- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Arbelydru Bwyd (Cymru) 2009, a deuant i rym ar 31 Gorffennaf 2009.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i'r canlynol—
(a)arbelydru drwy ddyfeisiau mesur neu arolygu ar lefel uchaf o—
(i)10MeV yn achos pelydrau-X;
(ii)14MeV yn achos niwtronau; neu
(iii)5MeV mewn achosion eraill,
pan na fo'r dogn ymbelydredd ïoneiddio sy'n cael ei amsugno yn fwy na 0.01Gy yn achos dyfeisiau arolygu sy'n defnyddio niwtronau a 0.5Gy mewn achosion eraill; neu
(b)arbelydru bwyd a baratoir o dan oruchwyliaeth feddygol i gleifion y mae arnynt angen deietau sterilaidd.
3.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “a arbelydrir”, “a arbelydrwyd”, “arbelydrwyd”, “cael ei arbelydru” ac “wedi'i arbelydru” (“irradiated”) yw cael ei drin ag ymbelydredd ïoneiddio, a rhaid dehongli ymadroddion tebyg yn unol â hynny;
mae “a gymeradwywyd”, “wedi'i gymeradwyo” ac “wedi'u cymeradwyo” (“approved”) yn cynnwys “trwyddedig” ac “wedi'i drwyddedu” (“licensed”);
ystyr “yr Asiantaeth” (“the Agency”) yw'r Asiantaeth Safonau Bwyd;
mae “cymeradwyaeth” (“approval”) yn cynnwys trwydded;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;
mae “gwerthu” (“sell”) yn cynnwys meddu, cynnig, arddangos a hysbysebu i werthu, a rhaid dehongli “gwerthu” (“sale”) yn unol â hynny;
ystyr “mewnforio” (“import”) yw cyflwyno o Aelod-wladwriaeth arall neu o wlad y tu allan i'r Gymuned Ewropeaidd;
ystyr “Rhif cyfeirnod swyddogol” (“official reference number”) mewn perthynas â chyfleuster mewn Aelod-wladwriaeth yw'r Rhif cyfeirnod a ddyrennir gan yr Aelod-wladwriaeth mewn cysylltiad â chael ei gymeradwyo fel cyfleuster arbelydru (sef y Rhif a ddangosir ar ei gyfer yn y rhestr yn Atodlen 3);
ystyr “trwydded” (“licence”), ac eithrio yn rheoliad 7(a)(ii)(bb), yw trwydded a roddir gan yr Asiantaeth yn unol ag Atodlen 2 i berson ac i gyfleuster i arbelydru bwyd a rhaid dehongli “ei drwyddedu”, “trwyddedig” ac “wedi'i drwyddedu” (“licensed”) a “trwyddedai” (“licensee”) yn unol â hynny;
ystyr “ymbelydredd ïoneiddio” (“ionising radiation”) yw unrhyw belydrau gama, pelydrau-X neu ymbelydriadau corffilaidd sy'n gallu cynhyrchu ïonau naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol.
(2) At ddibenion y Rheoliadau hyn—
(a)ystyr “bwyd a arbelydrwyd yn briodol” (“properly irradiated food”) yw bwyd—
(i)a oedd naill ai wedi'i arbelydru ar ei ben ei hun neu fel rhan o swp bwyd yr oedd pob eitem ynddo yn fwyd a oedd yn dod o fewn yr un categori bwyd a ganiatawyd; a
(ii)na chafodd ei arbelydru'n ormodol,
ac mae'n rhaid dehongli “arbelydru priodol” (“proper irradiation”) yn unol â hynny;
(b)bwyd sy'n dod o fewn categori a ganiateir o ran bwyd, pan fo dim llai na 98 y cant ohono yn ôl pwysau (gan hepgor pwysau unrhyw ddŵr a ychwanegwyd) yn dod o fewn y categori hwnnw, ac ystyr “eitem” (“item”), mewn perthynas â swp bwyd, yw pob eitem yn y swp hwnnw sydd wedi'i bwriadu i fod yn eitem y gellir ei gwerthu bob yn un;
(c)y categorïau bwyd a ganiateir yw—
(i)ffrwythau;
(ii)llysiau;
(iii)grawnfwydydd;
(iv)bylbiau a chloron;
(v)perlysiau, sbeisys a sesnadau llysieuol aromatig wedi'u sychu;
(vi)pysgod a physgod cregyn; a
(vii)dofednod;
(ch)yn y categorïau bwyd a ganiateir—
(i)mae “ffrwythau” (“fruit”) yn cynnwys ffyngau, tomatos a rhiwbob ond heb fod yn gyfyngedig iddynt;
(ii)nid yw'r term “llysiau” (“vegetables”) yn cynnwys ffrwythau, grawnfwydydd, bylbiau a chloron, na pherlysiau, sbeisys a sesnadau llysieuol aromatig wedi'u sychu ond mae'n cynnwys corbys;
(iii)ystyr “bylbiau a chloron” (“bulbs and tubers”) yw tatws, iamau, winwns, sialóts a garlleg;
(iv)mae “pysgod a physgod cregyn” (“fish and shellfish”) yn cynnwys llyswennod, cramenogion a molysgiaid ond heb fod yn gyfyngedig iddynt; a
(v)ystyr “dofednod” (“poultry”) yw ffowls domestig, gwyddau, hwyaid, ieir gini, colomennod, soflieir a thyrcwn;
(d)mae bwyd wedi'i arbelydru'n ormodol naill ai pan fo'r dogn cyfartalog cyffredinol o ymbelydredd ïoneiddio a amsugnwyd ganddo, o'i fesur yn unol ag Atodlen 1, yn fwy na, yn achos—
(i)ffrwythau, 2 kGy;
(ii)llysiau, 1 kGy;
(iii)grawnfwydydd, 1 kGy;
(iv)bylbiau a chloron, 0.2 kGy;
(v)perlysiau, sbeisys a sesnadau llysieuol aromatig wedi'u sychu, 10 kGy;
(vi)pysgod a physgod cregyn, 3 kGy; neu
(vii)dofednod, 7 kGy,
neu pan fo un o'r amgylchiadau a ddisgrifir ym mharagraff (3) yn gymwys.
(3) Yr amgylchiadau yw bod y dogn uchaf o ymbelydredd ïoneiddio a amsugnwyd gan y bwyd, neu gan unrhyw fwyd yn yr un swp, o'i fesur yn unol ag Atodlen 1—
(a)yn fwy na theirgwaith y dogn isaf a amsugnwyd ganddo; neu
(b)yn fwy nag 1.5 gwaith y dogn cyfartalog cyffredinol a bennir ar gyfer y bwyd ym mharagraff (2)(d).
4.—(1) Wrth baratoi bwyd, ni chaiff neb ei arbelydru nac arbelydru unrhyw ran ohono oni bai—
(a)bod y person hwnnw wedi'i drwyddedu;
(b)ei fod mewn cyflwr iachusol addas; ac
(c)ei fod wedi'i arbelydru'n unol â'r Rheoliadau hyn ac unrhyw amodau sydd ynghlwm wrth y drwydded.
(2) Mae Atodlen 2 yn cael effaith mewn perthynas â thrwyddedau.
5.—(1) Ni chaiff neb fewnforio unrhyw fwyd a arbelydrwyd i Gymru er mwyn ei werthu oni bai—
(a)ei fod yn dod o fewn categori bwyd a ganiateir;
(b)ei fod wedi'i arbelydru yn un o'r cyfleusterau a restrir yn y Tabl yn—
(i)Atodlen 3, a bod hwnnw ym mhob achos yn gyfleuster mewn Aelod-wladwriaeth sydd wedi'i gymeradwyo ar gyfer arbelydru bwydydd a chynhwysion bwydydd gan yr Aelod-wladwriaeth o dan sylw; neu
(ii)Atodlen 4, a bod hwnnw ym mhob achos yn gyfleuster mewn gwlad y tu allan i'r Gymuned Ewropeaidd ac yn un sydd wedi'i gymeradwyo gan y Gymuned;
(c)ei fod yn fwyd sydd wedi'i arbelydru'n briodol; ac
(ch)pan fo wedi'i arbelydru mewn Aelod-wladwriaeth arall, bod gydag ef ddogfennau sy'n cynnwys—
(i)naill ai enw a chyfeiriad y cyfleuster a wnaeth yr arbelydru, neu ei rif cyfeirnod swyddogol; a
(ii)yr wybodaeth a bennir ym mharagraff 9(1)(a) i (ch) a (2)(ch) o Ran 3 o Atodlen 2; neu
(d)pan fo wedi'i arbelydru y tu allan i'r Gymuned Ewropeaidd—
(i)bod gydag ef ddogfennau—
(aa)sy'n dangos enw a chyfeiriad y cyfleuster lle arbelydrwyd y bwyd; a
(bb)sy'n cynnwys yr wybodaeth a bennir ym mharagraff 9(1) o Ran 3 o Atodlen 2;
(ii)yn achos bwyd heblaw perlysiau, sbeisys neu sesnadau llysieuol aromatig wedi'u sychu—
(aa)ei fod wedi'i arbelydru gan berson a gymeradwywyd, o dan gyfeirnod y gellir adnabod y gymeradwyaeth drwyddo, gan awdurdod cymwys yn y wlad yr oedd wedi'i arbelydru ynddi;
(bb)bod y gymeradwyaeth yn ei gwneud yn ofynnol defnyddio'r dull mesur a bennir yn Atodlen 1 mewn perthynas â'r bwyd y mae'r gymeradwyaeth yn ymwneud ag ef; ac
(cc)bod gweithredu'r ddeddfwriaeth sydd mewn grym yn y wlad honno ynglŷn ag arbelydru bwyd yn diogelu iechyd dynol i raddau nad ydynt yn llai nag i ba raddau y mae iechyd dynol yn cael ei ddiogelu drwy weithredu'r Rheoliadau hyn, a
(iii)ei fod yn cydymffurfio â'r amodau sy'n gymwys i'r bwyd.
(2) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i fwyd sydd wedi dod (yn ogystal â bwyd nad yw wedi dod) yn gynhwysyn bwyd arall.
(3) Ym mharagraff (1)(d)(iii) mae'r ymadrodd “amodau sy'n gymwys i'r bwyd” i'w ddehongli'n unol â'r ymadrodd “the conditions which apply to the foodstuffs” yn Erthygl 9(1) o Gyfarwyddeb 1999/2/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar gyd-ddynesu cyfreithiau'r Aelod-wladwriaethau ynghylch bwydydd a chynhwysion bwydydd sydd wedi'u trin ag ymbelydredd ïoneiddio(1).
6.—(1) Ni chaiff neb storio na chludo unrhyw fwyd a arbelydrwyd er mwyn ei werthu—
(a)onid yw'r person hwnnw wedi'i drwyddedu mewn perthynas â'r bwyd; neu
(b)onid yw'r person hwnnw heb ei drwyddedu mewn perthynas â'r bwyd ac —
(i)pan fo'r bwyd wedi'i fewnforio i Gymru, bod gydag ef ddogfennau, neu gopïau o'r dogfennau, sy'n ofynnol mewn perthynas ag ef o dan reoliad 5(1)(ch) neu (d)(i); neu
(ii)pan fo'r arbelydru wedi digwydd yn y Deyrnas Unedig, bod gydag ef ddogfennau sy'n cynnwys datganiad bod y bwyd wedi'i arbelydru a dogfen neu gopi sy'n cynnwys yr wybodaeth a bennir ym mharagraff 9(1)(a) i (ch) a (2) o Ran 3 o Atodlen 2.
(2) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i fwyd sydd wedi dod (yn ogystal â bwyd nad yw wedi dod) yn gynhwysyn bwyd arall.
7. Ni chaiff neb werthu bwyd sydd wedi'i arbelydru neu fwyd y mae unrhyw ran ohono wedi'i arbelydru—
(a)oni bai bod—
(i)yr arbelydru wedi digwydd yng Nghymru ac y cydymffurfiwyd â rheoliad 4 ac Atodlen 2 ac unrhyw amodau a oedd ynghlwm wrth y drwydded; neu
(ii)yr arbelydru wedi digwydd yn Lloegr, Gogledd Iwerddon, neu'r Alban a chydymffurfiwyd
(aa)â'r darpariaethau a oedd yn cael effaith yno, ac a oedd yn cyfateb i reoliad 4 ac Atodlen 2; a
(bb)ag unrhyw amodau trwydded i arbelydru bwyd a ddyroddwyd yno; neu
(iii)y bwyd wedi'i fewnforio i Gymru ac y cydymffurfiwyd â rheoliad 5; a
(b)oni chydymffurfiwyd, pan fo wedi'i storio neu wedi'i gludo, â rheoliad 6.
8.—(1) Ni chaiff neb fewnforio i Gymru, na storio na chludo at ddibenion gwerthu na gwerthu bwyd sydd wedi'i arbelydru, na bwyd sy'n cynnwys cynhwysyn wedi'i arbelydru, nad yw'n barod i'w gyflenwi i'r defnyddiwr olaf neu i sefydliadau arlwyo oni bai bod y dogfennau sy'n mynd gyda'r bwyd—
(a)yn priodoli'r gair “irradiated” neu'r geiriau “treated with ionising radiation” i'r bwyd neu'r cynhwysyn, yn ôl y digwydd; a
(b)yn cynnwys naill ai enw a chyfeiriad y cyfleuster lle gwnaed yr arbelydru, neu ei rif cyfeirnod swyddogol.
(2) Yn y rheoliad hwn—
(a)ystyr “sefydliad arlwyo” (“catering establishment”) yw bwyty, ffreutur, caffi, clwb, tafarn, ysgol, ysbyty neu sefydliad tebyg (gan gynnwys cerbyd neu stondin sefydlog neu un symudol) lle mae bwyd wedi'i baratoi, wrth gynnal busnes, i'w gyflenwi i'r defnyddiwr olaf ac yn barod i'w fwyta heb waith paratoi pellach;
(b)ystyr “defnyddiwr olaf” (“ultimate consumer”) yw unrhyw berson sy'n prynu ac eithrio—
(i)at ddibenion ailwerthu;
(ii)at ddibenion sefydliad arlwyo; neu
(iii)at ddibenion busnes gweithgynhyrchu.
9.—(1) Rhaid i'r Asiantaeth orfodi darpariaethau'r Rheoliadau hyn i'r graddau y maent yn dod i ran trwyddedai i ufuddhau iddynt.
(2) Rhaid i'r Asiantaeth a phob awdurdod bwyd yn ei ardal orfodi bob un ddarpariaethau rheoliad 4 i'r graddau y deuant i ran unrhyw berson heblaw trwyddedai i ufuddhau iddynt.
(3) Rhaid i bob awdurdod bwyd orfodi yn ei ardal ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn ac eithrio i'r graddau y maent i'w gorfodi o dan baragraff (1) neu (2).
(4) Rhaid i bob awdurdod sy'n ymwneud â gweinyddu'r Rheoliadau hyn roi i bob awdurdod arall sy'n ymwneud felly unrhyw gymorth a gwybodaeth y mae angen rhesymol eu cael ar yr awdurdod arall hwnnw at ddibenion ei ddyletswyddau o dan y Rheoliadau hyn.
10.—(1) Bydd unrhyw berson sy'n mynd yn groes i unrhyw un o ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn, neu'n methu â chydymffurfio â hwy, neu sydd, at ddibenion y Rheoliadau hyn, yn gwneud unrhyw ddatganiad anwir neu'n defnyddio unrhyw ddogfen sy'n cynnwys datganiad anwir naill ai'n ddi-hid neu gan wybod ei fod yn anwir, yn euog o dramgwydd ac yn agored—
(a)o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol neu i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na chwe mis, neu i'r ddau; a
(b)o'i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy neu i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na dwy flynedd, neu i'r ddau.
(2) Bydd unrhyw drwyddedai sy'n mynd yn groes i unrhyw un o amodau'r drwydded, neu'n methu â chydymffurfio â hwy, yn euog o dramgwydd ac yn agored—
(a)o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol neu i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na chwe mis, neu i'r ddau; a
(b)o'i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy neu i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na dwy flynedd, neu i'r ddau.
11.—(1) Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf i'w ddehongli fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn—
(a)adran (ystyr estynedig “sale” etc.);
(b)adran 3 (rhagdybiad bod bwyd wedi'i fwriadu ibobl ei fwyta);
(c)adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);
(ch)adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy), gyda'r addasiad y bydd is-adrannau (2) i (4) yn gymwys o ran tramgwydd o fynd yn groes i reoliad 4, 5, 6, 7, neu 8 o'r Rheoliadau hyn fel y bônt yn gymwys mewn perthynas â thramgwydd o dan adran 14 neu 15;
(d)adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);
(dd)adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion);
(e)adran 35(1) (cosbi tramgwyddau) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (dd);
(f)adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol);
(ff)adran 36A (tramgwyddau gan bartneriaethau Albanaidd)(2);
(g)adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll);
(ng)adran 58(1) (sy'n ymwneud â dyfroedd tiriogaethol).
(2) Mae adran 9 (arolygu bwyd dan amheuaeth ac ymafael ynddo) o'r Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn fel pe bai bwyd yr oedd yn dramgwydd i'w werthu oddi tanynt yn fwyd a fethodd â chydymffurfio â gofynion diogelwch bwyd.
(3) Mae adran 34 (sy'n ymwneud â therfynau amser ar gyfer dechrau erlyniadau) o'r Ddeddf yn gymwys mewn perthynas â thramgwyddau o dan y Rheoliadau hyn yn yr un modd ag y mae'n gymwys i dramgwyddau y gellir eu cosbi o dan adran 35(2) o'r Ddeddf.
12.—(1) I'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru, mae Rheoliadau Bwyd (Rheoli Arbelydru) 1990(3) wedi'u dirymu.
(2) Mae rheoliadau 2 i 16 o Reoliadau Darpariaethau Arbelydru Bwyd (Cymru) 2001(4) wedi'u dirymu.
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
6 Gorffennaf 2009
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys