- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
1. Rhaid i filfeddyg y ganolfan sicrhau bod yr holl anifeiliaid buchol a gedwir mewn canolfan gasglu ddomestig yn cael y profion canlynol o leiaf unwaith y flwyddyn—
(a)ar gyfer twbercwlosis buchol, prawf twbercwlin mewngroenol a gynhelir yn unol â'r weithdrefn a osodir yn Atodiad B i Gyfarwyddeb 64/432/EEC;
(b)ar gyfer brwselosis buchol, prawf serolegol a gynhelir yn unol â'r weithdrefn a ddisgrifir yn Atodiad C i Gyfarwyddeb 64/432/EEC; ac
(c)ar gyfer lewcosis buchol ensootig, prawf serolegol a gynhelir yn unol â'r weithdrefn a ddisgrifir yn Atodiad D (Pennod II) i Gyfarwyddeb 64/432/EEC.
2. —Os bydd unrhyw rai o'r profion uchod yn gadarnhaol, rhaid i filfeddyg y ganolfan sicrhau bod yr anifail buchol yn cael ei ynysu a bod y semen a gasglwyd oddi wrtho ers y prawf negyddol diwethaf yn cael ei ddistrywio.
(2) Rhaid i filfeddyg y ganolfan sicrhau—
(a)bod y semen, a gasglwyd oddi wrth bob anifail buchol arall yn y ganolfan ers y dyddiad y cynhaliwyd y prawf cadarnhaol, yn cael ei gadw mewn storfa ar wahân; a
(b)na chaiff y semen hwnnw ei ddefnyddio na'i gyflenwi hyd nes y bydd statws iechyd y ganolfan wedi'i adfer i'r lefel sy'n ofynnol gan y Gyfarwyddeb a'r Rheoliadau hyn.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys