Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) 2008

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN 2Categorïau

Personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig

7.—(1Person—

(a)sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ar y dyddiad perthnasol ac eithrio drwy fod wedi caffael yr hawl i breswylio'n barhaol;

(b)sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol;

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad perthnasol yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd; ac

(ch)nad oedd yn ystod unrhyw ran o'r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) wedi bod yn preswylio'n arferol yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd yn gyfan gwbl neu'n bennaf at y diben o dderbyn addysg lawnamser.

(2Nid yw paragraff (ch) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy'n cael ei drin fel pe bai'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd yn unol â pharagraff 1(7).

8.  Person—

(a)sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ar y dyddiad perthnasol oherwydd ei fod wedi caffael yr hawl i breswylio'n barhaol;

(b)sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol;

(c)a oedd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad perthnasol; ac

(ch)a oedd, mewn achos pan oedd ei breswyliaeth arferol y cyfeirir ati ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu'n bennaf at y diben o dderbyn addysg lawnamser, yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn ei ffurfio yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (c).

Ffoaduriaid a phersonau sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros

4.—(1Person—

(a)sy'n ffoadur;

(b)sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan gafodd ei gydnabod yn ffoadur; ac

(c)sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol.

(2Person—

(a)sy'n briod neu'n bartner sifil i ffoadur;

(b)a oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r ffoadur ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur ei gais am loches;

(c)sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan gafodd ganiatâd i aros yn y Deyrnas Unedig; ac

(ch)sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol.

(3Person—

(a)sy'n blentyn i ffoadur neu'n blentyn i briod neu bartner sifil i ffoadur;

(b)a oedd, ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur ei gais am loches, yn blentyn i'r ffoadur neu'n blentyn i berson a oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r ffoadur ar y dyddiad hwnnw;

(c)a oedd o dan 18 mlwydd oed ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur ei gais am loches;

(ch)sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan gafodd ganiatâd i aros yn y Deyrnas Unedig; a

(d)sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol.

5.—(1Person—

(a)sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

(b)sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol; ac

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad perthnasol.

(2Person—

(a)sy'n briod neu'n bartner sifil i berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

(b)a oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad y gwnaeth y person hwnnw ei gais am loches;

(c)sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol; ac

(ch)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad perthnasol.

(3Person—

(a)sy'n blentyn i berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu'n blentyn i briod neu i bartner sifil person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

(b)a oedd, ar y dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ei gais am loches, yn blentyn i'r person hwnnw neu'n blentyn i berson a oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad hwnnw;

(c)a oedd o dan 18 mlwydd oed ar y dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ei gais am loches;

(ch)sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol; a

(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad perthnasol.

Gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau o'u teuluoedd

6.—(1Person—

(a)sydd, ar y dyddiad perthnasol—

(i)yn weithiwr mudol o'r AEE neu'n berson hunangyflogedig o'r AEE;

(ii)yn berson cyflogedig Swisaidd neu'n berson hunangyflogedig Swisaidd;

(iii)yn aelod o deulu person a grybwyllir ym mharagraff (i) neu (ii);

(iv)yn weithiwr y ffin o'r AEE neu'n berson hunangyflogedig y ffin o'r AEE;

(v)yn berson cyflogedig Swisaidd y ffin neu'n berson hunangyflogedig Swisaidd y ffin; neu

(vi)yn aelod o deulu person ym mharagraff (iv) neu (v);

(b)sydd, yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol;

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn ei ffurfio drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad perthnasol.

(2Nid yw paragraff (b) o is-baragraff (1) yn gymwys pan fo'r person sy'n gwneud cais am gymorth yn dod o fewn paragraff (a)(iv), (v) neu (vi) o is-baragraff (1).

7.  Person—

(a)sydd yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol;

(b)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn ei ffurfio drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad perthnasol; ac

(c)sydd â hawlogaeth i gael cymorth yn rhinwedd Erthygl 12 o Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1612/68 ar rydd symudiad gweithwyr(1), fel y'i hymestynnwyd gan Gytundeb yr AEE.

Personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio mewn man arall

8.—(1Person—

(a)sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig;

(b)sydd wedi gadael y Deyrnas Unedig ac wedi arfer hawl i breswylio ar ôl iddo fod wedi bod wedi setlo yn y Deyrnas Unedig;

(c)sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol;

(ch)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn ei ffurfio drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad perthnasol; a

(d)a oedd, mewn achos lle yr oedd ei breswyliaeth arferol y cyfeirir ati ym mharagraff (b) yn gyfan gwbl neu'n bennaf at ddibenion derbyn addysg lawnamser, yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn ei ffurfio yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (ch).

(2At ddibenion y paragraff hwn, mae person wedi arfer hawl i breswylio os yw'n wladolyn y Deyrnas Unedig, yn aelod o deulu gwladolyn y Deyrnas Unedig at ddibenion Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 (neu ddibenion cyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir) neu'n berson a chanddo hawl i breswylio'n barhaol ac sydd ymhob achos wedi arfer hawl o dan Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu unrhyw hawl gyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir mewn gwladwriaeth ac eithrio'r Deyrnas Unedig neu, yn achos person sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd â hawl i breswylio'n barhaol, os yw'n mynd i'r wladwriaeth o fewn y diriogaeth y mae'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn ei ffurfio ac y mae'n un o'i gwladolion neu y mae'r person y mae'n aelod o'i deulu yn un o'i gwladolion.

Gwladolion y GE

9.—(1Person—

(a)sydd, ar y dyddiad perthnasol, naill ai—

(i)yn un o wladolion y GE; neu

(ii)yn aelod o deulu person o'r fath;

(b)sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol;

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn ei ffurfio drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad perthnasol; ac

(ch)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), nad yw wedi preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn ei ffurfio yn ystod unrhyw ran o'r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu'n bennaf at y diben o dderbyn addysg lawnamser.

(2Nid yw paragraff (ch) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy'n cael ei drin fel pe bai'n preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn ei ffurfio yn unol â pharagraff 1(7).

10.  Person—

(a)sydd, ar y dyddiad perthnasol, yn un o wladolion y GE ac eithrio'n un o wladolion y Deyrnas Unedig;

(b)sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol;

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn y dyddiad perthnasol; ac

(ch)a oedd, mewn achos pan oedd ei breswyliaeth arferol y cyfeirir ati ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu'n bennaf at y diben o dderbyn addysg lawnamser, yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn ei ffurfio yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (c).

Plant gwladolion Swisaidd

11.  Person—

(a)sydd, ar y dyddiad perthnasol, yn blentyn i wladolyn Swisaidd â'r hawlogaeth i gael cymorth gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn rhinwedd Erthygl 3(6) o Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;

(b)sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol;

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn ei ffurfio drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(ch)mewn achos lle y bu ei breswyliaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu'n bennaf at y diben o dderbyn addysg lawnamser, person oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn ei ffurfio yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (c).

Plant gweithwyr Twrcaidd

12.  Person—

(a)a oedd yn blentyn i weithiwr Twrcaidd ar y dyddiad perthnasol;

(b)a oedd yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar y diwrnod perthnasol; ac

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci yn ei ffurfio drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(1)

OJ Rhif L257, 19.10.1968, t.2 (OJ/SE1968 (ii) t.475).

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill