- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
35.—(1) Rhaid i'r swyddog cyfrif wneud trefniadau i gyfrif y pleidleisiau ym mhresenoldeb yr arsylwyr cyfrif cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl cau'r pleidleisio, a rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig i'r arsylwyr cyfrif sy'n nodi'r amser a'r lle y bydd y swyddog cyfrif yn cychwyn cyfrif y pleidleisiau.
(2) Ni chaiff neb ac eithrio—
(a)y swyddog cyfrif a chlercod y swyddog cyfrif,
(b)yr arsylwyr cyfrif,
(c)maer etholedig, os oes un, y cyngor y cynhelir y refferendwm mewn perthynas ag ef,
(ch)y trefnyddion deiseb, a
(d)personau sydd â hawl i fod yn bresennol yn rhinwedd adrannau 6A i 6D o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000,
fod yn bresennol yn ystod cyfrif y pleidleisiau, oni chaiff ganiatâd y swyddog cyfrif i fod yn bresennol.
(3) Ni fydd y swyddog cyfrif yn caniatáu i berson nad oes ganddo hawl i fod yn bresennol yn y cyfrif pleidleisiau fod yn bresennol yno, oni fodlonir y swyddog cyfrif na fydd hynny yn rhwystr i gyfrif y pleidleisiau yn effeithiol.
(4) Rhaid i'r swyddog cyfrif roi pa bynnag gyfleusterau rhesymol i'r arsylwyr cyfrif ar gyfer goruchwylio'r gweithrediadau, a pha bynnag wybodaeth mewn perthynas â'r gweithrediadau, ag y gall y swyddog cyfrif eu rhoi, yn gyson â chynnal y gweithrediadau yn drefnus a chyflawni dyletswyddau'r swyddog cyfrif mewn perthynas â'r gweithrediadau.
(5) Yn benodol, pan fo'r pleidleisiau yn cael eu cyfrif trwy ddidoli'r papurau pleidleisio yn ôl pa ateb y pleidleisiwyd drosto ac yna cyfrif nifer y papurau pleidleisio ar gyfer bob ateb, mae hawl gan yr arsylwyr cyfrif i fodloni eu hunain bod y papurau pleidleisio wedi eu didoli yn gywir.
36.—(1) Rhaid i'r swyddog cyfrif—
(a)ym mhresenoldeb yr arsylwyr cyfrif, agor pob blwch pleidleisio a chyfrif a chofnodi nifer y papurau pleidleisio sydd ynddo;
(b)ym mhresenoldeb yr arsylwyr cyfrif, gwirio pob cyfriflen papurau pleidleisio; ac
(c)cyfrif nifer y papurau pleidlais bost a ddychwelwyd yn briodol a chofnodi'r nifer a gyfrifwyd.
(2) Rhaid i'r swyddog cyfrif beidio â chyfrif y pleidleisiau a roddwyd ar unrhyw bapurau pleidleisio hyd nes eu bod —
(a)yn achos papurau pleidlais bost, wedi eu cymysgu â'r papurau pleidleisio o un blwch pleidleisio, o leiaf, a
(b)yn achos papurau pleidleisio o flwch pleidleisio, wedi eu cymysgu â'r papurau pleidleisio o un blwch pleidleisio arall, o leiaf.
(3) Rhaid peidio â chymryd bod papur pleidlais bost wedi ei ddychwelyd yn briodol oni bai—
(a)ei fod yn cael ei ddychwelyd yn y modd a bennir ym mharagraff (4) ac yn cyrraedd y swyddog cyfrif neu unrhyw orsaf bleidleisio yn ardal y bleidlais dan sylw cyn bod y pleidleisio'n cau;
(b)bod y datganiad pleidlais bost, wedi ei lofnodi yn briodol, hefyd yn cael ei ddychwelyd yn y modd a bennir ym mharagraff (4) ac yn cyrraedd y swyddog cyfrif neu'r cyfryw orsaf bleidleisio cyn yr amser hwnnw;
(c)bod y datganiad pleidlais bost hefyd yn nodi dyddiad geni pleidleisiwr neu ddirprwy; ac
(ch)mewn achos pan fo'r camau ar gyfer gwirio dyddiad geni a llofnod pleidleisiwr neu ddirprwy wedi eu rhagnodi gan reoliadau a wnaed o dan Ddeddf 1983(1), bod y swyddog cyfrif (ar ôl cymryd y cyfryw gamau) yn gwirio'r dyddiad geni a'r llofnod hwnnw.
(4) Y dull a ganiateir ar gyfer dychwelyd unrhyw bapur pleidlais bost neu ddatganiad pleidlais bost —
(a)at y swyddog cyfrif, yw â llaw neu drwy'r post;
(b)i orsaf bleidleisio, yw â llaw.
(5) Rhaid i'r swyddog cyfrif beidio â chyfrif unrhyw bapur pleidleisio sydd wedi ei dendro.
(6) Rhaid i'r swyddog cyfrif, tra'n cyfrif ac yn cofnodi nifer y papurau pleidleisio ac yn cyfrif y pleidleisiau gadw'r papurau pleidleisio â'u hwynebau tuag i fyny, a chymryd pob rhagofal priodol i atal unrhyw berson rhag gweld y rhifau neu'r nodau adnabod unigryw eraill a argraffwyd ar gefn y papurau.
(7) Rhaid i'r swyddog cyfrif wirio pob cyfriflen papurau pleidleisio drwy ei chymharu â nifer y papurau pleidleisio a gofnodir gan y swyddog cyfrif, a'r papurau pleidleisio nas defnyddiwyd neu a ddifethwyd sydd ym meddiant y swyddog cyfrif a'r rhestr pleidleisiau wedi eu tendro (gan agor ac ail selio'r pecynnau sy'n cynnwys y papurau pleidleisio nas defnyddiwyd ac a ddifethwyd a'r rhestr pleidleisiau wedi eu tendro) a rhaid iddo baratoi datganiad ynglŷn â chanlyniad y gwirio, y caiff unrhyw arsylwr cyfrif ei gopïo.
(8) Rhaid i'r swyddog cyfrif, cyn belled ag y bo'n ymarferol, barhau yn ddi-dor i gyfrif y pleidleisiau, gan ganiatáu amser i ffwrdd ar gyfer lluniaeth yn unig, ac eithrio y caniateir i'r swyddog cyfrif hepgor yr oriau rhwng 7 yr hwyr a 9 y bore drannoeth.
(9) Yn ystod y cyfnod a hepgorir felly, rhaid i'r swyddog cyfrif—
(a)osod y papurau pleidleisio a'r dogfennau eraill sydd a wnelont â'r refferendwm o dan sêl y swyddog cyfrif ei hunan; a
(b)cymryd rhagofalon priodol fel arall i ddiogelu'r papurau a'r dogfennau.
37.—(1) Caiff trefnydd deiseb, os yw'n bresennol pan gwblheir y cyfrif neu unrhyw ailgyfrif o'r pleidleisiau, ei gwneud yn ofynnol i'r swyddog cyfrif ailgyfrif y pleidleisiau neu eu hailgyfrif drachefn, ond caiff y swyddog cyfrif wrthod gwneud hynny os yw'r cais, ym marn y swyddog cyfrif, yn afresymol.
(2) Rhaid peidio â chymryd unrhyw gam ar ôl cwblhau'r cyfrif neu unrhyw ailgyfrif o'r pleidleisiau cyn bo pa bynnag drefnwyr deiseb sy'n bresennol ar adeg y cwblhau wedi cael cyfle rhesymol i arfer yr hawl a roddir gan y rheol hon.
38.—(1) Mae unrhyw bapur pleidleisio—
(a)nad yw'n dwyn y nod swyddogol, neu
(b)y rhoddwyd pleidleisiau arno ar gyfer mwy nag un ateb, neu
(c)sydd ag unrhyw beth wedi ei ysgrifennu neu ei farcio arno a fyddai'n caniatáu adnabod y pleidleisiwr neu ddirprwy, ac eithrio'r rhif printiedig a'r nod adnabod unigryw arall ar y cefn, neu
(ch)sydd heb ei farcio neu'n ddi-rym oherwydd ansicrwydd,
yn ddarostyngedig i baragraff (2), yn ddi-rym, a rhaid peidio â'i gyfrif.
(2) Pan fo pleidlais wedi ei marcio ar bapur pleidleisio—
(a)mewn man gwahanol i'r man priodol, neu
(b)mewn dull gwahanol i ddefnyddio croes, neu
(c)gan ddefnyddio mwy nag un marc,
rhaid peidio â'i ystyried yn ddi-rym os oes bwriad yn ymddangos yn amlwg i bleidleisio dros un ateb neu'r llall, ac os nad yw'r modd y marciwyd y papur yn ei hunan yn datgelu pwy yw'r pleidleisiwr neu ddirprwy, ac os na ddangosir bod modd adnabod y pleidleisiwr neu ddirprwy oddi wrtho.
(3) Rhaid i'r swyddog cyfrif arnodi'r gair “gwrthodwyd ”(“rejected”) ar unrhyw bapur pleidleisio nas cyfrifir oherwydd y rheol hon, a rhaid ychwanegu'r geiriau “gwrthwynebwyd ei wrthod” (“rejection objected to”) at yr arnodiad os bydd arsylwr cyfrif yn gwneud unrhyw wrthwynebiad i benderfyniad y swyddog cyfrif.
(4) Rhaid i'r swyddog cyfrif baratoi datganiad sy'n dangos nifer y papurau pleidleisio a wrthodwyd o dan y gwahanol benawdau—
(a)diffyg nod swyddogol;
(b)pleidleisio dros fwy nag un ateb;
(c)ysgrifen neu farc a fyddai'n caniatáu adnabod y pleidleisiwr neu ddirprwy;
(ch)dim marc neu'n ddi-rym oherwydd ansicrwydd.
39. Mae penderfyniad y swyddog cyfrif ar unrhyw gwestiwn sy'n codi mewn perthynas â phapur pleidleisio yn derfynol, ond yn ddarostyngedig i'w adolygu drwy ddeiseb refferendwm.
40. Os canfyddir, ar ôl gorffen cyfrif y pleidleisiau (gan gynnwys unrhyw ailgyfrif) bod y pleidleisiau yn gyfartal rhwng yr atebion, rhaid i'r swyddog cyfrif benderfynu'r refferendwm yn ddi-oed drwy fwrw coelbren.
Gweler rheoliadau 85 ac 85A o Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 (O.S. 2001/341), a fewnosodwyd gan O.S. 2006/2910.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys