- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
GWASANAETHAU TÅN AC ACHUB, CYMRU
Gwnaed
28 Awst 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
1 Medi 2008
Yn dod i rym
22 Medi 2008
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Gwasanaethau Tân ac Achub (Fframwaith Cenedlaethol) (Cymru) 2008 a daw i rym ar 22 Medi 2008.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2. Mae'r Fframwaith Cenedlaethol Tân ac Achub a baratowyd gan Weinidogion Cymru sy'n dwyn yr enw “Fframwaith Cenedlaethol Tân ac Achub Cymru 2008 — 2011” a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ar 28 Awst 2008 ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru(3) yn cael effaith fel diwygiad, sy'n ymddangos i Weinidogion Cymru yn arwyddocaol, o “Fframwaith Cenedlaethol Tân ac Achub (Cymru) 2005”(4).
Brian Gibbons
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
28 Awst 2008
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae adran 21 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (“Deddf 2004”) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru baratoi Fframwaith Cenedlaethol Tân ac Achub (“y Fframwaith”), sy'n gorfod gosod blaenoriaethau ac amcanion ar gyfer Awdurdodau Tân ac Achub ac yn gallu darparu canllawiau. Rhaid i'r awdurdodau tân ac achub roi sylw i'r Fframwaith wrth gyflawni eu swyddogaethau.
Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn, sy'n cael effaith mewn perthynas ag Awdurdodau Tân ac Achub yng Nghymru, yn rhoi Fframwaith Cenedlaethol Tân ac Achub Cymru 2008—2011 yn lle Fframwaith Cenedlaethol Tân ac Achub (Cymru) 2005.
Bydd Fframwaith Cenedlaethol Tân ac Achub Cymru 2008—2011 yn cael effaith o 22 Medi 2008. Rhoddwyd effaith i Fframwaith Cenedlaethol Tân ac Achub (Cymru) 2005 gan OS 2005/760(Cy.64). Gellir cael copïau o Fframwaith Cenedlaethol Tân ac Achub Cymru 2008—2011 gan y Gangen Gwasanaethau Tân ac Achub, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Rhyd y car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ. Cafodd ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru (http://new.wales.gov.uk/topics/housingandcommunity/safety/fire/?lang=cy) ar 28 Awst 2008.
Mae asesiad effaith reoleiddiol wedi'i baratoi mewn cysylltiad â'r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi gan y Gangen Gwasanaethau Tân ac Achub, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Rhyd y car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ (ffôn: 01685 729253).
Cafodd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru a gynhwysir yn Neddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 eu breinio yng Ngweinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.
http://new.wales.gov.uk/topics/housingandcommunity/safety/fire /?lang=cy
Rhoddwyd effaith i Fframwaith Cenedlaethol Tân ac Achub (Cymru) 2005 gan O.S. 2005/760 (Cy.64).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys