Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2008

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2008 Rhif 2568 (Cy.226)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2008

Gwnaed

1 Hydref 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

2 Hydref 2008

Yn dod i rym

27 Hydref 2008

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 130, 131, 132 a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1) drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2008 a deuant i rym ar 27 Hydref 2008.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl (Cymru) 2007(2).

Diwygio rheoliad 2 o'r prif Reoliadau

2.—(1Diwygir rheoliad 2 o'r prif Reoliadau (dehongli) fel a ganlyn.

(2Yn y diffiniad o “teulu” (“family”), ar ôl is-baragraff (a) mewnosoder—

(aa)yn rheoliad 5(1)(ch) mewn perthynas â pherson sy'n derbyn lwfans cyflogi a chefnogi y mae iddo'r ystyr sydd iddo yn rheoliad 2 o'r Rheoliadau Lwfans Cyflogi a Chefnogi 2008(3),.

(3Yn y testun Cymraeg, yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder y diffiniad a ganlyn—

  • ystyr “lwfans cyflogi a chefnogi sy'n gysylltiedig ag incwm” (“income-related employment and support allowance”) yw lwfans seiliedig ar incwm o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2007 (lwfans cyflogi a chefnogi)(4);.

Diwygio rheoliad 5 o'r prif Reoliadau

3.—(1Diwygir rheoliad 5 (1) o'r prif Reoliadau (hawl i beidio â thalu ffi o gwbl ac i gael taliad llawn) fel a ganlyn.

(2Ar ôl is-baragraff (b), mewnosoder—

(bb)sy'n derbyn lwfans cyflogi a chefnogi sy'n gysylltiedig ag incwm;.

(3Yn nhestun Cymraeg is-baragraff (d) ar ôl “lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm” mewnosoder “lwfans cyflogi a chefnogi sy'n gysylltiedig ag incwm”.

Edwina Hart

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

1 Hydref 2008

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) 2007 (“y prif Reoliadau”).

Mae'r prif Reoliadau'n darparu fod pobl sydd naill ai'n cael budd-daliadau gwladwriaeth penodol neu sydd ar incwm isel yn cael peidio â thalu ffioedd penodol, ac yn cael ad-daliad am ffioedd penodol, sef ffioedd a fyddai'n daladwy fel arall o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, ac yn cael taliad am dreuliau teithio sy'n cael eu hysgwyddo wrth sicrhau rhai o wasanaethau'r GIG (“treuliau teithio GIG”).

Wrth gyfrifo adnoddau a gofynion person o dan y prif Reoliadau er mwyn canfod a oes gan berson hawl i beidio â thalu taliadau GIG a thalu treuliau teithio GIG, defnyddir fersiwn addasedig o Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r diffiniad o “teulu” (“family”) yn Rheoliad 2 i'r prif Reoliadau ac yn diwygio rheoliad 5 (hawl i beidio â thalu ffi o gwbl ac i gael ad-daliad llawn) i ddarparu y bydd gan berson sy'n derbyn lwfans cyflogi a chefnogi sy'n gysylltiedig ag incwm hawl i gael ad-daliad llawn o daliad GIG a thaliad llawn o dreuliau teithio GIG heb fod angen iddo hawlio taliad neu ad-daliad o'r fath.

Maent hefyd yn diwygio testun Cymraeg y prif Reoliadau i fewnosod yn nhestun Cymraeg rheoliad 2 (dehongli) y diffiniad o “lwfans cyflogi a chefnogi sy'n gysylltiedig ag incwm” ac i gyfeirio at y lwfans hwn yn nhestun Cymraeg is-baragraff (d) o reoliad 5(1) (hawl i beidio â thalu ffi o gwbl ac i gael taliad llawn).

(2)

O.S. 2007/1104 (Cy.116) (“y Rheoliadau”); yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2008/1480 (Cy.153) a 2008/1879 a fewnosododd y diffiniad o “income-related employment and support allowance” yn nhestun Saesneg rheoliad 2 ac a ychwanegodd y geiriau “income-related employment and support allowance” i destun Saesneg rheoliad 5(1)(d) o'r Rheoliadau.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill