Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) 2008

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Dehongli

1.—(1At ddibenion yr Atodlen hon—

ystyr “aelod o deulu” (“family member”), oni nodir yn wahanol—

(a)

mewn perthynas â gweithiwr y ffin o'r AEE, gweithiwr mudol o'r AEE, person hunangyflogedig y ffin o'r AEE neu berson hunangyflogedig o'r AEE yw—

(i)

ei briod neu ei bartner sifil;

(ii)

ei blentyn neu blentyn ei briod neu ei bartner sifil; neu

(iii)

perthnasau uniongyrchol dibynnol yn ei linach esgynnol neu yn llinach esgynnol ei briod neu ei bartner sifil;

(b)

mewn perthynas â pherson cyflogedig Swisaidd, person cyflogedig Swisaidd y ffin, person hunangyflogedig Swisaidd y ffin neu berson hunangyflogedig Swisaidd yw—

(i)

ei briod neu ei bartner sifil; neu

(ii)

ei blentyn neu blentyn ei briod neu ei bartner sifil;

(c)

mewn perthynas â gwladolyn y GE sy'n dod o fewn Erthygl 7(1)(c) o Gyfarwyddeb 2004/38 yw—

(i)

ei briod neu ei bartner sifil; neu

(ii)

ei ddisgynyddion uniongyrchol neu ddisgynyddion uniongyrchol ei briod neu ei bartner sifil—

(aa)

sydd o dan 21 mlwydd oed;

(bb)

sy'n ddibynyddion iddo neu i'w briod neu i'w bartner sifil;

(ch)

mewn perthynas â gwladolyn y GE sy'n dod o fewn Erthygl 7(1)(b) o Gyfarwyddeb 2004/38 yw—

(iii)

ei briod neu ei bartner sifil;

(ii)

ei ddisgynyddion uniongyrchol neu ddisgynyddion uniongyrchol ei briod neu ei bartner sifil—

(aa)

sydd o dan 21 mlwydd oed; neu

(bb)

sy'n ddibynyddion iddo neu i'w briod neu i'w bartner sifil;

(iii)

perthnasau uniongyrchol dibynnol yn ei linach esgynnol neu yn llinach esgynnol ei briod neu ei bartner sifil;

(d)

mewn perthynas â gwladolyn y Deyrnas Unedig, at ddibenion paragraff 9—

(i)

ei briod neu ei bartner sifil; neu

(ii)

ei ddisgynyddion uniongyrchol neu ddisgynyddion uniongyrchol ei briod neu ei bartner sifil—

(aa)

sydd o dan 21 mlwydd oed; neu

(bb)

sy'n ddibynyddion iddo neu i'w briod neu i'w bartner sifil;

ystyr “Ardal Economaidd Ewropeaidd” (“European Economic Area”) yw'r ardal a gaiff ei ffurfio gan y Gymuned Ewropeaidd, Gweriniaeth Gwlad yr Iâ, Teyrnas Norwy a Thywysogaeth Liechtenstein;

ystyr “Cyfarwyddeb 2004/38” (“Directive 2004/38”) yw Cyfarwyddeb 2004/38/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor dyddiedig 29 Ebrill 2004 ar hawliau dinasyddion yr Undeb ac aelodau o'u teuluoedd i symud a phreswylio'n rhydd yn nhiriogaeth yr Aelod-wladwriaethau(1);

ystyr “Cytundeb y Swistir” (“Swiss Agreement”) yw'r Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a'i Haelod-wladwriaethau, o'r naill ran, a'r Conffederasiwn Swisaidd, o'r rhan arall, ar Rydd Symudiad Personau, a lofnodwyd yn Lwcsembwrg ar 21 Mehefin 1999(2) ac a ddaeth i rym ar 1 Mehefin 2002;

ystyr “Cytundeb yr AEE” (“EEA Agreement”) yw'r Cytundeb ar yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a lofnodwyd yn Oporto ar 2 Mai 1992(3) fel y'i haddaswyd gan y Protocol a lofnodwyd ym Mrwsel ar 17 Mawrth 1993(4);

ystyr “gweithiwr” (“worker”) yw gweithiwr o fewn ystyr Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu ystyr Cytundeb yr AEE, yn ôl y digwydd;

mae i “gweithiwr y ffin o'r AEE” (“EEA frontier worker”) yr ystyr a roddir gan is-baragraff (3);

ystyr “gweithiwr mudol o'r AEE” (“EEA migrant worker”) yw un o wladolion yr AEE sy'n weithiwr neu, yn achos un o wladolion yr AEE sy'n gwneud cais am gymorth ar ôl y dyddiad symud, a oedd yn weithiwr, ac eithrio yn un o weithwyr y ffin o'r AEE, yn y Deyrnas Unedig;

ystyr “gweithiwr Twrcaidd” (“Turkish worker”) yw gwladolyn Twrcaidd a oedd ar y dyddiad perthnasol—

(a)

yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd; a

(b)

yn gyfreithiol gyflogedig, neu a oedd wedi bod yn gyfreithiol gyflogedig, yn y Deyrnas Unedig;

ystyr “gwladolyn y Deyrnas Unedig” (“United Kingdom national”) yw person sydd i'w drin fel un o wladolion y Deyrnas Unedig at ddibenion Cytuniadau'r Gymuned;

ystyr “Gwladolyn y GE” (“EC national”) yw un o wladolion un o Aelod-wladwriaethau'r Gymuned Ewropeaidd;

ystyr “gwladolyn yr AEE” (“EEA national”) yw un o wladolion un o Wladwriaethau'r AEE ac eithrio'r Deyrnas Unedig;

ystyr “Gwladwriaeth yr AEE” (“EEA State”) yw un o Aelod-wladwriaethau'r Ardal Economaidd Ewropeaidd;

ystyr “hawl i breswylio'n barhaol” (“right of permanent residence”) yw hawl sy'n deillio o dan Gyfarwyddeb 2004/38 i breswylio yn y Deyrnas Unedig yn barhaol heb gyfyngiad;

ystyr “person cyflogedig” (“employed person”) yw person cyflogedig o fewn ystyr Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;

ystyr “person cyflogedig Swisaidd” (“Swiss employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sy'n berson cyflogedig, ac eithrio'n berson cyflogedig Swisaidd y ffin, yn y Deyrnas Unedig;

mae i “person cyflogedig Swisaidd y ffin” (“Swiss frontier employed person”) yr ystyr a roddir yn is-baragraff (4);

ystyr “person hunangyflogedig” (“self-employed person”)—

(a)

mewn perthynas â gwladolyn yr AEE, yw person sy'n hunangyflogedig o fewn ystyr Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu Gytundeb yr AEE, yn ôl y digwydd; neu

(b)

mewn perthynas â dinesydd Swisaidd, yw person sy'n berson hunangyflogedig o fewn ystyr Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;

ystyr “person hunangyflogedig o'r AEE” (“EEA self-employed person”) yw un o wladolion yr AEE sy'n berson hunangyflogedig, ac eithrio'n berson hunangyflogedig y ffin o'r AEE, yn y Deyrnas Unedig;

ystyr “person hunangyflogedig Swisaidd” (“Swiss self-employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sydd neu, yn achos person sy'n gwneud cais am gymorth ar ôl y dyddiad symud, a oedd yn berson hunangyflogedig, ac eithrio'n berson hunangyflogedig Swisaidd y ffin, yn y Deyrnas Unedig;

mae i “person hunangyflogedig Swisaidd y ffin” (“Swiss frontier self-employed person”) yr ystyr a roddir yn is-baragraff (5);

mae i “person hunangyflogedig y ffin o'r AEE” (“EEA frontier self-employed person”) yr ystyr a roddir gan is-baragraff (2);

mae i “wedi setlo” yr ystyr a roddir i “settled” yn adran 33(2A) o Ddeddf Mewnfudo 1971(5).

(2ystyr “person hunangyflogedig y ffin o'r AEE” (“EEA frontier self-employed person”) yw un o wladolion yr AEE—

(a)sy'n berson hunangyflogedig yng Nghymru; a

(b)sy'n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth un o Wladwriaethau'r AEE ac eithrio'r Deyrnas Unedig ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu yn y Wladwriaeth honno yn yr AEE, yn ôl y digwydd, bob dydd neu o leiaf unwaith yr wythnos.

(3ystyr “gweithiwr y ffin o'r AEE” (“EEA frontier worker”) yw un o wladolion yr AEE—

(a)sy'n weithiwr yng Nghymru; a

(b)sy'n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth un o Wladwriaethau'r AEE ac eithrio'r Deyrnas Unedig ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu yn y Wladwriaeth honno yn yr AEE, yn ôl y digwydd, bob dydd neu o leiaf unwaith yr wythnos.

(4ystyr “person cyflogedig Swisaidd y ffin” (“Swiss frontier employed person”) yw gwladolyn Swisaidd—

(a)sy'n berson cyflogedig yng Nghymru; a

(b)sy'n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth un o Wladwriaethau'r AEE ac eithrio'r Deyrnas Unedig ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu yn y Wladwriaeth honno yn yr AEE, yn ôl y digwydd, bob dydd neu o leiaf unwaith yr wythnos.

(5ystyr “person hunangyflogedig Swisaidd y ffin” (“Swiss frontier self-employed person”) yw gwladolyn Swisaidd—

(a)sy'n berson hunangyflogedig yng Nghymru; a

(b)sy'n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth un o Wladwriaethau'r AEE ac eithrio'r Deyrnas Unedig ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu yn y Wladwriaeth honno yn yr AEE, yn ôl y digwydd, bob dydd neu o leiaf unwaith yr wythnos.

(6At ddibenion yr Atodlen hon, mae “rhiant” (“parent”) yn cynnwys gwarcheidwad, unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn ac unrhyw berson a chanddo ofal dros blentyn a rhaid dehongli “plentyn” (“child”) yn unol â hynny.

(7At ddibenion yr Atodlen hon, mae person i'w drin fel petai'n preswylio fel arfer yng Nghymru, yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd, yn y diriogaeth y mae'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn ei ffurfio neu yn y diriogaeth y mae'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci yn ei ffurfio pe byddai wedi bod yn preswylio felly oni bai am y ffaith—

(a)bod y person;

(b)bod ei briod neu ei bartner sifil;

(c)bod ei riant; neu

(ch)yn achos perthynas uniongyrchol dibynnol yn y llinell esgynnol, bod ei blentyn neu briod neu bartner sifil ei blentyn,

yn cael ei gyflogi neu wedi bod yn cael ei gyflogi dros dro y tu allan i'r ardal o dan sylw.

(8At ddibenion is-baragraff (7), mae gwaith dros dro y tu allan i Gymru, i'r Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd, i diriogaeth y mae'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swisdir yn ei ffurfio neu i diriogaeth y mae'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci yn ei ffurfio yn cynnwys—

(a)yn achos aelodau o lynges, o fyddin neu o awyrlu rheolaidd y Goron, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu fel aelodau o'r lluoedd hynny y tu allan i'r Deyrnas Unedig;

(b)yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd un o Wladwriaethau'r AEE neu'r Swistir, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu fel aelodau o'r lluoedd hynny y tu allan i'r diriogaeth y mae'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swisdir yn ei ffurfio; a

(c)yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Twrci, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu fel aelodau o'r lluoedd hynny y tu allan i'r diriogaeth y mae'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci yn ei ffurfio.

(1)

OJ L158, 30.04.2004, tt. 77—123.

(2)

Gorch. 4904.

(3)

Gorch. 2073.

(4)

Gorch. 2183.

(5)

1971 p.77; mewnosodwyd adran 33(2A) gan baragraff 7 o Atodlen 4 i Ddeddf Cenedligrwydd Prydeinig 1981 (p.61).

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill