- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):
Rheoliad 4
1. Rhaid i anifeiliaid gael gofal gan nifer digonol o staff sy'n meddu ar y gallu, yr wybodaeth a'r hyfedredd proffesiynol priodol.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
2.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), rhaid i anifeiliaid a gedwir mewn systemau hwsmonaeth lle mae eu lles yn dibynnu ar sylw dynol mynych gael eu harchwilio unwaith y dydd o leiaf, i wirio eu bod mewn cyflwr o lesiant.
(2) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), rhaid i anifeiliaid a gedwir mewn systemau hwsmonaeth lle nad yw eu lles yn dibynnu ar sylw dynol mynych gael eu harchwilio ar ysbeidiau digonol i osgoi unrhyw ddioddefaint.
(3) Yn yr achosion canlynol, at ddibenion y paragraff hwn bydd yn ddigonol cydymffurfio â'r darpariaethau a ganlyn—
(a)yn achos ieir dodwy, paragraff 1 o Atodlen 5;
(b)yn achos lloi, paragraff 2 neu 3 o Atodlen 6; ac
(c)yn achos moch, paragraff 2 o Atodlen 8.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
3. Pan gedwir anifeiliaid mewn adeilad rhaid bod digon o oleuadau (naill ai sefydlog neu symudol) i'w galluogi i gael eu harchwilio'n drwyadl ar unrhyw adeg.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
4. Pan gedwir unrhyw anifeiliaid (heblaw dofednod) mewn adeilad, rhaid iddynt gael eu cadw ar fan gorwedd, neu rhaid iddynt bob amser allu mynd i fan gorwedd, sydd naill ai â gwasarn sych wedi'i gynnal yn dda neu sydd wedi'i draenio'n dda.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
5. Rhaid gofalu yn briodol ac yn ddi-oed am unrhyw anifeiliaid sy'n ymddangos yn sâl neu wedi eu hanafu; pan nad ydynt yn ymateb i'r cyfryw ofal, rhaid cael cyngor milfeddygol cyn gynted ag y bo modd.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
6. Pan fo'n angenrheidiol, rhaid ynysu anifeiliaid sâl neu anafus mewn llety addas, gyda gwasarn cysurus a sych pan fo'n briodol.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
7. Rhaid cadw cofnod —
(a)o unrhyw driniaeth feddyginiaethol a roddir i anifeiliaid; a
(b)o'r nifer o farwolaethau a ganfyddir ymhob archwiliad o'r anifeiliaid a gyflawnir yn unol ag unrhyw un o'r darpariaethau canlynol —
(i)yn achos ieir dodwy, paragraff 1 o Atodlen 5;
(ii)yn achos lloi, paragraff 2 neu 3 o Atodlen 6; neu
(iii)yn achos moch, paragraff 2 o Atodlen 8; neu
(iv)mewn unrhyw achos arall, paragraff 2(1) neu (2) o'r Atodlen hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
8. Rhaid cadw'r cofnod y cyfeirir ato ym mharagraff 7 am gyfnod o dair blynedd o leiaf o'r dyddiad pan roddwyd y driniaeth feddyginiaethol, neu ddyddiad yr archwiliad, a rhaid ei roi ar gael i arolygydd os gofynnir amdano.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
9. Gan roi sylw i'w rhywogaeth ac yn unol ag arferion da a gwybodaeth wyddonol, rhaid peidio â chyfyngu ar ryddid anifeiliaid i symud mewn unrhyw ffordd a fydd yn peri dioddefaint neu anaf diangen iddynt.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. 1 para. 9 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
10. Pan fo anifeiliaid yn cael eu clymu neu eu caethiwo yn ddi-dor neu'n rheolaidd, rhaid caniatáu lle priodol iddynt ar gyfer eu hanghenion ffisiolegol ac etholegol yn unol ag arferion da a gwybodaeth wyddonol.
Gwybodaeth Cychwyn
I10Atod. 1 para. 10 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
11. Rhaid i'r defnyddiau a ddefnyddir ar gyfer adeiladu llety, ac, yn benodol ar gyfer adeiladu corlannau, cewyll, corau ac offer y gall yr anifeiliaid ddod i gyffyrddiad ag ef, beidio â bod yn niweidiol i'r anifeiliaid a rhaid bod modd eu glanhau a'u diheintio'n drylwyr.
Gwybodaeth Cychwyn
I11Atod. 1 para. 11 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
12. Rhaid i'r llety a'r ffitiadau a ddefnyddir i ddiogelu'r anifeiliaid fod wedi eu hadeiladu a'u cynnal fel nad oes unrhyw ymylon nac allwthiadau miniog sy'n debygol o achosi anaf i anifail.
Gwybodaeth Cychwyn
I12Atod. 1 para. 12 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
13. Rhaid cadw cylchrediad yr aer, lefelau llwch, tymheredd, lleithder cymharol yr aer a chrynodiadau nwy o fewn terfynau nad ydynt yn niweidiol i'r anifeiliaid.
Gwybodaeth Cychwyn
I13Atod. 1 para. 13 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
14. Rhaid i anifeiliaid a gedwir mewn adeiladau beidio â chael eu cadw mewn tywyllwch parhaol.
Gwybodaeth Cychwyn
I14Atod. 1 para. 14 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
15. Pan nad yw'r golau naturiol sydd ar gael mewn adeilad yn ddigonol i ddiwallu anghenion ffisiolegol ac etholegol unrhyw anifeiliaid a gedwir ynddo, rhaid darparu golau artiffisial priodol.
Gwybodaeth Cychwyn
I15Atod. 1 para. 15 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
16. Rhaid peidio â chadw anifeiliaid a gedwir mewn adeiladau heb gyfnod priodol o orffwys rhag olau artiffisial.
Gwybodaeth Cychwyn
I16Atod. 1 para. 16 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
17. Pan na chedwir anifeiliaid mewn adeiladau, rhaid eu hamddiffyn pan fo angen a phan fo'n bosibl rhag tywydd gwael, ysglyfaethwyr a risgiau i'w hiechyd, a rhaid iddynt gael cyfle bob amser i fynd i fan gorwedd sydd wedi'i draenio'n dda.
Gwybodaeth Cychwyn
I17Atod. 1 para. 17 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
18. Rhaid i bob offer awtomataidd neu fecanyddol sy'n angenrheidiol ar gyfer iechyd a llesiant yr anifeiliaid gael eu harchwilio o leiaf unwaith y dydd i sicrhau nad oes unrhyw ddiffyg arno.
Gwybodaeth Cychwyn
I18Atod. 1 para. 18 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
19. Pan ganfyddir diffygion mewn offer awtomataidd neu fecanyddol o'r math y cyfeirir ato ym mharagraff 18, rhaid eu cywiro ar unwaith, neu os nad yw hyn yn bosibl, rhaid cymryd camau priodol i ddiogelu iechyd a llesiant yr anifeiliaid tra disgwylir i'r diffygion hynny gael eu cywiro, gan gynnwys defnyddio dulliau amgen o fwydo a dyfrio a dulliau amgen o ddarparu a chynnal amgylchedd boddhaol.
Gwybodaeth Cychwyn
I19Atod. 1 para. 19 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
20. Pan fo iechyd a llesiant yr anifeiliaid yn ddibynnol ar system awyru artiffisial —
(a)rhaid darparu system briodol wrth gefn i warantu y gellir adnewyddu'r aer yn ddigonol i ddiogelu iechyd a llesiant yr anifeiliaid pe digwyddai i'r system fethu; a
(b)rhaid darparu system larwm (a fydd yn gweithredu hyd yn oed os bydd y prif gyflenwad trydan yn methu) i rybuddio am unrhyw fethiant yn y system.
Gwybodaeth Cychwyn
I20Atod. 1 para. 20 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
21. Rhaid i'r system wrth gefn y cyfeirir ati ym mharagraff 20(a) gael ei harchwilio'n drwyadl a rhaid i'r system larwm y cyfeirir ati ym mharagraff 20(b) gael ei phrofi o leiaf unwaith bob saith diwrnod er mwyn sicrhau nad oes unrhyw ddiffyg ar y system, ac os canfyddir unrhyw ddiffyg ar unrhyw adeg, rhaid ei gywiro ar unwaith.
Gwybodaeth Cychwyn
I21Atod. 1 para. 21 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
22. Rhaid i anifeiliaid gael eu bwydo â deiet iachusol sy'n briodol i'w hoedran a'u rhywogaeth ac a fwydir iddynt mewn cyflenwad digonol i'w cynnal mewn iechyd da, i ddiwallu eu hanghenion maethol a hybu cyflwr cadarnhaol o lesiant.
Gwybodaeth Cychwyn
I22Atod. 1 para. 22 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
23. Rhaid peidio â darparu i anifeiliaid fwyd neu hylif sy'n cynnwys unrhyw sylwedd a allai beri dioddefaint neu anaf diangen iddynt, a rhaid darparu bwyd a hylif ar eu cyfer mewn modd nad yw'n peri dioddefaint neu anaf diangen iddynt.
Gwybodaeth Cychwyn
I23Atod. 1 para. 23 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
24. Rhaid i bob anifail gael y cyfle i fynd at fwyd ar adegau sy'n briodol i'w anghenion ffisiolegol, (ac o leiaf unwaith y dydd beth bynnag), ac eithrio pan fo milfeddyg wrth arfer ei broffesiwn yn cyfarwyddo fel arall.
Gwybodaeth Cychwyn
I24Atod. 1 para. 24 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
25. Rhaid i bob anifail gael cyfle naill ai i fynd at gyflenwad addas o ddwr a chael cyflenwad digonol o ddwr yfed ffres bob dydd, neu allu diwallu ei angen i yfed digon o hylifau trwy ddulliau eraill.
Gwybodaeth Cychwyn
I25Atod. 1 para. 25 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
26. Rhaid i offer bwydo a dyfrio gael ei ddylunio, ei adeiladu, ei osod a'i gynnal fel bod difwyno bwyd a dwr ac effeithiau niweidiol cystadlu rhwng anifeiliaid yn cael eu cadw i'r lleiaf posibl.
Gwybodaeth Cychwyn
I26Atod. 1 para. 26 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
27.—(1) Ni chaniateir rhoi i anifeiliaid unrhyw sylwedd arall, ac eithrio rhai a roddir at ddibenion therapiwtig neu broffylactig neu at ddibenion triniaeth söotechnegol, oni ddangoswyd mewn astudiaethau gwyddonol ar les anifeiliaid neu trwy ymarfer sefydledig nad yw effaith y sylwedd hwnnw yn niweidiol i iechyd neu les yr anifeiliaid.
(2) Yn is-baragraff (1), mae i'r ymadrodd “triniaeth söotechnegol” yr ystyr a roddir i “zootechnical treatment” yn Erthygl 1(2)(c) o Gyfarwyddeb 96/22/EEC(1) ar wahardd defnyddio sylweddau penodol sy'n cael effaith hormonaidd neu thyrostatig a beta-agonistiaid mewn ffermio da byw.
Gwybodaeth Cychwyn
I27Atod. 1 para. 27 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
28.—(1) Rhaid peidio â defnyddio bridio neu weithdrefnau bridio naturiol neu artiffisial sy'n peri neu sy'n debygol o beri dioddefaint neu anaf i unrhyw un o'r anifeiliaid o dan sylw.
(2) Nid yw is-baragraff (1) yn atal defnyddio gweithdrefnau bridio naturiol neu artiffisial sy'n debygol o beri'r dioddefaint minimal neu fyrhoedlog, neu rai a allai beri bod angen ymyriadau na fyddent yn achosi anaf parhaol.
Gwybodaeth Cychwyn
I28Atod. 1 para. 28 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
29. Ni chaniateir cadw unrhyw anifeiliaid at ddibenion ffermio oni ellir disgwyl yn rhesymol, ar sail eu genoteip neu eu ffenoteip, y gellir eu cadw heb effaith niweidiol i'w hiechyd neu eu lles.
Gwybodaeth Cychwyn
I29Atod. 1 para. 29 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
30. Rhaid peidio â defnyddio cerrynt trydan ar unrhyw anifail er mwyn ei lonyddu.
Gwybodaeth Cychwyn
I30Atod. 1 para. 30 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
OJ Rhif L125, 23.5.96, t.3.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: