Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) 2008

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN 2Cyfrifo cyfraniad

Incwm yr aelwyd

2.—(1Mae swm cyfraniad myfyriwr Coleg Ewrop neu fyfyriwr Athrofa Prifysgol Ewrop yn dibynnu ar incwm yr aelwyd.

(2Incwm yr aelwyd—

(a)yn achos myfyriwr Coleg Ewrop nad yw'n fyfyriwr cymwys annibynnol, yw agregiad o incwm gweddilliol y myfyriwr cymwys ac incwm gweddilliol rhieni'r myfyriwr Coleg Ewrop (yn ddarostyngedig i baragraff 4(9)) ac—

(i)yn achos myfyriwr newydd a gychwynnodd ar y cwrs cyn 1 Medi 2005, yw incwm gweddilliol partner rhiant y myfyriwr (ac eithrio person sy'n byw fel arfer gyda rhiant myfyriwr cymwys fel pe bai'n bartner sifil i'r rhiant) ar yr amod bod Gweinidogion Cymru wedi dewis y rhiant hwnnw o dan baragraff 4(9); neu

(ii)yn achos myfyriwr newydd a gychwynnodd ar y cwrs ar neu ar ôl 1 Medi 2005, yw incwm gweddilliol partner rhiant y myfyriwr (ar yr amod bod Gweinidogion Cymru wedi dewis y rhiant hwnnw o dan baragraff 4(9));

(b)yn achos—

(i)myfyriwr cymwys annibynnol a chanddo bartner, neu

(ii)myfyriwr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd a chanddo bartner,

yw agregiad o incwm gweddilliol y myfyriwr ac incwm gweddilliol partner y myfyriwr hwnnw (yn ddarostyngedig i is-baragraff (5)); neu

(c)yn achos—

(i)myfyriwr cymwys annibynnol nad oes ganddo bartner, neu

(ii)myfyriwr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd nad oes ganddo bartner,

yw incwm gweddilliol y myfyriwr hwnnw.

(3Wrth ganfod beth yw incwm yr aelwyd o dan is—baragraff (2), mae swm o £1,100 i'w ddidynnu—

(a)yn achos myfyriwr Coleg Ewrop—

(i)am bob plentyn sy'n ddibynnol yn ariannol yn gyfan gwbl neu'n bennaf ar y myfyriwr neu ar ei bartner; neu

(ii)am bob plentyn ac eithrio'r myfyriwr Coleg Ewrop sy'n ddibynnol yn ariannol yn gyfan gwbl neu'n bennaf ar riant y myfyriwr Coleg Ewrop neu ar bartner rhiant y myfyriwr y mae ei incwm gweddilliol yn cael ei gymryd i ystyriaeth; a

(b)yn achos myfyriwr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd, am bob plentyn sy'n ddibynnol yn ariannol yn gyfan gwbl neu'n bennaf ar y myfyriwr neu ar ei bartner.

(4At ddiben cyfrifo'r cyfraniad sy'n daladwy mewn cysylltiad â myfyriwr sy'n rhiant, nid yw incwm gweddilliol partner y myfyriwr sy'n rhiant i'w agregu o dan is-baragraff (2)(b) yn achos myfyriwr sy'n rhiant y mae gan ei blentyn neu blentyn ei bartner ddyfarndal y cyfrifir incwm yr aelwyd mewn cysylltiad ag ef drwy gyfeirio at incwm gweddilliol y myfyriwr sy'n rhiant neu bartner y myfyriwr sy'n rhiant neu'r ddau.

Cyfrifo incwm gweddilliol y myfyriwr

3.—(1Er mwyn canfod beth yw incwm gweddilliol myfyriwr, didynnir o'i incwm trethadwy (onid yw eisoes wedi'i ddidynnu wrth ganfod beth yw ei incwm trethadwy) agregiad unrhyw symiau sy'n dod o fewn unrhyw un o'r is-baragraffau canlynol—

(a)unrhyw gydnabyddiaeth am waith a wneir yn ystod unrhyw flwyddyn academaidd o gwrs y myfyriwr, ar yr amod nad yw'r gydnabyddiaeth honno'n cynnwys unrhyw symiau a delir mewn cysylltiad ag unrhyw gyfnod pan fo ganddo ganiatâd i fod yn absennol neu pan fo wedi'i ryddhau o'i ddyletswyddau arferol er mwyn bod yn bresennol ar y cwrs hwnnw;

(b)swm gros unrhyw bremiwm neu swm arall a delir gan y myfyriwr mewn perthynas â phensiwn (nad yw'n bensiwn sy'n daladwy o dan bolisi yswiriant bywyd) y mae rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef o dan adran 273, 619 neu 639 o Ddeddf Treth Incwm a Threth Gorfforaeth 1988(1) neu o dan adran 188 o Ddeddf Cyllid 2004(2), neu pan fo incwm y myfyriwr yn cael ei gyfrifo at ddiben deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, swm gros unrhyw bremiwm neu swm o'r fath y byddai rhyddhad yn cael ei roi mewn cysylltiad ag ef pe bai'r ddeddfwriaeth honno yn gwneud darpariaeth gyfatebol i ddarpariaeth y Deddfau Treth Incwm.

(2Pan fo'r myfyriwr yn cael incwm mewn arian cyfredol ac eithrio sterling, gwerth yr incwm hwn at ddiben y paragraff hwn—

(a)os yw'r myfyriwr yn prynu sterling â'r incwm, yw swm y sterling a gaiff y myfyriwr felly; neu

(b)fel arall, yw gwerth y sterling y byddai'r incwm yn ei brynu gan ddefnyddio'r gyfradd ar gyfer y mis y daw i law, sef cyfradd a gyhoeddir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol(3).

Cyfrifo incwm gweddilliol rhiant

4.—(1At ddibenion canfod beth yw incwm trethadwy rhiant myfyriwr, nid yw unrhyw ddidyniadau sydd i'w gwneud neu esemptiadau a ganiateir—

(a)ar ffurf rhyddhadau personol y darperir ar eu cyfer ym Mhennod 1 o Ran VII o Ddeddf Treth Incwm a Threth Gorfforaeth 1988 neu, os cyfrifir yr incwm at ddibenion deddfwriaeth treth incwm un o Wladwriaethau eraill yr AEE neu'r Swistir, ar ffurf swm gros unrhyw bremiwm o'r fath y byddai rhyddhad yn cael ei roi mewn cysylltiad ag ef pe bai'r ddeddfwriaeth honno'n gwneud darpariaeth gyfatebol i ddarpariaeth y Deddfau Treth Incwm;

(b)yn unol ag unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol, na chaiff taliadau, a fyddent fel arall, o dan gyfraith y Deyrnas Unedig, yn rhan o incwm person, eu trin felly oddi tano neu oddi tani; neu

(c)o dan is-baragraff (2)

i'w gwneud na'u caniatáu.

(2Er mwyn canfod beth yw incwm gweddilliol rhiant, didynnir o'r incwm trethadwy a ganfyddir o dan is-baragraff (1) agregiad unrhyw symiau sy'n dod o fewn unrhyw un o'r is-baragraffau canlynol—

(a)swm gros unrhyw bremiwm neu swm arall a delir gan y myfyriwr mewn perthynas â phensiwn (nad yw'n bensiwn sy'n daladwy o dan bolisi yswiriant bywyd) y mae rhyddhad yn cael ei roi mewn cysylltiad ag ef o dan adran 273, 619 neu 639 o Ddeddf Treth Incwm a Threth Gorfforaeth 1988 neu o dan adran 188 o Ddeddf Cyllid 2004, neu os cyfrifir incwm y myfyriwr at ddiben deddfwriaeth treth incwm un o Wladwriaethau eraill yr AEE neu'r Swistir, swm gros unrhyw bremiwm neu swm o'r fath y byddai rhyddhad yn cael ei roi mewn cysylltiad ag ef pe byddai'r ddeddfwriaeth honno'n gwneud darpariaeth gyfatebol i ddarpariaeth y Deddfau Treth Incwm;

(b)mewn unrhyw achos lle y cyfrifir incwm yn unol ag is-baragraff (6) unrhyw symiau sy'n gyfwerth â'r didyniad a grybwyllir ym mharagraff (a), ar yr amod nad yw unrhyw symiau a ddidynnir felly i fod yn fwy na'r didyniadau a wneid os byddai'r cyfan o incwm rhiant y myfyriwr mewn gwirionedd yn incwm at ddibenion y Deddfau Treth Incwm; ac

(c)yn achos myfyriwr sy'n rhiant neu riant myfyriwr y mae ganddo ddyfarniad statudol, £1,075.

(3Os yw Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni bod incwm y rhiant yn y flwyddyn ariannol yn dechrau yn union cyn y flwyddyn berthnasol (“blwyddyn ariannol gyfredol”), o ganlyniad i ryw ddigwyddiad y tu hwnt i reolaeth y rhiant, yn debygol o beidio â bod yn fwy nag 85 y cant o werth sterling ei incwm yn y flwyddyn ariannol flaenorol, caiff Gweinidogion Cymru, at ddiben galluogi'r myfyriwr i fod yn bresennol ar y cwrs heb ddioddef caledi, gadarnhau beth yw incwm yr aelwyd ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol.

(4Os yw Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni bod incwm y rhiant mewn unrhyw flwyddyn ariannol, o ganlyniad i ryw ddigwyddiad y tu hwnt i reolaeth y rhiant, yn debygol o beidio â bod, ac yn debygol o barhau i beidio â bod ar ôl y flwyddyn honno, yn fwy nag 85 y cant o werth sterling ei incwm yn y flwyddyn ariannol flaenorol, caiff Gweinidogion Cymru, at ddiben galluogi'r myfyriwr i fod yn bresennol ar y cwrs heb ddioddef caledi, gadarnhau beth yw incwm yr aelwyd ar gyfer blwyddyn academaidd cwrs y myfyriwr y digwyddodd y digwyddiad ynddi drwy gymryd fel incwm gweddilliol y rhiant gyfartaledd ei incwm gweddilliol ar gyfer pob un o'r blynyddoedd ariannol y mae'r flwyddyn academaidd honno'n dod oddi mewn iddynt.

(5Os yw rhiant y myfyriwr yn bodloni Gweinidogion Cymru fod ei incwm yn deillio'n gyfan gwbl neu'n bennaf o elw busnes y mae'n ei rhedeg neu broffesiwn y mae'n ei ddilyn, yna mae unrhyw gyfeiriad yn y Rhan hon o'r Atodlen at flwyddyn ariannol flaenorol i'w ddarllen fel cyfeiriad at y cyfnod cynharaf o ddeuddeng mis sy'n diweddu ar ôl dechrau'r flwyddyn ariannol flaenorol ac y cedwir cyfrifon mewn cysylltiad ag ef sy'n gysylltiedig â'r busnes neu'r proffesiwn hwnnw.

(6Os yw rhiant myfyriwr yn derbyn unrhyw incwm nad yw'n rhan o incwm y rhiant hwnnw at ddibenion y Deddfau Treth Incwm neu ddibenion deddfwriaeth treth incwm un o Wladwriaethau eraill yr AEE neu'r Swistir dim ond oherwydd—

(a)nad yw'r rhiant yn preswylio, yn preswylio fel arfer neu wedi ymgartrefu yn y Deyrnas Unedig, neu os cyfrifir ei incwm fel pe bai at ddibenion deddfwriaeth treth incwm un o Wladwriaethau eraill yr AEE neu'r Swistir, nad yw'n preswylio felly, yn preswylio fel arfer felly, neu wedi ymgartrefu felly yn y Wladwriaeth honno yn yr AEE neu yn y Swistir;

(b)nad yw'r incwm yn deillio yn y Deyrnas Unedig, neu os cyfrifir incwm y rhiant at ddibenion deddfwriaeth treth incwm un o Wladwriaethau eraill yr AEE neu'r Swistir, nad yw'n deillio yn y Wladwriaeth honno yn yr AEE neu yn y Swistir; neu

(c)bod yr incwm yn deillio o swyddfa, o wasanaeth neu o gyflogaeth, a bod incwm o'r rhain yn esempt o dreth yn unol ag unrhyw ddeddfwriaeth,

mae ei incwm trethadwy at ddiben yr Atodlen hon i'w gyfrifo fel pe bai'r incwm o dan yr is-baragraff hwn yn rhan o'i incwm at ddiben y Deddfau Treth Incwm neu ddeddfwriaeth treth incwm un o Wladwriaethau eraill yr AEE neu'r Swistir, yn ôl y digwydd.

(7Os yw incwm rhiant y myfyriwr yn cael ei gyfrifo fel pe bai at ddibenion deddfwriaeth treth incwm un o Wladwriaethau eraill yr AEE neu'r Swistir, mae i'w gyfrifo o dan ddarpariaethau'r Atodlen hon yn arian cyfredol y Wladwriaeth honno yn yr AEE neu'r Swistir ac incwm rhiant y myfyriwr at ddibenion yr Atodlen hon yw gwerth sterling yr incwm hwnnw a ganfyddir yn unol â'r gyfradd ar gyfer y mis y mae diwrnod olaf y flwyddyn ariannol o dan sylw yn dod oddi mewn iddo, sef y gyfradd fel y'i cyhoeddir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

(8Os bydd un o rieni'r myfyriwr yn marw naill ai cyn neu yn ystod y flwyddyn berthnasol a bod incwm y rhiant hwnnw wedi'i gymryd i ystyriaeth neu y byddai'n cael ei gymryd i ystyriaeth at ddiben canfod incwm yr aelwyd, yna—

(a)os bydd y rhiant yn marw cyn y flwyddyn berthnasol, mae incwm yr aelwyd i'w ganfod drwy gyfeirio at incwm y rhiant sy'n goroesi; neu

(b)os bydd y rhiant yn marw yn ystod y flwyddyn berthnasol, ystyrir mai agregiad o'r canlynol yw incwm yr aelwyd—

(i)y gyfran briodol o incwm yr aelwyd a ganfyddir drwy gyfeirio at incwm y ddau riant, sef y gyfran mewn cysylltiad â'r rhan honno o'r flwyddyn berthnasol pan oedd y ddau riant yn fyw; a

(ii)y gyfran briodol o incwm yr aelwyd a ganfyddir drwy gyfeirio at incwm y rhiant sy'n goroesi, sef y gyfran mewn cysylltiad â'r rhan honno o'r flwyddyn berthnasol sy'n weddill ar ôl marw'r rhiant arall.

(9Os bydd Gweinidogion Cymru'n penderfynu bod y rhieni wedi bod ar wahân drwy gydol y flwyddyn berthnasol, mae incwm yr aelwyd i'w ganfod drwy gyfeirio at incwm pa riant bynnag sydd fwyaf priodol o dan yr amgylchiadau ym marn Gweinidogion Cymru.

(10Os bydd Gweinidogion Cymru'n penderfynu bod y rhieni wedi gwahanu yn ystod y flwyddyn berthnasol, canfyddir incwm yr aelwyd drwy gyfeirio at agregiad o'r canlynol—

(a)y gyfran briodol o incwm yr aelwyd a ganfyddir yn unol ag is-baragraff (9), sef y gyfran mewn cysylltiad â'r rhan honno o'r flwyddyn berthnasol pan oedd y rhieni wedi gwahanu; a

(b)y gyfran briodol o incwm yr aelwyd a ganfyddir fel arall mewn cysylltiad â gweddill y flwyddyn berthnasol.

Cyfrifo incwm gweddilliol partner y myfyriwr

5.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2), (3) a (4) o'r paragraff hwn a heblaw am is-baragraffau (8), (9) a (10) o baragraff 4, mae incwm partner myfyriwr i'w ganfod yn unol â pharagraff 4, ac mae cyfeiriad at y rhiant i'w ddehongli fel cyfeiriadau at bartner y myfyriwr.

(2Pan fydd Gweinidogion Cymru'n penderfynu bod y myfyriwr a'i bartner wedi bod ar wahân drwy gydol y flwyddyn berthnasol, ni chymerir i ystyriaeth incwm y partner wrth ganfod beth yw incwm yr aelwyd.

(3Pan fydd Gweinidogion Cymru'n penderfynu bod y myfyriwr a'i bartner wedi gwahanu yn ystod y flwyddyn berthnasol, canfyddir incwm y partner drwy gyfeirio at ei incwm o dan is-baragraff (1) wedi'i rannu gan bum-deg dau a'i luosi gan nifer yr wythnosau llawn yn y flwyddyn berthnasol y mae Gweinidogion Cymru'n penderfynu mewn cysylltiad â hwy fod y myfyriwr a'i bartner heb fod ar wahân.

(4Os oes gan fyfyriwr fwy nag un partner mewn unrhyw flwyddyn academaidd, mae darpariaethau'r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â phob un ohonynt.

Cyfrifo incwm gweddilliol partner rhiant

6.  Mae incwm partner rhiant myfyriwr newydd y mae ei incwm yn rhan o incwm yr aelwyd yn rhinwedd paragraff 2(2)(a) i'w ganfod yn unol â pharagraff 5, ac mae cyfeiriadau at bartner y myfyriwr i'w dehongli fel cyfeiriadau at bartner rhiant y myfyriwr newydd, ac mae cyfeiriadau at y myfyriwr i'w dehongli fel cyfeiriadau at riant y myfyriwr.

Cyfrifo cyfraniad

7.—(1Mae cyfraniad myfyriwr i'w gyfrifo yn unol â'r rheoliad hwn.

(2Mewn perthynas â myfyriwr Coleg Ewrop nad yw'n fyfyriwr cymwys annibynnol, myfyriwr Coleg Ewrop sy'n fyfyriwr cymwys annibynnol a chanddo bartner a myfyriwr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd a chanddo bartner, y cyfraniad yw—

(a)os £23,680 neu fwy yw incwm yr aelwyd, £45 gyda £1 yn cael ei hychwanegu am bob un swm llawn o £9.50 uwchben incwm aelwyd o £23,680; a

(b)mewn unrhyw achos pan fo incwm yr aelwyd yn llai na £23,680, dim.

(3Mewn perthynas â myfyriwr Coleg Ewrop sy'n fyfyriwr cymwys annibynnol nad oes ganddo bartner a myfyriwr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd nad oes ganddo bartner, y cyfraniad yw

(a)os £11,025 neu fwy yw incwm yr aelwyd, £45 gyda £1 yn cael ei hychwanegu am bob un swm llawn o £9.50 uwchben incwm aelwyd o £11,025; a

(b)os yw incwm yr aelwyd yn llai na £11,025, dim.

(4Nid yw swm y cyfraniad i fod yn fwy na £7,800 os cyfrifir y cyfraniad o dan is-baragraff (2) neu (3).

(5Os yw is-baragraff (6) yn gymwys, nid yw agregiad y cyfraniadau a gyfrifir—

(a)o dan is-baragraff (2) neu (3) i fod yn fwy—

(i)na £7,800; neu

(ii)na'r cyfraniad a fyddai'n daladwy pe na bai ond gan un myfyriwr ddyfarniad.

(6Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys os incwm gweddilliol y canlynol yw incwm yr aelwyd—

(a)dau neu fwy o fyfyrwyr Coleg Ewrop mewn cysylltiad â'r un incwm o dan baragraff 4 neu, os cymerir i ystyriaeth incwm gweddilliol partner y rhiant perthnasol, o dan baragraffau 4 a 6; neu

(b)myfyriwr cymwys annibynnol a'i bartner pan fo gan y ddau ddyfarniad statudol.

Rhannu cyfraniadau

8.—(1Os yw cyfraniad yn daladwy o dan baragraff 7 uchod a bod un neu fwy o'r amodau yn is-baragraff (2) wedi ei fodloni neu eu bodloni, swm y cyfraniad sy'n daladwy mewn cysylltiad â'r myfyriwr Coleg Ewrop fydd y swm y mae Gweinidogion Cymru o'r farn ei fod yn deg o ystyried—

(a)cymhwyso paragraff 7 i fyfyrwyr newydd a myfyrwyr presennol Coleg Ewrop yn y drefn honno; a

(b)amgylchiadau arbennig y myfyriwr Coleg Ewrop.

(2Y canlynol yw'r amodau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) uchod—

(a)mae gan fwy nag un o blant rhieni'r myfyriwr Coleg Ewrop ddyfarniad statudol;

(b)mae gan riant y myfyriwr Coleg Ewrop ddyfarniad statudol;

(c)mae gan bartner rhiant y myfyriwr Coleg Ewrop ddyfarniad statudol;

(ch)mae gan bartner y myfyriwr Coleg Ewrop ddyfarniad statudol.

(3)

“Financial Statistics” (ISSN 0015-203X).

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill