- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Sylweddau Annymunol Penodedig) (Cymru) 2007, a deuant i rym ar 30 Tachwedd 2007.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Diwygir Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) 2006(1) yn unol â pharagraffau (2) i (5).
(2) Ym mharagraff 11(2)(c)(iv) o Ran 1 o Atodlen 3 (cynnwys yr offeryn statudol neu ddatganiad arall etc), yn lle'r gair “soluble” rhodder “insoluble”.
(3) Mae'r cofnodion tabl a'r troednodiadau sy'n ffurfio Pennod D o Atodlen 5 (terfynau rhagnodedig ar gyfer sylweddau annymunol) wedi'u disodli gan y cofnodion a'r troednodiadau a nodir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn.
(4) Mae'r cofnodion tabl a nodir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn wedi'u hychwanegu ar ddiwedd y tabl yn Atodlen 6 (rheoli ffynonellau protein penodol).
(5) Yng ngholofn 4 o Bennod A o Atodlen 7 (bwydydd anifeiliaid a ganiateir ac a fwriedir at ddibenion maethol neilltuol a darpariaethau ynghylch eu defnyddio), gyferbyn â'r cofnod yng ngholofn 1 ynghylch lleihau cyfraddau ffurfiant cerrig cystin, yn lle'r gair “acidifying” rhodder “alkalising”.
G. Thomas
O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
7 Tachwedd 2007
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys