- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) 2008 a deuant i rym ar 1 Chwefror 2008.
2. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
3.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “awdurdod academaidd” (“academic authority”), mewn perthynas â sefydliad, yw'r corff llywodraethu neu'r corff arall sydd â swyddogaethau corff llywodraethu ac mae'n cynnwys person sy'n gweithredu gydag awdurdod y corff hwnnw;
ystyr “cwrs cyfredol” (“current course”) yw'r cwrs dynodedig y mae person yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad ag ef neu am gael ei gydnabod yn fyfyriwr cymwys;
ystyr “cwrs cymwys” (“qualifying course”) yw cwrs—
sydd—
yn gwrs ôl-raddedig neu'n gwrs cyffelyb; a
sy'n para am o leiaf ddwy flynedd academaidd; a
y cafodd y myfyriwr ar ei gyfer, am o leiaf ddwy flynedd academaidd o'r cwrs, ddyfarniad statudol ac eithrio dyfarniad a fwriadwyd i helpu gyda gwariant ychwanegol yr oedd y myfyriwr yn gorfod ei dynnu mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar y cwrs oherwydd anabledd y mae neu yr oedd yn ei ddioddef;
ystyr “Cymuned Ewropeaidd” (“European Community”) yw'r diriogaeth a ffurfir gan Aelod-wladwriaethau'r Gymuned Ewropeaidd fel y'i cyfansoddir o dro i dro;
ystyr “Deddf 1998” (“1998 Act”) yw Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998;
ystyr “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw 1 Chwefror 2008;
ystyr “dyfarniad statudol” (“statutory award”) yw unrhyw ddyfarniad a roddir, unrhyw grant a delir, neu unrhyw gymorth arall a ddarperir yn rhinwedd Deddf 1998 neu Ddeddf Addysg 1962(1), neu unrhyw ddyfarniad, grant neu gymorth arall cyffelyb mewn cysylltiad ag ymgymryd â chwrs a delir o gronfeydd cyhoeddus;
ystyr “y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau i fyfyrwyr” (“student loans legislation”) yw Deddf Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) 1990, Gorchymyn Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1990, Deddf Addysg (Yr Alban) 1980 a rheoliadau a wnaed odani, Gorchymyn Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1998 a rheoliadau a wnaed odano neu Ddeddf 1998 a rheoliadau a wnaed odani;
ystyr “ffoadur” yw person a gydnabyddir gan lywodraeth Ei Mawrhydi fel ffoadur o fewn ystyr “refugee” yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig sy'n ymwneud â Statws Ffoaduriaid a wnaed yng Ngenefa ar 28 Gorffennaf 1951(2) fel y'i hestynnwyd gan y Protocol iddo a ddaeth i rym ar 4 Hydref 1967(3);
ystyr “grantiau at gostau byw a chostau eraill” (“grants for living and other costs”) yw'r grantiau sy'n daladwy o dan reoliadau 20 neu 22;
ystyr “grantiau atodol” (“supplementary grants”) yw'r grantiau sy'n daladwy o dan Bennod 4 o Ran 4;
mae i “myfyriwr cymwys” (“eligible student”) yr ystyr a roddir gan reoliad 10;
ystyr “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” (“person with leave to enter or remain”) yw person—
sydd wedi'i hysbysu gan berson yn gweithredu dan awdurdod yr Ysgrifenydd Gwladol dros yr Adran Gartref y tybir, er ystyried nad yw'n gymwys i'w gydnabod fel ffoadur, ei bod yn iawn caniatáu iddo ddod i mewn i neu aros yn y Deyrnas Unedig;
a gafodd ganiatâd i ddod i mewn neu aros yn unol â hynny;
nad yw cyfnod ei ganiatâd i ddod i mewn neu i aros wedi dod i ben neu y mae'r cyfnod hwnnw wedi'i adnewyddu ac nad yw'r cyfnod y cafodd ei adnewyddu ar ei gyfer wedi dod i ben neu y mae apêl (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002(4) ynghylch caniatâd y person i ddod i mewn neu i aros) yn yr arfaeth; ac
sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod er pan gafodd ganiatâd i ddod i mewn neu aros;
ystyr “Rheoliadau 2007” (“2007 Regulations”) yw Rheoliadau Grantiau Dysgu y Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) 2007(5);
ystyr “sefydliad Ewropeaidd” (“European institution”) yw—
Canolfan Bologna;
Coleg Ewrop;
yr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd.
4. Mae Rheoliadau 2007 wedi'u diwygio yn unol ag Atodlen 1.
5. Yn ddarostyngedig i reoliadau 6 a 7, mae Rheoliadau Grantiau Dysgu y Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) 2007 wedi'u dirymu.
6. Mae rheoliad 6 a 7 o Reoliadau 2007 yn parhau i fod yn gymwys.
7. Bydd Rheoliadau 2007 yn parhau i fod yn gymwys o ran Cymru mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2007 ond cyn 1 Medi 2008 ac mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2005 ond cyn 1 Medi 2006 cyn belled â bod Rheoliadau 2006 yn ymwneud â blwyddyn academaidd sy'n dechrau yn y cyfnod hwnnw.
8. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran darparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2008, p'un a gaiff unrhyw beth a wneir o dan y Rheoliadau hyn ei wneud cyn, ar neu ar ôl, 1 Medi 2008.
9.—(1) Onid yw person sy'n ceisio cymorth o dan y Rheoliadau hyn eisoes yn fyfyriwr cymwys yn rhinwedd rheoliad 10(10), rhaid iddo gyflwyno cais am gael ei ystyried yn fyfyriwr cymwys a chais am gymorth ar y ffurf sy'n ofynnol gan Weinidogion Cymru i'r sefydliad Ewropeaidd perthnasol erbyn y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau.
(2) Pan fo person sy'n ceisio cymorth o dan y Rheoliadau hyn eisoes yn fyfyriwr cymwys yn rhinwedd rheoliad 10(10), rhaid iddo hysbysu Gweinidogion Cymru yn ysgrifenedig erbyn y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ei fod yn dymuno gwneud cais am gymorth o dan y Rheoliadau hyn.
(3) Y dyddiad cau o ran blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2008 yw—
(a)28 Chwefror 2008, yn achos Canolfan Bologna;
(b)28 Chwefror 2008, yn achos Coleg Ewrop; ac
(c)28 Chwefror 2008, yn achos yr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd.
(4) Caiff Gweinidogion Cymru estyn y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau os ydynt o'r farn bod amgylchiadau'r achos yn cyfiawnhau hynny.
10.—(1) Mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael cymorth ariannol mewn cysylltiad â bod yn bresennol ar gwrs dynodedig yn ddarostyngedig i'r Rheoliadau hyn ac yn unol â hwy.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) ac (8), mae person yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig yng Ngholeg Ewrop neu'r Athrofa Brifysgol Ewropeaidd—
(a)os yw awdurdod academaidd y sefydliad Ewropeaidd sy'n darparu'r cwrs dynodedig yn hysbysu Gweinidogion Cymru yn ysgrifenedig bod gan y person gyfle rhesymol o gael cynnig lle ar y cwrs hwnnw gan yr awdurdod academaidd; a
(b)os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu mewn cysylltiad â chais am gymorth o dan y Rheoliadau hyn ei fod yn dod o fewn un o'r categorïau yn Rhan 2 o Atodlen 2.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) ac (8), mae person yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig yng Nghanolfan Bologna—
(a)os yw awdurdod academaidd Canolfan Bologna yn ei enwi i gael cymorth o dan y Rheoliadau hyn drwy ysgrifennu at Weinidogion Cymru; a
(b)os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu mewn cysylltiad â chais am gymorth o dan y Rheoliadau hyn ei fod yn dod o fewn un o'r categorïau yn Rhan 2 o Atodlen 2.
(4) Nid yw person yn fyfyriwr cymwys—
(a)os yw'r person hwnnw, yn ddarostyngedig i baragraff (5), wedi bod yn bresennol ar gwrs cymwys;
(b)os yw wedi torri rhwymedigaeth i ad-dalu unrhyw fenthyciad;
(c)os yw wedi cyrraedd ei 18 oed ac nad yw wedi cadarnhau unrhyw gytundeb ynghylch benthyciad a wnaed gydag ef pan oedd o dan 18 oed; neu
(ch)os yw, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi dangos drwy ei ymddygiad ei fod yn anffit i gael cymorth.
(5) Nid yw paragraff (4)(a) yn gymwys os yw'r person wedi bod yn bresennol ar gwrs cymwys ond bod Gweinidogion Cymru wedi penderfynu, o roi sylw i amgylchiadau penodol y person hwnnw, ei bod yn briodol talu cymorth iddo mewn cysylltiad â'r cwrs cyfredol.
(6) At ddibenion paragraff (4)(b) ac (c) ystyr “benthyciad” yw benthyciad a wneir o dan y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau i fyfyrwyr.
(7) Mewn achos pan fo'r cytundeb ar gyfer benthyciad yn ddarostyngedig i gyfraith yr Alban, dim ond os cafodd y cytundeb ei wneud—
(a)cyn 25 Medi 1991; a
(b)gyda chydsyniad curadur y benthyciwr neu ar adeg pan na fu ganddo guradur y mae paragraff (4)(c) yn gymwys.
(8) Rhaid i nifer y myfyrwyr cymwys beidio â bod—
(a)yn fwy nag 1, yn achos Canolfan Bologna;
(b)yn fwy na 2, yn achos Coleg Ewrop; ac
(c)yn fwy nag 1, yn achos yr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd.
(9) Ni chaiff myfyriwr cymwys y mae blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs yn dechrau mewn cysylltiad ag ef ar neu ar ôl 1 Medi 2000, ar unrhyw adeg, gymhwyso i gael cymorth at fwy nag un cwrs dynodedig.
(10) Er gwaethaf paragraffau (2) i (4) ac yn ddarostyngedig i baragraffau (8), (11) a (12), mae person yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig mewn sefydliad Ewropeaidd—
(a)os cymhwysodd fel myfyriwr cymwys mewn cysylltiad—
(i)â blwyddyn academaidd gynharach ar y cwrs cyfredol; neu
(ii)â chwrs dynodedig yr oedd yn bresennol arno yn yr un sefydliad Ewropeaidd ac y trosglwyddwyd ei statws fel myfyriwr cymwys ohono i'r cwrs cyfredol; a
(b)nad yw ei statws fel myfyriwr cymwys wedi'i derfynu.
(11) Pan fo—
(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd y ffaith ei fod yn ffoadur neu'n briod, partner sifil, plentyn neu lysblentyn i ffoadur, yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer un o flynyddoedd cynharach y cwrs cyfredol neu mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer cwrs dynodedig yn yr un sefydliad Ewropeaidd y trosglwyddwyd ei statws fel myfyriwr cymwys ohono i'r cwrs cyfredol; a
(b)statws ffoadur A neu statws ffoadur priod, partner sifil, rhiant neu lysriant i A, yn ôl y digwydd, i fod i ddod i ben cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi ac nad oes, ar y diwrnod cyn bod y flwyddyn academaidd honno'n dechrau, unrhyw ganiatâd pellach i aros wedi'i roi ac nad oes unrhyw apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),
mae statws A fel myfyriwr cymwys yn terfynu ar y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'n gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.
(12) Pan fo—
(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd y ffaith ei fod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu'n briod, partner sifil, plentyn neu lysblentyn i berson o'r fath, yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer un o flynyddoedd cynharach y cwrs cyfredol neu mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer cwrs dynodedig yn yr un sefydliad Ewropeaidd y trosglwyddwyd ei statws fel myfyriwr cymwys ohono i'r cwrs cyfredol; a
(b)y cyfnod pryd y caniateir i'r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig i fod i ddod i ben cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi ac nad oes, ar y diwrnod cyn bod y flwyddyn academaidd honno'n dechrau, unrhyw ganiatâd pellach i aros wedi'i roi nac unrhyw apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),
mae statws A fel myfyriwr cymwys yn terfynu ar y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'n gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.
(13) Nid yw paragraffau (11) a (12) yn gymwys os dechreuodd y myfyriwr y cwrs y penderfynodd Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad â'r cwrs hwnnw fod y myfyriwr yn fyfyriwr cymwys cyn 1 Medi 2007.
(14) Caiff Gweinidogion Cymru gymryd y camau a gwneud yr ymholiadau y maent yn barnu eu bod yn angenrheidiol i benderfynu a yw person yn fyfyriwr cymwys.
(15) Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu person y rhoddwyd gwybod iddynt amdano o dan baragraff (2)(a) neu a enwyd o dan baragraff (3)(a) a yw'n cymhwyso fel myfyriwr cymwys.
(16) Rhaid i berson sydd wedi cael hysbysiad gan Weinidogion Cymru o dan baragraff (15) ei fod yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs yng Ngholeg Ewrop neu'r Athrofa Brifysgol Ewropeaidd a pherson sy'n fyfyriwr cymwys yng Ngholeg Ewrop neu'r Athrofa Brifysgol Ewropeaidd yn rhinwedd paragraff (10), roi i Weinidogion Cymru, erbyn y dyddiad cau i wybodaeth ariannol ddod i law, unrhyw wybodaeth neu ddogfennaeth y maent yn gofyn amdani er mwyn penderfynu swm y cymorth sy'n daladwy o dan y Rheoliadau hyn mewn cysylltiad â'r flwyddyn academaidd.
(17) Y dyddiad cau i wybodaeth ariannol ddod i law, o ran blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2008, yw 28 Chwefror 2008 neu, yn achos grantiau sy'n daladwy o dan reoliadau 20(7) a 22(6), 28 Chwefror 2009.
(18) Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu myfyriwr cymwys o swm y cymorth sy'n daladwy mewn cysylltiad â'r flwyddyn academaidd, os o gwbl.
11. Mae cwrs yn gwrs dynodedig at ddibenion adran 22(1) o Ddeddf 1998 a rheoliad 10 os yw—
(a)yn gwrs ôl-raddedig neu'n gwrs cyffelyb;
(b)yn gwrs llawnamser;
(c)yn para am o leiaf un flwyddyn academaidd; ac
(ch)yn cael ei ddarparu gan sefydliad Ewropeaidd.
12.—(1) Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol a rheoliad 10, bydd statws myfyriwr fel myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig yn terfynu ar ddiwedd y flwyddyn academaidd y byddai'r sefydliad Ewropeaidd perthnasol fel arfer yn disgwyl i'r myfyriwr gwblhau'r cwrs ynddi (“cyfnod cymhwystra”).
(2) Bydd cyfnod cymhwystra'r myfyriwr yn terfynu pan fo'r myfyriwr—
(a)yn tynnu'n ôl o'i gwrs dynodedig o dan amgylchiadau lle na fyddai Gweinidogion Cymru yn trosglwyddo ei statws fel myfyriwr cymwys yn unol â rheoliad 13; neu
(b)yn rhoi'r gorau i'w gwrs dynodedig neu'n cael ei ddiarddel oddi arno.
(3) Caiff Gweinidogion Cymru derfynu cyfnod cymhwystra'r myfyriwr os ydynt wedi'u bodloni bod ymddygiad y myfyriwr wedi dangos ei fod yn anffit i gael cymorth.
(4) Os bydd cyfnod cymhwystra'r myfyriwr yn terfynu cyn diwedd y flwyddyn academaidd pryd y bydd y myfyriwr yn cwblhau'r cwrs mewn gwirionedd, caiff Gweinidogion Cymru, ar unrhyw bryd, estyn neu adnewyddu'r cyfnod cymhwystra am y cyfnod y byddant yn penderfynu arno.
(5) Os yw Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni bod myfyriwr cymwys wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad i roi gwybodaeth o dan y Rheoliadau hyn neu ei fod wedi rhoi gwybodaeth sy'n anghywir o ran manylyn perthnasol, caiff Gweinidogion Cymru wneud un neu ragor o'r canlynol—
(a)terfynu cyfnod cymhwystra'r myfyriwr;
(b)penderfynu nad yw'r myfyriwr yn cymhwyso mwyach i gael unrhyw fath penodol o gymorth neu unrhyw swm penodol o gymorth;
(c)trin unrhyw gymorth sydd eisoes wedi'i dalu i'r myfyriwr fel gordaliad y caniateir ei adennill yn unol â rheoliad 39.
13.—(1) Pan fo myfyriwr cymwys yn trosglwyddo i gwrs dynodedig arall yn yr un sefydliad Ewropeaidd, rhaid i Weinidogion Cymru drosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys—
(a)os byddant yn cael cais oddi wrth y myfyriwr cymwys am wneud hynny;
(b)os ydynt wedi'u bodloni bod y myfyriwr cymwys wedi dechrau bod yn bresennol ar y cwrs arall hwnnw ar argymhelliad yr awdurdod academaidd; ac
(c)os nad yw statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys wedi terfynu.
(2) Mae myfyriwr cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1) i gael mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo iddo weddill y cymorth a aseswyd gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo oddi wrtho.
(3) Ni chaiff myfyriwr cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1) ar ôl i Weinidogion Cymru asesu cymorth mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'r myfyriwr yn trosglwyddo oddi wrtho ond cyn i'r myfyriwr gwblhau'r flwyddyn honno, mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo iddo, wneud cais am grant arall o fath y mae eisoes wedi gwneud cais amdano o dan y Rheoliadau hyn mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo oddi wrtho.
14. Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cael cais am wneud hynny, rhaid i bob ceisydd a phob myfyriwr cymwys roi i Weinidogion Cymru yr wybodaeth y mae Gweinidogion Cymru yn credu bod arnynt ei hangen at ddibenion y Rheoliadau hyn.
15. Rhaid i bob ceisydd a phob myfyriwr cymwys roi gwybod ar unwaith i Weinidogion Cymru a rhoi'r manylion iddynt os bydd unrhyw rai o'r canlynol yn digwydd—
(a)ei fod yn tynnu'n ôl o'i gwrs, yn rhoi'r gorau iddo neu'n cael ei ddiarddel oddi arno;
(b)ei fod yn trosglwyddo i gwrs arall yn yr un sefydliad Ewropeaidd;
(c)ei fod yn rhoi'r gorau i fod yn bresennol ar y cwrs ac nad yw'n bwriadu parhau ag ef am weddill y flwyddyn academaidd neu nad yw'n cael caniatâd i barhau ag ef am weddill y flwyddyn academaidd;
(ch)ei fod yn absennol o'i gwrs am fwy na 60 o ddiwrnodau oherwydd salwch neu am unrhyw gyfnod am unrhyw reswm arall;
(d)bod y mis ar gyfer dechrau'r cwrs neu ei gwblhau yn newid;
(dd)bodei gyfeiriad cartref neu ei gyfeiriad yn ystod y tymor yn newid.
16. Rhaid i'r wybodaeth a roddir i Weinidogion Cymru yn unol â'r Rheoliadau hyn fod ar y ffurf y gofynnir amdani gan Weinidogion Cymru ac, os yw Gweinidogion Cymru yn gofyn bod yr wybodaeth yn cael ei llofnodi gan y person sy'n ei rhoi, mae llofnod electronig ar y ffurf a bennir ganddynt yn bodloni'r gofyniad hwn.
17.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), y rheol gyffredinol yw—
(a)bod myfyriwr cymwys sy'n bresennol ar gwrs dynodedig a ddarperir gan Ganolfan Bologna (“myfyriwr Canolfan Bologna”) yn cymhwyso i gael cymorth mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd ar y cwrs hwnnw yn unol â darpariaethau Pennod 1;
(b)bod myfyriwr cymwys sy'n bresennol ar gwrs dynodedig a ddarperir gan Goleg Ewrop (“myfyriwr Coleg Ewrop”) yn cymhwyso mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd ar y cwrs hwnnw i gael—
(i)grant at ffioedd a grantiau at gostau byw a chostau eraill yn unol â Phennod 2; a
(ii)grantiau atodol yn unol â Phennod 4; ac
(c)bod myfyriwr cymwys sy'n bresennol ar gwrs dynodedig a ddarperir gan Athrofa Prifysgol Ewrop (“myfyriwr Athrofa Prifysgol Ewrop”) yn cymhwyso mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd i gael—
(i)grantiau at gostau byw a chostau eraill yn unol â Phennod 3; a
(ii)grantiau atodol yn unol â Phennod 4.
(2) Os yw'r flwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr cymwys wedi gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi yn flwyddyn o ailadrodd astudiaethau, caiff Gweinidogion Cymru benderfynu—
(a)nad yw'r myfyriwr yn cymhwyso i gael math neu swm penodol o gymorth mewn cysylltiad â'r flwyddyn o ailadrodd astudiaethau; neu
(b)nad yw'r myfyriwr yn cymhwyso i gael unrhyw gymorth mewn cysylltiad â'r flwyddyn o ailadrodd astudiaethau.
(3) Wrth benderfynu na fyddai myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael rhyw gymorth neu unrhyw gymorth yn unol â pharagraff (2), rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i amgylchiadau'r achos ac yn benodol i'r rhesymau pam y gofynnwyd i'r myfyriwr ailadrodd blwyddyn academaidd.
(4) At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “blwyddyn o ailadrodd astudiaethau” yw blwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr wedi bod yn bresennol arni o'r blaen ond y mae'r sefydliad Ewropeaidd perthnasol yn ei gwneud yn ofynnol iddo fod yn bresennol arni eto.
18.—(1) Mae myfyriwr Canolfan Bologna yn cymhwyso i gael grant at ffioedd mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd ar y cwrs cyfredol wedi'i gyfrifo yn unol â pharagraff (2).
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), swm y grant at ffioedd sy'n daladwy mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd yw swm agregedig y ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr mewn cysylltiad â bod yn bresennol ar y cwrs cyfredol yn ystod y flwyddyn academaidd honno, neu fel arall yn gysylltiedig â bod yn bresennol arno.
(3) Er gwaethaf paragraff (2), nid yw'r grant at ffioedd sy'n daladwy o dan y rheoliad hwn i fod yn fwy na 25,580 ewro.
19.—(1) Mae myfyriwr Coleg Ewrop yn cymhwyso i gael grant at ffioedd mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd ar y cwrs cyfredol wedi'i gyfrifo yn unol â pharagraff (2).
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), swm y grant at ffioedd sy'n daladwy mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd yw swm agregedig y ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr mewn cysylltiad â bod yn bresennol ar y cwrs cyfredol yn ystod y flwyddyn academaidd honno, neu fel arall yn gysylltiedig â bod yn bresennol arno.
(3) 11,090 ewro yw uchafswm y grant at ffioedd.
20.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae myfyriwr Coleg Ewrop yn cymhwyso mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd i gael y grantiau at gostau byw a chostau eraill a bennir ym mharagraffau (3) i (7) ac a gyfrifir yn unol â hwy.
(2) Nid yw myfyriwr Coleg Ewrop yn cymhwyso i gael yr un o'r grantiau sy'n daladwy o dan y rheoliad hwn os paragraff 9 o Ran 2 o Atodlen 2 yw'r unig baragraff o Ran 2 o'r Atodlen honno y mae'r myfyriwr yn dod odano.
(3) Mae myfyriwr Coleg Ewrop yn cymhwyso i gael grant at gostau byw sy'n hafal i swm (A + B)
lle—
A yw £2,402; a
mae B yn £49 am bob wythnos, gan gynnwys wythnos pryd y mae'n ofynnol i'r myfyriwr fod yn bresennol yng Ngholeg Ewrop am lai na 5 niwrnod, pryd y mae'n ofynnol i'r myfyriwr fod yn bresennol yng Ngholeg Ewrop uwchlaw 30 wythnos a 3 diwrnod;
(4) Mae myfyriwr Coleg Ewrop yn cymhwyso i gael grant at fwrdd a llety o 6,000 ewro.
(5) Mae myfyriwr Coleg Ewrop yn cymhwyso i gael grant i deithio adref am swm sy'n hafal i (A − B)
lle—
A yw'r swm y mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu mai dyna gost tair siwrnai ddychwel o gyfeiriad cartref y myfyriwr i Goleg Ewrop; a
B yw £99.
(6) Mae myfyriwr Coleg Ewrop yn cymhwyso i gael grant at deithio colegol am y swm y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu mai dyna gost resymol teithio o breswylfa'r myfyriwr, tra bydd yn bresennol yng Ngholeg Ewrop, i Goleg Ewrop.
(7) Ar yr amod bod Gweinidogion Cymru'n cytuno ymlaen llaw a chyn tynnu costau, mae myfyriwr Coleg Ewrop yn cymhwyso i gael grant at deithio ar gyfer ymchwil am y swm y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu mai dyna gost resymol teithio sydd wedi'i thynnu er mwyn cwblhau cyfnodau o ymchwil a awdurdodwyd gan Goleg Ewrop yn ystod y flwyddyn academaidd y gwneir cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.
21. Caniateir didynnu yn unol â Rhan 5 o'r swm sy'n daladwy mewn cysylltiad ag unrhyw un o'r grantiau a gyfrifir yn unol â rheoliad 20.
22.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), mae myfyriwr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd yn cymhwyso mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd i gael y grantiau at gostau byw a chostau eraill a bennir ym mharagraffau (3) i (7) ac a gyfrifir yn unol â hwy.
(2) Nid yw myfyriwr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd yn cymhwyso i gael yr un o'r grantiau sy'n daladwy o dan y rheoliad hwn os paragraff 9 o Ran 2 o Atodlen 2 yw'r unig baragraff o Ran 2 o'r Atodlen honno y mae'r myfyriwr yn dod odano.
(3) Mae myfyriwr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd yn cymhwyso i gael grant at gostau byw o 13,240 ewro o ran blwyddyn academaidd sy'n dechrau cyn 1 Medi 2008 a 17,640 ewro o ran blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2008.
(4) Mae myfyriwr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd yn cymhwyso i gael grant i deithio adref am y swm y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu mai dyna gost resymol un siwrnai ddychwel o gyfeiriad cartref y myfyriwr i'r Athrofa Brifysgol Ewropeaidd.
(5) Mae myfyriwr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd yn cymhwyso i gael grant ar gyfer teithio colegol am y swm y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu mai dyna gost resymol teithio o breswylfa'r myfyriwr, tra bydd yn bresennol yn yr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd, i'r Athrofa Brifysgol Ewropeaidd.
(6) Ar yr amod bod Gweinidogion Cymru'n cytuno ymlaen llaw a chyn tynnu costau mae myfyriwr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd yn cymhwyso i gael grant at deithio ar gyfer ymchwil am y swm y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu mai dyna gost resymol teithio sydd wedi'i thynnu er mwyn cwblhau cyfnodau o ymchwil a awdurdodwyd gan yr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd yn ystod y flwyddyn academaidd y gwneir cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.
(7) Mae myfyriwr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd yn cymhwyso i gael grant at yswiriant meddygol am y swm y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu mai dyna gost resymol yswirio'r myfyriwr yn erbyn rhwymedigaeth i dalu cost triniaeth feddygol a ddarperir y tu allan i'r Deyrnas Unedig os yw cyfnod arferol y cwrs yn fwy nag un flwyddyn academaidd.
23. Caniateir didynnu yn unol â Rhan 5 o'r swm sy'n daladwy mewn cysylltiad ag unrhyw un o'r grantiau a gyfrifir o dan baragraffau (4) i (6) o reoliad 22.
24.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae myfyriwr Coleg Ewrop neu fyfyriwr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd yn cymhwyso i gael lwfans myfyrwyr anabl i helpu gyda'r gwariant ychwanegol y mae Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni bod rhaid i'r myfyriwr ei dynnu oherwydd anabledd sydd ganddo mewn cysylltiad â bod yn bresennol ar gwrs dynodedig.
(2) Nid yw myfyriwr Coleg Ewrop neu fyfyriwr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd yn cymhwyso i gael lwfans myfyrwyr anabl os paragraff 9 o Ran 2 o Atodlen 2 yw'r unig baragraff o Ran 2 o'r Atodlen honno y mae'r myfyriwr yn dod odano.
25.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), swm y lwfans myfyrwyr anabl yw'r swm y mae Gweinidogion Cymru o'r farn ei fod yn briodol yn unol ag amgylchiadau'r myfyriwr i fod yn gymorth at un neu ragor o fathau o wariant cymwys.
(2) Rhaid i swm y lwfans myfyrwyr anabl beidio â bod yn fwy na £10,000 mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd.
(3) Y “mathau o gostau cymwys” yw —
(a)gwariant ar gynorthwyydd personol anfeddygol;
(b)gwariant ar eitemau pwysig o offer arbenigol;
(c)unrhyw wariant ychwanegol a dynnir—
(i)yn y wlad y lleolir y sefydliad perthnasol ynddi er mwyn bod yn bresennol yn y sefydliad; a
(ii)yn y Deyrnas Unedig neu y tu allan iddi at ddibenion teithio i'r sefydliad perthnasol er mwyn bod yn bresennol ar y cwrs perthnasol.
26.—(1) Mae'r grant ar gyfer dibynyddion yn cynnwys yr elfennau canlynol—
(a)grant dibynyddion mewn oed; a
(b)lwfans dysgu rhieni.
(2) Nodir amodau cymhwyso ar gyfer pob elfen a'r symiau sy'n daladwy yn rheoliadau 27 i 31.
27.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae myfyriwr Coleg Ewrop neu fyfyriwr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd yn cymhwyso i gael grant dibynyddion mewn oed mewn cysylltiad â bod yn bresennol ar gwrs dynodedig yn unol â'r rheoliad hwn.
(2) Mae'r grant dibynyddion mewn oed ar gael mewn perthynas â dibynnydd myfyriwr cymwys sydd naill ai—
(a)yn bartner y myfyriwr; neu
(b)yn ddibynnydd mewn oed i'r myfyriwr a hwnnw'n ddibynnydd nad yw ei incwm net yn fwy na £3,705.
(3) Nid yw myfyriwr Coleg Ewrop neu fyfyriwr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd yn cymhwyso i gael y grant sy'n daladwy o dan y rheoliad hwn os paragraff 9 o Ran 2 o Atodlen 2 yw'r unig baragraff o Ran 2 o'r Atodlen honno y mae'r myfyriwr yn dod odano.
28. Mae swm y grant dibynyddion mewn oed sy'n daladwy mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd yn cael ei gyfrifo yn unol â rheoliad 30, a'r swm sylfaenol yw—
(a)mewn cysylltiad â'r flwyddyn academaidd gyfredol, £2,580; neu
(b)pan fo'r person y mae'r myfyriwr yn gwneud cais mewn cysylltiad ag ef am grant dibynyddion mewn oed yn preswylio fel arfer y tu allan i'r Deyrnas Unedig, y swm nad yw'n fwy na £2,580 ac sydd ym marn Gweinidogion Cymru yn rhesymol yn yr amgylchiadau.
29.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae myfyriwr Coleg Ewrop neu fyfyriwr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd yn cymhwyso, mewn cysylltiad â bod yn bresennol ar gwrs dynodedig, i gael y lwfans dysgu rhieni os oes ganddo un neu fwy o blant dibynnol.
(2) Nid yw myfyriwr Coleg Ewrop neu fyfyriwr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd yn cymhwyso i gael y grant sy'n daladwy o dan y rheoliad hwn os paragraff 9 o Ran 2 o Atodlen 2 yw'r unig baragraff o Ran 2 o'r Atodlen honno y mae'r myfyriwr yn dod odano.
(3) Mae swm y lwfans dysgu rhieni sy'n daladwy mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd yn cael ei gyfrifo yn unol â rheoliad 30, a'r swm sylfaenol yw £1,470.
30.—(1) Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, y swm sy'n daladwy mewn cysylltiad ag elfen benodol o'r grant ar gyfer dibynyddion y mae'r myfyriwr Coleg Ewrop neu'r myfyriwr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd yn cymhwyso i'w gael o dan reoliadau 27 i 29 yw swm yr elfen honno sy'n weddill ar ôl cymhwyso, hyd nes y daw i ben neu hyd nes nad oes elfen yn dal yn daladwy o dan reoliadau 27 i 29, swm sy'n hafal i (A − B) fel a ganlyn ac yn y drefn ganlynol—
(a)i ostwng swm sylfaenol y grant dibynyddion mewn oed os yw'r myfyriwr yn cymhwyso i gael yr elfen honno o dan reoliad 27; a
(b)i ostwng swm sylfaenol y lwfans dysgu rhieni os yw'r myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael yr elfen honno o dan reoliad 29.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) a (5), os yw B yn fwy nag A neu'n hafal i A, mae swm sylfaenol pob elfen o'r grant ar gyfer dibynyddion y mae'r myfyriwr yn cymhwyso i'w chael yn daladwy.
(3) Os yw (A − B) yn hafal i agregiad y symiau sylfaenol o elfennau'r grant ar gyfer dibynyddion y mae'r myfyriwr cymwys yn cymhwyso i'w cael neu'n fwy na'r agregiad hwnnw, y swm sy'n daladwy mewn cysylltiad â phob elfen yw dim.
(4) Mae swm y grant dibynyddion mewn oed a gyfrifir o dan baragraff (1) yn cael ei ostwng o hanner—
(a)os yw partner y myfyriwr—
(i)yn fyfyriwr cymwys; neu
(ii)yn dal dyfarniad statudol; a
(b)os cymerir dibynyddion y partner hwnnw i ystyriaeth wrth gyfrifo swm y cymorth y mae'r partner hwnnw yn cymhwyso i'w gael, neu'r taliad y mae ganddo hawlogaeth i'w gael, o dan y dyfarniad statudol.
(5) Os yw swm y lwfans dysgu rhieni a gyfrifir o dan baragraff (1) yn £0.01 neu fwy ond yn llai na £50, swm y lwfans dysgu rhieni sy'n daladwy yw £50.
(6) At ddibenion y rheoliad hwn—
A yw agregiad incwm net pob un o ddibynyddion y myfyriwr cymwys; a
B yw—
£1,130 os nad oes gan y myfyriwr unrhyw blant dibynnol;
£3,385 os nad yw'r myfyriwr yn rhiant unigol a bod ganddo un plentyn dibynnol;
£4,515 os nad yw'r myfyriwr yn rhiant unigol a bod ganddo fwy nag un plentyn dibynnol;
£4,515 os yw'r myfyriwr yn rhiant unigol a bod ganddo un plentyn dibynnol;
£5,650 os yw'r myfyriwr yn rhiant unigol a bod ganddo fwy nag un plentyn dibynnol.
31. Caniateir didynnu yn unol â Rhan 5 o'r swm sy'n daladwy mewn cysylltiad ag elfen benodol yn y grant ar gyfer dibynyddion a gyfrifir yn unol â rheoliadau 27 i 30.
32.—(1) At ddibenion rheoliadau 27 i 31—
(a)ystyr “dibynnydd mewn oed” (“adult dependant”), mewn perthynas â myfyriwr, yw person mewn oed sy'n dibynnu ar y myfyriwr heblaw plentyn y myfyriwr, partner y myfyriwr (gan gynnwys priod neu bartner sifil y mae Gweinidogion Cymru o'r farn bod y myfyriwr wedi gwahanu oddi wrtho) neu gyn-bartner y myfyriwr;
(b)mae “plentyn” (“child”) mewn perthynas â myfyriwr yn cynnwys unrhyw blentyn i bartner y myfyriwr sy'n ddibynnol ar y myfyriwr ac unrhyw blentyn y mae gan y myfyriwr gyfrifoldeb rhiant drosto sy'n ddibynnol arno;
(c)ystyr “dibynnydd” (“dependant”), mewn perthynas â myfyriwr, yw partner y myfyriwr, plentyn dibynnol y myfyriwr neu ddibynnydd mewn oed i'r myfyriwr, nad yw ym mhob achos yn fyfyriwr cymwys ac nad oes ganddo ddyfarniad statudol;
(ch)ystyr “dibynnol” (“dependent”) yw ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu'n bennaf;
(d)ystyr “rhiant unigol” (“lone parent”) yw myfyriwr nad oes ganddo bartner ac sydd â phlentyn dibynnol neu blant dibynnol;
(dd)mae i “incwm net” (“net income”) yr ystyr a roddir ym mharagraff (2);
(e)yn ddarostyngedig i is-baragraffau (f), (ff) ac (g), ystyr “partner” (“partner”) yw unrhyw un o'r canlynol—
(i)priod myfyriwr;
(ii)partner sifil myfyriwr;
(iii)person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr fel pe bai'r person hwnnw'n briod i'r myfyriwr—
(aa)os oedd y myfyriwr hwnnw yn 25 oed neu drosodd ar ddechrau'r flwyddyn academaidd y mae cyfraniad y myfyriwr i fod i gael ei asesu mewn cysylltiad â hi; a
(bb)os dechreuodd y myfyriwr hwnnw y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2000;
(iv)person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr fel pe bai'r person hwnnw'n bartner sifil i'r myfyriwr—
(aa)os oedd y myfyriwr hwnnw yn 25 oed neu drosodd ar ddechrau'r flwyddyn academaidd y mae cyfraniad y myfyriwr i fod i gael ei asesu mewn cysylltiad â hi; a
(bb)os dechreuodd y myfyriwr hwnnw y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2005;
(f)oni nodir fel arall, nid yw person a fyddai fel arall yn bartner o dan is-baragraff (e) i'w drin fel partner—
(i)os yw'r person hwnnw a'r myfyriwr, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi'u gwahanu; neu
(ii)os yw'r person yn byw fel arfer y tu allan i'r Deyrnas Unedig ac nad yw'n cael ei gynnal gan y myfyriwr;
(ff)at ddibenion diffinio “dibynnydd mewn oed”, mae person i'w drin fel partner pe bai'r person yn bartner o dan is-baragraff (e) oni bai am y ffaith nad oedd y myfyriwr y mae'r person yn byw gydag ef yn 25 oed neu drosodd ar ddechrau'r flwyddyn academaidd y mae cyfraniad y myfyriwr i fod i gael ei asesu mewn cysylltiad â hi;
(g)at ddibenion diffinio “plentyn” a “rhiant unigol”, mae person i'w drin fel partner pe bai'r person yn bartner o dan is-baragraff (e) oni bai am y dyddiad y dechreuodd y myfyriwr y cwrs dynodedig neu'r ffaith nad oedd y myfyriwr y mae'r person fel arfer yn byw gydag ef yn 25 oed neu drosodd ar ddechrau'r flwyddyn academaidd y mae cyfraniad y myfyriwr i fod i gael ei asesu mewn cysylltiad â hi.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), incwm net dibynnydd yw incwm y dibynnydd o bob ffynhonnell am y flwyddyn academaidd o dan sylw wedi'i ostwng yn ôl swm y dreth incwm a'r cyfraniadau nawdd cymdeithasol sy'n daladwy mewn cysylltiad â hi ond gan anwybyddu—
(a)unrhyw bensiwn, lwfans neu fudd-dal arall a delir oherwydd anabledd neu analluedd sydd gan y dibynnydd;
(b)budd-dal plant sy'n daladwy o dan Ran IX o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(6);
(c)unrhyw gymorth ariannol sy'n daladwy i'r dibynnydd gan awdurdod lleol yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adrannau 2, 3 a 4 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002(7);
(ch)unrhyw lwfans gwarcheidwad y mae gan y dibynnydd hawlogaeth i'w gael o dan adran 77 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992;
(d)yn achos dibynnydd y mae plentyn sy'n derbyn gofal awdurdod lleol wedi'i fyrddio gydag ef, unrhyw daliad a wneir i'r dibynnydd hwnnw at ddibenion adran 23 o Ddeddf Plant 1989(8);
(dd)unrhyw daliadau a wneir i'r dibynnydd o dan adran 15 o Ddeddf Plant 1989 ac Atodlen 1 iddi mewn cysylltiad â pherson nad yw'n blentyn i'r dibynnydd neu unrhyw gymorth a roddir gan awdurdod lleol yn unol ag adran 24 o'r Ddeddf honno; ac
(e)unrhyw gredyd treth plant y mae gan y dibynnydd hawlogaeth i'w gael o dan Ran 1 o Ddeddf Credydau Treth 2002.
(3) Os yw myfyriwr neu bartner y myfyriwr yn gwneud unrhyw daliadau ailgylchol a oedd gynt yn cael eu gwneud gan y myfyriwr yn unol â rhwymedigaeth a ysgwyddwyd cyn blwyddyn academaidd gyntaf cwrs y myfyriwr, incwm net y partner yw'r incwm net wedi'i gyfrifo yn unol â pharagraff (2) ac wedi'i ostwng yn ôl—
(a)swm sy'n hafal i'r taliadau o dan sylw am y flwyddyn academaidd, os cafodd y rhwymedigaeth, ym marn Gweinidogion Cymru, ei hysgwyddo'n rhesymol; neu
(b)y swm llai, os bydd unrhyw swm o gwbl, y mae Gweinidogion Cymru yn barnu ei fod yn briodol pe gallai rhwymedigaeth lai, yn eu barn hwy, fod wedi'i hysgwyddo'n rhesymol.
(4) At ddibenion paragraff (2)—
(a)os yw'r dibynnydd yn blentyn dibynnol; a
(b)os oes taliadau'n cael eu gwneud i'r myfyriwr tuag at gynhaliaeth y plentyn;
mae'r taliadau hynny i gael eu trin fel incwm i'r plentyn.
33.—(1) Cyfraniad myfyriwr Coleg Ewrop neu fyfyriwr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd yw'r swm a gyfrifir o dan Atodlen 3, os oes unrhyw swm o gwbl.
(2) At ddibenion arfer swyddogaethau Gweinidogion Cymru o dan y Rheoliadau hyn, caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i fyfyriwr roi o dro i dro yr wybodaeth y mae arnynt ei hangen er mwyn asesu cyfraniad y myfyriwr.
34.—(1) Rhaid i'r cyfraniad a gyfrifir yn unol â rheoliad 33 gael ei gymhwyso—
(a)yn achos myfyriwr Coleg Ewrop yn unol â rheoliad 35; a
(b)yn achos myfyriwr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd yn unol â rheoliad 36.
35.—(1) Yn achos myfyriwr Coleg Ewrop, rhaid i Weinidogion Cymru gymhwyso cyfraniad y myfyriwr—
(a)yn gyntaf, i ostwng swm y grant at gostau byw a gyfrifir o dan reoliad 20(3);
(b)yn ail—
(i)yn achos myfyriwr sy'n gymwys i gael y grant ar gyfer dibynyddion, i ostwng yn y drefn ganlynol—
(aa)swm unrhyw grant ar gyfer dibynyddion mewn oed a gyfrifir yn unol â rheoliad 30;
(bb)swm unrhyw lwfans dysgu rhieni a gyfrifir yn unol â rheoliad 30; ac
(cc)swm unrhyw grant ar gyfer bwrdd a llety a gyfrifir yn unol â rheoliad 20(4);
(ii)mewn unrhyw achos arall, i ostwng swm y grant at fwrdd a llety a gyfrifir yn unol â rheoliad 20(4);
(c)yn drydydd, i ostwng swm y grant ar gyfer teithio adref a gyfrifir yn unol â rheoliad 20(5);
(ch)yn bedwerydd, i ostwng swm y grant at deithio colegol a gyfrifir yn unol â rheoliad 20(6);
(d)yn bumed, yn ddarostyngedig i baragraff (2), i ostwng swm y grant ar gyfer teithio i ymchwilio a gyfrifir yn unol â rheoliad 20(7).
(2) Os yw'r cyfraniad sydd ar gael i ostwng swm y grant ar gyfer teithio i ymchwilio yn unol â pharagraff (1)(d) yn fwy na swm y grant hwnnw a gyfrifir o dan reoliad 20(7), swm y grant hwnnw sy'n daladwy i'r myfyriwr yw dim.
36.—(1) Yn achos myfyriwr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd rhaid i Weinidogion Cymru gymhwyso cyfraniad y myfyriwr—
(a)yn gyntaf, i ostwng swm y grant at gostau byw a gyfrifir yn unol â rheoliad 22(3);
(b)yn ail—
(i)yn achos myfyriwr sy'n gymwys i gael y grant ar gyfer dibynyddion, i ostwng yn y drefn ganlynol—
(aa)swm unrhyw grant ar gyfer dibynyddion mewn oed a gyfrifir yn unol â rheoliad 30;
(bb)swm unrhyw lwfans dysgu rhieni a gyfrifir yn unol â rheoliad 30; ac
(cc)swm unrhyw grant ar gyfer teithio adref a gyfrifir yn unol â rheoliad 22(4);
(ii)mewn unrhyw achos arall, i ostwng swm y grant ar gyfer teithio adref a gyfrifir yn unol â rheoliad 22(4);
(c)yn drydydd, swm y grant ar gyfer teithio colegol a gyfrifir yn unol â rheoliad 22(5).
(ch)yn bedwerydd, yn ddarostyngedig i baragraff (2), i ostwng swm y grant ar gyfer teithio i ymchwilio a gyfrifir yn unol â rheoliad 22(6).
(2) Os yw'r cyfraniad sydd ar gael i ostwng swm y grant ar gyfer teithio i ymchwilio yn unol â pharagraff (1)(ch) yn fwy na swm y grant hwnnw a gyfrifir o dan reoliad 22(6), swm y grant hwnnw sy'n daladwy i'r myfyriwr yw dim.
37.—(1) Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thalu'r grant at ffioedd y mae myfyriwr yn cymhwyso i'w gael hyd oni fydd cais dilys am daliad wedi dod i law oddi wrth yr awdurdod academaidd.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru wneud y taliadau grant at ffioedd i'r awdurdodau academaidd yn y rhandaliadau ac ar yr adegau y maent o'r farn eu bod yn briodol.
38.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru dalu'r grantiau at gostau byw a chostau eraill a'r grantiau atodol y mae myfyriwr yn cymhwyso i'w cael yn y rhandaliadau ac ar yr adegau sy'n briodol yn eu barn hwy.
(2) Os ydynt o'r farn ei bod yn briodol iddynt wneud hynny, caiff Gweinidogion Cymru dalu grant sy'n daladwy o dan reoliad 20(4) neu reoliad 22(3) i'r awdurdod academaidd perthnasol er mwyn i'r awdurdod dalu'r grant perthnasol ar eu rhan.
(3) Pan na ellir gwneud, ar sail yr wybodaeth a ddarperir gan y myfyriwr, asesiad terfynol o swm y grantiau at gostau byw a chostau eraill neu o grantiau atodol sy'n daladwy i fyfyriwr, caiff Gweinidogion Cymru wneud taliadau dros dro mewn cysylltiad â'r grantiau hynny hyd oni wneir yr asesiad terfynol.
(4) Os ydynt o'r farn ei bod yn briodol iddynt wneud hynny, caiff Gweinidogion Cymru wneud taliad lwfans myfyrwyr anabl cyn dechrau'r flwyddyn academaidd y mae'r taliad hwnnw'n ddyledus mewn cysylltiad â hi.
(5) Pan fo'r amgylchiadau yn rheoliad 15(a) neu yn rheoliad 15(c) yn gymwys, rhaid i Weinidogion Cymru beidio â gwneud unrhyw daliadau cymorth i fyfyriwr ar ôl y dyddiad y mae'r myfyriwr yn peidio â bod yn bresennol ar ei gwrs onid ydynt o'r farn ei bod yn briodol iddynt wneud hynny o ystyried amgylchiadau achos y myfyriwr.
(6) Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â gwneud unrhyw daliadau cymorth i fyfyriwr sy'n absennol o'r cwrs—
(a)am fwy na 60 o ddiwrnodau oherwydd salwch; neu
(b)am unrhyw gyfnod am unrhyw reswm arall,
onid ydynt o'r farn ei bod yn briodol iddynt wneud hynny o ystyried amgylchiadau achos y myfyriwr.
39.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru adennill oddi wrth yr awdurdod academaidd unrhyw ordaliad o grant at ffioedd.
(2) Os yw Gweinidogion Cymru'n ei gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny, rhaid i fyfyriwr cymwys ad-dalu unrhyw swm a dalwyd i'r myfyriwr hwnnw o dan Ran 4 ac sydd, am ba reswm bynnag, yn fwy na'r swm o gymorth y mae gan y myfyriwr hawlogaeth i'w gael o dan Ran 4.
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
8 Ionawr 2008
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys