- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
Rheoliadau 6,12, 34, 36 a 38
Pwysau | Y tail a gynhyrchir bob dydd gan bob anifail (litrau) | Y nitrogen a gynhyrchir bob dydd gan bob anifail (gramau) |
---|---|---|
O 7 kg a llai na 13 kg: | 1.3 | 4.1 |
O 13 kg a llai nag 31 kg: | 2 | 14.2 |
O 31 kg a llai na 66 kg— | ||
sydd wedi'u porthi â bwyd sych: | 3.7 | 24 |
sydd wedi'u porthi â hylifau: | 7.1 | 24 |
O 66 kg ac— | ||
a fwriadwyd i'w cigydda ac— | ||
sydd wedi'u porthi â bwyd sych: | 5.1 | 33 |
sydd wedi'u porthi â hylifau: | 10 | 33 |
hychod a fwriadwyd ar gyfer bridio ond nad ydynt wedi cael eu torraid cyntaf: | 5.6 | 38 |
hychod (gan gynnwys toreidiau hyd at 7 kg) a borthwyd ar ddeiet wedi'i atchwanegu ag asidau amino synthetig: | 10.9 | 44 |
hychod (gan gynnwys toreidiau hyd at 7 kg) a borthwyd ar ddeiet heb asidau amino synthetig: | 10.9 | 49 |
baeddod bridio o 66 kg hyd at 150 kg: | 5.1 | 33 |
baeddod bridio, o 150 kg: | 8.7 | 48 |
Categori | Y tail a gynhyrchir bob dydd gan bob anifail (litrau) | Y nitrogen a gynhyrchir bob dydd gan bob anifail (gramau) |
---|---|---|
(1) Gwartheg gwryw wedi'u sbaddu | ||
Lloi (pob categori) hyd at 3 mis: | 7 | 23 |
Buchod godro— | ||
O 3 mis a llai na 13 mis: | 20 | 95 |
O 13 mis tan eu llo cyntaf: | 40 | 167 |
Ar ôl ei llo cyntaf ac y mae— | ||
eu cynnyrch llaeth blynyddol yn fwy na 9000 o litrau: | 64 | 315 |
eu cynnyrch llaeth blynyddol rhwng 6,000 a 9000 o litrau: | 53 | 276 |
eu cynnyrch llaeth blynyddol yn llai na 6000 o litrau: | 42 | 211 |
Buchod neu fustych eidion(1) — | ||
O 3 mis a llai na 13 mis: | 20 | 91 |
O 13 mis a llai na 25 mis: | 26 | 137 |
O 25 mis— | ||
gwartheg benyw neu fustych i'w cigydda: | 32 | 137 |
gwartheg benyw ar gyfer bridio— | ||
sy'n pwyso 500 kg neu lai: | 32 | 167 |
sy'n pwyso'n fwy na 500 kg: | 45 | 227 |
Teirw | ||
nad ydynt yn bridio, ac sy'n 3 mis a throsodd: | 26 | 148 |
Bridio— | ||
o 3 mis a llai na 25 mis: | 26 | 137 |
o 25 mis: | 26 | 132 |
Categori | Y tail a gynhyrchir bob dydd gan bob anifail (litrau) | Y nitrogen a gynhyrchir bob dydd gan bob anifail (gramau) |
---|---|---|
(2) Yn achos mamog, mae'r ffigur hwn yn cynnwys un neu fwy o ŵyn y mae'n rhoi sugn iddynt hyd nes y bydd yr ŵyn yn chwe mis oed. | ||
O 6 mis hyd at 9 mis oed: | 1.8 | 5.5 |
O 9 mis oed hyd at ŵyna am y tro cyntaf, hwrdda am y tro cyntaf, neu gigydda: | 1.8 | 3.9 |
Ar ôl ŵyna neu hwrdda(2) — | ||
yn pwyso llai na 60 kg: | 3.3 | 21 |
yn pwyso dros 60 kg: | 5 | 33 |
Categori | Y tail a gynhyrchir bob dydd gan bob anifail (litrau) | Y nitrogen a gynhyrchir bob dydd gan bob anifail (gramau) |
---|---|---|
Geifr | 3.5 | 41 |
Ceirw— | ||
bridio: | 5.0 | 42 |
arall: | 3.5 | 33 |
Ceffylau | 24 | 58 |
Categori | Y tail a gynhyrchir bob dydd gan bob anifail (cilogramau) | Y nitrogen a gynhyrchir bob dydd gan bob anifail (gramau) |
---|---|---|
Sylwer: mae pob ffigur ar gyfer dofednod yn cynnwys sarn. | ||
Ieir a ddefnyddir i gynhyrchu wyau i bobl eu bwyta— | ||
llai na 17 wythnos: | 0.04 | 0.64 |
o 17 wythnos (mewn caets): | 0.12 | 1.13 |
o 17 wythnos (heb fod mewn caets): | 0.12 | 1.5 |
Ieir a fegir am eu cig: | 0.06 | 1.06 |
Ieir a fegir ar gyfer bridio— | ||
llai na 25 wythnos: | 0.04 | 0.86 |
o 25 wythnos: | 0.12 | 2.02 |
Tyrcwn— | ||
gwryw: | 0.16 | 3.74 |
benyw: | 0.12 | 2.83 |
Hwyaid: | 0.10 | 2.48 |
Estrysiaid: | 1.6 | 3.83 |
Rheoliadau 17, 38 a 39
Tail ac eithrio slyri | Cyfanswm y nitrogen ym mhob tunnell (kg) |
---|---|
Tail ac eithrio slyri o'r anifeiliaid a ganlyn— | |
gwartheg: | 6 |
moch: | 7 |
defaid: | 6 |
hwyaid: | 6.5 |
Tail o ieir dodwy: | 16 |
Tail o dyrcwn neu ieir brwylio: | 30 |
Slyri | Cyfanswm y nitrogen ym mhob metr ciwbig (kg) |
---|---|
Gwartheg godro: | 3 |
Gwartheg eidion: | 2 |
Moch: | 4.0 |
Slyri gwartheg wedi'i wahanu (ffracsiwn hylifol)— | |
blwch hidlo: | 1.5 |
wal hidlo: | 2.0 |
hidl fecanyddol: | 3.0 |
Slyri gwartheg wedi'i wahanu (ffracsiwn solet): | 4 |
Slyri moch wedi'i wahanu (ffracsiwn hylifol): | 3.6 |
Slyri moch wedi'i wahanu (ffracsiwn solet): | 5 |
1.—(1) Rhaid cymryd o leiaf bum sampl, a phob un ohonynt yn 2 litr.
(2) Rhaid i'r sampl gael ei chymryd o lestr dal slyri, ac—
(a)os yw'n rhesymol ymarferol, rhaid i'r slyri fod wedi'i gymysgu'n drylwyr cyn i'r samplau gael eu cymryd, a
(b)rhaid i bob sampl gael ei chymryd o le gwahanol.
(3) Ond os oes falf addas wedi'i gosod ar dancer sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer taenu, caniateir i'r samplau gael eu cymryd wrth daenu, a rhaid i bob sampl gael ei chymryd bob hyn a hyn yn ystod y broses daenu.
(4) Rhaid i'r samplau gael eu harllwys i gynhwysydd mwy ei faint, eu troi'n drylwyr a rhaid i sampl 2 litr gael ei chymryd o'r cynhwysydd hwnnw a'i harllwys i gynhwysydd glân llai.
(5) Rhaid i'r sampl honno gael ei hanfon wedyn i gael ei dadansoddi.
2.—(1) Rhaid cymryd y samplau o domen dail.
(2) Rhaid cymryd o leiaf deg is-sampl 1 kg yr un, a phob un ohonynt o fan gwahanol mewn tomen.
(3) Rhaid i bob is-sampl gael ei chymryd o leiaf 0.5 metr o wyneb y domen.
(4) Os yw samplau yn cael eu casglu i gyfrifo i ba raddau y cydymffurfiwyd â'r terfyn fferm gyfan ar gyfer moch a dofednod, rhaid cymryd pedair sampl i'w dadansoddi mewn blwyddyn galendr (gan gymryd un ym mhob chwarter) o domenni tail nad ydynt yn fwy na 12 mis oed.
(5) Rhaid dodi'r is-samplau ar hambwrdd neu ddalen sy'n lân a sych.
(6) Rhaid i unrhyw dalpiau gael eu torri a rhaid cymysgu'r is-samplau â'i gilydd yn drylwyr.
(7) Rhaid i sampl nodweddiadol, sy'n pwyso o leiaf 2 kg, gael ei hanfon wedyn i gael ei dadansoddi.
Rheoliadau 27 a 29
Y cnwd | Y gyfradd uchaf o nitrogen (kg/hectar) |
---|---|
(1) Rhaid peidio â thaenu nitrogen ar y cnydau hyn ar ôl 31 Hydref. | |
(2) Caniateir i 50 kg ychwanegol o nitrogen yr hectar gael ei daenu bob pedair wythnos yn ystod y cyfnod gwaharddedig hyd at ddyddiad y cynhaeaf. | |
(3) Caniateir i uchafswm o 40 kg o nitrogen yr hectar gael ei daenu ar unrhyw un adeg. | |
Rêp had olew, gaeaf(1) | 30 |
Merllys | 50 |
Bresych(2) | 100 |
Glaswellt(1) (3) | 80 |
Sgaliwns wedi'u gaeafu | 40 |
Perllys | 40 |
Winwns | 40 |
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys