewn adeilad, rhaid iddynt gael eu cadw ar fan gorwedd, neu rhaid iddynt bob amser allu mynd i fan gorwedd, sydd naill ai â gwasarn sych wedi'i gynnal yn dda neu sydd wedi'i draenio'n dda.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

5.  [F2Heb ragfarnu paragraff 11(3) o Atodlen 5A]rhaid gofalu yn briodol ac yn ddi-oed am unrhyw anifeiliaid sy'n ymddangos yn sâl neu wedi eu hanafu; pan nad ydynt yn ymateb i'r cyfryw ofal, rhaid cael cyngor milfeddygol cyn gynted ag y bo modd.

Diwygiadau Testunol

F2Geiriau yn Atod. 1 para. 5 wedi eu fewnosodwyd (10.11.2010) gan Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) (Diwygio) 2010 (O.S. 2010/2713), rhlau. 1, 7(b)

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

6.  Pan fo'n angenrheidiol, rhaid ynysu anifeiliaid sâl neu anafus mewn llety addas, gyda gwasarn cysurus a sych pan fo'n briodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

Cadw cofnodionLL+C

7.  Rhaid cadw cofnod —

(a)o unrhyw driniaeth feddyginiaethol a roddir i anifeiliaid; a

(b)o'r nifer o farwolaethau a ganfyddir ymhob archwiliad o'r anifeiliaid a gyflawnir yn unol ag unrhyw un o'r darpariaethau canlynol —

(i)yn achos ieir dodwy, paragraff 1 o Atodlen 5;

(ii)yn achos lloi, paragraff 2 neu 3 o Atodlen 6; F3...

(iii)yn achos moch, paragraff 2 o Atodlen 8; F4...

[F5(iiia)yn achos ieir bwyta a fegir yn gonfensiynol, paragraff 11(1) a (2) o Atodlen 5A; neu]

(iv)mewn unrhyw achos arall, paragraff 2(1) neu (2) o'r Atodlen hon.

8.  Rhaid cadw'r cofnod y cyfeirir ato ym mharagraff 7 am gyfnod o dair blynedd o leiaf o'r dyddiad pan roddwyd y driniaeth feddyginiaethol, neu ddyddiad yr archwiliad, a rhaid ei roi ar gael i arolygydd os gofynnir amdano.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

Rhyddid i symudLL+C

9.  Gan roi sylw i'w rhywogaeth ac yn unol ag arferion da a gwybodaeth wyddonol, rhaid peidio â chyfyngu ar ryddid anifeiliaid i symud mewn unrhyw ffordd a fydd yn peri dioddefaint neu anaf diangen iddynt.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 1 para. 9 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

10.  Pan fo anifeiliaid yn cael eu clymu neu eu caethiwo yn ddi-dor neu'n rheolaidd, rhaid caniatáu lle priodol iddynt ar gyfer eu hanghenion ffisiolegol ac etholegol yn unol ag arferion da a gwybodaeth wyddonol.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. 1 para. 10 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

Adeiladau a lletyLL+C

11.  Rhaid i'r defnyddiau a ddefnyddir ar gyfer adeiladu llety, ac, yn benodol ar gyfer adeiladu corlannau, cewyll, corau ac offer y gall yr anifeiliaid ddod i gyffyrddiad ag ef, beidio â bod yn niweidiol i'r anifeiliaid a rhaid bod modd eu glanhau a'u diheintio'n drylwyr.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 1 para. 11 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

12.  Rhaid i'r llety a'r ffitiadau a ddefnyddir i ddiogelu'r anifeiliaid fod wedi eu hadeiladu a'u cynnal fel nad oes unrhyw ymylon nac allwthiadau miniog sy'n debygol o achosi anaf i anifail.

Gwybodaeth Cychwyn

I12Atod. 1 para. 12 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

13.  Rhaid cadw cylchrediad yr aer, lefelau llwch, tymheredd, lleithder cymharol yr aer a chrynodiadau nwy o fewn terfynau nad ydynt yn niweidiol i'r anifeiliaid.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 1 para. 13 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

14.  Rhaid i anifeiliaid a gedwir mewn adeiladau beidio â chael eu cadw mewn tywyllwch parhaol.

Gwybodaeth Cychwyn

I14Atod. 1 para. 14 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

15.  Pan nad yw'r golau naturiol sydd ar gael mewn adeilad yn ddigonol i ddiwallu anghenion ffisiolegol ac etholegol unrhyw anifeiliaid a gedwir ynddo, rhaid darparu golau artiffisial priodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 1 para. 15 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

16.  Rhaid peidio â chadw anifeiliaid a gedwir mewn adeiladau heb gyfnod priodol o orffwys rhag olau artiffisial.

Gwybodaeth Cychwyn

I16Atod. 1 para. 16 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

Anifeiliaid na chedwir mohonynt mewn adeiladauLL+C

17.  Pan na chedwir anifeiliaid mewn adeiladau, rhaid eu hamddiffyn pan fo angen a phan fo'n bosibl rhag tywydd gwael, ysglyfaethwyr a risgiau i'w hiechyd, a rhaid iddynt gael cyfle bob amser i fynd i fan gorwedd sydd wedi'i draenio'n dda.

Gwybodaeth Cychwyn

I17Atod. 1 para. 17 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

Offer awtomatig neu fecanyddolLL+C

18.  Rhaid i bob offer awtomataidd neu fecanyddol sy'n angenrheidiol ar gyfer iechyd a llesiant yr anifeiliaid gael eu harchwilio o leiaf unwaith y dydd i sicrhau nad oes unrhyw ddiffyg arno.

Gwybodaeth Cychwyn

I18Atod. 1 para. 18 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

19.  Pan ganfyddir diffygion mewn offer awtomataidd neu fecanyddol o'r math y cyfeirir ato ym mharagraff 18, rhaid eu cywiro ar unwaith, neu os nad yw hyn yn bosibl, rhaid cymryd camau priodol i ddiogelu iechyd a llesiant yr anifeiliaid tra disgwylir i'r diffygion hynny gael eu cywiro, gan gynnwys defnyddio dulliau amgen o fwydo a dyfrio a dulliau amgen o ddarparu a chynnal amgylchedd boddhaol.

Gwybodaeth Cychwyn

I19Atod. 1 para. 19 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

20.  Pan fo iechyd a llesiant yr anifeiliaid yn ddibynnol ar system awyru artiffisial —

(a)rhaid darparu system briodol wrth gefn i warantu y gellir adnewyddu'r aer yn ddigonol i ddiogelu iechyd a llesiant yr anifeiliaid pe digwyddai i'r system fethu; a

(b)rhaid darparu system larwm (a fydd yn gweithredu hyd yn oed os bydd y prif gyflenwad trydan yn methu) i rybuddio am unrhyw fethiant yn y system.

Gwybodaeth Cychwyn

I20Atod. 1 para. 20 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

21.  Rhaid i'r system wrth gefn y cyfeirir ati ym mharagraff 20(a) gael ei harchwilio'n drwyadl a rhaid i'r system larwm y cyfeirir ati ym mharagraff 20(b) gael ei phrofi o leiaf unwaith bob saith diwrnod er mwyn sicrhau nad oes unrhyw ddiffyg ar y system, ac os canfyddir unrhyw ddiffyg ar unrhyw adeg, rhaid ei gywiro ar unwaith.

Gwybodaeth Cychwyn

I21Atod. 1 para. 21 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

Bwyd anifeiliaid, dwr a sylweddau eraillLL+C

22.  Rhaid i anifeiliaid gael eu bwydo â deiet iachusol sy'n briodol i'w hoedran a'u rhywogaeth ac a fwydir iddynt mewn cyflenwad digonol i'w cynnal mewn iechyd da, i ddiwallu eu hanghenion maethol a hybu cyflwr cadarnhaol o lesiant.

Gwybodaeth Cychwyn

I22Atod. 1 para. 22 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

23.  Rhaid peidio â darparu i anifeiliaid fwyd neu hylif sy'n cynnwys unrhyw sylwedd a allai beri dioddefaint neu anaf diangen iddynt, a rhaid darparu bwyd a hylif ar eu cyfer mewn modd nad yw'n peri dioddefaint neu anaf diangen iddynt.

Gwybodaeth Cychwyn

I23Atod. 1 para. 23 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

24.  Rhaid i bob anifail gael y cyfle i fynd at fwyd ar adegau sy'n briodol i'w anghenion ffisiolegol, (ac o leiaf unwaith y dydd beth bynnag), ac eithrio pan fo milfeddyg wrth arfer ei broffesiwn yn cyfarwyddo fel arall.

Gwybodaeth Cychwyn

I24Atod. 1 para. 24 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

25.  Rhaid i bob anifail gael cyfle naill ai i fynd at gyflenwad addas o ddwr a chael cyflenwad digonol o ddwr yfed ffres bob dydd, neu allu diwallu ei angen i yfed digon o hylifau trwy ddulliau eraill.

Gwybodaeth Cychwyn

I25Atod. 1 para. 25 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

26.  Rhaid i offer bwydo a dyfrio gael ei ddylunio, ei adeiladu, ei osod a'i gynnal fel bod difwyno bwyd a dwr ac effeithiau niweidiol cystadlu rhwng anifeiliaid yn cael eu cadw i'r lleiaf posibl.

Gwybodaeth Cychwyn

I26Atod. 1 para. 26 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

27.—(1Ni chaniateir rhoi i anifeiliaid unrhyw sylwedd arall, ac eithrio rhai a roddir at ddibenion therapiwtig neu broffylactig neu at ddibenion triniaeth söotechnegol, oni ddangoswyd mewn astudiaethau gwyddonol ar les anifeiliaid neu trwy ymarfer sefydledig nad yw effaith y sylwedd hwnnw yn niweidiol i iechyd neu les yr anifeiliaid.

(2Yn is-baragraff (1), [F6ystyr “triniaeth söotechnegol” (“zootechnical treatment”) yw rhoi i anifail, yn unol â rheoliad 8 o Reoliadau Meddyginiaethau Milfeddygol 2013, gynhyrchion meddyginiaethol milfeddygol sydd ag effaith estrogenaidd, androgenig neu estagenaidd ar gyfer cydamseru estrws a pharatoi’r anifeiliaid sy’n rhoi a’r anifeiliaid maeth ar gyfer mewnblannu embryonau, ar ôl i’r anifail gael ei archwilio gan filfeddyg neu rywun y mae milfeddyg yn gyfrifol amdano.]

Diwygiadau Testunol

F6Geiriau yn Atod. 1 para. 27(2) wedi eu hamnewid (31.12.2020) gan Reoliadau Iechyd a Lles Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2019 (O.S. 2019/684), rhlau. 1(2), 4(2); 2020 p. 1, Atod. 5 para. 1(1)

Gwybodaeth Cychwyn

I27Atod. 1 para. 27 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

Gweithdrefnau bridioLL+C

28.—(1Rhaid peidio â defnyddio bridio neu weithdrefnau bridio naturiol neu artiffisial sy'n peri neu sy'n debygol o beri dioddefaint neu anaf i unrhyw un o'r anifeiliaid o dan sylw.

(2Nid yw is-baragraff (1) yn atal defnyddio gweithdrefnau bridio naturiol neu artiffisial sy'n debygol o beri'r dioddefaint minimal neu fyrhoedlog, neu rai a allai beri bod angen ymyriadau na fyddent yn achosi anaf parhaol.

Gwybodaeth Cychwyn

I28Atod. 1 para. 28 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

29.  Ni chaniateir cadw unrhyw anifeiliaid at ddibenion ffermio oni ellir disgwyl yn rhesymol, ar sail eu genoteip neu eu ffenoteip, y gellir eu cadw heb effaith niweidiol i'w hiechyd neu eu lles.

Gwybodaeth Cychwyn

I29Atod. 1 para. 29 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

Llonyddu â thrydanLL+C

30.  Rhaid peidio â defnyddio cerrynt trydan ar unrhyw anifail er mwyn ei lonyddu.

Gwybodaeth Cychwyn

I30Atod. 1 para. 30 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill