Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cynnal Refferenda) (Cymru) 2008

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

RHAN 4Gweithredu i'w Gyflawni cyn y Bleidlais

Hysbysiad o bleidlais

12.—(1Rhaid i'r swyddog cyfrif gyhoeddi hysbysiad o'r bleidlais sy'n datgan —

(a)y diwrnod a'r oriau a bennwyd ar gyfer y bleidlais, a

(b)y datganiad a'r cwestiwn i'w ofyn yn y refferendwm.

(2Rhaid cyhoeddi'r hysbysiad o bleidlais ddim hwyrach na'r chweched diwrnod cyn dyddiad y refferendwm.

(3Rhaid i'r swyddog cyfrif, ddim hwyrach na'r adeg y cyhoeddir yr hysbysiad o'r bleidlais, roi hysbysiad cyhoeddus hefyd o—

(a)lleoliad pob gorsaf bleidleisio; a

(b)disgrifiad o'r personau sydd a hawl i bleidleisio yno.

Papurau pleidlais bost

13.—(1Rhaid i'r swyddog cyfrif, yn unol â rheoliadau a wnaed o dan Ddeddf 1983,(1) ddyroddi i'r rhai sydd â hawl i bleidleisio drwy'r post bapur pleidleisio a datganiad pleidlais bost, yn y ffurf briodol fel sydd yn yr Atodiad, neu ffurf ag effaith gyffelyb, ynghyd â pha bynnag amlenni ar gyfer eu dychwelyd a ragnodir gan y cyfryw reoliadau.

(2Rhaid i'r swyddog cyfrif hefyd ddyroddi i'r rhai sydd â hawl i bleidleisio drwy'r post pa bynnag wybodaeth y mae'r swyddog cyfrif yn ei hystyried yn briodol ynglŷn â sut y gellir cael—

(a)cyfieithiadau i ieithoedd ac eithrio'r Gymraeg neu'r Saesneg o unrhyw gyfarwyddiadau neu o ganllawiau i bleidleiswyr a dirprwyon a anfonir ynghyd â'r papur pleidleisio;

(b)cyfieithiad i Braille o'r cyfryw gyfarwyddiadau neu ganllawiau;

(c)portreadau graffigol o'r cyfryw gyfarwyddiadau neu ganllawiau;

(ch)y cyfarwyddiadau neu ganllawiau mewn unrhyw ffurf arall (gan gynnwys unrhyw ffurf glywadwy).

(3Rhaid i'r datganiad pleidlais bost gynnwys darpariaeth ar gyfer llofnodi'r ffurflen ac ar gyfer datgan dyddiad geni'r pleidleisiwr neu'r dirprwy.

(4Yn achos papur pleidleisio a ddyroddir i berson mewn cyfeiriad yn y Deyrnas Unedig, rhaid i'r swyddog cyfrif sicrhau y gall y pleidleisiwr neu'r dirprwy ddychwelyd y papur pleidleisio yn ddi—dâl.

Darparu gorsafoedd pleidleisio

14.—(1Rhaid i'r swyddog cyfrif ddarparu nifer digonol o orsafoedd pleidleisio ac, yn ddarostyngedig i'r darpariaethau canlynol o'r rheol hon, rhaid iddo ddyrannu pleidleiswyr i'r gorsafoedd pleidleisio yn y modd y tybia'r swyddog cyfrif yw'r hwylusaf.

(2Caniateir darparu un neu ragor o orsafoedd pleidleisio yn yr un ystafell.

(3Rhaid i'r orsaf bleidleisio a ddyrennir i bleidleiswyr o unrhyw ddosbarth etholiadol seneddol, sydd yn gyfan gwbl neu'n rhannol o fewn ardal y bleidlais, fod yn y man pleidleisio seneddol ar gyfer y dosbarth hwnnw, onid oes amgylchiadau arbennig.

(4Rhaid i'r swyddog cyfrif, ym mhob gorsaf bleidleisio, ddarparu pa bynnag nifer o fythau y gall fod eu hangen, lle y gall pleidleiswyr a dirprwyon farcio'u pleidleisiau o'r golwg, y tu ôl i sgrîn.

Penodi swyddogion llywyddu a chlercod pleidleisio

15.—(1Rhaid i'r swyddog cyfrif benodi a thalu i swyddog llywyddu i fod yn bresennol ym mhob gorsaf bleidleisio a'r cyfryw glercod ag y bo'u hangen at ddibenion y refferendwm.

(2Os gwêl y swyddog cyfrif yn dda, caiff y swyddog cyfrif lywyddu mewn gorsaf bleidleisio, ac y mae'r darpariaethau yn y Rheolau hyn sy'n gymwys i swyddog llywyddu yn gymwys hefyd i swyddog cyfrif sy'n llywyddu felly, gyda'r addasiadau angenrheidiol o ran y pethau sydd i'w gwneud gan y swyddog cyfrif i'r swyddog llywyddu neu gan y swyddog llywyddu i'r swyddog cyfrif.

(3Caiff swyddog llywyddu wneud, drwy'r clercod a benodir i gynorthwyo'r swyddog llywyddu, unrhyw weithred (gan gynnwys gofyn cwestiynau) yr awdurdodir y swyddog llywyddu i'w gwneud gan y Rheolau hyn, neu y mynnir ei fod yn ei gwneud, mewn gorsaf bleidleisio, ac eithrio gorchymyn i arestio unrhyw berson, neu ei allgáu neu ei symud o'r orsaf bleidleisio.

Dyroddi cardiau pleidleisio swyddogol

16.—(1Rhaid i'r swyddog cyfrifo, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl cyhoeddi'r hysbysiad o refferendwm, anfon cerdyn pleidleisio swyddogol at bob pleidleisiwr a dirprwy.

(2Rhaid i'r cerdyn pleidleisio swyddogol gael ei anfon neu ei ddanfon—

(a)yn achos pleidleisiwr, i gyfeiriad cymhwyso'r pleidleisiwr, a

(b)yn achos dirprwy, i gyfeiriad y dirprwy fel y'i dangosir yn y rhestr dirprwyon.

(3Rhaid i'r cerdyn pleidleisio fod yn y ffurf briodol fel y'i dangosir yn yr Atodiad neu ffurf ag effaith gyffelyb effaith, a rhaid iddo nodi—

(a)enw'r cyngor ac ardal y bleidlais;

(b)enw'r pleidleisiwr, cyfeiriad cymwys y pleidleisiwr a'i rif ar y gofrestr;

(c)dyddiad ac oriau'r bleidlais a lleoliad gorsaf bleidleisio'r pleidleisiwr;

(ch)pa wybodaeth bynnag arall ag y bo'r swyddog cyfrif yn ei hystyried yn briodol,

a chaniateir darparu gwybodaeth wahanol yn unol ag is-baragraff (ch) i wahanol bleidleiswyr neu i wahanol ddisgrifiadau o bleidleiswyr.

(4Yn achos pleidleisiwr sydd â chofnod dienw yn y gofrestr, yn hytrach na chynnwys y deunydd a grybwyllir ym mharagraff (3)(b), rhaid i'r cerdyn pleidleisio gynnwys y cyfryw ddeunydd a bennir yn y ffurf briodol yn yr Atodiad.

(5Yn y rheol hon mae cyfeiriadau at bleidleisiwr—

(a)yn cyfeirio at berson sy'n gofrestredig yn y gofrestr o etholwyr llywodraeth lleol ar gyfer ardal y bleidlais dan sylw ar y diwrnod olaf ar gyfer cyhoeddi hysbysiad o refferendwm; a

(b)yn cynnwys person a ddangosir yn y gofrestr bryd hynny fel un sydd islaw oedran pleidleisio, os (ond yn unig os) yw'n ymddangos yn ôl y gofrestr y bydd y person hwnnw mewn oedran pleidleisio ar y diwrnod a bennwyd ar gyfer y bleidlais.

Cyfarpar mewn gorsafoedd pleidleisio

17.—(1Rhaid i'r swyddog cyfrif ddarparu i bob swyddog llywyddu pa bynnag nifer o flychau pleidleisio a phapurau pleidleisio a all fod, ym marn y swyddog cyfrif, yn angenrheidiol.

(2Rhaid i bob blwch pleidleisio fod o wneuthuriad fel y gellir rhoi papurau pleidleisio i mewn ynddo ond na ellir eu tynnu allan heb ddatgloi'r blwch, neu, os nad oes clo ar y blwch, heb dorri'r sêl.

(3Rhaid i'r swyddog cyfrif ddarparu i bob gorsaf bleidleisio—

(a)deunyddiau i alluogi'r pleidleiswyr a'r dirprwyon i farcio'r papurau pleidleisio;

(b)copïau o'r gofrestr etholwyr ar gyfer ardal y bleidlais, neu'r cyfryw ran ohoni sy'n cynnwys enwau'r etholwyr a ddyrannwyd i'r orsaf bleidleisio;

(c)y rhannau o unrhyw restrau arbennig a baratowyd ar gyfer y refferendwm sy'n cyfateb i'r rhestr etholwyr ar gyfer ardal y bleidlais neu'r rhan ohoni a ddarperir o dan is-baragraff (b);

(ch)rhestr a gyfansoddir o'r rhan honno o'r rhestr a baratowyd o dan reol 8 sy'n cynnwys y rhifau (ond nid y nodau adnabod unigryw eraill) sy'n cyfateb i'r rhifau ar y papurau pleidleisio a ddarparwyd i swyddog llywyddu yr orsaf bleidleisio.

(4Mae'r cyfeiriad ym mharagraff 3(b) at y copïau o'r gofrestr etholwyr yn cynnwys cyfeiriad at gopïau o unrhyw hysbysiadau a gyhoeddwyd o dan adran 13B(3B) neu (3D) o Ddeddf 1983(2) mewn perthynas â newidiadau yn y gofrestr.

(5Rhaid i'r swyddog cyfrif ddarparu hefyd i bob gorsaf bleidleisio —

(a)o leiaf un fersiwn fawr o'r papur pleidleisio, y mae'n rhaid ei arddangos y tu mewn i'r orsaf bleidleisio, i gynorthwyo pleidleiswyr a dirprwyon sy'n gweld yn rhannol; a

(b)dyfais fel a ddisgrifir ym mharagraff (9) i alluogi pleidleiswyr sy'n ddall neu sy'n gweld yn rhannol i bleidleisio heb fod arnynt angen cymorth gan y swyddog llywyddu nac unrhyw gydymaith (o fewn ystyr rheol 28(1)).

(6Rhaid argraffu hysbysiad mewn llythrennau amlwg yn y ffurf sydd yn yr Atodiad, i roi cyfarwyddiadau fel canllaw i bleidleiswyr a dirprwyon ynglŷn â phleidleisio, a rhaid ei arddangos y tu mewn a thu allan i bob gorsaf bleidleisio.

(7Caiff y swyddog cyfrif ddarparu hefyd gopïau o'r hysbysiad a grybwyllir ym mharagraff (6) mewn Braille, neu ei gyfieithu i ieithoedd ac eithrio'r Gymraeg a'r Saesneg, fel y gwêl y swyddog cyfrif yn briodol, ar yr amod yr atgynhyrchir yr hysbysiad yn fanwl gywir mewn Braille neu yn yr iaith arall.

(8Ym mhob bwth ym mhob gorsaf bleidleisio rhaid arddangos y hysbysiad

REFFERENDWM [Noder enw'r cyngor ... ... ... ....]. Rhowch groes (X) yn y blwch ar yr ochr dde gyferbyn â'r ateb o'ch dewis. Pleidleisiwch UN WAITH yn unig. Peidiwch â rhoi unrhyw farc arall ar y papur pleidleisio, neu efallai na fydd eich pleidlais yn cael ei chyfrif.

[Specify name of council ... ... ... ....] REFERENDUM. Mark a cross (X) in the box on the right hand side of the answer of your choice. Vote ONCE only. Put no other mark on the ballot paper, or your vote may not be counted..

(9Rhaid i'r ddyfais y cyfeirir ati ym mharagraff 5(b)—

(a)ganiatáu i bapur pleidleisio gael ei roi i mewn ynddi a'i dynnu allan ohoni, neu ei gysylltu wrthi a'i ddatgysylltu oddi wrthi, yn rhwydd a hynny heb ddifrodi'r papur;

(b)dal y papur pleidleisio yn gadarn yn ei le tra defnyddir y ddyfais; ac

(c)darparu dull addas i bleidleiswyr a dirprwyon—

(i)adnabod y bylchau ar y papur pleidleisio lle y gall y pleidleisiwr neu'r dirprwy farcio pleidlais y pleidleisiwr neu'r dirprwy;

(ii)canfod i ba ateb y mae pob un o'r cyfryw fylchau yn perthyn; a

(iii)marcio pleidlais y pleidleisiwr neu'r dirprwy yn y bwlch a ddewisir gan y pleidleisiwr neu'r dirprwy.

Penodi arsylwyr pleidleisio ac arsylwyr cyfrif

18.—(1Caiff y swyddog cyfrif benodi personau i fod yn bresennol mewn gorsafoedd pleidleisio at y diben o ddarganfod cambersonadu (“arsylwyr pleidleisio”).

(2Rhaid i'r swyddog cyfrif benodi personau i arsylwi ar gyfrif y pleidleisiau a gwirio'r gyfriflen papurau pleidleisio (“arsylwyr cyfrif”).

(3At y diben o gynorthwyo'r swyddog cyfrif i gyflawni swyddogaethau'r swyddog cyfrif o dan baragraff (2), caiff trefnydd deiseb enwebu personau sydd, ym marn y trefnydd deiseb, yn addas i'w penodi yn arsylwyr cyfrif.

(4Rhaid gwneud enwebiad o dan baragraff (3) drwy hysbysiad ysgrifenedig i'r swyddog cyfrif, ddim hwyrach na'r pumed diwrnod cyn y bleidlais (gan anwybyddu unrhyw ddiwrnod sydd i'w anwybyddu yn rhinwedd rheol 4) a rhaid i'r hysbysiad gynnwys cyfeiriad pob enwebai.

(5Yn ddarostyngedig i baragraff (6), rhaid i'r swyddog cyfrif beidio, heb reswm digonol, â gwrthod penodi yn arsylwr cyfrif unrhyw berson a enwebir gan drefnydd deiseb o dan baragraff (3).

(6Caiff y swyddog cyfrif gyfyngu ar nifer yr arsylwyr cyfrif, fodd bynnag, fel bod—

(a)rhaid caniatáu yr un nifer yn achos pob trefnydd deiseb, a

(b)rhaid i'r nifer a ganiateir i drefnydd deiseb (ac eithrio mewn amgylchiadau arbennig) beidio â bod yn llai na'r nifer a gyfrifir drwy rannu nifer y clercod a gyflogir ar gyfer cyfrif y pleidleisiau gan nifer y trefnwyr deisebau.

  • At ddibenion y cyfrifiadau sy'n ofynnol o dan y paragraff hwn, mae arsylwr cyfrif a benodir ar enwebiad mwy nag un trefnydd deiseb yn arsylwr cyfrif ar wahân ar gyfer pob un o'r trefnwyr deiseb a'i henwebodd.

(7Os bydd farw arsylwr cyfrif a benodir ar enwebiad trefnydd deiseb, neu os yw'n mynd yn analluog i weithredu, caiff y trefnydd deiseb a wnaeth yr enwebiad enwebu person arall i'w benodi yn arsylwr cyfrif yn lle'r person hwnnw, drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r swyddog cyfrif.

(8Mae'r paragraffau (4) a (5) yn gymwys i enwebiad o dan baragraff (7), os rhoddir “diwrnod olaf” yn lle “pumed diwrnod ” ym mharagraff (4).

(9Yn narpariaethau'r Rheolau hyn sy'n dilyn, mae cyfeiriadau at arsylwyr pleidleisio ac arsylwyr cyfrif i'w dehongli fel cyfeiriadau at arsylwyr sydd eisoes wedi eu penodi.

(10Caniateir i unrhyw hysbysiad y mae'n ofynnol i'r swyddog cyfrif ei roi i arsylwr cyfrif a benodir ar enwebiad trefnydd deiseb gael ei ddanfon, neu ei anfon drwy'r post, i'r cyfeiriad a nodir yn yr hysbysiad o enwebiad.

(11Caiff trefnydd deiseb wneud unrhyw weithred neu beth yr awdurdodir arsylwr cyfrif i'w wneud, neu caiff gynorthwyo unrhyw arsylwr cyfrif a benodwyd yn dilyn ei enwebu, i wneud unrhyw weithred neu beth o'r fath.

(12Pan pan fo'n ofynnol neu pan awdurdodir, o dan y Rheolau hyn, gwneud unrhyw weithred neu beth ym mhresenoldeb yr arsylwyr pleidleisio neu'r arsylwyr cyfrif, ni fydd amhresenoldeb unrhyw berson o'r fath ar yr adeg ac yn y man a bennwyd at y diben hwnnw, os cyflawnir y weithred neu'r peth yn briodol fel arall, yn annilysu'r weithred neu'r peth a wneir.

Hysbysu ynghylch gofyniad cyfrinachedd

19.  Rhaid i'r swyddog cyfrif wneud pa bynnag drefniadau y tybia'r swyddog cyfrif sy'n addas i sicrhau —

(a)bod pob person sy'n bresennol mewn gorsaf bleidleisio (ac eithrio at y diben o bleidleisio neu gynorthwyo pleidleisiwr neu ddirprwy sydd ag anableddau i bleidleisio neu fel cwnstabl ar ddyletswydd yno) wedi cael copi ysgrifenedig o ddarpariaethau is-adrannau (1), (3) a (6) o adran 66 o Ddeddf 1983(3), fel y'u cymhwysir gan Atodlen 4; a

(b)bod pob person sy'n bresennol yn y cyfrif pleidleisiau (ac eithrio unrhyw gwnstabl ar ddyletswydd yn y cyfrif) wedi cael copi ysgrifenedig o ddarpariaethau is-adrannau (2) a (6) o'r adran honno fel y'u cymhwysir gan Atodlen 4.

Dychwelyd papurau pleidleisio

20.—(1Pan fo—

(a)pleidlais bost wedi ei dychwelyd mewn cysylltiad â pherson sydd wedi ei gofnodi ar y rhestr pleidleiswyr post, neu

(b)pleidlais bost drwy ddirprwy wedi ei dychwelyd mewn perthynas â dirprwy sydd wedi ei gofnodi ar y rhestr o bleidleiswyr post fel dirprwyon,

rhaid i'r swyddog cyfrif farcio'r rhestr yn y modd a ragnodir gan reoliadau a wnaed o dan Ddeddf 1983(4).

(2Nid yw rheol 36(3) yn gymwys at y diben o benderfynu, at ddibenion y rheol hon, a yw pleidlais bost neu bleidlais bost drwy ddirprwy wedi ei dychwelyd.

(1)

Gweler Rheoliadau Deddf Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 O.S. 2001/341 (diwygiwyd gan O.S. 2001/1700, 2002/1871, 2004/226, 2006/752 a 2006/2910).

(2)

Mewnosodwyd adran 13B o Ddeddf 1983 gan baragraff 6 o Atodlen 1 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000 (p.2) a diwygiwyd yr adran honno gan adran 11(3) o Ddeddf Gweinyddu Etholiadau 2006 (p.22). Mewnosodwyd is-adrannau (3B) a (3D) o adran 13B gan adran 11(4) o Ddeddf Gweinyddu Etholiadau 2006 (p.22).

(3)

Diwygiwyd is-adrannau (1), (2) a (3) o adran 66 o Ddeddf 1983 gan baragraffau 69, 82, 86(a) a (b) a 96 o Atodlen 1 i Ddeddf Gweinyddu Etholiadau 2006 (p.22); diwygiwyd is-adran (6) gan baragraff 3 o Atodlen 3 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985 (p.50).

(4)

Gweler rheoliad 84A o Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 O.S. 2001/341 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2006/2901.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill