- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Semen Buchol (Cymru) 2008; maent yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 30 Ebrill 2008.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “anifail ymlid” (“teaser animal”) yw anifail buchol a ddefnyddir fel cyfrwng cymorth i gasglu semen;
ystyr “arolygydd” (“inspector”) yw person a awdurdodwyd yn ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru yn unol ag adran 10(4) o Ddeddf Iechyd a Lles Anifeiliaid 1984;
mae “buchol” (“bovine”) yn cynnwys y rhywogaeth Bubalus bubalis a Bison bison;
mae i'r term “canolfan gasglu CE” (“EC collection centre”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 4(b)(i);
mae i'r term “canolfan gasglu ddomestig” (“domestic collection centre”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 4(b)(ii);
mae i'r term “canolfan gwarantîn CE” (“EC quarantine centre”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 4(a);
ystyr “canolfan semen buchol” (“bovine semen centre”) yw mangre sydd wedi ei thrwyddedu o dan reoliad 4;
mae i'r term “canolfan storio CE” (“EC storage centre”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 4(c)(i);
mae i'r term “canolfan storio ddomestig” (“domestic storage centre”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 4(c)(ii);
ystyr “corsen” (“straw”) yw cynhwysydd a ddefnyddir i gynnwys un dogn o semen;
ystyr “Cyfarwyddeb 64/432/EEC” (“Directive 64/432/EEC”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 64/432/EEC ar broblemau iechyd anifeiliaid sy'n effeithio ar y fasnach ryng-Gymunedol mewn anifeiliaid buchol ac anifeiliaid o deulu'r mochyn(1), fel y diwygiwyd y Gyfarwyddeb honno o dro i dro;
ystyr “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 88/407/EEC sy'n gosod y gofynion ynghylch iechyd anifeiliaid sy'n gymwys i'r fasnach ryng-Gymunedol mewn semen anifeiliaid domestig o'r rhywogaeth fuchol ac mewnforion ohono(2), fel y'i diwygiwyd o dro i dro;
ystyr “mangre sydd heb ei thrwyddedu” (“unlicensed premises”) yw mangre nad oes ganddi drwydded o dan reoliad 4;
ystyr “mam” (“dam”), yn achos anifeiliaid buchol sy'n deillio o drosglwyddo embryonau, yw derbynnydd yr embryo;
ystyr “milfeddyg” (“veterinary surgeon”) yw milfeddyg neu ymarferydd milfeddygol sydd wedi'i gofrestru o dan Ddeddf Milfeddygon 1966(3);
mae i “milfeddyg y ganolfan” (“the centre veterinarian”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 5(b);
ystyr “prosesu” (“processing”) yw un neu ragor o'r canlynol–
gwanhau (ac eithrio wrth gasglu semen neu'n union ar ôl gwneud hynny),
ychwanegu unrhyw sylwedd gyda'r bwriad o estyn bywyd naturiol y semen (ac eithrio wrth gasglu semen neu'n union ar ôl gwneud hynny),
ychwanegu unrhyw wrthfiotig,
pacio i mewn i gorsennau neu gynwysyddion priodol eraill, a
rhewi;
ystyr “rheoliadau adnabod gwartheg” (“cattle identification regulations”) yw—
Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) 2007(4); neu
Rheoliad y Cyngor 1760/2000, fel y'i diwygiwyd o dro i dro (yn achos anifeiliaid buchol a anwyd y tu allan i Gymru);
ystyr “Rheoliad y Cyngor 1760/2000” (“Council Regulation 1760/2000”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1760/2000 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n sefydlu system ar gyfer adnabod a chofrestru anifeiliaid buchol ac ynghylch labelu cig eidion a chynhyrchion cig eidion(5) ac yn diddymu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 820/97(6), fel y'i diwygiwyd o dro i dro;
ystyr “semen ffres” (“fresh semen”) yw semen nad yw wedi'i rewi.
(2) Mae i ymadroddion nad ydynt wedi'u diffinio yn y Rheoliadau hyn ac y defnyddir yr ymadroddion Saesneg sy'n cyfateb iddynt yn y Gyfarwyddeb yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd i'r ymadroddion Saesneg hynny at ddibenion y Gyfarwyddeb.
3.—(1) Ni fydd y Rheoliadau hyn yn gymwys—
(a)pan fo semen yn cael ei gasglu er mwyn ffrwythloni anifail buchol yn artiffisial â semen ffres;
(b)o ran yr anifail buchol y mae'r semen yn cael ei gasglu oddi wrtho—
(i)pan na fo Gorchymyn a wnaed o dan adrannau 6(c), 8, 17, 23, 25, 26 neu 29 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981(7) yn effeithio arno adeg casglu'r semen; neu,
(ii)pan fo Gorchymyn o'r fath yn effeithio arno, ond bod defnyddio ei semen wedi'i awdurdodi gan Weinidogion Cymru; ac
(c)adeg ffrwythloni'r anifail buchol—
(i)pan fo'n perthyn i'r un perchennog ac yn yr un fuches â'r anifail buchol y casglwyd y semen oddi wrtho; a
(ii)pan fo'n cael ei gadw ar yr un fangre â'r anifail buchol hwnnw.
(2) Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys pan fo semen yn cael ei gasglu er mwyn—
(a)asesu pa mor addas yw anifail buchol i'w ddefnyddio at ddibenion bridio;
(b)diagnosio heintiad neu glefyd mewn anifail buchol; neu
(c)addysg neu ymchwil,
ar yr amod na chaiff y semen a gesglir ei ddefnyddio ar gyfer ffrwythloni artiffisial ac nad yw'n destun masnach ryng-Gymunedol.
(3) Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i ymchwil a awdurdodir o dan Ddeddf Anifeiliaid (Gweithdrefnau Gwyddonol) 1986(8).
(4) Nid yw'r Rheoliadau hyn, i'r graddau y maent yn gymwys i semen a fwriedir ar gyfer masnach ryng-Gymunedol, yn gymwys i semen a gasglwyd ar neu cyn 31 Rhagfyr 1989.
4. Caiff Gweinidogion Cymru drwyddedu mangre fel a ganlyn—
(a)os yw'n cydymffurfio â Rhan 1 o Atodlen 1, fel mangre ar gyfer rhoi anifeiliaid buchol mewn cwarantîn (“canolfan gwarantîn CE”);
(b)os yw'n cydymffurfio â Rhan 2 o Atodlen 1, naill ai fel—
(i)mangre i gasglu, prosesu a rhoi mewn cwarantîn semen a fwriedir ar gyfer masnach ryng-Gymunedol (“canolfan gasglu CE”); neu
(ii)mangre i gasglu, prosesu a rhoi mewn cwarantîn semen nas bwriedir ar gyfer masnach ryng-Gymunedol (“canolfan gasglu ddomestig”); neu
(c)os yw'n cydymffurfio â Rhan 3 o Atodlen 1, naill ai fel—
(i)mangre i storio semen a fwriedir ar gyfer masnach ryng-Gymunedol (“canolfan storio CE”); neu
(ii)mangre i storio semen nas bwriedir ar gyfer masnach ryng-Gymunedol (“canolfan storio ddomestig”).
5. Rhaid i gais am drwydded i weithredu canolfan semen buchol—
(a)cael ei gyflwyno mewn ysgrifen i Weinidogion Cymru;
(b)cael ei lofnodi gan y ceisydd am y drwydded a chan y milfeddyg a fydd yn gyfrifol am oruchwylio'r ganolfan yn filfeddygol (“milfeddyg y ganolfan”);
(c)nodi'r fangre y gwneir cais ar ei chyfer; ac
(ch)nodi'r drwydded y gwneir cais amdani.
6.—(1) Rhaid i drwydded canolfan semen buchol a roddir o dan reoliad 4 nodi—
(a)cyfeiriad y ganolfan;
(b)rhif trwydded y ganolfan;
(c)deiliad y drwydded;
(ch)milfeddyg y ganolfan;
(d)y math o drwydded a roddir; ac
(dd)yr amodau y mae'r drwydded yn ddarostyngedig iddynt.
(2) Rhaid i drwydded fod mewn ysgrifen a chaniateir ei gwneud yn ddarostyngedig i unrhyw amodau sy'n angenrheidiol—
(a)i sicrhau y cydymffurfir â darpariaethau'r Rheoliadau hyn; neu
(b)i ddiogelu iechyd y cyhoedd neu iechyd anifeiliaid.
7.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru roi cymeradwyaeth i anifail buchol gael ei ddefnyddio mewn canolfan gasglu CE, canolfan gasglu ddomestig, neu mewn mangre sydd heb ei thrwyddedu os caiff yr anifail hwnnw ganlyniad negyddol—
(a)i'r profion a nodir yn Atodlen 2, paragraff 2(1)(a) i (d) cyn iddo fynd i mewn i ganolfan gwarantîn CE; a
(b)i'r profion a nodir yn Atodlen 2, paragraff 3(1)(a) i (ch) a pharagraff 4(1)(a) ar ôl iddo fynd i mewn i ganolfan gwarantîn CE.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru gymeradwyo anifail buchol er gwaethaf canlyniad cadarnhaol i'r profion serolegol a nodir yn Atodlen 2, paragraff 2(1)(d)(ii) neu yn Atodlen 2, paragraff 4(1)(b) neu yn y naill a'r llall.
(3) Caiff Gweinidogion Cymru roi cymeradwyaeth hefyd i anifail gael ei ddefnyddio mewn canolfan gasglu ddomestig, neu mewn mangre sydd heb ei thrwyddedu, os yw'r anifail hwnnw wedi cael canlyniad negyddol i'r profion a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 8, paragraffau 2(a) i (c).
8. Rhaid i unrhyw gais am gymeradwyo anifail buchol er mwyn casglu ei semen, neu ei ddefnyddio fel anifail ymlid, gael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru gan neu ar ran ei berchennog a rhaid i'r cais hwnnw—
(a)nodi enw a brid yr anifail buchol;
(b)nodi'r rhif y mae modd ei adnabod drwyddo yn unol â'r rheoliadau adnabod gwartheg; ac
(c)cael ei gyflwyno mewn ysgrifen a'i lofnodi gan neu ar ran y perchennog.
9.—(1) Rhaid i gymeradwyaeth ar gyfer anifail buchol nodi—
(a)enw a brid yr anifail buchol;
(b)y rhif y mae modd ei adnabod drwyddo yn unol â'r rheoliadau adnabod gwartheg; ac
(c)unrhyw amodau y mae'r gymeradwyaeth yn ddarostyngedig iddynt.
(2) Rhaid i gymeradwyaeth fod mewn ysgrifen a chaniateir ei gwneud yn ddarostyngedig i unrhyw amodau sy'n angenrheidiol—
(a)i sicrhau y cydymffurfir â darpariaethau'r Rheoliadau hyn; neu
(b)i ddiogelu iechyd y cyhoedd neu iechyd anifeiliaid.
10.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru gymeradwyo defnyddio anifail buchol i gasglu ei semen, neu ei ddefnyddio fel anifail ymlid, mewn mangre sydd heb ei thrwyddedu am gyfnod nad yw'n hwy na 3 mis.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru adnewyddu cymeradwyaeth o dan baragraff (1) am gyfnodau dilynol o hyd at 3 mis—
(a)os byddant yn cael y cais am adnewyddu'r gymeradwyaeth mewn ysgrifen, a'r cais hwnnw wedi'i lofnodi gan neu ar ran y perchennog, o leiaf 28 o ddiwrnodau cyn y dyddiad y mae'r gymeradwyaeth i fod i ddirwyn i ben; a
(b)os yw'r profion y cyfeirir atynt yn Rhan 2 o Atodlen 8, paragraff 2(a) i (c) wedi'u cynnal eto, gyda chanlyniadau negyddol, ar yr anifail buchol y mae'r gymeradwyaeth yn ymwneud ag ef, heb fod yn hwy na 28 o ddiwrnodau cyn y dyddiad y mae'r gymeradwyaeth i fod i ddirwyn i ben.
(3) Os na fydd canlyniadau unrhyw un o'r profion a gynhaliwyd ar anifail buchol o dan baragraff (2)(b) ar gael tan ar ôl y dyddiad y mae ei gymeradwyaeth i fod i ddirwyn i ben, caiff Gweinidogion Cymru roi cymeradwyaeth dros dro.
(4) Pan fo Gweinidogion Cymru yn rhoi cymeradwyaeth dros dro o dan baragraff (3), ni chaiff neb fasnachu unrhyw semen sydd—
(a)wedi ei gasglu o anifail buchol; neu
(b)wedi ei brosesu ar ôl ei gasglu felly,
hyd oni chadarnheir bod canlyniadau'r profion ar yr anifail buchol neu'r anifail ymlid a ddefnyddiwyd i gasglu'r semen hwnnw yn rhai negyddol.
11.—(1) Ni chaiff neb, heb awdurdod cyfreithlon neu esgus rhesymol, fynd i mewn i ganolfan semen buchol heb awdurdod milfeddyg y ganolfan.
(2) Rhaid i berson sydd wedi'i awdurdodi gan filfeddyg y ganolfan i fynd i mewn i ganolfan semen buchol gydymffurfio ag unrhyw ofynion a osodir gan filfeddyg y ganolfan i sicrhau cydymffurfedd â'r Rheoliadau hyn.
(3) Rhaid i filfeddyg y ganolfan sicrhau na fydd neb sydd heb ei awdurdodi yn mynd i mewn i'r ganolfan semen buchol.
12.—(1) Ni chaiff neb fynd ag anifail nad yw'n anifail buchol i mewn i ganolfan semen buchol heb awdurdodiad pendant milfeddyg y ganolfan.
(2) Caiff milfeddyg y ganolfan awdurdodi bod anifeiliaid domestig o rywogaeth nad yw'n rhywogaeth fuchol yn cael eu derbyn i ganolfan semen buchol ar yr amod—
(a)eu bod yn angenrheidiol i weithrediad y ganolfan;
(b)nad ydynt yn peri unrhyw risg heintio i'r anifeiliaid buchol hynny y mae eu semen i'w gasglu; ac
(c)eu bod yn bodloni'r amodau a osodir gan filfeddyg y ganolfan.
13.—(1) Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys i ganolfan storio CE na chanolfan storio ddomestig
(2) Rhaid i filfeddyg y ganolfan neu weithredydd mangre sydd heb ei thrwyddedu wneud cofnod o'r canlynol ar gyfer pob anifail buchol a symudir i mewn i'r ganolfan neu'r fangre neu allan o'r naill le neu'r llall—
(a)ei frid;
(b)ei ddyddiad geni;
(c)y rhif y mae modd ei adnabod drwyddo yn unol â'r rheoliadau adnabod gwartheg;
(ch)pob brechiad a roddir iddo;
(d)y profion y mae wedi eu cael ar gyfer clefydau a chanlyniadau'r profion hynny; ac
(dd)unrhyw awgrym o glefyd y gall fod arno.
(3) Rhaid i filfeddyg y ganolfan neu weithredydd y fangre sydd heb ei thrwyddedu sicrhau bod y cofnodion hyn yn cael eu cadw am o leiaf ddwy flynedd o'r dyddiad y mae'r anifail buchol yn gadael y ganolfan neu'r fangre, neu'n marw yn y ganolfan neu'r fangre.
14.—(1) Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys i ganolfannau cwarantîn CE.
(2) Pryd bynnag y bydd semen yn cael ei symud o ganolfan semen buchol neu iddi, neu'n cael ei ddistrywio, rhaid i filfeddyg y ganolfan gofnodi—
(a)y rhif y mae modd adnabod drwyddo yr anifail buchol sy'n rhoi'r semen yn unol â'r rheoliadau adnabod gwartheg;
(b)ei statws iechyd;
(c)nifer y dognau semen;
(ch)y rhifau ar y cynwysyddion y mae neu yr oedd y semen wedi'i gynnwys ynddynt (fel y bo'n gymwys);
(d)dyddiad cael, anfon neu ddistrywio'r semen (fel y bo'n gymwys);
(dd)y fangre, neu'r ganolfan semen buchol, yr anfonwyd y semen ohoni (os yw'n gymwys); ac
(e)y gyrchfan (os yw'n gymwys).
(3) Rhaid i weithredydd mangre sydd heb ei thrwyddedu gofnodi'r wybodaeth ym mharagraffau 2(a) i (e) yn achos semen a anfonwyd i ganolfan gasglu CE neu ganolfan gasglu ddomestig i'w brosesu.
(4) Rhaid i weithredydd mangre sydd heb ei thrwyddedu neu filfeddyg y ganolfan sicrhau bod dogfennau sy'n cynnwys yr wybodaeth ym mharagraffau 2(a) i (e) yn mynd gyda phob llwyth semen.
(5) Rhaid i weithredydd mangre sydd heb ei thrwyddedu neu filfeddyg y ganolfan sicrhau bod y cofnodion hyn yn cael eu cadw am o leiaf ddwy flynedd ar ôl anfon, cael neu ddistrywio'r semen.
15.—(1) Rhaid i filfeddyg y ganolfan sicrhau—
(a)bod y ganolfan yn cael ei gweithredu'n unol â'r Rheoliadau hyn;
(b)y glynir wrth amodau'r drwydded y mae'r ganolfan yn gweithredu odani;
(c)bod safonau hylendid priodol yn cael eu cynnal yn y ganolfan i atal ymosodiad gan glefyd y gellir ei drosglwyddo gan semen; ac
(ch)bod bioddiogelwch y ganolfan yn cael ei barhau i atal ymosodiad glefyd y gellir ei drosglwyddo gan semen.
(2) Rhaid i filfeddyg y ganolfan sicrhau bod staff yn y ganolfan yn dechnegol hyfedr a'u bod wedi cael hyfforddiant priodol mewn gweithdrefnau diheintio a thechnegau hylendid.
(3) Rhaid i filfeddyg y ganolfan sicrhau bod Gweinidogion Cymru yn cael eu hysbysu ar unwaith os bydd canlyniad unrhyw brawf a gynhelir ar anifail buchol yn y ganolfan i weld a oes arno unrhyw glefyd y mae'n rhaid cynnal prawf ar ei gyfer o dan y Rheoliadau hyn yn dangos newid yn statws iechyd yr anifail buchol.
16.—(1) Mae dyletswyddau milfeddyg canolfan—
(a)canolfan gwarantîn CE wedi'u nodi yn Atodlen 2;
(b)canolfan gasglu CE wedi'u nodi yn Atodlen 3;
(c)canolfan storio CE wedi'u nodi yn Atodlen 4;
(ch)canolfan gasglu ddomestig wedi'u nodi yn Atodlen 5; a
(d)canolfan storio ddomestig wedi'u nodi yn Atodlen 6.
(2) Mae dyletswyddau gweithredydd mangre sydd heb ei thrwyddedu wedi nodi yn Atodlen 7.
17.—(1) Yr unig rai a gaiff ymgymryd â gwaith cymryd samplau gwaed i'w dadansoddi mewn labordy yw—
(a)milfeddyg canolfan;
(b)arolygydd sydd wedi cymhwyso fel milfeddyg; neu
(c)person sy'n bodloni'r amodau a nodir yn erthyglau 3(2)(a) neu 3(2)(b) o Orchymyn Milfeddygaeth (Samplu Gwaed) 1983(9) ac y mae'r person cymwysedig perthnasol ar ei gyfer, a ddisgrifir yn yr erthyglau hynny, yn filfeddyg canolfan neu'n arolygydd sydd wedi cymhwyso fel milfeddyg.
(2) Dim ond milfeddyg sydd wedi'i gymeradwyo gan Weinidogion Cymru at y diben hwnnw a gaiff brofi ar gyfer twbercwlosis buchol.
18. Rhaid i weithredydd mangre sydd heb ei thrwyddedu neu filfeddyg y ganolfan sicrhau bod profion labordy sy'n ofynnol o dan y Rheoliadau hyn yn cael eu cynnal gan labordy a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru.
19. Ni chaiff neb gasglu semen oddi wrth anifail buchol i'w ddefnyddio at ddiben ffrwythloni artiffisial onid yw'r anifail buchol—
(a)wedi'i gymeradwyo at y diben hwnnw gan Weinidogion Cymru;
(b)wedi'i nodi'n unol â rheoliadau adnabod gwartheg;
(c)heb amlygu unrhyw arwyddion clinigol o glefyd ar y diwrnod y mae'r semen i'w gasglu;
(ch)heb ei frechu yn erbyn clwy'r traed a'r genau o fewn y 30 o ddiwrnodau cyn y dyddiad casglu;
(d)heb ei adael i serfio'n naturiol ers dyddiad y cais am ei gymeradwyo at ddibenion casglu semen; ac
(dd)(pan fo'i semen i'w gyflenwi fel semen ffres) wedi'i gadw mewn canolfan gasglu CE neu ganolfan gasglu ddomestig am gyfnod parhaus o 30 o ddiwrnodau o leiaf cyn y dyddiad y caiff y semen ei gasglu.
20.—(1) Ni chaiff neb gasglu semen oddi wrth anifail buchol ac eithrio—
(a)mewn canolfan gasglu CE;
(b)mewn canolfan gasglu ddomestig; neu
(c)mewn mangre sydd heb ei thrwyddedu,
yn unol â'r Rheoliadau hyn.
(2) Rhaid i'r cyfryw ganolfannau neu fangreoedd sydd heb eu trwyddedu fod—
(a)wedi bod yn rhydd rhag clwy'r traed a'r genau am o leiaf dri mis cyn casglu'r semen;
(b)wedi'u lleoli yng nghanol ardal ac iddi radiws o 10 cilometr lle na chafwyd unrhyw frigiad clwy'r traed a'r genau am y 30 niwrnod blaenorol o leiaf; ac
(c)wedi bod, am 30 niwrnod cyn casglu'r semen, yn rhydd rhag y clefydau buchol a restrir yn Atodiad E(I) i Gyfarwyddeb 64/432/EEC.
21. Ni chaiff neb ddefnyddio anifail ymlid i fod yn gyfrwng cymorth i gasglu semen onid yw wedi'i gymeradwyo at y diben hwnnw gan Weinidogion Cymru.
22.—(1) Ni chaiff neb fynd ag anifail buchol i mewn i—
(a)canolfan gwarantîn CE;
(b)canolfan gasglu CE; neu
(c)canolfan gasglu ddomestig;
heb awdurdodiad pendant milfeddyg y ganolfan.
(2) Ni chaiff milfeddyg y ganolfan awdurdodi anifail buchol i fynd i mewn i ganolfan gwarantîn CE onid oedd yr anifail hwnnw, cyn mynd i mewn i'r ganolfan, bob amser wedi perthyn i fuches—
(a)yn swyddogol rydd rhag twbercwlosis; a
(b)yn swyddogol rydd rhag brwselosis,
yn unol â Chyfarwyddeb 64/432/EEC.
(3) Ni chaiff milfeddyg y ganolfan awdurdodi anifail buchol i fynd i mewn i ganolfan gasglu CE oni chaiff gofynion Rhan 1 o Atodlen 8 eu bodloni.
(4) Ni chaiff milfeddyg y ganolfan awdurdodi anifail buchol i fynd i mewn i ganolfan gasglu ddomestig oni fydd gofynion Rhan 1 neu 2 o Atodlen 8 wedi'u bodloni.
(5) Ni chaiff gweithredydd mangre sydd heb ei thrwyddedu gasglu semen oddi wrth anifail buchol ar fangre sydd heb ei thrwyddedu oni fydd gofynion Rhan 1 neu 2 o Atodlen 8 wedi'u bodloni.
(6) Ni chaiff milfeddyg canolfan i ganolfan gasglu CE neu ganolfan gasglu ddomestig, na gweithredydd mangre sydd heb ei thrwyddedu, dderbyn anifeiliaid buchol oni bai, ar y dyddiad symud, fod y fangre y daethant ohoni—
(a)wedi'i lleoli yng nghanol ardal ac iddi radiws o 10 cilometr lle na chafwyd unrhyw frigiad clwy'r traed a'r genau yn ystod y 30 niwrnod blaenorol o leiaf;
(b)wedi bod, am y 3 mis blaenorol o leiaf, yn rhydd rhag clwy'r traed a'r genau a brwselosis; ac
(c)wedi bod, am y 30 niwrnod blaenorol o leiaf, yn rhydd rhag y clefydau buchol hynny a restrir yn Atodiad E(I) i Gyfarwyddeb 64/432/EEC.
(7) Ni chaiff milfeddyg y ganolfan na gweithredydd mangre sydd heb ei thrwyddedu awdurdodi bod unrhyw anifail buchol sy'n amlygu unrhyw arwydd clinigol o glefyd ar ddiwrnod y derbyniad arfaethedig yn cael ei dderbyn.
23.—(1) Ni chaiff neb symud anifail buchol i ganolfan gasglu CE, canolfan gasglu ddomestig na mangre sydd heb ei thrwyddedu ac eithrio—
(a)mewn cyfrwng cludo sydd wedi'i lanhau a'i ddiheintio cyn cael ei ddefnyddio'n unol â Gorchymyn Cludo Anifeiliaid (Glanhau a Diheintio) (Cymru) (Rhif 3) 2003(10); a
(b)o dan amodau sy'n sicrhau na fydd yn dod i gyffyrddiad ag anifeiliaid fforchog yr ewin nad ydynt wedi'u hawdurdodi i ddod i mewn i'r ganolfan na'r fangre y cyrchir ati.
(2) Ni chaiff neb symud anifail buchol o un ganolfan gasglu i un mewn Aelod-wladwriaeth arall ac eithrio'n unol â Chyfarwyddeb 64/432/EEC.
24. Ni chaiff neb brosesu semen ac eithrio—
(a)mewn canolfan gasglu CE; neu
(b)mewn canolfan gasglu ddomestig.
25. Ni chaiff neb—
(a)defnyddio unrhyw offeryn (ac eithrio offeryn untro) sy'n dod i gyffyrddiad â semen neu â'r anifail sy'n ei roi wrth gasglu neu brosesu'r semen onid yw'r offeryn hwnnw wedi'i ddiheintio neu ei sterileiddio cyn iddo gael ei ddefnyddio; neu
(b)ailddefnyddio offeryn untro.
26. Ni chaiff neb storio na symud semen ac eithrio mewn cynhwysydd a ddefnyddir at y diben hwnnw yn unig ac sydd—
(a)wedi'i ddiheintio neu wedi'i sterileiddio cyn cael ei ddefnyddio; neu
(b)yn gynhwysydd untro nas defnyddiwyd o'r blaen.
27. Ni chaiff neb sy'n storio neu'n symud semen ganiatáu iddo ddod i gyffyrddiad â deunydd sy'n dod o anifeiliaid (gan gynnwys plasm cenhedlu arall) y mae ei statws iechyd yn is.
28.—(1) Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys i'r camau sy'n angenrheidiol i symud semen i ganolfan storio CE neu ganolfan storio ddomestig.
(2) Ni chaiff neb gyflenwi semen rhewedig na'i ddefnyddio at ddibenion ffrwythloni artiffisial onid yw wedi ei storio—
(a)mewn canolfan storio CE;
(b)mewn canolfan storio ddomestig; neu
(c)mewn rhan arall o'r Deyrnas Unedig ar fangre a gymeradwywyd gan yr awdurdod cymwys i storio semen buchol.
29. Ni chaiff neb gyflenwi na defnyddio semen at ddibenion ffrwythloni artiffisial os yw'n gwybod neu'n amau ei fod heb ei gasglu, heb ei brosesu neu heb ei storio'n unol â gofynion—
(a)y Rheoliadau hyn,
(b)cyfreithlon mewn rhan arall o'r Deyrnas Unedig; neu
(c)yn achos semen sy'n deillio o Aelod-wladwriaeth arall neu o drydedd wlad, y Gyfarwyddeb,
onid yw wedi ei awdurdodi i wneud hynny gan Weinidogion Cymru.
30.—(1) Ni chaiff neb gyflenwi semen ar gyfer masnach ryng-Gymunedol oni bai—
(a)ei fod—
(i)wedi'i gasglu, ei brosesu a'i roi mewn cwarantîn mewn canolfan gasglu CE; a
(ii)wedi'i storio mewn canolfan storio CE; neu
(b)yn achos semen a gyflenwir o Aelod-wladwriaeth arall neu a fewnforir o drydedd wlad yn unol â'r Gyfarwyddeb, wedi ei storio mewn canolfan storio CE.
(2) Rhaid i unrhyw berson sy'n cyflenwi semen ar gyfer masnach ryng-Gymunedol sicrhau bod y dystysgrif iechyd anifeiliaid y cyfeirir ati yn Erthyglau 3(d) a 6(1) o'r Gyfarwyddeb yn mynd gyda'r semen hwnnw.
31.—(1) Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys i weithredwyr mangreoedd sydd heb eu trwyddedu nac i filfeddygon canolfan, sy'n ddarostyngedig i reoliad 14.
(2) Rhaid i unrhyw berson sy'n cyflenwi semen gadw cofnod o'r wybodaeth a bennir yn Atodlen 9 paragraff 1.
(3) Rhaid i unrhyw berson sy'n cael semen gadw cofnod o'r wybodaeth a bennir yn Atodlen 9 paragraff 2.
(4) Rhaid i unrhyw berson sy'n defnyddio semen at ddibenion ffrwythloni artiffisial gadw cofnod o'r wybodaeth a bennir yn Atodlen 9 paragraff 3 mewn perthynas â phob corsen neu gynhwysydd arall a ddefnyddir.
(5) Rhaid i unrhyw berson sy'n distrywio semen gadw cofnod o'r wybodaeth a bennir yn Atodlen 9 paragraff 4 mewn perthynas â phob corsen neu gynhwysydd arall a ddistrywir.
(6) Rhaid i unrhyw berson y mae'r rheoliad hwn yn ei gwneud yn ofynnol iddo gadw cofnodion sicrhau bod y cofnodion yn cael eu gwneud yn gydamserol.
(7) Caiff cofnodion o'r fath gael eu cadw ar ffurf ysgrifenedig neu electronig a rhaid eu cadw am o leiaf ddwy flynedd ar ôl cyflenwi, derbyn, defnyddio, neu ddistrywio'r semen, fel y bo'n briodol.
32. Os yw Gweinidogion Cymru'n gwrthod rhoi cymeradwyaeth neu drwydded, neu'n ei rhoi'n ddarostyngedig i amodau, rhaid iddynt—
(a)rhoi eu rhesymau mewn ysgrifen; a
(b)esbonio hawl y ceisydd i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig o dan reoliad 36(1) i berson a benodir gan Weinidogion Cymru.
33.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i geisydd am gymeradwyaeth i anifail buchol, deiliad cymeradwyaeth o'r fath neu berchennog anifail buchol ddarparuu'r cyfryw wybodaeth, a chaniatáu i'r anifail buchol gael y cyfryw brofion ac archwiliadau, sy'n angenrheidiol ym marn Gweinidogion Cymru i'w galluogi i benderfynu a ddylai'r gymeradwyaeth gael ei rhoi neu ei pharhau.
(2) Rhaid i berchennog blaenorol anifail buchol a gymeradwywyd hysbysu Gweinidogion Cymru o enw a chyfeiriad y perchennog newydd o fewn 21 o ddiwrnodau i drosglwyddo'r berchenogaeth iddo.
(3) Rhaid i berchennog anifail buchol a gymeradwywyd, o fewn 21 o ddiwrnodau i farwolaeth yr anifail hwnnw, hysbysu Gweinidogion Cymru ei fod wedi marw, o dan ba amgylchiadau y digwyddodd hynny a chanlyniadau unrhyw archwiliad post mortem.
(4) Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i geisydd am drwydded canolfan semen buchol, neu i ddeiliad trwydded o'r fath, ddarparu'r cyfryw wybodaeth, a chaniatáu'r cyfryw brofion ac archwiliadau, sy'n angenrheidiol ym marn Gweinidogion Cymru i'w galluogi i benderfynu a ddylai'r drwydded gael ei rhoi neu ei pharhau.
34.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru atal dros dro neu ddiwygio cymeradwyaeth neu drwydded a roddir o dan y Rheoliadau hyn yn gyfan gwbl neu'n rhannol—
(a)os na chaiff unrhyw un o'r amodau y cafodd ei rhoi odanynt eu bodloni; neu
(b)os cânt eu bodloni na chydymffurfir â darpariaethau'r Rheoliadau hyn.
(2) O ran ataliad dros dro neu ddiwygiad—
(a)caniateir iddo gael effaith ar unwaith os bydd Gweinidogion Cymru yn barnu ei fod yn angenrheidiol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd neu iechyd anifeiliaid; a
(b)ni chaniateir iddo gael effaith, fel arall, am o leiaf 21 o ddiwrnodau.
(3) Rhaid i hysbysiad o'r ataliad dros dro neu'r diwygiad—
(a)bod yn ysgrifenedig;
(b)datgan i beth y mae'n gymwys;
(c)datgan pryd y daw'n weithredol;
(ch)rhoi'r rhesymau; a
(d)esbonio hawl y person a hysbyswyd i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig o dan reoliad 36(1) i berson a benodir gan Weinidogion Cymru.
(4) Os na fydd yr ataliad dros dro neu'r diwygiad yn cael effaith ar unwaith a bod sylwadau'n cael eu cyflwyno o dan reoliad 36, ni fydd yn cael effaith hyd nes y bydd Gweinidogion Cymru wedi dyfarnu'n derfynol ar yr apêl oni fyddant o'r farn ei bod yn angenrheidiol diogelu iechyd y cyhoedd neu iechyd anifeiliaid i'r diwygiad neu'r ataliad dros dro gael effaith cyn hynny.
35.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru ddirymu cymeradwyaeth neu drwydded a roddir o dan y Rheoliadau hyn yn gyfan gwbl neu'n rhannol—
(a)os ydynt wedi hysbysu o'u penderfyniad i atal dros dro'r gymeradwyaeth neu'r drwydded a bod y cyfnod ar gyfer apelio o dan reoliad 36 wedi dirwyn i ben;
(b)os ydynt wedi cadarnhau eu penderfyniad i'w hatal dros dro yn sgil apêl o dan reoliad 36;
(c)os ydynt wedi atal dros dro y gymeradwyaeth neu'r drwydded o'r blaen a bod methiant pellach â chydymffurfio â'r Rheoliadau hyn; neu
(ch)os ydynt wedi'u bodloni nad yw meddiannydd y fangre yn ei defnyddio mwyach at y diben y rhoddwyd trwydded ar ei gyfer.
(2) Rhaid i hysbysiad o ddirymiad—
(a)bod yn ysgrifenedig;
(b)datgan beth y mae'n gymwys iddo;
(c)datgan pryd y daw'n weithredol;
(ch)rhoi'r rhesymau; a
(d)yn achos dirymiad o dan baragraff (1)(c) neu(1)(ch), esbonio hawl y person sydd wedi'i hysbysu i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig o dan reoliad 36(1) i berson a benodir gan Weinidogion Cymru.
(3) Os bydd person yn cyflwyno sylwadau ysgrifenedig o dan reoliad 36(1), mae'r dirymiad yn parhau mewn grym tra'n aros am ganlyniad yr apêl.
36.—(1) Caiff person gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i berson a benodir i'r perwyl hwnnw gan Weinidogion Cymru ynghylch unrhyw benderfyniad gan Weinidogion Cymru ynghylch—
(a)rhoi, atal dros dro neu ddirymu cymeradwyaeth neu drwydded o dan y Rheoliadau hyn,
(b)yr amodau y mae cymeradwyaeth neu drwydded yn ddarostyngedig iddynt, neu
(c)unrhyw ffioedd a godir o dan y Rheoliadau hyn,
o fewn 21 o ddiwrnodau o'i hysbysu o'r penderfyniad.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru gyflwyno sylwadau ysgrifenedig hefyd i'r person penodedig ynghylch eu penderfyniad.
(3) Rhaid i'r person penodedig gyflwyno adroddiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru.
(4) Rhaid i Weinidogion Cymru roi i'r apelydd hysbysiad ysgrifenedig o'u dyfarniad terfynol a'r rhesymau drosto.
37.—(1) Os yw'n meddwl ei bod yn angenrheidiol i atal clefyd rhag lledaenu, caiff arolygydd gyflwyno hysbysiad i berchennog anifail buchol neu unrhyw un y mae'n credu ei fod yn berchennog ar yr anifail buchol neu'n meddu ar semen o'r anifail buchol hwnnw.
(2) Rhaid i hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (1)—
(a)gwahardd defnyddio neu fasnachu semen a gasglwyd o'r anifail buchol;
(b)ei gwneud yn ofynnol i'r semen hwnnw gael ei ddistrywio; ac
(c)ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson arall y gall yr anifail buchol neu ei semen fod yn ei feddiant yn cael ei nodi.
(3) Os na chydymffurfir â hysbysiad a gyflwynir o dan y rheoliad hwn, caiff arolygydd fynd i mewn i unrhyw fangre lle mae'n gwybod neu'n amau bod y semen sy'n destun yr hysbysiad yn cael ei gadw a chaiff gymryd y semen i'w feddiant a threfnu i ofynion yr hysbysiad gael eu bodloni.
38.—(1) Os yw arolygydd yn gwybod neu'n amau bod semen wedi'i fewnforio o Aelod-wladwriaeth arall yn groes i'r Gyfarwyddeb, caiff gyflwyno hysbysiad yn unol â pharagraff (2) i'r person y mae'n ymddangos i'r arolygydd fod y semen o dan ei ofal.
(2) Caiff yr hysbysiad ei gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw—
(a)dal ei afael ar semen yn y lle a bennir yn yr hysbysiad;
(b)distrywio semen yn unol â gofynion yr hysbysiad; neu
(c)cymryd unrhyw gamau eraill a bennir gan yr arolygydd.
(3) Os na chydymffurfir â hysbysiad a gyflwynir o dan y rheoliad hwn, caiff arolygydd fynd i mewn i unrhyw fangre lle mae'n gwybod neu'n amau bod semen sy'n destun yr hysbysiad yn cael ei gadw a chaiff gymryd y semen i'w feddiant a threfnu i ofynion yr hysbysiad i gael eu bodloni.
39. Ni chaiff neb ddarparu unrhyw wybodaeth na gwneud unrhyw ddatganiad er mwyn cael cymeradwyaeth neu drwydded o dan y Rheoliadau hyn os nad yw'n credu neu os nad oes ganddo sail resymol dros gredu bod yr wybodaeth honno neu'r datganiad hwnnw'n wir.
40. Rhaid i Weinidogion Cymru archwilio pob canolfan semen buchol o leiaf ddwywaith y flwyddyn.
41.—(1) Mae ffi'n daladwy i Weinidogion Cymru—
(a)adeg gwneud cais am gymeradwyo anifail buchol o dan reoliad 7 neu 10;
(b)adeg gwneud cais am drwydded canolfan semen buchol o dan reoliad 4;
(c)am brofi anifail buchol o dan Ran 2 o Atodlen 3 neu Ran 2 o Atodlen 5, adeg cael yr anfoneb; neu
(ch)am archwilio canolfan semen buchol o dan reoliad 40, adeg cael yr anfoneb.
(2) Mae'r ffi yn swm y canlynol—
(a)costau teithio'r swyddog milfeddygol ac unrhyw gynorthwyydd mewn perthynas â'r cais, prawf neu archwiliad perthnasol;
(b)costau'r swyddogion sy'n ystyried y cais, prawf neu archwiliad perthnasol; ac
(c)costau profion labordy ar anifeiliaid buchol.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi ar eu gwefan y ffigurau a ddefnyddir i gyfrifo'r ffi.
42. Os bydd cais o dan y Rheoliadau hyn yn cael ei dynnu'n ôl cyn bod dyfarniad arno, rhaid i Weinidogion Cymru ad-dalu i'r ceisydd unrhyw gyfran o unrhyw ffi a dalwyd o dan reoliad 41 mewn cysylltiad â'r cais hwnnw ag y gwêl Gweinidogion Cymru'n dda, gan roi sylw i unrhyw gostau a dynnir yn rhesymol ganddo mewn cysylltiad â'r cais.
43. Bydd trwyddedau a chymeradwyaethau a roddwyd o dan Reoliadau Ffrwythloni Gwartheg yn Artiffisial (Iechyd Anifeiliaid) (Cymru a Lloegr) 1985(11) yn parhau i gael effaith fel petaent yn gymeradwyaethau neu drwyddedau a roddwyd o dan y Rheoliadau hyn yn unol â'r tabl canlynol, ar yr amod, yn achos mangre, bod y fangre'n cydymffurfio, â darpariaethau'r Rheoliadau hyn, ac yn cael ei gweithredu'n unol â hwy—
Trwyddedau a chymeradwyaethau o dan Reoliadau Ffrwythloni Gwartheg yn Artiffisial (Iechyd Anifeiliaid) (Cymru a Lloegr) 1985 | Y gymeradwyaeth gyfatebol o dan y Rheoliadau hyn |
---|---|
Cymeradwyo tarw i gael ei ddefnyddio (rheoliad 5) | Cymeradwyo anifail buchol (rheoliad 7) |
Trwydded brosesu (rheoliad 7(1)(a)) | Prosesu semen y bwriedir ei ddefnyddio ar gyfer masnach ryng-Gymunedol: trwydded canolfan gasglu CE (rheoliad 4 (b)(i); Prosesu semen na fwriedir ei ddefnyddio ar gyfer masnach ryng-Gymunedol: trwydded canolfan gasglu ddomestig (rheoliad 4(b)(ii)). |
Trwydded storio (rheoliad 7(1)(b)) | Trwydded canolfan storio CE (rheoliad 4(c)(i) neu drwydded canolfan storio ddomestig (rheoliad 4(c)(ii)). |
44. Yn Rheoliadau Ffrwythloni Artiffisial (Gwartheg a Moch) (Ffioedd) 1987(12)—
(a)yn rheoliad 2(1), hepgorer y diffiniad o “the principal cattle Regulations”;
(b)yn rheoliad 3(1), yn lle'r geiriau “Subject to paragraph (1A) below, there” rhodder “There” a hepgorer y geiriau “the principal cattle Regulations and”;
(c)hepgorer rheoliad 3(1)(a);
(ch)hepgorer rheoliad 3(1A);
(d)yn rheoliad 4, hepgorer y geiriau “the principal cattle Regulations or”; ac
(dd)hepgorer Atodlen 1.
45.—(1) Mae'r Rheoliadau yn Rhan 1 o Atodlen 10 wedi'u dirymu i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru.
(2) Mae'r Rheoliadau yn Rhan 2 o Atodlen 10 wedi'u dirymu.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
7 Ebrill 2008
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys