- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Rheoliad 6
(1) | (2) |
---|---|
Y swyddogaeth | Yr amgylchiadau |
1. Mabwysiadu neu gymeradwyo cynllun neu strategaeth (p'un a yw'n statudol neu'n anstatudol), ac eithrio cynllun neu strategaeth i reoli benthyciadau neu wariant cyfalaf yr awdurdod neu gynllun y cyfeirir ato neu strategaeth y cyfeirir ati yn Atodlen 3. | Mae'r awdurdod yn dyfarnu mai ef ddylai benderfynu a ddylid mabwysiadu neu gymeradwyo'r cynllun neu'r strategaeth. |
2. Dyfarnu ar unrhyw fater wrth gyflawni swyddogaeth — (a)sy'n gyfrifoldeb i'r weithrediaeth; a (b)sy'n ymwneud â chyllideb yr awdurdod, neu ei fenthyciadau neu ei wariant cyfalaf. | Mae'r unigolyn neu'r corff y mae'r dyfarniad i gael ei wneud ganddo yn rhinwedd unrhyw un o adrannau 14 i 17 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 neu unrhyw ddarpariaeth a wneir o dan adran 18 neu 20 o'r Ddeddf honno — (a) o blaid dyfarnu ar y mater yn groes i'r canlynol neu heb fod yn gyfan gwbl unol â hwy — (i) cyllideb yr awdurdod; neu (ii) y cynllun neu'r strategaeth a gymeradwy-wyd neu a fabwysiadwyd am y tro gan yr awdurdod mewn perthynas â'i fenthyciadau neu ei wariant cyfalaf; a (b) heb ei awdurdodi o dan drefniadau gweithrediaeth yr awdurdod, ei reoliadau ariannol, ei reolau sefydlog neu ei reolau neu ei weithdrefnau eraill i wneud dyfarniad yn y termau hynny. |
3. Dyfarnu ar unrhyw fater wrth gyflawni swyddogaeth — (a)sy'n gyfrifoldeb i'r weithrediaeth; a (b)y mae'r awdurdod wedi mabwysiadu neu wedi cymeradwyo cynllun neu strategaeth (p'un a yw'n statudol neu'n anstatudol ) mewn perthynas â hi. | Mae'r unigolyn neu'r corff y mae'r dyfarniad i gael ei wneud ganddo yn rhinwedd unrhyw un o adrannau 14 i 17 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 neu ddarpariaeth a wneir o dan adran 18 neu 20 o'r Ddeddf honno, o blaid dyfarnu ar y mater mewn termau sy'n groes i'r cynllun neu, yn ôl y digwydd, i'r strategaeth a fabwysiadwyd neu a gymeradwywyd gan yr awdurdod. |
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys