Y person sy'n gyfrifol am lwythLL+C
3.—(1) Yn y Rheoliadau hyn, dehonglir cyfeiriad at “person sy'n gyfrifol am”, mewn perthynas â chynnyrch, llwyth neu ranlwyth yn unol â'r paragraffau canlynol.
(2) Hyd nes—
(a)y bydd y cynnyrch, y llwyth neu'r rhanlwyth yn cyrraedd safle arolygu ar y ffin yng Nghymru am y tro cyntaf; neu
(b)yn achos cynnyrch Erthygl 9, neu lwyth neu ranlwyth o gynhyrchion Erthygl 9, y bydd yn cyrraedd safle arolygu ar y ffin ar gyfer cyrchfan yng Nghymru,
y person a bennir ym mharagraff (3) yw'r person sy'n gyfrifol am y cynnyrch, y llwyth neu'r rhanlwyth.
(3) Y person y cyfeirir ato ym mharagraff (2) yw —
(a)y person y cyfeirir ato yn Erthygl 38(1) o'r Cod Tollau sy'n dod â'r cynnyrch, y llwyth neu'r rhanlwyth i mewn i diriogaeth dollau'r Gymuned;
(b)person y cyfeirir ato yn Erthygl 38(2) o'r Cod Tollau sy'n ysgwyddo'r cyfrifoldeb dros gludo'r cynnyrch, y llwyth neu'r rhanlwyth ar ôl iddo gael ei ddwyn i mewn neu ar ôl iddi gael ei dwyn i mewn i diriogaeth dollau'r Gymuned; neu
(c)person y gweithredodd y personau y cyfeiriwyd atynt yn is-baragraffau (a) neu (b) yn ei enw.
(4) O'r amser—
(a)y mae'r cynnyrch, y llwyth neu'r rhanlwyth yn cyrraedd safle arolygu ar y ffin yng Nghymru am y tro cyntaf hyd nes iddo adael y safle arolygu hwnnw ar y ffin; neu
(b)yn achos cynnyrch Erthygl 9, neu lwyth neu ranlwyth o gynhyrchion Erthygl 9, y mae'n cyrraedd safle arolygu ar y ffin ar gyfer cyrchfan yng Nghymru hyd nes y bydd yn gadael y safle arolygu hwnnw ar y ffin ar gyfer cyrchfan,
y person a bennir ym mharagraff (5) yw'r person sy'n gyfrifol am y cynnyrch, y llwyth neu'r rhanlwyth.
(5) Y person y cyfeirir ato ym mharagraff (4) —
(a)yw'r person y gweithredodd y personau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (3)(a) neu (b) yn ei enw;
(b)os yw'r cynnyrch, y llwyth neu'r rhanlwyth yn cael ei storio dros dro, fel y cyfeirir at “temporary storage” yn Erthygl 50 o'r Cod Tollau, yw'r person y cyfeirir ato yn Erthygl 51(2) o'r Cod Tollau sy'n ei ddal mewn man storio dros dro; neu
(c)os yw—
(i)person y cyfeiriwyd ato yn is-baragraff (a) neu (b) wedi penodi cynrychiolydd yn ei ymwneud â'r awdurdodau tollau, o fewn ystyr “customs authorities” yn Erthygl 5 o'r Cod Tollau, a
(ii)cyfrifoldeb yn cael ei roi i'r cynrychiolydd neu fod y cynrychiolydd yn ysgwyddo cyfrifoldeb dros sicrhau bod y cynnyrch, y llwyth neu'r rhanlwyth yn destun gwiriadau milfeddygol,
yw'r cynrychiolydd hwnnw.
(6) Ar ôl—
(a)i'r cynnyrch, y llwyth neu'r rhanlwyth adael safle arolygu ar y ffin y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (4)(a); neu
(b)iddo adael, yn achos cynnyrch Erthygl 9, neu lwyth neu ranlwyth o gynhyrchion Erthygl 9, y safle arolygu ar y ffin ar gyfer cyrchfan,
y person a bennir ym mharagraff (7) yw'r person sy'n gyfrifol am y cynnyrch, y llwyth neu'r rhanlwyth.
(7) Y person y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (6) yw —
(a)y person a wnaeth ddatganiad tollau, o fewn ystyr “customs declaration” yn Erthygl 64 o'r Cod Tollau, sy'n ymdrin â'r cynnyrch, y llwyth neu'r rhanlwyth; neu
(b)os nad oes unrhyw ddatganiad tollau o'r fath wedi'i wneud eto, y person sy'n alluog i'w wneud.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 3 mewn grym ar 14.2.2007, gweler rhl. 1(2)