- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) 2008 a deuant i rym ar 1 Chwefror 2008.
2. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
3.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “awdurdod academaidd” (“academic authority”), mewn perthynas â sefydliad, yw'r corff llywodraethu neu'r corff arall sydd â swyddogaethau corff llywodraethu ac mae'n cynnwys person sy'n gweithredu gydag awdurdod y corff hwnnw;
ystyr “cwrs cyfredol” (“current course”) yw'r cwrs dynodedig y mae person yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad ag ef neu am gael ei gydnabod yn fyfyriwr cymwys;
ystyr “cwrs cymwys” (“qualifying course”) yw cwrs—
sydd—
yn gwrs ôl-raddedig neu'n gwrs cyffelyb; a
sy'n para am o leiaf ddwy flynedd academaidd; a
y cafodd y myfyriwr ar ei gyfer, am o leiaf ddwy flynedd academaidd o'r cwrs, ddyfarniad statudol ac eithrio dyfarniad a fwriadwyd i helpu gyda gwariant ychwanegol yr oedd y myfyriwr yn gorfod ei dynnu mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar y cwrs oherwydd anabledd y mae neu yr oedd yn ei ddioddef;
ystyr “Cymuned Ewropeaidd” (“European Community”) yw'r diriogaeth a ffurfir gan Aelod-wladwriaethau'r Gymuned Ewropeaidd fel y'i cyfansoddir o dro i dro;
ystyr “Deddf 1998” (“1998 Act”) yw Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998;
ystyr “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw 1 Chwefror 2008;
ystyr “dyfarniad statudol” (“statutory award”) yw unrhyw ddyfarniad a roddir, unrhyw grant a delir, neu unrhyw gymorth arall a ddarperir yn rhinwedd Deddf 1998 neu Ddeddf Addysg 1962(1), neu unrhyw ddyfarniad, grant neu gymorth arall cyffelyb mewn cysylltiad ag ymgymryd â chwrs a delir o gronfeydd cyhoeddus;
ystyr “y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau i fyfyrwyr” (“student loans legislation”) yw Deddf Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) 1990, Gorchymyn Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1990, Deddf Addysg (Yr Alban) 1980 a rheoliadau a wnaed odani, Gorchymyn Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1998 a rheoliadau a wnaed odano neu Ddeddf 1998 a rheoliadau a wnaed odani;
ystyr “ffoadur” yw person a gydnabyddir gan lywodraeth Ei Mawrhydi fel ffoadur o fewn ystyr “refugee” yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig sy'n ymwneud â Statws Ffoaduriaid a wnaed yng Ngenefa ar 28 Gorffennaf 1951(2) fel y'i hestynnwyd gan y Protocol iddo a ddaeth i rym ar 4 Hydref 1967(3);
ystyr “grantiau at gostau byw a chostau eraill” (“grants for living and other costs”) yw'r grantiau sy'n daladwy o dan reoliadau 20 neu 22;
ystyr “grantiau atodol” (“supplementary grants”) yw'r grantiau sy'n daladwy o dan Bennod 4 o Ran 4;
mae i “myfyriwr cymwys” (“eligible student”) yr ystyr a roddir gan reoliad 10;
ystyr “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” (“person with leave to enter or remain”) yw person—
sydd wedi'i hysbysu gan berson yn gweithredu dan awdurdod yr Ysgrifenydd Gwladol dros yr Adran Gartref y tybir, er ystyried nad yw'n gymwys i'w gydnabod fel ffoadur, ei bod yn iawn caniatáu iddo ddod i mewn i neu aros yn y Deyrnas Unedig;
a gafodd ganiatâd i ddod i mewn neu aros yn unol â hynny;
nad yw cyfnod ei ganiatâd i ddod i mewn neu i aros wedi dod i ben neu y mae'r cyfnod hwnnw wedi'i adnewyddu ac nad yw'r cyfnod y cafodd ei adnewyddu ar ei gyfer wedi dod i ben neu y mae apêl (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002(4) ynghylch caniatâd y person i ddod i mewn neu i aros) yn yr arfaeth; ac
sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod er pan gafodd ganiatâd i ddod i mewn neu aros;
ystyr “Rheoliadau 2007” (“2007 Regulations”) yw Rheoliadau Grantiau Dysgu y Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) 2007(5);
ystyr “sefydliad Ewropeaidd” (“European institution”) yw—
Canolfan Bologna;
Coleg Ewrop;
yr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd.
4. Mae Rheoliadau 2007 wedi'u diwygio yn unol ag Atodlen 1.
5. Yn ddarostyngedig i reoliadau 6 a 7, mae Rheoliadau Grantiau Dysgu y Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) 2007 wedi'u dirymu.
6. Mae rheoliad 6 a 7 o Reoliadau 2007 yn parhau i fod yn gymwys.
7. Bydd Rheoliadau 2007 yn parhau i fod yn gymwys o ran Cymru mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2007 ond cyn 1 Medi 2008 ac mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2005 ond cyn 1 Medi 2006 cyn belled â bod Rheoliadau 2006 yn ymwneud â blwyddyn academaidd sy'n dechrau yn y cyfnod hwnnw.
8. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran darparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2008, p'un a gaiff unrhyw beth a wneir o dan y Rheoliadau hyn ei wneud cyn, ar neu ar ôl, 1 Medi 2008.
1962 p.12; rhoddwyd yn lle adrannau 1 i 4 ac Atodlen 1 y ddarpariaeth a osodir yn Atodlen 5 i Ddeddf Addysg 1980 (p.20). Diwygiwyd adran 1(3)(d) gan Ddeddf Addysg (Grantiau a Dyfarniadau) 1984 (p.11), adran 4. Diwygiwyd adran 4 gan Ddeddf Addysg 1994 (p.30), Atodlen 2, paragraff 2. Cafodd y Ddeddf gyfan ei diddymu gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p.30), adran 44(2) ac Atodlen 4, yn ddarostyngedig i'r darpariaethau trosiannol a'r arbedion a osodir yn Neddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Trosiannol) 1998 (O.S. 1998/3237), erthygl 3.
Gorch. 9171.
Gorch. 3906 (allan o brint; mae llungopïau ar gael, yn rhad ac am ddim, oddi wrth yr Is-adran Cymorth i Fyfyrwyr, Yr Adran Addysg a Sgiliau, Mowden Hall, Staindrop Road, Darlington DL3 9BG.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys