- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
3.—(1) Nid yw'r swyddogaethau a bennir yng ngholofn (1) o Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn drwy gyfeirio at y deddfiadau a bennir mewn perthynas â'r swyddogaethau hynny yng ngholofn (2) o'r atodlen honno i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod.
(2) Nid yw swyddogaethau —
(a)gosod unrhyw amod, terfyn neu gyfyngiad arall ar gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded, caniatâd neu gofrestriad a ganiateir —
(i)wrth arfer swyddogaeth a bennir yng ngholofn (1) o Atodlen 1; neu
(ii)ac eithrio gan weithrediaeth i'r awdurdod, wrth arfer unrhyw swyddogaeth o dan Ddeddf leol; neu
(b)dyfarnu ar unrhyw delerau eraill y mae unrhyw gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded, caniatâd neu gofrestriad o'r fath yn ddarostyngedig iddynt,
i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.
(3) Nid yw swyddogaeth dyfarnu a ddylid cymryd camau gorfodi, ac ym mha fodd y dylid eu gorfodi —
(a)yn erbyn unrhyw fethiant i gydymffurfio â chymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded, caniatâd neu gofrestriad a roddwyd wrth arfer swyddogaeth a bennir yng ngholofn (1) o Atodlen 1,
(b)yn erbyn unrhyw fethiant i gydymffurfio ag amod, cyfyngiad neu deler y mae unrhyw gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded, caniatâd neu gofrestriad o'r fath yn ddarostyngedig iddo, neu
(c)yn erbyn unrhyw doriad arall o ran mater na fyddai'r swyddogaeth ynglŷn ag ef o ddyfarnu ar gais am gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded, caniatâd neu gofrestriad yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod,
i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth yr awdurdod.
(4) Nid yw swyddogaeth —
(a)diwygio, addasu neu amrywio unrhyw gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded, caniatâd neu gofrestriad a ganiateir, nac unrhyw amod, terfyn, cyfyngiad neu deler o'r math a grybwyllwyd ym mharagraff (2) ac y mae'n ddarostyngedig iddynt; neu
(b)dirymu unrhyw gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded, caniatâd neu gofrestriad o'r fath,
i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.
(5) Nid yw swyddogaeth gwneud unrhyw gynllun sydd wedi'i awdurdodi neu sy'n ofynnol gan reoliadau o dan adran 18 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (cynlluniau ar gyfer lwfansau sylfaenol, lwfansau presenoldeb a lwfansau cyfrifoldeb arbennig i aelodau awdurdodau lleol), neu swyddogaeth diwygio, dirymu neu ddisodli unrhyw gynllun o'r fath, i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.
(6) Nid yw swyddogaethau dyfarnu —
(a)swm unrhyw lwfans sy'n daladwy —
(i)o dan is-adran (5) o adran 22 o Ddeddf 1972 (treuliau cadeirydd);
(ii)o dan is-adran (4) o adran 24 o'r Ddeddf honno (treuliau is-gadeirydd);
(iii)o dan is-adran (4) o adran 173 (lwfans colled ariannol) o'r Ddeddf honno(1);
(iv)o dan adran 175 o'r Ddeddf honno (lwfansau ar gyfer mynychu cynadleddau a chyfarfodydd);
(b)yn ôl pa gyfraddau y mae taliadau i gael eu gwneud o dan adran 174 o'r Ddeddf honno (lwfansau teithio a lwfansau cynhaliaeth);
(c)swm unrhyw lwfans sy'n daladwy yn unol â chynllun o dan adran 18 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989, neu reoliadau a wnaed o dan adran 100 o Ddeddf 2000, neu yn ôl pa gyfraddau y mae taliadau o ran unrhyw lwfans o'r fath i gael eu gwneud;
(ch)a ddylid codi tâl am unrhyw gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded neu gofrestriad nad yw ei dyroddi neu ei ddyroddi yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod; a
(d)pan fo tâl yn cael ei godi am unrhyw gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded neu gofrestriad o'r fath, swm y tâl;
i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.
(7) Ni fydd adran 101 o Ddeddf 1972 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau gan awdurdodau lleol) yn gymwys mewn perthynas â chyflawni unrhyw swyddogaeth a grybwyllir ym mharagraff (5) neu (6)(a) i (c).
(8) Yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth mewn rheoliadau o dan adran 20 (gweithredu swyddogaethau ar y cyd) o Ddeddf 2000, nid yw swyddogaeth gwneud trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau gan bwyllgor neu swyddog o dan adran 101(5) o Ddeddf 1972, i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.
(9) Nid yw swyddogaeth gwneud penodiadau o dan adran 102 (penodi pwyllgorau) o Ddeddf 1972 i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.
(10) Oni ddarperir fel arall gan y Rheoliadau hyn, nid yw swyddogaeth awdurdod lleol y caniateir, yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad (a basiwyd neu a wnaed cyn i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud) iddi gael ei chyflawni gan awdurdod yn unig, i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.
Diwygiwyd adran 173(4) gan Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42), Atodlen 11, paragraff 26. Gwnaed arbediad perthnasol gan erthygl 3(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (Cychwyn Rhif 11 ac Arbedion) 1991 (O.S. 1991/344).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys