Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Dyfeisiadau a Gymeradwyir) (Cymru) 2008

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

200 Rhif 620 (Cy.69)

TRAFFIG FFYRDD, CYMRU

Gorchymyn Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Dyfeisiadau a Gymeradwyir) (Cymru) 2008

Gwnaed

6 Mawrth 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

10 Mawrth 2008

Yn dod i rym

31 Mawrth 2008

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 92(1) o Ddeddf Rheoli Traffig 2004(1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy(2) yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Dyfeisiadau a Gymeradwyir) (Cymru) 2008. Daw i rym ar 31 Mawrth 2008 ac y mae yn gymwys o ran Cymru.

(2Yn y Gorchymyn hwn —

  • ystyr “y dibenion statudol” (“the statutory purposes”) yw'r dibenion sy'n ymwneud â gorfodi sifil ar dramgwyddau parcio o dan adran 72(4)(a) o Ddeddf Rheoli Traffig 2004;

  • ystyr “y gofynion a bennir” (“the specified requirements”) yw'r gofynion a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn; ac

  • ystyr “Gwladwriaeth AEE” (“EEA state”) yw gwladwriaeth o fewn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd.

Dyfeisiadau a gymeradwyir

2.—(1Mae dyfais yn ddyfais a gymeradwyir at y dibenion statudol os yw o fath sydd wedi ei ardystio gan Weinidogion Cymru fel un sy'n bodloni'r gofynion a bennir.

(2Cymerir bod dyfais yn bodloni'r gofynion a bennir pan fo tystiolaeth wedi'i darparu sy'n bodloni Gweinidogion Cymru bod awdurdod cymwys mewn Gwladwriaeth AEE wedi canfod bod y ddyfais o dan sylw yn un sy'n bodloni gofynion safon AEE sy'n gofyn am lefel o berfformiad sy'n cyfateb i'r lefel o berfformiad sy'n ofynnol gan y gofynion a bennir.

(3Ym mharagraff (2) ystyr “safon AEE” (“EEA standard”) yw

(a)safon neu gôd ymarfer corff safonau gwladol neu gorff cyfatebol perthynol i unrhyw Wladwriaeth AEE;

(b)unrhyw safon ryngwladol a gydnabyddir ar gyfer ei defnyddio fel safon neu gôd ymarfer gan unrhyw Wladwriaeth AEE; neu

(c)manyleb dechnegol a gydnabyddir ar gyfer ei defnyddio fel safon gan awdurdodau cyhoeddus perthynol i unrhyw Wladwriaeth AEE.

Ieuan Wyn Jones

Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru.

6 Mawrth 2008

YR ATODLENGOFYNION AR GYFER DYFAIS A GYMERADWYIR

1.  Rhaid i'r ddyfais gynnwys camera—

(a)sydd wedi ei osod yn gadarn ar gerbyd, adeilad, postyn neu strwythur arall;

(b)sydd wedi ei osod yn y fath sefyllfa fel y gall weld cerbydau sydd o ran y defnydd a wneir ohonynt yn cyflawni tramgwyddau parcio;

(c)sydd wedi ei gysylltu drwy ddolenni data diogelâ system recordio; ac

(ch)sy'n gallu cynhyrchu mewn un llun neu fwy, ddelwedd neu ddelweddau gweladwy o'r cerbyd sy'n dangos ei nod cofrestru a digon o'i leoliad i ddangos amgylchiadau'r tramgwydd.

2.  Rhaid i'r ddyfais gynnwys system recordio—

(a)sy'n recordio'n awtomatig gynnyrch y camera neu'r camerâu sy'n gweld y cerbyd a'r man lle mae tramgwydd yn digwydd;

(b)lle defnyddir dull recordio cadarn a dibynadwy sy'n recordio ar gyfradd isafswm o 5 ffrâm yr eiliad;

(c)lle mae pob ffrâm o bob delwedd a ddelir wedi ei hamseru (mewn oriau, munudau ac eiliadau), wedi ei dyddio ac wedi ei Rhif o'n olynol ac yn awtomatig drwy beiriant cyfrif gweledol; ac

(ch)pan nad yw'r ddyfais ar safle gosodedig, sy'n recordio'r lleoliad y mae'n cael ei weithredu ohono.

2.  Rhaid i'r ddyfais a'r peiriant cyfrif gweledol—

(a)bod wedi'u syncroneiddio â chloc safon genedlaethol annibynnol addas; a

(b)bod yn fanwl-gywir o fewn plws neu minws 10 eiliad dros gyfnod o 14 diwrnod a bod wedi ei ail-syncroneiddio â'r cloc safon genedlaethol annibynnol addas o leiaf unwaith yn ystod y cyfnod hwnnw.

3.  Pan fo'r ddyfais yn cynnwys cyfleuster i argraffu delwedd lonydd, rhaid i'r ddelwedd honno pan y'i hargreffir ddwyn ardystiad o'r amser a'r dyddiad pan ddaliwyd y ffrâm a'i Rhif unigryw.

4.  Pan fo'r ddyfais yn gallu recordio geiriau llafar neu ddata clywadwy eraill yn gyfamserol â delweddau llafar, rhaid i'r ddyfais gynnwys dull o wirio bod y trac sain, mewn unrhyw recordiad a gynhyrchir ganddo, wedi ei syncroneiddio'n gywir â'r ddelwedd weledol.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae Rhan 6 o Ddeddf Rheoli Traffig 2004 (“Deddf 2004”) yn darparu ar gyfer gorfodi tramgwyddau parcio yn sifil. Mae Rhan 6 yn cynnwys pwerau sy'n darparu un fframwaith i wneud rheoliadau er mwyn i awdurdodau lleol orfodi cyfyngiadau parcio ac aros yn sifil, a lonydd bysiau a rhai tramgwyddau y mae a wnelont â thraffig sy'n symud. Bydd y rheoliadau hyn yn disodli pwerau sydd eisoes yn bodoli yn neddfwriaeth y Deyrnas Unedig. Mae'r Ddeddf hefyd yn rhoi pwer wrth gefn i'r awdurdod cenedlaethol priodol i gyfarwyddo awdurdod lleol i wneud cais am bwerau gorfodi sifil.

O dan y pwerau a roddir gan Ran 6, mae Gweinidogion Cymru wedi gwneud Rheoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Darpariaethau Cyffredinol) (Cymru) 2008 (O.S. 2008/614 (Cy.66)). Mae Rheoliad 5(a) o'r Rheoliadau hynny yn gwahardd, yn unol ag adran 72(4)(a) o Ddeddf 2004, gosod ffi gosb am dramgwydd parcio ac eithrio ar sail cofnod a gynhyrchir gan ddyfais a gymeradwyir neu wybodaeth a roddir gan swyddog gorfodi sifil parthed ymddygiad a welwyd ganddo ef.

Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu disgrifiad o ddyfais sydd yn ddyfais a gymeradwyir at y diben hwn. Yn unol ag erthygl 2, mae dyfais yn ddyfais a gymeradwyir os yw o fath sydd wedi ei hardystio gan Weinidogion Cymru fel un sydd yn bodloni'r gofynion a bennir yn yr Atodlen.

Mae Cyfarwyddeb Safonau Technegol Cenedlaethol 98/34/EC, fel y'i diwygiwyd gan 98/48/EC, (“y Gyfarwyddeb”), yn ceisio atal rhwystrau technegol newydd i fasnachu rhag cael eu creu ac yn gosod gweithdrefn ar gyfer darparu gwybodaeth ym maes safonau technegol a rheoliadau. Rhaid hysbysu'r Adran Busnes, Menter a Diwygio Rheoleiddio o unrhyw offeryn statudol sy'n rhagnodi safonau technegol a rhaid i'r Adran honno yn ei thro hysbysu'r Comisiwn Ewropeaidd. Mae Erthygl 9, paragraff 1, o'r Gyfarwyddeb yn ei gwneud yn ofynnol i oedi tri mis rhwng hysbysu'r Comisiwn Ewropeaidd o'r offeryn statudol a dyddiad gwneud yr offeryn hwnnw neu'r dyddiad y daw i rym. Hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd o'r offeryn statudol hwn ar 12 Medi 2007. Daeth y cyfnod o dri mis i ben felly ar 13 Rhagfyr 2007.

Gellir cael Asesiad Effaith Reoleiddiol llawn a Memorandwm Esboniadol gan yr Uned Trafnidiaeth Integredig, Yr Is-adran Cynllunio a Gweinyddu Trafnidiaeth, Trafnidiaeth Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Adeiladau'r Goron, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ neu ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru yn:http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/buslegislation/bus/bus-legislation-sub/bus-legislation-sub-annulment.htm

(2)

Cafodd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan Ddeddf Rheoleiddio Traffig 2004 eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p.32).

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill