Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2007

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod yn unig

5.—(1Mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaeth —

(a)llunio neu baratoi cynllun neu strategaeth o ddisgrifiad a bennir yn ngholofn (1) o Atodlen 3 i'r Rheoliadau hyn;

(b)llunio cynllun neu strategaeth ar gyfer rheoli benthyciadau neu wariant cyfalaf yr awdurdod; neu

(c)llunio neu baratoi unrhyw gynllun arall y mae ei fabwysiadu neu ei gymeradwyo neu strategaeth arall y mae ei mabwysiadu neu ei chymeradwyo, yn rhinwedd rheoliad 6(1), yn fater i'r awdurdod ddyfarnu arno;

rhaid i'r camau a ddynodir gan baragraff (3) (“y camau dynodedig”) beidio â bod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.

(2Ac eithrio fel a ddarperir ym mharagraff (1), cyfrifoldeb gweithrediaeth yw'r swyddogaethau a grybwyllwyd yn y paragraff hwnnw.

(3Y camau dynodedig yw —

(a)rhoi cyfarwyddiadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i weithrediaeth ailystyried unrhyw gynllun drafft neu strategaeth ddrafft a gyflwynir gan weithrediaeth i'r awdurdod ei ystyried neu ei hystyried;

(b)diwygio unrhyw gynllun drafft neu strategaeth ddrafft a gyflwynir gan weithrediaeth i'r awdurdod ei ystyried neu ei hystyried;

(c)cymeradwyo, er mwyn ei gyflwyno neu ei chyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu i unrhyw un o Weinidogion y Goron, unrhyw gynllun neu strategaeth (boed ar ffurf drafft neu beidio) y mae'n ofynnol cyflwyno unrhyw ran ohono neu ohoni felly;

(ch)mabwysiadu'r cynllun neu'r strategaeth (gydag addasiadau neu hebddynt).

(4O ran swyddogaeth diwygio, addasu, amrywio neu ddiddymu unrhyw gynllun neu strategaeth o ddisgrifiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1), (p'un a yw'n gynllun neu strategaeth a gymeradwywyd neu'n un a fabwysiadwyd, cyn neu ar ôl i'r Rheoliadau hyn ddod i rym) —

(a)mae'n gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod i'r graddau y mae gwneud y diwygio, yr addasu, yr amrywio neu'r dirymu —

(i)yn ofynnol er mwyn rhoi eu heffaith i ofynion Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu un o Weinidogion y Goron mewn perthynas â chynllun neu strategaeth a gyflwynir i gael ei gymeradwyo neu ei chymeradwyo, neu ag unrhyw ran a gyflwynir felly; neu

(ii)wedi'i awdurdodi drwy ddyfarniad a wnaed gan yr awdurdod wrth wneud y trefniadau neu gymeradwyo neu fabwysiadu'r cynllun neu'r strategaeth, yn ôl y digwydd; ond

(b)nid yw'n gyfrifoldeb i weithrediaeth i unrhyw raddau eraill.

(5Ac eithrio i'r graddau a grybwyllir ym mharagraff (6), mae swyddogaeth gwneud cais —

(a)o dan is-adran (5) o adran 135 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 (rhaglenni ar gyfer gwaredu) (1); neu

(b)o dan adran 32 (pŵer i waredu tir a ddelir at ddibenion Rhan II neu adran 43 (cydsyniad sy'n ofynnol ar gyfer gwarediadau penodol nad ydynt yn dod o dan adran 32) o Ddeddf Tai 1985(2),

i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.

(6Awdurdodi gwneud y cais yw'r graddau a grybwyllir yn y paragraff hwn.

(7Nid yw swyddogaeth gwneud cais o'r math y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (5), i'r graddau a grybwyllwyd ym mharagraff (6), yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.

(8Ni fydd adran 101 o Ddeddf 1972 yn gymwys ynglŷn â chyflawni —

(a)swyddogaeth a bennir ym mharagraff (1) i'r graddau nad yw'n gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod yn rhinwedd y paragraff hwnnw;

(b)y swyddogaethau a bennir ym mharagraffau (4) a (5) i'r graddau nad ydynt yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.

(9Mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaeth—

(a)yn ddarostyngedig i'r darpariaethau ynglŷn â chyfrifo sylfaen treth gyngor ym mharagraff 22 o Atodlen 2, cyfrifo yn unol ag unrhyw un o adrannau 32 i 37, 43 i 51, 52I, 52J, 52T a 52U o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992(3), p'un ai drwy'r adran wreiddiol neu drwy gyfrwng adran amnewid; neu

(b)dyroddi praesept o dan Bennod IV o Ran 1 o'r Ddeddf honno,

mae'r camau a ddynodir gan baragraff (11) (“y camau dynodedig”) yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.

(10Yn ddarostyngedig i'r hyn a ddarperir ym mharagraff (9), nid cyfrifoldeb gweithrediaeth yw'r swyddogaeth a grybwyllwyd yn y paragraff hwnnw.

(11Y camau dynodedig yw —

(a)paratoi'r canlynol, er mwyn eu cyflwyno i'r awdurdod eu hystyried —

(i)amcangyfrifon o'r symiau sydd i'w hagregu wrth gyfrifo neu amcangyfrifon o symiau eraill sydd i'w defnyddio at ddibenion y cyfrifo;

(ii)y symiau y mae'n ofynnol eu datgan yn y praesept;

(b)ailystyried yr amcangyfrifon a'r symiau hynny yn unol â gofynion yr awdurdod;

(c)cyflwyno amcangyfrifon a symiau diwygiedig i'r awdurdod eu hystyried.

(1)

1993 p.28, sef Deddf y mae diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(2)

1985 p.68. Yr oedd diwygiadau perthnasol yn is-adran (3) o adran 32 ac is-adran (1)(a) o adran 43 wedi'u gwneud gan baragraff 3(a), (d) ac (e) o'r Atodlen i O.S. 1997/74.

(3)

1992 p.14; mewnosodwyd adrannau 52I, 52J, 52T a 52U gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 (p.27), Atodlen 1, paragraff 1.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill