- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
44.—(1) Caiff llys sirol wneud gorchymyn—
(a)ar gyfer archwilio neu ddangos unrhyw bapurau pleidleisio a wrthodwyd sydd ym meddiant y swyddog cofrestru perthnasol, neu
(b)ar gyfer agor pecyn seliedig o restrau rhifau cyfatebol a gwblhawyd, neu dystysgrifau ynglŷn â chyflogaeth ar ddyletswydd ar ddiwrnod y pleidleisio, neu ar gyfer archwilio unrhyw bapurau pleidleisio a gyfrifwyd sydd ym meddiant y swyddog cofrestru perthnasol,
os bodlonir y llys, gan dystiolaeth a roddir ar lw, bod y gorchymyn yn ofynnol at y diben o gychwyn neu gynnal erlyniad am dramgwydd mewn perthynas â phapurau pleidleisio neu at ddiben deiseb refferendwm.
(2) Caiff llys etholiad wneud gorchymyn ar gyfer agor pecyn seliedig o restrau rhifau cyfatebol a gwblhawyd, neu dystysgrifau ynglŷn â chyflogaeth ar ddyletswydd ar ddiwrnod y pleidleisio, neu ar gyfer archwilio unrhyw bapurau pleidleisio a gyfrifwyd sydd ym meddiant y swyddog cofrestru perthnasol.
(3) Caiff y llys sy'n gwneud gorchymyn o dan y rheol hon wneud y gorchymyn yn ddarostyngedig i amodau o ran—
(a)personau,
(b)amser,
(c)lleoliad a dull yr archwilio,
(ch)dangos neu agor,
fel y gwêl y llys yn briodol.
(4) Wrth wneud ac wrth weithredu gorchymyn ar gyfer agor pecyn o'r rhestrau rhifau cyfatebol a gwblhawyd, neu dystysgrifau ynglŷn â chyflogaeth ar ddyletswydd ar ddiwrnod y pleidleisio, neu ar gyfer archwilio papurau pleidleisio a gyfrifwyd, rhaid cymryd gofal i beidio â datgelu'r ffordd y pleidleisiodd unrhyw berson penodol hyd nes bo wedi ei brofi bod—
(a)pleidlais y person wedi ei bwrw; a
(b)bod y bleidlais wedi ei chyhoeddi gan lys cymwys yn bleidlais annilys.
(5) Gwneir unrhyw apêl yn erbyn gorchymyn llys sirol o dan y rheol hon i'r Uchel Lys.
(6) Caniateir i unrhyw bŵer a roddir o dan y rheol hon i lys sirol gael ei arfer gan unrhyw farnwr o'r llys mewn modd gwahanol i'w arfer mewn llys agored.
(7) Pan wneir gorchymyn bod y swyddog cofrestru perthnasol yn dangos unrhyw ddogfen sydd yn ei feddiant mewn perthynas ag unrhyw refferendwm penodedig—
(a)mae dangos, gan y swyddog cofrestru neu gan asiant y swyddog cofrestru, y ddogfen a orchmynnwyd, mewn modd sy'n unol ag unrhyw gyfarwyddiadau yn y gorchymyn hwnnw, yn dystiolaeth derfynol bod y ddogfen yn ymwneud â'r refferendwm penodedig: a
(b)mae unrhyw arnodiad ar unrhyw becyn o bapurau pleidleisio a ddangosir felly yn dystiolaeth prima facie mai'r papurau pleidleisio hynny yw'r rhai a ddatgenir yn yr arnodiad.
(8) Mae dangos, ar ôl eu cadw yn briodol—
(a)papur pleidleisio yr honnir iddo gael ei ddefnyddio mewn unrhyw refferendwm, a
(b)rhestr rhifau cyfatebol a gwblhawyd, gyda rhif wedi ei farcio mewn ysgrifen wrth ochr rhif y papur pleidleisio,
yn dystiolaeth prima facie mai'r person y bwriwyd ei bleidlais gan y papur pleidleisio hwnnw oedd y person yr oedd ei gofnod yn y rhestr etholwyr neu ar hysbysiad a ddyroddwyd o dan adran 13B(3B) neu (3D) o Ddeddf 1983, ar adeg y refferendwm yn cynnwys yr un rhif â'r rhif ysgrifenedig a grybwyllir yn is-baragraff (b) o'r paragraff hwn.
(9) Ac eithrio fel a ddarperir gan y rheol hon, ni chaniateir i unrhyw berson archwilio unrhyw bapurau pleidleisio a wrthodwyd neu a gyfrifwyd, sydd ym meddiant y swyddog cofrestru perthnasol, nac agor unrhyw becynnau seiliedig o'r rhestrau rhifau cyfatebol a gwblhawyd, neu dystysgrifau ynglŷn â chyflogaeth ar ddyletswydd ar ddiwrnod y pleidleisio.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys