Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) 2008

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN 4CYMORTH ARIANNOL

Cyffredinol

17.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), y rheol gyffredinol yw—

(a)bod myfyriwr cymwys sy'n bresennol ar gwrs dynodedig a ddarperir gan Ganolfan Bologna (“myfyriwr Canolfan Bologna”) yn cymhwyso i gael cymorth mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd ar y cwrs hwnnw yn unol â darpariaethau Pennod 1;

(b)bod myfyriwr cymwys sy'n bresennol ar gwrs dynodedig a ddarperir gan Goleg Ewrop (“myfyriwr Coleg Ewrop”) yn cymhwyso mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd ar y cwrs hwnnw i gael—

(i)grant at ffioedd a grantiau at gostau byw a chostau eraill yn unol â Phennod 2; a

(ii)grantiau atodol yn unol â Phennod 4; ac

(c)bod myfyriwr cymwys sy'n bresennol ar gwrs dynodedig a ddarperir gan Athrofa Prifysgol Ewrop (“myfyriwr Athrofa Prifysgol Ewrop”) yn cymhwyso mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd i gael—

(i)grantiau at gostau byw a chostau eraill yn unol â Phennod 3; a

(ii)grantiau atodol yn unol â Phennod 4.

(2Os yw'r flwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr cymwys wedi gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi yn flwyddyn o ailadrodd astudiaethau, caiff Gweinidogion Cymru benderfynu—

(a)nad yw'r myfyriwr yn cymhwyso i gael math neu swm penodol o gymorth mewn cysylltiad â'r flwyddyn o ailadrodd astudiaethau; neu

(b)nad yw'r myfyriwr yn cymhwyso i gael unrhyw gymorth mewn cysylltiad â'r flwyddyn o ailadrodd astudiaethau.

(3Wrth benderfynu na fyddai myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael rhyw gymorth neu unrhyw gymorth yn unol â pharagraff (2), rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i amgylchiadau'r achos ac yn benodol i'r rhesymau pam y gofynnwyd i'r myfyriwr ailadrodd blwyddyn academaidd.

(4At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “blwyddyn o ailadrodd astudiaethau” yw blwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr wedi bod yn bresennol arni o'r blaen ond y mae'r sefydliad Ewropeaidd perthnasol yn ei gwneud yn ofynnol iddo fod yn bresennol arni eto.

PENNOD 1GRANTIAU AT FFIOEDD I FYFYRWYR CANOLFAN BOLOGNA

Grant at ffioedd

18.—(1Mae myfyriwr Canolfan Bologna yn cymhwyso i gael grant at ffioedd mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd ar y cwrs cyfredol wedi'i gyfrifo yn unol â pharagraff (2).

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), swm y grant at ffioedd sy'n daladwy mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd yw swm agregedig y ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr mewn cysylltiad â bod yn bresennol ar y cwrs cyfredol yn ystod y flwyddyn academaidd honno, neu fel arall yn gysylltiedig â bod yn bresennol arno.

(3Er gwaethaf paragraff (2), nid yw'r grant at ffioedd sy'n daladwy o dan y rheoliad hwn i fod yn fwy na 25,580 ewro.

PENNOD 2GRANTIAU I FYFYRWYR COLEG EWROP

Grant at ffioedd

19.—(1Mae myfyriwr Coleg Ewrop yn cymhwyso i gael grant at ffioedd mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd ar y cwrs cyfredol wedi'i gyfrifo yn unol â pharagraff (2).

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), swm y grant at ffioedd sy'n daladwy mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd yw swm agregedig y ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr mewn cysylltiad â bod yn bresennol ar y cwrs cyfredol yn ystod y flwyddyn academaidd honno, neu fel arall yn gysylltiedig â bod yn bresennol arno.

(311,090 ewro yw uchafswm y grant at ffioedd.

Grantiau at gostau byw a chostau eraill

20.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae myfyriwr Coleg Ewrop yn cymhwyso mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd i gael y grantiau at gostau byw a chostau eraill a bennir ym mharagraffau (3) i (7) ac a gyfrifir yn unol â hwy.

(2Nid yw myfyriwr Coleg Ewrop yn cymhwyso i gael yr un o'r grantiau sy'n daladwy o dan y rheoliad hwn os paragraff 9 o Ran 2 o Atodlen 2 yw'r unig baragraff o Ran 2 o'r Atodlen honno y mae'r myfyriwr yn dod odano.

(3Mae myfyriwr Coleg Ewrop yn cymhwyso i gael grant at gostau byw sy'n hafal i swm (A + B)

  • lle—

  • A yw £2,402; a

  • mae B yn £49 am bob wythnos, gan gynnwys wythnos pryd y mae'n ofynnol i'r myfyriwr fod yn bresennol yng Ngholeg Ewrop am lai na 5 niwrnod, pryd y mae'n ofynnol i'r myfyriwr fod yn bresennol yng Ngholeg Ewrop uwchlaw 30 wythnos a 3 diwrnod;

(4Mae myfyriwr Coleg Ewrop yn cymhwyso i gael grant at fwrdd a llety o 6,000 ewro.

(5Mae myfyriwr Coleg Ewrop yn cymhwyso i gael grant i deithio adref am swm sy'n hafal i (AB)

  • lle—

  • A yw'r swm y mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu mai dyna gost tair siwrnai ddychwel o gyfeiriad cartref y myfyriwr i Goleg Ewrop; a

  • B yw £99.

(6Mae myfyriwr Coleg Ewrop yn cymhwyso i gael grant at deithio colegol am y swm y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu mai dyna gost resymol teithio o breswylfa'r myfyriwr, tra bydd yn bresennol yng Ngholeg Ewrop, i Goleg Ewrop.

(7Ar yr amod bod Gweinidogion Cymru'n cytuno ymlaen llaw a chyn tynnu costau, mae myfyriwr Coleg Ewrop yn cymhwyso i gael grant at deithio ar gyfer ymchwil am y swm y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu mai dyna gost resymol teithio sydd wedi'i thynnu er mwyn cwblhau cyfnodau o ymchwil a awdurdodwyd gan Goleg Ewrop yn ystod y flwyddyn academaidd y gwneir cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.

21.  Caniateir didynnu yn unol â Rhan 5 o'r swm sy'n daladwy mewn cysylltiad ag unrhyw un o'r grantiau a gyfrifir yn unol â rheoliad 20.

PENNOD 3GRANTIAU I FYFYRWYR YN YR ATHROFA BRIFYSGOL EWROPEAIDD

Grantiau at gostau byw a chostau eraill

22.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), mae myfyriwr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd yn cymhwyso mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd i gael y grantiau at gostau byw a chostau eraill a bennir ym mharagraffau (3) i (7) ac a gyfrifir yn unol â hwy.

(2Nid yw myfyriwr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd yn cymhwyso i gael yr un o'r grantiau sy'n daladwy o dan y rheoliad hwn os paragraff 9 o Ran 2 o Atodlen 2 yw'r unig baragraff o Ran 2 o'r Atodlen honno y mae'r myfyriwr yn dod odano.

(3Mae myfyriwr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd yn cymhwyso i gael grant at gostau byw o 13,240 ewro o ran blwyddyn academaidd sy'n dechrau cyn 1 Medi 2008 a 17,640 ewro o ran blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2008.

(4Mae myfyriwr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd yn cymhwyso i gael grant i deithio adref am y swm y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu mai dyna gost resymol un siwrnai ddychwel o gyfeiriad cartref y myfyriwr i'r Athrofa Brifysgol Ewropeaidd.

(5Mae myfyriwr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd yn cymhwyso i gael grant ar gyfer teithio colegol am y swm y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu mai dyna gost resymol teithio o breswylfa'r myfyriwr, tra bydd yn bresennol yn yr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd, i'r Athrofa Brifysgol Ewropeaidd.

(6Ar yr amod bod Gweinidogion Cymru'n cytuno ymlaen llaw a chyn tynnu costau mae myfyriwr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd yn cymhwyso i gael grant at deithio ar gyfer ymchwil am y swm y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu mai dyna gost resymol teithio sydd wedi'i thynnu er mwyn cwblhau cyfnodau o ymchwil a awdurdodwyd gan yr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd yn ystod y flwyddyn academaidd y gwneir cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.

(7Mae myfyriwr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd yn cymhwyso i gael grant at yswiriant meddygol am y swm y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu mai dyna gost resymol yswirio'r myfyriwr yn erbyn rhwymedigaeth i dalu cost triniaeth feddygol a ddarperir y tu allan i'r Deyrnas Unedig os yw cyfnod arferol y cwrs yn fwy nag un flwyddyn academaidd.

23.  Caniateir didynnu yn unol â Rhan 5 o'r swm sy'n daladwy mewn cysylltiad ag unrhyw un o'r grantiau a gyfrifir o dan baragraffau (4) i (6) o reoliad 22.

PENNOD 4GRANTIAU ATODOL

Lwfans myfyrwyr anabl

24.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae myfyriwr Coleg Ewrop neu fyfyriwr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd yn cymhwyso i gael lwfans myfyrwyr anabl i helpu gyda'r gwariant ychwanegol y mae Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni bod rhaid i'r myfyriwr ei dynnu oherwydd anabledd sydd ganddo mewn cysylltiad â bod yn bresennol ar gwrs dynodedig.

(2Nid yw myfyriwr Coleg Ewrop neu fyfyriwr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd yn cymhwyso i gael lwfans myfyrwyr anabl os paragraff 9 o Ran 2 o Atodlen 2 yw'r unig baragraff o Ran 2 o'r Atodlen honno y mae'r myfyriwr yn dod odano.

Swm y lwfans myfyrwyr anabl

25.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), swm y lwfans myfyrwyr anabl yw'r swm y mae Gweinidogion Cymru o'r farn ei fod yn briodol yn unol ag amgylchiadau'r myfyriwr i fod yn gymorth at un neu ragor o fathau o wariant cymwys.

(2Rhaid i swm y lwfans myfyrwyr anabl beidio â bod yn fwy na £10,000 mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd.

(3Y “mathau o gostau cymwys” yw —

(a)gwariant ar gynorthwyydd personol anfeddygol;

(b)gwariant ar eitemau pwysig o offer arbenigol;

(c)unrhyw wariant ychwanegol a dynnir—

(i)yn y wlad y lleolir y sefydliad perthnasol ynddi er mwyn bod yn bresennol yn y sefydliad; a

(ii)yn y Deyrnas Unedig neu y tu allan iddi at ddibenion teithio i'r sefydliad perthnasol er mwyn bod yn bresennol ar y cwrs perthnasol.

Grant ar gyfer dibynyddion

26.—(1Mae'r grant ar gyfer dibynyddion yn cynnwys yr elfennau canlynol—

(a)grant dibynyddion mewn oed; a

(b)lwfans dysgu rhieni.

(2Nodir amodau cymhwyso ar gyfer pob elfen a'r symiau sy'n daladwy yn rheoliadau 27 i 31.

Grant dibynyddion mewn oed

27.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae myfyriwr Coleg Ewrop neu fyfyriwr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd yn cymhwyso i gael grant dibynyddion mewn oed mewn cysylltiad â bod yn bresennol ar gwrs dynodedig yn unol â'r rheoliad hwn.

(2Mae'r grant dibynyddion mewn oed ar gael mewn perthynas â dibynnydd myfyriwr cymwys sydd naill ai—

(a)yn bartner y myfyriwr; neu

(b)yn ddibynnydd mewn oed i'r myfyriwr a hwnnw'n ddibynnydd nad yw ei incwm net yn fwy na £3,705.

(3Nid yw myfyriwr Coleg Ewrop neu fyfyriwr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd yn cymhwyso i gael y grant sy'n daladwy o dan y rheoliad hwn os paragraff 9 o Ran 2 o Atodlen 2 yw'r unig baragraff o Ran 2 o'r Atodlen honno y mae'r myfyriwr yn dod odano.

28.  Mae swm y grant dibynyddion mewn oed sy'n daladwy mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd yn cael ei gyfrifo yn unol â rheoliad 30, a'r swm sylfaenol yw—

(a)mewn cysylltiad â'r flwyddyn academaidd gyfredol, £2,580; neu

(b)pan fo'r person y mae'r myfyriwr yn gwneud cais mewn cysylltiad ag ef am grant dibynyddion mewn oed yn preswylio fel arfer y tu allan i'r Deyrnas Unedig, y swm nad yw'n fwy na £2,580 ac sydd ym marn Gweinidogion Cymru yn rhesymol yn yr amgylchiadau.

Lwfans dysgu rhieni

29.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae myfyriwr Coleg Ewrop neu fyfyriwr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd yn cymhwyso, mewn cysylltiad â bod yn bresennol ar gwrs dynodedig, i gael y lwfans dysgu rhieni os oes ganddo un neu fwy o blant dibynnol.

(2Nid yw myfyriwr Coleg Ewrop neu fyfyriwr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd yn cymhwyso i gael y grant sy'n daladwy o dan y rheoliad hwn os paragraff 9 o Ran 2 o Atodlen 2 yw'r unig baragraff o Ran 2 o'r Atodlen honno y mae'r myfyriwr yn dod odano.

(3Mae swm y lwfans dysgu rhieni sy'n daladwy mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd yn cael ei gyfrifo yn unol â rheoliad 30, a'r swm sylfaenol yw £1,470.

Cyfrifo

30.—(1Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, y swm sy'n daladwy mewn cysylltiad ag elfen benodol o'r grant ar gyfer dibynyddion y mae'r myfyriwr Coleg Ewrop neu'r myfyriwr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd yn cymhwyso i'w gael o dan reoliadau 27 i 29 yw swm yr elfen honno sy'n weddill ar ôl cymhwyso, hyd nes y daw i ben neu hyd nes nad oes elfen yn dal yn daladwy o dan reoliadau 27 i 29, swm sy'n hafal i (A − B) fel a ganlyn ac yn y drefn ganlynol—

(a)i ostwng swm sylfaenol y grant dibynyddion mewn oed os yw'r myfyriwr yn cymhwyso i gael yr elfen honno o dan reoliad 27; a

(b)i ostwng swm sylfaenol y lwfans dysgu rhieni os yw'r myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael yr elfen honno o dan reoliad 29.

(2Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) a (5), os yw B yn fwy nag A neu'n hafal i A, mae swm sylfaenol pob elfen o'r grant ar gyfer dibynyddion y mae'r myfyriwr yn cymhwyso i'w chael yn daladwy.

(3Os yw (A − B) yn hafal i agregiad y symiau sylfaenol o elfennau'r grant ar gyfer dibynyddion y mae'r myfyriwr cymwys yn cymhwyso i'w cael neu'n fwy na'r agregiad hwnnw, y swm sy'n daladwy mewn cysylltiad â phob elfen yw dim.

(4Mae swm y grant dibynyddion mewn oed a gyfrifir o dan baragraff (1) yn cael ei ostwng o hanner—

(a)os yw partner y myfyriwr—

(i)yn fyfyriwr cymwys; neu

(ii)yn dal dyfarniad statudol; a

(b)os cymerir dibynyddion y partner hwnnw i ystyriaeth wrth gyfrifo swm y cymorth y mae'r partner hwnnw yn cymhwyso i'w gael, neu'r taliad y mae ganddo hawlogaeth i'w gael, o dan y dyfarniad statudol.

(5Os yw swm y lwfans dysgu rhieni a gyfrifir o dan baragraff (1) yn £0.01 neu fwy ond yn llai na £50, swm y lwfans dysgu rhieni sy'n daladwy yw £50.

(6At ddibenion y rheoliad hwn—

  • A yw agregiad incwm net pob un o ddibynyddion y myfyriwr cymwys; a

  • B yw—

    (a)

    £1,130 os nad oes gan y myfyriwr unrhyw blant dibynnol;

    (b)

    £3,385 os nad yw'r myfyriwr yn rhiant unigol a bod ganddo un plentyn dibynnol;

    (c)

    £4,515 os nad yw'r myfyriwr yn rhiant unigol a bod ganddo fwy nag un plentyn dibynnol;

    (ch)

    £4,515 os yw'r myfyriwr yn rhiant unigol a bod ganddo un plentyn dibynnol;

    (d)

    £5,650 os yw'r myfyriwr yn rhiant unigol a bod ganddo fwy nag un plentyn dibynnol.

31.  Caniateir didynnu yn unol â Rhan 5 o'r swm sy'n daladwy mewn cysylltiad ag elfen benodol yn y grant ar gyfer dibynyddion a gyfrifir yn unol â rheoliadau 27 i 30.

Dehongli

32.—(1At ddibenion rheoliadau 27 i 31—

(a)ystyr “dibynnydd mewn oed” (“adult dependant”), mewn perthynas â myfyriwr, yw person mewn oed sy'n dibynnu ar y myfyriwr heblaw plentyn y myfyriwr, partner y myfyriwr (gan gynnwys priod neu bartner sifil y mae Gweinidogion Cymru o'r farn bod y myfyriwr wedi gwahanu oddi wrtho) neu gyn-bartner y myfyriwr;

(b)mae “plentyn” (“child”) mewn perthynas â myfyriwr yn cynnwys unrhyw blentyn i bartner y myfyriwr sy'n ddibynnol ar y myfyriwr ac unrhyw blentyn y mae gan y myfyriwr gyfrifoldeb rhiant drosto sy'n ddibynnol arno;

(c)ystyr “dibynnydd” (“dependant”), mewn perthynas â myfyriwr, yw partner y myfyriwr, plentyn dibynnol y myfyriwr neu ddibynnydd mewn oed i'r myfyriwr, nad yw ym mhob achos yn fyfyriwr cymwys ac nad oes ganddo ddyfarniad statudol;

(ch)ystyr “dibynnol” (“dependent”) yw ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu'n bennaf;

(d)ystyr “rhiant unigol” (“lone parent”) yw myfyriwr nad oes ganddo bartner ac sydd â phlentyn dibynnol neu blant dibynnol;

(dd)mae i “incwm net” (“net income”) yr ystyr a roddir ym mharagraff (2);

(e)yn ddarostyngedig i is-baragraffau (f), (ff) ac (g), ystyr “partner” (“partner”) yw unrhyw un o'r canlynol—

(i)priod myfyriwr;

(ii)partner sifil myfyriwr;

(iii)person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr fel pe bai'r person hwnnw'n briod i'r myfyriwr—

(aa)os oedd y myfyriwr hwnnw yn 25 oed neu drosodd ar ddechrau'r flwyddyn academaidd y mae cyfraniad y myfyriwr i fod i gael ei asesu mewn cysylltiad â hi; a

(bb)os dechreuodd y myfyriwr hwnnw y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2000;

(iv)person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr fel pe bai'r person hwnnw'n bartner sifil i'r myfyriwr—

(aa)os oedd y myfyriwr hwnnw yn 25 oed neu drosodd ar ddechrau'r flwyddyn academaidd y mae cyfraniad y myfyriwr i fod i gael ei asesu mewn cysylltiad â hi; a

(bb)os dechreuodd y myfyriwr hwnnw y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2005;

(f)oni nodir fel arall, nid yw person a fyddai fel arall yn bartner o dan is-baragraff (e) i'w drin fel partner—

(i)os yw'r person hwnnw a'r myfyriwr, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi'u gwahanu; neu

(ii)os yw'r person yn byw fel arfer y tu allan i'r Deyrnas Unedig ac nad yw'n cael ei gynnal gan y myfyriwr;

(ff)at ddibenion diffinio “dibynnydd mewn oed”, mae person i'w drin fel partner pe bai'r person yn bartner o dan is-baragraff (e) oni bai am y ffaith nad oedd y myfyriwr y mae'r person yn byw gydag ef yn 25 oed neu drosodd ar ddechrau'r flwyddyn academaidd y mae cyfraniad y myfyriwr i fod i gael ei asesu mewn cysylltiad â hi;

(g)at ddibenion diffinio “plentyn” a “rhiant unigol”, mae person i'w drin fel partner pe bai'r person yn bartner o dan is-baragraff (e) oni bai am y dyddiad y dechreuodd y myfyriwr y cwrs dynodedig neu'r ffaith nad oedd y myfyriwr y mae'r person fel arfer yn byw gydag ef yn 25 oed neu drosodd ar ddechrau'r flwyddyn academaidd y mae cyfraniad y myfyriwr i fod i gael ei asesu mewn cysylltiad â hi.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), incwm net dibynnydd yw incwm y dibynnydd o bob ffynhonnell am y flwyddyn academaidd o dan sylw wedi'i ostwng yn ôl swm y dreth incwm a'r cyfraniadau nawdd cymdeithasol sy'n daladwy mewn cysylltiad â hi ond gan anwybyddu—

(a)unrhyw bensiwn, lwfans neu fudd-dal arall a delir oherwydd anabledd neu analluedd sydd gan y dibynnydd;

(b)budd-dal plant sy'n daladwy o dan Ran IX o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(1);

(c)unrhyw gymorth ariannol sy'n daladwy i'r dibynnydd gan awdurdod lleol yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adrannau 2, 3 a 4 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002(2);

(ch)unrhyw lwfans gwarcheidwad y mae gan y dibynnydd hawlogaeth i'w gael o dan adran 77 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992;

(d)yn achos dibynnydd y mae plentyn sy'n derbyn gofal awdurdod lleol wedi'i fyrddio gydag ef, unrhyw daliad a wneir i'r dibynnydd hwnnw at ddibenion adran 23 o Ddeddf Plant 1989(3);

(dd)unrhyw daliadau a wneir i'r dibynnydd o dan adran 15 o Ddeddf Plant 1989 ac Atodlen 1 iddi mewn cysylltiad â pherson nad yw'n blentyn i'r dibynnydd neu unrhyw gymorth a roddir gan awdurdod lleol yn unol ag adran 24 o'r Ddeddf honno; ac

(e)unrhyw gredyd treth plant y mae gan y dibynnydd hawlogaeth i'w gael o dan Ran 1 o Ddeddf Credydau Treth 2002.

(3Os yw myfyriwr neu bartner y myfyriwr yn gwneud unrhyw daliadau ailgylchol a oedd gynt yn cael eu gwneud gan y myfyriwr yn unol â rhwymedigaeth a ysgwyddwyd cyn blwyddyn academaidd gyntaf cwrs y myfyriwr, incwm net y partner yw'r incwm net wedi'i gyfrifo yn unol â pharagraff (2) ac wedi'i ostwng yn ôl—

(a)swm sy'n hafal i'r taliadau o dan sylw am y flwyddyn academaidd, os cafodd y rhwymedigaeth, ym marn Gweinidogion Cymru, ei hysgwyddo'n rhesymol; neu

(b)y swm llai, os bydd unrhyw swm o gwbl, y mae Gweinidogion Cymru yn barnu ei fod yn briodol pe gallai rhwymedigaeth lai, yn eu barn hwy, fod wedi'i hysgwyddo'n rhesymol.

(4At ddibenion paragraff (2)—

(a)os yw'r dibynnydd yn blentyn dibynnol; a

(b)os oes taliadau'n cael eu gwneud i'r myfyriwr tuag at gynhaliaeth y plentyn;

mae'r taliadau hynny i gael eu trin fel incwm i'r plentyn.

(3)

1989 p. 41. Diwygiwyd adran 23 gan Ddeddf Plant 2004 (p. 31), adran 49(3).

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill