Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2007

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2007 Rhif 944 (Cy.80)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2007

Wedi'u gwneud

20 Mawrth 2007

Yn dod i rym

29 Mawrth 2007

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 72 a 138(7) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(1) ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru a'r pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 19(3), 34(5), 35(4) a (5), 36(4) a (5), 210(7) a 214 o Ddeddf Addysg 2002(2):

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2007 a deuant i rym ar 29 Mawrth 2007.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Gwerthuso Athrawon Ysgol (Cymru) 2002

2.  Yn rheoliad 17(2) o Reoliadau Gwerthuso Athrawon Ysgol (Cymru) 2002(3), yn lle “pharagraff 23 o Atodlen 16 a pharagraff 22 o Atodlen 17 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998” rhodder “rheoliad 6 o Reoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006”.

Diwygio Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005

3.—(1Yn rheoliad 50(1) o Reoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005(4), hepgorer y geiriau “a rheoliadau 12 a 21 o Reoliadau Staffio Ysgolion (Cymru) 2005”.

(2Yn rheoliad 51(1) yn lle “10 a 24” rhodder “10(9) i (20), 24(8) i (19) a 34”.

Diwygio Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006

4.—(1Diwygier Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006(5) yn unol â'r rheoliad hwn.

(2Yn rheoliad 3(1) mewnosoder y diffiniad canlynol yn y lle priodol yn ôl trefn yr wyddor—

  • mae i'r term “busnes cyflogaeth” yr ystyr a roddir i “employment business” gan adran 13(3) o Ddeddf Asiantaethau Cyflogaeth 1973 ac mae'n cynnwys awdurdod lleol a pherson sy'n cynnal busnes cyflogaeth;

  • ystyr “corff llywodraethu” (“governing body”) yw corff llywodraethu ysgol a gynhelir y mae'r rheoliad sy'n cynnwys yr ymadrodd hwnnw'n gymwys iddi;

  • mae i'r term “datganiad o addasrwydd plant” yr ystyr a roddir i “children’s suitability statement” gan adran 113C(2) o Ddeddf yr Heddlu 1997.

(3Ar ôl paragraff (4) yn rheoliad 3 mewnosoder —

(5) Yn y Rheoliadau hyn mae unrhyw gyfeiriad at —

(a)rheoliad â Rhif yn gyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn;

(b)paragraff â Rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y rheoliad yr ymddengys y cyfeiriad ynddo.

(6) Mae rheoliadau 4 i 7 yn gymwys i —

(a)ysgolion cymunedol;

(b)ysgolion gwirfoddol a reolir;

(c)ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir;

(ch)ysgolion sefydledig;

(d)ysgolion arbennig cymunedol;

(dd)ysgolion arbennig sefydledig; a

(e)ysgolion meithrin a gynhelir.

(7) At ddibenion y rheoliadau hyn mae person yn gwneud cais am dystysgrif fanwl o gofnod troseddol os bydd y person yn cydlofnodi cais am y dystysgrif fel person cofrestredig (o fewn ystyr adran 120 o Ddeddf yr Heddlu 1997) neu os cydlofnodir cais ar ei ran, a bod y cais yn cael ei gyflwyno i'r Ysgrifennydd Gwladol yn unol â Rhan V o'r Ddeddf honno..

(4Yn rheoliad 4(1), yn lle “Mewn unrhyw ysgol mae'n rhaid cyflogi, neu gymryd ymlaen heblaw o dan gontractau cyflogaeth, staff sy'n addas” rhodder “Rhaid i gorff llywodraethu ac awdurdod addysg lleol arfer eu swyddogaethau perthnasol o dan y Rheoliadau hyn ac o dan unrhyw ddeddfiad arall er mwyn sicrhau bod staff yn cael eu cyflogi, neu eu cymryd ymlaen o dan gontractau cyflogaeth, sy'n addas”.

(5Ar ôl rheoliad 9 mewnosoder y canlynol—

Gwirio cofnod troseddol ar aelodau staff

9A.(1) Rhaid i'r awdurdod wirio pwy yw unrhyw berson a benodir o dan reoliadau 10, 12 neu 15 a rhaid i'r awdurdod wirio'i hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig.

(2) Rhaid i'r awdurdod gael tystysgrif fanwl o gofnod troseddol a ddyroddwyd yn unol â Rhan V o Ddeddf yr Heddlu 1997 ynglŷn â phob person o'r fath cyn ei benodi neu cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl ei benodi, a rhaid anfon datganiad o addasrwydd plant gyda chais am dystysgrif o'r fath.

(3) Yn achos unrhyw berson o'r fath, am ei fod wedi byw y tu allan i'r Deyrnas Unedig, nad yw cael tystysgrif o'r fath ar ei gyfer yn ddigonol i gadarnhau ei addasrwydd i weithio mewn ysgol, rhaid i'r awdurdod wneud gwiriadau pellach y mae o'r farn eu bod yn briodol, gan roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(4) Rhaid cwblhau'r gwiriadau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1) a (3) cyn penodi person.

(5) Nid yw paragraffau (2) a (3) yn gymwys i berson sydd wedi gweithio—

(a)mewn ysgol yng Nghymru mewn swydd a ddaeth ag ef i gyswllt rheolaidd â phlant neu bobl ifanc, neu

(b)mewn sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru yr oedd ei swydd yn golygu darparu addysg a oedd yn dod ag ef yn rheolaidd i gyswllt â phlant neu bobl ifanc,

yn ystod cyfnod a ddaeth i ben heb fod yn fwy na thri mis cyn ei benodiad..

(6Ar ôl rheoliad 9A mewnosoder y canlynol—

Gwirio cofnod troseddol aelodau staff a benodwyd gan yr awdurdod —

9B.  Mae rheoliad 9A hefyd yn gymwys o ran unrhyw berson a benodir gan yr awdurdod er mwyn gweithio mewn ysgol y mae'r Rhan hon neu Ran 3 yn gymwys iddi..

(7Yn rheoliadau 12(1) a 12(2) yn lle “(3) i (7)” rhodder “(6) to (14)”.

(8Yn rheoliad 12(6) yn lle “paragraffau (7) i (16)” rhodder “paragraffau (7) i (14)”.

(9Ar ôl rheoliad 14 mewnosoder y canlynol—

Staff cyflenwi

15A.(1) Ni chaiff unrhyw berson sy'n cael ei gyflenwi gan fusnes cyflogaeth i ysgol ddechrau gweithio fel athro neu athrawes neu aelod o staff cymorth yn yr ysgol oni fydd yr awdurdod neu (yn ôl y digwydd) y corff llywodraethu wedi cael—

(a)hysbysiad ysgrifenedig oddi wrth y busnes cyflogaeth ynglŷn â'r person hwnnw—

(i)bod y gwiriadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (6) wedi cael eu gwneud;

(ii)bod cais am dystysgrif fanwl o gofnod troseddol ynghyd â datganiad o addasrwydd plant wedi cael ei wneud, neu fod tystysgrif o'r fath wedi dod i law mewn ymateb i gais a wnaed gan y busnes cyflogaeth hwnnw neu gan fusnes cyflogaeth arall; a

(iii)p'un a oedd yn datgelu, os cafodd y busnes cyflogaeth dystysgrif o'r fath cyn bod y person i ddechrau gweithio yn yr ysgol, unrhyw fater neu wybodaeth, neu a roddwyd unrhyw wybodaeth i'r busnes cyflogaeth yn unol ag adran 113B(6) o Ddeddf yr Heddlu 1997; a

(b)os cafodd y busnes cyflogaeth dystysgrif fanwl o gofnod troseddol cyn bod y person i ddechrau gweithio yn yr ysgol, a bod honno'n datgelu unrhyw fater neu wybodaeth, neu os rhoddwyd unrhyw wybodaeth i'r busnes cyflogaeth yn unol ag adran 113B(6) o Ddeddf yr Heddlu 1997, copi o'r dystysgrif.

(2) Ac eithrio yn achos person y mae paragraff (3) yn gymwys iddo rhaid bod y dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff (1)(a)(ii) wedi dod i law ddim llai na thri mis cyn y dyddiad y mae'r person i ddechrau gweithio yn yr ysgol.

(3) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i berson sydd wedi gweithio—

(a)mewn ysgol yng Nghymru mewn swydd a ddaeth ag ef i gyswllt rheolaidd â phlant neu bobl ifanc, neu

(b)mewn sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru yr oedd ei swydd yn golygu darparu addysg a oedd yn dod ag ef yn rheolaidd i gyswllt â phlant neu bobl ifanc,

yn ystod cyfnod a ddaeth i ben heb fod yn fwy na thri mis cyn y dyddiad y mae i ddechrau gweithio yn yr ysgol.

(4) Cyn y caiff person a gynigir ar gyfer gwaith cyflenwi gan fusnes cyflogaeth ddechrau gweithio yn yr ysgol rhaid i'r corff llywodraethu yn yr ysgol wirio pwy ydyw (p'un a wnaed gwiriad o'r fath gan y busnes cyflogaeth cyn cynnig y person am waith cyflenwi ai peidio).

(5) Rhaid i'r awdurdod neu (yn ôl y digwydd) y corff llywodraethu yn y contract neu mewn unrhyw drefniadau eraill y mae'n ei wneud neu eu gwneud gydag unrhyw fusnes cyflogaeth ei gwneud yn ofynnol iddo, o ran unrhyw berson y mae'r busnes cyflogaeth yn ei gyflenwi ar gyfer yr ysgol—

(a)darparu'r hysbysrwydd y cyfeirir ato ym mharagraff (1), a

(b)os bydd unrhyw dystysgrif fanwl o gofnod troseddol y bydd y busnes cyflogaeth yn ei chael yn cynnwys unrhyw fater neu wybodaeth, neu os cafodd unrhyw wybodaeth ei rhoi i'r busnes cyflogaeth yn unol ag adran 113B(6) o Ddeddf yr Heddlu 1997, ddarparu copi o'r dystysgrif.

(6) At ddibenion paragraff (1)(a)(i) ystyr “gwiriadau” yw—

(a)gwirio pwy yw rhywun;

(b)gwiriad i gadarnhau os yw person yn destun cyfarwyddyd a wnaed o dan adran 142 o Ddeddf Addysg 2002 neu unrhyw waharddiad, cyfyngiad neu orchymyn sy'n cael effaith fel cyfarwyddyd o'r fath;

(c)gwiriad i gadarnhau a yw'n bodloni'r gofynion ynglyn â gofynion cymhwyster unrhyw staff;

(ch)gwiriad yn unol â rheoliad 9A(3);

(d)bod tystysgrif fanwl o gofnod troseddol yn ei gylch wedi dod i law; a

(dd)gwiriad o'i hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig..

(10Ar ôl rheoliad 18 mewnosoder y canlynol—

Gwiriadau wrth newid swydd

18A.  Pan fydd aelod o staff ysgol yn symud o swydd nad oedd yn ei ddwyn i gyswllt yn rheolaidd â phlant neu bobl ifanc i swydd sydd yn gwneud hynny, rhaid i'r awdurdod gael tystysgrif fanwl o gofnod troseddol ynglyn ag ef cyn iddo symud i'w swydd newydd neu cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl hynny, a rhaid anfon datganiad o addasrwydd plant gyda chais am dystysgrif o'r fath..

(11Ar ôl rheoliad 20 mewnosoder y canlynol—

Gwiriadau cofnod troseddol ar gyfer aelodau staff

20A.(1) Rhaid i'r corff llywodraethu wirio pwy yw unrhyw berson a benodir o dan reoliadau 24, 26 a 27 a rhaid i'r corff llywodraethu wirio'i hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig.

(2) Rhaid i'r corff llywodraethu gael tystysgrif fanwl o gofnod troseddol a ddyroddwyd yn unol â Rhan V o Ddeddf yr Heddlu 1997 ynglŷn â phob person o'r fath cyn ei benodi neu cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl ei benodi, a rhaid anfon datganiad o addasrwydd plant gyda chais am dystysgrif o'r fath.

(3) Yn achos unrhyw berson o'r fath, am ei fod wedi byw y tu allan i'r Deyrnas Unedig, nad yw cael tystysgrif o'r fath ar ei gyfer yn ddigonol i gadarnhau ei addasrwydd i weithio mewn ysgol, rhaid i'r corff llywodraethu wneud gwiriadau pellach y mae o'r farn eu bod yn briodol, gan roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(4) Rhaid cwblhau'r gwiriadau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1) a (3) cyn penodi person.

(5) Nid yw paragraffau (2) a (3) yn gymwys i berson sydd wedi gweithio—

(a)mewn ysgol yng Nghymru mewn swydd a ddaeth ag ef i gyswllt rheolaidd â phlant neu bobl ifanc, neu

(b)mewn sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru yr oedd ei swydd yn golygu darparu addysg a oedd yn dod ag ef yn rheolaidd i gyswllt â phlant neu bobl ifanc,

yn ystod cyfnod a ddaeth i ben heb fod yn fwy na thri mis cyn ei benodiad..

(12Yn rheoliad 21(1)(a) yn lle “24 neu 26(12) i (16)” rhodder “24 i 25 neu 33 a 34”.

(13Ar ôl rheoliad 24 mewnosoder y canlynol—

“Staff cyflenwi

24A.—(1Ni chaiff unrhyw berson sy'n cael ei gyflenwi gan fusnes cyflogaeth i ysgol ddechrau gweithio fel athro neu athrawes neu aelod o staff cymorth yn yr ysgol oni fydd y corff llywodraethu wedi cael—

(a)hysbysiad ysgrifenedig oddi wrth y busnes cyflogaeth ynglyn â'r person hwnnw—

(i)bod y gwiriadau y cyfeirir atynt ym mharagraff 15A(6) wedi cael eu gwneud;

(ii)bod cais am dystysgrif fanwl o gofnod troseddol ynghyd â datganiad o addasrwydd plant wedi cael ei wneud, neu fod tystysgrif o'r fath wedi dod i law mewn ymateb i gais a wnaed gan y busnes cyflogaeth hwnnw neu gan fusnes cyflogaeth arall; a

(iii)p'un a oedd yn datgelu, os cafodd y busnes cyflogaeth dystysgrif o'r fath cyn bod y person i ddechrau gweithio yn yr ysgol, unrhyw fater neu wybodaeth, neu a roddwyd unrhyw wybodaeth i'r busnes cyflogaeth yn unol ag adran 113B(6) o Ddeddf yr Heddlu 1997; a

(b)os cafodd y busnes cyflogaeth dystysgrif fanwl o gofnod troseddol cyn bod y person i ddechrau gweithio yn yr ysgol, a bod honno'n datgelu unrhyw fater neu wybodaeth, neu os rhoddwyd unrhyw wybodaeth i'r busnes cyflogaeth yn unol ag adran 113B(6) o Ddeddf yr Heddlu 1997, copi o'r dystysgrif.

(2Ac eithrio yn achos person y mae paragraff (3) yn gymwys iddo rhaid bod y dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff (1)(a)(ii) wedi dod i law ddim llai na thri mis cyn y dyddiad y mae'r person i ddechrau gweithio yn yr ysgol.

(3Mae'r paragraff hwn yn gymwys i berson sydd wedi gweithio—

(a)mewn ysgol yng Nghymru mewn swydd a ddaeth ag ef i gyswllt rheolaidd â phlant neu bobl ifanc, neu

(b)mewn sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru yr oedd ei swydd yn golygu darparu addysg a oedd yn dod ag ef yn rheolaidd i gyswllt â phlant neu bobl ifanc,

yn ystod cyfnod a ddaeth i ben heb fod yn fwy na thri mis cyn y dyddiad y mae i ddechrau gweithio yn yr ysgol.

(4Cyn y caiff person a gynigir ar gyfer gwaith cyflenwi gan fusnes cyflogaeth ddechrau gweithio yn yr ysgol rhaid i'r corff llywodraethu yn yr ysgol wirio pwy ydyw (p'un a wnaed gwiriad o'r fath gan y busnes cyflogaeth cyn cynnig y person am waith cyflenwi ai peidio).

(5Rhaid i'r corff llywodraethu yn y contract neu mewn unrhyw drefniadau eraill y mae'n ei wneud neu eu gwneud gydag unrhyw fusnes cyflogaeth ei gwneud yn ofynnol iddo, o ran unrhyw berson y mae'r busnes cyflogaeth yn ei gyflenwi ar gyfer yr ysgol—

(a)darparu'r hysbysrwydd y cyfeirir ato ym mharagraff (1), a

(b)os bydd unrhyw dystysgrif fanwl o gofnod troseddol y bydd y busnes cyflogaeth yn ei chael yn cynnwys unrhyw fater neu wybodaeth, neu os cafodd unrhyw wybodaeth ei rhoi i'r busnes cyflogaeth yn unol ag adran 113B(6) o Ddeddf yr Heddlu 1997, ddarparu copi o'r dystysgrif.

(14Yn rheoliad 26(1) a 26(2) yn lle “(16)” rhodder “(14)”.

(15Yn rheoliad 26(7) yn lle “paragraffau (8) i (16)” rhodder “paragraffau (8) i (14)”.

(16Yn rheoliad 26(14) yn lle “y paragraff hwn” rhodder “paragraff (12)”.

(17Ar ôl rheoliad 26 mewnosoder y canlynol—

Gwiriadau wrth newid swydd

26A.  Pan fydd aelod o staff ysgol yn symud o swydd nad oedd yn ei ddwyn i gyswllt yn rheolaidd â phlant neu bobl ifanc i swydd sydd yn gwneud hynny, rhaid i'r corff llywodraethu gael tystysgrif fanwl o gofnod troseddol ynglyn ag ef cyn iddo symud i'w swydd newydd neu cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl hynny, a rhaid anfon datganiad o addasrwydd plant gyda chais am dystysgrif o'r fath..

(18Yn rheoliad 33 —

(a)yn lle paragraff (2) rhodder y paragraff canlynol—

(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), mae paragraffau (3) i (5) yn effeithiol o ran llenwi swydd wag pan fo honno'n swydd pennaeth yr ysgol, yn hytrach na rheoliad 24(7) i (18).;

(b)ym mharagraff (6) yn lle “(12)” rhodder “(18)”.

(19Yn rheoliad 34(1) —

(a)yn lle “(6)” rhodder “(5)”;

(b)yn lle “(12)” rhodder “(18)”.

(20Yn rheoliad 34(2)(b) yn lle “(9)” rhodder “(15)”.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

20 Mawrth 2007

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hyn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006 (Rheoliadau 2006).

Mae rheoliad 2 yn cynnwys diwygiad i Reoliadau Gwerthuso Athrawon (Cymru) 2002 OS 2002/1394 (Cy.137).

Mae rheoliad 3 yn cynnwys diwygiad i reoliadau 50(1) a 51(1) o Reoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005 OS 2005/2914 (Cy.211).

Mae rheoliad 4(2) yn mewnosod diffiniad o 'corff llywodraethu' yn Rheoliadau 2006.

Mae rheoliad 4(3) yn mewnosod diffiniad o 'rheoliadau' yn Rheoliadau 2006.

Mae rheoliad 4(4) yn datgan i ba gategorïau o ysgolion y bydd rheoliadau 4 i 7 o Reoliadau 2006 yn gymwys.

Mae rheoliad 4(5) ac (11) yn cynnwys diwygiadau i Reoliadau 2006 sy'n ei gwneud yn ofynnol i wirio pwy yw person a gwirio'i hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol, yn ddarostyngedig i eithriadau, bod person a benodwyd yn athro neu'n athrawes neu'n aelod o'r staff cymorth, cyn iddo gael ei benodi neu cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl iddo gael ei benodi, yn destun gwiriad manwl y Swyddfa Cofnodion Troseddol (“SCT”) a wneir o dan Ddeddf yr Heddlu 1997.

Mae rheoliadau 4(7)(8)(12)(14)(15)(16)(18)(19) a (20) yn cynnwys diwygiadau i groesgyfeiriadau yn Rheoliadau 2006.

Mae rheoliadau 4(9) a (13) yn cynnwys diwygiadau i Reoliadau 2006 sy'n rhwystro athro neu athrawes neu aelod o'r staff cymorth a gyflenwir gan asiantaeth rhag gweithio mewn ysgol hyd nes y bydd yr asiantaeth wedi cadarnhau bod gwiriadau wedi cael eu gwneud, ac mae'n ofynnol i ysgolion yn eu trefniadau gydag asiantaethau i'w gosod o dan rwymedigaeth i ddarparu'r wybodaeth hon.

Mae rheoliadau 4(10) a (17) yn cynnwys diwygiadau i Reoliadau 2006 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod aelod staff sy'n symud o swydd nad oedd yn ei ddwyn yn rheolaidd i gyswllt â phlant neu bobl ifanc i swydd sydd yn gwneud hynny yn yr un ysgol yn destun gwiriad manwl y SCT cyn bod y person yn dechrau yn ei swydd newydd neu cyn gynted ag sy'n rhesymol ymarferol ar ôl hynny.

(1)

1998 p.31. Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(2)

2002 p.32. Gweler adran 212 i gael y diffiniad o “regulations”. Yn rhinwedd y diffiniad hwnnw mae'r rheoliadau hyn sy'n cael eu gwneud gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn gymwys i Gymru yn unig.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill