Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2007

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2007 a deuant i rym ar 16 Chwefror 2007.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn —

ystyr “Deddf 1972” (“the 1972 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 1972(1);

ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2000;

mae “deddfiad” (“enactment”) yn cynnwys deddfiad sydd wedi'i gynnwys mewn Deddf leol neu ddeddfiad y mae is-ddeddfwriaeth wedi'i ffurfio ohono;

mae “gweithrediaeth” i'w dehongli yn unol ag ystyr “executive” yn adran 11 o Ddeddf 2000.

Swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod

3.—(1Nid yw'r swyddogaethau a bennir yng ngholofn (1) o Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn drwy gyfeirio at y deddfiadau a bennir mewn perthynas â'r swyddogaethau hynny yng ngholofn (2) o'r atodlen honno i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod.

(2Nid yw swyddogaethau —

(a)gosod unrhyw amod, terfyn neu gyfyngiad arall ar gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded, caniatâd neu gofrestriad a ganiateir —

(i)wrth arfer swyddogaeth a bennir yng ngholofn (1) o Atodlen 1; neu

(ii)ac eithrio gan weithrediaeth i'r awdurdod, wrth arfer unrhyw swyddogaeth o dan Ddeddf leol; neu

(b)dyfarnu ar unrhyw delerau eraill y mae unrhyw gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded, caniatâd neu gofrestriad o'r fath yn ddarostyngedig iddynt,

i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.

(3Nid yw swyddogaeth dyfarnu a ddylid cymryd camau gorfodi, ac ym mha fodd y dylid eu gorfodi —

(a)yn erbyn unrhyw fethiant i gydymffurfio â chymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded, caniatâd neu gofrestriad a roddwyd wrth arfer swyddogaeth a bennir yng ngholofn (1) o Atodlen 1,

(b)yn erbyn unrhyw fethiant i gydymffurfio ag amod, cyfyngiad neu deler y mae unrhyw gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded, caniatâd neu gofrestriad o'r fath yn ddarostyngedig iddo, neu

(c)yn erbyn unrhyw doriad arall o ran mater na fyddai'r swyddogaeth ynglŷn ag ef o ddyfarnu ar gais am gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded, caniatâd neu gofrestriad yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod,

i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth yr awdurdod.

(4Nid yw swyddogaeth —

(a)diwygio, addasu neu amrywio unrhyw gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded, caniatâd neu gofrestriad a ganiateir, nac unrhyw amod, terfyn, cyfyngiad neu deler o'r math a grybwyllwyd ym mharagraff (2) ac y mae'n ddarostyngedig iddynt; neu

(b)dirymu unrhyw gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded, caniatâd neu gofrestriad o'r fath,

i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.

(5Nid yw swyddogaeth gwneud unrhyw gynllun sydd wedi'i awdurdodi neu sy'n ofynnol gan reoliadau o dan adran 18 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (cynlluniau ar gyfer lwfansau sylfaenol, lwfansau presenoldeb a lwfansau cyfrifoldeb arbennig i aelodau awdurdodau lleol), neu swyddogaeth diwygio, dirymu neu ddisodli unrhyw gynllun o'r fath, i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.

(6Nid yw swyddogaethau dyfarnu —

(a)swm unrhyw lwfans sy'n daladwy —

(i)o dan is-adran (5) o adran 22 o Ddeddf 1972 (treuliau cadeirydd);

(ii)o dan is-adran (4) o adran 24 o'r Ddeddf honno (treuliau is-gadeirydd);

(iii)o dan is-adran (4) o adran 173 (lwfans colled ariannol) o'r Ddeddf honno(2);

(iv)o dan adran 175 o'r Ddeddf honno (lwfansau ar gyfer mynychu cynadleddau a chyfarfodydd);

(b)yn ôl pa gyfraddau y mae taliadau i gael eu gwneud o dan adran 174 o'r Ddeddf honno (lwfansau teithio a lwfansau cynhaliaeth);

(c)swm unrhyw lwfans sy'n daladwy yn unol â chynllun o dan adran 18 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989, neu reoliadau a wnaed o dan adran 100 o Ddeddf 2000, neu yn ôl pa gyfraddau y mae taliadau o ran unrhyw lwfans o'r fath i gael eu gwneud;

(ch)a ddylid codi tâl am unrhyw gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded neu gofrestriad nad yw ei dyroddi neu ei ddyroddi yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod; a

(d)pan fo tâl yn cael ei godi am unrhyw gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded neu gofrestriad o'r fath, swm y tâl;

i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.

(7Ni fydd adran 101 o Ddeddf 1972 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau gan awdurdodau lleol) yn gymwys mewn perthynas â chyflawni unrhyw swyddogaeth a grybwyllir ym mharagraff (5) neu (6)(a) i (c).

(8Yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth mewn rheoliadau o dan adran 20 (gweithredu swyddogaethau ar y cyd) o Ddeddf 2000, nid yw swyddogaeth gwneud trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau gan bwyllgor neu swyddog o dan adran 101(5) o Ddeddf 1972, i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.

(9Nid yw swyddogaeth gwneud penodiadau o dan adran 102 (penodi pwyllgorau) o Ddeddf 1972 i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.

(10Oni ddarperir fel arall gan y Rheoliadau hyn, nid yw swyddogaeth awdurdod lleol y caniateir, yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad (a basiwyd neu a wnaed cyn i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud) iddi gael ei chyflawni gan awdurdod yn unig, i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.

Swyddogaethau y caniateir iddynt fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod

4.—(1Caniateir i'r y swyddogaethau a bennir yn Atodlen 2 fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod, ond nid oes angen iddynt fod felly.

(2Ni fydd dim yn y Rheoliadau hyn yn atal awdurdod lleol rhag arfer y swyddogaethau hynny sydd wedi'u dirprwyo i weithrediaeth i'r awdurdod.

Swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod yn unig

5.—(1Mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaeth —

(a)llunio neu baratoi cynllun neu strategaeth o ddisgrifiad a bennir yn ngholofn (1) o Atodlen 3 i'r Rheoliadau hyn;

(b)llunio cynllun neu strategaeth ar gyfer rheoli benthyciadau neu wariant cyfalaf yr awdurdod; neu

(c)llunio neu baratoi unrhyw gynllun arall y mae ei fabwysiadu neu ei gymeradwyo neu strategaeth arall y mae ei mabwysiadu neu ei chymeradwyo, yn rhinwedd rheoliad 6(1), yn fater i'r awdurdod ddyfarnu arno;

rhaid i'r camau a ddynodir gan baragraff (3) (“y camau dynodedig”) beidio â bod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.

(2Ac eithrio fel a ddarperir ym mharagraff (1), cyfrifoldeb gweithrediaeth yw'r swyddogaethau a grybwyllwyd yn y paragraff hwnnw.

(3Y camau dynodedig yw —

(a)rhoi cyfarwyddiadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i weithrediaeth ailystyried unrhyw gynllun drafft neu strategaeth ddrafft a gyflwynir gan weithrediaeth i'r awdurdod ei ystyried neu ei hystyried;

(b)diwygio unrhyw gynllun drafft neu strategaeth ddrafft a gyflwynir gan weithrediaeth i'r awdurdod ei ystyried neu ei hystyried;

(c)cymeradwyo, er mwyn ei gyflwyno neu ei chyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu i unrhyw un o Weinidogion y Goron, unrhyw gynllun neu strategaeth (boed ar ffurf drafft neu beidio) y mae'n ofynnol cyflwyno unrhyw ran ohono neu ohoni felly;

(ch)mabwysiadu'r cynllun neu'r strategaeth (gydag addasiadau neu hebddynt).

(4O ran swyddogaeth diwygio, addasu, amrywio neu ddiddymu unrhyw gynllun neu strategaeth o ddisgrifiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1), (p'un a yw'n gynllun neu strategaeth a gymeradwywyd neu'n un a fabwysiadwyd, cyn neu ar ôl i'r Rheoliadau hyn ddod i rym) —

(a)mae'n gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod i'r graddau y mae gwneud y diwygio, yr addasu, yr amrywio neu'r dirymu —

(i)yn ofynnol er mwyn rhoi eu heffaith i ofynion Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu un o Weinidogion y Goron mewn perthynas â chynllun neu strategaeth a gyflwynir i gael ei gymeradwyo neu ei chymeradwyo, neu ag unrhyw ran a gyflwynir felly; neu

(ii)wedi'i awdurdodi drwy ddyfarniad a wnaed gan yr awdurdod wrth wneud y trefniadau neu gymeradwyo neu fabwysiadu'r cynllun neu'r strategaeth, yn ôl y digwydd; ond

(b)nid yw'n gyfrifoldeb i weithrediaeth i unrhyw raddau eraill.

(5Ac eithrio i'r graddau a grybwyllir ym mharagraff (6), mae swyddogaeth gwneud cais —

(a)o dan is-adran (5) o adran 135 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 (rhaglenni ar gyfer gwaredu) (3); neu

(b)o dan adran 32 (pŵer i waredu tir a ddelir at ddibenion Rhan II neu adran 43 (cydsyniad sy'n ofynnol ar gyfer gwarediadau penodol nad ydynt yn dod o dan adran 32) o Ddeddf Tai 1985(4),

i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.

(6Awdurdodi gwneud y cais yw'r graddau a grybwyllir yn y paragraff hwn.

(7Nid yw swyddogaeth gwneud cais o'r math y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (5), i'r graddau a grybwyllwyd ym mharagraff (6), yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.

(8Ni fydd adran 101 o Ddeddf 1972 yn gymwys ynglŷn â chyflawni —

(a)swyddogaeth a bennir ym mharagraff (1) i'r graddau nad yw'n gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod yn rhinwedd y paragraff hwnnw;

(b)y swyddogaethau a bennir ym mharagraffau (4) a (5) i'r graddau nad ydynt yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.

(9Mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaeth—

(a)yn ddarostyngedig i'r darpariaethau ynglŷn â chyfrifo sylfaen treth gyngor ym mharagraff 22 o Atodlen 2, cyfrifo yn unol ag unrhyw un o adrannau 32 i 37, 43 i 51, 52I, 52J, 52T a 52U o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992(5), p'un ai drwy'r adran wreiddiol neu drwy gyfrwng adran amnewid; neu

(b)dyroddi praesept o dan Bennod IV o Ran 1 o'r Ddeddf honno,

mae'r camau a ddynodir gan baragraff (11) (“y camau dynodedig”) yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.

(10Yn ddarostyngedig i'r hyn a ddarperir ym mharagraff (9), nid cyfrifoldeb gweithrediaeth yw'r swyddogaeth a grybwyllwyd yn y paragraff hwnnw.

(11Y camau dynodedig yw —

(a)paratoi'r canlynol, er mwyn eu cyflwyno i'r awdurdod eu hystyried —

(i)amcangyfrifon o'r symiau sydd i'w hagregu wrth gyfrifo neu amcangyfrifon o symiau eraill sydd i'w defnyddio at ddibenion y cyfrifo;

(ii)y symiau y mae'n ofynnol eu datgan yn y praesept;

(b)ailystyried yr amcangyfrifon a'r symiau hynny yn unol â gofynion yr awdurdod;

(c)cyflwyno amcangyfrifon a symiau diwygiedig i'r awdurdod eu hystyried.

Cyflawni swyddogaethau penodedig gan awdurdodau

6.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i swyddogaeth o unrhyw un o'r disgrifiadau a bennir yng ngholofn (1) o Atodlen 4 (a allai, oni bai am y paragraff hwn, fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod) beidio â bod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth o dan yr amgylchiadau a bennir yng ngholofn (2) mewn perthynas â'r swyddogaeth honno.

(2Ni fydd paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â chyflawni swyddogaeth o'r disgrifiad a bennir ym mharagraff 3 o golofn (1) o Atodlen 4 —

(a)pan fo'n rhesymol barnu bod yr amgylchiadau, sy'n peri iddi fod yn angenrheidiol gwneud y dyfarniad, yn amgylchiadau brys; a

(b)pan fo'r unigolyn neu'r corff y mae'r dyfarniad i'w wneud ganddo wedi cael oddi wrth gadeirydd pwyllgor craffu perthnasol neu, os nad oes person o'r fath neu os yw cadeirydd pob pwyllgor craffu perthnasol yn methu gweithredu neu'n anfodlon gweithredu, oddi wrth gadeirydd yr awdurdod neu, yn absenoldeb y person hwnnw, oddi wrth yr is-gadeirydd, ddatganiad mewn ysgrifen bod angen i'r penderfyniad gael ei wneud ar frys.

(3Ym mharagraff (2) ystyr “pwyllgor craffu perthnasol” yw pwyllgor craffu i'r awdurdod y mae ei gylch gwaith yn cynnwys y pŵer i adolygu neu i graffu ar benderfyniadau neu gamau eraill a gymerwyd wrth gyflawni'r swyddogaeth y mae'r dyfarniad yn ymwneud â hi.

(4Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i ddyfarniad gael ei wneud, rhaid i'r unigolyn neu'r corff y gwneir y dyfarniad ganddo yn unol â pharagraff (2), gyflwyno i'r awdurdod adroddiad y mae'n rhaid iddo gynnwys manylion —

(a)y dyfarniad;

(b)yr argyfwng neu'r amgylchiadau eraill y cafodd ei wneud odano neu odanynt; ac

(c)y rhesymau dros y dyfarniad.

(5Nid yw adran 101 o Ddeddf 1972 yn gymwys mewn perthynas â chyflawni swyddogaeth y cyfeiriwyd ati ym mharagraff (1) nad yw, yn rhinwedd y paragraff hwnnw, yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.

Dirymu

7.  Mae'r canlynol wedi'u dirymu—

(a)Rheoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2001(6);

(b)Rheoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Diwygio) (Cymru) 2002(7);

(c)Rheoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Diwygio) (Cymru) 2003(8); ac

(ch)Rheoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Diwygio) (Cymru) 2004 (9).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(10).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

14 Chwefror 2007

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill