- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
Offerynnau Statudol Cymru
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
BWYD, CYMRU
Gwnaed
18 Mawrth 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
19 Mawrth 2008
Yn dod i rym
20 Mawrth 2008
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(1).
Cafodd Gweinidogion Cymru eu dynodi at ddibenion yr adran honno o ran mesurau sy'n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diod) gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol ar fwyd a mesurau sy'n ymwneud â bwyd anifeiliaid a gynhyrchir ar gyfer anifeiliaid neu y porthir anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd ag ef(2).
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion Reis o Unol Daleithiau America (Cyfyngiad ar eu Rhoi Gyntaf ar y Farchnad) (Cymru) 2008 a deuant i rym ar 20 Mawrth 2008.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
mae i “awdurdod bwyd” (“food authority”) yr ystyr sydd i “food authority” yn adran 5(1A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(3);
ystyr “awdurdod bwyd anifeiliaid” (“feed authority”) yw'r awdurdod y mae'n ofynnol iddo gan adran 67(1) o Ddeddf Amaeth 1970(4) orfodi'r Ddeddf honno o fewn ei ardal neu, yn ôl y digwydd, ei ddosbarth;
mae i “bwyd” (“food”) yr ystyr a roddir i “food” yn erthygl 2 o Reoliad 178/2002;
mae i “bwyd anifeiliaid” (“feed”) yr ystyr sydd i “feed” yn erthygl 3(4) o Reoliad 178/2002;
ystyr “cynnyrch reis” (“rice product”) yw unrhyw gynnyrch reis y cyfeirir ato yn y tabl yn erthygl 1 o Benderfyniad y Comisiwn sy'n tarddu o Unol Daleithiau America;
mae i “ei osod gyntaf ar y farchnad” (“first placing on the market”) yr ystyr sydd i “first placing on the market” ym Mhenderfyniad y Comisiwn;
ystyr “Penderfyniad y Comisiwn” (“the Commission Decision”) yw Penderfyniad y Comisiwn 2006/601/EC sy'n ymwneud â mesurau argyfwng ynghylch yr organedd a addaswyd yn enetig nas awdurdodwyd “LL RICE 601” mewn cynhyrchion reis(5) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad y Comisiwn 2008/162/EC sy'n diwygio Penderfyniad 2006/601/EC sy'n ymwneud â mesurau argyfwng ynghylch yr organedd a addaswyd yn enetig nas awdurdodwyd “LL RICE 601” mewn cynhyrchion reis(6);
ystyr “Rheoliad 178/2002” (“Regulation 178/2002”) yw Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(7) fel fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 575/2006 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor ynghylch nifer ac enwau Panelau Gwyddonol Parhaol Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop(8).
ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”), mewn perthynas ag awdurdod bwyd anifeiliaid neu awdurdod bwyd yw unrhyw berson (boed yn swyddog o'r awdurdod ai peidio) a awdurdodwyd ganddo yn ysgrifenedig, naill ai yn gyffredinol neu yn arbennig, i weithredu mewn materion sy'n codi o dan y Rheoliadau hyn;
(2) Pan fo unrhyw swyddogaethau o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 wedi eu neilltuo—
(a)drwy orchymyn o dan adran 2 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(9), i awdurdod iechyd porthladd; neu
(b)drwy orchymyn o dan adran 6 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936(10), i fwrdd ar y cyd ar gyfer dosbarth unedig,
mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at awdurdod bwyd i'w ddehongli, i'r graddau y mae'n ymwneud â'r swyddogaethau hynny, fel cyfeiriad at yr awdurdod y neilltuwyd y swyddogaethau hynny iddo.
3.—(1) Gwaherddir gosod cynhyrchion reis gyntaf ar y farchnad oni bai—
(a)y cydymffurfir â'r amodau a bennir yn erthygl 2(1) o Benderfyniad y Comisiwn yn mewn perthynas â'r cynnyrch hwnnw; a
(b)bod trefniadau wedi eu gwneud i sicrhau cydymffurfiaeth â'r amodau a bennir yn erthygl 2(2) o Benderfyniad y Comisiwn mewn perthynas â'r cynnyrch hwnnw.
(2) Bydd unrhyw berson sy'n torri'r gwaharddiad ym mharagraff (1) gan wybod hynny yn euog o dramgwydd ac yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy heb fod uwchlaw lefel 5 ar y raddfa safonol, i garchariad am dymor heb fod yn hwy na 3 mis neu i'r ddau.
4.—(1) Mae dyletswydd ar bob awdurdod bwyd anifeiliaid i weithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn o fewn ei ardal neu, yn ôl y digwydd, ei ddosbarth, mewn perthynas â bwyd anifeiliaid.
(2) Mae dyletswydd ar bob awdurdod bwyd i weithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn o fewn ei ardal mewn perthynas â bwyd.
(3) At ddibenion galluogi'r awdurdod bwyd anifeiliaid i arfer ei ddyletswydd o dan baragraff (1) a galluogi'r awdurdod bwyd i arfer ei ddyletswydd o dan baragraff (2), rhaid i swyddog awdurdodedig o'r awdurdod dan sylw sicrhau y cedwir at y gofynion y cyfeirir atynt ym mharagraff (4).
(4) Y gofynion yw'r rheini a bennir yn —
(a)Erthygl 2 o Benderfyniad y Comisiwn (sy'n ymwneud â'r amodau y caniateir gosod llwythi o gynhyrchion reis gyntaf ar y farchnad tanynt);
(b)brawddeg gyntaf Erthygl 3 (1) o'r Penderfyniad hwnnw (sy'n ymwneud â mesurau rheoli mewn perthynas â chynhyrchion reis a gyflwynir i'w mewnforio neu sydd eisoes ar y farchnad); ac
(c)Erthygl 4 o'r Penderfyniad hwnnw (sy'n ymwneud â llwythi halogedig).
(5) Rhaid i bob awdurdod bwyd anifeiliaid a phob awdurdod bwyd roi'r fath gymorth a gwybodaeth i Weinidogion Cymru ac i'r Asiantaeth Safonau Bwyd ag a ofynnir yn rhesymol ganddynt yng nghyswllt gweithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn.
5. Mae'r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf honno neu Ran ohoni i'w ddehongli fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn —
(a)adran 20 (tramgwyddau sy'n codi oherwydd bai person arall);
(b)adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy)(11), gyda'r addasiad bod is-adrannau (2) i (4) yn gymwys mewn perthynas â thramgwydd o dan rheoliad 3(2) fel y maent yn gymwys mewn perthynas â thramgwydd o dan adran 14 neu 15, ac yn is-adran (2)(a) a (3)(b) bernir bod y cyfeiriadau at “food” yn gyfeiriadau at fwyd anifeiliaid neu fwyd ac yn is-adran (4)(b) bernir bod y cyfeiriadau at “sale or intended for sale” yn gyfeiriadau at “first placing on the market”;
(c)adran 32 (pwerau mynediad), gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriad yn is-adran (1) at “an enforcement authority” yn gyfeiriad at awdurdod bwyd anifeiliaid neu at awdurdod bwyd, ac y bernir bod cyfeiriadau at “the authority’s area” yn gyfeiriadau at ei ardal neu, yn ôl y digwydd, ei ddosbarth, a bernir bod y cyfeiriad at “a food authority” yn gyfeiriad at awdurdod bwyd anifeiliaid neu at awdurdod bwyd;
(ch)adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion);
(d)adran 33(2), gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad o'r fath ag a grybwyllir yn is-adran 33(1)(b) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (ch);
(dd)adran 35(1) (cosbi tramgwyddau)(12), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (ch);
(e)adran 35(2) a (3)(13), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (d);
(f)adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol);
(ff)adran 36A (tramgwyddau gan bartneriaethau Albanaidd)(14); ac
(g)adran 44 (diogelu swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll), gyda'r addasiad y bernir bod cyfeiriadau at “food authority” yn gyfeiriadau at awdurdod bwyd anifeiliaid neu at awdurdod bwyd.
6. Dirymir Rheoliadau Cynhyrchion Reis (Cyfyngiadau ar eu Gosod Gyntaf ar y Farchnad) (Cymru) 2006(15) drwy hyn.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
18 Mawrth 2008
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi ar waith, o ran Cymru, Benderfyniad y Comisiwn 2006/601/EC ar fesurau argyfwng ynghylch yr organedd a addaswyd yn enetig nas awdurdodwyd “LL RICE 601” mewn cynhyrchion reis (OJ Rhif L244, 7.9.2006, t.27) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad y Comisiwn 2008/162/EC sy'n diwygio Penderfyniad 2006/601/EC sy'n ymwneud â mesurau argyfwng ynghylch yr organedd a addaswyd yn enetig nas awdurdodwyd “LL RICE 601” mewn cynhyrchion reis (OJ Rhif L52, 27.2.2008, t.25). Maent yn dirymu ac yn ail ddeddfu Rheoliadau Cynhyrchion Reis (Cyfyngiad ar eu Rhoi Gyntaf ar y Farchnad) (Cymru) 2006 (O.S.2006/2923 (Cy.260).
Mae'r Rheoliadau hyn—
(1) yn gwahardd rhoi gyntaf ar y farchnad unrhyw “gynnyrch reis” (sy'n cyfateb i'r diffiniad o “rice product” yn rheoliad 2(1)), ac eithrio—
(a)pan fo gydag ef—
(i)datganiad gan weithredydd y busnes bwyd sy'n gyfrifol am y llwyth nad yw'r cynnyrch yn cynnwys dim ond reis, o gynhaeaf 2007 neu gynhaeaf ar ôl hynny, a fu'n ddarostyngedig i gynllun Ffederasiwn Reis UDA sy'n amcanu symud “LL Rice 601” ymaith o sianelau allforio'r UDA, a
(ii)yr adroddiad dadansoddol, yn y gwreiddiol, a ddyroddwyd gan labordy y cyfeirir ato yn Atodiad II i Benderfyniad y Comisiwn yn cadarnhau nad yw'r cynnyrch yn cynnwys y reis a addaswyd yn enetig “LL RICE 601”; rhaid bod gyda'r adroddiad hwnnw ei hun ddogfen a ddyroddwyd gan Weinyddiaeth Archwiliad, Pacwyr a Stociardiau Grawn Adran Amaethyddiaeth yr Unol Daleithiau yn unol â'r protocol a ddisgrifir yn yr Atodiad hwnnw (rheoliad 3(1)(a)), a
(b)pan gydymffurfir â gofynion penodedig ar gyfer llwythi a holltwyd (rheoliad 3(1)(b));
(2) yn darparu bod person sy'n torri'r gwaharddiad hwnnw gan wybod hynny yn euog o dramgwydd ac yn pennu cosbau ar gyfer y tramgwydd hwnnw (rheoliad 3(2));
(3) yn darparu ar gyfer eu gorfodi (rheoliad 4); a
(4) yn cymhwyso, gydag addasiadau, darpariaethau penodol o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (1990 p.16) at ddibenion y Rheoliadau (rheoliad 5).
Ni pharatowyd asesiad effaith rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.
O.S. 2005/1971. Cafodd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru gan adrannau 58 a 59 o Atodlen 28 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraffau 28 a 30 o Atodlen 11 iddi.
1990 p.16. Mewnosodwyd adran 5(1A) gan Ddeddf Llwyodraeth Leol (Cymru) 1994 (p.19), adran 22(3) ac Atodlen 9, paragraff 16(1).
OJ Rhif L244, 7.9.2006, t.27.
OJ Rhif L52, 27.2.2008, t.25.
OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.
OJ Rhif L100, 8.4.2006, t.3.
1936 p.49; mae adran 6 i' w darllen gyda pharagraff 1 o Atodlen 3 i Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990.
Cafodd adran 21 ei diwygio gan O.S. 2004/3279.
Diwygir adran 35(1) gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (2003 p. 44), Atodlen 26, paragraff 42, o ddyddiad sydd i'w bennu.
Diwygiwyd adran 35(3) gan O.S. 2004/3279.
Mewnosodwyd adran 36A gan Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p. 28), Atodlen 5, paragraff 16.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys
The data on this page is available in the alternative data formats listed: