Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cynnal Refferenda) (Cymru) 2008

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Enwi, cychwyn a dirymu

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cynnal Refferenda) (Cymru) 2008.

(2Daw'r Rheoliadau hyn i rym 14 diwrnod ar ôl y diwrnod pan gânt eu gwneud.

(3Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys ar gyfer cynnal refferenda gan awdurdodau lleol yng Nghymru.

(4Dirymir Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cynnal Refferenda) (Cymru) 2004(1).

Dehongli

2.—(1Yn y rheoliadau hyn—

ystyr “ardal y bleidlais” (“voting area”) yw'r ardal lle y cynhelir refferendwm;

ystyr “arsylwr cyfrif” (“counting observer”) yw person a benodir gan swyddog cyfrif o dan reol 18(2) o Reolau Refferenda'r Ddeddf Lywodraeth Leol;

ystyr “arsylwr pleidleisio” (“polling observer”) yw person a benodir gan swyddog cyfrif o dan reol 18(1) o Reolau Refferenda'r Ddeddf Llywodraeth Leol;

ystyr “cyfnod y refferendwm (“referendum period”), mewn perthynas â refferendwm (gan gynnwys refferendwm pellach), yw'r cyfnod sy'n cychwyn ar—

(a)

pan fo'r dyddiad cynigion yn rhagflaenu'r dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym, y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym;

(b)

mewn unrhyw achos arall, dyddiad y cynigion,

ac yn diweddu ar ddyddiad y refferendwm;

ystyr “cynigion wrth gefn amlinellol” (“outline fall-back proposals”)—

(a)

mewn perthynas â chynigion o dan adran 25 (cynigion) o Ddeddf 2000, yw amlinelliad o'r cynigion y mae awdurdod lleol yn bwriadu eu gweithredu pe bai ei gynigion o dan adran 25 yn cael eu gwrthod mewn refferendwm;

(b)

mewn perthynas â chynigion o dan reoliad 17 (gweithredu cyn refferendwm) neu reoliad 19 (gweithredu yn dilyn cyfarwyddyd) o'r Rheoliadau Deisebau a Chyfarwyddiadau, yw amlinelliad o'r cynigion y mae awdurdod lleol yn bwriadu eu gweithredu pe bai'r cynigion sydd i fod yn destun refferendwm o dan Ran II neu Ran III o'r Rheoliadau hynny yn cael eu gwrthod yn y refferendwm hwnnw;

(c)

mewn perthynas â chynigion o dan orchymyn o dan adran 36 (refferendwm yn dilyn gorchymyn) o Ddeddf 2000, yw—

(i)

os yw'r awdurdod lleol bryd hynny yn gweithredu trefniadau gweithrediaeth neu drefniadau amgen, crynodeb o'r trefniadau hynny;

(ii)

mewn unrhyw achos arall, amlinelliad o'r cynigion a bennir yn y gorchymyn y mae'r awdurdod lleol yn bwriadu eu gweithredu pe bai cynigion sydd i fod yn destun refferendwm yn cael eu gwrthod yn y refferendwm hwnnw;

(ch)

mewn perthynas â chynigion o dan reoliadau o dan adran 30 (gweithredu trefniadau gweithrediaeth gwahanol) neu adran 33 (gweithredu trefniadau amgen) o Ddeddf 2000, yw crynodeb o drefniadau gweithrediaeth presennol neu drefniadau amgen presennol yr awdurdod lleol (yn ôl y digwydd);

ystyr “Deddf 1983” (“the 1983 Act”) yw Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983(2);

ystyr “Deddf 1985” (“the 1985 Act”) yw Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985(3);

ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2000(4);

ystyr “Deddf CB 2000” (“the RP Act 2000”) yw Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000(5);

ystyr “Deddf yr Etholiadau” (“the Elections Act”) yw Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (6);

ystyr “dyddiad y cynigion” (“proposals date”)—

(d)

mewn perthynas â refferendwm, ac eithrio refferendwm pellach, yw'r dyddiad pan gaiff cynigion—

(i)

o dan adran 25 o Ddeddf 2000 sy'n ymwneud â ffurf o weithrediaeth y mae refferendwm yn ofynnol ar ei chyfer,

(ii)

o dan reoliad 17 neu 19 o'r Rheoliadau Deisebau a Chyfarwyddiadau,

(iii)

o dan orchymyn o dan adran 36 o Ddeddf 2000, neu

(iv)

o dan reoliadau o dan adran 30 neu 33 o Ddeddf 2000(7),

eu hanfon at Weinidogion Cymru; a

(e)

mewn perthynas â refferendwm pellach, yw'r diwrnod sy'n digwydd ddau fis cyn y diwrnod y cynhelir y bleidlais yn y refferendwm pellach;

rhaid dehongli “etholiad llywodraeth leol” (“local government election”) yn unol ag adran 203(1) o Ddeddf 1983;

rhaid dehongli “etholiad maerol” (“mayoral election”) yn unol â Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Etholiadau Maerol) (Cymru a Lloegr) 2007(8);

rhaid dehongli “etholiad Senedd Ewrop” (“European Parliamentary election”) ac “etholiad cyffredinol Senedd Ewrop” (“European Parliamentary general election”) yn unol ag adran 27(1) o Ddeddf 1985(9);

ystyr “maer etholedig” (“elected mayor”), mewn perthynas ag awdurdod lleol, yw unigolyn a etholir yn faer yr awdurdod lleol gan etholwyr llywodraeth leol ardal yr awdurdod lleol yn unol â darpariaethau a wnaed gan, neu o dan Ran II o Ddeddf 2000;

ystyr “refferendwm” (“referendum”) yw refferendwm a gynhelir o dan adran 27 (refferendwm yn achos cynigion sy'n ymwneud â maer etholedig) o Ddeddf 2000, neu yn rhinwedd rheoliadau neu orchymyn a wnaed o dan unrhyw ddarpariaeth o Ran II (trefniadau o ran gweithrediaethau etc.) o Ddeddf 2000;

ystyr “refferendwm pellach” (“further referendum) yw refferendwm a gynhelir yn unol â gorchymyn o dan reoliad 13(3);

ystyr “Rheolau Refferenda'r Ddeddf Llywodraeth Leol” (“the Local Government Act Referendums Rules”) yw'r rheolau a nodir yn Atodlen 3 i'r Rheoliadau hyn;

ystyr “Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl” (“the Representation of the People Regulations”) yw Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001(10);

ystyr “y Rheoliadau Deisebau a Chyfarwyddiadau” (“the Petitions and Directions Regulations”) yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Refferenda) (Deisebau a Chyfarwyddiadau) (Cymru) 2001(11);

ystyr “swyddog cyfrif” (“counting officer”) yw person y cyfeirir ato yn rheoliad 9;

mae i “swyddog priodol” yr ystyr a roddir i “proper officer” yn adran 270(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(12); ac

ystyr “trefnydd deiseb” (“petition organiser”), mewn perthynas â refferendwm, yw person a drinnir at ddibenion rheoliad 10(4) neu (5) (ffurfioldebau deisebau) (yn ôl y digwydd) o'r Rheoliadau Deisebau a Chyfarwyddiadau fel trefnydd unrhyw ddeiseb ddilys (p'un ai deiseb gyfunedig, deiseb gyfansoddol neu ddeiseb wedi'r cyhoeddiad) a dderbyniwyd gan yr awdurdod lleol sy'n cynnal y refferendwm neu y cynhelir y refferendwm mewn perthynas ag ef(13).

(2Mae pob cyfeiriad yn y darpariaethau canlynol o'r Rheoliadau hyn at adran â rhif yn ei dilyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu'n wahanol, yn gyfeiriad at yr adran yn Neddf 2000 sy'n dwyn y rhif hwnnw.

Y datganiad a'r cwestiwn sydd i'w ofyn mewn refferendwm

3.  Pan fo'r cynigion y cynhelir refferendwm mewn perthynas â hwy yn ymwneud ag—

(a)gweithrediaeth o faer a chabinet, mae'r datganiad sydd i ragflaenu'r cwestiwn (“y datganiad”) a'r cwestiwn sydd i'w ofyn yn y refferendwm hwnnw i fod yn y ffurf a bennir ym mharagraff 1 o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn;

(b)gweithrediaeth o faer a rheolydd y cyngor, mae'r datganiad a'r cwestiwn sydd i'w ofyn yn y refferendwm hwnnw i fod yn y ffurf a bennir ym mharagraff 2 o'r Atodlen honno;

(c)gweithrediaeth o arweinydd a chabinet, mae'r datganiad a'r cwestiwn sydd i'w ofyn yn y refferendwm hwnnw i fod yn y ffurf a bennir ym mharagraff 3 o'r Atodlen honno.

Cyhoeddusrwydd a gwybodaeth arall mewn cysylltiad â refferenda

4.—(1Rhaid i'r swyddog priodol, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl y dyddiad cynigion, gyhoeddi mewn o leiaf un o'r papurau newydd sy'n cylchredeg yn ardal yr awdurdod lleol hysbysiad sydd yn cynnwys—

(a)datganiad, yn ôl y digwydd, bod—

(i)cynigion o dan adran 25 sy'n ymwneud â ffurf o weithrediaeth y mae refferendwm yn ofynnol ar ei chyfer,

(ii)cynigion o dan reoliad 17(3) neu 19(1) o'r Rheoliadau Deisebau a Chyfarwyddiadau,

(iii)cynigion o dan orchymyn o dan adran 36, neu

(iv)cynigion o dan reoliadau o dan adran 30 neu 33,

wedi eu hanfon at Weinidogion Cymru;

(b)disgrifiad o brif nodweddion y cynigion ac o'r cynigion wrth gefn amlinellol;

(c)datganiad—

(i)y cynhelir refferendwm,

(ii)o'r dyddiad y cynhelir y refferendwm,

(iii)o'r cwestiwn sydd i'w ofyn yn y refferendwm,

(iv)y cynhelir y refferendwm yn unol â gweithdrefnau cyffelyb i'r rhai a ddefnyddir mewn etholiadau llywodraeth leol,

(v)o'r cyfyngiad treuliau refferendwm (fel y'i diffinnir yn rheoliad 6(1)) a fydd yn gymwys mewn perthynas â'r refferendwm, ac o nifer yr etholwyr llywodraeth leol y cyfrifwyd y cyfyngiad hwnnw drwy gyfeirio ato,

(vi)o'r cyfeiriad lle y gellir archwilio copi o'r cynigion a chynigion wrth gefn amlinellol yr awdurdod lleol, a'r amserau pan ellir gwneud hynny, a

(vii)o'r gweithdrefnau ar gyfer cael copi o'r cynigion a'r cynigion wrth gefn amlinellol.

(2Oni chyhoeddir yr hysbysiad sy'n ofynnol ei gyhoeddi yn ôl paragraff (1) (“yr hysbysiad cyntaf”) o fewn llai na 56 o ddiwrnodau cyn dyddiad y refferendwm, rhaid i'r swyddog priodol gyhoeddi ail hysbysiad a fydd yn cynnwys y manylion a bennir ym mharagraff (1)(c)(i) i (vii).

(3Rhaid cyhoeddi'r ail hysbysiad—

(a)yn yr un papur neu bapurau newydd a ddefnyddiwyd i gyhoeddi'r hysbysiad cyntaf, a

(b)nid mwy na 55 o ddiwrnodau ac nid llai na 28 o ddiwrnodau cyn dyddiad y refferendwm.

(4Drwy gydol cyfnod y refferendwm, yn y cyfeiriad ac yn ystod yr amserau a nodir yn yr hysbysiad, a hynny'n ddi-dâl, rhaid i'r awdurdod lleol roi copi ar gael i'w archwilio o'i gynigion a'i gynigion wrth gefn amlinellol, a rhaid iddo sicrhau bod nifer digonol o gopïau ar gael i bersonau sy'n dymuno cael copïau.

(5Caiff yr awdurdod lleol ddarparu (p'un ai yn unol ag unrhyw ddyletswydd i wneud hynny ai peidio) unrhyw wybodaeth ffeithiol arall mewn perthynas â'r cynigion, y cynigion wrth gefn amlinellol neu'r refferendwm, cyn belled ag y cyflwynir yr wybodaeth honno yn deg.

(6Wrth benderfynu at ddibenion paragraff (5) a yw unrhyw wybodaeth yn cael ei chyflwyno'n deg, rhaid rhoi sylw, yn unol ag adran 38, i unrhyw ganllawiau a gyhoeddir am y tro gan Weinidogion Cymru o dan adran 38.

Cyfyngu ar gyhoeddi etc. deunydd hyrwyddo

5.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw ddeunydd sydd—

(a)yn darparu gwybodaeth gyffredinol am y refferendwm,

(b)yn ymwneud ag unrhyw un o'r materion a godir gan y cwestiwn sydd i'w ofyn yn y refferendwm, neu

(c)yn cyflwyno unrhyw ddadleuon o blaid neu yn erbyn ateb penodol i'r cwestiwn hwnnw.

(2Ni chaniateir cyhoeddi unrhyw ddeunydd y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo gan neu ar ran awdurdod lleol yn ystod y cyfnod o 28 diwrnod a ddaw i ben ar ddyddiad y bleidlais yn y refferendwm.

(3Nid yw paragraff (2) yn gymwys i—

(a)deunydd a roddir ar gael i bersonau mewn ymateb i geisiadau penodol am wybodaeth neu i bersonau sy'n ceisio cael mynediad i'r deunydd yn benodol,

(b)cyhoeddi gwybodaeth ynglŷn â chynnal y bleidlais yn y refferendwm, neu

(c)cyhoeddi hysbysiadau i'r wasg sy'n cynnwys gwybodaeth ffeithiol, os unig ddiben y cyhoeddi yw gwrthbrofi neu gywiro unrhyw anghywirdeb mewn deunydd a gyhoeddir gan berson ac eithrio'r awdurdod lleol.

(4Yn y rheoliad hwn, ystyr “cyhoeddi” (“publish”) yw rhoi ar gael i'r cyhoedd yn gyffredinol, neu i unrhyw ran o'r cyhoedd, ar ba ffurf bynnag a thrwy ba bynnag ddull (gan gynnwys, yn benodol, drwy gynnwys mewn unrhyw raglen a gynhwysir mewn gwasanaeth rhaglenedig o fewn ystyr Deddf Darlledu 1990 (14)); a dylid dehongli “cyhoeddiad” (“publication”) yn yr un modd.

Cyfyngiad cyffredinol ar dreuliau refferendwm

6.—(1Yn y rheoliad hwn a rheoliad 7—

ystyr “at ddibenion refferendwm” (“for referendum purposes”) yw—

(a)

mewn cysylltiad â chynnal neu reoli unrhyw ymgyrch a gynhelir gyda'r bwriad o hyrwyddo neu sicrhau canlyniad penodol mewn perthynas â'r cwestiwn a ofynnir yn y refferendwm, neu

(b)

mewn cysylltiad fel arall â hyrwyddo neu sicrhau canlyniad o'r fath;

ystyr “cyfyngiad treuliau refferendwm” (“referendum expenses limit”) yw'r cyfanswm o £2,362 a'r swm a geir trwy luosi 5.9 ceiniog â nifer y cofnodion yn y gofrestr berthnasol;

ystyr “y gofrestr berthnasol” (“the relevant register”) yw'r gofrestr (neu gofrestrau) o etholwyr llywodraeth leol a gyhoeddwyd o dan adran 13 (cyhoeddi cofrestrau) o Ddeddf 1983(15) ar ôl terfynu'r canfasio a wnaed o dan adran 10 o'r Ddeddf honno(16) yn y flwyddyn a oedd yn rhagflaenu yn union y flwyddyn y cynhelir y refferendwm ynddi, sydd mewn grym yn ardal yr awdurdod lleol sy'n cynnal y refferendwm, neu y cynhelir y refferendwm mewn perthynas ag ef (p'un a oes hawl gan y personau y mae'r cofnodion yn ymwneud â hwy i bleidleisio yn y refferendwm ai peidio):

ystyr “trefnydd ymgyrch” (“campaign organiser”) yw'r unigolyn neu'r corff y tynnir treuliau refferendwm ganddo, neu ar ei ran (gan gynnwys treuliau a drinnir fel be baent wedi eu tynnu felly) mewn cysylltiad ag ymgyrch refferendwm;

ystyr “treuliau refferendwm” (“referendum expenses”) yw'r treuliau a dynnir gan neu ar ran unrhyw unigolyn neu gorff yn ystod y cyfnod refferendwm at ddibenion y refferendwm mewn perthynas ag unrhyw un o'r materion a nodir ym mharagraffau 1 i 7 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn, fel y'u darllenir yn unol â pharagraff 8 o'r Atodlen honno;

ystyr “ymgyrch refferendwm” (“referendum campaign”) yw ymgyrch a gynhelir gyda'r bwriad o hyrwyddo neu sicrhau canlyniad penodol mewn perthynas â'r cwestiwn a ofynnir yn y refferendwm.

(2Ni chaiff cyfanswm y treuliau refferendwm a dynnir gan neu ar ran unrhyw unigolyn neu gorff, neu a drinnir, yn unol â rheoliad 7, fel pe baent wedi eu tynnu felly, fod yn fwy na'r cyfyngiad treuliau refferendwm.

(3Pan dynnir unrhyw dreuliau refferendwm sydd yn fwy na'r cyfyngiad treuliau refferendwm, bydd person a oedd yn gwybod, neu a ddylai yn rhesymol fod wedi gwybod, yr eid dros ben y cyfyngiad neu sydd, heb esgus rhesymol, yn awdurdodi person arall i fynd dros ben y cyfyngiad hwnnw, yn euog o dramgwydd.

(4Pan roddir gwybodaeth i'r Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus bod tramgwydd o dan baragraff (3) wedi ei gyflawni, dyletswydd y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus yw gwneud pa bynnag ymholiadau a chychwyn pa bynnag erlyniadau ag y bo'n ymddangos i'r Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus yn ofynnol o dan amgylchiadau'r achos.

(5Pan brofir bod tramgwydd o dan baragraff (3) a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol wedi ei gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad, neu y gellir ei briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran, cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb y corff corfforaethol, neu unrhyw berson arall sy'n honni gweithredu yn rhinwedd swydd o'r fath, bydd y person hwnnw yn ogystal â'r corff corfforaethol yn euog o'r tramgwydd hwnnw ac yn agored i gael achos cyfreithiol wedi ei ddwyn yn ei erbyn ac i'w gosbi yn unol â hynny.

(6Bydd person sy'n cyflawni tramgwydd o dan baragraff (3) yn agored—

(a)o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na'r uchafswm statudol neu gyfnod yn y carchar nad yw'n hwy na 12 mis, neu'r ddau, neu

(b)o'i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy neu gyfnod yn y carchar nad yw'n hwy na 12 mis, neu'r ddau.

(7Mewn perthynas â thramgwydd a gyflawnwyd cyn cychwyn adran 154(1) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003(17), rhaid darllen y cyfeiriad ym mharagraff (6)(a) at 12 mis fel pe bai'n gyfeiriad at 6 mis.

(8Nid oes dim ym mharagraff (2) yn effeithio ar hawl unrhyw gredydwr na wyddai, pan achoswyd y draul fod y draul honno yn groes i'r paragraff hwnnw.

Treuliau refferendwm tybiannol

7.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan—

(a)darperir eiddo, gwasanaethau neu gyfleusterau at ddefnydd neu er budd unrhyw berson naill ai—

(i)yn ddi-dâl, neu

(ii)ar ddisgownt o fwy na 10 y cant o'r gyfradd fasnachol am ddefnyddio'r eiddo neu ddarparu'r gwasanaethau neu'r cyfleusterau; a

(b)y defnyddir yr eiddo, y gwasanaethau neu'r cyfleusterau gan neu ar ran y person hwnnw o dan y fath amgylchiadau fel pe dynnid (neu pan dynnir) yn wirioneddol unrhyw dreuliau gan y person hwnnw neu ar ran y person hwnnw mewn cysylltiad â'r defnydd hwnnw, byddent (neu maent) yn dreuliau refferendwm a dynnwyd gan y person hwnnw neu ar ran y person hwnnw.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (5), pan fo'r rheoliad hwn yn gymwys, rhaid ymdrin â swm o dreuliau refferendwm a bennir yn unol â pharagraff (3), onid yw'n ddim mwy na £200, at ddibenion rheoliad 6 fel pe dynnwyd ef gan y person hwnnw yn ystod y cyfnod y defnyddir yr eiddo, y gwasanaethau neu'r cyfleusterau fel y nodir ym mharagraff (1)(b).

(3Y swm a grybwyllir ym mharagraff (2) yw'r cyfryw gyfran o naill ai—

(a)y gyfradd fasnachol am ddefnyddio'r eiddo neu am ddarparu'r gwasanaethau neu'r cyfleusterau (pan ddarperir yr eiddo, y gwasanaethau neu'r cyfleusterau yn ddi-dâl), neu

(b)y gwahaniaeth rhwng y gyfradd fasnachol a swm y treuliau a dynnwyd mewn gwirionedd gan y person hwnnw neu ar ei ran am ddefnyddio'r eiddo neu am ddarparu'r gwasanaethau neu'r cyfleusterau (pan darperir yr eiddo, y gwasanaethau neu'r cyfleusterau ar ddisgownt),

ag y gellir yn rhesymol ei phriodoli i'r defnydd a wneir o'r eiddo, y gwasanaethau neu'r cyfleusterau fel y nodir ym mharagraff (1)(b).

(4Pan roddir gwasanaethau cyflogai ar gael at ddefnydd neu er budd person gan gyflogwr y cyflogai, y swm sydd i'w ystyried yn gyfradd fasnachol am ddarparu'r gwasanaethau hynny yw swm y tâl neu'r lwfansau a fyddai'n daladwy i'r cyflogai gan gyflogwr y cyflogai am y cyfnod pan roddir gwasanaethau'r cyflogai ar gael (ond nid yw'r swm hwnnw i gynnwys unrhyw swm mewn perthynas â chyfraniadau neu daliadau eraill y mae'r cyflogwr yn atebol amdanynt mewn perthynas â'r cyflogai).

(5Nid ystyrir bod unrhyw swm o dreuliau refferendwm wedi ei dynnu yn rhinwedd paragraff (2) mewn cysylltiad ag unigolyn sy'n darparu ei wasanaeth ei hun o'i wirfodd yn ei amser ei hun ac yn ddi-dâl.

Cynnal refferendwm

8.—(1Mae refferendwm i'w gynnal yn unol â Rheolau Refferenda'r Ddeddf Llywodraeth Leol (a gynhwysir yn Atodlen 3 i'r Rheoliadau hyn).

(2Mae'r darpariaethau a grybwyllir yn y golofn gyntaf o'r Tablau 1 i 5 o Atodlen 4 i'r Rheoliadau hyn yn cael effaith mewn perthynas â refferenda, yn ddarostyngedig i'r addasiadau a bennir yn yr Atodlen honno ac i unrhyw ddarpariaeth i'r gwrthwyneb yn y Rheoliadau hyn.

Swyddog cyfrif

9.—(1Rhaid i'r swyddogaethau a roddwyd gan y Rheoliadau hyn i'r swyddog cyfrif gael eu harfer ym mhob ardal pleidlais gan y person sydd am y tro yn swyddog canlyniadau mewn etholiadau cynghorwyr ar gyfer yr ardal honno o dan adran 35(1A)(a) (swyddogion canlyniadau: etholiadau lleol) o Ddeddf 1983(18).

(2Dyletswydd gyffredinol y swyddog cyfrif yn y refferendwm yw gwneud yr holl gyfryw weithredoedd a phethau a all fod yn angenrheidiol er mwyn cynnal y refferendwm yn effeithiol yn y modd a ddarperir gan y Rheoliadau hyn.

(3Rhaid i'r swyddog cyfrif hefyd benodi a thalu'r cyfryw bersonau a all fod yn angenrheidiol at y diben o gyfrif y pleidleisiau.

Canlyniad y refferendwm neu refferendwm pellach

10.—(1Mae'r rheoliad hwn yn ddarostyngedig i reoliadau 12 a 13.

(2Os yw mwyafrif y pleidleisiau a fwrir mewn refferendwm, ac eithrio refferendwm pellach, yn bleidleisiau “o blaid”, canlyniad y refferendwm yw—

(a)at ddibenion adran 27(7), cymeradwyo cynigion yr awdurdod lleol o dan adran 25;

(b)at ddibenion rheoliad 23 (gweithredu pan gymeradwyir cynigion y refferendwm) o'r Rheoliadau Deisebau a Chyfarwyddiadau neu, yn ôl y digwydd, darpariaethau cymaradwy unrhyw reoliadau eraill neu orchymyn arall a wnaed o dan unrhyw ddarpariaeth o Ran II o Ddeddf 2000, cymeradwyo'r cynigion a oedd yn destun y refferendwm.

(3Os yw mwyafrif y pleidleisiau a fwrir mewn refferendwm, ac eithrio refferendwm pellach, yn bleidleisiau “yn erbyn”, canlyniad y refferendwm yw—

(a)at ddibenion adran 27(8), gwrthod cynigion yr awdurdod lleol o dan adran 25;

(b)at ddibenion rheoliad 24 (gweithredu pan wrthodir cynigion y refferendwm) o'r Rheoliadau Deisebau a Chyfarwyddiadau neu, yn ôl y digwydd, darpariaethau cymaradwy unrhyw reoliadau eraill neu orchymyn arall a wnaed o dan unrhyw ddarpariaeth o Ran II o Ddeddf 2000, gwrthod y cynigion a oedd yn destun y refferendwm.

(4Os yw mwyafrif y pleidleisiau a fwrir mewn refferendwm pellach yn bleidleisiau “o blaid”, canlyniad y refferendwm yw cymeradwyo parhau â threfniadau gweithrediaeth presennol yr awdurdod lleol neu ei drefniadau amgen presennol (yn ôl y digwydd).

(5Os yw mwyafrif y pleidleisiau a fwrir mewn refferendwm pellach yn bleidleisiau “yn erbyn”, canlyniad y refferendwm yw gwrthod parhau â threfniadau gweithrediaeth presennol yr awdurdod lleol neu ei drefniadau amgen presennol (yn ôl y digwydd).

(6Mewn achos y mae paragraff (5) yn gymwys iddo, bydd adran 27(8) i (12) wedyn yn gymwys, fel pe bai canlyniad y refferendwm pellach yn wrthodiad o gynigion yr awdurdod lleol o dan adran 25, ond yn ddarostyngedig—

(a)yn adran 27(8)(b), i fewnosod y geiriau “that were proposed at the time of the referendum” ar ôl “outline fall-back proposals”,

(b)yn adran 27(9), i hepgor y geiriau “outline fall-back proposals or”, ac

(c)yn adran 27(10), i roi “Detailed” yn lle'r geiriau “Outline fall-back proposals and detailed”.

Gweithdrefnau ar gyfer cwestiynu refferendwm

11.—(1Gellir cwestiynu refferendwm o dan y Rheoliadau hyn drwy ddeiseb (“deiseb refferendwm”)—

(a)ar y sail nad oedd canlyniad y refferendwm yn unol â'r pleidleisiau a fwriwyd,

(b)ar y sail bod y refferendwm wedi ei ddirymu gan y cyfryw arferion llwgr neu anghyfreithlon, o fewn yr ystyr yn Neddf 1983, sy'n berthnasol i refferenda yn rhinwedd rheoliad 8 neu baragraff (8),

(c)ar y seiliau a ddarperir gan adran 164 (dirymu etholiad oherwydd llygredigaeth gyffredinol etc.) o Ddeddf 1983, fel y'i cymhwysir at ddibenion y Rheoliadau hyn gan baragraff (8), neu

(ch)yn ddarostyngedig i baragraff (3), ar y sail bod taliad ariannol neu wobr arall wedi eu gwneud neu'u haddo ers y refferendwm, yn unol ag arfer llwgr neu anghyfreithlon sy'n berthnasol i'r refferendwm yn rhinwedd rheoliad 8 neu baragraff (8).

(2Rhaid cyflwyno deiseb refferendwm ar unrhyw un o'r seiliau ym mharagraff (1)(a) i (c) ddim hwyrach nag 21 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod y cynhaliwyd y refferendwm.

(3Caniateir cyflwyno deiseb refferendwm ar y sail a grybwyllir ym mharagraff (1)(ch) ddim ond gyda chaniatâd yr Uchel Lys.

(4Rhaid gwneud cais am ganiatâd ddim hwyrach na 28 o ddiwrnodau ar ôl dyddiad y taliad neu addewid honedig, drwy roi hysbysiad o gais i'r llys, ar ba bynnag adeg ac ym mha bynnag le a bennir gan y llys.

(5Ddim llai na saith niwrnod cyn y diwrnod a bennir felly, rhaid i'r ymgeisydd—

(a)gyflwyno'r hysbysiad o gais i'r ymatebydd ac i'r Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus a rhoi copi yn y swyddfa deisebau etholiadau, a

(b)cyhoeddi hysbysiad o'r bwriad i wneud cais mewn o leiaf un papur newydd sy'n cylchredeg yn ardal y bleidlais ar gyfer y refferendwm y mae'r cais ym ymwneud ag ef.

(6Rhaid i'r hysbysiad o gais ddatgan ar ba sail y gwneir y cais.

(7Rhaid i ddeiseb refferendwm gael ei phrofi gan lys etholiad, hynny yw, llys a gyfansoddwyd o dan adran 130 (llys etholiad ar gyfer etholiad lleol yng Nghymru a Lloegr, a man cynnal treial) o Ddeddf 1983 ar gyfer profi deiseb etholiad, fel y'i cymhwysir gan baragraff (8).

(8Mae Atodlen 5 i'r Rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaethau sy'n cael effaith mewn perthynas â chwestiynu refferendwm, fel y cânt effaith mewn perthynas â chwestiynu etholiad o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, yn ddarostyngedig i'r addasiadau a bennir yn yr Atodlen honno ac i unrhyw ddarpariaeth i'r gwrthwyneb yn y Rheoliadau hyn.

(9Mae Rheolau Deisebau Etholiadau 1960(19) yn cael effaith mewn perthynas â deiseb refferendwm fel y cânt effaith mewn perthynas deiseb etholiad lleol o fewn ystyr y Rheolau hynny, yn ddarostyngedig i'r addasiadau a bennir yn Atodlen 6 i'r Rheoliadau hyn ac i unrhyw ddarpariaeth i'r gwrthwyneb yn y Rheoliadau hyn.

Canlyniadau di-oed deisebau refferendwm

12.—(1Mae'r rheoliad hwn, ac eithrio paragraff (8), yn gymwys—

(a)pan gyflwynir deiseb refferendwm ar unrhyw un o'r seiliau a grybwyllir yn rheoliad 11(1)(a) i (c), neu

(b)pan roddir caniatâd i gyflwyno deiseb refferendwm a ddygir ar y sail a grybwyllir yn 11(1)(ch).

(2Pan fo'r rheoliad hwn yn gymwys—

(a)mewn perthynas â refferendwm—

(i)lle'r oedd y datganiad a'r cwestiwn a ofynnwyd ar y ffurf a nodir ym mharagraff 3 o Atodlen 1, a

(ii)lle mae mwyafrif y pleidleisiau a fwriwyd yn bleidleisiau “o blaid”; a

(b)cyn i'r awdurdod lleol basio penderfyniad o dan adran 29,

rhaid i'r awdurdod lleol beidio â chymryd unrhyw gamau pellach o ganlyniad i'r refferendwm hyd nes bo'r llys etholiad wedi ardystio ei benderfyniad ym mater y ddeiseb refferendwm.

(3Pan fo'r rheoliad hwn yn gymwys —

(a)mewn perthynas â refferendwm—

(i)lle'r oedd y datganiad a'r cwestiwn a ofynnwyd ar y ffurf a nodir ym mharagraff 3 o Atodlen 1, a

(ii)lle mae mwyafrif y pleidleisiau a fwriwyd yn bleidleisiau “o blaid”; a

(b)ar ôl i'r awdurdod lleol basio penderfyniad o dan adran 29,

rhaid i'r awdurdod lleol barhau i weithredu'r trefniadau gweithrediaeth sy'n destun y penderfyniad hwnnw.

(4Pan fo'r rheoliad hwn yn gymwys —

(a)mewn perthynas â refferendwm —

(i)lle'r oedd y datganiad a'r cwestiwn a ofynnwyd ar y ffurf a nodir ym mharagraff 1 neu 2 o Atodlen 1, a

(ii)lle mae mwyafrif y pleidleisiau a fwriwyd yn bleidleisiau “o blaid”; a

(b)nid oes etholiad i ethol maer etholedig wedi digwydd o ganlyniad i'r refferendwm,

rhaid i'r awdurdod lleol beidio â chymryd unrhyw gamau pellach o ganlyniad i'r refferendwm hyd nes bo'r llys etholiad wedi ardystio ei benderfyniad ym mater y ddeiseb refferendwm.

(5Pan fo'r rheoliad hwn yn gymwys —

(a)mewn perthynas â refferendwm lle mae mwyafrif y pleidleisiau a fwriwyd yn bleidleisiau “yn erbyn”; a

(b)pan fo cynigion wrth gefn amlinellol yr awdurdod lleol yn seiliedig ar y trefniadau gweithrediaeth neu drefniadau amgen yr oedd yn eu gweithredu ar ddyddiad y refferendwm, rhaid iddo barhau i weithredu'r trefniadau hynny.

(6Pan fo'r rheoliad hwn yn gymwys ond nad yw paragraff (5) yn gymwys—

(a)mewn perthynas â refferendwm lle mae mwyafrif y pleidleisiau a fwriwyd yn bleidleisiau “yn erbyn”; a

(b)cyn i'r awdurdod lleol basio penderfyniad o dan adran 29 (gweithredu trefniadau gweithrediaeth a chyhoeddusrwydd ar eu cyfer) neu adran 33 (gweithredu trefniadau amgen),

rhaid i'r awdurdod lleol beidio â chymryd unrhyw gamau pellach o ganlyniad i'r refferendwm hyd nes bo'r llys etholiad wedi ardystio ei benderfyniad ym mater y ddeiseb refferendwm.

(7Pan fo'r rheoliad hwn yn gymwys—

(a)mewn perthynas â refferendwm lle mae mwyafrif y pleidleisiau a fwriwyd yn bleidleisiau “yn erbyn”; a

(b)ar ôl i'r awdurdod lleol basio penderfyniad o dan adran 29 neu 33,

rhaid i'r awdurdod lleol barhau i weithredu'r trefniadau gweithrediaeth neu'r trefniadau amgen (yn ôl y digwydd) sy'n destun y penderfyniad hwnnw.

(8Pan roddir caniatâd i gyflwyno deiseb refferendwm a ddygir ar y sail a grybwyllir yn rheoliad 11(1)(ch)—

(a)mewn perthynas â refferendwm—

(i)lle'r oedd y datganiad a'r cwestiwn a ofynnwyd ar y ffurf a nodir ym mharagraff 1 neu 2 o Atodlen 1, a

(ii)lle mae mwyafrif y pleidleisiau a fwriwyd yn bleidleisiau “o blaid”; a

(b)ar ôl i etholiad ddigwydd ar gyfer ethol maer etholedig o ganlyniad i'r refferendwm,

bydd y maer etholedig yn parhau yn y swydd.

Penderfynu deisebau refferendwm a'r gweithdrefnau dilynol

13.—(1Pan fo llys etholiad yn ardystio, fel ei benderfyniad ar ddeiseb refferendwm, bod canlyniad y refferendwm, a gyhoeddwyd o dan reoliad 10, naill ai yn unol â'r pleidleisiau a fwriwyd neu nad yw'n unol â'r pleidleisiau a fwriwyd (yn ôl y digwydd), rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad (ym mha dermau bynnag) at ddyddiad canlyniad y refferendwm yn yr amserlen—

(a)a gynhwysir yng nghynigion yr awdurdod lleol o dan adran 25;

(b)a gynhwysir yn ei gynigion o dan reoliad 17(3)(a) neu 19(1)(c) o'r Rheoliadau Deisebau a Chyfarwyddiadau;

(c)a baratowyd yn unol ag adran 27(4) neu reoliad 17(7)(a)(ii) neu 20(3)(a)(iii) o'r Rheoliadau hynny; neu

(ch)a baratowyd o ran unrhyw reoliadau eraill neu orchymyn a wnaed o dan unrhyw ddarpariaeth o Ran II (trefniadau mewn perthynas â gweithrediaethau etc.) o Ddeddf 2000.

fel cyfeiriad at y dyddiad pan fo'r llys etholiad yn ardystio ei benderfyniad.

(2Pan fo llys etholiad yn ardystio, fel ei benderfyniad ar ddeiseb refferendwm a oedd yn nodi unrhyw un o'r seiliau a grybwyllir yn rheoliad 11(1), bod y refferendwm wedi ei ddirymu, rhaid i'r awdurdod lleol dan sylw gynnal refferendwm arall, ddim cynt na dau fis a dim hwyrach na thri mis ar ôl y dyddiad y cadarnhaodd y llys etholiad y penderfyniad hwnnw.

(3Pan fo'r amgylchiadau fel a grybwyllir yn rheoliad 12(8)(a) a (b), rhaid i'r llys—

(a)wrthod y ddeiseb, neu

(b)ganiatáu'r ddeiseb,

a, phan fo'r llys yn caniatáu'r ddeiseb rhaid iddo gyhoeddi bod y refferendwm yn llygredig a gorchymyn bod refferendwm arall yn cael ei gynnal.

(4Pan fo'r llys etholiad yn gwneud y gorchymyn a grybwyllir ym mharagraff (3), rhaid i'r awdurdod lleol gynnal y refferendwm pellach cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl diwedd y cyfnod o bum mlynedd sy'n cychwyn ar y dyddiad y cynhaliwyd y refferendwm llygredig.

(5Os yw mwyafrif y pleidleisiau a fwrir mewn refferendwm pellach yn bleidleisiau “o blaid”—

(a)pan fo'r awdurdod lleol yn gweithredu trefniadau gweithrediaeth, rhaid iddo barhau i weithredu'r trefniadau hynny oni chaiff, a hyd nes caiff, ei awdurdodi neu ei bod yn ofynnol iddo weithredu trefniadau gweithrediaeth gwahanol, neu ei awdurdodi i weithredu trefniadau amgen yn lle ei drefniadau gweithrediaeth presennol, a

(b)pan fo'r awdurdod lleol yn gweithredu trefniadau amgen, rhaid iddo barhau i weithredu'r trefniadau hynny oni chaiff, a hyd nes caiff, ei awdurdodi i weithredu trefniadau amgen gwahanol, neu ei awdurdodi neu ei bod yn ofynnol iddo weithredu trefniadau gweithrediaeth yn lle ei drefniadau amgen presennol.

(6Os yw mwyafrif y pleidleisiau a fwrir mewn refferendwm pellach yn bleidleisiau “yn erbyn”—

(a)rhaid i'r awdurdod lleol weithredu'r cynigion hynny a oedd yn gynigion wrth gefn amlinellol ganddo ar adeg y refferendwm llygredig, a

(b)yn ddarostyngedig i baragraffau (7) ac (8), mae adran 27(13) (refferendwm yn achos cynigion sy'n ymwneud â maer etholedig) yn gymwys ar gyfer gweithredu cynigion wrth gefn manwl fel pe bai'r cynigion wrth gefn amlinellol hynny yn gynigion wrth gefn amlinellol ar achlysur pan wrthodir cynigion o dan adran 25 (cynigion) mewn refferendwm o dan adran 27.

(7Os y trefniadau gweithrediaeth neu drefniadau amgen a weithredid gan yr awdurdod ar ddyddiad y refferendwm llygredig yw cynigion wrth gefn amlinellol yr awdurdod, mae adran 27(13) yn gymwys (fel y crybwyllir ym mharagraff (6)) fel pe rhoddid y geiriau “as soon as practicable” yn lle “in accordance with the timetable mentioned in subsection (4)”

(8Os trefniadau gweithrediaeth sy'n cynnwys ffurf o weithrediaeth nad yw'n ofynnol cael refferendwm ar ei chyfer yw cynigion wrth gefn amlinellol yr awdurdod—

(a)mae adran 29(1) (gweithredu trefniadau gweithrediaeth a chyhoeddusrwydd ar eu cyfer) yn gymwys at y diben o alluogi'r awdurdod i weithredu'r trefniadau gweithrediaeth a nodir yn ei gynigion wrth gefn manwl, fel y mae'n gymwys at y diben o alluogi awdurdod i weithredu trefniadau gweithrediaeth mewn amgylchiadau eraill, a

(b)mae adran 29(2) yn gymwys fel pe bai is-baragraff (i) ym mharagraff (b) wedi ei amnewid gan—

(i)states that, in consequence of the rejection in a further referendum of the authority’s existing executive arrangements, the authority have resolved to operate the different executive arrangements that were described in their outline fall-back proposals at the time of the referendum,.

(9Pan fo cynigion wrth gefn amlinellol yr awdurdod lleol yn drefniadau amgen—

(a)mae adran 32(2) (gweithredu trefniadau amgen) yn gymwys at y diben o alluogi'r awdurdod lleol i weithredu'r trefniadau amgen a nodir yn ei gynigion wrth gefn manwl, fel y mae'n gymwys at y diben o alluogi awdurdod i weithredu trefniadau amgen mewn amgylchiadau eraill, a

(b)mae adran 29(2) yn gymwys fel pe bai is-baragraff (i) ym mharagraff (b) wedi ei amnewid gan “(i) states that, in consequence of the rejection in a further referendum of the local authority’s existing executive arrangements the local authority have resolved to operate the alternative arrangements that were described in their outline fall-back proposals at the time of the referendum.”.

(10Mae'r Rheoliadau hyn, ac eithrio pan fo'r cyd-destun yn mynnu fel arall, yn gymwys (i'r graddau y maent yn berthnasol) ar gyfer cynnal y refferendwm pellach, fel y maent yn gymwys i gynnal unrhyw refferendwm arall, yn ddarostyngedig i—

(a)yn rheoliad 4—

(i)hepgor paragraff (1)(a),

(ii)ym mharagraff (1)(b), rhoi “trefniadau gweithrediaeth neu amgen presennol yr awdurdod lleol” yn lle “y cynigion”,

(iii)ym mharagraff (1)(c)(vi), rhoi “dogfen y nodir ynddi brif nodweddion trefniadau gweithrediaeth neu amgen presennol yr awdurdod” yn lle “copi o'r cynigion”,

(iv)ym mharagraff (1)(c)(vii), rhoi “ddogfen honno a'r cynigion wrth gefn amlinellol hynny” yn lle “cynigion a'r cynigion wrth gefn amlinellol”,

(v)ar ôl paragraff (1)(c)(vii), mewnosod—

(viii)os yw'n digwydd bod y refferendwm yn cael ei gynnal o ganlyniad i benderfyniad llys etholiad bod y refferendwm diwethaf a gynhaliwyd yn ardal yr awdurdod yn ddi-rym neu, yn ôl y digwydd, y datgenir iddo fod yn llygredig oherwydd gwneud neu addo taliad ariannol neu wobr arall ers y refferendwm, yn unol ag arfer llwgr neu anghyfreithlon.,

(vi)ym mharagraff (4), rhoi “dogfen ar gael i'w harchwilio sy'n nodi prif nodweddion trefniadau gweithrediaeth cyfredol neu drefniadau amgen cyfredol yr awdurdod” yn lle “copi ar gael i'w archwilio o'i gynigion”,

(vii)ym mharagraff (5), rhoi “â phrif nodweddion trefniadau gweithrediaeth neu amgen cyfredol yr awdurdod lleol” yn lle “â'r cynigion”, ac

(b)yn lle paragraff 1 o Atodlen 1 a'r ffurf gyntaf sy'n ymddangos yn yr Atodiad i Reolau Refferenda'r Ddeddf Llywodraeth Leol, rhoi—

; ac

(c)yn lle paragraff 2 o Atodlen 1 a'r ail ffurf sy'n ymddangos yn yr Atodiad i Reolau Refferenda'r Ddeddf Llywodraeth Leol, rhoi—

.

(11Yn dilyn prif wrandawiad deiseb refferendwm y rhoddwyd caniatâd ar ei chyfer ac y mae'r amgylchiadau fel a grybwyllir mewn unrhyw baragraff o reoliad 12 ac eithrio paragraff (8), rhaid i'r llys etholiad naill ai—

(a)gwrthod y ddeiseb, neu

(b)caniatáu'r ddeiseb,

a phan fo'r llys yn caniatáu'r ddeiseb, rhaid iddo gyhoeddi bod y refferendwm yn ddi-rym.

Amser

14.—(1Rhaid anwybyddu'r diwrnodau a grybwyllir ym mharagraff (2) wrth gyfrifo unrhyw gyfnod o amser at ddibenion rheoliad 4(1).

(2Y diwrnodau a grybwyllir yn y paragraff hwn yw—

(a)dydd Sadwrn neu ddydd Sul,

(b)Noswyl Nadolig, Dydd Nadolig, dydd Gwener y Groglith neu ddiwrnod sy'n ŵyl banc o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(20) yng Nghymru, ac

(c)unrhyw ddiwrnod a bennir yn ddiwrnod o ddiolchgarwch neu alaru cyhoeddus.

Hysbysebion

15.  Mae Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Rheoli Hysbysebion) 1992(21) yn cael effaith mewn perthynas ag arddangos, ar unrhyw safle yn ardal y bleidlais, unrhyw hysbyseb sy'n ymwneud yn benodol â'r refferendwm, fel y maent yn effeithiol mewn perthynas ag arddangos hysbyseb sy'n ymwneud yn benodol ag etholiad llywodraeth leol.

Trethi annomestig: mangre a ddefnyddir at ddibenion refferendwm

16.  Mewn perthynas â mangre yn ardal y bleidlais, mae adran 65(6) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988(22) (meddiant ar gyfer cynnal cyfarfodydd etholiad a phleidleisiau) yn cael effaith fel pe bai—

(a)y cyfeiriad at gyfarfodydd cyhoeddus er hyrwyddo ymgeisyddiaeth person mewn etholiad yn cynnwys cyfeiriad at gyfarfodydd cyhoeddus sy'n hyrwyddo canlyniad penodol yn y refferendwm, a

(b)y cyfeiriad at ddefnyddio gan swyddog canlyniadau at y diben o gynnal y bleidlais mewn etholiad yn cynnwys cyfeiriad at ddefnyddio at y diben o gymryd y bleidlais yn y refferendwm gan berson sy'n cyflawni swyddogaethau swyddog cyfrif yn unol â rheoliad 9.

Brian Gibbons

Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

9 Gorffennaf 2008

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill