- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trosglwyddo Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau) (Cymru) 2009 a daw i rym ar 1 Hydref 2009.
(2) Yn y Gorchymyn hwn;
ystyr “Bwrdd newydd perthnasol” (“relevant new Board”) yw mewn perthynas â hen ymddiriedolaeth a bennir yng ngholofn 1 o'r Atodlen, y Bwrdd newydd a bennir yng ngholofn 2 o'r Atodlen honno;
ystyr “Byrddau newydd” (“new Boards”) yw'r Byrddau Iechyd Lleol a restrir yng ngholofn 2 o'r Atodlen;
ystyr “dyddiad trosglwyddo” (“transfer date”) yw 1 Hydref 2009; ac
ystyr “hen ymddiriedolaethau” (“old trusts”) yw Ymddiriedolaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a restrir yng ngholofn 1 o'r Atodlen.
2.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), trosglwyddir contract cyflogaeth unrhyw berson a oedd yn union cyn y dyddiad trosglwyddo yn cael ei gyflogi gan yr hen ymddiriedolaeth i'r Bwrdd newydd perthnasol ar y dyddiad trosglwyddo a bydd y contract hwnnw yn effeithiol fel petai wedi ei wneud yn wreiddiol rhwng y person a gyflogwyd felly a'r Bwrdd newydd perthnasol.
(2) Heb leihau effaith paragraff (1) uchod —
(a)trosglwyddir pob hawl, pŵer, dyletswydd a rhwymedigaeth o dan neu mewn cysylltiad â chontract y mae'r paragraff hwnnw yn gymwys iddo, yn rhinwedd yr erthygl hon, i'r Bwrdd newydd perthnasol ar y dyddiad trosglwyddo;
(b)bernir bod unrhyw beth a wnaed cyn y dyddiad hwnnw gan, neu mewn perthynas â'r hen ymddiriedolaeth o ran y contract hwnnw neu'r cyflogai hwnnw, wedi ei wneud gan neu mewn perthynas â'r Bwrdd newydd perthnasol.
(3) Nid yw paragraffau (1) na (2) yn lleihau effaith hawl unrhyw gyflogai i ddod â'i gontract cyflogaeth i ben os gwneir newid sylweddol er gwaeth i'w amodau gwaith, ond ni fydd y cyfryw hawl yn codi yn unig ar sail y newid o ran cyflogwr y mae'r erthygl hon yn ei beri.
3. Ar y dyddiad trosglwyddo trosglwyddir pob eiddo, ac i'r graddau na chyfeirir atynt yn erthygl 2, bob hawl a rhwymedigaeth sydd gan yr hen ymddiriedolaethau i'r Byrddau newydd perthnasol, gan gynnwys heb gyfyngiad y ddyletswydd i lunio cyfrifon gweddilliol yr hen ymddiriedolaethau ac i gyflawni pob dyletswydd statudol sy'n perthyn i'r cyfrifon hynny.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
24 Mehefin 2009
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys