- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
14.—(1) Rhaid i feddiannydd daliad sy'n bwriadu taenu gwrtaith nitrogen—
(a)cyfrifo faint o nitrogen yn y pridd sy'n debyg o fod ar gael i'w amsugno gan y cnwd yn ystod y tymor tyfu (“y cyflenwad nitrogen yn y pridd”);
(b)cyfrifo'r maint gorau posibl o nitrogen y dylid ei daenu ar y cnwd, gan gymryd i ystyriaeth faint o nitrogen sydd ar gael o'r cyflenwad nitrogen yn y pridd; ac
(c)llunio cynllun ar gyfer taenu gwrtaith nitrogen ar gyfer y tymor tyfu hwnnw.
(2) Yn achos unrhyw gnwd nad yw'n laswelltir parhaol, rhaid i'r meddiannydd wneud hyn cyn taenu unrhyw wrtaith nitrogen am y tro cyntaf er mwyn ffrwythlonni cnwd sydd wedi'i blannu neu y bwriedir ei blannu.
(3) Yn achos glaswelltir parhaol, rhaid i'r meddiannydd wneud hyn bob blwyddyn gan ddechrau ar 1 Ionawr cyn taenu gwrtaith nitrogen am y tro cyntaf.
(4) Rhaid i'r cynllun fod ar ffurf barhaol.
(5) Rhaid i'r cynllun gofnodi—
(a)cyfeirnod neu enw'r cae perthnasol;
(b)y rhan o'r cae a blannwyd neu y bwriedir ei phlannu; ac
(c)y math o gnwd.
(6) Yn achos y rhan a blannwyd neu y bwriedir ei phlannu, rhaid i'r cynllun gofnodi—
(a)y math o bridd;
(b)y cnwd blaenorol (os glaswellt oedd y cnwd blaenorol, a oedd yn cael ei reoli drwy ei dorri neu ei bori);
(c)y cyflenwad nitrogen yn y pridd wedi'i gyfrifo'n unol â pharagraff (1) a'r dull a ddefnyddiwyd i gadarnhau'r ffigur hwn;
(ch)y mis y rhagwelir y caiff y cnwd ei blannu;
(d)y cynnyrch a ragwelir (os yw'n gnwd âr); ac
(dd)y maint gorau posibl o nitrogen y dylid ei daenu ar y cnwd, gan gymryd i ystyriaeth faint o nitrogen sydd ar gael o'r cyflenwad nitrogen yn y pridd.
15.—(1) Cyn taenu tail organig, rhaid i'r meddiannydd gyfrifo bob tro faint o nitrogen o'r tail hwnnw sy'n debyg o fod ar gael i'r cnwd ei amsugno yn y tymor tyfu y caiff ei daenu ynddo.
(2) Rhaid i'r meddiannydd, cyn taenu'r tail organig, gofnodi—
(a)y rhan y taenir y tail organig arni;
(b)faint o dail organig sydd i'w daenu;
(c)y dyddiad arfaethedig ar gyfer taenu (y mis);
(ch)y math o dail organig;
(d)cyfanswm y nitrogen sydd yn y tail organig; ac
(dd)cyfanswm y nitrogen sy'n debyg o fod ar gael o'r tail y bwriedir ei daenu i'r cnwd ei amsugno yn y tymor tyfu y caiff ei daenu.
(3) Yn achos gwrtaith a weithgynhyrchwyd, rhaid i'r meddiannydd gofnodi—
(a)y maint y mae ei angen (hynny yw, y maint gorau posibl o nitrogen y mae ei angen ar y cnwd gan ddidynnu faint o nitrogen a fydd ar gael i'r cnwd ei amsugno o unrhyw dail organig a daenir); a
(b)y dyddiad arfaethedig ar gyfer taenu (y mis);
16. Ni waeth beth fo'r ffigur yn y cynllun, rhaid i feddiannydd sicrhau na fydd cyfanswm—
(a)y nitrogen o wrtaith a weithgynhyrchwyd, a
(b)y nitrogen sydd ar gael i'r cnwd ei amsugno o dail da byw yn y tymor tyfu y caiff ei daenu ynddo,
a daenir ar y cnydau canlynol, wedi'i gyfrifo'n unol â rheoliad 17, yn fwy na'r terfynau canlynol mewn unrhyw gyfnod o ddeuddeng mis (y ffigur yn yr ail golofn, wedi'i addasu'n unol â'r nodiadau i'r tabl a'i luosi â'r arwynebedd cyfan mewn hectarau o'r cnwd hwnnw a heuir ar y daliad, yw cyfanswm y nitrogen y caniateir ei daenu ar unrhyw gnwd penodol).
Y cnwd | Faint o nitrogen a ganiateir (kg)(a) | Cynnyrch safonol(tunnell/ha) |
---|---|---|
Nodiadau | ||
(a) Caniateir 80 kg ychwanegol yr hectar ar gyfer pob cnwd a heuir mewn caeau os yw slwtsh gwellt neu slwtsh papur wedi'i ddodi ar y cnwd presennol neu'r cnwd blaenorol. | ||
(b) Caniateir 20 kg ychwanegol yr hectar ar gaeau â phridd tenau (ac eithrio priddoedd tenau sy'n gorwedd ar dywodfaen). | ||
(c) Caniateir 20 kg ychwanegol yr hectar am bob tunnell y mae'r cynnyrch a ddisgwyliwyd yn uwch na'r cynnyrch safonol. | ||
(ch) Caniateir 40 kg ychwanegol yr hectar ar gyfer amrywogaethau gwenith melino. | ||
(d) Mae hyn yn cynnwys uchafswm o 30 kg yr hectar yn yr hydref (caniateir hyn fel esemptiad i'r cyfnod gwaharddedig ar gyfer gwrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd) ac uchafswm o 220 kg yr hectar yn y gwanwyn. Caniateir i'r maint ar gyfer y gwanwyn gael ei gynyddu hyd at 30 kg yr hectar am bob hanner tunnell y bydd y cynnyrch a ddisgwylir yn fwy na'r cynnyrch safonol. | ||
(dd) Caniateir 40 kg ychwanegol yr hectar ar gyfer glaswellt a dorrir o leiaf deirgwaith y flwyddyn. O 1 Ionawr 2012 bydd maint y nitrogen a ganiateir yn gostwng i 300 kg yr hectar. | ||
Gwenith a heuir yn yr hydref neu'n gynnar yn y gaeaf | 220(b) (c) (ch) | 8.0 |
Gwenith a heuir yn y gwanwyn | 180(c) (ch) | 7.0 |
Haidd y gaeaf | 180(b) (c) | 6.5 |
Haidd y gwanwyn | 150(c) | 5.5 |
Rêp had olew y gaeaf | 250(d) | 3.5 |
Betys siwgr | 120 | dd/g |
Tatws | 270 | dd/g |
Indrawn porthi | 150 | dd/g |
Ffa maes | 0 | dd/g |
Pys | 0 | dd/g |
Glaswellt | 330(dd) | dd/g |
17.—(1) At ddibenion rheoliad 16, rhaid i'r meddiannydd gadarnhau'n gyntaf gyfanswm y nitrogen yn y tail, naill drwy ddefnyddio'r tabl yn Atodlen 2 neu drwy samplu a dadansoddi'n unol â'r Atodlen honno.
(2) Pan fo cyfanswm y nitrogen yn y tail wedi'i gadarnhau, rhagdybir bod y canrannau a ganlyn yn cadarnhau faint o nitrogen yn y tail sydd ar gael i'r cnwd ei amsugno yn y tymor tyfu y caiff ei daenu ynddo.
Y math o dail da byw | Faint o nitrogen sydd ar gael i'r cnwd ei amsugno yn y tymor tyfu y caiff ei daenu ynddo | |
---|---|---|
Tan 1 Ionawr 2012 | O 1 Ionawr 2012 | |
Slyri gwartheg | 20% | 35% |
Slyri moch | 25% | 45% |
Tail dofednod | 20% | 30% |
Tail da byw eraill | 10% | 10% |
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys